Canllawiau Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor Rhagarweiniad Mae'n wych bod gennych ddiddordeb mewn dod yn Swyddog Sabothol Undeb Bangor. Bydd y canllawiau hyn yn esbonio popeth rydych angen ei wybod am yr hyn sydd arnoch angen ei wneud i sefyll fel Swyddog Sabothol, yn ogystal â'r rheolau a'r rheoliadau sy'n sail i broses Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor. Yn fyr caiff Swyddogion Sabothol Undeb Bangor eu hethol gan y corff myfyrwyr i arwain Undeb Bangor (Undeb y Myfyrwyr). Byddant yn penderfynu ar gyfeiriad a blaenoriaethau Undeb Bangor ac yn cynrychioli corff y myfyrwyr. Byddant yn gweithio ar brojectau a chynlluniau dros y flwyddyn i wneud yn siŵr bod y profiad myfyrwyr yma ym Mangor cystal ag y gall fod. Fel cynrychiolwyr corff y myfyrwyr byddant hefyd yn sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr a'i waith yn berthnasol i fyfyrwyr wrth weithio'n uniongyrchol gyda'r Brifysgol i sicrhau yr ystyrir buddiannau myfyrwyr. Y Swyddogion Sabothol yw pedwar swyddog traws-gampws ac un swyddog Undeb Cymraeg. Rhaid i'r Swyddogion Traws-Gampws gael eu hethol trwy bleidlais gyfrinachol gan y Myfyrwyr sy’n Aelodau mewn etholiad a gynhelir yn unol â'r Is-ddeddfau. Bydd y Swyddog Undeb Cymraeg yn cael ei ethol gan yr Undeb Cymraeg mewn etholiad a gynhelir yn unol â'r Is-ddeddfau. Cewch swydd-ddisgrifiadau llawn o bob swydd Sabothol yn https://cy.undebbangor.com/eichllais/etholiadau/ Pwy all fod yn Swyddog Sabothol Undeb Bangor? Mae gan unrhyw fyfyriwr gyfle i ddod yn swyddog sabothol traws-gampws yn unol â'r Is-ddeddfau. Dim ond myfyrwyr sy’n aelodau o UMCB (Yr Undeb Cymraeg) sydd â'r hawl i bleidleisio ac i sefyll am swydd y Swyddog Undeb Cymraeg. Ar wahân i hynny, yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw hidio am wneud newidiadau cadarnhaol i fyfyrwyr, enwebu eich hun ar-lein yn ystod y cyfnod enwebu ac yna cael myfyrwyr i bleidleisio drosoch pan ddaw'r amser. Rydym yn darparu rhaglen hyfforddiant lawn a chynhwysfawr i bawb a etholir ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Er mwyn bod yn llwyddiannus yn unrhyw un o'r swyddi uchod yr hyn sydd ei angen yw gallu cynnig syniadau a chreadigrwydd, a dangos brwdfrydedd ac egni. Mae gennym hefyd dîm llawn o staff sy'n gweithio i gefnogi a datblygu'r Tîm Swyddogion Sabothol. Cysylltiadau Allweddol a Swyddogion Etholiadau Os oes gennych gwestiynau dewch draw am sgwrs i Undeb Bangor ar 4ydd llawr Pontio, rhowch alwad i ni ar 01248 388000 neu anfonwch e-bost atom i elections@undebbangor.com. Isod, ceir rhai cysylltiadau allweddol eraill: Cysylltu Cyfrifoldebau TBC Yn gyfrifol am logisteg etholiadau a helpu i gael myfyrwyr Cydlynydd Democratiaeth a Chynrychiolaeth i gymryd mwy o ran. Siaradwch gyda Rob os ydych chi am wybod mwy am sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiad neu os oes gennych
1
Rob Samuel Dirprwy Swyddog Etholiad Rob.samuel@undebbangor.com 01248 383651 Rhys Dart Swyddog Etholiad R.Dart@uwtsd.ac.uk
Pwyllgor Etholiadau
unrhyw gwestiynau yn ystod yr ymgyrchoedd a'r cyfnod etholiadau. Bydd y Dirprwy Swyddog Etholiad yn goruchwylio a gweithredu proses yr etholiadau o ddydd i ddydd. Os oes rhywbeth yn aneglur gwiriwch y mater gyda'r person hwnnw cyn cymryd unrhyw gamau pellach. Er mwyn sicrhau bod ein hetholiadau'n dryloyw, yn deg ac yn ddemocrataidd rydym yn penodi rhywun allanol i oruchwylio dros bob etholiad ffurfiol Undeb Bangor. Y Swyddog Etholiad yw teitl y person hwnnw, a ganddyn nhw mae'r rheolaeth a'r awdurdod eithaf dros ddehongli a gweithredu'r rheolau a rheoliadau sy'n llywodraethu'r etholiadau. Er mwyn sicrhau bod ein hetholiadau yn ddemocrataidd ac yn deg mae gennym Bwyllgor Etholiadau sy'n sicrhau ar ran y corff myfyrwyr a’r Brifysgol bod yr etholiadau'n cael eu cynnal yn deg. Byddant yn cynorthwyo yn y gwaith o baratoi'r etholiadau a phenderfynu ar y rheolau, y cyhoeddusrwydd a chynnwys amryw o sesiynau briffio. Eu swyddogaeth yn ystod yr etholiad fydd cefnogi a diogelu’r broses ddemocrataidd a bod wrth law yn ystod y cyfnod ymgyrchu a'r cyfnod pleidleisio. Ni all aelodau'r Pwyllgor Etholiadau fod â chysylltiadau ag unrhyw ymgeisydd penodol na'u hymgyrchoedd.
