10fed o Fawrt h 2018
• Campws Llambed •
Cystadlaethau Llwyfan 1
Unawd offerynnol - hunanddewisol
14
Parti Cerdd Dant (hyd at 20 mewn nifer) - hunanddewisol
2
Ensemble offerynnol - hunanddewisol
15
Unawd allan o sioe gerdd - hunanddewisol
3
Llefaru unigol - hunanddewisol
16
Sgets - hunanddewisol
4
Unawd Cerdd Dant - hunanddewisol
17
Grŵp dawnsio creadigol
5
Stepio unigol
18
Deuawd Doniol - hunanddewisol
6
Unawd Alaw Werin - hunanddewisol
19
Cyflwyniad Theatrig - hunanddewisol
7
Stepio i grŵp o ddau neu fwy
20
Meimio i unrhyw gân neu ganeuon Cymraeg
8
Grŵp Dawnsio Gwerin
21
Bing Bong (un cystadleuydd o bob Prifysgol i gystadlu)
9
Deuawd agored neu ddeuawd Cerdd Dant - hunanddewisol
22
Côr Sioe Gerdd - hunanddewisol
10
Unawd Merched - hunanddewisol
23
Côr Bechgyn - ‘Cerddwn Ymlaen’, Dafydd Iwan, Cyhoeddiadau Sain (tr. Alwyn Humphreys)
11
Unawd Bechgyn - hunanddewisol
12
Ensemble Lleisiol - hunanddewisol
24
Côr Merched – ‘Angor’, Tudur Huws Jones Cyhoeddiadau Sain (tr. Catrin Wyn Hughes)
13
Grŵp llefaru - Far Rockaway gan Iwan Llwyd
25
Côr SATB – ‘Y Geiriau Bychain’, Eric Jones Cyhoeddiadau Curiad (3178) Geiriau Cymraeg: Ceri Wyn Jones
Cystadlaethau Gwaith Cartref
Dylid anfon eich gwaith cartref at Lywydd pob Cymdeithas/Undeb Myfyrwyr Cymraeg. Dylai Llywydd pob sefydliad anfon yr holl waith yn electronig at rhynggol18@gmail.com erbyn Dydd Gwener, Chwefror 16eg 2018. Dylid cyflwyno pob darn o waith yn yr adran Gwaith Cartref gyda ffugenw arno. Dylid defnyddio ffugenw gwahanol ar gyfer pob darn o waith a gyflwynir. Dylai Llywydd pob Cymdeithas/Undeb Myfyrwyr Cymraeg ffurfio dogfen gyda ffugenwau’r cystadleuwyr oll a’r enw cyfatebol go iawn wrth ei ymyl, a’i hanfon at rhynggol18@gmail.com.
1. Barddoniaeth
2. Rhyddiaith
1.1
Cystadleuaeth y Gadair: Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell: ‘Gweld’
2.1 Cystadleuaeth y Goron: Darn neu ddarnau o ryddiaith heb fod dros 5,000 o eiriau ar y testun: ‘Disgwyl’
1.2
Englyn: ‘Pridd’
1.3
Parodi: ‘Glas’ gan Bryan Martin Davies
2.2 Casgliad o lên meicro dim mwy na 10 darn: ‘Mwg’ 2.3 Ymson: ‘Darlithydd’
1.4
Soned: ‘Rhifau’
2.4 Stori fer: ‘Tri’
1.5
Cyfieithiad: Unrhyw gerdd Gymraeg heb fod dros 20 llinell. Gellid cynnig cyfieithiad i’r Saesneg, Almaeneg, Sbaeneg neu Ffrangeg (rhaid darparu copi o’r gwreiddiol ynghyd â’r cyfieithiad)
2.5 Brawddeg: ‘Y GORLLEWIN GWYLLT’
1.6
Cerdd ar unrhyw fesur ar wahân i’r englyn neu’r soned heb fod dros 18 llinell: Baner
2.6 Golygfa agoriadol drama na chymer mwy na 5 munud i’w pherfformio: ‘Y Trên’ 2.7 Araith wleidyddol dim mwy na 800 gair
Cystadlaethau Gwaith Cartref 3. Adran y Dysgwyr
6. Y Fedal Gelf
Medal y Dysgwyr
6.1 Bydd y gystadleuaeth hon yn mynd i’r afael â’r ystod eang o bosibiliadau o Gelf a Dylunio
3.1 Stori fer ar y testun: ‘Yr Afon’* 3.2 Cerdd ar y testun: ‘Hadau’*
Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr mewn ymateb i’r thema: ‘Chwedlau’.
