Conferences Newsletter Issue 3 Welsh

Page 1

RHIFYN 3

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar - CyberFirst Ym Mai 2016, lansiwyd CyberFirst sy’n rhan allweddol o Raglen Seiberddiogelwch Cenedlaethol llywodraeth y DU. Mewn cydweithrediad â Phencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU ac ymddiriedolaeth Smallpiece, mae QA yn datblygu ac yn darparu amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau hyfforddi ar seiberddiogelwch i bobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau ledled y DU. Yn ystod haf 2017 cynhaliodd Met Caerdydd dri digwyddiad hyfforddi preswyl llwyddiannus gan groesawu dros 150 o fyfyrwyr i gyrsiau Defenders, Futures ac Advanced CyberFirst. Roedd nifer o bartneriaid o’r diwydiant yn cyfrannu at y cyrsiau gan gynnwys siaradwyr o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, CyberSecurity Challenge, Cisco, BeCrypt a BAE.

eu diddordeb yn y maes yn ystod addysg bellach, mewn pynciau megis Cyfrifiadureg, ac yn y pen draw i ddilyn gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch. Yn yr hirdymor, y bwriad yw llenwi’r bwlch sgiliau ym maes seiberddiogelwch yn y DU.

Roedd pob cwrs yn para 4 i 5 niwrnod ac yn targedu disgyblion 14-17 oed i ennyn

Mae Met Caerdydd yn edrych ymlaen at groesawu CyberFirst nôl ym mis Ionawr.

Yr Eglwys Bresbyteraidd

“Roedd yr holl drefniadau’n dda iawn gyda chymorth cyfeillgar ac effeithlon y staff cynadledda ac arlwyo.” Yr Eglwys Bresbyteraidd

Fe fydd CyberFirst yn rhedeg y cyrsiau haf unwaith eto flwyddyn nesaf. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, e-bostiwch cyberfirst@smallpeicetrust.org.uk “88% o fyfyrwyr yn ystyried y lleoliad yn Dda neu’n Ardderchog”

Ym mis Gorffennaf, croesawodd Met Caerdydd dros 120 o bobol o bob cwr o Gymru i gynhadledd breswyl Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Parodd y digwyddiad am ddeuddydd a chynhaliwyd sesiynau llawn a chyfarfodydd llai ynghyd â stondinau a siopau llyfrau. Roedd brecwast llawn, cinio bwffe a phrydau 3 chwrs min nos yn cael eu darparu ym mwyty K1 a darparwyd llety yn ein hystafelloedd en-suite newydd sydd gerllaw’r ystafell gynadledda. Roedd wynebau llawen y grŵp wedi llonni ein boreau gyda chytgord eu sesiynau addoli boreol. Gan mai siaradwyr Cymraeg yn bennaf oedd aelodau’r grŵp, gyda dwy ran o dair o’u heglwysi’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd y tîm cynadledda yn falch o’r cyfle i ymarfer eu Cymraeg!

01


Haf o chwaraeon Gydol yr haf, croesawodd Met Caerdydd gannoedd o ymwelwyr i gyfarfodydd dydd, cynadleddau preswyl, ysgolion iaith a gwersylloedd hyfforddi. Cynhaliwyd y nifer fwyaf erioed o ddigwyddiadau chwaraeon

eleni. Gall Met Caerdydd ymfalchïo yn ei phortffolio o gyfleusterau chwaraeon safon byd sy’n darparu ar gyfer pawb o’r athletwyr elît i’r to iau. Mae llawer o grwpiau’n dewis Met Caerdydd am ei bod mor hwylus cael yr holl

gyfleusterau ar yr un safle, gan gynnwys y cyfleusterau chwaraeon, llety ac arlwyo. Yn ystod yr haf roedd yn bleser croesawu:

