HEFCW: Mynd i'r afael â thlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb sy'n cael mislif ym Mhrifysgol Bangor
Adroddiad am Gynllun Peilot Tlodi ac Urddas Mislif 2021 Cynlluniau gwella polisïau diogelu ac ymarfer a hyrwyddo urddas mislif HEFCW
Crynodeb Gweithredol Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwerthuso llwyddiant y cynllun peilot wrth fynd i'r afael â thlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb sy'n cael mislif ym Mhrifysgol Bangor, wedi'i lywio gan brofiad myfyrwyr ac adborth gan y Gwasanaethau Campws, er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer cynllun tlodi ac urddas mislif tymor hir. Lansiwyd y Cynllun Peilot Tlodi ac Urddas Mislif ym mis Ionawr 2020 gan Undeb y Myfyrwyr, Undeb Bangor, wedi ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a phenodwyd Swyddog Project Interniaeth i Raddedigion i helpu i reoli'r cynllun peilot. Ei brif nod oedd mynd i'r afael â thlodi mislif trwy sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cael cynhyrchion mislif am ddim fel rhywbeth sy’n angenrheidiol. Roedd hyn yn cynnwys cynnig amrywiaeth o gynhyrchion di-blastig, defnydd untro a rhai y gellir eu hailddefnyddio. Yr ail nod, fel rhan o daith i sicrhau urddas mislif i bawb sy'n cael mislif, lansiwyd ymgyrch i addysgu, grymuso ac ysbrydoli myfyrwyr mewn perthynas â mislif. Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael cynhyrchion mewn modd diogel a disylw yn ystod y pandemig Coronavirus, cynigiwyd cynhyrchion mislif trwy eu danfon i’r cartref fel datrysiad tymor byr. Roedd myfyrwyr yn gallu archebu amrywiaeth o gynhyrchion di-blastig, defnydd untro a rhai y gellir eu hailddefnyddio trwy lenwi ffurflen ar-lein i’r cyflenwr Hey Girls gyda chynhyrchion mislif yn cael eu danfon yn syth i’w cartrefi. Ochr yn ochr â llacio’r cyfyngiadau ym mis Mai, lansiwyd cynllun i ddarparu cynhyrchion mislif ar y campws, gan sicrhau bod padiau a thamponau di-blastig ar gael mewn toiledau niwtral o ran rhywedd, toiledau dynion, merched a thoiledau hygyrch ar draws y campws. Roedd hyn er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n dechrau mislif heb gynhyrchion ar y campws a'r rhai sy'n cael trafferth ariannol ac sydd angen cael cynhyrchion yn fwy cyson. Gwnaeth gyfanswm o 463 o fyfyrwyr gael cynhyrchion trwy'r Cynllun Danfon i’r Cartref, gyda 73% yn archebu cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio. Lansiwyd darpariaeth ar y campws bythefnos cyn yr Arolwg Myfyrwyr terfynol, gyda chyfanswm o 90 o fyfyrwyr a lenwodd yr arolwg yn cael cynhyrchion. Yn ôl canlyniadau'r arolwg, mae 387 o fyfyrwyr sy'n cael mislif a 75 sydd ddim yn cael mislif wedi gweld yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Llenwodd 941 o fyfyrwyr yr Arolwg Myfyrwyr Terfynol i gasglu adborth ar y cynllun, gyda 774 ohonynt yn cael mislif a 167 ddim yn cael mislif. Cynhaliwyd grŵp ffocws gyda'r Grŵp Llywio Myfyrwyr i gasglu adborth mwy manwl o safbwynt myfyrwyr ac un arall gyda'r Gwasanaethau Campws i gasglu adborth o safbwynt mwy gweithredol. I grynhoi, ymddengys o'r holl ddangosyddion bod y Cynllun Peilot Tlodi ac Urddas Mislif yn llwyddiannus a chafodd ei dderbyn yn gadarnhaol gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd y Swyddog Project i gasglu digon o dystiolaeth am ei lwyddiant i gefnogi'r angen am gynllun tymor hir, yn ogystal ag adborth gan fyfyrwyr a’r Gwasanaethau Campws i lywio argymhellion ar gyfer ei weithredu.
I
Paratowyd gan Josie Ball, Swyddog Project Interniaeth i Raddedigion, Gorffennaf 2021.
Cynnwys Crynodeb Gweithredol Tabl Cynnwys
I IV
1. Rhagarweiniad
5 5 6 8 10
1.1 - Cyd-destun yr Adroddiad hwn 1.2 - Gwerthoedd y Cynllun 1.3 - Darparu Cynhyrchion 1.4 - Yr Ymgyrch
2. Gwerthuso Llwyddiant
IV
2.1 - Profiad Myfyrwyr 2.2 - Adborth y Gwasanaethau Campws
14 14 18
3. Casgliadau
19
4. Argymhellion
21
5. Cyfeiriadau
23
6. Atodiad
23
1. Rhagarweiniad 1.1 Cyd-destun yr Adroddiad hwn Dangosodd yr ymchwil cychwynnol i dlodi mislif yn y DU, yn gyffredinol ac o fewn cyd-destun myfyrwyr, bod angen ymchwilio i dlodi mislif ym Mhrifysgol Bangor. Gellir diffinio tlodi mislif fel dim mynediad at gynhyrchion mislif oherwydd cyfyngiadau ariannol a gall hyn gael ei achosi gan amrywiaeth eang o ddigwyddiadau bywyd sy'n cael effaith negyddol ar allu unigolyn i gael gafael ar gynhyrchion mislif i reoli digwyddiad o natur bersonol a rheolaidd yn eu bywydau. Yn ystod y cyfnod clo, cafodd 3 o bob 10 o bobl sy'n cael mislif broblemau gyda naill ai cael gafael ar gynhyrchion mislif neu eu fforddio, gyda 54% yn defnyddio papur toiled fel dewis arall yn lle cynhyrchion mislif. O'r rhai nad oeddent yn gallu cael gafael ar gynhyrchion, roedd 30% yn teimlo gormod o embaras i chwilio am rywle i gael cynhyrchion am ddim (Plan International, 2020). Sylwodd Bloody Good Period (2021), sef elusen sy'n gweithio i ddarparu cynhyrchion mislif ac addysg i'r rhai sydd ei angen, gynnydd yn nifer y ceisiadau am gynhyrchion mislif gan fyfyrwyr prifysgol yn ystod Pandemig Coronavirus (EAUC, 2020). Mae hunan-ynysu, ynghyd â'r effaith ariannol barhaus y mae'r pandemig wedi'i chael ar fyfyrwyr, wedi gadael llawer yn ei chael hi'n anodd fforddio cynhyrchion (ibid.). Nid yw’r benthyciadau cynhaliaeth bellach yn ddigon i dalu am y rhent cyfartalog a delir gan fyfyrwyr, gan adael llawer yn ei chael hi’n anodd i brynu eitemau bwyd sylfaenol (Murray, 2020) ac o ganlyniad, yn gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn mewn cyddestunau bywyd go iawn ynglŷn â phrynu bwyd neu gynhyrchion mislif. Mae diffyg mynediad at gynhyrchion o'r fath yn cael effaith negyddol ar fyfyrwyr mewn amryw o ffyrdd trwy effeithio ar eu hunan-barch, iechyd corfforol a meddyliol, lles economaidd a'u gallu i ymgysylltu'n llwyddiannus ac yn gyson â’u hastudiaethau (EAUC, 2020). Gall tlodi mislif hefyd effeithio ar allu myfyrwyr i gymryd rhan yn gymdeithasol ac mewn chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol. Ar ben hynny, mae 'tabŵ' diwylliannol o gwmpas mislif a stigma ynghlwm â siarad yn agored am fislif sydd, yn ei dro, yn atal pobl rhag cael y gefnogaeth maent eu hangen i reoli problemau mislif (NUS Wales, 2019). Cadarnhaodd ganfyddiadau Arolwg Myfyrwyr