3.3 Blog am y profiad o fod yn y brifysgol 3.4 Erthygl yn annog eraill i ddysgu Cymraeg * Cyflwynir medal y dysgwyr i'r ymgeisydd gorau yng nghystadlaethau 3.1 a 3.2.
4. Y Fedal Ddrama 4.1 Drama fer a chymer hwy na 30 munud i’w pherfformio.
5. Tlws y Cerddor 5.1 Cyfansoddi darn a fyddai’n addas i’w berfformio ar lwyfan*. Caiff fod ar gyfer grŵp lleisiol neu grŵp offerynnol heb fod yn hwy na 10 munud. *Dylid cyflwyno’r gwaith ar ffurf trac digidol a chopi print o’r gerddoroaith ynghyd â’i gilydd. Gwneler hyn trwy’r un dull â gweddill y cystadlaethau Gwaith Cartref.
Caiff hyn fod mewn unrhyw broses celf a dylunio (e.e. ffotograffiaeth, peintio, argraffu, cerameg, tecstilau, dylunio cynnyrch, dylunio moduro, darlunio, ffilm, cyfryngau, dylunio graffeg, gwaith digidol, animeiddio). Dylid cyflwyno un darn o waith ar y thema. Dylid cyflwyno’r gwaith yn electronig mewn cyfres o hyd at 4 ffotograff digidol, ffilm fer neu animeiddiad nad yw’n fwy na 4 munud o hyd sydd yn dangos: • y darn yn ei gyfanrwydd • manylder y darn • maint y darn • ac os yn berthnasol agwedd arall o’r darn (yn enwedig mewn gwaith 3D). Bydd y darnau llwyddiannus yn nhyb y beirniaid yn cael eu harddangos yn ystod yr Eisteddfod. Trefnir hyn gyda'r enillwyr o flaen llaw.
Y Twrnament Chwaraeon
Merched Rygbi 7 bob ochr Pêl Rwyd Pêl Droed 7 bob ochr
Bechgyn Pêl Droed 11 bob ochr Rygbi 7 bob ochr
Bydd pob cystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ffurf cystadleuaeth gwpan, brynhawn dydd Gwener y 9fed o Fawrth ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd nifer y gemau, ac felly amseroedd pob gêm yn dibynnu ar nifer y prifysgolion sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Cyhoeddir trefn y penwythnos yn agosach at y dyddiad.
Y Strwythur Marcio 2il
3ydd
Y Llwyfan
10
6
4
pwynt
phwynt
pwynt
Yn achos cystadleuaeth y Cor SATB, dyfernir y pwyntiau fel y ganlyn:
30
20
10
pwynt
pwynt
pwynt
Gwaith Cartref
10
6
4
pwynt
phwynt
pwynt
50
30
20
pwynt
pwynt
pwynt
20
10
5
pwynt
pwynt
pwynt
>
1af
Yn achos y Prif Gystadlaethau*, dyfernir y pwyntiau fel y ganlyn: *Noder y ‘Prif Gystadlaethau’ yw cystadlaethau: Y Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Ddrama, Y Fedal Gelf.
