Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwr Allanol 2019

Page 1

EICH LLAIS EICH CYFLEOEDD EICH CYMUNEDAU

www.UndebBangor.com


MAE UNDEB BANGOR (UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL BANGOR) YN SEFYDLIAD LLWYDDIANNUS, BYWIOG A CHYFFROUS SYDD GYDA DYFODOL DISGLAIR IAWN O’I FLAEN. Wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru rhwng y mynyddoedd a’r môr rydym yn cynrychioli tua 11,000 o fyfyrwyr. Mae gennym berthynas ardderchog â’r Brifysgol, enillodd ein Clybiau a’n Cymdeithasau y wobr am y Clybiau a Chymdeithasau gorau yn y DU yng ngwobrau ‘WhatUni’ 2018, ac mae ein gwaith ar Llais y Myfyrwyr a Chynrychiolaeth Myfyrwyr yn arwain y sector. Mae gennym dîm o bum Swyddog Sabothol a etholwyd i sicrhau bod syniadau, anghenion a dymuniadau myfyrwyr yn cael eu gweithredu, a thîm o 18 o staff sy’n cefnogi’r Tima Swyddog Sabothol i gyflawni ein strategaeth a’n cynlluniau ar draws yr Undeb. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ganolog i’n trefn lywodraethu a’r ymddiriedolwyr yw calon ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae’r 12 unigolyn hynny’n gwneud penderfyniadau hollbwysig am yr Undeb a mae ein Hymddiriedolwyr Allanol yn dod ag arbenigedd a phrofiad penodol i’r Bwrdd. Mae gennym bedwar lle ar gyfer ymddiriedolwyr allanol ar ein bwrdd (sy’n eistedd ochr yn ochr â’n pum Swyddog Sabothol a thri Ymddiriedolwr Myfyrwyr).

Rydym yn chwilio am un Ymddiriedolwr allanol newydd i’n helpu i ddatblygu Undeb Bangor, herio penderfyniadau, sicrhau ein bod gadarn yn ariannol ac yn llywodraethu’n yn y ffordd gywir. Rydym yn awyddus i gynyddu amrywiaeth y Bwrdd ac rydym yn edrych am arbenigedd penodol mewn materion ariannol, a chynllunio strategol. Dewch o hyd i ni ar-lein, dyma fwy o wybodaeth am y Brifysgol, a dewch o hyd i ni ar wefan y Comisiwn Elusennau. Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu penodi un ymddiriedolwr allanol i ymuno â’r tri presennol, a bydd y rôl yn dechrau ar unwaith ar ôl cwblhau’r broses recriwtio. Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno popeth byddwch ei angen i chi ddeall mwy am y swydd a chwblhau eich cais. I wneud cais bydd angen i chi anfon atom CV diweddar a llythyr eglurhaol atom (dim mwy na dwy ochr A4 os gwelwch yn dda) yn dweud ychydig amdanoch a pham yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at undeb@undebbangor.com erbyn Chwefror 28 ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Diolch, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu. TÎM SABOTHOL UNDEB BANGOR 2018-19 RUTH, MARK, GETHIN, LOUISE, MUHAMMAD


YCHYDIG AM UNDEB BANGOR.... Rydym yn elusen ddemocrataidd a arweinir gan fyfyrwyr ac a gyllidir (yn bennaf) trwy grant bloc gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol rydym yn sefydliad ar wahân ac annibynnol a chymerir penderfyniadau’n fewnol gennych chi ein haelodau.

NI YW LLAIS Y MYFYRWYR YN Y BRIFYSGOL A CHARTREF BYWYD MYFYRWYR YM MANGOR!

RYDYM YN BODOLI AR GYFER MYFYRWYR BANGOR AC RYDYM YN GWEITHIO I FYNEGI EU LLAIS, GALLUOGI EU CYFLEOEDD A DATBLYGU EU CYMUNEDAU.

