Llawlyfr Arweinydd Rhwydwaith
Tabl Cynnwys
BETH YW UNDEB BANGOR?
Eich Undeb Myfyrwyr chi yw Undeb Bangor. Enw Cymraeg sydd gan yr Undeb. Ein pwrpas yw cynrychioli, grymuso a chefnogi myfyrwyr a gwneud yn siŵr bod eich profiad fel myfyriwr cystal ag y gall fod.
Mae gennym dîm o Swyddogion Sabothol pwrpasol, a chithau’r myfyrwyr sy’n eu hethol. Maent yn gweithio ar ymgyrchoedd ac yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a bod y math o weithgareddau sydd eu hangen yn cael eu datblygu.
Rydym yn rhedeg y clybiau chwaraeon, cymdeithasau, projectau gwirfoddoli, Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), y cynrychiolwyr cwrs a’r Cyngor Myfyrwyr. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor academaidd cyfrinachol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud, ewch i'r wefan www.undebbangor.com
Rydym ar 4ydd Llawr Pontio.
RHAGARWEINIAD
Llongyfarchiadau ar fod yn Arweinydd Rhwydwaith am y flwyddyn academaidd hon. Rydym yn falch iawn i’ch cefnogi chi eleni a gweld pa bethau y byddwch chi a'r Rhwydweithiau eraill yn cymryd rhan ynddynt.
Rydym wedi paratoi'r llawlyfr hwn sy'n manylu ynghylch yr holl wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan mewn Rhwydwaith yn Undeb Bangor.
Cysylltiadau
Fran Kohn-Hollins
Arweinydd Llais Myfyrwyr
Frances.hollins@undebbangor.com
Niamh Ferron
Cydlynydd Cynrychiolaeth
niamh.ferron@undebbangor.com
BETH YW’R RHWYDWEITHIAU?
Mae'r Rhwydweithiau’n dal yn eithaf newydd i Fangor. Cawsant eu sefydlu i chi allu dod ynghyd â myfyrwyr eraill sy'n teimlo’n gryf am yr un pethau, sydd eisiau cynnal ymgyrchoedd a chymdeithasu â phobl sy’n rhannu'r un diddordebau. Maent yn grwpiau lle gall pawb o fewn Projectau Gwirfoddoli, Clybiau a Chymdeithasau, Trefn Cynrychiolwyr Cwrs a rhai nad ydynt yn ymwneud â grŵp ar hyn o bryd ddod at ei gilydd a gweithio ar brojectau.
Mae rhai rhwydweithiau’n agored i bawb tra bod eraill yn agored i'r rhai hynny sy'n uniaethu â grwpiau rhyddid penodol.
Gall y Rhwydweithiau newid o’r naill flwyddyn i’r llall yn ôl yr hyn y mae myfyrwyr yn ei gynnig.
Strwythur Rhwydwaith
Swyddogi on Sabothol
Arweinw yr
Rhwydw aith
Rhwydwe ithau Clybiau, Cymdeit hasau
Fforwm y Myfyrwyr
Y rheini yw:
• Rhwydwaith LHDTC+ (agored i'r rhai hynny sy'n uniaethu â'r grŵp rhyddid hwn)
• Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw
• Rhwydwaith Myfyrwyr o Liw (yn agored i'r rhai hynny sy'n uniaethu â'r grŵp rhyddid hwn)
• Rhwydwaith Myfyrwyr Anabl (yn agored i'r rhai hynny sy'n uniaethu â'r grŵp rhyddid hwn)
• Rhwydwaith Myfyrwyr Niwrowahanol (yn agored i'r rhai hynny sy'n uniaethu â'r grŵp rhyddid hwn)
• Rhwydwaith Cynaliadwyedd
• Rhwydwaith Llesiant ac Iechyd Meddwl
• Rhwydwaith Ôl-radd (yn agored i fyfyrwyr sydd ar gyrsiau ôl-radd)
• Rhwydwaith Myfyrwyr Rhyngwladol (yn agored i'r rhai hynny sy'n uniaethu â'r grŵp hwn)
• Rhwydwaith Materion Cyfoes
• Rhwydwaith Cymreig
Swyddogaeth Arweinydd Rhwydwaith
Caiff pob rhwydwaith ei arwain gan Arweinydd Rhwydwaith. Mae’r bobl sydd yn y swyddi cyflogedig yn cynnal y rhwydweithiau ac yn trefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Y rheini yw:
• Arweinydd y Rhwydwaith LHDTC+
• Arweinydd Myfyrwyr Trawsryweddol (yn eistedd rhwng y Rhwydwaith LTDTC+ a’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw)