Eich Rhestr Wirio Etholiadau Os ydych chi'n sefyll yn yr etholiadau, cadwch eich hun ar y trywydd cywir drwy ddefnyddio'r rhestr wirio hon.
Rhestr ‘pethau i’w gwneud’... Darllen y canllawiau etholiadau Penderfynu ar gyfer pa swydd i fynd amdani Enwebu fy hun ar-lein yn www.undebbangor.com/ubcelections Cyflwyno maniffesto i elections@undebbangor.com Cyflwyno slogan i elections@undebbangor.com Mynd i'r briffio i ymgeiswyr Gofyn unrhyw gwestiynau am bethau nad ydw i'n siŵr ohonynt Dylunio fy neunydd cyhoeddusrwydd Cyflwyno fy neunydd cyhoeddusrwydd i'w argraffu Dylunio a chyflwyno fy nhudalen maniffesto A5
2
Penderfynu os ydw i eisiau cyflwyno fideo etholiad dau funud i Undeb Bangor Cynllunio sut fyddai'n ymgyrchu am bleidleisiau Pleidleisio drosof fi fy hun Ymgyrchu ac annog myfyrwyr eraill i bleidleisio Cyflwyno manylion a derbynebau am yr holl wariant etholiadol erbyn 10am ar 08/03/19 Amserlen Etholiadau Digwyddiad
Diwrnod
Dyddiad
Amser
Dechrau'r cyfnod enwebu ar-lein
Dydd Llun
10 Rhagfyr
09:00
Sesiwn galw heibio anffurfiol i gael holi cwestiynau a chael cymorth yn ysgrifennu maniffesto. (Undeb y Myfyrwyr, Pontio)
Tbc
Tbc
Tbc
Diwedd y cyfnod enwebu ar-lein
Dydd Gwener
1 Chwefror
17:00
Briffio'r Ymgeiswyr (Undeb Bangor, Pontio)
Dydd Mawrth
5 Chwefror
18:00
Dyddiad Cau Maniffestos (uchafswm o 350 o eiriau) Cyflwyno i elections@undebbangor.com
Dydd Iau
7 Chwefror
17:00
Dyddiad Cau cyflwyno pob deunydd hyrwyddo, e.e. testun taflenni, posteri etc. (uchafswm o 350 o eiriau). Cyflwyno i elections@undebbangor.com
Dydd Iau
7 Chwefror
17:00
Cyfieithiadau'r holl gyhoeddusrwydd i'w dychwelyd i'r ymgeiswyr
Dydd Gwener
15 Chefror
Dyluniadau'r ymgeiswyr i'w dychwelyd i'r Undeb
Dydd Mawrth
19 Chwefror
17:00
Deunydd Etholiadol i'w ddychwelyd i'r ymgeiswyr
Tbc
Tbc
Tbc
Cyfnod Ymgyrchu'n Dechrau
Dydd Llun
25 Chwefror
09:00
Sesiwn Holi'r Ymgeiswyr (PL5, Pontio)
Dydd Iau
28 Chwefror
18:00
Dechrau’r Bleidlais Ar-lein
Dydd Mercher
6 Mawrth
00:00
Pleidleisio’n Cau Ar-lein
Dydd Gwener
8 Mawrth
12:00
3
Cyfri'r Pleidleisiau
Dydd Gwener
8 Mawrth
14:30
Cyhoeddi Canlyniadau'r Etholiadau (Undeb Bangor)
Dydd Gwener
8 Mawrth
16:00
Y Broses Etholiadau Dyma brif gamau a phrosesau sefyll yn Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor: Enwebiadau, eich maniffesto, eich cyhoeddusrwydd, ymgyrchu, pleidleisio a'r cyfrif. Enwebiadau Er mwyn sefyll mewn etholiad rhaid i enwebiad ffurfiol gael ei gyflwyno ar-lein trwy www.UndebBangor.com. Yn dilyn enwebiad llwyddiannus byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod yr enwebiad wedi'i dderbyn a chadarnhau'r ymgeisyddiaeth i'r etholiad. Ni dderbynnir enwebiadau a gyflwynir ar ôl y terfyn amser a hysbysebir. . Drwy gyflwyno enwebiad rydych yn cytuno i'r canlynol ac yn rhoi caniatâd i Undeb Bangor:
