CROESO GAN EICH LLYWYDD
Shwmae!
Celt John ydw i, a fi ydy Llywydd UMCB 2023-24
I'r mwyafrif ohonoch rwy ' n wyneb cyfarwydd oherwydd i mi fod yn ddigon ffodus i fod yn lywydd arnoch llynedd hefyd. Serch hynny, mae ’ n dal i fod yn reit rhyfedd galw’n hun yn ‘Lywydd’ ar sefydliad sydd wedi bod mor ganolog i 'mywyd Prifysgol, ond mae hynny’n sicr yn fy ngwneud i'n gyffrous iawn i fod wrth y llyw unwaith eto eleni.
I’r rheiny ohonoch chi sydd ddim yn fy adnabod i eto, un o Ddolgellau ydw i (lle ma ' r Starbucks yna ar ochr yr A470) a raddies i o Fangor yn 2022 gyda gradd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth. Pan oeddwn i'n fyfyriwr, digwyddiadau UMCB oedd fy mywyd cymdeithasol i raddau go helaeth, o ’ r is-gymdeithasau megis Aelwyd JMJ i gefnogi'r timau chwaraeon a mynychu digwyddiadau’r Cymric. I chi fel myfyrwyr newydd yma, cofiwch fod croeso i chi wneud faint y mynnoch chi gydag UMCB ac nad oes yn rhaid i chi ymrwymo i bopethcanolbwyntiwch ar y pethau sy ’ n mynd a ’ch bryd chi! Wedi dweud hynny, byddwn yn argymell pob un ohonoch i daflu eich hunain i'r bywyd myfyrwyr byrlymus sydd gennym ni yma ym Mangor trwy UMCB a ’ r Undeb er mwyn gwneud y mwyaf o ’ch profiad yma
Rhan allweddol o ’ m swydd i eleni fydd sicrhau fod hawliau’r myfyrwyr Cymraeg yn cael eu parchu’n academaidd, a bod eich llais yn cael ei glywed gan y Brifysgol ar unrhyw fater Cofiwch felly fy mod i yma i'ch helpu a ’ch cefnogi chi a 'mod i'n barod iawn i wneud hynny ym mhob ffordd, felly peidiwch ag oedi cyn dod i chwilio amdana’i am sgwrs. Gallwch ddod o hyd i mi yn fy swyddfa yn Undeb Bangor ar llawr 4 Pontio, fy swyddfa yn Neuadd JMJ bob dydd llun neu o amgylch y Brifysgol
Croeso i Fangor felly, a mwynhewch bob eiliad!
BETH YW UMCB?
Ein Hanes
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yw UMCB ac mae ’ n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith a ’ r diwylliant Cymraeg yn ystod eu cyfnod yma ym Mangor
Ers sefydlu’r Brifysgol, roedd cymdeithas y ‘Cymric’ yn weithredol fel cymdeithas Gymraeg y Brifysgol. Sylweddolodd aelodau o ’ r gymdeithas nad oedd ‘Y Cymric’ ynddi’i hun yn fforwm ddigon cryf i gynrychioli’r myfyrwyr Cymraeg. Yn sgil hynny, sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) fel undeb newydd ac annibynnol ym 1976, ond llwyddwyd cyn hynny i sicrhau Neuadd Gymraeg i breswylwyr y brifysgol, sef Neuadd John Morris-Jones. Mae Neuadd John Morris-Jones yn parhau i fod yn breswylfan i fyfrwyr Cymraeg ac yn ganolbwynt i weithgareddau UMCB ac mae ’ r Cymric wedi parhau fel cymdeithas gymdeithasol, a ’ r pwyllgor hwnnw sy ’ n gyfrifol am galendr cymdeithasol ein cymuned.
UMCB Heddiw
Rydym bellach yn rhan o Undeb Bangor gyda statws llawn fel swyddog sabothol. Trwy hynny, mae modd i ni ledaenu ein bwriad trwy’r Brifysgol a chodi
ymwybyddiaeth am y Gymraeg a hawliau myfyrwyr tu hwnt i ffenest UMCB. Fel rhan o ’ r Undeb, mae UMCB yn cael llais llawn yn y dweud pan fo materion sy ’ n effeithio ar yr holl fyfyrwyr yn dod i’r fei.
Yn academaidd, ein rôl yw sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i fywyd academaidd y Brifysgol ac rydym yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg, Canolfan Bedwyr a ’ r Brifysgol i sicrhau hyn Yn ogystal, mae arnom ddyletswydd yn dilyn yr hawliau a amlinellwyd gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar ddechrau 2018 a byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r brifysgol i wireddu’r hawliau. Pe buasai gennych unrhyw broblem, mae croeso i chi gysylltu gyda Chanolfan Bedwyr neu swyddfa UMCB.
