12 minute read
Diwinyddiaeth Dalit
from Meini Bywiol, Gobaith Bywiol
by USPG
ASTUDIAETH 5 DIWINYDDIAETH DALIT
Yn ein sesiwn olaf, cawn ystyried diwinyddiaeth Dalit, diwinyddiaeth rhyddhad sy’n cymryd fel ei man cychwyn brofiad y cymunedau Dalit o ddioddefaint. Dan yr hen drefn ‘caste’ yn India, fe’u gelwid gynt yn bobl ‘anghyffwrdd’ (untouchable). Daeth diwinyddiaeth Dalit i’r amlwg yn yr 1980au fel ymateb i’r rhagfarn parhaus yn erbyn y Dalit yng nghymdeithas India yn ogystal ag yn yr eglwysi.
Y mae cadarnhau hunaniaeth a rhyddhad cymdeithasol a gwleidyddol yn ganolog i ddiwinyddiaeth Dalit. Disgrifir diwinyddiaeth Dalit gan James Massey, arloeswr yn y ddiwinyddiaeth hon o Ogledd India, fel diwinyddiaeth sy’n cynorthwyo’r Dalit “yn eu hymchwil am fara beunyddiol ac yn eu hymdrechion i oresgyn eu sefyllfa o orthrwm ac anghyfiawnder ac o wadu’u hawliau dynol a’u hunaniaeth.” Felly mae diwinyddiaeth Dalit yn ceisio rhoi mynegiant cadarnhaol o’u hunaniaeth a’u diwylliant, tra’n ceisio trawsnewid y strwythurau sy’n eu gorthrymu oherwydd iddynt gael eu hystyried yn llygredig ac israddol. Ailafaelir mewn symbolau megis y drwm Dalit, caneuon gwerin Dalit a’u gweithgareddau cymunedol, a sugnwyd i mewn i’r diwylliant cyffredin yn y gorffennol neu a ystyriwyd yn llygredig, a’u defnyddio yn hytrach fel adnoddau ar gyfer diwinydda Cristnogol, gan eu bod yn cynnig naratif cyfoethog am Dduw sy’n cyfranogi yn y cymunedau Dalit ac ar waith ynddynt a thrwyddynt. Defnyddia diwinyddiaeth Dalit hefyd amrywiol fodelau Beiblaidd o Dduw. Ar un llaw, yn y delweddau Beiblaidd am y gwas dioddefus a welir yn Eseia, a’r Crist croeshoeliedig sy’n ymdeimlo ar y groes â chael ei wrthod gan Dduw, gwêl y Dalit Dduw yn dod yn un ohonynt hwy, a soniant am ‘Dduw Dalit’. Ar y llaw arall, maent hefyd yn cofleidio’r Duw sy’n rhyddhau ac arwain ei bobl allan o gaethiwed a gorthrwm yn yr Aifft (yn Llyfr Exodus), ac yn gweld Iesu’r efengylau fel un sydd, drwy ei weithredoedd o iachau a chyd fwyta, yn tanseilio’r strwythurau sy’n cau allan ac yn gwahaniaethu yn erbyn y bobl sydd ar yr ymylon. Yn y modelau hyn, dônt o hyd i adnoddau sy’n eu grymuso i barhau gyda’u hymdrechion dros gyfiawnder a llawnder bywyd.