Cychwynnol bod angen cynllun peilot i fynd i'r afael â thlodi mislif ym Mhrifysgol Bangor. Roedd yr arolwg yn agored rhwng 15 Rhagfyr a 13 Ionawr, a chafodd ei lenwi gan 956 o fyfyrwyr. Casglodd yr arolwg, yn rhannol, adborth ar dlodi ac urddas mislif ym Mhrifysgol Bangor a sut mae hyn a mislif yn gyffredinol, yn effeithio ar addysg a phrofiad myfyrwyr: ·Roedd 36% wedi cael anhawster i gael gafael ar gynhyrchion ar o leiaf un achlysur yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. O'r rhain, ni allai 20% fforddio cynhyrchion ac nid oedd gan 75% gynhyrchion wrth law ar y campws. Teimlai 78% y byddent yn elwa o allu cael cynhyrchion am ddim Roedd diffyg mynediad at gynhyrchion wedi atal 140 o fyfyrwyr rhag mynd i ddarlithoedd neu seminarau a 224 o fyfyrwyr rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, gwirfoddoli neu gymdeithas. Roedd 27% yn teimlo'n anghyffyrddus yn siarad am fislif a chynhyrchion mislif, yn enwedig gyda myfyrwyr gwrywaidd cisryweddol Roedd 38% yn teimlo embaras wrth ofyn am gynhyrchion mislif ac roedd 4% yn teimlo cywilydd
5
Dangosodd ymchwil eilaidd i gynlluniau tlodi ac urddas mislif presennol yn y DU enghreifftiau o ymarfer gorau, a oedd yn aml yn mynd i’r afael â 'thriawd tocsig' tlodi mislif; cost cynhyrchion mislif, y diffyg addysg am fislif ac iechyd mislif a'r cywilydd a'r stigma sy'n gysylltiedig â mislif a sgyrsiau am fislif (Plan International, 2018). Yn yr un modd, mae Binti International (2021), elusen sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi mislif, yn pwysleisio'r angen i sicrhau urddas mislif i bawb, a ddiffinnir fel sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad at addysg am fislif, y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt i reoli eu mislif a'u rhyddid rhag y stigma a’r tabŵs sy'n gysylltiedig â mislif. Felly, daeth y cyllid oedd ar gael gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) ar adeg hollbwysig. Mae wedi hwyluso gweithredu cynllun peilot llwyddiannus oedd ei angen i fynd i’r afael â thlodi mislif a chyflawni urddas mislif trwy sicrhau bod pob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim a lansio ymgyrch i addysgu, grymuso ac ysbrydoli myfyrwyr mewn perthynas â mislif, gan leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â mislif a normaleiddio sgwrs amdano. Mae angen diolch i bawb yn Undeb Bangor sydd wedi cefnogi'r cynllun peilot a'r ymgyrch yn enwedig yr Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, Katie Tew, sydd wedi sicrhau bod y cynllun wedi cael ei arwain gan fyfyrwyr. Mae angen diolch hefyd i'r Grŵp Llywio Myfyrwyr am eu hymroddiad, mewnbwn a chefnogaeth, ac i’r Gwasanaethau Campws am eu cymorth wrth drefnu a gweithredu’r cynllun dosbarthu ar y campws, gan gynnwys y Tîm Cynnal a Chadw, y Tîm Glanhau a'r Tîm Rheoli Gwastraff a Chynaliadwyedd.
1.2 Gwerthoedd y Cynllun Cynaliadwyedd Ariannol Roedd sicrhau cynaliadwyedd economaidd y cynllun yn rhan annatod o'r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â chyflenwyr a chynhyrchion. Er mwyn i'r cynllun ddarparu cynhyrchion i gymaint o fyfyrwyr ag y bo modd, ystyriwyd a chymharwyd prisiau cynhyrchion rhwng gwahanol gyflenwyr. Er bod cymharu prisiau tamponau gyda dodwyr wedi dangos bod prisiau’n debyg rhwng cyflenwyr, pan gymharwyd prisiau padiau gwelwyd gwahaniaeth sylweddol. Roedd padiau nos gan Hey Girls dros 50% yn rhatach na phadiau gan unrhyw gyflenwr arall.
Cynaliadwyedd Amgylcheddol Gweithiodd y Swyddog Project yn agos gyda Rheolwr Gwastraff a Chydlynydd yr Economi Gylchol yn y brifysgol i werthuso cyflenwyr a chynhyrchion cyfnod o safbwynt amgylcheddol. Roedd hyn yn cynnwys edrych yn agos ar y deunyddiau a ddefnyddir mewn cynhyrchion mislif a phecynnu. Roedd argymhellion amgylcheddol, ynghyd ag ystyriaethau ariannol, wedi llywio’r penderfyniad i weithio gyda dau gyflenwr: Hey Girls: mae amrywiaeth o gynhyrchion 100% heb blastig, defnydd untro, a rhai y gellir eu hailddefnyddio, ar gael trwy eu danfon i’r cartref. Padiau trwm 100% heb blastig i’w darparu ar y campws. TOTM: tamponau gyda dodwyr cardbord 100% heb blastig i’w darparu ar y campws. Cytunwyd y dylai neges 'peidiwch â fflysio', wedi'i hargraffu ar ddeunydd lapio padiau gan Hey Girls, gael ei chyfleu i'r myfyrwyr trwy'r ymgyrch i sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwared ar gynhyrchion a deunydd pecynnu yn y ffordd gywir.
6
Yn ogystal, mae peiriannau plastig clir y dewisir ar gyfer darpariaeth ar y campws wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.
Cynaliadwyedd Cymdeithasol arfer gorau, dynnu sylw at fanteision defnyddio adborth myfyrwyr i lywio'r gweithredu. Felly, roedd y cynllun peilot dan arweiniad myfyrwyr i raddau helaeth er mwyn sicrhau bod darparu a rhoi mynediad at gynhyrchion, ynghyd â'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, yn diwallu anghenion myfyrwyr. Hwyluswyd mewnbwn myfyrwyr gan: Gyfarfodydd rheolaidd â Grŵp Llywio Myfyrwyr i drafod gweithredu’r cynllun peilot, y cynnydd a wnaed, ac unrhyw syniadau ac awgrymiadau a oedd gan y myfyrwyr Grŵp ffocws gyda Myfyrwyr Rhyngwladol i drafod yr elfen amgylcheddol a gwastraff Gweithio gyda myfyriwr Dylunio Graffig blwyddyn gyntaf i ddylunio logos ar gyfer yr ymgyrch Arolwg Myfyrwyr Cychwynnol i lywio'r broses o weithredu'r cynllun Arolwg Myfyrwyr Terfynol i werthuso llwyddiant y cynllun peilot ac i lywio argymhellion ar gyfer cynllun tymor hir Arolygon barn myfyrwyr ar Instagram Undeb Bangor i lywio'r math o ddigwyddiadau a gynigiwyd Rhannu profiadau myfyrwyr am fislif fel rhan o'r ymgyrch Aelodau o'r Grŵp Llywio Myfyrwyr a'r Tîm Llais Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau byw Yn ogystal, gwnaeth adborth yn yr Arolwg Myfyrwyr Cychwynnol gan fyfyrwyr sy'n cael mislif a ddim yn nodi eu bod yn ferched, dynnu sylw at yr angen i sicrhau bod y cynllun a'r ymgyrch yn cynnwys yr holl fyfyrwyr, waeth beth fo'u gender. O ganlyniad, gosodwyd cynhyrchion mislif mewn toiledau dynion, merched, hygyrch a niwtral o ran gender. Yn ogystal, defnyddiwyd iaith, graffeg a delweddau niwtral trwy gydol yr ymgyrch. Defnyddiwyd ymadroddion fel “i bawb sy'n cael mislif” wrth annerch myfyrwyr, yn lle “myfyrwyr benywaidd” neu “ferched”.