AC RYDYM YN CAEL EIN LLYWIO GAN EIN GWERTHOEDD:

• CYFUNOLIAETH - gwneud gyda chi ac nid drosoch chi

• • • •

DEMOCRATAIDD - yn atebol ac yn dryloyw CYMRAEG – yn falch o fod yma HERIOL - dros gymdeithas well YN DDEWR – yn croesawu arloesi

Mae gennym dîm o bump o Swyddogion Sabothol etholedig sy’n cynrychioli agos at 11,000 o fyfyrwyr Bangor, i sicrhau bod syniadau, anghenion a gofynion myfyrwyr yn cael eu gweithredu arnynt, a thîm o 18 o staff sy’n cefnogi’r Tîm Swyddogion Sabothol etholedig i roi ein strategaeth a chynlluniau fel Undeb ar waith. Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu trefn lywodraethu a goruchwylio i’r Undeb, yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chyfraith gwlad ac yn gwario’n unol â’n cynlluniau a chyllidebau. Fel Undeb rydym wedi cyflawni newidiadau a datblygiadau enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a thrwy weithio gyda’r brifysgol rydym wedi gallu sicrhau:

• Clybiau a Chymdeithasau Am Ddim

MAE GENNYM WELEDIGAETH FENTRUS A SYML: I FOD YN GWBL BERTHNASOL I CHI

• Oriau Agor 24 awr i’r Llyfrgell • Cadw Prynhawniau Mercher yn Rhydd ar gyfer Chwaraeon • Gwell Mannau Astudio i Fyfyrwyr • Cynrychiolaeth gan Fyfyrwyr ar bob Pwyllgor Prifysgol

MAE EIN TREFN LYWODRAETHU YN RHAN BWYSIG O’N GWAITH A CHYDA’R BOBL IAWN YN EU LLE GALLWN WNEUD PETHAU GWYCH.


PAM BOD YN YMDDIRIEDOLWR ALLANOL.... Mae’r swydd yn un gwirfoddol a byddech yn rhoi eich amser i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn, yn ufuddhau i fframweithiau cyfreithiol ac yn dilyn gofynion a osodir gan ein rheoleiddwyr (y Comisiwn Elusennau a’r Brifysgol). Yn bwysicaf oll mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gwneud yn siŵr bod Undeb Bangor yn ymateb anghenion newidiol ein myfyrwyr. Cyfrifoldebau allweddol y Bwrdd:

Dyletswyddau Penodol:

• Sicrhau bod pob agwedd ar waith UM yn gyfreithlon ac yn ateb y gofynion rheoleiddiol, gan gynnwys y rheiny a ddisgrifir yn Neddf Elusennau 2010 a Deddf Addysg 1994 sy’n ymwneud yn benodol ag Elusennau ac Undebau Myfyrwyr.

• Mynychu o leiaf pedwar cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr bob blwyddyn academaidd. Mae opsiynau i fod yn bresennol modd electronig.

• Sicrhau bod yr holl waith a wneir gan Undeb Bangor yn ymwneud ag amcanion elusennol y sefydliad - gan sicrhau bod popeth yn dod a budd i brofiad myfyrwyr ym Mangor. • Penderfynu ar gyfeiriad strategol cyffredinol Undeb y Myfyrwyr a datblygu’r sefydliad yn unol ag egwyddorion llywodraethu da. • Cynorthwyo i ddatblygu Undeb y Myfyrwyr trwy oruchwylio cynllunio strategol clir yn seiliedig ar ddealltwriaeth gydlynol o’r amgylchedd y mae’r sefydliad yn gweithredu ynddi. • Sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd effeithiol, cyfrifol ac atebol o fewn gofynion cyfreithiol ac ariannol sefydliad elusennol. • Cynnal goruchwyliaeth ariannol gadarn a rheoli arian ac adnoddau i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn hyfyw. • Adnabod a goruchwylio rheolaeth o risgiau ariannol, cyfreithiol neu unrhyw risg sylweddol arall i’r Undeb y Myfyrwyr.

• Darllenwch bob papur a anfonwyd i’w drafod yn drylwyr cyn cyfarfodydd a pharatoi syniadau a chyfraniadau, a chynnal cyfrinachedd bob amser. • Ymgorffori gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr wrth wneud eu dyletswyddau. • Gosod y cyfarwyddyd ar gyfer staff a gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â strategaeth, polisi, ariannu a gweithredu Undeb y Myfyrwyr. • Ar y cyd â aelodau eraill y Bwrdd, gosod amcanion strategol, ac adolygu gwaith Cyfarwyddwr Undeb Bangor. • Cymryd rhan mewn is-bwyllgorau a grwpiau prosiect sy’n berthnasol i’ch arbenigedd. • Ymgymryd a cyfnod cynefino ac unrhyw hyfforddiant arall i’ch cefnogi chi i wneud y gwaith dyletswyddau uchod.