Cynhadledd Dyfarnwyr FAW

Sport Cardiff

Clwb Rygbi Henley Hawks

Academi Griced Parramatta, Awstralia

Undeb Rygbi Cymru – Gwersyll y Ddraig dan 18

Twrnamaint Hoci Ysgolion

Ysgol Merchant Taylors

Cynghrair Rygbi Iwerddon

Cynghrair Rygbi Cymru

Undeb Rygbi Merched Lloegr

Tîm Athletau Botswana

Undeb Rygbi Caerlŷr

Tîm Athletau Zambia

Pêl-fasged dan 17 Merched Iwerddon

Cystadleuaeth Inferno Racing Cross-fit

“Roedd y tîm a drefnodd ein digwyddiad yn broffesiynol a chefnogol dros ben ac roedd yr holl broses yn gwbl ddidrafferth.” Pêl-fasged Iwerddon

I weld taith o’r awyr o gwmpas cyfleusterau chwaraeon Met Caerdydd, cliciwch yma, click here

“Roedd Prifysgol Met Caerdydd yn wych. Roedd trefniadau’r ystafelloedd yn berffaith a’r golchi dillad / brecwast a’r ddarpariaeth gymdeithasol yn ddelfrydol. Hyd yn oed ar y diwrnod glawog, llwyddwyd i lenwi’r diwrnod â gweithgareddau diddorol a difyr.” Parramatta Cricket Group (Australia)

AEME Roedd Cynadleddau Met Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru yn falch i gynnal y 14eg Fforwm Cymdeithas Addysg Rheoli Digwyddiadau (AEME) rhwng y 5ed a'r 7fed o Orffennaf 2017. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol

Reoli gyda dros 50 o bobl yn bresennol gan gynnwys siaradwyr diwydiant allweddol a nodyn croeso gan Cara Atichinson. Mae hanes hir i’r Diwydiant Digwyddiadau sydd wedi esblygu

ac wedi newid yn sylweddol, yn codi heriau a chyfleoedd i ymarferwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd. Mae gweithio ar y cyd mewn dull meddwl blaengar yn hanfodol i lwyddiant dyfodol y diwydiant cyfan.

“Diolch i bawb yn AEME2017 am gynhadledd anhygoel! Sefydliad gwych, ymchwil ysbrydoledig a chwmni da.” 02


ICAS Mae ICAS yn gorff proffesiynol ar gyfer 20,000 a mwy o ddynion a menywod busnes gyda’r gorau yn y byd sy’n gweithio yn y DU ac mewn mwy na 100 o wledydd o gwmpas y byd. Mae ICAS yn addysgwr, arholwr, rheoleiddiwr ac arweinydd syniadau. Trwy gydol 2016/17 cynhaliodd Met Caerdydd dros 35 o ddiwrnodau hyfforddi ICAS yn ein Hystafelloedd Cynadledda yng Nghyncoed yn ogystal â’u harholiadau terfynol ym Mhrif Neuadd Llandaf.

“Roedd cefnogaeth y tîm yn wych ac yn gymorth mawr. Mae Met Caerdydd yn haeddu pob clod.” ICAS

Mae’r cyfan yn ymwneud â’r Gwasanaeth Pan mae’n ymwneud â sicrhau bod digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn, mae'n ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid da. Mae Cynadleddau Met Caerdydd yn gweithio gydag Ysgolion ac Unedau i roi cyngor a chefnogaeth ar gynnal Cynadleddau yn ogystal â trefnu logisteg y digwyddiad. Mae digwyddiadau wedi cynnwys Dysgu Saesneg yng Nghymru, AEME a'r Gynhadledd Canolwyr FAW.

• Cydlynu a chydlynu cynllunio cyngynhadledd, fel archebu'r lleoliad priodol, lletygarwch, parcio / cludiant, AV a chymorth technegol, arwyddion, cofrestru cynrychiolwyr ac ati • Cymorth wrth drefnu gofynion Cynadleddau ychwanegol oddi ar y safle e.e. digwyddiadau cymdeithasol, teithiau dydd, trosglwyddiadau bysiau, lletygarwch a derbynfeydd ac ati

Gall Cynadleddau Met Caerdydd gynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau sy'n canolbwyntio'n allanol trwy ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

• Gwybodaeth ychwanegol a cydlynu yn ôl yr angen gan gynnwys trwyddedu, iechyd a diogelwch, mynediad ac ati