Chwaraeon
Rheolau Cyffredinol Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod. Mae’n rhaid i’r cyfansoddiadau a’r cystadlu fod yn y Gymraeg ag eithrio cystadlaethau nad ydynt yn cynnwys iaith o gwbl gan y cystadleuwyr, h.y. Dawnsio Disgo, Ffotograffiaeth a.y.y.b. Noder bod rhaid i unrhyw eiriau a osodir fod yn Gymraeg. Mewn cystadleuaeth hunanddewisol, dylai’r mwyafrif helaeth o’r gosodiad fod yn Gymraeg, ond caniateir defnydd o iaith arall i ddiben y gosodiad. Ni chaniateir gorddefnydd o’r iaith honno. Bydd y beirniad priodol yn penderfynu ar hyn yn unol â rheolau’r Eisteddfod. Yn y cystadlaethau dawnsio, caniateir unrhyw gerddoriaeth offerynnol yn gyfeiliant, neu gyfeiliant yn yr iaith Gymraeg. Y Gymraeg yn unig fydd iaith y llwyfan. Bydd yr Eisteddfod yn agored i holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr mewn colegau Prifysgol a cholegau Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt. Dylid ymdrechu i ddarparu copi ar gyfer y beirniad mewn cystadlaethau hunanddewisol lle bo hynny’n briodol Caniateir y defnydd o gopïau yng nghystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod gan leiafrif y cystadleuwyr a gymerant ran. Un cystadleuydd/grŵp o gystadleuwyr o bob sefydliad gall gystadlu ymhob cystadleuaeth llwyfan. Dyfernir pwyntiau yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod yn unol â’r Strwythur Marcio. Y coleg â’r nifer uchaf o bwyntau ar derfyn yr Eisteddfod fydd yn fuddugol. Rhoddir gwobrau i’r buddugwyr (os bydd teilyngdod) yng nghystadlaethau’r Gadair, Y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Ddrama, Y Fedal Gelf ac i arweinydd y Côr Buddugol. Cyflwynir Tarian yr Eisteddfod i’r coleg buddugol.
Bydd dyfarniad y beirniad yn derfynol ym mhob achos yng nghystadlaethau’r Eisteddfod. Ni chaniateir cydradd buddugol yn y cystadlaethau llwyfan nac yn y cystadlaethau gwaith cartref. Caniateir, fodd bynnag, osod cydradd ail a/neu gydradd drydydd. Dylid cyflwyno pob darn yn yr adran Gwaith Cartref yn electronig trwy law Llywydd y Gymdeithas/Undeb Myfyrwyr Cymraeg erbyn 5 o’r gloch ar y 16eg o Chwefror 2018. Cyfrifoldeb Llywydd Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg pob prifysgol yw cyflwyno gwaith cartref myfyrwyr a rhestr o gystadleuwyr llwyfan a thimau chwaraeon o’u prifysgolion eu hunain. Os nad oes darpariaeth o’r fath mewn coleg, dylai unigolion gyflwyno’r gwaith eu hunain. Dylid rhoi gwybod pa dimau chwaraeon fydd yn cystadlu ar ran y colegau cyn gynted â phosib. Dylid ymdrechu i ddarparu rhestr o gystadleuwyr llwyfan fore’r Eisteddfod. Cyfrifoldeb pwyllgor Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg y colegau yw sicrhau bod unrhyw reoliadau hawlfraint wedi eu boddhau. Eu cyfrifoldeb nhw yw cael gafael ar gopïau. Bydd Pwyllgor yr Eisteddfod yn penderfynu a yw’r cystadleuaethau chwaraeon yn mynd yn eu blaenau yn dilyn ymgynghoriad gyda swyddogion y Brifysgol ac Undeb y myfyrwyr. Cedwir pob hawl i ddiwygio’r testunau gwreiddiol ar alw Pwyllgor yr Eisteddfod am ba reswm bynnag. Gwneir pob ymderch i hysbysebu’r colegau o newid o’r fath cyn gynted â bod modd. Mewn achosion arbennig, gall Pwyllgor yr Eisteddfod dderbyn ceisiadau gan golegau a ddymunent ddod ynghyd â chystadlu fel Ffederasiwn e.e. casgliad o golegau Llundain. Cedwir pob hawl gan Bwyllgor yr Eisteddfod i ddarlledu a thynnu lluniau o ddiwrnod yr Eisteddfod fel y dymunir. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad yn ysgrifenedig at sylw Pwyllgor yr Eisteddfod.
Eisteddfod Ryng-golegol Y Drindod Dewi Sant 2018
rhynggol18@gmail.com
@rhynggol18