Gynnwys eich enw mewn cyhoeddusrwydd a datganiadau i'r wasg yn ymwneud ag Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich maniffesto/datganiad ysgrifenedig a ffotograff mewn cyhoeddusrwydd ar gyfer Etholiadau Undeb Bangor Arddangos eich enw a manylion cyswllt ar ein gwefan os cewch eich ethol yn llwyddiannus Anfon eich enw, cyfeiriad e-bost a Rhif Cerdyn Myfyriwr Prifysgol i'r Brifysgol iddynt wirio bod y wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi yn gywir
Maniffestos Anogir ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno maniffesto ymgeisydd. Ceir cyfyngiad geiriau caeth o 300 o eiriau i faniffestos. Gellir eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg a chânt eu cyfieithu gan Undeb Bangor. Rhaid cyflwyno maniffestos fel dogfen prosesu geiriau i elections@undebbangor.com erbyn y terfyn amser a nodir yn yr Amserlen Etholiadau. A fyddech cystal ag enwi eich dogfen yn y fformat canlynol: Maniffesto Enw’r Ymgeisydd. (e.e. Maniffesto Rob Samuel.docx) Beth yw maniffesto? Y maniffesto yw eich datganiad ynglŷn â pham eich bod yn sefyll yn yr etholiad, yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni os cewch eich ethol, manylion am eich prif bolisïau a pham y dylai myfyrwyr bleidleisio drosoch chi. Meddyliwch am y pwyntiau isod wrth lunio eich maniffesto: Beth ydych eisiau ei gyflawni yn y swydd hon a fydd o fudd i fyfyrwyr eraill? Beth sydd wedi'ch ysbrydoli i sefyll ar gyfer y swydd hon? Beth ydych chi'n ei feddwl yw prif swyddogaeth Undeb Myfyrwyr Bangor a pham? Mae cyngor ar ysgrifennu eich maniffesto i’w gael ar-lein yma https://www.undebbangor.com/voice/elections/sabbelections/yourmanifesto/ 4
Sloganau Gall ymgeiswyr hefyd gyflwyno slogan na all fod yn fwy na 10 o eiriau. Rhaid cyflwyno sloganau fel dogfen prosesu geiriau i elections@undebbangor.com erbyn y terfyn amser a nodir yn yr Amserlen Etholiadau. A fyddech cystal ag enwi eich dogfen yn y fformat canlynol: Slogan Enw’r Ymgeisydd. (e.e. Slogan Rob Samuel.docx) Testun Cyhoeddusrwydd Pellach Gall ymgeiswyr gyflwyno hyd at 300 gair i'w cyfieithu cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu erbyn y dyddiad a amlinellir yn yr amserlen etholiadau. Cyhoeddusrwydd a Deunydd Marchnata Eich cyhoeddusrwydd ymgeisydd yw un o'r pethau pwysicaf i'w gael yn gywir ac mae'n cael ei ddosbarthu'n eang i gorff y myfyrwyr, fel rheol drwy ein gwefan, ar bosteri o gwmpas y campws, yn unigol ac weithiau mewn atodiad arbennig i Seren ac ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, mae’n hollbwysig bod eich cyhoeddusrwydd ymgeisydd a'ch deunydd ymgyrchu yn sefydlu'r dôn ar gyfer eich ymgyrch a'i fod yn cynnwys neges gyson i'r pleidleiswyr.
