Canllawiau Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor Rhagarweiniad Mae'n wych bod gennych ddiddordeb mewn dod yn Swyddog Sabothol Undeb Bangor. Bydd y canllawiau hyn yn esbonio popeth rydych angen ei wybod am yr hyn sydd arnoch angen ei wneud i sefyll fel Swyddog Sabothol, yn ogystal â'r rheolau a'r rheoliadau sy'n sail i broses Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor. Yn fyr caiff Swyddogion Sabothol Undeb Bangor eu hethol gan y corff myfyrwyr i arwain Undeb Bangor (Undeb y Myfyrwyr). Byddant yn penderfynu ar gyfeiriad a blaenoriaethau Undeb Bangor ac yn cynrychioli corff y myfyrwyr. Byddant yn gweithio ar brojectau a chynlluniau dros y flwyddyn i wneud yn siŵr bod y profiad myfyrwyr yma ym Mangor cystal ag y gall fod. Fel cynrychiolwyr corff y myfyrwyr byddant hefyd yn sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr a'i waith yn berthnasol i fyfyrwyr wrth weithio'n uniongyrchol gyda'r Brifysgol i sicrhau yr ystyrir buddiannau myfyrwyr. Y Swyddogion Sabothol yw pedwar swyddog traws-gampws ac un swyddog Undeb Cymraeg. Rhaid i'r Swyddogion Traws-Gampws gael eu hethol trwy bleidlais gyfrinachol gan y Myfyrwyr sy’n Aelodau mewn etholiad a gynhelir yn unol â'r Is-ddeddfau. Bydd y Swyddog Undeb Cymraeg yn cael ei ethol gan yr Undeb Cymraeg mewn etholiad a gynhelir yn unol â'r Is-ddeddfau. Cewch swydd-ddisgrifiadau llawn o bob swydd Sabothol yn https://cy.undebbangor.com/eichllais/etholiadau/ Pwy all fod yn Swyddog Sabothol Undeb Bangor? Mae gan unrhyw fyfyriwr gyfle i ddod yn swyddog sabothol traws-gampws yn unol â'r Is-ddeddfau. Dim ond myfyrwyr sy’n aelodau o UMCB (Yr Undeb Cymraeg) sydd â'r hawl i bleidleisio ac i sefyll am swydd y Swyddog Undeb Cymraeg. Ar wahân i hynny, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw hidio am wneud newidiadau cadarnhaol i fyfyrwyr, enwebu eich hun ar-lein yn ystod y cyfnod enwebu ac yna cael myfyrwyr i bleidleisio drosoch pan ddaw'r amser. Rydym yn darparu rhaglen hyfforddiant lawn a chynhwysfawr i bawb a etholir ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Er mwyn bod yn llwyddiannus yn unrhyw un o'r swyddi uchod yr hyn sydd ei angen yw gallu cynnig syniadau a chreadigrwydd, a dangos brwdfrydedd ac egni. Mae gennym hefyd dîm llawn o staff sy'n gweithio i gefnogi a datblygu'r Tîm Swyddogion Sabothol. Cysylltiadau Allweddol a Swyddogion Etholiadau Os oes gennych gwestiynau dewch draw am sgwrs i Undeb Bangor ar 4ydd llawr Pontio, rhowch alwad i ni ar 01248 388000 neu anfonwch e-bost atom i elections@undebbangor.com. Isod, ceir rhai cysylltiadau allweddol eraill: Cysylltu Cyfrifoldebau Natasha Sellers Yn gyfrifol am logisteg etholiadau a helpu i gael myfyrwyr Cydlynydd Democratiaeth a Chynrychiolaeth i gymryd mwy o ran. Natasha.sellers@undebbangor.com Siaradwch gyda Rob os ydych chi am wybod mwy am 01248 388017 sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiad neu os oes gennych
1