Yn gymdeithasol, mae UMCB yn cynnig llu o gymdeithasau gwahanol ar gyfer pawb a cheir mwy o wybodaeth amdanynt yn y llawlyfr hwn. Ein nod yw gweld
cymuned Gymraeg fyw ac iach yn y brifysgol ac rydym yn ymfalchïo yn yr un glos a chyfeillgar sy ’ n perthyn i’r sefydliad.
PWYLLGOR UMCB
Caiff Pwyllgor UMCB ei ethol gan fyfyrwyr UMCB yn y Cyfarfod cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ym mis Mai yn barod at y mis Medi canlynol.
Maent yn cyfarfod yn gyson dros y flwyddyn i drafod materion llywodraethol a chymdeithasol UMCB, ac maent wedi eu rhannu yn Bwyllgor Gwaith a Phwyllgor
Cymdeithasol
Mae’r cynrychiolwyr yno i’ch cynrychioli chi, felly cofiwch gysylltu â’r un perthnasol am unrhyw fater, yn gŵyn neu ’ n ganmoliaeth!
Mae tri safle arall i’r Pwyllgor angen cael eu hethol tuag at ddechrau fis Hydref (dyddiad i’w gadarnhau) sef:
Cynrychiolydd y Flwyddyn Gyntaf
Cynrychiolydd Cartref
Swyddog RAG (Raising and Giving)
Mae’n gyfle gwych os oes genncyh chi syniadau am ffyrdd i ddatblygu UMCB ymhellach Ewch amdani!
Celt John Llywydd UMCB Gwen Down Llywydd JMJ Siriol Hughes Owain Hughes Beca Evans Gwion Elidir Brengain Rhys Huw Williams Erin Telford Y Cymric Y Cymric Y Cymric Y Cymric Cynrychiolydd Galwedigaethol Cynrychiolydd yr Ail Flwyddyn Cynrychiolydd y Drydedd FlwyddynDymagymdeithasau UMCBygallwch
ymuno ânhw am ddim!Chwiliwcham eugwefannau cymdeithasol!
AelwydJMJ
Mae côr, partibechgyn a pharti merched AelwydJMJ yn cyfarfod yn wythnosol yn ystafell gyffredinNeuaddJMJbob nos Fawrth.Côr cymdeithasol sydd ganddynt, ond erhynnymaent wedibod ynllwyddiannus
iawn yn yblynyddoedddiwethaf gan gystadlu ynEisteddfod yrUrdd a chystadleuaethCôr
Cymru.Ond, arddiwedd ydydd,hwyl ydyo ac mae croesoi unrhyw un ymuno yn yrhwyl!
Cymdeithas John Gwilym Jones
Cymdeithas lenyddiaeth Gymraeg Prifysgol Bangor yw CJGJ sydd â’r bwriad o ddod â llenyddiaeth Gymraeg yn fyw yn Ninas Dysg! Byddwn yn cynnal gweithgareddau cyffrous o fyd barddoniaeth, rhyddiaith a’r ddrama Gymraeg, mewn gwahanol leoliadau yn y ddinas. Maent yn cynnal nosweithiau hwyl megis y Stomp. Gobeithiant hefyd gynnal perfformiad dramatig wedi'r Gwanwyn.
YLlef
Gofod i fyfyrwyr UMCB fynd ato er mwyn mynegi eu barn ac i hysbysu myfyrwyr eraill ynglŷn â materion cyfoes yw’r Llef. Gynt yn bapur newydd, eleni mae’r Llef wedi cael newid gwedd ac yn gwbl ddigidol. Ar dudalennau’r Llef trafodir materion sy’n ymwneud â’r Brifysgol, materion lleol ac unrhyw faterion yr hoffai ein haelodau eu trafod a rhannu barn arnynt. Rhennir unrhyw waith creadigol yma hefyd, boed yn ysgrifenedig neu’n weledol dyma’r lle i rannu’ch gwaith gyda’ch cyfoedion.
Prosiect Ffrind Cymraeg
P’un ai eich bod yn ddysgwr neu eich bod eisiau helpu dysgwyr eraill gyda’r iaith, dyma’r lle i chi gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a chael pob cefnogaeth a chroeso. Rydym yn rhedeg prosiect ‘Ffrind Cymraeg’ yn flynyddol lle caiff siaradwr rhugl yn y Gymraeg ei baru â dysgwr i gwrdd yn anffurfiol i ymarfer eu defnydd o’r iaith sy’n brosiect gwych i fod yn rhan ohono.