SYLWADAU AM HYN O EGLWYS GOGLEDD INDIA
Mae Ramu yn crïo am nad yw’n cael chwarae gyda’r plant eraill. Nid yw ei fam yn cael casglu dŵr o’r ffynnon gyda’r mamau eraill. Mae tad Ramu wedi ei gloi mewn cylch o ddyled oherwydd rhodd fechan y gwnaeth ei sicrhau i’w ferch; nid oes ganddo unrhyw ffynhonnell, heblaw llafur ei ddwylo, i ad-dalu’r benthyciad. Dwy fraich a choes yw’r pris a dalwyd gan y tad Dalit hwn i sicrhau cyfiawnder i’w ferch a dreisiwyd gan gang. Caiff rhai storïau tebyg am y Dalit eu hadrodd, ond cedwir llawer yn dawel. Ceir tua 230 miliwn o Ddalitiaid yn India. Dioddefa’r cymunedau hyn, a ystyrir yn ‘wrthodedig’ (outcaste), o gael eu gwahardd o gymdeithas a dioddefant hefyd o ragfarn, a’r cyfan oherwydd y system ‘caste’, system o haeniad cymdeithasol sy’n gosod cymunedau mewn trefn hierarchaidd ar sail eu tarddiadau neu’u galwedigaeth. Ystyrir Dalitiaid yn ‘anghyffwrddadwy’ er bod cyfansoddiad India yn gwahardd hyn. Y mae’r term ‘anghyffwrddadwy’ yn cyfeirio at briodoli anabledd cymdeithasol i’r bobl hyn am iddynt gael eu geni i ddosbarth neu caste arbennig. O ganlyniad maent wedi eu gwahardd yn systematig o brif ffrwd datblygiad, ac ychydig iawn ohonynt sydd wedi eu cyflogi mewn diwydiannau Indiaidd sy’n talu cyflogau da. Fodd bynnag, neilltuir swyddi a dybir sy’n llygru pobl, megis casglu sbwriel a charthion, twrio mewn safleoedd sbwriel a thendio lleoliadau lle yr amlosgir cyrff y meirw, yn unswydd iddynt hwy fel modd o’u cadw ar ymylon cymdeithas ar sail ensyniadau o burdeb a llygredd crefyddol. Caiff ensyniadau o raniadau a hierarchaeth ar sail caste eu cryfhau drwy arfer neu fygwth gwahardd y Dalitiaid o fywyd cymdeithasol, eu boicotio’n economaidd a’u treisio’n gorfforol. Ar ben hyn, mae merched Dalit mewn perygl arbennig o’u treisio’n rhywiol. Y mae Datganiad Cenhadol Eglwys Gogledd India yn ffocysu’n glir iawn ar gyflwr pobl sydd ar yr ymylon. Ei amcan yw ‘adfer cyfanrwydd creadigaeth Duw drwy fynd i’r afael yn gyson â grymoedd demonig drwy ddymchwel ffiniau caste, dosbarth, rhyw, anghydraddoldeb economaidd ac ecsbloetio natur. Caiff ei ysbrydoli gan y gred fod efengyl Crist yn efengyl Rhyddhad, sy’n grymuso’r tlodion a’r gorthrymedig a’u galluogi i weithio dros eu rhyddhad eu hunain o afael pob ffurf ar gaethwasiaeth a sylweddoli eu llawn botensial. Ers 2015, bu Bwrdd
Cymdeithasol Eglwys Gogledd India, mewn cydweithrediad ag USPG, yn gweithio dros rhyddhau’r Dalitiaid a’r Cymunedau Llwythol ar draws nifer o esgobaethau. Ysbrydolir y rhaglen hon, dan yr enw ‘Gadewch i’m pobl fynd’, gan y stori am Foses yn mynnu rhyddhad yr Israeliaid a hwythau’n ennill rhyddid o gaethwasiaeth drwy nerth Duw. Gan fod Duw yn greawdydd pawb oll, dylai newyddion da teyrnasiad Duw fod yn dda i bawb hefyd. Drwy’r rhaglen hon, mae’n brodyr a’n chwiorydd Dalit yn ymgymryd â gweithgarwch codi-arian er mwyn cynyddu incwm teuluol. Canlyniad hyn yw y medrant fforddio addysg a bwyd maethlon i’w plant, a bydd hyn yn medru torri cadwyni ‘caste’. Yn ychwanegol, caiff cymunedau Dalit fynediad at ddŵr yfed glân a charthffosiaeth priodol. Bydd hyn yn dra effeithiol i atal trais rhywiol yn erbyn menywod a merched ifanc fyddai, heblaw hyn, mewn perygl a gael ymosod arnynt pan maent yn cerdded gryn bellter o’u cartrefi i ’nôl dŵr. Yn gyffredinol, mae’r rhaglen wedi galluogi cynulleidfaoedd i rannu yng nghenhadaeth Iesu a gweithredu mewn solidariaeth â chymunedau gorthrymedig a dwyn llygedyn o obaith a gwen i’w hwynebau.
