Polisi Codi Arian 1.
Crynodeb o'r Polisi 1. Mae'r polisi hwn yn dwyn sylw at y gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i Undeb Bangor a'r holl fyfyrwyr sy'n codi arian trwy gefnogaeth Undeb Bangor ymlynu atynt. 2. Ar adeg ei gyhoeddi, mae'r polisi hwn yn dilyn yr holl ganllawiau statudol perthnasol.
2.
Datganiad Polisi 1. Bydd Undeb Bangor yn ymlynu at Ddeddf Elusennau 2011 ar bob adeg a statudau perthnasol arall lle bo hynny'n briodol. Bydd newidiadau i'r gyfraith yn disodli'r holl ganllawiau yn y polisi hwn ac mae'r codwr arian yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn ymlynu'n unol â hynny. 2. Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i gynnig cyfle i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian yn ystod eu hastudiaethau. 3. Nod Undeb Bangor yw cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod o weithgareddau codi arian sy'n apelio at ein haelodaeth amrywiol o fyfyrwyr trwy gyfrwng y grŵp RAG a chefnogaeth i weithgareddau cymdeithasau neu glybiau eraill. 4. Rhaid i'r holl weithgareddau Codi Arian a ymgymerir gan Gymdeithasau, Clybiau Chwaraeon, projectau a grwpiau Gwirfoddoli Undeb Bangor gael eu gwneud trwy'r grŵp RAG. 5. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod yr holl weithgareddau codi arian a wneir gan fyfyrwyr yn cael eu cofnodi'n briodol trwy gyfrif RAG fel y gellir ei adrodd yn gywir yn flynyddol i'r corff myfyrwyr, y Brifysgol a rhanddeiliaid allanol. 6. Gall aelodau cymdeithas godi arian ar gyfer eu cymdeithas trwy ddefnyddio statws elusennol Undeb Bangor, neu gallent rannu'r arian rhwng eu cymdeithas ac elusen arall ar yr amod bod hyn wedi’i nodi’n glir ar yr holl ddeunyddiau codi arian. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu'n glir sut i wneud hyn.
3.
Cefnogaeth, Arweiniad a Hyfforddiant 1. Mae Undeb Bangor yn cyflogi staff parhaol i gynorthwyo myfyrwyr sy'n dymuno codi arian. Bydd cefnogaeth ac arweiniad yn cael eu cynnig i bob myfyriwr gan y tîm cyfleoedd myfyrwyr. Dylai pob myfyriwr sy'n cymryd rhan mewn codi arian a drefnir gan Undeb Bangor, gan gynnwys y gweithgareddau a drefnir gan y grŵp RAG, gysylltu â'r Cydlynydd Cyfleoedd (Gwirfoddoli a Chodi Arian) am unrhyw gefnogaeth cyn dechrau'r gweithgaredd codi arian.
2. Os na fydd y Cydlynydd Cyfleoedd (Gwirfoddoli a Chodi Arian) ar gael, dylai myfyrwyr gysylltu ag un o'r canlynol: Is-lywydd Cymdeithasau a'r Gymuned Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr (Cymdeithasau) Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr (Clybiau) Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr (Gwirfoddoli ac Ehangu Mynediad) Cynorthwyydd Cyfleoedd Myfyrwyr Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr 3. Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian yn derbyn hyfforddiant. Bydd pob grŵp myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant mewn codi arian fel rhan o'r hyfforddiant Pwyllgor. Gall staff yn yr Undeb gynnal hyfforddiant ad-hoc ar gyfer unigolion sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian. 4. Bydd Undeb Bangor yn cynhyrchu deunyddiau hyfforddi printiedig a digidol ar gyfer myfyrwyr y dylid eu hystyried cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian ar gyfer yr Undeb neu ar ei ran. Mae hyn yn cynnwys unrhyw godi arian a wneir fel rhan o gymdeithas RAG. 5. Yn aml, mae elusennau'n darparu eu hyfforddiant codi arian eu hunain cyn caniatáu i gyfranogwyr gymryd rhan yn eu digwyddiadau. Lle bo modd, bydd yr Undeb yn sicrhau bod yr hyfforddiant hwn yn cydymffurfio â'r telerau a nodir yn y polisi hwn. Pe buasid yn canfod nad yw'r hyfforddiant yn cydymffurfio; byddai'r Undeb yn ategu'r hyfforddiant gyda'n deunyddiau printiedig a digidol ein hunain. 4.