• Costau a chymorth masnachol wrth gwblhau dogfennau cais

• Cymorth ar y safle ar y diwrnod gan un o'r Tîm Cynadleddau

• Anfonebu yn ôl yr angen ar gyfer sefydliadau neu unigolion Os ydych chi'n gweithio'n agos gyda chymdeithasau allanol neu yn mynychu Cynadleddau pwncbenodol yn genedlaethol neu yn rhyngwladol, beth am awgrymu Met Caerdydd fel lleoliad ar gyfer eu cynhadledd nesaf? Byddwn ni'n cynorthwyo yn y cynnig, cynllunio a logisteg ar y diwrnod i sicrhau digwyddiad llwyddiannus tra'n dod â chlod i'r brifysgol a'ch Ysgol neu'ch Uned.

Y Bench yn cael Adnewyddiad Grumpy! Dros yr haf cafodd caffi The Bench ar Gampws Cyncoed adnewyddiad i’w groesawu a oedd yn cynnwys nid yn

unig cyflenwad llawn o ddodrefn modern ond hefyd brand newydd o goffi, Grumpy Mule.

Cynhaliodd y Tîm Cynadleddau yn ddiweddar eu cyfarfod cyfryngau cymdeithasol yn The Bench a rhoi cynnig ar y coffi newydd.

“Mae’r coffi’n ardderchog a dwi yn hoffi coffi da, felly byddaf yn bendant yn ymweld eto! ” Sally

03


Llawer o “Ddiolch!” Mae trefnu a pharatoi Cynadleddau a digwyddiadau yn golygu cydweithio â nifer o wahanol adrannau i sicrhau llwyddiant. Bydd ein cleientiaid yn rhyngweithio â staff o gwmpas y Brifysgol yn ystod eu

digwyddiad felly mae'n wych bod pawb mor gymwynasgar a phroffesiynol. Rydym wedi cael adborth gwych eleni ac mae hyn i raddau helaeth o ganlyniad i wasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Hoffai’r Tîm Cynadleddau ddiolch i bob adran ym Met Caerdydd sydd wedi gweithio gyda ni yn 2017, ni allem ni fod wedi gwneud hyn hebddoch chi! I ddarllen rhywfaint o'n hadborth diweddar, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/conferences

Ffocws ar Iechyd a Diogelwch Iechyd a Diogelwch yw un o flaenoriaethau allweddol Met Caerdydd ac nid yw’n fater i’w anwybyddu wrth drefnu cynhadledd neu ddigwyddiad. Gwaith trefnydd y digwyddiad yw cynllunio, rheoli a monitro digwyddiadau er mwyn sicrhau diogelwch y staff a’r cyhoedd sy’n ymweld. Mae’r pethau sydd angen eu hystyried yn cynnwys maint y digwyddiad a’r math o ddigwyddiad a gan gynnwys rheoli pobl a thrafnidiaeth yn ogystal â deall a bod yn ymwybodol o asesiadau risg a gweithdrefnau gwacau. Mae Tîm Cynadledda Met Caerdydd yn adolygu iechyd a diogelwch pob digwyddiad ac maen nhw wedi bod yn diweddaru eu sgiliau argyfwng yn ystod yr haf gan hyfforddi i ddefnyddio cadair wacau (Evac) ac ymwybyddiaeth o ddiffoddwyr tân.

Diffibrilwyr Allanol Awtomatig Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu sut mae diffibriliwr yn gweithio

Mae Diffibrilwyr Allanol Awtomatig ar gael ar holl gampysau Met Caerdydd

Os ydych chi’n rheoli digwyddiad a’ch bod angen cymorth gyda iechyd a diogelwch, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. HSE website. Derbynfa Plas Gwyn Derbynfa Llandaf a CSAD Derbynfa Cyncoed Derbynfa NIAC Labordy Ffisioleg Cyncoed

Gwobr Cymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy Cafodd Met Caerdydd ei henwebu ar gyfer y wobr ‘Feed People Better’ yn ystod y gwobrau Cymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy diweddar, gan ddod yn ail y tu ôl i Jamie’s Italian. Derbyniodd ein Pennaeth Arlwyo a’i ddirprwy Karen Thorne y wobr gan

Lywydd Cymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy, Raymond Blanc. Mae’n bleser gan Met Caerdydd i fod y brifysgol yng Nghymru i dderbyn 3 seren aur gan y Gymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy.