• Arweinydd y Rhwydwaith Myfyrwyr o Liw
• Arweinydd Rhwydwaith Myfyrwyr Anabl
• Arweinydd y Rhwydwaith Myfyrwyr Niwrowahanol
• Arweinydd y Rhwydwaith Cynaliadwyedd
• Arweinydd y Rhwydwaith Llesiant ac Iechyd Meddwl
• Arweinydd y Rhwydwaith Ôl-radd
• Arweinydd y Rhwydwaith Myfyrwyr Rhyngwladol
• Arweinydd y Rhwydwaith Materion Cyfoes
• Arweinydd y Rhwydwaith Cymreig
Arweinydd y Rhwydwaith LHDTC+
Mae Arweinydd y Rhwydwaith LHDTC+ yn gyfrifol am gynnal y Rhwydwaith LHDTC+ gyda’r Swyddog Trawsryweddol. Gyda'i gilydd byddant yn trefnu cyfarfodydd gydag aelodau eraill o’r rhwydwaith ac yn trefnu projectau ac ymgyrchoedd gyda chefnogaeth gan Undeb Bangor.
Arweinydd
Myfyrwyr Trawsryweddol
Bydd yr Arweinydd Myfyrwyr Trawsryweddol yn eistedd rhwng y Rhwydwaith
LHDTC+ a'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw, gan gynorthwyo'r Arweinwyr Rhwydwaith eraill. Maent yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a threfnu projectau ac ymgyrchoedd gydag aelodau eraill y rhwydwaith, gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Arweinydd y Rhwydwaith Myfyrwyr o Liw
Bydd yr Arweinydd y Rhwydwaith Myfyrwyr o Llw yn cynnal y Rhwydwaith
Myfyrwyr o Liw. Maent yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda’r rhwydwaith, gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Arweinydd Rhwydwaith y Myfyrwyr Anabl
Bydd Arweinydd Rhwydwaith y Myfyrwyr Anabl yn gyfrifol am gynnal y Rhwydwaith Myfyrwyr Anabl yn ogystal â’r swydd Niwroamrywiol. Gyda'i gilydd byddant yn trefnu cyfarfodydd gydag aelodau eraill o’r rhwydwaith ac yn trefnu projectau ac ymgyrchoedd gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Arweinydd y Rhwydwaith Niwrowahanol
Bydd Arweinydd y Rhwydwaith Niwroamrywiol yn gyfrifol am y Rhwydwaith Niwrowahanol. Gyda chefnogaeth Undeb Bangor, byddant yn trefnu cyfarfodydd ac yn cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda’r rhwydwaith ehangach.
Arweinydd y Rhwydwaith Cynaliadwyedd
Mae Arweinydd y Rhwydwaith Cynaliadwyedd yn cynnal y Rhwydwaith Cynaliadwyedd, yn trefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda’r rhwydwaith ehangach gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Arweinydd y Rhwydwaith Llesiant ac Iechyd Meddwl
Bydd Arweinydd y Rhwydwaith Llesiant ac Iechyd Meddwl yn cynnal y Rhwydwaith Llesiant ac Iechyd Meddwl ac yn trefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd gydag aelodau’r rhwydwaith a gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Arweinydd y Rhwydwaith Ôl-radd
Mae Arweinydd y Rhwydwaith Ôl-radd yn cynnal y Rhwydwaith Ôl-radd, gyda chefnogaeth Undeb Bangor. Maent yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd gyda’r rhwydwaith.
Arweinydd Rhwydwaith y Myfyrwyr Rhyngwladol
Mae Arweinydd Rhwydwaith y Myfyrwyr Rhyngwladol yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd i Rwydwaith y Myfyrwyr Rhyngwladol ehangach, gyda chefnogaeth Undeb Bangor.
Arweinydd y Rhwydwaith Materion Cyfoes
Mae Arweinydd y Rhwydwaith Materion Cyfoes yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a chynnal digwyddiadau i’r Rhwydwaith Materion Cyfoes ehangach, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau cyfredol ac ymgysylltu dinesig.