Eich cyllideb
Cyfyngir ar wariant yr ymgeiswyr i £25 (a hyd at £10 i'w drosglwyddo o'r gyllideb argraffu fel yr amlinellir isod) ar gyfer eu hymgyrch, ac ni chaniateir gwario dros y trothwy hwn na’i gynyddu. Nid yw'r ffigwr hwn yn cynnwys argraffu ond mae'n cynnwys yr holl dreuliau eraill yn ymwneud â'r etholiad. Rhaid dychwelyd derbynebau yn ymwneud â phob gwariant i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau erbyn 10AM ar fore'r cyfrif. Bydd Undeb Bangor yn talu'r holl gostau ar ôl derbyn y derbynebau.
Posteri a Thaflenni
Gall ymgeiswyr baratoi dyluniadau posteri a thaflenni. Cyfyngir yr ymgeiswyr i 100 taflen A3 o gyhoeddusrwydd (dwy ochr) a gaiff ei argraffu gan Undeb Bangor. Rhaid cyflwyno'r dyluniadau yn barod i'w hargraffu, ynghyd â'r nifer a ddymunir, erbyn y terfyn amser a nodir yn yr Amserlen Etholiadau. Dylent fod mewn fformat ffeil PDF, JPEG neu PNG. Ni chaiff ymgeiswyr argraffu eu deunydd cyhoeddusrwydd eu hunain.
** Caiff ymgeiswyr drosglwyddo hyd at uchafswm o 50 taflen am arian parod ar gyfradd o 20c y daflen. Er enghraifft, gellir ychwanegu mwyafswm o £10 (50 taflen x 20c), at y gyllideb £25. **
5
Dyluniad y Dudalen Maniffesto Dylai'r ymgeiswyr ddylunio dwy dudalen maniffesto A5 (un yn Gymraeg ac un yn Saesneg), a rhaid eu cyflwyno fel ffeil PDF, JPEG neu PNG erbyn y terfyn amser a nodir yn yr Amserlen Etholiadau. Cânt eu defnyddio yn Llyfryn Maniffestos Etholiadau Undeb Bangor i roi cyhoeddusrwydd i'r holl ymgeiswyr.
Cyfryngau Cymdeithasol Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfryngau ar-lein megis Facebook, Twitter a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill at ddibenion ymgyrchu. Rhaid i bopeth a gaiff ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol fod yn unol â rheolau a rheoliadau a nodir yn ddiweddarach yn y ddogfen hon. Fideos Etholiad
Caiff ymgeiswyr eu hannog i wneud fideos at ddibenion ymgyrchu, a gallant fod yn yr iaith o'u dewis.
Gellir cyflwyno un fideo yr ymgeisydd i'w llwytho gan Undeb Bangor i'r wefan bleidleisio. Ni ddylai'r fideo hwn bara mwy na 2 funud o hyd. Gall y fideo gael ei gynhyrchu gan yr ymgeiswyr eu hunain neu bydd Undeb Bangor yn cynnig cefnogaeth i wneud fideo 2 funud syml ar gyfer pob ymgeisydd. Ymgyrchu Y cyfnod ymgyrchu yw pan ewch allan yno, siarad â myfyrwyr ac ymgyrchu am bleidleisiau. O fewn ffiniau'r rheolau a'r rheoliadau, gellwch fod mor greadigol ag y dymunwch. Gellwch chi hefyd gael ffrindiau i ymgyrchu ar eich rhan. Sylwch mai chi sy'n gyfrifol am ymddygiad unrhyw un sy’n ymgyrchu ar eich rhan. Pleidleisio Cynhelir y bleidlais yn gyfan gwbl ar-lein drwy www.undebbangor.com ar y dyddiadau a ddangosir ar amserlen yr etholiad. Pleidleisir drwy ddefnyddio'r system bleidlais drosglwyddadwy amgen, sy'n golygu; Eich bod yn pleidleisio â rhifau yn hytrach na thic neu groes, gan roi'r rhif 1 i'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi fwyaf. Yna rydych yn rhoi rhifau i'r ymgeiswyr eraill yn ôl blaenoriaeth, rhif 2 i'ch ail ddewis, 3 i'ch trydydd ac yn y blaen. Unwaith bydd y pleidleisio wedi gorffen, caiff y dewisiadau cyntaf eu cyfrif ac os nad oes unrhyw un wedi cyrraedd 50% o'r bleidlais, caiff yr ymgeisydd isaf ei ddiddymu a chaiff eu pleidleisiau eu trosglwyddo i'r dewis nesaf ar eu ffurflenni pleidleisio. Mae'r broses yn parhau nes bod ymgeisydd yn pasio'r trothwy o 50% plws un, neu nes bod dim ond un ymgeisydd yn weddill. Mae'r drefn hon yn golygu bod eich pleidlais yn parhau i ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad hyd yn oed os nad yw eich dewis cyntaf yn ennill. Cynhwysir Ailagor Enwebiadau fel ymgeisydd ym mhob etholiad.