Treuliau: 1. Bydd Undeb Bangor yn anelu at gynnal y mwyafrif o'r gweithgareddau codi arian yn lleol i sicrhau bod myfyrwyr yn ysgwyddo'r costau lleiaf posibl. Mae hyn yn rhan o'n cenhadaeth sefydliadol i gyfoethogi profiad y myfyriwr trwy hyrwyddo gweithgareddau hwyliog sy'n datblygu ymdeimlad o gymuned. 2. Yn achlysurol, efallai y cynhelir rhai cyfleoedd codi arian sy'n ymestyn allan o'r ardal leol, i ddinasoedd mwy cyfagos. Mewn achosion o'r fath, bydd cludiant naill ai'n cael ei drefnu neu bydd unrhyw gostau cludiant yr eir iddynt yn cael eu talu gan Undeb Bangor. Trefnir ffynhonnell hynny gan y Tîm Cyfleoedd Myfyrwyr. 3. Efallai y bydd rhai digwyddiadau codi arian a gynhelir gan Undeb Bangor a'i aelodau cyswllt yn golygu ffi gofrestru. Cyfrifoldeb y cyfranogwyr fydd talu'r ffi hon ac ni chaiff ei derbyn fel cost resymol. 4. Efallai y bydd ffioedd gweinyddu eraill yn codi yn achos rhai digwyddiadau codi arian a gynhelir gan Undeb Bangor a'i aelodau cyswllt, megis brechiadau ar gyfer teithiau tramor. Cyfrifoldeb y cyfranogwyr fydd talu'r ffioedd hyn ac ni chânt eu derbyn fel costau rhesymol. Dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch ffioedd ychwanegol at ffi gofrestru at y Cydlynydd Cyfleoedd (Gwirfoddoli a Chodi Arian).
5.
Iechyd, Diogelwch a Rheoli Risg 1. Mae pob gweithgaredd codi arian a ymgymerir gan Undeb Bangor, gan gynnwys y grŵp RAG, yn ddarostyngedig i'n trefnau asesu risg. Rhaid gwneud asesiad risg ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd cyn dechrau arno, gan drefnu sesiynau cynefino a sesiynau briffio iechyd a diogelwch cynhwysfawr penodol ar gyfer pob gweithgaredd. Bydd y Cydlynydd/Cydlynwyr Cyfleoedd yn eich cynghori ynghylch eich rôl yn y trefnau hyn 2. Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i wella sgiliau cyflogaeth ein holl fyfyrwyr. Er mwyn cefnogi datblygiad sgiliau, rydym yn annog bod myfyrwyr sy'n codi arian yn cynnal eu hasesiadau risg eu hunain gan ddefnyddio templedi a chanllawiau Undeb Bangor, i un o'r tîm Cyfleoedd eu hadolygu a'u cymeradwyo, gan wneud gwelliannau lle bo angen. 3. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n codi arian gwblhau cynllun digwyddiadau a'i gyflwyno i'r tîm cyfleoedd, o leiaf 2 wythnos cyn i'w digwyddiad gael ei gymeradwyo. Lle bo angen, efallai y bydd angen trwyddedau awyr agored ychwanegol ar gyfer rhai digwyddiadau awyr agored a gynllunnir. Fe'ch hysbysir gan y tîm cyfleoedd os bydd angen hynny. 4. Bydd Undeb Bangor yn sicrhau bod gan bob gweithgaredd yswiriant priodol trwy gwblhau asesiadau risg a gymeradwyir gyda'n hyswirwyr. Ni fydd unrhyw weithgaredd nad yw wedi cael asesiad risg gyda'r adran Cyfleoedd Myfyrwyr wedi'i yswirio ac ni ddylai gael ei gynnal. Os bydd angen sicrhau yswiriant ychwanegol, trefnwr y digwyddiad a'r grŵp myfyrwyr sy'n gyfrifol am gost o'r fath. 5. Mae'r holl staff a gyflogir yn Undeb Bangor yn gyfrifol am sicrhau bod potiau codi arian sydd wedi'u lleoli yn eu gweithle wedi cael eu cymeradwyo gan y Cydlynydd Cyfleoedd (Gwirfoddoli a Chodi Arian) ac wedi'u cloi a'u selio trwy gydol y cyfnod amser y cânt eu harddangos. 6. Er mwyn sicrhau gonestrwydd a thryloywder wrth godi arian, rhaid nodi'n glir unrhyw bwrpas penodol i godi arian e.e. prynu offer, ar bob deunydd codi arian. Bydd angen rhoi eglurhad o'r hyn a fydd yn digwydd i unrhyw arian a godir os na fyddwch yn codi digon at y diben, neu'n codi gormod. Byddai'n arferol i chi gyfrannu'r arian hwn at yr elusen rydych yn codi arian ar ei chyfer. Os ydych chi yn y sefyllfa hon gellir cael cyngor gan y tîm Cyfleoedd.