Arweinydd y Rhwydwaith Cymreig
Mae Arweinydd y Rhwydwaith Cymreig yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd i Arweinydd y Rhwydwaith Cymreig ehangach, gyda chefnogaeth Undeb Bangor. Alodau UMCB fydd y rhwydwaith ehangach.
Bwrsariaeth Arweinydd Rhwydwaith
Telir rôl Arweinydd Rhwydwaith trwy fwrsariaeth a bydd pob arweinydd yn cael £150 y semester, yn ogystal ag arian, yn ôl y gofyn, i gefnogi eu hymgyrchoedd a’u projectau.
Caiff yr holl weithgareddau isod eu cefnogi gan Undeb y Myfyrwyr. Ni fydd rhaid i chi eu gwneud ar eich pen eich hun. Os hoffech drafod rhywbeth, ebostiwch: llaismyfyrwyr@undebbangor.com
• Cwblhau Hyfforddiant Arweinwyr Rhwydwaith
• Mynychu Sesiynau Arweinwyr Rhwydwaith
• Cynnal project/ymgyrch (gallai fod yn barhad o un o’r semester blaenorol, cyn belled â’ch bod yn gallu profi pa gamau a gymerwyd ar gyfer y semester cyfredol).
• Trefnu a chynnal o leiaf un cyfarfod rhwydwaith.
• Mynychu cyfarfodydd Fforwm y Myfyrwyr. Cynhelir y rheini unwaith y semester.
• Ysgrifennu adroddiad byr ynglŷn ag unrhyw adborth, materion neu enillion sy'n berthnasol i'ch rhwydwaith erbyn y dyddiad cau a bennir gan Dîm y Llais. (Cofiwch, oni fyddwch yn cyflwyno erbyn y dyddiad cau efallai na fydd taliad).
• Mynychu Cynadleddau perthnasol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (dewisol, ac nid yn hanfodol i daliad bwrsariaeth).
Gweler isod y dadansoddiad o ofynion bwrsariaeth pob semester. Rhaid cyflawni’r gofynion i gyd er mwyn derbyn taliad bwrsariaeth llawn. Bydd unrhyw dasg na chaiff ei chwblhau, neu os nad oes tystiolaeth ddigonol, yn arwain at ostyngiad o £20 mewn bwrsariaeth fesul eitem. Mae hynny yn ôl disgresiwn Tîm Llais y Myfyrwyr.
Cofiwch, cewch gysylltu â ni trwy gydol y flwyddyn am unrhyw dasgau nad ydych yn siŵr amdanynt, trwy anfon e-bost at: studentvoice@undebbangor.com
Semester 1
• Cwblhau Hyfforddiant Arweinwyr Rhwydwaith ar-lein erbyn y dyddiad cau a bennwyd gan Dîm Llais Myfyrwyr
• Mynychu Sesiynau Arweinwyr Rhwydwaith
• Cynnal project/ymgyrch (gallai fod yn barhad o un o’r semester blaenorol, cyn belled â’ch bod yn gallu profi pa gamau a gymerwyd ar gyfer y semester cyfredol).
• Trefnu a chynnal o leiaf un cyfarfod rhwydwaith.
• Mynychu Fforwm y Myfyrwyr
• Ysgrifennu adroddiad byr ynglŷn ag unrhyw adborth, materion neu enillion sy'n berthnasol i'ch rhwydwaith erbyn y dyddiad cau a bennir gan Dîm y Llais. (Cofiwch, os na fyddwch yn cyflwyno erbyn y dyddiad cau efallai na fydd taliad).
• Mynychu Cynadleddau perthnasol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (dewisol, ac nid yn hanfodol i daliad bwrsariaeth).
Semester 2
• Cynnal project/ymgyrch (gallai fod yn barhad o un o’r semester blaenorol, cyn belled â’ch bod yn gallu profi pa gamau a gymerwyd ar gyfer y semester cyfredol).
• Trefnu a chynnal o leiaf un cyfarfod rhwydwaith.
• Mynychu Fforwm y Myfyrwyr
• Ysgrifennu adroddiad byr ynglŷn ag unrhyw adborth, materion neu enillion sy'n berthnasol i'ch rhwydwaith erbyn y dyddiad cau a bennir gan Dîm y Llais. (Cofiwch, os na fyddwch yn cyflwyno erbyn y dyddiad cau efallai na fydd taliad).