Efengyl Rhyddhad yw efengyl Crist, sy’n nerthu’r tlawd a’r gorthrymedig
Y TESTUN GWREIDDIOL O INDIA:
रामू अन्य बच्चों के साथ शामिल होकर नहीं खेल पा रहा था, और एक और मैदान के किनारे बबूल के पेड़ के नीचे बैठ कर मोटी मोटी आंसूओं के साथ सिसकियाँ ले रहा था पर फिर भी कोई भी बच्चा उससे बुला कर खेल में शामिल नहीं कर रहा था , क्यूंकि दूसरे बच्चों के साथ उसे खेलने अनुमति नहीं थी| उसकी माँ भी अन्य महिलाओं की तरह अपने गहर आँगन में स्वतंत्र रूप से एक दूसरे से बात करते और मिल जिल कर काम नहीं कर सकती थी और ना ही उसे गाँव के कुंवे का पानी निकालने की अनुमति नहीं थी जब तक कि पूरे गाँव की महिलाएं पानी भर कर ख़तम न कर लेती और चली जाती| रामू के पिता क़र्ज़ के चक्रव्यू में फंसे है| घर पर बड़ी मुश्किल से सुख की रोटी जुगाड़ कर पाता था क्यूंकि अपनी बेटी के साथ हुए सामूहिक दुष्कर्म पर न्याय पाने के लिए थाना और कोर्ट के चक्कर लगाने के सिलसिले में बड़ी रकम उधार लिए हुए है| काम के तौर पर दिहाड़ी मजदूरी कर निर्भर है, जिसमें भी महीने के आदी दिन कोर्ट और कचहरी के चक्कर लगाने में दिन निकल रहे थे और एक ओर उधार का बोझ बढ़ता जा रहा था| उसकी बेटी के साथ सामूहिक दुष्कर्म के बाद, आसपास और खुद के गाँव के लोग रामू के परिवार को हीन नज़रों से देखने लगे| जात से तो दलित था ही पर इस घटना के बाद उसका पूरा परिवार और भी टूट गया था| आसपास लोगों ने काम देना बंद कर दिया| महिलाएं रामू की माँ से बात करना बंद कर दी| भेदभाव का अनुभव और भी बढने लग रहा था| राशन की दूकान में उधार मिलना बंद हो गया, और हर दिन पूरा परिवार अपनी बेटी के साथ हुए घटना की न्याय के लिए दर दर भटक रहा था| रामू के पिता के पास और कोई भी साधन नहीं है जिससे कि वह लोन चुका सके सिवाय मजदूरी की कमाई| इस दलित पिता ने अपनी बेटी के साथ हुए घटना के लिए जो कीमत चुकाई, ऐसी कुछ ही हादसों को आवाज़ दी जाती है और कई अनकही ही रह जाती है | हासिये पर खड़ा दलित समाज आज भी भेदभाव का शिकार हो रहा है| आज लगभगभारत की आबादी का 16.6 % आबादी दलित हैं| और इन्हीं प्रकार की परिस्थितियों से रोज़ जूझते हैं और हर दिन वो अछूत माने जाते है, जौभि कि भारतीय संविधान में छुआछूत को लेकर ऐसा कोई विवरण नहीं है और ना ही संविधान इससे बढ़ावा देती है बल्कि भारत का संविधान उद्देशिका में इस बात पर प्रकाश डालती और कहती है: “हम भारत के लोग भारत को एक सम्पूर्ण प्रभुत्वा संपन्न, समाजवादी पंथ निरपेक्ष लोकतंत्रात्मक गणराज्य बनाने के लिए तथा उसके समस्त नागरिकों को सामजिक, आर्थिक, और राजनैतिक न्याय, विचार, अभिव्यक्ति, विश्वास, धर्म और उपासना की स्वतंत्रता, प्रतिष्ठा और औसर कि समता प्राप्त करने के लिए तथा उन सब में, व्यक्ति की गरिमा और राष्ट्र की एकता और अखंडता सुनिश्चित करने वाली बन्धुता बढ़ाने के लिए दृढ संकल्प हैं |” ये पक्तियां इस बात को प्रमाणित करती हैं कि भारत के संविधान की नजर में भी हर नागरिक सामाजिक स्तर पर एक सामान है| “छुआछूत” –कुछ जातियों में जन्म से ही उनकी अक्षमताओं पर आरोपण किया जाता है| जोकि हमारे समाज में एक कठोर सामाजिक स्तरीकरण और एक खोखली पारंपरिक पद्धति को दर्शाती है | कुछ गतिविधियों का अमलीकरण जैसे, सामाजिक,आर्थिक बहिष्कार और शारीरिक शोषण, जातिया विभाजन को मजबूत करता जा रहा है| आज भारत में
