Cwestiynau Cyffredin am
Etholiadau’r Swyddogion Sabothol
Sut gallaf fod yn Swyddog Sabothol?
Nid yw bod yn Swyddog Sabothol fel ‘swydd’ arferol! Caiff deiliaid y swyddi hyn eu dewis trwy etholiad sy'n agored i'r gymuned fyfyrwyr gyfan. Rydych yn enwebu eich hun ar gyfer yr un swydd sy'n apelio fwyaf atoch. Fel rhan o'ch enwebiad, mae angen i chi feddwl am lunio maniffesto, paragraff o destun sy’n egluro pam y dylai myfyrwyr bleidleisio drosoch ac sy’n cynnwys ychydig o wybodaeth amdanoch eich hun a'r hyn rydych yn bwriadu ei gyflawni os cewch eich ethol yn Swyddog Sabothol.
Pwy all sefyll yn yr etholiadau?
Cyn belled â'ch bod yn fyfyriwr cofrestredig, cyfredol ym Mhrifysgol Bangor, gallwch sefyll yn Etholiadau’r Swyddogion Sabothol. Does dim rhaid i chi fod yn byw ar gampws Bangor, gallwch fod ar gampws lloeren yn y Deyrnas Unedig neu ar gampws lloeren rhyngwladol. Ond os byddwch yn llwyddiannus yn yr etholiad, bydd yn ofynnol i chi weithio o Fangor dros gyfnod y swydd.
Os nad ydych yn sicr am eich statws fel myfyriwr, cysylltwch â Gweinyddu Myfyrwyr a fydd yn gallu eich cynorthwyo.
Beth yw Swyddogion Sabothol?
Arweinwyr Undeb y Myfyrwyr; nhw sy'n penderfynu beth fydd yr Undeb yn ymgyrchu drosto, pa ddigwyddiadau i'w cynnal, ac yn cynrychioli myfyrwyr ar y lefelau uchaf ar draws y Brifysgol.
Maent yn gweithio gyda gwahanol grwpiau o fyfyrwyr dros y flwyddyn i gyflwyno newidiadau cadarnhaol ar draws Prifysgol Bangor.
Mae gan bob Swyddog Sabothol ei gylch gorchwyl ei hun y maent yn gyfrifol amdano.
A fyddaf yn cael fy nhalu?
Byddwch. Y cyflog presennol yw £22,681.
A allaf gyflawni’r swydd ac astudio ar yr un pryd?
Na allwch. Mae bod yn Swyddog Sabothol yn waith llawn amser a byddwch yn gweithio
37.25 awr yr wythnos yn Undeb y Myfyrwyr. Felly ni fydd gennych ddigon o amser i astudio ochr yn ochr â hynny a bydd yn rhaid i chi gymryd blwyddyn i ffwrdd o’ch astudiaethau.
Os ydych yn fyfyriwr meistr sydd ar fin cwblhau eu hastudiaethau ym mis Medi a’ch bod â diddordeb mewn sefyll ar gyfer un o swyddi’r Swyddogion Sabothol, cysylltwch â ni drwy etholiadau@undebbangor.com
Rydw i’n fy mlwyddyn gyntaf o astudio, a allaf sefyll yn yr etholiad?
Gellwch. Cyn belled â'ch bod yn fyfyriwr cofrestredig, cyfredol ym Mhrifysgol Bangor, gellwch sefyll yn Etholiadau’r Swyddogion Sabothol, waeth pa gam o’ch cwrs rydych arno. Ond mae’n rhaid i chi gofio, os byddwch yn llwyddiannus ac yn cael eich ethol i'r swydd, y bydd angen i chi gymryd blwyddyn i ffwrdd o'ch astudiaethau.
Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol, a allaf sefyll yn yr etholiad?
Gellwch! Gellwch fod yn Swyddog Sabothol o dan amodau fisa Myfyriwr/Haen 4.
Gellwch hefyd fod yn Swyddog Sabothol ar ôl graddio yn y flwyddyn academaidd yn syth ar ôl cwblhau eich astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y tîm yma yn Undeb Bangor yn gallu eich helpu trwy’r broses hon os byddwch yn llwyddiannus yn yr etholiad.
Rwy'n fyfyriwr PhD ac yn cael fy ariannu gan gyngor ymchwil neu gan grant arall. Sut bydd hyn yn effeithio ar fy nghyfle i sefyll am swydd fel Swyddog Sabothol?
Byddwch yn gymwys i sefyll yn yr etholiad, ond bydd angen i chi wirio gyda pha bynnag gorff sy'n darparu'r cyllid ar gyfer eich astudiaethau i weld a fyddant yn caniatáu i chi gymryd blwyddyn i ffwrdd.
Ymhle mae’r swydd wedi'i lleoli?
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Undeb Bangor, 4ydd Llawr Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor.
Ydy'r swydd yn waith 9 tan 5?
Ydy. Mae'r swyddi’n llawn amser ac yn golygu gweithio 37.25 awr yr wythnos. Weithiau bydd yn rhaid gweithio y tu allan i'r oriau hyn, am fod digwyddiadau y bydd yn rhaid i Swyddogion Sabothol fod yn bresennol ynddynt hefyd yn cael eu cynnal gyda’r hwyr ac ar benwythnosau yn ystod y flwyddyn academaidd.
Pa swyddi sydd ar gael fel Swyddogion Sabothol?
Mae gan Undeb Bangor bum Swyddog Sabothol, sef:
• Llywydd
• Is-lywydd Addysg
• Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli
• Is-lywydd Chwaraeon
• Llywydd UMCB
Gyda phwy y gallaf siarad os oes gennyf ddiddordeb mewn sefyll yn yr etholiadau?