7
1.3 Darparu Cynhyrchion Sefydlu Danfon i’r Cartref Yn yr Arolwg Cychwynnol, mynegodd 56% ddiddordeb mewn cael cynhyrchion mislif trwy gael eu danfon i’r cartref. Gwnaeth hyn, ynghyd â chyfyngiadau Coronavirus, lywio’r penderfyniad i gynnig Cynllun Danfon i’r Cartref rhwng Ionawr ac Ebrill, fel ateb tymor byr fel bod myfyrwyr yn cael cynhyrchion yn ystod y pandemig. Gweithiodd y Swyddog Project gyda'r cyflenwr Hey Girls i sefydlu'r cynllun. Roedd myfyrwyr yn gallu archebu amrywiaeth o fwndeli cynnyrch yn annibynnol trwy ffurflen ar-lein a threfnu eu bod yn cael eu danfon iddynt. Yn seiliedig ar adborth myfyrwyr, roedd amrywiaeth o gynhyrchion untro a rhai y gellir eu hailddefnyddio ar gael, gan gynnwys dillad isaf mislif, padiau a chwpanau mislif y gellir eu hailddefnyddio. Anfonwyd taenlenni gydag archebion gan Hey Girls i'w hadolygu bob pythefnos gyda’r Swyddog Project yn cadarnhau prosesu archebion a'u danfon i fyfyrwyr. I ddechrau, rhoddwyd gwybod trwy e-byst wedi eu targedu i fyfyrwyr bregus a allai fod yn cael trafferth ariannol, eu bod yn gallu cael cynhyrchion. Yn dilyn hyn, cafodd ei hyrwyddo'n ehangach ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefan Undeb Bangor, y bwletin myfyrwyr a’r bwletin staff a'r newyddlen. Oherwydd pryderon ynglŷn â chyllid, cafodd ei hyrwyddo i “bawb sydd mewn trafferth ariannol” yn lle “pob myfyriwr sy’n cael mislif”. Roedd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r ffurflen ar-lein i archebu cynhyrchion trwy gyswllt yn y negeseuon. Cafodd y cynllun ei oedi am gyfnod ddiwedd mis Ebrill gan fod Hey Girls yn cael galw digynsail a oedd yn achosi oedi sylweddol wrth brosesu a danfon archebion. Golygodd hyn bod y cyllid oedd yn weddill gael ei ddyrannu i ddarparu cynhyrchion ar y campws.
8
IV
Trefnu’r Ddarpariaeth ar y Campws Trefnwyd a gweithredwyd darpariaeth ar y campws mewn partneriaeth â Gwasanaethau Campws, i ddatblygu system a oedd yn gynaliadwy i’w weithredu. Gweithiodd y Swyddog Project yn agos gyda'r Rheolwr Glanhau a Hwyluso i archwilio a phrofi peiriannau dosbarthu posibl ar gyfer cynhyrchion, gyda chymorth y Goruchwyliwr Cynnal a Chadw ac arweiniad gan Iechyd a Diogelwch. Dewiswyd peiriannau plastig clir o TOTM ac maent wedi'u gosod ar waliau neu wedi'u gosod ar arwynebau mewn toiledau. Cynigiwyd cyfuniad o badiau trwm a thamponau gyda dodwyr rheolaidd i ddiwallu’r rhan fwyaf o anghenion myfyrwyr a amlygwyd mewn adborth. Cynhaliodd y Swyddog Project archwiliadau o'r holl doiledau ar Gampws Wrecsam a Bangor, gyda chymorth Arweinwyr Sifftiau Cyfleusterau, a lywiodd y broses o greu taenlen at ddefnydd Gwasanaethau Campws, gan amlinellu'r adeiladau, y lloriau a'r toiledau lle roedd angen cynhyrchion mislif. Yn ogystal, nodwyd toiledau dynion a oedd angen biniau hylendid ychwanegol ochr yn ochr â'r ddarpariaeth. Yna gofynnodd y Swyddog Project i Gynnal a Chadw osod peiriannau cynhyrchion mislif. Yn dilyn hyn, dosbarthwyd cynhyrchion gan y Gwasanaethau Campws. I ddechrau, gosodwyd archebion am gynhyrchion a pheiriannau yn uniongyrchol gyda'r cyflenwyr TOTM a Hey Girls a'u dosbarthu i'r campws, gyda chymorth y Cydlynydd Gweithrediadau a Chynllunio. Yn fwy diweddar, archebwyd cynhyrchion trwy Bunzl, cwmni dosbarthu sydd â chysylltiad wedi ei sefydlu â Gwasanaethau Campws ac sy'n gyfarwydd â'r lleoliadau a'r amseroedd i ddanfon i'r campws. Ar gyfer cynhyrchion mislif a osodwyd yn Swyddfa’r Neuaddau a’r siopau, roedd hylif diheintio dwylo a phosteri yn annog arferion hylendid da yn cael eu harddangos wrth ymyl y peiriannau. Gweithiodd y Swyddog Project gyda'r Pennaeth Bywyd Preswyl i drefnu darparu cynhyrchion yn Swyddfa’r Neuaddau gyda’r Rheolwr Bwyd a Diod yn trefnu darpariaeth yn y siopau. Gweithiodd y Swyddog Project gyda'r Cydlynydd Cyfathrebu i ddylunio a chreu sticeri ar gyfer peiriannau dosbarthu, a gymeradwywyd gan y Gwasanaethau Campws a'r Grŵp Llywio Myfyrwyr. Gosodwyd sticeri gyda logo “Planet Friendly Periods” ar bob drws toiled lle mae cynhyrchion i helpu myfyrwyr i ddod o hyd iddynt. Lansiwyd y ddarpariaeth ar y campws ar 23 Ebrill a rhoddwyd gwybod i fyfyrwyr bod cynhyrchion ar gael ar sawl llwyfan; trwy’r Bwletin Myfyrwyr, newyddlen, gwefan a chyfryngau cymdeithasol Undeb Bangor a thrwy e-bost at yr holl fyfyrwyr. Fel rhan o Gam 1, gosodwyd cynhyrchion mewn toiledau ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Pontio, Adeilad Newydd y Celfyddydau, Hen Adeilad y Celfyddydau, Weldon a Deiniol, yn ogystal â Swyddfa’r Neuaddau, Bar Uno a siopau. Mae Cam 2 yn cael ei weithredu ar hyn o bryd. Mae cynhyrchion wedi'u gosod yn Wrecsam, Gwyddorau’r Eigion, Fron Heulog, Gwybodeg, Neuadd JP, Brigantia, a Brambell ar gampws Bangor. Nid oes cynhyrchion wedi eu rhoi hyd yma yn Safle’r Normal ac mae'r cynlluniau'n cynnwys gosod cynhyrchion yn Brailsford y flwyddyn academaidd nesaf.
9
1.4 Yr Ymgyrch Amcan yr ymgyrch oedd i addysgu, ysbrydoli a grymuso myfyrwyr mewn perthynas â mislif fel rhan o daith i sicrhau urddas mislif i bawb sy’n cael cael mislif. Defnyddiodd yr ymgyrch sawl llwyfan i ennyn diddordeb myfyrwyr. Roedd hyn yn cynnwys y newyddlen, bwletin myfyrwyr a gwefan a chyfrifon Facebook ac Instagram Undeb Bangor, a oedd yn cynnig dilyniant sefydledig a'r potensial i negeseuon gyrraedd myfyrwyr o bob gender. Roedd y negeseuon yn ddwyieithog. Crëwyd dau logo ar wahân ar gyfer yr ymgyrch (gweler y negeseuon enghreifftiol isod). Mae’r logo “Planet Friendly Periods” yn cynrychioli’r ymgyrch amgylcheddol ac mae’r logo “Students for Periods” yn cynrychioli’r ymgyrch fwy cyffredinol ynglŷn â mislif. Yn ôl canlyniadau'r arolwg terfynol, llwyddodd yr ymgyrch i gyrraedd 57% o fyfyrwyr sy'n cael mislif a 55% o fyfyrwyr sydd ddim yn cael mislif. Yn ogystal ag addysgu myfyrwyr ar dlodi ac urddas mislif a beth oedd eu barn am yr hyn yr oedd y cynllun yn bwriadu ei gyflawni, roedd gan yr ymgyrch 5 elfen allweddol:
1. Cyfres Dyfyniadau Mislif dydd Llun Rhannu profiadau myfyrwyr am fislif bob dydd Llun ar gyfrifon Facebook ac Instagram Undeb Bangor. Gallai myfyrwyr gyflwyno profiadau am fislif, yn ddienw os oedd yn well ganddynt, trwy ffurflen ar-lein. Creodd hyn fudiad myfyrwyr ac adeiladu ymdeimlad o gymuned i fyfyrwyr sy'n cael mislif, gan rymuso myfyrwyr trwy eu hannog i siarad yn fwy agored am eu mislif a materion mislif fel y gwnaed gan bobl eraill. Y bwriad hefyd oedd codi ymwybyddiaeth am brofiadau mislif ymysg myfyrwyr sydd ddim yn cael mislif, gan dynnu sylw at eu hamrywiaeth a'r heriau y mae rhai unigolion yn eu hwynebu gyda'r mislif. Mae 29 o brofiadau mislif wedi eu rhannu hyd yma a mynegodd 98 o fyfyrwyr eraill ddiddordeb mewn gwneud hynny yn yr Arolwg Myfyrwyr Terfynol. Siaradodd rai myfyrwyr am eu profiadau mislif mewn fideo byr.