6
Y Cyfrif
Cynhelir y cyfrif ar ôl i'r pleidleisio gau, a bydd yn dechrau dim ond os bydd Swyddog yr Etholiad yn fodlon bod pob cwyn yn ymwneud â'r modd y cynhaliwyd ac a weinyddwyd yr etholiad wedi cael eu datrys. Gall cwynion ar ôl i'r cyfrif ddechrau ymwneud â'r modd y gwneir y cyfrif yn unig. Gwneir y cyfrif yn unol â'r canllawiau a nodir gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol lle bo'n bosibl, neu fel y cytunir gan y Pwyllgor Etholiadau lle nad oes canllawiau'n bodoli. Gall yr ymgeisydd neu eu cynrychiolwyr penodedig neu unrhyw aelod arall, os dymunant, ddod i weld y pleidleisiau'n cael eu cyfri, fel arsylwyr yn unig. Rhaid i unrhyw aelod sy'n dymuno arsylwi wneud cais i'r Swyddog Etholiad cyn cau'r pleidleisio.
Rheolau a Rheoliadau Etholiadau Caiff Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor eu llywodraethu gan Reoliad 7 – Etholiadau, Cyfansoddiad Undeb Bangor (y gellir ei weld yma - ) a chan y rheolau a'r rheoliadau a nodir isod, fel y cymeradwywyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor. Gall torri unrhyw un o’r rheolau hyn arwain at osod sancsiynau ar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ymgyrch. Enwebiadau 1. Rhaid i ymgeisydd gydymffurfio’n llawn â’r meini prawf canlynol cyn cael bod yn rhan o’r etholiad: 1.1. Enwebu ei hun gan ddefnyddio'r broses enwebiadau ar-lein erbyn y dyddiad cau enwebiadau. 1.2. Ei f/bod yn fyfyriwr cyfredol, cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor neu (yn achos yr etholiadau Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr yn unig) yn swyddog sabothol presennol Undeb Bangor yn ei f/blwyddyn gyntaf yn y swydd. 1.3. Ei fod/bod wedi bod yn sesiwn briffio’r ymgeiswyr, neu wedi derbyn cyfarwyddyd llafar gan y Dirprwy Swyddog Etholiad os nad oedd yn gallu bod yn bresennol a’i fod/bod wedi anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw. 1.4. Yn cytuno ymrwymo i'r rheolau hyn a Rheoliad 7 - Etholiadau Undeb Bangor.
Testun y Maniffesto 1. Er mwyn sefyll gyda maniffesto, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno testun eu maniffesto, yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel dogfen prosesu geiriau i elections@undebbangor.com erbyn y terfyn amser a nodir yn amserlen yr etholiadau. 2. Cyfyngiadau maniffesto: 2.1. Etholiadau Cynghorydd Undeb Bangor: dim mwy na 300 o eiriau ym mha bynnag iaith y'i cyflwynir. 2.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol: dim mwy na 350 o eiriau ym mha bynnag iaith y'i cyflwynir. Ymddygiad 1. Ni chaiff ymgeiswyr nac ymgyrchwyr sydd, yn sgìl eu hymwneud ag Undeb Bangor, neu yn rhinwedd eu bod yn dal (neu wedi dal) swyddi o gyfrifoldeb yn yr Undeb, ddefnyddio adnoddau sydd ar gael iddyn nhw ond nid i fyfyrwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys offer a dillad sydd wedi cael eu prynu gan Undeb Bangor, unrhyw restrau gohebu canolog Undeb Bangor a chyfrifon grwpiau cyfryngau cymdeithasol swyddogol Undeb Bangor. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, ond nid yw'n cynnwys unrhyw restrau gohebu na chyfrifon cyfryngau cymdeithasol sydd gan glybiau neu gymdeithasau unigol. 7
