Conference Services Newsletter (Welsh) - October 2016 (External)

Page 1

RHIFYN 3

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion Ar 16 Medi 2016 cynhaliodd Met Caerdydd y gynhadledd Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion ar gampws Llandaf. Mynychodd dros 150 o addysgwyr carchardai, academyddion, gweithwyr cefnogi a phroffesiynolion carchardai o bob rhan o'r DU i drafod sut y gall addysg chwarae rhan bwysig yn helpu lleihau aildroseddu. Lansiwyd y gynhadledd gan Gadeirydd y Llywodraethwyr, Barbara Wilding, a chynhwysodd brif anerchiad gan gyn-fyfyrwyr Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion a myfyriwr presennol Met Caerdydd a gyflwynodd ei daith dysgu a sut y mae Met Caerdydd wedi trawsnewid ei fywyd.

“Roedd y cinio, y safle a’r lleoliad i gyd o ansawdd uchel iawn ac fe wnaethom fwynhau’r Cacennau Cri hefyd! Llawer o ddiolch am eich trefnu anhygoel a’ch help i drefnu’r gynhadledd.” Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion

Lluniau gan Laurynas Taunys

Cymdeithas Syndrom Down Cymru Ar benwythnos 22-24 Gorffennaf cynhaliom ddigwyddiad preswyl ar gyfer y Gymdeithas Syndrom Down. Daeth y grŵp at ei gilydd i drafod a chynllunio sut y gallant gyfrannu at y rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru. Agwedd bwysig o’r cwrs yw’r cyfle i weithwyr proffesiynol glywed yn uniongyrchol gan unigolion sydd â Syndrom Down. Rhannwyd eu profiadau i ddweud wrth weithwyr proffesiynol am eu bywydau ac i helpu i newid agweddau pobl.

Darganfod mwy am ein Cyfleusterau Cynhadledd a Digwyddiadau

Awgrym y dydd Mae cynrychiolwyr yn cofio’r amgylchedd ac yn enwedig y bwyd a’r diod. Mae gofynion a dewisiadau gwesteion cynhadledd yn fwy nag erioed felly ystyriwch gynnwys dewisiadau iach, llysieuol a heb glwten.

“Rhoddodd yr ystafelloedd gwely en-suite hyfryd a’r ystafelloedd cynadledda sydd wedi'u dylunio'n ddeniadol deimlad proffesiynol iawn i'r digwyddiad. Gwnaethpwyd popeth yn hwylus gan yr arlwyo a’r gefnogaeth a gafwyd gan staff ar y safle. Yn benodol, roeddem yn ddiolchgar bod staff wedi gwneud ymdrech ychwanegol i sicrhau bod ein gwesteion sydd ag anableddau dysgu wedi’u croesawu a bod ganddynt bopeth roedd ei angen arnynt. Byddem yn bendant yn ystyried defnyddio’r lleoliad hwn unwaith eto.” Cymdeithas Syndrom Down Cymru

01


Digwyddiadau Diweddar “Hoffem ddiolch i Met Caerdydd am helpu i wneud ein cynhadledd 'Ceramica' yn benwythnos mor wych. Roedd y llety yn ardderchog a’r gofal a dderbyniodd y cynrychiolwyr gan y timau Gwasanaethau Cynhadledd ac Arlwyo yn y lleoliad rhagorol hwn yn arbennig o dda” Crochenwyr De Cymru

Crochenwyr De Cymru Am yr eildro yn olynol cynhaliodd Crochenwyr De Cymru eu penwythnos preswyl ym Met Caerdydd, gyda dau grochenydd adnabyddus yn cael eu gwahodd i arddangos eu gwaith. Profodd y labordy gwyddoniaeth y lle perffaith i’r crochenyddion enwog Clare Wakefield a Doug Fitch ddangos eu sgiliau penodol, a rhoddodd gyfle i’r cynrychiolwyr roi cynnig ar rai o'r technegau yn y sesiynau gweithdy dilynol.

Edrychwch ar ein fideo newydd

Procurex Cymru Byw 2016 Y mis hwn cymerodd Met Caerdydd ran yn y digwyddiad Procurex Cymru. Roedd yn wych cwrdd â rhai o’n cwsmeriaid presennol a dod i adnabod cymaint o rai newydd hefyd. Mae Cynadleddau Met Caerdydd yn gyflenwr dewisol ar gyfer y Fframwaith Cyfleusterau Cynadledda GCC felly roedd yn gyfle gwych i hyrwyddo’r fframwaith gyda'r cynrychiolwyr. A ydych yn rhan o'r sector cyhoeddus? Cysylltwch â ni a chanfod sut y gallwn eich helpu chi o fewn y fframwaith GCC conferenceservcies@cardiffmet.ac.uk.