HOFFWN I CHI GAEL Y RHINWEDDAU DILYNNOL... HANFODOL

• Myfyrwyr Bangor fel sefydliad Brwdfrydedd am werthoedd Undeb democrataidd, cyfranogol, dan arweiniad myfyrwyr. Ymrwymiad i neilltuo amser a sylw angenrheidiol i rôl yr Ymddiriedolwr Allanol. Y gallu i feddwl yn strategol. Dealltwriaeth o rôl yr Ymddiriedolwr Allanol, gan gynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol ac ariannol. Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm â lefelau amrywiol o brofiad. Y gallu i fynegi barn yn annibynnol. Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol. Ymlynu â saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan - anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth. Gwybodaeth dechnegol benodol a phrofiad ymarferol mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol: cyllid sefydliadol, cynllunio strategol.

DYMUNOL Gwybodaeth a phrofiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr. Dealltwriaeth o Undebau Myfyrwyr, Prifysgolion neu’r Sector Addysg Uwch. Gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd ddwyieithog. Profiad neu wybodaeth o waith elusennau. O leiaf bum mlynedd o brofiad mewn maes perthnasol. Ymrwymiad i faterion sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb cymdeithasol. Profiad o annog cyfranogiad ac ymgysylltu.


GWYBODAETH GYFFREDINOL... NID OES TÂL AM Y SWYDD HON OND GELLIR TALU TREULIAU ARIAN PAROD YN UNOL Â PHOLISÏAU A THREFNAU ARIANNOL UNDEB BANGOR. CYNEFINO, HYFFORDDIANT A CHEFNOGAETH Bydd pob ymddiriedolwr yn mynd trwy raglen

SUT BYDD Y BROSES RECRIWTIO YN CAEL EI CHYNNAL? • Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Penodi Undeb Bangor a bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol lle byddant yn cwrdd â rhai o’r ymddiriedolwyr presennol a Chyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr. • Bydd cyfweliadau’n canolbwyntio ar eich cefndir, profiad a gwybodaeth.

OS YDW I’N LLWYDDO BETH FYDD YN DIGWYDD NESAF?

gynefino ynglŷn â gwaith Undeb Bangor ac yn derbyn gwahoddiad i Hyfforddiant Bwrdd yr • Byddwch yn derbyn gwahoddiad i Ymddiriedolwyr. Mae ein rhaglen gynefino yn ddechrau ar y broses gynefino gyda Llyhyblyg ac wedi’i chynllunio i gefnogi a datblywydd Undeb Bangor a Chyfarwyddwr gu’r ymddiriedolwr unigol. Undeb y Myfyrwyr. • Bydd gofyn i chi lenwi Ffurflen Datganiad Ymddiriedolwr Elusen i gadarnhau nad HYD Y PENODIAD ydych wedi’ch gwahardd rhag gweithredu Fel rheol caiff Ymddiriedolwyr Allanol eu fel ymddiriedolwr elusen. Caiff hyn ei ddipenodi am gyfnod o bedair blynedd. lyn gan Wiriad Datgelu Sylfaenol. • Byddwn yn gofyn i Gyngor Undeb Bangor eich derbyn yn ffurfiol fel Ymddiriedolwr. CYFLE CYFARTAL • Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod Mae Undeb Bangor wedi ymrwymo i Gynesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

draddoldeb ac Amrywiaeth. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

SUT YDW I’N GWNEUD CAIS? I wneud cais bydd angen i chi anfon CV diweddar atom ynghyd â llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr A4 os gwelwch yn dda) yn dweud ychydig amdanoch a pham yr hoffech fod yn Ymddiriedolwr Undeb Bangor. Anfonwch y rhain at llinos.gashe@undebbangor.com erbyn Chwefror 28 ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

RHAGOR O WYBODAETH

I gael rhagor o wybodaeth ac i drafod bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â: • Ruth Plant – Llywydd Undeb Bangor a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ruth.plant@undebbangor.com • Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr mair.rowlands@undebbangor.com Byddem yn croesawu’r cyfle i siarad â chi yn bersonol os oes gennych ddiddordeb a gallwn ddarparu rhagor o fanylion am y swydd ac ati. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.

DIOLCH A PHOB LWC...


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.