Sustainability award -Cymraeg

Page 1

Arweiniad ar gyfer yr Her Gynaliadwyedd

Mae Undeb Bangor wedi bod yn gweithio’n galed i wneud newidiadau perthnasol a chadarnhaol i hyrwyddo cymuned gynaliadwy, megis gweithio i leihau allyriadau, atal gwastraff gormodol, a gwarchod ein mannau gwyllt lleol Mae'r Her Gynaliadwyedd yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y newidiadau hyn a dadlau dros brofiad prifysgol cynaliadwy, cadwraeth amgylcheddol, a lles cymunedol.

Mae'r wobr yn golygu bod myfyrwyr yn cwblhau ac yn dogfennu tasgau sy ' n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a ’ u cyfnewid am bwyntiau Dyma gyfle i chi arddangos y gweithgareddau a ’ r digwyddiadau anhygoel y mae eich grŵp yn eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r tasgau a osodir trwy’r heriau wedi’u llunio gan ystyried Nodau Datblygu Cynaliadwy'r

Cenhedloedd Unedig (SDG’s) ac yn rhoi cyfle i grwpiau dderbyn cydnabyddiaeth am eu llwyddiant cynaliadwy, ynghyd â derbyn cymorth ac arweiniad ar sut y gellir gwella gweithgareddau a digwyddiadau dyddiol.

Bydd y grŵp sy ’ n ennill y mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y flwyddyn yn cael gwobr o £100 o gyllid ar gyfer eu grŵp. Bydd 3 gwobr: un enillydd i glybiau, un i gymdeithasau ac un am wirfoddoli.

Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yn y nosweithiau gwobrwyo Clybiau a Chymdeithasau a Gwirfoddoli

Blynyddol

***

Mae'r llawlyfr canlynol yn amlygu’r tasgau o fewn pob adran thema, gan gynnwys enghreifftiau o dystiolaeth a nifer y pwyntiau sydd ar gael. Mae enghreifftiau wedi'u darparu fel canllaw, a bydd unrhyw dystiolaeth berthnasol arall yn cael ei derbyn. Er enghraifft, sgrin luniau o e-byst/cyfryngau cymdeithasol, posteri, lluniau, dogfennau cynllunio, cofnodion ac ati

Ar gyfer sawl tasg, mae mwy o bwyntiau ar gael os oes canran uwch o ' r grŵp yn cymryd rhan, ac ar gyfer digwyddiadau amlach. Gellir ailddefnyddio tystiolaeth ar gyfer mwy nag un maen prawf lle bo’n briodol

Mae themâu'r adran yn cynnwys,

Ymwybyddiaeth Gwastraff a Phrynu

Cymuned a Chydweithio

Gwaith, Monitro a Chynllunio Cynaliadwy

Ymwybyddiaeth ac Addysg

Lles

Llais ac Ymgyrchu Myfyrwyr

Gellir cyflwyno tystiolaeth drwy gydol y flwyddyn, neu gyda'i gilydd yn nes at y dyddiad cau. Mae'r holl dystiolaeth i'w chyflwyno trwy'r Ffurflen Microsoft ganlynol. Mae angen eglurhad byr ar gyfer pob un o ' r adrannau thema, gan fanylu ar yr hyn y mae ' r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ei ddangos a sut mae ' n berthnasol i'r dasg Bydd lle ar y ffurflen i uwchlwytho’r ddogfen Word gyda’ch tystiolaeth; os yw maint eich ffeil yn fwy na ' r cyfyngiad, anfonwch e-bost at opportunities@undebbangor.com a'i atodi. Sicrhewch fod y dystiolaeth wedi'i labelu'n glir â theitl priodol

Bydd angen cyflwyno'r holl dystiolaeth drwy'r ffurflen erbyn y 1af o Fawrth.

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau ac ymholiadau at opportunities@undebbangor.com.

Nodau Datblygu Cynaliadwy

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.