6.
Defnyddio Bwcedi neu Botiau Casglu gan Elusennau 1. Mae gan Undeb Bangor ddetholiad o fwcedi neu botiau casglu y gall y grŵp RAG eu defnyddio. Gellir archebu'r rhain trwy'r adran Cyfleoedd Myfyrwyr neu'r Ganolfan Myfyrwyr trwy roi 48 awr o rybudd. 2. Mae proses arwyddo ar gyfer bwcedi casglu ar waith i reoli benthyca, defnyddio a dychwelyd bwcedi neu botiau casglu'n ddiogel. Mae'r drefn hon ynghlwm fel Atodiad 1.
3. Bydd pob bwced casglu wedi'i chau â sêl atal ymyrraeth a gymeradwyir gan y
diwydiant a dim ond aelodau staff Adran Cyllid Undeb Bangor a gaiff eu tynnu, a byddant yn sicrhau bod o leiaf dau berson yn ymwneud â thrafod a chofnodi'r arian a dderbynnir. Bydd pob bwced neu bot casglu a ddychwelir yn cael eu cadw mewn sêff nes bod y drefn hon wedi'i chwblhau. Yn achos unrhyw fwced sy'n cael ei golli neu ei ddychwelyd gyda sêl wedi torri, bydd y myfyriwr a lofnododd am y bwced yn cael ei ddiarddel a'i gwaharddo weithgareddau'r undeb. 4. Ymchwilir i fwcedi casglu sydd wedi'u colli/dwyn a bydd Undeb Bangor, ac os bydd angen Prifysgol Bangor, yn dilyn trefnau disgyblu. Pe bai gofyn am ddwysáu'r mater ymhellach, byddai'r awdurdodau priodol yn cael eu hysbysu . 5. Rhaid i'r bwced neu'r potiau casglu fod ym meddiant rhywun ar bob adeg. Rhaid i'r person hwn fod yn sobr a chyfrifol ar bob adeg. 6. Rhaid dychwelyd y bwcedi neu'r potiau casglu ar y dyddiad y cytunwyd arno ar y daflen llofnodi. Yna gall y myfyriwr/myfyrwyr gyfrif yr arian. 7. Pe bai casgliadau'n cael eu gwneud y tu allan i oriau agor Undeb Bangor, rhaid dychwelyd pob bwced i Brif Swyddfa Diogelwch Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor. Byddant yn sicrhau bod y bwcedi'n cael eu cludo'n ddiogel i Ganolfan Myfyrwyr Undeb Bangor y diwrnod gwaith canlynol. 8. Bydd yr holl arian yn cael ei dalu i'r cyfrif RAG cyn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r elusen y codwyd yr arian ar ei chyfer. Yn achos elusennau RAG, telir y swm ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, yn achos pob casgliad arall telir yr arian ar ôl i'r holl gasgliadau ar gyfer yr elusen honno gael eu gwneud. 7.