• Mynychu Cynadleddau perthnasol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (dewisol, ac nid yn hanfodol i daliad bwrsariaeth).
Cewch gyflwyno eich adroddiad yma.
Dyddiad cau cyflwyno adroddiad yn Semester 1 – 27 Ionawr 2025
Dyddiad cau cyflwyno adroddiad yn Semester 2 – 16 Mehefin 2025
Cyllid i’r Rhwydwaith
Mae gennym gyllideb i'ch helpu chi gynnal projectau ac ymgyrchoedd. Os ydych am wneud yn fawr o'r cyllid sydd ar gael, cewch gyflwyno cais gyda’r ffurflenhon.
Mae gennym hefyd Becyn Cymorth Digwyddiadau yng nghefn y llawlyfr i'ch helpu chi weithio trwy eich cynlluniau.
Cofiwch ein bod ni yma i'ch cefnogi chi i gynnal eich ymgyrchoedd a'ch projectau. Cewch gefnogaeth hefyd gan eich rhwydweithiau ac ni fydd rhaid i chi wneud pob dim ar eich pen eich hun!
FFORWM Y MYFYRWYR
Mae Fforwm y Myfyrwyr yn cyfarfod unwaith y semester i drafod ac ystyried materion a syniadau’r myfyrwyr cyfredol. Dyma'r llwyfan i chi gael eich clywed a chyfrannu'n uniongyrchol at ddemocratiaeth Undeb y Myfyrwyr.
Mae Fforwm y Myfyrwyr yn cynnwys y Swyddogion Sabothol, ein Harweinwyr Rhwydwaith a rhai aelodau pleidleisio a ddewisir ar hap. Caiff unrhyw fyfyriwr fynychu Fforwm y Myfyrwyr i ymuno yn y drafodaeth.
Dylai Fforwm y Myfyrwyr fod yn fan rhagweithiol i ddadlau a thrafod y pethau y mae myfyrwyr yn frwd drostynt Cofiwch annog aelodau eich rhwydwaith a'r boblogaeth ehangach o fyfyrwyr i fynychu'r sesiynau hynny.
Cynnig Eich Ymgyrchoedd: Rhannwch y syniadau gwych sydd gennych ar gyfer newid gyda'ch cyd-fyfyrwyr. Boed hynny trwy’r cyfryngau cymdeithasol, llwyfan ar-lein y brifysgol, neu yn y cnawd, lledaenwch eich neges. Unwaith y bydd y ddeiseb yn barod, cyflwynwch hi i wefan Undeb Bangor a gadewch i'ch cyfoedion wneud y gweddill! https://www.undebbangor.com/thestudentvoice Sicrhewch fod aelodau'r rhwydwaith yn ymwybodol o'r cyswllt hwn a'r boblogaeth ehangach o fyfyrwyr hefyd. Gall unrhyw un gyflwyno deiseb ar y ddolen uchod.
HYRWYDDO EICH RHWYDWAITH
Mae'r rhwydweithiau'n gwbl newydd eleni ac mae'n bwysig eich bod chi fel Arweinwyr Rhwydwaith yn eu hyrwyddo mewn unrhyw ffordd y gallwch chi i ymgysylltu â’r myfyrwyr a chynyddu nifer yr aelodau.
Mae Undeb Bangor yn defnyddio tri phrif gyfrif ar Facebook, Twitter (X) ac Instagram. Rydym ar YouTube hefyd ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau defnyddio Threads hefyd. Os nad ydych chi eisoes yn gwneud hynny, ystyriwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mi allwch chi feithrin presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol i’r rhwydwaith ar ba bynnag lwyfannau rydych chi'n teimlo fyddai'n gweddu orau i'r cynulleidfa - cofiwch ystyried y math o gynnwys rydych chi'n ei gyflwyno ar bob platfform.
Sefydlu Presenoldeb ar y Cyfryngau
Cymdeithasol
Cofiwch ddefnyddio cyfrif e-bost grŵp neilltuol eich rhwydwaith. Bydd hynny’n fodd i drosglwyddo'r cyfrif bob blwyddyn academaidd i'r arweinydd rhwydwaith newydd.