Y Cymric
Y Cymric yw’r adain sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiadau cymdeithasol UMCB gan sicrhau bod eich bywyd cymdeithasol yn llawn o ddigwyddiadau amrywiol o Glwb Cymru i Eisteddfod Dafarn. Pedwar myfyriwr o’r drydedd flwyddyn yw’r rhain felly mae ganddynt syniad go-lew o’r digwyddiadau sy’n apelio at y myfyrwyr Cymraeg, ond maent wastad yn croesawu syniadau newydd. Y pedwar wrth y llyw eleni yw Owain Hughes, Beca Evans, Siriol Hughes a Gwion Elidir.
CHWARAEON Y CYMRIC
Mae chwaraeon yn rhan bwysig
iawn o galendr cymdeithasol
UMCB a ’ r Cymric ac mae ’ r holl
dimau’n cyfarfod i ymarfer yn
wythnosol trwy gyfrwng y
Gymraeg Y timau ar gael i chi
ymuno â nhw (am ddim!) yw
rygbi bechgyn a merched, pêl-
droed bechgyn a merched, pêlrwyd merched, darts a hoci.
Carwyn Jones yw Cynrychiolydd
Chwaraeon y Dynion eleni a
Gwenno Williams yw ' r
Cynrychiolydd Chwaraeon y
Menywod.
MATERION ACADEMAIDD
Mae UMCB yn ystyried materion academaidd fel un o’i flaenoriaethau a phan ddaw mater i’r adwy, rydym gan amlaf yn ei ddatrys ar y cyd efo’r brifysgol heb unrhyw broblem Os bydd unrhyw broblem academaidd yn dod i’ch rhan, boed efo’r cwrs neu ' r ddarpariaeth Gymraeg, siaradwch gyda’ch tiwtor personol neu dewch i Swyddfa UMCB ym Mhontio am sgwrs neu medrwch chi gysylltu gyda’ch cynrychiolydd perthnasol ar bwyllgor UMCB.
Cynrychiolwyr Cwrs
Mae Undeb Bangor hefyd yn gyfrifol am strwythur y Cynrychiolwyr Cwrs ac eleni am y tro cyntaf yr ydym yn gobeithio sefydlu rhwydwaith o gynrychiolwyr cwrs sy ’ n siarad Cymraeg ym mhob maes pwnc Bydd modd ichi gysylltu gyda’ch cynrychiolwyr cwrs trwy wefan Undeb Bangor. Bydd y cynrychiolwyr cwrs yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda staff yr adran er mwyn datrys unrhyw broblemau ac yn cwrdd gyda Llywydd UMCB bob semester.
Canolfan Bedwyr
Mae modd ichi wneud cwyn ynghylch unrhyw agwedd ar yr Iaith Gymraeg yn y brifysgol, gan gynnwys darpariaeth academaidd. Os oes gennych gwestiynau, sylwadau neu gwynion am weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg a ’ r Safonau Iaith Gymraeg yn y Brifysgol, dilynwch y ddolen hon: https://www bangor ac uk/canolfanbedwyr/sylwadau php cy
Y COLEG CYMRAEG
CENEDLAETHOL
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â phob
prifysgol yng Nghymru er mwyn sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg. Mae Bangor yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg
Cymraeg Cenedlaethol gan fod 46% o holl ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Cymru’n cael ei chynnig ym Mangor.
Sut gall y Coleg dy helpu di?
Ariannu pynciau a darlithwyr er mwyn datblygu cyrsiau cyfrwng Cymraeg.
Cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd eisiau astudio drwy’r Gymraeg
Creu adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr i’w helpu gyda’u hastudiaethau.
Cynnig y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg, sy ’ n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a defnyddio’u sgiliau iaith yn hyderus mewn cyd-destun proffesiynol.
Cangen Bangor
Mae gan y CCC gangen ym mhob prifysgol. Swyddog Cangen Bangor yw Emily Boyman, ac mae ei swyddfa wedi ei lleoli yng Nghanolfan Bedwyr ar Ffordd y Coleg Mae Emily yn gweithio fel pwynt cyswllt i fyfyrwyr ac yn cefnogi gwaith y Coleg. Mae croeso i chi ymweld â hi os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw elfen o waith y Coleg Cymraeg
celt.john@undebbangor.com
Ystafell Gyffredin, Neuadd John
Morris-Jones
Undeb Bangor
undeb@undebbangor.com
Undeb Bangor, Llawr 4 Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor
Canolfan Bedwyr
canolfanbedwyr@bangor.ac.uk
Neuadd Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, Bangor