10
2. Ymgyrch Amgylcheddol Cynlluniwyd yr ymgyrch amgylcheddol i addysgu myfyrwyr ar y dulliau cywir o gael gwared ar gynhyrchion mislif, yr effaith y mae cynhyrchion untro yn ei chael ar yr amgylchedd a sut i ddefnyddio a gofalu am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, gan ysbrydoli myfyrwyr i roi cynnig arnynt trwy'r Cynllun Danfon i’r Cartref. Bu’r Grŵp Llywio Myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan yn gweithredu fel rhan o’r ymgyrch #AxeThePeriodPantsTax, gan godi ymwybyddiaeth o'r TAW y mae'r llywodraeth yn dal i godi ar ddillad isaf mislif ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan a llofnodi deiseb.
11
3. Addysg ar Gyflyrau Iechyd Bwriad yr ymgyrch oedd normaleiddio cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â mislif neu sy'n effeithio arno trwy ddarparu rhagor o wybodaeth am y cyflyrau a'r symptomau cysylltiedig, yn ogystal â rhannu profiadau myfyrwyr â nhw trwy'r gyfres Dyfyniadau Mislif Dydd Llun. Mae’r cyflyrau iechyd yn cynnwys Endometriosis, Syndrom Ofari Polycystig (PCOS) ac Anhwylder Dysfforig Cyn-fislifol (PMDD). Roedd yn annog myfyrwyr sy'n amau eu bod yn ddioddef o unrhyw un o'r uchodgael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt a theimlo'n hyderus i wneud hynny, yn ogystal ag annog eraill i fod yn gefnogol a dangos empathi i'r rhai sy'n eu profi.
4. Codi ymwybyddiaeth am fislif y tu hwnt i rywedd Hefyd, cododd yr ymgyrch ymwybyddiaeth o'r term “nid yw pawb sy'n cael mislif yn nodi eu bod yn ferched ac nid yw pob merch yn cael mislif”, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cynnwys. Roedd hefyd yn egluro pam bod cynhyrchion mislif yn cael eu rhoi mewn toiledau dynion ac yn annog myfyrwyr i fod yn ymwybodol o'r heriau ychwanegol y mae myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd yn eu hwynebu gyda mislif.
12
5. Digwyddiadau Cyflwynwyd 5 digwyddiad yn fyw ar dudalen Facebook Undeb Bangor, a'r mwyaf poblogaidd oedd Chwalu’r Mythau Mislif a’r sesiwn holi ac ateb Chwaraeon a Mislif (gyda'r Swyddog Ymgysylltu Rygbi yng Ngholeg Llandrillo), gyda 1.2k o fyfyrwyr yn gwylio. Roedd digwyddiadau byw eraill yn cynnwys Cwis Mislif, Gêm lluniau Mislif a sesiwn holi ac ateb gyda Tara Leanne Hall, Sylfaenydd Cylch Coch (project llawr gwlad bach sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi mislif a’r tabŵ sy’n gysylltiedig â mislif yng Ngogledd Cymru). Bu aelodau o'r Grŵp Llywio Myfyrwyr ac aelodau gwrywaidd cisgender o'r Tîm Llais Myfyrwyr yn cymryd rhan yn y rhan fwyaf o'r sesiynau byw. Cyflwynwyd 3 digwyddiad wedi eu trefnu, y gallai myfyrwyr archebu lle arnynt ac ymuno trwy gyswllt Zoom: Sgwrs gyda’r Ymgyrchydd Amgylcheddol Ella Daish am ei #EndPeriodPlasticCampaign a'i thaith at fod yn ymgyrchydd Sesiwn am y Gylchred Fislifol gyda Nyrs Practis ar ddeall teimladau emosiynol a chorfforol cyfnewidiol y gylchred fislifol a sut i weithio gyda'ch cylchred yn hytrach na’i gadael i weithio yn eich erbyn. Gweithdy Amgylcheddol-fislifol gyda Llysgennad Rhwydwaith Amgylcheddol i Ferched ar yr amrywiaeth o gynhyrchion gellir eu hailddefnyddio sydd ar gael ac effeithiau cynhyrchion defnydd untro ar yr amgylchedd ac ar iechyd. Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth bellach. Roedd adborth myfyrwyr am ddigwyddiadau yn gadarnhaol:
“Mae'r holl ddigwyddiadau wedi bod yn addysgiadol iawn ac ar ôl pob sgwrs, dwi'n dod allan yn teimlo wedi fy ngrymuso.”
13
2. Gwerthuso Llwyddiant 2.1 Profiad Myfyrwyr Mae'r canlyniadau'n dangos bod y cynllun wedi llwyddo i sicrhau bod gan fyfyrwyr sy'n cael mislif fynediad priodol at gynhyrchion mislif am ddim. Ers lansio'r cynllun, mae 9% wedi cael anhawster yn cael gafael ar gynhyrchion, sydd i lawr o 45% yn yr arolwg cychwynnol. Mae cael cynhyrchion wedi bod o fudd i fyfyrwyr mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys atal 45% rhag dechrau mislif heb gynhyrchion ar y campws a sicrhau bod 36% yn gallu cael gafael mwy cyson ar gynhyrchion os ydynt mewn trafferth ariannol. Fodd bynnag, mae rhai myfyrwyr heb gael y cynhyrchion eto gan nad oeddent yn gwybod am y ddarpariaeth (47%) neu, yn syml, nid oeddent wedi cael cyfle i gael y cynhyrchion eto oherwydd eu bod yn gweithio o bell, nid oeddent ar y campws neu’n hunan-ynysu (87% o'r sylwadau). Mae hyn yn tynnu sylw at yr effaith y mae cyfyngiadau Coronavirus wedi'i chael ar y gallu i gael cynhyrchion ar y campws a'r budd y gallai darparu cynhyrchion yn barhaus ei gael i lawer o fyfyrwyr wrth i fwy ddychwelyd i'r campws. Pwysleisiodd y myfyrwyr pa mor bwysig yw sicrhau bod y gallu i gael cynhyrchion ddim yn gostwng:
“… Gwnewch yn siŵr nad yw’r gallu i gael cynhyrchion ddim yn gostwng - mae wir wedi helpu lot o fyfyrwyr a fyddai fel arall wedi gorfod defnyddio rhywbeth arall.”