Mae gan rai Rhwydweithiau bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol eisoes ac nid pob un. Mi awn ni dros hynny gyda chi yn yr hyfforddiant.
Cewch greu logo i’r rhwydwaith, os dymunwch.
Cadwch y bywgraffiad sydd gennych ar gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol yn gyfredol fel bod myfyrwyr eraill yn gwybod amdanoch.
Beth yw cynnwys da?
• Edrychwch ar yr hyn sy'n gyfredol ac addaswch hynny i’r rhwydwaith.
• Edrychwch ar y memes a’r caneuon sy'n gyfredol - defnyddiwch y rheini yn eich cynnwys.
• Peidiwch â diystyru Facebook chwaith er bod y safle hwnnw’n tueddu i apelio at gynulleidfa hŷn bellach, mae'n hwylus ar gyfer creu digwyddiadau ac anfon negeseuon cyflym a sgwrsio ar Messenger.
• Sylwch ar yr hyn y mae cwmnïau eraill yn ei wneud hefyd ac efelychu eu gwaith.
• Ceisiwch gadw pethau’n galonnog ac yn bositif bob amser i annog pobl newydd i ymuno â'r rhwydwaith - meddyliwch am bob post oherwydd efallai mai dyma'r tro cyntaf i rywun weld eich cyfrif a sut y byddwch chi’n ymddangos i ddieithriaid.
Cynghorion Da:
• Os ydych yn hysbysebu digwyddiad, gwnewch yn siŵr bod gennych ddolen i bobl gofrestru oherwydd aiff neb i chwilio am y ddolen. Anogwch nhw i gofrestru ar wefan Undeb Bangor hefyd i’w gwneud yn haws iddynt gofrestru ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol (byddwn yn anfon cyfarwyddiadau atoch ynglŷn â rhoi digwyddiadau ar y wefan).
• Ceisiwch roi wynebau pobl yn y lluniau, yn enwedig aelodau’r rhwydwaith. Bydd hynny’n cydio gyda phobl oherwydd os yw rhywun yn newydd, y rheini mwy na thebyg fydd y pwynt cyswllt cyntaf iddynt.
• Cofiwch dagio cyfrifon sy’n berthnasol i ehangu eich cyrhaeddiad –tagiwch yr Undeb a’r Swyddogion Sabothol fel man cychwyn.
• Lle bo modd, ceisiwch greu cynnwys ar ffurf fideo fel riliau, mae'r rheini’n cyrraedd yn bellach o lawer.
• Defnyddiwch feddalwedd fel Canva i wneud graffeg am ddim.
• Ceisiwch gadw’r postiadau'n syml heb ormod o destun - mae pobl eisiau i chi gadw at y pwynt a ddim yn rhy eiriog.
• Sicrhewch eu bod yn hygyrch ac nad yw'r lliwiau'n gwrthdaro.
• Ceisiwch ddefnyddio delweddau o gydraniad uchel.
• Cofiwch ofyn caniatâd pawb sydd yn y lluniau o ran a ydynt yn fodlon iddo gael ei bostio ar-lein.
Postio am beth
• Beth mae'r rhwydwaith wedi bod yn ei wneud?
• Llwyddiannau a straeon newyddion da
• Peidiwch â rhannu dim byd sy’n rhy bersonol.
• Unrhyw ddigwyddiadau neu ymgyrchoedd yr ydych yn eu cynnal.
• Hysbysiadau am gyfarfodydd
• Unrhyw ddigwyddiadau cymdeithasol/ymgyrchoedd/projectau rydych yn bwriadu eu cynnal.
Digwyddiadau
• Chi sy'n gyfrifol am ychwanegu eich digwyddiadau at Native for your Network a daw hynny drwodd i brif dudalen yr Undeb ar y wefan.
• Mae gennym fideos i'ch helpu chi efo hyn.
• Mae hwn yn arf gwych sy’n golygu y caiff eich digwyddiad ei hysbysebu, a byddwch yn gallu monitro pwy sy'n dod. Byddwch hefyd yn gallu rhannu dolen y digwyddiad ar eich cyfryngau cymdeithasol.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
DYDDIADAU ALLWEDDOL WRTH
YMGYRCHU
Dyma rai dyddiadau allweddol y gallech chi gynllunio digwyddiadau ac ymgyrchoedd o’u cwmpas. Peidiwch â gadael i’r rhain eich cyfyngu, os oes gennych chi syniadau eraill, ewch amdani.