2. Yr ymgeiswyr sy’n gyfrifol am yr holl weithgaredd ymgyrchu a gynhelir yn eu henw; mae hynny’n cynnwys gweithredoedd unrhyw drydydd parti ar eu rhan. 3. Ni chaiff ymgeiswyr nac ymgyrchwyr: 3.1. Orfodi, dylanwadu trwy fygythiad nac mewn unrhyw ffordd godi ofn ar fyfyrwyr, yn arbennig pan eu bod yn agos at bleidleisio neu’n bwrw eu pleidlais. 3.2. pleidleisio ar ran myfyriwr arall 3.3. codi ofn ar unrhyw un sy’n cymryd rhan yn yr etholiad 3.4. tanseilio’n fwriadol unrhyw ymgyrch ac eithrio eu hymgyrch eu hunain 3.5. difwyno deunyddiau, cyhoeddusrwydd, cyfryngau ar-lein, safleoedd rhyngweithio cymdeithasol etc. ymgeisydd arall 3.6. gwneud unrhyw ymgais i dwyllo yn yr etholiad 3.7. gwneud unrhyw ymgais i ddylanwadu ar ddidueddrwydd Swyddog yr Etholiad, Dirprwy Swyddog yr Etholiad, y Pwyllgor Etholiadau na staff Undeb Bangor. 3.8. trafod nodweddion personol ymgeisydd arall 3.9. Cam-gynrychioli safbwyntiau ymgeisydd arall neu wneud honiadau am eu hunain neu unrhyw ymgeisydd arall nad ydynt yn wir. 3.10. Sefydlu eu ‘gorsaf bleidleisio’ eu hunain, rhoi dyfais electronig i bleidleiswyr at ddiben pleidleisio, goruchwylio neu wylio rhywun yn y weithred o bleidleisio, na gofyn i bleidleiswyr ddefnyddio eu dyfais electronig eu hunain i bleidleisio ar unwaith. 3.11. Derbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol 3.12. Dwyn anfri ar y broses etholiadol 4. Rhaid i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr: 4.1. Ymlynu wrth ystyr ac ysbryd rheolau'r etholiad a pholisi Cyfle Cyfartal, polisi Dim Goddefgarwch o Aflonyddu a pholisi Dwyieithog Undeb Bangor ar bob adeg. 4.2. Ymlynu wrth ddeddf gwlad a rheoliadau’r Brifysgol ar bob adeg. Gwariant Etholiad 1. Cyfyngir ar wariant yr ymgeiswyr ac ni chaniateir gwario dros y trothwy hwnnw na’i gynyddu. 2. Mae'r cyfyngiadau gwario fel a ganlyn 2.1. Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor - £10 2.2. Etholiadau'r Ymddiriedolwyr sy'n Fyfyrwyr - £10 2.3. Etholiadau Ymddiriedolwyr sy'n Swyddog Sabothol - £25 (a hyd at £10 i'w drosglwyddo o'r gyllideb argraffu fel yr amlinellir yn 'Deunydd Cyhoeddusrwydd Printiedig', 2.3) 2.3.1 Ni chaiff ymgeiswyr wario ar argraffu ychwanegol 3. Bydd Swyddog yr Etholiad, neu ei ddirprwy enwebedig, yn rhoi gwerth mewn arian parod ar bopeth a ddefnyddir yn yr etholiad (ac eithrio eitemau a restrir yn Adran 5.1 isod). Er eglurdeb, mae hyn yn cynnwys ‘rhoddion ymgyrchu’ na wnaeth gostio dim i chi o bosib, ond sy’n meddu ar werth ariannol ‘byd real’. 4. Rhaid i’r holl adnoddau a dulliau y byddwch yn eu defnyddio yn eich ymgyrch etholiadol fod ar gael i’r holl ymgeiswyr eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau hynny cyn eu defnyddio drwy holi’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau. 5. Ni chaiff unrhyw ymgeisydd dderbyn nawdd gan gwmni neu gorff allanol. 6. Mae’r eitemau canlynol, er enghraifft, ar gael yn rhwydd i bob ymgeisydd a’u cefnogwyr ac felly ni roddir gwerth ariannol ar ddefnydd teg ohonynt: 6.1. Hen grysau-t; Paent; Hen gynfasau gwely; Pennau marcio; Blu-tack; Cardbord sydd wedi’i ddefnyddio’n barod; Hen bren; Pensiliau; Llinyn; Tâp gludiog; Pinau, eitemau gwisg ffansi mae rhywun eisoes yn berchen 8