Darpariaeth ar y Campws Gwnaeth 90 o fyfyrwyr gael cynhyrchion ar y campws yn ystod y pythefnos rhwng eu bod ar gael a lansiad yr Arolwg Terfynol. Mae canlyniadau'n dangos bod y ddarpariaeth wedi bod yn llwyddiannus hyd yma o ran bod myfyrwyr yn gallu cael cynhyrchion sy'n addas i'w hanghenion amrywiol. Dangosodd y canfyddiadau o'r Arolwg Cychwynnol bod y rhan fwyaf yn nodi bod yn well ganddyntgael tamponau gyda dodwyr a phadiau, yn ogystal â chynhyrchion ar gyfer llif canolig i drwm. Felly dosbarthwyd tamponau gyda dodwyr rheolaidd a phadiau trwm ar y campws. O ganlyniad, roedd 91% yn gallu cael digon o gynhyrchion i ddiwallu eu hanghenion, roedd 84% yn gallu cael y math yr oedd orau ganddynt a dywedodd 95% bod eu profiad o ddefnyddio'r cynhyrchion yn dda. Dangosodd y canlyniadau hefyd lwyddiant y cynllun yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cynhyrchion priodol. Dangosodd yr adborth cychwynnol bod y rhan fwyaf yn nodi y byddai’n well ganddynt gael gafael ar y cynhyrchion mewn toiledau ar y campws, gan gynnwys toiledau dynion. O ganlyniad, gosodwyd cynhyrchion mislif mewn toiledau niwtral o ran gender, toiledau dynion, merched, a thoiledau hygyrch. O ganlyniad, mae 93% wedi teimlo'n gyffyrddus yn cael gafael ar gynhyrchion ac mae 90% wedi ei gweld yn hawdd i gael cynhyrchion. Hefyd, mae 15% o fyfyrwyr sydd ddim yn cael mislif wedi cael cynhyrchion ar gyfer pobl eraill mewn toiledau dynion ac mae myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn anneuaidd neu'n drawsryweddol wedi dweud eu bod yn gwerthfawrogi gallu cael cynhyrchion mislif mewn toiledau dynion. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y dylai cynhyrchion fod ar gael yn gyffredinol gan y gall hyn fod o fudd i fyfyrwyr o bob gender. Er gwaethaf hyn, gwnaeth 27% fynegi pryder ynglŷn â’r diffyg cynhyrchion mewn peiriannau a'r angen i lenwi peiriannau yn fwy rheolaidd. Awgrymodd nifer ffyrdd eraill o ledaenu gwybodaeth yn well am leoliadau cynhyrchion ar y campws. Roedd y rhain yn cynnwys mapiau, posteri yn Neuaddau Preswyl ac Ystafelloedd Cyffredin, sgriniau yn Pontio, e-byst a riliau i roi gwybod am leoliadau.
14
Danfon i'r Cartref Roedd y Cynllun Danfon i’r Cartref yn boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr, gyda 463 yn cael cynhyrchion. Disgrifiodd 99% bod eu profiad mewn perthynas â’r cynhyrchion yn dda a chyflwynodd 81% adolygiadau cadarnhaol am y Cynllun Danfon i’r Cartref:
“Cynllun anhygoel - gall cynhyrchion mislif, yn enwedig rhai y gellir eu hailddefnyddio, fod yn eithaf drud ac er fy mod i wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt ers tro, dydw i erioed wedi gallu eu fforddio. Mae'r cynllun yma wedi caniatáu imi roi cynnig arnynt (a chanfod fy mod wrth fy modd â nhw!) Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r brifysgol am wneud hynny'n bosibl! ” Mae'r cynllun peilot hwn wedi llwyddo i wneud cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn fwy hygyrch i fyfyrwyr. Yn yr Arolwg Cychwynnol, dywedodd 54% y byddent yn rhoi cynnig ar gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio ac y byddai 18% yn ystyried eu defnyddio. Roedd 73% o'r cynhyrchion a archebwyd trwy ddanfon i’r cartref yn rhai y gellir eu hailddefnyddio, gan gadarnhau diddordeb sylweddol mewn dewisiadau cyfeillgar i’r amgylchedd. O ganlyniad i'r cynllun a'r ymgyrch, dywedodd 99% y byddent yn argymell cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio i ffrind a dywedodd 93% y byddent yn ystyried eu defnyddio yn hytrach na chynhyrchion defnydd untro, sy’n awgrymu eu bod wedi cael profiad da yn defnyddio'r cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio. Ar ben hynny, dywedodd myfyrwyr eu bod yn gwerthfawrogi gallu arbrofi gyda chynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio, heb y risg ychwanegol o gost. Er mai dim ond 6% o’r adolygiadau a gyflwynwyd am y cynllun oedd yn negyddol, mynegodd y myfyrwyr bryderon dilys ynglŷn â’r amser a gymerwyd i gael y cynhyrchion gan Hey Girls a’r diffyg cyfathrebu ynglŷn â’u danfon, a chefnogwyd hyn gan sylwadau tebyg gan y Grŵp Llywio Myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu'r cymhlethdodau gweithredol a gafwyd trwy weithio mewn partneriaeth â Hey Girls fel cyflenwr. Roeddent yn aml yn cael galw digynsail am gynhyrchion mislif, gan arwain at oedi sylweddol wrth brosesu a danfon archebion. Yn ogystal, mynegodd rai o’r myfyrwyr bryderon ynglŷn ag enw’r brand “Hey Girls” mewn perthynas â chynaliadwyedd cymdeithasol y cynllun a'i nod i gynnwys yr holl fyfyrwyr, waeth beth fo'u gender.
Yr Ymgyrch Mae'r canlyniadau'n dangos llwyddiant yr ymgyrch o ran gweithio i sicrhau urddas mislif i bawb sy'n cael mislif trwy gyfuno darparu cynhyrchion ag addysg a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn â mislif.
15
Agor y Sgwrs a Lleihau Stigma “Rwyf wrth fy modd bod yr ymgyrch hon wedi gwneud mislif yn bwnc gyda llai o tabŵ. Mae wedi gwneud i mi deimlo cymaint yn fwy cyffyrddus.” PCyn yr ymgyrch, roedd 27% o'r myfyrwyr sy'n cael mislif yn teimlo'n anghyfforddus yn siarad am gynhyrchion mislif a mislif. Roedd 38% yn teimlo embaras a 4% yn teimlo cywilydd wrth ofyn am gynhyrchion mislif. Roedd bod yn anghyffyrddus a theimlo embaras yn aml yn waeth wrth siarad â myfyrwyr gwrywaidd. Ers hynny, mae 37% o fyfyrwyr sy'n cael mislif wedi teimlo eu bod wedi cael eu hannog gan yr ymgyrch i siarad yn fwy agored am fislif a materion yn ymwneud â mislif. O ganlyniad i’r ymgyrch, mae 47% wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau agored gydag amrywiaeth o unigolion (yn cynnwys teulu, ffrindiau, partneriaid a chyd-letywyr) ynglŷn â mislif. Ar ben hynny, mae 11% wedi cael sgyrsiau gyda myfyrwyr gwrywaidd cisgender ac mae 43% o bobl sydd ddim yn cael mislif wedi cael sgyrsiau agored ers i'r ymgyrch ddechrau:
“Cefais sgwrs ddwys gyda fy nghyd letywyr gwrywaidd am fislif ar ôl iddynt weld negeseuon ymgyrch tlodi mislif Katie Tew ac roedd yn braf gallu cael trafodaeth agored am fudd amgylcheddol cynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio.” Mae hyn yn tynnu sylw at lwyddiant yr ymgyrch nid yn unig yn dechrau’r sgwrs rhwng myfyrwyr sy'n cael mislif, ond rhwng y rhai sy'n cael mislif a'r rhai nad ydynt yn cael mislif, gan helpu i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig. Ar ben hynny, mae adborth yn nodi llwyddiant yr ymgyrch yn ennyn diddordeb myfyrwyr o bob gender ac yn creu lle diogel i fyfyrwyr sy'n cael mislif a nodi eu bod yn anneuaidd neu'n drawsryweddol siarad yn fwy agored. Mae 60% o'r myfyrwyr a ddewisodd y categori 'arall' (ar gyfer gender) wedi bod yn rhan o sgyrsiau agored ers dechrau'r ymgyrch ac mae 100% yn teimlo'n gyffyrddus yn siarad am fislif, materion mislif a chynhyrchion mislif, cynnydd o 88% ers yr Arolwg Myfyrwyr Cychwynnol. Mae 44% o'r myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn wrywaidd ond a gofrestrwyd yn wahanol adeg genedigaeth yn teimlo'n gyffyrddus, i fyny o 0% ers yr Arolwg Cychwynnol. Fodd bynnag, mae rhai myfyrwyr yn dal i deimlo y gellid gwneud mwy o gynnydd o ran cael gwared ar y stigma sydd ynghlwm â mislif, yn enwedig pan fydd myfyrwyr gwrywaidd cisgender yn cymryd rhan mewn sgyrsiau (11%). Yn yr un modd, mae rhai myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd yn dal i wynebu problemau dysfforia a gorbryder, gan dynnu sylw at gymhlethdod eu perthynas â mislif a'r heriau sy'n eu hwynebu wrth oresgyn teimladau negyddol sy'n gysylltiedig â mislif.