Ionawr
1af – Dydd Calan
4ydd – Diwrnod Braille y Byd
15fed – Dydd Llun y Felan
21ain – Diwrnod Crefydd y Byd
Chwefror
Mis Hanes LHDTC+
Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Mawrth
1af – Dydd Gŵyl Ddewi
8 Mawrth – Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Ebrill
2il – Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd
23ain – Diwrnod y Llyfr
Mai
Mai Di Dor
Mehefin
Mis Balchder
1af Mehefin – Diwrnod Byd-eang Rhieni y Cenhedloedd Unedig
5ed – Diwrnod Amgylchedd y Byd
16eg – Diwrnod Ail-lenwi'r Byd
Gorffennaf
Mis Ymwybyddiaeth Anabledd
Gorffennaf Di-blastig
Awst
1af -7fed – Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd
7fed-13eg – Wythnos Genedlaethol y Rhandiroedd
Medi
10fed – Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd
Hydref
Mis Hanes Pobl Dduon
10fed – Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff
18fed – Diwrnod Menopos y Byd.
Tachwedd
Mis Fegan y Byd
Tashwedd
1af – Diwrnod Ymwybyddiaeth Straen
12fed – Diwali
13eg-19eg – Wythnos Hunanofal
28ain – Dydd Mawrth Rhoi
Rhagfyr
2il – Dydd Sadwrn y Busnesau Bach
7fed-15fed – Hanukkah
24ain – Noswyl Nadolig
25ain – Dydd Nadolig
26ain – Gŵyl San Steffan
31ain – Nos Galan
GWOBRAU LLAIS MYFYRWYR
(GWOBRAU DYSGU O DAN ARWEINIAD MYFYRWYR)
Byddwn yn cynnal noson wobrwyo bob blwyddyn i ddathlu gwaith y cynrychiolwyr cwrs a’r staff, ac eleni caiff y rhwydweithiau eu gwahodd hefyd. Bydd amrywiaeth o wobrau i’r rhwydweithiau, gan gynnwys
Arweinydd Rhwydwaith y Flwyddyn a bydd pawb yn cael eu cydnabod yn ffurfiol am eu gwaith gyda thystysgrif.
ADNODDAU
Cewch ddefnyddio'r adnoddau hyn i'ch helpu chi gynllunio'ch ymgyrchoedd a'ch projectau.
Cynllun Cychwynnol Ymgyrchu
Beth yw'r broblem?
Beth ydych chi isio ei gyflawni? | What do you want to achieve?
Beth yw eich syniadau cychwynnol? | What are your initial ideas?
A oes gennych chi syniad faint o gyllideb fydd ei hangen? | Do you have an idea about how much budget you’ll need?
Gyda phwy ydych chi eisiau ymgysylltu?
Canllaw Cynllunio Digwyddiadau
Cafodd y canllawiau digwyddiadau eu cynllunio i helpu’r Cynrychiolwyr Cwrs drefnu digwyddiadau. Mae trefnu digwyddiad neu weithgaredd yn ffordd wych o dynnu sylw’r myfyrwyr, hyrwyddo gwaith y cynrychiolwyr cwrs a chasglu adborth am faterion. Dyma rai pethau y gallech eu hystyried, gan ddibynnu pa fath o weithgaredd rydych yn ei gynllunio:
NOD Y DIGWYDDIAD
Cyn i chi benderfynu ar yr hyn rydych yn mynd i'w wneud, ystyriwch ei bwrpas.
• Digwyddiad Cymdeithasol
• Cyfle i fyfyrwyr gwrdd â’i gilydd.
• Datblygu sgiliau/ gwybodaeth
• Casglu adborth
I BWY MAE’R DIGWYDDIAD?
A fydd y digwyddiad yn agored i bob myfyriwr ar eich cwrs neu a ydych yn cynrychioli grŵp penodol yr ydych am ei dargedu?
Meddyliwch am yr hyn mae’r myfyrwyr hynny eisiau ei gael o ddigwyddiad, ac unrhyw bethau eraill sydd angen i chi eu hystyried i’r grŵp hwnnw fel ymrwymiadau amser a hygyrchedd.
