1 minute read

Gwneud yn fawr o’r cwrs hwn

Next Article
Gobaith Bywiol

Gobaith Bywiol

GWNEUD YN FAWR O'R CWRS ASTUDIO HWN

1. Ymrwymwch i fynychu pob un o’r pum sesiwn. Y mwyaf y gallwch eu mynychu, y mwyaf y byddwch yn elwa a’r mwyaf y byddwch yn cynnal parhad y grŵp.

Gwnewch addewid i’ch hunan i geisio gwrthod unrhyw ymrwymiadau neu wahoddiadau eraill allant godi ar adegau pan mae’r astudiaethau i’w cynnal.

2. Cychwynnwch bob astudiaeth gyda chyfnod o dawelwch er mwyn helpu canoli sylw’r grŵp a galw i gof bresenoldeb Duw.

3. Ymrwymwch i rannu’n onest a gwrando heb farnu neu geisio ‘datrys’ bywyd rhywun arall drostynt. Ceisiwch greu awyrgylch diogel lle mae pobl yn teimlo y gallant rannu’n agored. Cofiwch, nid oes gan neb ohonom yr atebion i gyd. Ein nod yw bod yn ddiffuant a thriw – nid bod yn berffaith!

4. Cydnabyddwch fod profiad pawb o fywyd a ffydd yn unigryw a gwerthfawr.

Dylem geisio derbyn ein gilydd fel yr ydym, yn union fel y mae Duw yn derbyn bob yr un ohonom.

5. Rhowch gyfle i bawb siarad, er na ddylai neb deimlo gorfodaeth i siarad. Os ydych yn berson sy’n dueddol i siarad llawer, cofiwch roi cyfle i eraill sy’n ei chael yn fwy anodd i rannu.

6. Darllenwch y deunydd o flaen llaw a rhowch gyfle i’r cynnwys suddo i mewn – ond heb deimlo fod rhaid dod o hyd i’r atebion.

7. Cofiwch fod geiriau crefyddol a diwinyddol yn medru golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl. Rhannwch eich persbectif chi a gadewch i eraill ddal persbectif gwahanol.

8. Gorffennwch pob sesiwn drwy weddi.

9. Gwnewch ymrwymiad i weithredu. Bob wythnos byddwch yn trafod, yn myfyrio, yn gweddïo a gweithredu. Trwy newid eich arferion a chodi arian i’r eglwys fyd-eang medrwch fod yn rhan o rywbeth sydd y tu hwnt i’ch cymuned chi a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

This article is from: