ADOLYGIAD O EFFAITH 2019
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 1
Y R AT HRO S HE L D ON HA NTON ( D ir pr wy I s - G a n g h e l l o r, Ym c hw i l a c A r l o e s i )
Trwy fenter EDGE Met Caerdydd, rydym yn ceisio creu amgylchedd ar draws y Brifysgol sy’n meithrin ysbryd o entrepreneuriaeth. Mae’r ddarpariaeth cymorth ar gyfer ein myfyrwyr a’n staff yn parhau i ddatblygu. Mae grant Entrepreneuriaeth gan Lywodraeth Cymru wedi ein galluogi ni, am y tro cyntaf, i benodi arweinydd academaidd i hyrwyddo datblygu menter ac addysg entrepreneuriaeth.
Ymfalchïwn yn ein hanes o gynhyrchu un o’r niferoedd uchaf o fusnesau a gychwynnir gan raddedigion yng Nghymru, a hynny’n gyson. Mae’r Adolygiad hwn yn gyfle i arddangos rhai o’r ymyriadau sy’n arwain y sector a gyflawnir gan ein Canolfan Entrepreneuriaeth ac ysgolion academaidd, o fewn y cwricwlwm a thu hwnt. Mae’r ffeithiau, ffigurau a’r astudiaethau achos a gynhwysir yma yn helpu dangos sut mae Met Caerdydd, gyda chymorth partneriaid dibynadwy, yn parhau i ddatblygu a chefnogi cenhedlaeth o entrepreneuriaid.
2 C A N O L FA N E N T R E P RE NE URIAETH
ME T CA E R DY DD – P R I F YS G OL ENTR EPR ENEURA I D D Mae ein Cynllun Strategol (2017/18 – 2022/23) yn amlinellu gweledigaeth glir i’r brifysgol i gyflawni addysg, ymchwil ac arloesi o ansawdd uchel ac effaith uchel sy’n canolbwyntio ar ymarfer. Trwy ddatblygu a chyflwyno menter EDGE Met Caerdydd (sy’n meithrin sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd) rydym wedi gwneud ymrwymiad clir i gefnogi entrepreneuriaid yfory wrth iddynt dyfu drwy eu hymgysylltiad â’r Brifysgol, gan ddatblygu’r sgiliau, y profiad, y wybodaeth, yr hyder a’r gwydnwch i ffynnu mewn byd ansicr sy’n newid o hyd. Mae’n bwysig cydnabod nad yw entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd yn berchen i unrhyw adran nac ysgol benodol, ond ei bod yn rhan ymgorfforedig ac integredig o’n diwylliant sy’n cael ei datblygu a’i gwella’n gyson.
RÔL Y GA N O L FA N E N TR E PR ENEUR I A ETH Mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth, a sefydlwyd yn 2013, yn gweithredu fel catalydd gweladwy ar gyfer y gweithgarwch entrepreneuraidd a’r cymorth sydd ar gael drwy’r Brifysgol. Wedi’i lleoli yn ardal ddeor CF5 ar Gampws Llandaf, mae ein staff yn cydnabod gwerth datblygu graddedigion entrepreneuraidd, ond yn benodol, gwerth creu busnesau newydd, mentrau cymdeithasol ac elusennau, a’r effaith a gaiff hyn ar economi ddynamig Caerdydd a Chymru. Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at weithgarwch y Ganolfan, gan ddangos ein hymrwymiad i gefnogi entrepreneuriaeth.
Mae ein gwaith yn rhychwantu tri llwybr datblygiadol allweddol:
CYMORTH CYN CYCHWYN ‘ENTACT’ gweithgarwch wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth ac i ddatblygu dyhead i ymgysylltu mwy â gweithgarwch entrepreneuraidd.
CYMORTH CYCHWYN ‘CF5’ gweithgarwch wedi’i gynllunio i helpu unigolion a thimau i gychwyn a thyfu sefydliadau newydd.
CYMORTH ACADEMAIDDT gweithgarwch wedi’i gynllunio i integreiddio entrepreneuriaeth ymhellach yn niwylliant Met Caerdydd ac i gefnogi’r holl staff I gynorthwyo entrepreneuriaeth a bod yn entrepreneuraidd.
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 3
CYFA RFO D Â ’ R TÎ M
STEVE AI CHELER Rheolwr Ymg ysy lltu E ntrep ren eu ria eth 0.8 FT E e: s a icheler@ ca rd if f met.a c.uk
DEWI GRAY Rh eolwr Cychwy n B us n es a u 0.8 FT E e: d g ray @ ca rd if f met.a c.u k
DR DAN ANTO NY Arweinyd d Aca d ema id d Ad d ys g Fenter 0.5 FT E e: d a n tony @ ca rd if f met.a c.u k
HANNAH WI LLI S Swyddog Marchnata, Digwyddiadau a G weinyd d u 0.5 FT E e: hwillis @ ca rd if f met.a c.uk
LYNDSEY BO ULTO N Swyddog Marchnata 0.5 FT E e: lb ou lton @ ca rd if f met.a c.u k
MA N YL IO N CYSW L LT Ffon: 02 92 0 2 0 5 6 6 4 E- bos : e n t re pre n e u r s h i p @ ca rd i f f me t.a c.u k
C ardiffM e t En t C ardiffM e t En t cardiffm e te n t
4 C AN O L FA N E N T R E P RE NE URIAETH
Wy neb y n Wy n eb : Ca n olfa n E n trep reneuria eth Prif ys g ol Metrop olita n Ca erd yd d Ca mpws Lla n d a f Rh od fa ’r G orllewin Caerdydd CF5 2 YB
YMGYSY L LT I A D ACA DE M AI D D Mae datblygu addysg fenter/entrepreneuriaeth o fewn y cwricwlwm wedi’i nodi fel elfen hanfodol o’n hymagwedd gyffredinol at gefnogi entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd. Bydd ymrwymo amser cwricwlwm yn cefnogi datblygu cymwyseddau entrepreneuraidd (Entrecomp 2018) ac yn cynyddu effeithiolrwydd a bwriad entrepreneuraidd. I gefnogi’r datblygiad hwn, cafodd swydd ran-amser Darlithydd mewn Addysg Entrepreneuriaeth Menter ei chreu gyda’r bwriad o wella gallu cydweithwyr academaidd i ddatblygu a chyflwyno addysg fenter. Bydd y rôl hon, a recriwtiwyd ar sail tymor penodedig hyd at fis Hydref 2021 yn cyflawni’r canlynol: • Cynyddu gallu staff academaidd i ddatblygu a chyflwyno addysg fenter. • Datblygu storfa o adnoddau i gefnogi cyflwyno addysg fenter. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac mae partneriaethau cryf wedi’u ffurfio gydag ysgolion academaidd a gyda’r Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd yn fewnol. Drwy’r partneriaethau hyn, mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn cael ei chynnwys yn gynyddol yn y broses adolygu cyfnodol, ac mae hyn yn arwain at wneud newidiadau sylweddol ar lefel rhaglenni a modiwlau (Gweler yr astudiaeth achos). Mae gweithdai DPP wedi’u cynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20, ac mae’r gweithdai hyn wedi’u cynllunio i gefnogi cwricwlwm gwell ar lefel modiwlau a gweithredu fel dilyniant i sesiynau cyflwyniadol fel y ‘Rough Guide / Canllaw Bras’. Mae Met Caerdydd yn ychwanegu cyrsiau newydd yn barhaus ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Dangosir ein hymrwymiad i entrepreneuriaeth trwy gyflwyno cyrsiau fel yr MA mewn Menter Greadigol (CSAD) ac M.Sc. mewn Entrepreneuriaeth (CSM), ac mae’r ddau gwrs yn cynnwys lefel sylweddol o addysg entrepreneuriaeth.
ASTUDIAETH ACHOS
C AN L L AW B R AS I A D DYS G AC Y M A R F E R ME N TE R Cafodd ein strategaeth Ymgysylltiad Academaidd ei gwella trwy weithio gyda Enterprise Educators UK i gyflwyno digwyddiad “Canllaw Bras” ym mis Medi 2019. Mae’r diwrnod egnïol iawn hwn yn gweithio fel cyflwyniad cyflym i fyd addysg fenter i staff academaidd a staff cymorth mewn addysg uwch.
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 5
Deilliannau Allweddol ar gyfer mynychwyr:
Cipolwg ar gyflwyno addysg fenter
Enterprise education tools and resources
Gwybodaeth am ddulliau cyflwyno addysg fenter llwyddiannus/rhaglenni o sefydliadau eraill
DY M A OE D D CY N N WYS Y D IGWYDDI AD: TROSOLWG O DDATBLYGIADAU POLISI A SAFONAU P RO F F E S IY N O L M E W N A D DYSG FENTER 3 chyflwyniad astudiaethau achos o addysg fenter ar waith ym Met Caerdydd: Steve Osbourne Darlithydd mewn Rheoli Chwaraeon yn Ymgorffori Addysg Fenter yn y Cwricwlwm Chwaraeon, gan ddefnyddio ymgysylltiad â diwydiant i hyrwyddo agenda Addysg Fenter. Richard Morris Deon Cyswllt (Arloesi) CSAD – Mind Your Own Business – modiwl dysgu gweithredol ar gyfer myfyrwyr creadigol. Steve Aicheler Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth – y Ganolfan Entrepreneuriaeth, a chatalydd dros weithgarwch entrepreneuraidd.
6 C AN O L FA N E N T R EP RENE URIAETH
Carwsél proffesiynol, yn rhoi cyfle i fynychwyr sgwrsio gydag ymarferwyr profiadol o ystod o rolau o fewn Addysg Uwch. Natasha Hashimi Darlithydd mewn Addysg Fenter ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Dave Boulton Cyfarwyddwr Menter a Chyflogadwyedd a Chyfarwyddwr Rhaglenni ym Mhrifysgol Abertawe. Steve Aicheler Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Met Caerdydd Alison Price Pennaeth Polisi yn EE UK Steve Osbourne Darlithydd mewn Rheoli Chwaraeon yn Cyfeirio at gyfleoedd cymorth a datblygiadol pellach
A D B OR T H A M Y D I GWY DD I A D Mae’r digwyddiad wedi fy annog i ymgorffori menter yn f’addysgu a cheisio troi mwy o syniadau yn weithredu Y digwyddiad yn ‘fuddiol iawn’ i 80% o’r mynychwyr Rhwydweithio gwych, cyflwyniadau ysbrydolgar a chyfle i siarad go iawn gydag arbenigwyr ac addysgwyr eraill. Diwrnod wedi’i fuddsoddi’n dda Byddai 100% yn argymell y digwyddiad i gydweithwyr Cyfle i rannu arfer gorau gyda chyd ddarlithwyr y brifysgol/staff AB
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 7
ASTUDIAETH ACHOS M O D IWL L 5 M EN TE R ME W N CHWARAE ON AC I EC HY D Cyflwynwyd y model newydd hwn ym mlwyddyn academaidd 2019/20 yn dilyn ymgysylltu helaeth â diwydiant a chydweithredu rhwng y Ganolfan Entrepreneuriaeth a’r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd. Wedi’i ddatblygu ochr yn ochr ag adolygiad ehangach o’r cwricwlwm, cyflwynwyd y modiwl ar ddiwrnod unigol, heb unrhyw sesiynau amserlenni eraill ar y diwrnod hwn. Fe wnaeth hyn alluogi efelychu rhaglen sbardunwr busnesau gyda chymysgedd o gyflwyniadau academaidd, sesiynau cymorth wedi’u darparu gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth a sesiynau seminar grŵp i ddarparu cynnwys difyr. Mae’r ymagwedd hon wedi bod yn boblogaidd gyda myfyrwyr, ac wedi arwain at lefelau mynychu da ac arwyddion cynnar y dylanwadwyd yn gadarnhaol ar fwriad entrepreneuraidd.
Siaradwyr gwadd sy’n entrepreneuriaid
WYTHNOSAU
Micro hackathon gyda Chwaraeon Cymru
Syniadau busnes neu wella gwasanaethau wedi’u datblygu
Ymgysylltiad â’r CfE wedi cynyddu Bwriad entrepreneuraidd wedi cynyddu Adnabod cymwyseddau entrepreneuraidd wedi cynyddu
8 C A N O L FA N E N T R E PRE NE URIAETH
Partneriaeth bwerus rhwng diwydiant, ysgol academaidd a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth
CY MO RT H CY N CYC H WY N - ENTACT Elfen sylfaenol o’n gwaith i annog a chefnogi entrepreneuriaeth yw gweithio gyda myfyrwyr nad ydynt wedi dechrau busnes neu fenter gymdeithasol eto. Mae ein dylanwad a’n cymorth yn y cyfnod hwn yn cynyddu diddordeb mewn entrepreneuriaeth ac yn darparu sylfaen gadarn y gall myfyrwyr adeiladu arni wrth iddynt ddatblygu’u syniadau a’u priodweddau personol.
DIGWY D D I A DAU R HWY DWE IT HI O
Cyfarfod & Chymysgu
Ionawr
Testunau Chwefror
Gwahanol
Cyfanswm Mynychwyr
Mawrth
Hydref
Tachwedd
Gwneuthurwyr a Chynhyrchwyr
Entrepreneuriaid Cymreig - digwyddiad Cymraeg
Gwydnwch
Entrepreneuriaid Cymdeithasol a Moesegol
Dylanwadwyr Digidol
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 9
GW E I T H DA I A SE SIYN AU GRYMUSO
Sesiwn yn y cwricwlwm
Sesiynau Allgyrsiol
Cyfanswm Mynychwyr
Themâu amrywiol Ewch yn ddigidol | Y diwydiant bwyd Byddwch yn fos arnoch chi’ch hun | Cyllid a CThEM | Berw busnes | Gwneuthurwyr dylunio | Hanfodion busnes | Cynhyrchu gwefannau Digwyddiad mwyaf poblogaidd 51 o fynychwyr
C RO N FA F F LAC H [E N TAC T] Mae Cronfa Fflach wedi’i chynllunio i helpu myfyrwyr gymryd y cam cyntaf neu’r camau nesaf i ddatblygu’u busnes. Mae’r gystadleuaeth micro gyllid hon yn darparu hyd at £200 mewn gwobrau ariannol i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’u syniad busnes.
Mawrth
£6700 wedi’i roi o Gronfa Fflach
23 cymorth myfyrwyr
10 C A N O L FA N E N T R EP RENE URIAETH
15 o fyfyrwyr wedi’u cefnogi
Tach
8 o fyfyrwyr wedi’u cefnogi
AST U D I A E T H ACHOS
T E CST I L AU F R E YA SNOW Enw: Freya Snow Cwrs: Tecstilau (BA) Graddio: 2019 Busnes: Tecstilau Freya Snow – brand ffordd o fyw sy’n cynnig nwyddau’r cartref, tecstilau ac ategolion yn fy nyluniadau collage a dyfrlliw unigryw. Mae’r cynhyrchion yn cynnwys llieiniau llestri, bagiau tote, pyrsiau sip, clustogau, crogluniau a phrintiau celf. www.freyasnowtextiles.co.uk Sut wnes di gychwyn arni? Fe wnaeth fy musnes gychwyn yn anfwriadol braidd ym mis Mai 2018 ar ôl cwblhau prosiect Prifysgol lle’r oedd fy nyluniadau’n cael eu hargraffu’n ddigidol ar ffabrig. Cefais adborth mor dda gan deulu a ffrindiau, penderfynais y dylwn i roi cynnig ar eu gwerthu nhw! Codais fy stondin cyntaf a llwyddais i werthu salw peth. Pan euthum yn ôl i Met Caerdydd ar gyfer fy mlwyddyn olaf, creais fy siop etsy a hefyd dechreuais fynd i weithdai a gweithgareddau wedi’u trefnu gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth. Fe wnaeth y gweithdai fy helpu i ddatblygu fy syniad a f’annog i barhau i werthu. Gwerthais ychydig o bethau eraill drwy etsy a hefyd cefais yr hyder i geisio gwerthu trwy farchnad Nadolig yn Stroud. Ble wyt ti nawr? Ar ôl graddio ym Mehefin, rwyf wedi bod yn cynhyrchu a gwerthu mwy o ’ngwaith. Fe wnes i fynd i lwyth o farchnadoedd cyn Nadolig 2019 a’r Arcêd Gwneuthurwyr yng Nghaerdydd, a oedd yn gyflegwych arall gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth. Rwy’n gwerthu ar-lein hefyd drwy etsy a fy ngwefan fy hun. Ar hyn o bryd rwy’n ceisio dod o hyd i ffyrdd i ehangu fy ngwerthiannau. Byddaf yn stocio fy nghynnyrch mewn siop anrhegion leol sy’n gyffrous iawn, ac rwyf wedi bod mewn cysylltiad â siopau lleol eraill ynghylch stocio fy nghynnyrch. Rwy’n bwriadu rhyddhau casgliad newydd a fydd, gobeithio, yn creu mwy o ddiddordeb yn fy musnes ac yn cynyddu gwerthiannau. Rwyf hefyd yn ymchwilio i gyflenwyr newydd i argraffu’n ddigidol i help lleihau costau.
Beth yw dy gynlluniau i’r dyfodol? Rwy’n bwriadu rhyddhau casgliad newydd a fydd, gobeithio, yn creu mwy o ddiddordeb yn fy musnes ac yn cynyddu gwerthiannau. Rwy’n gobeithio ehangu trwy roi fy nghynnyrch yn barhaol mewn siopau anrhegion annibynnol yn Swydd Gaerloyw ac ardaloedd cyfagos. Hefyd, hoffwn gysylltu â manwerthwyr mwy o ran stocio fy nghynnyrch neu weithio ar ystod gydweithredol o gynnyrch gyda’n gilydd. Gobeithio y byddai’r amlygiad hwn i’m gwaith yn gwneud y busnes yn fwy adnabyddus a sefydledig. Sut wnaeth y Ganolfan Entrepreneuriaeth dy helpu o ran dy daith cychwyn busnes? Roedd yn rhan hanfodol o ddatblygiad fy musnes. Wedi i mi benderfynu fy mod am sefydlu fy musnes, manteisiais ar y darlithoedd a’r gweithdai gwych a oedd yn cael eu cynnig gan y Ganolfan, ac euthum i gymaint ohonynt ag y gallwn. Heb eu help nhw, nid wyf yn credu y byddai’r wybodaeth na’r hyder gen i i gychwyn fy musnes mor gynnar. Fe wnaeth gweithio gyda’r Ganolfan roi’r cyfle i mi gynnal stondinau yn nigwyddiadau Diwrnodau Cymunedol y Brifysgol, cymryd rhan mewn siopau gwib adeg y Nadolig, ac yn bwysicaf oll, cymryd rhan yn nigwyddiad Dynesu at y Lansiad i lansio lle sicrheais £1000 o fuddsoddiad yn fy musnes.
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 11
CYMO RT H CYC H WY N B U S N ES - CF5 Cefnogi’r myfyrwyr a’r graddedigion hynny sy’n cymryd y cam at hunangyflogaeth neu sy’n cychwyn busnes gydag uchelgeisiau i dyfu yw darn olaf y jig-so. Credwn fod ein cefnogaeth yn gynhwysfawr, ac eto’n ategu’r gefnogaeth a ddarperir gan ddarparwyr ecosystemau eraill fel Syniadau Mawr Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Busnes Cymru, UnLtd a NatWest.
DY NE S U AT Y L A N SIA D Mae Dynesu at y Lansiad yn ddigwyddiad ‘gwersyll hyfforddi’ wythnos o hyd a gynhaliwn ar ddiwedd tymor yr haf. Mae wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr drosglwyddo o addysg i fyd hunangyflogaeth neu redeg eu busnes eu hunain. Gyda chefnogaeth gan Santander, gallwn ddarparu cyllid sbarduno, ac yn 2019 darparom dros £20,000 i 20 o fusnesau newydd, y mwyafrif ohonynt o gefndir ehangu cyfranogiad.
40 cyfanswm cyfranogwyr PAR T NE R I AID
12 C A N O L FA N E N T R EP RENE URIAETH
24 o fusnesau newydd wedi’u lansio
B US N E SAU CY N - F YF Y RWY R SY’N GYSYLLTI EDI G
30 O weithdai
2 Sesiwn sylw
1 Arddangosfa busnes
4 Barnwyr allanol
BW RSA RIAE TH AU A C H Y LLI D Yn ychwanegol at y cyllid a addawyd yn ystod y digwyddiad Dynesu at y Lansiad, darparom bron i £14,000 o gyllid i fusnesau newydd hefyd drwy ein Bwrsariaethau Entrepreneuriaeth Santander sy’n darparu incwm bach am hyd at 13 wythnos i raddedigion, gan eu galluogi i neilltuo mwy o amser i’w busnesau a chyrraedd y man lle maent yn hunangynhaliol.
R H AGL E N GY F LY M U Mae’r rhaglen hon yn rhedeg o fis Medi bob blwyddyn ac mae’n darparu cymysgedd o arweiniad un i un, cymorth rhwng cymheiriaid, sesiynau arbenigol mewn eiddo deallusol, cyfrifyddu, cyllid a marchnata yn ogystal â mynediad i’n man deor ar Gampws Llandaf. Fe wnaeth 15 o raddedigion elwa o’r rhaglen hon yn 2019, busnesau fel Flowerhorn Brewery, Pretty Perfect Boutique a Voxman Roberts Ltd.