Mae’r Tîm Llais Myfyrwyr bob amser yma i helpu ac ateb unrhyw gwestiynau. Gellwch gysylltu â ni naill ai drwy anfon e-bost at etholiadau@undebbangor.com neu at llaismyfyrwyr@undebbangor.com
Am faint o flynyddoedd y gallaf fod yn Swyddog Sabothol?
Yn ôl amodau’r Ddeddf Addysg, gallwch fod yn Swyddog Sabothol am uchafswm o 2 flynedd. Gallwch ddarllen mwy am y Ddeddf Addysg yma.
Pleidleisio
Sut mae pleidleisio?
Cynhelir y bleidlais drwy wefan Undeb Bangor. Yn ystod y cyfnod pleidleisio, bydd y bleidlais yn ymddangos ar dudalen hafan y wefan a byddwch hefyd yn dod ar draws aelodau o staff Undeb y Myfyrwyr yn crwydro’r campws yn dosbarthu dolenni i’r bleidlais.
Pan ddaw'r amser bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru fel myfyriwr ar wefan Undeb Bangor er mwyn gallu bwrw eich pleidlais.
Pam ei bod hi’n bwysig fy mod yn pleidleisio?
Mae swyddi'r Swyddogion Sabothol yn bodoli er mwyn arwain Undeb y Myfyrwyr ar ran y corff myfyrwyr ehangach. Mae'n bwysig eich bod yn pleidleisio dros bwy bynnag y credwch y byddai’n eich cynrychioli orau ar y lefelau uchaf ar draws y brifysgol a hefyd wrth benderfynu ar yr ymgyrchoedd sydd bwysicaf i fyfyrwyr. Eich pleidlais yw eich cyfle i fynegi eich barn.
Rwy'n sefyll yn yr etholiad, a allaf bleidleisio drosof fi fy hun?
Gellwch, fe gewch.
Sabbatical Officer Election FAQs
How can I become a Sabbatical Officer?
The role of Sabbatical Officer isn’t like a normal ‘job.’ It is chosen via an election that is open to the whole student community. You nominate yourself for one role that appeals to you most. As part of your nomination, you need to think about your manifesto which is a paragraph about why students should vote for you, some information about yourself and what you plan to achieve if you were to be voted as a Sabbatical Officer.
Who can run in elections?
As long as you are a current, registered student of Bangor University, you can run in the Sabbatical Officer Elections. It doesn’t matter if you are based on Bangor’s campus, a UK satellite campus or an international satellite campus. However, if you are successful in the election, you will be required to be based from Bangor for the duration of the role.
If you’re ever not sure about your student status, please get in touch with Student Admin who can support you further.
What are Sabbatical Officers?
The leaders of the Students’ Union; they decide what the Union should be campaigning about, what events to run and represent students at high levels across the University. They work with different student groups throughout the year to make positive changes across Bangor University.
Each Sabbatical Officer has their own remit that they are responsible for.
Do I get paid?
Yes. The current salary is £22,681.
Can I do the role alongside my studies?
No. The Sabbatical Officer role is full time, and you will be working 37.25 hours a week, based in the Students’ Union. As a result, you won’t have time to complete your studies alongside this too and will have to take a year out.
If you are a master's student, due to complete your studies in September and are interested in running for a Sabbatical Officer role, please get in touch with us on elections@undebbangor.com
I am in my first year of study, can I still run in the election?
Yes. As long as you are a registered current student at Bangor University, you can run in the Sabbatical Officer election, no matter what stage of study you are at. You do need to keep in mind though that if you are successful and elected into the role, you will need to take a year out of your studies.
I’m an international student, can I still run in the election?
Yes! You can become a Sabbatical Officer under the Student/Tier 4 visa. You can also become a Sabb as a new graduate in the academic year immediately following the completion of your studies at Bangor University. The team here at Undeb Bangor can help you to navigate through this process if you are successful in the election.
I am a PhD student who is funded by a research council or other grant. How will this impact my running for a Sabbatical Officer position?
You are eligible to run in the election, but you will need to check with whoever is providing the funding for your studies to see whether they will allow you take a year out.
Where is the role based?
The role is based from Undeb Bangor, 4th Floor, Pontio, Deiniol Road, Bangor.
Is the role 9-5?
Yes. The roles are full time, working 37.25 hours a week. Sometimes, there are events throughout the academic year outside of these times that Sabbatical Officers will have to attend too.
What Sabbatical Officer Roles are available?
Undeb Bangor has five Sabbatical Officer Roles. These are:
• President
• Vice President of Education
• Vice President of Societies and Volunteering
• Vice President of Sport
• Llwydd UMCB
Who can I speak to if I’m interested in running in the elections?
The Student Voice Team are always here to help and answer any questions you may have. You can get in touch with us by either emailing elections@undebbangor.com or studentvoice@undebbangor.com
How many years can I remain a Sabbatical Officer?
Due to the Education Act, you can remain a Sabbatical Officer for a maximum of 2 years. You can read more about the Education Act here.
Voting
How do I vote?
The vote is run via the Undeb Bangor website. During the voting period, it will appear on the homepage of the website, and you’ll also find Student Union staff walking around campus with links to how you can vote.
You need to make sure that you are registered on the Undeb Bangor website as a student so that you are able to cast your vote when the time comes.
Why is it important that I vote?
The Sabbatical Officers’ roles are there to help guide the Students’ Union on the wider student body’s behalf. It is important that you vote for you who want to best represent you at high levels across the university and also when we’re choosing campaigns that matter to students the most. Your vote is your chance to have your say.
I’m running in the election; can I vote for myself?
Yes, you can.