Ffaith Ddifyr Rydym ni ar y teledu! Defnyddiwyd cyfleusterau Met Caerdydd yn ddiweddar i ffilmio Doctor Who, Casualty a Pobol y Cwm. Cadwch eich llygaid ar agor am gip o Met Caerdydd ar y teledu.

04


Cyfleuster Athletau Awyr Agored Newydd a Maes Rygbi 3G

Mae disgwyl mawr wedi bod yn y byd athletau am ein cyfleuster athletau ar ei newydd wedd, felly mae’n bleser gennym allu darparu cyfleuster athletau awyr agored o’r radd flaenaf erbyn hyn i’n holl randdeiliaid a defnyddwyr law yn llaw â’n Canolfan Genedlaethol Athletau Dan Do ysblennydd. Bydd y cyfleuster yn ganolfan hyfforddi allweddol ar gyfer ein hathletwyr gorau, athletwyr y Brifysgol, y gymuned leol yn ogystal â’n hacademi ar gyfer athletwyr iau – sef y Cardiff Archers.

Agorwyd y cyfleuster newydd yn swyddogol ar 4 Medi gan yr Athro Cara Aitchison, Darren Campbell, Aled Davies, Colin Jackson, Christian Malcolm a Jamie Baulch. Meddai Colin Jackson a enillodd fedal arian yn y gemau Olympaidd ac a fu’n bencampwr byd ddwy waith,: “Mae’r trac newydd yma yn ardderchog. Rwyf eisoes wedi ei ddangos i griw o Awstralia gyda’r posibilrwydd o’i ddefnyddio ar gyfer gwersyll hyfforddi yn yr haf, ac ar gyfer y tymor Athletau Ewropeaidd. Maen nhw’n gwybod pa mor ddefnyddiol yw cael popeth yn yr un lle, o drac mewnol ac allanol i gampfa a llety – roedden nhw’n

Yn ogystal â’r cyfleuster athletau, mae gennym faes rygbi 3G newydd a fydd yn darparu cyfleuster hyfforddiant a chystadlaethau rygbi ym mhob tywydd.

Croeso Rhyngwladol Yn ystod misoedd yr haf, roedd Llety Cyncoed a Phlas Gwyn yn brysur iawn yn croesawu dros 450 o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ar gyfer hyfforddiant yn yr iaith Saesneg a chyrsiau Saesneg cyn-sesiynol. Mae lletya’r trigolion rhyngwladol hyn dros fisoedd yr haf yn gyfle arall i fyfyrwyr posibl brofi Met Caerdydd yn ogystal â sicrhau gofynion ymsefydlu. Mae’r Tîm Cynadleddau yn gweithio'n galed i sicrhau hyd eithaf eu gallu bod lle ar gael trwy'r haf ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a chyn-sesiynol ac mae hyn yn aml yn golygu jyglo archebion i ddod o hyd i’r hyn sydd fwyaf addas ar gyfer y misoedd poblogaidd hyn.

05


Sylw ar Clare

Amser Cystadleuaeth Dyfalu pwy? Dyma fersiwn iau o'r Tîm Cynadleddau ond pwy yw pwy? E-bostiwch eich atebion i ni erbyn 17eg Tachwedd a bydd un enillydd lwcus yn derbyn potel o win.

1 Mae gan Clare (Rheolwr Gwasanaethau Cynadleddau) ystod o hobïau y tu allan i'r gwaith ac mae'n rhan o nifer o dimau yn chwarae tennis, tennis bwrdd a golff. Yr haf hwn roedd hi'n falch iawn o ennill y Gystadleuaeth Cwpan Pattûllo Parau Cymysg yn Aberystwyth yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd.

Ymunwch â ni ar...

2

4

3

Calendr Desg Am Ddim Trefnwch eich hun ar gyfer 2018! Rhowch alwad i ni os hoffech chi dderbyn un o'n calendrau desg defnyddiol.

 Twitter  Facebook  Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.

06


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.