Trwyddedau Casglu neu Ganiatâd 1. Mae angen trwydded casgliad stryd, sydd ar gael gan Gyngor Gwynedd, ar gyfer unrhyw gasgliad arian a wneir y tu allan i adeilad y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr. I gael trwydded, dylai pawb sy'n bwriadu casglu arian gysylltu â'r Cydlynydd Cyfleoedd (Gwirfoddoli a Chodi Arian). 2. I gasglu arian ar eiddo preifat rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog neu reolwr y tir. Rhaid dangos pob caniatâd i'r tîm Cyfleoedd Myfyrwyr. 3. Mae methu â chael y trwyddedau priodol ar gyfer codi arian yn drosedd a gallai arwain at achos llys.
8.
Dewis Elusennau 1. Rhaid i unrhyw elusen a ddewisir fod wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau a bod â rhif elusennol cofrestredig. Rhaid arddangos y rhif hwn ar yr holl ddeunyddiau codi arian sy'n ymwneud â'r digwyddiad(au) codi arian.
2. Os dewisir mwy nag un elusen, rhaid arddangos manylion yr holl elusennau
ar yr holl ddeunyddiau codi arian sy'n ymwneud â'r digwyddiad/digwyddiadau codi arian a rhaid iddynt gadarnhau'r ganran a ddyrennir i bob elusen. Mae methu â gwneud hynny yn drosedd. 3. O ran elusennau RAG, byddir yn dewis y rhain mewn etholiad ar draws y campws ar ôl derbyn enwebiadau gan ddetholiad o elusennau lleol a chenedlaethol. 9.
Codi Arian ar gyfer Undeb Bangor 1. Gellir codi arian yn elusennol ar ran yr Undeb. Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn elusen gofrestredig (rhif elusen 1177930). Mae'n gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif cwmni 11295063), a'i swyddfa gofrestredig yw 4ydd Llawr Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd, LL57 2TQ undeb@undebbangor.com. Mae angen i'r sticeri nodi bod 'Rhoddion i gefnogi RAG a gweithgareddau eraill a gefnogir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor - Rhif elusen: 1177930, Rhif cwmni: 11295063'
Atodiad un: Casgliadau RAG Bydd gan bob aelod awdurdodedig o RAG Gerdyn Adnabod RAG Bydd aelodau awdurdodedig RAG (rhaid i 2 fod yn bresennol) yn casglu ac yn
llofnodi am fwcedi a thagiau (2 i bob bwced) o'r Ganolfan Myfyrwyr / swyddfa Cyfleoedd lle bydd rhif y bwced a rhifau'r tagiau yn cael eu cofnodi. Bydd aelod o staff ac aelod o RAG yn llofnodi am eu derbyn. Bydd y bwcedi casglu yn cael eu cludo gan o leiaf 2 aelod o RAG ar bob adeg ac maent i'w dychwelyd i'r Ganolfan Myfyrwyr yn ystod ei horiau agor, ac fel arall rhaid mynd â'r bwcedi i swyddfa Ddiogelwch Prif Adeilad y Celfyddydau. Bydd staff Diogelwch Prif Adeilad y Celfyddydau yn llenwi cofnod casglu, gan nodi rhif y bwced, rhifau'r tagiau ac enwau'r aelodau RAG a gyflwynodd y bwced. Caiff hwn ei lofnodi gan y staff diogelwch ac aelodau RAG. Bydd Diogelwch yn trefnu i'r bwced(au) casglu gael eu danfon i'r Ganolfan Myfyrwyr yn ystod oriau agor ar y diwrnod gwaith canlynol, ochr yn ochr â'u casgliadau arferol. Yna bydd yr aelod staff Undeb Bangor sy'n eu derbyn yn llofnodi'r cofnod casglu a'i roi ar ffeil. Bydd angen i aelodau RAG (eto gydag o leiaf dau yn bresennol) lofnodi am y bwced wedi'i lenwi unwaith eto, a'i agor o flaen Staff Undeb Bangor, fel y gellir ei gyfrif, yn swyddfeydd Undeb Bangor. Rhaid cyflwyno'r cyfanswm terfynol (ar ôl ei gyfrif) a'i gofnodi ar y cofnod casglu, a'i ychwanegu at gyfanswm cyfredol blynyddol RAG.