02


BETH SY'N NEWYDD - Adnewyddiadau dros yr Haf Mwy o ystafelloedd gwely en-suite Disgleiriodd yr haul ar breswylfeydd Cyncoed yr haf hwn gan ddod â thrawsnewidiad thema cwbl oren newydd i dros 30 o ystafelloedd en-suite newydd. Mae’r ystafelloedd newydd yn cynnig gwelyau maint tri chwarter a chegin/ystafell fwyta fawr a chyfoes gydag ardal eistedd a theledu. Gyda phopeth ar un campws, gan gynnwys arlwyo, ardaloedd cymdeithasol a chyfleusterau chwaraeon, mae campws Cyncoed yn ddewis perffaith ar gyfer digwyddiadau preswyl a gwersylloedd hyfforddi. A oes gennych ddigwyddiad preswyl mewn golwg ar gyfer 2017? Pam na wnewch chi fanteisio ar ein cynnig cynnar. Gwirio argaeledd a darganfod mwy. Edrychwch yma am argaeledd ac i ddarganfod mwy.

‘Trac’ newydd i NIAC Bellach, mae gan y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC) gaffi newydd ei hun, Y Trac. Gwibiwch i mewn i nôl Coffi Costa neu baguette wedi’i llenwi. Perffaith ar gyfer hwb ynni cyn unrhyw ddigwyddiad! Darganfod mwy am ein hallfeydd lletygarwch eraill ym Met Caerdydd a gweld ein teithiau rhithwir.

Bwydlenni Newydd Blasus Yr Hydref hwn rydym ni a’r adran arlwyo wedi bod yn brysur yn rhoi ein pennau ynghyd i greu bwydlenni lletygarwch newydd gwych.

Eatwell

Bwyta’n Dda

Mae gan ein bwydlenni newydd cyffrous opsiynau ar gyfer pawb gan gynnwys bwffes ar gyfer cynrychiolwyr gyda gofynion dietegol arbennig. Mae'r bwydlenni hyn yn cynnwys fegan, heb lactos, cnau a glwten a rhai llysieuol. Yn ogystal, fe ddewch o hyd i’n bwydlenni Eatwell sydd wedi ennill sawl gwobr a gynlluniwyd ar y cyd ag Ysgol y Gwyddorau Iechyd a’r Grŵp Iechyd a Lles yn y Gweithle.

Cliciwch yma i weld ein bwydlenni newydd.

03


Cynnig cyw cynnar Darganfod mwy am ein hallfeydd lletygarwch eraill ym Met Caerdydd a gweld ein teithiau rhithwir.

I wneud cais, cliciwch yma

Byddwn yn eich difetha! Archebwch ystafell gynhadledd cyn y Nadolig a chael phlatiad o gacennau di-dâl neu ddetholiad o facarŵns o’n bwydlen newydd.

Rhowch drefn ar bethau ar gyfer 2017… Mae gennym galendrau desg hwylus i’w rhoi i ffwrdd! Anfonwch e-bost atom: conferenceservices@cardiffmet.ac.uk ac anfonwn un o'n calendrau smart atoch yn y post.

Beth sydd ar yr agenda? Rydym yn dechrau llenwi ar gyfer haf y flwyddyn nesaf felly archebwch yn gynnar fel na chewch eich siomi. Yn 2017, edrychwn ymlaen at gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau o gynadleddau meddygol ac ysgolion iaith i bencampwriaethau chwaraeon;

Cyfarfod Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru

Confensiwn Addysg Uwch UCAS

Penwythnos Telynau

Cynulliad Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd

Cynhadledd Teach First

Cynhadledd ac Arddangosfa Feddygol MediConf UK

Ysgol Iaith Breswyl Ryngwladol

Oes cyfarfod neu ddigwyddiad gennych ar y gorwel y gallem eich helpu ag ef? Ffoniwch ni ar 029 2041 6181 er mwyn trefnu i weld ein cyfleusterau neu i gael dyfynbris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Ymunwch â ni ar...

 Twitter  Facebook  Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.

04


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.