महिलाएं विशेष तौर से शारीरिक हिंसा का शिकार हैं | भारत में उच्स्तारिया उद्योगों में दलितों का प्रदर्शन निराश्पूर्ण है, उनका काम और नौकरियां साफ़ सफाई के स्तर का ही होता है | दलितों को बहुत ही व्यवस्थित तरीके से मुख्यधारा के विकास से बाहर रखा गया है| मौके भी ऐसे आते है कि वो ऊपर उठे पर उन्हे हमेशा ही दबाया जाता है| मसीह का सुसमाचार मुक्ति का सुसमाचार है, जिससे कि लोग, मानवीयकरण का प्रथम वाहक होने के नाते गरीबी और उत्पीड़न जैसी सभी प्रकार की दासता से खुद को मुक्त करते हैं | सुसमाचार से लोगों को, समुदायों को, राष्ट्रों को, खुद की क्षमताओं को महसूस करने, समझने में मदद मिलती है| चर्च ऑफ़ नार्थ इंडिया (सी.एन.आई) मिशन का कथन इस पर केन्द्रित है कि वह हाशिए पर खड़े लोगों की दुर्दशा को दर्शाता है| और इस बात का समर्थन करता है कि, “जाति, वर्ग, लिंग, आर्थिक असमानता, प्रकृति के शोषण की बाधाओं को तोड़ कर, निरंतर संघर्ष के माध्यम से, ईश्वरकी रचना की अखंडता को बहाल करते रहना” वर्ष 2015 से सी.एन.आई. एस.बी. एस.एस, यूएसपीजी के सहयोग से विभिन धर्मप्रदेश में दलित और आदिवासी समुदायों की मुक्ति के लिए काम कर रही है| यह पहल “ मेरी प्रजा को जाने दो” कहलाती है, जो कि प्रेरित है मूसा नबी की आज्ञा से, कि जो इस्रैएलियों को मुक्त करने और उन्हें परमेश्वर के अधिकार के साथ वादा किए गए देश ले जाने से है | जब परमेश्वर सभी मनुष्यों की रचना करने वाला है, तो परमेश्वर के राज्य का शुभ समाचार सभी मनुष्यों के लिए के लिए | परमेश्वर लोगों को जाति और धर्म में बाटने नहीं आया है बल्कि दबे कुचले और निसहाय, को मुक्ति दिलाने आया है| “मेरी प्रजा को जाने दो” कार्यक्रम के माध्यम से, दलित भाई बहन अपनी पारिवारिक आय बढ़ाने के लिए आय सृजन गतिविधियों में लगे हुए हैं| फलस्वरूप आज उनके बच्चे विद्यालयों में जाते हैं और उचित शिक्षा और साथ में पोषण आहार ग्रहण कर रहे हैं| उनके पास बिना किसी भेदभाव के स्वच्छ पेय योग्य पानी और स्वच्छता पहुँच रही है | कोविड -19 महामारी के दौरान चर्च ने उनके समुदाय को सूखा राशन की राहत एवं उनके खर्चों में सहयोग प्रदान की थी| यह कार्यक्रम बड़े पैमाने पर, मण्डली को यीशु में शामिल होने के लिए सक्षम बना रही है| ताकि एकजुटता से पीड़ित परिवारों के लिए कार्यवाई की जा सके और उनके चेहरे पर आशा की किरण और मुस्कान लायी जा सके| एक न्यायपूर्ण समाज वह समाज है जिसमें सम्मान की भावना और अवमाननाकी भावना एक दयालू समाज की नीव में घुल जाती है- डॉ. बी. आर आंबेडकर, |जाति का विनाश|
CWESTIYNAU
• Wrth feddwl fod y Dalitiaid yn cael eu hystyried yn
‘anghyffwrddadwy’, pa ffurfiau o ragfarn a gwahaniaethu a welwch yn eich cyd-destun chi? • Diwinyddiaeth gan y Dalitiaid eu hunain sy’n anelu at eu rhyddhad hwy eu hunain yw diwinyddiaeth Dalit. A welwch chi fathau tebyg o ddiwinyddiaeth yn codi yn eich cyd-destun chi? • ‘Gan fod Duw yn greawdydd pawb oll, dylai newyddion da teyrnasiad
Duw fod yn dda i bawb hefyd.’ Fe’n gelwir ni i gyhoeddi’r newyddion da, ond beth yw’r newyddion da i gymunedau’r Dalitiaid, i gymunedau gorthrymedig eraill ac i’n cymuned ni?