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 13
A ST U D I A E T H AC H O S
TOM B R IGGS PE R FO RMI VAT E Busnes hyfforddi pêl-droed proffesiynol yn Swydd Rhydychen yw Performivate, wedi’i gynllunio i wella perfformiadau pêl-droedwyr ifanc 6-16 oed. Ein nod yw helpu’r chwaraewyr ifanc hyn i gyflawni’u nodau a gwireddu’u potensial llawn. Cyflawnir hyn drwy sesiynau hyfforddiant pêl-droed ymarferol mewn grŵp, tîm, ac 1-2-1 yn seiliedig ar bedair colofn perfformiad pêl-droed. Mae ein dulliau hyfforddi yn addas i’r unigolyn ac ymfalchïwn wrth wella perfformiadau ar y cae chwarae ac oddi arno. Cyllid Dynesu at y Lansiad - £1000 Bwrsariaeth Entrepreneuriaeth Santander - £1950
Sut mae dy fusnes wedi datblygu ers mynychu’r digwyddiad Dynesu at y Lansiad? Ers mynychu Dynesu at y Lansiad rwyf wedi bod yn gweithio’n galed i helpu i Performivate gael ei adnabod yn fy ardal leol, wrth gydbwyso ymrwymiadau gwaith rhan-amser hefyd, sydd wedi bod yn her. Wrth wneud hynny, rwyf wedi bod mewn 2 glwb pêl-droed, rwyf wedi derbyn dau gleient rheolaidd 1-2-1, ac rwyf wedi partneru gydag un ysgol gynradd leol i ddarparu clwb pêl-droed ar ôl ysgol unwaith yr wythnos. Defnyddiais y cyllid £1,000 gan C2L i brynu’r offer yr oedd ei angen arnaf i gychwyn fy musnes. Roedd hyn yn cynnwys peli troed ac ategolion ar gyfer sesiynau, ynghyd â deunyddiau marchnata. Roeddwn yn ffodus hefyd i hawlio un o fwrsariaethau Santander a roddodd cyllid 13 wythnos i mi i helpu tyfu’r busnes. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn wedi gallu partneru gyda’r ysgol gynradd a gwthio gwerthiannau 1-2-1 drwy ymweld â chlybiau pêl-droed lleol.
14 C A N O L FA N E N T R EP RE NE URIAETH
“Ar ddechrau C2L cefais syniad, heb gynllun. Trwy ddefnyddio’r staff, fy nghymheiriaid, ac arbenigwyr y diwydiant, bu modd i mi droi fy syniad yn gynllun, ac yn y pen draw, yn fusnes. Dysgais bwysigrwydd rhwydweithio, sydd yn y pen draw wedi rhoi’r hyder i mi fynd i’r afael ag unrhyw sefyllfa yn hyderus ac archwilio llwybrau busnes y gallwn fel arall wedi bod yn rhy ofnus i wneud”
Beth yw dy gynlluniau ar gyfer Performivate yn y dyfodol? Mae dyfodol Performivate yn edrych yn gadarnhaol. Rwy’n gobeithio ehangu ar waith ysgolion, ac efallai darparu rhagor o glybiau ar ôl ysgol, neu hyd yn oed ehangu i wersi addysg gorfforol. O ran sesiynau hyfforddi 1-2-1, grŵp a chlybiau, byddaf yn parhau i wthio’r rhain, gan ddeall y bydd cyfnodau uchel ac isel yn anochel. Rwy’n credu fy mod, yn gyffredinol, wedi dysgu y bydd angen i mi fod yn fwy strategol o ran pa bryd, sut, ac i bwy i wthio fy ngwasanaethau. Mae deall fy musnes a’r diwydiant yn allweddol. Felly, byddaf yn parhau i ddysgu, datblygu a mireinio’r hyn rwy’n ei wneud er mwyn ei wneud yn llwyddiant.
CA N LY N IA DAU
Ymgysylltu â 1300
Grymuso 324
Cyfarparu 99
Masnachu prawf 34
Busnesau newydd wedi’u creu 63 (Prifysgol yn y 15 Uchaf yn y DU am gefnogi cychwyn busnesau
GWO BRAU AC E N W E B I A DAU
Gwobrau Busnes Caerdydd
Gwobrau Busnesau Newydd Cymru
Jenny Evans Unigolyn busnes ifanc y Flwyddyn
3 enwebiad myfyrwyr/graddedigionn mewn dau gategori
Gwobrau Entrepreneur Prydain
1 enwebiad graddedigion
ADOLYGIAD O EFFAITH 2019 15
C a n o l fa n E n trep reneuria eth P ri f ys g o l Me tropolitan Cae rdydd Cam pws Llan daf R ho d fa ’ r G or llewin Cae rdydd CF5 2YB
0292 0 20 5664 e n tre p re neurs hip @ ca rd if f met.a c.u k
Ca rd if f MetE n t Ca rd if f MetE n t ca rd if f metent
I MPACT R EVI EW 2 02 0 16