Addysg a Chodi Ymwybyddiaeth Yn ogystal â lleihau'r stigma sy’n gysylltiedig ac agor y sgwrs ynglŷn â mislif, mae'r ymgyrch wedi llwyddo i addysgu myfyrwyr sy'n cael mislif a myfyrwyr sydd ddim yn cael mislif am amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â mislif, tlodi mislif a'r cynllun. Mae 47% o fyfyrwyr sy'n cael mislif wedi dysgu am dlodi mislif, 40% am effaith amgylcheddol mislif, 40% am y cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â mislif, 37% am faterion mislif a 22% am fislif y tu hwnt i gender. Mae myfyrwyr wedi disgrifio pob digwyddiad a drefnwyd fel rhai “addysgiadol”.
16
Yn ogystal, dywedodd 75% o fyfyrwyr y byddent yn elwa o gael rhagor o wybodaeth am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn yr Arolwg Cychwynnol. Ers hynny, roedd 82% o fyfyrwyr a gafodd gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio trwy ddanfon i’r cartref wedi cael gwybodaeth am gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio trwy'r ymgyrch. O'r rhain, teimlai 97% ei bod yn wybodaeth ddefnyddiol. Mae 27% o fyfyrwyr sydd ddim yn cael mislif wedi dysgu rhywbeth newydd trwy’r ymgyrch: Mewn sylwadau, ymhelaethodd 49% ar yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu, gan gynnwys bod cynhyrchion ar gael am ddim, diddymu treth mislif, pwysigrwydd sicrhau bod pobl sy'n cael mislif yn gyffyrddus, yr angen am gynhyrchion mewn toiledau dynion, cost amgylcheddol cynhyrchion tafladwy a sut mae mislif yn effeithio ar bobl yn wahanol. Mae’r ymgyrch hefyd wedi newid y ffordd mae 29% yn meddwl am fislif. Er enghraifft, mae rhai myfyrwyr yn teimlo y dylai cynhyrchion fod ar gael am ddim, na ddylid cael stigma am fislif ac y dylid normaleiddio'r sgwrs a bod cynhyrchion yn rhy ddrud. Maent hefyd yn fwy ymwybodol o'r gwahanol symptomau a brofir gan bobl sy'n cael mislif ac o'r effaith negyddol y gall cynhyrchion defnydd untro eu cael ar yr amgylchedd. Yn olaf, mae 91% o fyfyrwyr nad ydynt yn cael mislif yn teimlo y dylai'r ymgyrch barhau i godi ymwybyddiaeth ac addysgu am fislif, gan dynnu sylw at eu parodrwydd i ddysgu mwy. Fodd bynnag, roedd 13% o fyfyrwyr nad ydynt yn cael mislif yn teimlo nad oedd digon o fanylion na gwybodaeth newydd yn y wybodaeth a ddarparwyd yn yr ymgyrch ac nid oedd 61% wedi dysgu unrhyw beth newydd o'r ymgyrch am wahanol resymau megis cynnal ymchwil annibynnol neu eu bpd yn byw mewn amgylchedd merched. Felly, er mwyn addysgu'r rhai nad ydynt yn cael mislif yn fwy effeithiol, dylid ystyried yn ofalus y math o wybodaeth neu gynnwys a fyddai o fudd i fyfyrwyr, gyda'u mewnbwn.
Cyfranogiad Myfyrwyr Mae'n amlwg o'r llwyddiannau a amlinellir uchod bod adborth a mewnbwn myfyrwyr trwy arolygon a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r Grŵp Llywio Myfyrwyr wedi bod yn sylfaenol i lwyddiant y cynllun peilot. Dangosodd adborth gan y Grŵp Llywio Myfyrwyr ffyrdd y gellid gwella cyfranogiad myfyrwyr ymhellach. Er enghraifft, trwy greu grŵp gwirfoddol o fyfyrwyr, a fyddai â chyfrifoldebau ychwanegol. Er enghraifft, cefnogi'r tîm yn Undeb gyda'r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol tymor hir trwy greu negeseuon i’r cyfryngau cymdeithasol a chynorthwyo Gwasanaethau Campws trwy fonitro lefelau stoc mewn peiriannau, gan roi gwybod iddynt am unrhyw stoc isel. Yn ogystal, byddai sicrhau mwy o amrywiaeth yn y grŵp o fyfyrwyr sy'n gweithio ar y cynllun yn gwella cynrychiolaeth a mewnbwn myfyrwyr. Er enghraifft, trwy gael myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg a myfyrwyr o bob gender yn y grŵp i sicrhau bod anghenion pob myfyriwr yn cael eu cyfleu. Tynnwyd sylw yn yr arolwg hefyd at ddiddordeb myfyrwyr mewn helpu i fynd i’r afael â thlodi mislif y tu hwnt i’r Cynllun Tlodi ac Urddas Mislif, yn genedlaethol ac o fewn y gymuned leol. Er enghraifft, trwy gyfleoedd gwirfoddoli a chodi arian.
17
2.2 Adborth y Gwasanaethau Campws Gwnaeth y grŵp ffocws a gynhaliwyd gyda'r Gwasanaethau Campws i drafod dosbarthu ar y campws gynnig adborth o safbwynt logistaidd. Mae Gwasanaethau Campws yn ôl pob dangosydd yn gefnogol i'r cynllun a'r angen i fyfyrwyr gaelcynhyrchion mislif am ddim:
“Rydych yn mynd i doiled ac yn disgwyl cael papur toiled, felly pam ddim padiau?” “Rwy’n meddwl ei fod yn syniad gwych…. Mae'n rhywbeth y dylid fod wedi cael ei roi am ddim erioed ac nid yw’n iawn bod y llywodraeth wedi codi TAW a threth arnynt - mae'n anghywir. Mae'n wych nawr ei fod wedi dechrau a’i fod yn tyfu ar draws y wlad. Dylai fod wedi dechrau ers talwm.” Y consensws cyffredinol oedd yr hoffent barhau i sicrhau bod cynhyrchion ar gael i fyfyrwyr cyhyd ag y bo modd. Mae’r Gwasanaethau Campws yn teimlo bod y broses o archebu a dosbarthu cynhyrchion trwy'r dosbarthwr Bunzl wedi bod yn llwyddiannus ac maent yn cefnogi gosod cynhyrchion mewn toiledau ar draws y campws, gan gynnwys toiledau dynion:
“Trwy gael cynhyrchion ym mhob man, rydych yn newid agweddau”. Er eu bod yn canmol yr hyn a gyflawnwyd ac a weithredwyd mewn cyn lleied o amser, trafodwyd yr angen i ddysgu ac addasu dros amser, gan wneud newidiadau a gwelliannau angenrheidiol. Er enghraifft, ystyried cyflenwr arall yn lle Hey Girls oherwydd yr oedi gyda danfon cynhyrchion. Yn ogystal, mynegwyd pryderon ynglŷn â pha mor fregus yw’r peiriannau ac awgrymodd staff fonitro eu cyflwr ac ystyried defnyddio peiriannau eraill i’w dosbarthu yn y tymor hir. Er eu bod yn gallu nodi mannau lle mae mwy yn manteisio ar y ddarpariaeth nag mewn mannau eraill, roeddent yn teimlo ei bod yn anodd monitro'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun ar hyn o bryd ac y dylid ei fonitro'n agosach y flwyddyn academaidd nesaf wrth i fwy o fyfyrwyr ddychwelyd i'r campws. Yn olaf, mae Gwasanaethau Campws yn teimlo bod y system bresennol o ailgyflenwi stoc yn effeithiol ac yn caniatáu i stoc gael eu monitro’n agos. Mae arweinwyr shifftiau cyfleusterau yn gyfrifol am reoli stoc mewn gwahanol fannau. Mae stoc ar gael mewn lleoliad canolog, ac ar ôl hynny mae nifer bach o gynhyrchion yn cael eu dosbarthu mewn cypyrddau glanhau ar draws y campws er mwyn i dimau glanhau gael mynediad atynt.