EXODUS 6: 2-7 (BNET)
2 Meddai Duw wrth Moses, “Fi ydy'r ARGLWYDD. 3 Gwnes i ddangos fy hun i Abraham, Isaac a Jacob fel y Duw sy'n rheoli popeth. Ond doeddwn i ddim wedi gadael iddyn nhw fy nabod i wrth fy enw, yr ARGLWYDD. 4 Rôn i wedi gwneud ymrwymiad i roi gwlad Canaan iddyn nhw, sef y wlad lle roedden nhw'n byw fel mewnfudwyr. 5 Dw i wedi clywed pobl Israel yn griddfan am fod yr Eifftiaid wedi'u gwneud nhw'n gaethweision, a dw i wedi cofio fy ymrwymiad iddyn nhw. 6 Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Fi ydy'r ARGLWYDD. Dw i'n mynd i ddod â chi allan o'r Aifft. Fyddwch chi ddim yn gaethweision i'r Eifftiaid o hyn ymlaen. Dw i'n mynd i'ch achub chi rhag cael eich cam-drin ganddyn nhw. Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi, ac yn mynd i'w cosbi nhw. 7 Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft. [BNET]
CWESTIYNAU
• Mae’r darn hwn yn paentio darlun o Dduw sy’n dioddef gyda phobl
Dduw ac yn eu cario drwy eu cystuddiau. Sut mae hyn yn cymharu â’ch dealltwriaeth chi o Dduw? • Clywodd Duw ‘y bobl yn griddfan’. Sut mae hyn yn peri i chi deimlo am y ffordd yr ydych chi’n siarad â Duw?
• Yn yr adran hon, mae Duw’n addo, ‘Dw i'n mynd i ddefnyddio fy nerth i'ch rhyddhau chi’ (‘…eich achub… â braich estynedig’, yn ôl y
BCND). Beth mae ‘achub’ neu ‘rhyddhau’ yn golygu heddiw i’n byd, i’r Eglwys ac i ni’n hunain?
Gweddi
Dduw sy’n atgyfnerthu, Dyrchafa’r bregus a’r distadl. Chwala gadwyni gwahaniaethiad a rhagfarn, A gad dy bobl yn rhydd. Gad inni sefyll mewn solidariaeth â’r gorthrymedig, Gwrando ar eu storïau ac ysgafnhau eu baich. Boed inni oll fod yn lewyrch gobaith mewn byd toredig.
EGLWYS GOGLEDD INDIA: GADEWCH I'M POBL FYND - RHYDDHAU CYMUNEDAU LLWYTHOL RHAG TLODI A CHAETHWASIAETH DYLED
Mewn rhai rhanbarthau yng Ngogledd India, mae pobl o lwythau Dalit ac Adivasi yn cael eu dal yn slafdod llafur gorfodol, maent yn wynebu oriau hir, cyflog isel a llawer o galedi oherwydd tlodi eithafol. Mae rhaglen Eglwys Gogledd India, Gadewch i'm Pobl Fynd, wedi bod yn effeithiol wrth gefnogi cymunedau ymylol i dorri’n rhydd o gaethwasiaeth dyled a thlodi i ddod yn hunangynhaliol yn y tymor hir. Mae'r Eglwys wedi chwarae rhan hanfodol wrth gynyddu incwm cartrefi trwy fobileiddio menywod mewn ardaloedd gwledig trwy grwpiau hunangymorth. Mae menywod yng nghymunedau llwythol Dalit ac Adivasi Gogledd India yn dod yn symbolau blaenllaw o atgyfnerthiad trwy eu hannibyniaeth economaidd, gan ysbrydoli ac annog eraill i ddilyn yr un llwybr.