PWY FYDD YN RHEDEG Y DIGWYDDIAD?
A oes angen i chi recriwtio cynrychiolwyr cwrs eraill, myfyrwyr neu aelodau o’r staff i helpu, neu wahodd siaradwr allanol? A allech chi gydweithio â chymdeithas neu broject gwirfoddoli sy'n berthnasol i'ch cwrs?
Cofiwch gynllunio ymhell ymlaen llaw os ydych yn gofyn i siaradwyr allanol gymryd rhan a llenwch y Ffurflen Gais i Siaradwyr Allanol.
BETH FYDD Y GWEITHGAREDD/ DIGWYDDIAD?
A yw eich gweithgaredd yn gweddu i ofynion eich cynulleidfa a nod y digwyddiad?
Meddyliwch am ba offer/ adnoddau fydd eu hangen arnoch.
BLE A PHRYD CAIFF Y DIGWYDDIAD EI GYNNAL?
Dewiswch ddyddiad gyda digon o amser i hysbysebu - rydym yn argymell o leiaf mis.
A fydd y digwyddiad yn y cnawd neu ar-lein? Dan do neu yn yr awyr agored?
Cofiwch ystyried y rheoliadau Covid-19 cyfredol wrth gynllunio’r digwyddiad.
Os oes angen i chi archebu ystafell ar y campws ar gyfer y digwyddiad, naill ai siaradwch ag aelod o’r staff yn eich ysgol neu e-bostiwch Niamh and Tash.
A FYDD BWYD YN Y DIGWYDDIAD?
Os ydych yn coginio neu'n gwerthu bwyd, efallai y bydd angen tystysgrif hylendid bwyd arnoch. Ebostiwch Niamh a Tash os oes angen cyngor arnoch ar hynny.
Os mai dim ond bwydydd risg isel wedi'u rhag-becynnu y byddwch yn eu prynu, ni fydd angen tystysgrif hylendid bwyd. Fodd bynnag, cofiwch gynnwys hynny yn eich asesiad risg.
SUT BYDDWCH CHI'N HYSBYSEBU'R DIGWYDDIAD?
• Y Cyfryngau Cymdeithasol
• E-bost at eich cwrs - gofynnwch i staff eich cwrs helpu gyda hyn
• Gwneud cyhoeddiadau mewn darlithoedd
• Posteri ar hysbysfwrdd cyhoeddus
•
PARATOI AT Y DIGWYDDIAD
Ysgrifennwch restr o dasgau a'u rhannu fel bod y llwyth gwaith yn cael ei ledaenu. Gallwch ddefnyddio'r tabl sydd ar waelod y ddogfen hon. Pethau sydd angen i chi eu gwneud:
• Cwblhewch asesiad risg gyda'r ffurflen Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs ac anfonwch gopi at: coursereps@undebbangor.com
Pethau y gallai fod angen i chi eu gwneud:
• Gwneud cais am gyllid o Grant y Cynrychiolwyr Cwrs
• Penderfynu ar leoliad ar gyfer eich digwyddiad
• Archebu ystafell
• Os ydych yn cynnal digwyddiad yn yr awyr agored, a oes angen trefniant wrth gefn rhag ofn y bydd y tywydd yn ddrwg?
• Anfon gwahoddiadau i’r cyfarfod os ydych yn cynnal digwyddiad ar-lein
• Prynu bwyd/offer - cofiwch gadw'r derbynebau
• Sefydlwch y gweithgaredd cyn i'r myfyrwyr gyrraedd
• Argraffu posteri
• Archebu ystafell
Asesiad Risg Cyffredinol y Rhwydwaith
• Rhaid i bob Rhwydwaith sy'n cynnal digwyddiadau neu weithgareddau sicrhau bod asesiad risg ganddynt cyn i'r gweithgaredd ddechrau.
• Mae'r Asesiad Risg Generig yn cwmpasu’r rhan fwyaf o weithgareddau dan do ar y campws gan gynnwys rhai sy'n gweini bwydydd risg isel. Mae bwydydd risg isel yn fwydydd y gellir eu bwyta ar dymheredd ystafell (nid oes angen eu rhewi na’u hailgynhesu) ac a brynwyd gan fusnes bwyd (e.e. archfarchnad, caffi) gydag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
• Os yw’r gweithgaredd yn yr awyr agored, oddi ar y safle, yn ymwneud â choginio neu werthu bwyd, neu nad yw'n dod o dan amodau’r Asesiad Risg Cyffredinol am ryw reswm arall, cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor. Byddwn yn eich helpu chi baratoi Asesiad Risg Penodol ar gyfer eich gweithgaredd.
• Cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau codi arian (e.e. gwerthu cacennau).
• Dim ond ar sail yr wybodaeth a gyflwynir y gall y Tîm gynnig cyngor. Os na ddatgelir y manylion, efallai na chaiff y cyngor priodol ei gynnig, a allasai effeithio ar iechyd, diogelwch a lles y cyfranogwyr a phobl eraill y mae gweithgareddau’r cynrychiolwyr cwrs yn effeithio arnynt.
• Rhaid i Gynrychiolwyr Cwrs hysbysu’r Tîm Llais Myfyrwyr ar unwaith os bydd eu gweithgarwch neu eu proffil risg yn newid.
Teitl yr Asesiad Risg Enw’r Digwyddiad Dyddiad Creu a/neu Adolygu’r Asesiad Risg Rhif y Fersiwn
Trefnydd y Digwyddiad Enw
Swydd Rôl Arweinydd Rhwydwaith
Crynodeb o'r Gweithgarwch mae'r Asesiad Risg yn ei gwmpasu
Disgrifiwch yr holl weithgareddau a gaiff eu cynnal yn eich digwyddiad
Ymgyrchoedd sydd eisoes yn cael eu cynnal
yn Undeb Bangor
Costau Byw
Dyma restr o bethau sydd eisoes yn digwydd yn Undeb Bangor yn yr Ymgyrch Costau Byw
• Ffeirio Dillad
• Ystafell Costau Byw yn yr Undeb gyda Llyfrgell Dillad Cyfweliad, Llyfrgell Gwisg Ffansi a Chyfnewid Llyfrau
• Caffi Trwsio
• Cynnyrch Mislif Am Ddim
• Dulliau Atal Cenhedlu Am Ddim
• Project Prydau Poeth
Cysylltiadau
• Fran Kohn-Hollins - frances.hollins@undebbangor.com
• Niamh Ferron – niamh.ferron@undebbangor.com
Iechyd Meddwl a Llesiant
Dyma restr o bethau sydd eisoes yn digwydd yn Undeb Bangor ynghylch
Iechyd Meddwl a Llesiant
• Ymdawelu gyda Chŵn ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Dydd Llun y Felan
• Hyfforddiant Gwytnwch Emosiynol gyda'r elusen Two Road
• Cymorth at Astudio gyda the a choffi am ddim yn ystod cyfnodau’r arholiadau
Cysylltiadau
• Fran Kohn-Hollins - frances.hollins@undebbangor.com
• Niamh Ferron – niamh.ferron@undebbangor.com
• Tara Hine - tara.hine@undebbangor.com
Cynaliadwyedd
Dyma restr o bethau sydd eisoes yn digwydd yn Undeb Bangor o ran Cynaliadwyedd
• Siop Drwsio
• Glanhau’r Traethau
• Gwobr yr Effaith Werdd
Cysylltiadau
• Fran Kohn-Hollins - frances.hollins@undebbangor.com
• Niamh Ferron – niamh.ferron@undebbangor.com
• Josie Ball - josie.ball@undebbangor.com
LHDTC+
Mae Undeb Bangor wedi trefnu teithiau i Fae Colwyn a Balchder Gogledd Cymru yn y gorffennol.
Mis Hanes LHDTC+
Cysylltiadau
Fran Kohn-Hollins - frances.hollins@undebbangor.com
Niamh Ferron – niamh.ferron@undebbangor.com
Iechyd Rhywiol
Mae Undeb Bangor wedi cynnal stondinau Iechyd Rhywiol yn yr Undeb yn rheolaidd i godi ymwybyddiaeth, rhoi rhoddion a dosbarthu pecynnau atal cenhedlu a phrofi STI am ddim.
Cysylltiadau
Fran Kohn-Hollins - frances.hollins@undebbangor.com
Tara Hine - tara.hine@undebbangor.com
Niamh Ferron – niamh.ferron@undebbangor.com