18
3. Casgliadau Roedd natur y cynllun dan arweiniad myfyrwyr yn rhan annatod o'i lwyddiant. Roedd canlyniadau'r Arolwg Cychwynnol a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r Grŵp Llywio Myfyrwyr wedi bod yn sail wybodaeth i weithredu’r cynllun peilot, gan sicrhau ei fod wedi'i deilwra i anghenion myfyrwyr. Yn ei dro, mae'r nifer sy'n manteisio ar y ddarpariaeth wedi bod yn llwyddiannus ac mae'r adborth ar ddarparu cynhyrchion yn gadarnhaol. Yn yr un modd, mae ennyn diddordeb yn yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus, gyda myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau agored ynglŷn â mislif o ganlyniad ac yn dysgu mwy am fislif, cynhyrchion mislif a thlodi mislif. Nid yw sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael am ddim wedi cael llawer o effaith ar bresenoldeb myfyrwyr mewn darlithoedd a seminarau a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau gwirfoddoli hyd yma. Mae hyn yn bennaf oherwydd cyfyngiadau Coronavirus ac astudio o bell, sydd wedi'i gwneud hi'n anodd ei fesur. Mae dosbarthu cynhyrchion mewn toiledau dynion, merched, niwtral o ran rhywedd a hygyrch ar draws y campws yn gweddu i anghenion myfyrwyr. Er y dylai'r cynllun ystyried awgrymiadau myfyrwyr i ymestyn y ddarpariaeth i'r holl adeiladau a thoiledau ar y campws, efallai na fydd hyn yn bosibl ar lefel ariannol a gweithredol. Roedd y Cynllun Danfon i’r Cartref yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr a hoffai'r mwyafrif ei weld yn parhau. Fodd bynnag, cafodd ei gynnig fel ateb tymor byr i sicrhau bod cynhyrchion ar gael yn ystod y pandemig. Yn ogystal, mae darparu cynhyrchion i oddeutu 463 o fyfyrwyr dros oddeutu 3 mis yn costio cyfanswm o £5,924.68. Gellir priodoli ychydig llai na 50% o'r ffigur hwn i bostio a phecynnu. Mewn cymhariaeth, gwariwyd tua £4,699.16 ar 16,128 o gynhyrchion ar gyfer campws Wrecsam a 24,192 ar gyfer campws Bangor (+ TAW a chostau danfon). Amcangyfrifir y bydd y swm hwn yn para 6-12 mis yn dibynnu ar y nifer y myfyrwyr ar y campws a'r nifer sy'n derbyn y cynnig. Mae poblogrwydd cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn amlwg, gyda 73% yn eu harchebu trwy'r Cynllun Danfon i’r Cartref. Mae'r Grŵp Llywio Myfyrwyr hefyd wedi gofyn bod y cynllun cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio yn parhau. Er efallai na fydd yn bosibl cynnig danfon i’r cartref, gall sicrhau bod cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio ar gael ar y campws gynnig dewis arall sy'n fwy cynaliadwy yn ariannol.
19
Mae Hey Girls fel cyflenwr, wedi bod yn eithaf boblogaidd gyda myfyrwyr ond mae gweithio mewn partneriaeth â nhw wedi bod yn heriol yn weithredol. Mae myfyrwyr wedi profi oedi sylweddol wrth i’r cynhyrchion gael eu danfon iddynt, a’u bod ym aml yn derbyn cynhyrchion hyd at 6 wythnos ar ôl eu harchebu. Bu oedi gyda danfon padiau i'r campws hefyd. Er mwyn i fyfyrwyr gael gynhyrchion yn rhwydd ac yn hyderus, dylai eu derbyn fod yn rhydd o straen, yn gyflym ac yn hawdd. Yn ogystal, mae’r pryderon a fynegwyd am enw’r brand “Hey Girls” yn awgrymu y gallai parhau gyda Hey Girls fel cyflenwr weithio yn erbyn nod y cynllun i gynnwys yr holl fyfyrwyr, waeth beth fo'u gender. Mae'r ddarpariaeth ar y campws wedi bod yn llwyddiannus hyd yma. Ond mae angen sicrhau nad yw darparu’r cynhyrchion yn gostwng ac i fonitro'r nifer sy'n eu derbyn, gan sicrhau bod peiriannau dosbarthu yn cael eu hailstocio'n ddigon rheolaidd. Yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg Cychwynnol, amcangyfrifir y gallai gostio rhwng £3,647.68 - £ 4,697.12 (+ danfon) i brynu padiau a thamponau mislif ar gyfer campws Wrecsam a Bangor y flwyddyn academaidd nesaf. Fel arall, yn seiliedig ar nifer y myfyrwyr benywaidd ym Mhrifysgol Bangor, gallai gostio hyd at £8,344.8 (+ danfon). Fodd bynnag, mae'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun yn debygol o fod yn anwastad rhwng campws Bangor a champws Wrecsam, ac y dylid cymryd hyn i ystyriaeth. Yn ogystal, mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar brisiau presennol cynhyrchion o Bunzl ac amcangyfrif o'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun, a fu'n anodd ei fesur yn gywir y flwyddyn academaidd hon. Mae angen parhau i hyrwyddo lleoliadau, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau i ennyn diddordeb myfyrwyr. Er enghraifft, posteri yn Swyddfa’r Neuaddau ac Ystafelloedd Cyffredin, sgriniau yn Pontio, mapiau, teithiau wedi'u recordio, e-byst a riliau ar y cyfryngau cymdeithasol. Er mwyn gwella cyfranogiad myfyrwyr, dylid cael amrywiaeth o gynrychiolwyr myfyrwyr, er mwyn sicrhau bod anghenion a buddiannau’r holl fyfyrwyr yn cael eu hystyried. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr o bob gender a myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. At hynny, gellid cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr godi arian, gwirfoddoli a rhoi rhoddion i helpu i fynd i'r afael â thlodi mislif ar raddfa ehangach, yn y gymuned leol ac ar lefel genedlaethol. Mae elfen addysgol a chodi ymwybyddiaeth yr ymgyrch, ar y cyd â darparu cynhyrchion, wedi bod yn llwyddiannus a hoffai myfyrwyr ei gweld yn parhau. Yn seiliedig ar adborth, dylid rhoi pwyslais penodol ar yr elfen amgylcheddol, cyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â mislif neu sy'n effeithio arno a chynnwys sydd wedi'i anelu at addysgu myfyrwyr gwrywaidd.
20
3. Argymhellion 1. Mynediad parhaus at gynhyrchion mislif am ddim i bob myfyriwr. Mae danfon i’r cartref a darparu ar y campws wedi sicrhau bod 553 o fyfyrwyr wedi cael cynhyrchion mislif am ddim hyd yma. Mae canlyniadau'r arolwg wedi tynnu sylw at yr angen i sicrhau bod cynhyrchion ar gael ar sail untro i fyfyrwyr sy'n dechrau eu mislif heb gynhyrchion ar y campws ac yn fwy cyson i'r rheini sydd mewn trafferth ariannol. Rhaid canolbwyntio yn awr ar sicrhau nad yw'r cynhyrchion a ddarperir yn gostwng er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sydd wedi cael cynhyrchion a myfyrwyr sydd eto i wneud hynny, oherwydd cyfyngiadau coronafirws neu ddim yn gwybod am y cynllun, yn gallu eu cael.
2. Sicrhau bod cynhyrchion ar gael mewn lleoliadau sy'n gyfleus i fyfyrwyr ar draws y campws. Dylai cynhyrchion barhau i fod ar gael mewn nifer o wahanol doiledau dynion, merched, niwtral o ran gender ac mewn toiledau hygyrch ym mhob rhan o gampws Bangor a champws Wrecsam yn ogystal ag yn Swyddfa’r Neuaddau a’r siopau ar gampws Bangor. Dylai'r cynllun anelu at ymateb i anghenion a cheisiadau myfyrwyr ynglŷn â dosbarthu cynhyrchion ond dylaipenderfyniadau i osod cynhyrchion mewn mannau ychwanegol gael eu hystyried ar lefel weithredol ac ariannol hefyd.