arnynt. Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn a dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at Ddirprwy Swyddog yr Etholiad. 6.2. Mae'r rheol hon wedi cael ei chynnwys er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr i wneud y cyfnod etholiadau'n gyfnod cyffrous, bywiog ac uchel ei broffil. Mae Swyddog yr Etholiad a'i ddirprwy yn ymwybodol fod y rheol hon yn agored i'w chamddefnyddio a byddant yn monitro adnoddau'r ymgyrch yn agos o ganlyniad i hynny. Cofiwch mai nhw yw'r bobl sy'n pennu 'defnydd teg'. Deunydd Cyhoeddusrwydd Printiedig 1. Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor 1.1. Ni chaniateir deunydd cyhoeddusrwydd printiedig yn Etholiadau Cynghorwyr Undeb Bangor 2. Etholiadau Swyddogion Sabothol 2.1. Cyfyngir yr ymgeiswyr i 100 taflen A3 o gyhoeddusrwydd (dwy ochr) a gaiff ei argraffu gan Undeb Bangor. 2.2. Ni chaniateir i ymgeiswyr argraffu eu deunydd cyhoeddusrwydd eu hunain. 2.3. Mae pob ymgeisydd yn gyfrifol am ddylunio eu cyhoeddusrwydd eu hunain 2.4. Caiff ymgeiswyr drosglwyddo hyd at uchafswm o 50 taflen am arian parod ar gyfradd o 20c y daflen. Er enghraifft, gellir ychwanegu mwyafswm o £10 (50 taflen x 20c), at y gyllideb £25. Cyhoeddusrwydd heb ei brintio 1. Rhwydweithio Cymdeithasol 1.1. Facebook: 1.1.1.Rhaid i enw eich tudalen fod yn ddwyieithog 1.1.2.Dylech arddangos eich cyflwyniad, eich maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn ddwyieithog. 1.1.3.Gellir arddangos diweddariadau statws, nodiadau, postion ar wal a thestunau trafod yn yr iaith a ddewiswch. 1.2. Twitter 1.2.1.Gellwch ymgyrchu yn yr iaith sydd orau gennych 1.3. Cyfryngau cymdeithasol eraill 1.3.1.Lle bo'n berthnasol, dylech arddangos eich cyflwyniad, eich maniffesto ac amserlen yr etholiad a chyfarwyddiadau pleidleisio yn ddwyieithog. 1.4. Fideos Etholiad 1.4.1. Fe’ch anogir i greu fideos etholiad a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ar gyfryngau cymdeithasol. 1.4.2. Gallwch ddewis iaith y fideo. Deunydd Cyhoeddusrwydd Pellach 1. Caniateir i ymgeiswyr gynhyrchu a/neu brynu cyhoeddusrwydd pellach a deunydd ymgyrchu yn unol â'r rheolau a amlinellir o dan wariant etholiadau. Polisi Dwyieithog a Chyfieithu 1. Rhaid i chi gyflwyno eich maniffesto a HOLL gynnwys eich deunydd cyhoeddusrwydd (posteri / pamffledi / taflenni / baneri / crysau-t etc.) gyda’ch enwebiad erbyn dyddiad cau'r cyhoeddusrwydd 2. Caiff eich testun ei gyfieithu, ei brawf-ddarllen a'i ddychwelyd atoch. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rhoi amlygrwydd cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg yn eich cyhoeddusrwydd. Er cysondeb rydym yn argymell bod y Gymraeg i'r chwith o'r Saesneg neu uwch ei ben. Mae enghreifftiau o gyhoeddusrwydd etholiadau blaenorol i'w gweld ar wefan Undeb Bangor yn ganllaw i chi. 3. Y cyfyngiad cyfieithu ar gyfer cyhoeddusrwydd a baratoir cyn dechrau’r cyfnod ymgyrchu yw: 9
3.1. Etholiad Cynghorwyr Undeb Bangor - Cyfanswm o 350 o eiriau. Mae hyn yn cynnwys 3.1.1.Eich maniffesto – 300 o eiriau 3.1.2.Eich slogan – 10 gair 3.2. Etholiadau Swyddogion Sabothol 3.2.1.Eich Maniffesto – 350 o eiriau 3.2.2.Eich Slogan – 10 gair 3.2.3.Testun cyhoeddusrwydd pellach - 300 gair 4. Yn dilyn cyfieithu’r holl gyhoeddusrwydd a gyflwynir cyn y dyddiad cau caiff ymgeiswyr gyflwyno cynnwys pellach i’w gyfieithu os dymunant, ond gan ganiatáu amser rhesymol i’r Uned Gyfieithu gyflawni’r gwaith. Ni ellir gwarantu bod y gwaith cyfieithu pellach hwn yn cael ei gyflawni, ond gwneir pob ymdrech. Cwynion 1. Rhaid i bob cwyn ynghylch ymgeiswyr, ymgyrchwyr, swyddogion etholiadol neu’r broses bleidleisio gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i Ddirprwy Swyddog yr Etholiad. Dim ond cwynion a gyflwynir yn ysgrifenedig a gaiff eu hystyried. Rhaid i’r gŵyn amlygu’r rheol etholiadau sydd wedi cael ei thorri, cyflwyno tystiolaeth o’r dor rheol a chynnig cwrs rhesymol o weithredu. 2. Yn y lle cyntaf bydd Dirprwy Swyddog yr Etholiad yn ystyried y gŵyn ac yn gwneud dyfarniad o fewn 24 awr. Os pennir ei fod yn fater difrifol gall y Dirprwy Swyddog Etholiad ei gyfeirio ar unwaith at Swyddog yr Etholiad i’w ystyried. 3. Dylid cyflwyno cwynion ynghylch ymddygiad Dirprwy Swyddog yr Etholiad yn ysgrifenedig at Swyddog yr Etholiad. 4. Rhaid cyflwyno cwynion cyn dechrau’r cyfrif etholiadau. Dim ond cwynion ynghylch proses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried unwaith mae’r cyfrif wedi dechrau; rhaid iddynt gael eu cyflwyno o fewn 24 awr o gyhoeddi’r canlyniadau. 5. Dyma'r sancsiynau sydd ar gael i Ddirprwy Swyddog yr Etholiad: 5.1. Rhybuddio ymgeisydd ynghylch ei h/ymddygiad yn y dyfodol. 5.2. Cymryd camau i roi'r un cyfle i bawb, er mwyn gwneud iawn am dorri rheoliad etholiad. 5.3. Dirwyo ymgeisydd drwy naill ai ostwng y swm o arian y cânt ei wario, neu drwy gymryd ymaith ddeunydd cyhoeddusrwydd sydd wedi’i argraffu. 5.4. Gwahardd ymgeisydd a’i ymgyrchwyr rhag ymgyrchu am gyfnod o amser (hyd at 24 awr). 5.5. Gwahardd ymgyrchydd o weddill yr ymgyrch (pan na fo’r ymgyrchydd yn ymgeisydd). 6. Yn ychwanegol i’r holl sancsiynau uchod, mae’r canlynol ar gael i Swyddog yr Etholiad: 6.1. Diarddel ymgeisydd o’r etholiad nes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 6.2. Atal y broses etholiadol nes bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 6.3. Argymell i’r Pwyllgor Etholiadau, a’r Brifysgol, bod ymgeisydd yn cael ei ddiarddel 6.4. Argymell i’r Pwyllgor Etholiadau, a’r Brifysgol, bod yr etholiad yn cael ei ail gynnal neu fod pleidlais yn cael ei dirymu. 7. Caiff ymgeiswyr apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir gan Swyddog yr Etholiad a’i Ddirprwy drwy gyflwyno apêl yn ysgrifenedig, o fewn 24 awr o’r penderfyniad, gan ddilyn y weithdrefn apêl a amlinellir isod: 7.1. Clywir cam cyntaf yr apêl gan Swyddog yr Etholiad; os yw’r ymgeisydd yn parhau i fod yn anfodlon, yna 7.2. Gellir cymryd ail gam apêl i’r Pwyllgor Etholiadau a fydd yn clywed yr achos a gyflwynir gan yr ymgeisydd a’r achos dros osod sancsiynau a gyflwynir gan Swyddog yr Etholiad, neu ei Ddirprwy enwebedig. 7.3. Mae'r cam apêl terfynol i'r Dirprwy Is-ganghellor dros Fyfyrwyr, neu ei ddirprwy enwebedig.
10
8. Bydd unrhyw gyfathrebiad e-bost â’r Swyddog Etholiadau neu â’r Dirprwy Swyddog Etholiadau yn cael ei gydnabod trwy e-bost o fewn 24 awr; os nad ydych yn derbyn e-bost o gydnabyddiaeth peidiwch â rhagdybio ein bod wedi derbyn eich neges - ffoniwch 01248 388000 i wirio hynny.
11