YMGYRCH LLEIHAU PLASTIG
Beth yw’r ymgyrch? Mae Undeb Bangor wedi bod yn gweithio'n galed dros y flwyddyn academaidd hon i addysgu myfyrwyr ynglŷn â chymryd camau i fod yn fwy cynaliadwy, ac yn benodol ynglŷn â sut i leihau eu defnydd o blastig. Enghreifftiau o'r hyn sydd eisoes wedi'i gyflawni yw sicrhau bod pob uned arlwyo yn bwynt cyflenwi dŵr, a sicrhau bod mygiau diodydd poeth i'w hailddefnyddio ar werth i bob myfyriwr. Rydym yn datblygu'r ymgyrch, ac yn gobeithio gwneud hynny trwy gael mwy o Glybiau, Cymdeithasau a phrojectau Gwirfoddoli i gymryd rhan.
What is the campaign? Undeb Bangor has been working hard to educate students on how they can act more sustainable, and in particular how they can reduce their plastic consumption. Examples of what we have achieved so far include making sure each catering outlet is a water refill point, and ensuring reusable hot drinks mugs are on sale for all students. We will be developing this campaign, and hope to do this by getting Clubs, Societies and Volunteering Projects more involved.
Sut gall Clybiau, Cymdeithasau neu Brosiect Gwirfoddoli gymryd rhan? Mae yna sawl ffordd i gymdeithasau gymryd rhan yn yr ymgyrch. Rydym yn eich annog i fod yn greadigol, a meddwl am ffyrdd y gallwch chi, fel Cymdeithas, leihau eich defnydd o blastig. Ond dyma rai pethau y gallwch eu hystyried:
Lleihau gwastraff plastig mewn digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol - Annog pob aelod i beidio â defnyddio cwpanau, cyllyll a chwpanau plastig
Ystyriwch yr adnoddau sydd gennych yn barod cyn archebu eitemau newydd - Mae'n werth cymryd golwg ar eich stoc cyn gwneud unrhyw bryniadau
Gwnewch eich siopa'n lleol pan fo hynny'n bosib - I geisio lleihau deunydd pecynnu diangen
Yn syml byddwn yn croesawu unrhyw ddulliau a gyflwynir gan gymdeithasau i weithredu'n gynaliadwy a lleihau eu defnydd o blastig.
How Clubs, Societies or Volunteering projects get involved? There are several ways to get involved with the campaign, we encourage you to be creative, and think of ways in which you can reduce your plastic consumption. Here are a few pointers:
Reducing plastic waste at social events & activities - Encourage members not to use plastic cups and cutlery etc.
Look at what you already have before ordering new items - It’s always worth having a look at what you’ve got before making any purchases.
Shop locally, where possible - In a bid to reduce packaging used to shipped products from outside Bangor.
In short, we welcome any ways that you as a Club, Society or Volunteering Project can act in a sustainable manner, and reduce your plastic consumption.
WWW.UNDEBBANGOR.COM/PLASTIC
PLASTIC REDUCTION CAMAPIGN
Beth i’w wneud nesaf? Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgyrch, rhannwch eich lluniau o beth bynnag rydych chi'n ei wneud i leihau gwastraff plastig ar Instagram gan ddefnyddio’r hashnod #BangorWerdd i sicrhau y byddem yn eu gweld! Os hoffech gael eich cynnwys mewn eitem gyhoeddusrwydd gan Undeb Bangor, anfonwch eich stori a/neu fideo/lluniau i greenerbangor@undebbangor.com Os ydych eisiau defnyddio Logo Bangor Ddi-Blastig ewch i undebbangor.com/logopack
What to do next? If you would like to get involved in the campaign, you can share photos of whatever you are doing to reduce plastic waste on Instagram and use the hastag #GreenerBangor to ensure that we’ll see them! If you would like to be included in a feature by Undeb Bangor, please send your story and/or video/photos to greenerbangor@undebbangor.com If you wished to use the Plastic Free Bangor logo, it is available at undebbangor.com/logopack
Sut i sicrhau fod eich lluniau/fideo yn ddefnyddiol? Y gorau yw'r ansawdd eich lluniau a fideo, y mwyaf defnyddiol ydyn nhw inni, i sicrhau y gallwn eu defnyddio a rhannu eich ymdrech a sut rydych chi yn lleihau defnydd o blastig
Lluniau - Ansawdd uchel - Goleuo da
Fideo - Goleuo da - Dim sŵn cefndir - Ei ffilmio ar ei ochr
How to ensure that your photos/video are usable? The better the quality of your photos and videos the more usable they are to us, to be able to use and share your efforts on how you’ve reduce your plastic consumption.
Photos - High quality - Good lighting
Videos - Filmed in landscape orientation - Good lighting - No Background noise
WWW.UNDEBBANGOR.COM/PLASTIC
Am ragor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â'r Is-lywydd Addysg, Mark Barrow, yn mark.barrow@undebbangor.com
For more information about this campaign, contact your VP Education, Mark Barrow, at mark.barrow@undebbangor.com