3. Bod y Gwasanaethau Campws yn dod yn gyfrifol am y ddarpariaeth ar y campws yn ei gyfanrwydd. Mae’r Gwasanaethau Campws wedi cymryd rhan allweddol yn trefnu a gweithredu’r ddarpariaeth ar y campws. Mae aelodau o'r Tîm Glanhau wedi bod yn gyfrifol am dderbyn danfoniadau, dosbarthu cynhyrchion ac ailgyflenwi stoc. Tua diwedd y cynllun peilot, archebodd y Swyddog Project gynhyrchion trwy'r dosbarthwr Bunzl, cwmni y mae gan y Gwasanaethau Campws gysylltiad sefydledig ag ef ac sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi cynhyrchion eraill iddynt. Felly, argymhellir mai’r Gwasanaethau Campws sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddosbarthu ar y campws yn ei gyfanrwydd, gyda'r cyfrifoldeb ychwanegol o archebu cynhyrchion. Ar gyfer hyn, bydd angen i’r Gwasanaethau Campws gael dyraniad cyllideb o gwmpas £4,697.12 - £8,344.8 yn dibynnu ar gyfrifiadau pellach a'r nifer fydd yn manteisio ar y cynllun y flwyddyn academaidd nesaf. Gan fod gan y Gwasanaethau Campws bresenoldeb cyson ar y campws, argymhellir eu bod yn gyfrifol am fonitro lefelau stoc mewn peiriannau dosbarthu. Er mwyn sicrhau bod cynhyrchion ar gael i fyfyrwyr bob amser, gallai'r Grŵp Ymgyrchu Myfyrwyr gynorthwyo'r Gwasanaethau Campws trwy roi gwybod iddynt am unrhyw fannau sydd â stoc isel. Cynghorir ystyried cyflenwyr eraill ar wahân i Hey Girls. Er mwyn hwyluso hyn, dylai'r tîm yn Undeb Bangor rannu gwybodaeth gyda'r Gwasanaethau Campws am gyflenwyr a gwerthoedd amgylcheddol y cynllun, i alluogi gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chyflenwyr eraill. Yn ogystal, pe bai'r angen yn codi i osod peiriannau dosbarthu gwahanol yn y tymor hir, dylai'r Gwasanaethau Campws arwain ar ymchwilio a phrofi peiriannau dosbarthu yn seiliedig ar eu harbenigedd a'r wybodaeth a rennir gyda nhw am anghenion myfyrwyr o ran eu defnyddio.
21
4. Sefydlu grŵp ymgyrchu myfyrwyr. Roedd natur y cynllun peilot a'r ymgyrch dan arweiniad myfyrwyr wedi cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant a'i allu i ddiwallu anghenion a buddiannau myfyrwyr. Felly dylai'r ffocws ar ymgysylltu â myfyrwyr barhau trwy greu Grŵp Ymgyrchu Myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau ychwanegol. Er enghraifft, cynorthwyo i greu cynnwys ar gyfer yr ymgyrch tymor hir ar y cyfryngau cymdeithasol(dan arweiniad Undeb Bangor). Yn ogystal, gellid datblygu cysylltiadau cymunedol i roi cyfleoedd i fyfyrwyr wirfoddoli, codi arian a rhoi rhoddion er mwyn ymgyrchu neu addysgu y tu hwnt i'r Cynllun Tlodi ac Urddas Mislif. Er enghraifft, gweithio gydag ysgolion cynradd i addysgu am fislif neu weithio gyda'r elusen leol, Cylch Coch, i fynd i'r afael â thlodi mislif yng Ngogledd Cymru. Dylai'r cynllun tymor hir dynnu ar gysylltiadau a sefydlwyd eisoes trwy'r cynllun peilot megis cysylltiadau â Chyngor Gwynedd a'r elusen Cylch Coch. At hynny, dylid annog amrywiaeth eang o fyfyrwyr i ymuno â'r Grŵp Ymgyrchu Myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr o bob gender, myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a myfyrwyr o wahanol gymdeithasau a chyrsiau. Bydd hyn yn sicrhau bod anghenion pob myfyriwr yn cael eu cyfleu a'u hystyried ond hefyd bod agwedd mwy cytbwys at gynwysoldeb yn cael ei fabwysiadu wrth wneud penderfyniadau am y cynllun peilot a'r ymgyrch.
5. Parhau i gyflenwi cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio ar y campws. O ystyried poblogrwydd cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio am ddim a'r ymgyrch amgylcheddol, dylai'r cynllun tymor hir barhau i ddarparu mynediad at ddewis o gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio ar y campws. Mae hyn yn cynnig opsiwn mwy cynaliadwy yn ariannol na danfon i’r cartref gan y gellir prynu a dosbarthu cynhyrchion mewn swmp i'r campws, gan leihau costau postio a phecynnu. Gallai cynhyrchion fod ar gael i'w casglu o Undeb y Myfyrwyr a gallai'r tîm yn Undeb Bangor greu ffurflen ar-lein lle gallai myfyrwyr archebu cynhyrchion a’u casglu. uch as Halls of Residences and Common Rooms. Additional methods to communicate locations include on screens in Pontio, a map, recorded tour, through an all student email and in reels on Undeb Bangor’s Instagram.
7. Parhau ag ymgyrch addysgiadol ochr yn ochr â’r ddarpariaeth. Mae'r ymgyrch wedi llwyddo i weithio tuag at gyflawni urddas mislif i bawb sy'n cael mislif trwy addysgu a chodi ymwybyddiaeth am fislif trwy'r ymgyrch. Yn wyneb hyn, dylai'r agwedd addysgol barhau ochr yn ochr â darparu i adeiladu ar y llwyddiant hwn, dan arweiniad Undeb Bangor gyda mewnbwn Grŵp Ymgyrchu Myfyrwyr. Dylai’r cynnwys addysgol adlewyrchu buddiannau myfyrwyr o'r adborth. Mae canlyniadau'r Arolwg Myfyrwyr Terfynol ac adborth gan y Grŵp Llywio Myfyrwyr yn dangos y dylai'r ymgyrch amgylcheddol barhau, ynghyd â rhannu profiadau am fislif, addysg ar gyflyrau iechyd sy'n gysylltiedig â mislif neu’n effeithio arno a chynnwys sydd wedi ei anelu at fyfyrwyr gwrywaidd. Dylai cynnwys sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr gwrywaidd cisgender fod yn seiliedig ar adborth myfyrwyr i sicrhau eu bod yn gallu dysgu neu gymryd rhywbeth o'r wybodaeth a ddarperir.
22
8. Ymgyrchu ar lefel genedlaethol, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, HEFCW a phrifysgolion eraill yng Nghymru i lobïo Llywodraeth Cymru a sicrhau cyllid tymor hir ar gyfer cynlluniau tlodi ac urddas mislif. Er enghraifft, gellid creu dogfen a'i rhannu â Llywodraeth Cymru i ddangos gwahanol gynlluniau tlodi ac urddas mislif ar draws prifysgolion ac amlinellu eu llwyddiant. Dylai Undeb Bangor barhau i ddatblygu cysylltiadau gydag Undebau Myfyrwyr eraill ac annog trafodaeth rhwng Swyddogion Sabothol i rannu ymarfer gorau a chydweithio ar ddigwyddiadau, addysg a chodi ymwybyddiaeth.
5. Cyfeiriadau Binti. 2021. Binti. [online] Available at: <https://bintiperiod.org/> [Accessed 23 June 2021]. Bloodygoodperiod.com. 2021. [online] Available at: <https://www.bloodygoodperiod.com/> [Accessed 26 November 2020]. Murray, J., 2020. Testing times for students: food banks open at universities. The Guardian, [online] p.1. Available at: <https://www.theguardian.com/education/2020/mar/24/testing-times-forstudents-food-banks-open-at-universities> [Accessed 25 November 2020]. National Union of Students Wales, 2020. Ending Period Poverty Once and For All. National Union of Students Wales, pp.1-38. Plan International, 2018. Girls Experience of Menstruation in the UK. Break the Barriers. [online] Plan International. Available at: <https://plan-uk.org/file/plan-uk-break-the-barriers-report032018pdf/download?token=Fs-HYP3v> [Accessed 26 November 2020]. Plan International UK. 2021. 3 in 10 girls struggle to afford or access sanitary wear during lockdown. [online] Available at: <https://plan-uk.org/period-poverty-in-lockdown> [Accessed 25 June 2021]. The Alliance for Sustainability Leadership in Education, 2020. Period Poverty in Universities and Colleges. EUAC, pp.1-21.
6. Atodiad Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Peilot cysylltwch gyda undeb@undebbangor.com
23
www.UndebBangor.com