Cardiff Met Conferences Newsletter - Welsh

Page 1

RHIFYN 9

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Cynhadledd Strôc Cymru Cynhadledd Strôc Cymru yw un o'r digwyddiadau meddygol amlddisgyblaethol mwyaf yng Nghymru ac mae'n rhan bwysig o'r calendr addysgol ar gyfer strôc yn y DU. Dechreuwyd y gynhadledd yn 2002 ac mae wedi tyfu o nerth i nerth bob blwyddyn. Eleni, fe'i cynhaliwyd ym Met Caerdydd gyda 295 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y gynhadledd ddeuddydd. Cyflwynwyd y gynhadledd gan ein His-Ganghellor, Cara Aitchison, ac roedd yn cynnwys siaradwyr o bob cwr o'r byd, pob un yn arbenigwr yn eu maes penodol o feddygaeth strôc. Yn ogystal â chyfarfodydd llawn yn un o'n theatrau darlithio haenog, cafwyd nifer o is-gyfarfodydd a gweithdai yn ystod y digwyddiad ac wrth gwrs darparwyd lletygarwch ar gyfer y cynadleddwyr i'w hannog a'u hysgogi!

“Arloesedd a Chreadigrwydd mewn Addysgu Mathemateg” Cynhadledd Athrawon FMSPW

Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd Met Caerdydd y gynhadledd athrawon FMSPW gyntaf, gyda dros 90 o gyfranogwyr o ysgolion, colegau a chonsortia addysgol ledled Cymru. Cynhaliwyd gweithdai ymarferol ar y cyd i athrawon gyda Mathemateg Safon Uwch a Mathemateg bellach, ymagweddau creadigol at fathemateg 11+ ystafelloedd dosbarth ac addysgu gwell technoleg. Roedd 22 o weithdai ar gael ac roedd y mynychwyr yn gallu dewis 5 sesiwn drwy gydol y dydd. Ynghyd ag athrawon o ysgolion a

cholegau ledled Cymru a thîm FMSPW, cyflwynodd cydweithwyr academaidd o ganolfan addysg Linz STEAM Prifysgol Johannes Kepler (Awstria) yn y gynhadledd gan rannu profiad rhyngwladol. Rhoddwyd y brif anerchiad "Ysbrydoli Dysgwyr ac Athrawon drwy Weithgareddau Dysgu STEM sy'n Ychwanegu at Dechnoleg" gan yr Athro Emeritws Adrian Oldknow, a'r araith gloi, 'Mathemateg: y 4 Diben a Thechnoleg' gan Dr Sofya Lyakhova o FMSPW.

“Dim ond gair o ddiolch am eich holl ymdrechion i sicrhau bod ein cynhadledd mor llwyddiannus! Roedd eich ffordd ddigyffro ac effeithlon yn helpu popeth i redeg yn esmwyth. Diolch hefyd i staff yr Atriwm am yr arlwyaeth ardderchog” Hwylusydd y Gynhadledd

01


Ysgolion Iaith gan gymryd rhan mewn rhaglen o chwaraeon, adloniant a gwersi iaith Saesneg dros bythefnos.

Bob blwyddyn, mae Cynadleddau Met Caerdydd yn croesawu miloedd o ymwelwyr i'r safle i astudio ieithoedd.

Yr haf hwn, cynhaliwyd Ysgol Iaith newydd gennym hefyd ar gampws Llandaf, sef Taith Ieuenctid Iau. Roedd gan y grŵp a oedd yn teithio o Israel ffocws arbennig ar ddiwylliant Prydeinig, iaith Saesneg a bwyta'n iach. Gweithiodd ein hadran arlwyo yn agos gyda'r trefnydd i sicrhau ein bod yn bodloni eu gofynion dietegol arbennig.

Am y 9fed haf yn olynol roeddem yn falch o gynnal ysgol breswyl pedair wythnos L’astrolabio ac Ysgol Iaith ELAC yng nghampws Cyncoed. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys dros 250 o fyfyrwyr yn ymweld o nifer o wledydd gan gynnwys yr Eidal, Sbaen, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Awstria, Israel, Rwsia, Twrci, Siapan a Tsieina,

Rydym hefyd yn cynnal nifer fawr o gyrsiau drwy gydol y flwyddyn ac arholiadau mewn addysg iaith a diwylliant ar gyfer grwpiau a chymdeithasau cymunedol lleol gan gynnwys Cymdeithas Tsieineaidd De Cymru, Ysgol Bwylaidd Caerdydd, yr Academi Saesneg Geltaidd a Tamil Mandram (Sri Lanka).

Chwarae Quidditch

"Rydym wedi rhedeg Canolfan Haf lwyddiannus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am y 9 mlynedd diwethaf. Mae’n bleser gweithio gyda Cathy a’r Tîm Cynadleddau ac mae'r cydweithrediad hwn yn sicrhau bod ein cyrsiau'n rhedeg yn esmwyth. Mae ein myfyrwyr rhyngwladol yn cael amser gwych yng Nghaerdydd ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at haf 2020. Diolch yn fawr!" Rheolwr Gweithrediadau, Gwyliau Astudio ELAC

Y tîm arlwyo yn ennill gwobr ‘Prifysgol Orau’ gan Taith Ieuenctid Iau.

Haf o Chwaraeon Roedd gan gampws Cyncoed raglen haf brysur arall yn cynnal nifer o grwpiau chwaraeon preswyl a gwersylloedd hyfforddiant. Ymhlith yr ymwelwyr, croesawyd chwech o grwpiau rygbi'r ysgolion gennym, yn ogystal â chlwb rygbi Hull, clwb rygbi Caergaint a chlwb pêl-droed Oxford City. Roeddem yn falch iawn o gael cynnal cynhadledd breswyl dyfarnwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru am y drydedd

flwyddyn yn olynol ac i groesawu cystadleuwyr a gwylwyr drachefn i aros ar y campws am y gystadleuaeth Rasio Inferno CrossFit. Roedd grwpiau preswyl eraill yn cynnwys timau pêl-fasged Cymru a thimau pêl-rwyd rhyngwladol yn ymweld o Malawi, Trinidad a Grenada.

"Cafodd Coleg Epsom arhosiad ardderchog diolch, roeddent yn llawn edmygedd o’r cyfleusterau a gawsant yng Nghaerdydd, a dywedwyd fod y bwyd yn ardderchog a bod y staff i gyd yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn. Nid oes gennym ddim ond canmoliaeth i chi a'r holl staff ym Met Caerdydd! Cymhwyswyd unrhyw beth y gofynnon ni amdano ac roedd pob un ohonoch yn garedig iawn. Roedd y bwyd o’r safon uchaf. Ni allwn ni yma yng Nghlwb Rygbi DBS ganmol digon ar y Brifysgol. Hoffwn i hefyd ddiolch i Eva am ei holl help a'i hamynedd yn trefnu popeth cyn y trip. Rwy'n hynod ddiolchgar" Teithiau rygbi DBS (Coleg Epsom)

02


Swît Lletygarwch Sgleiniog Newydd Cychwynnodd Gwasanaethau Masnachol Met Caerdydd raglen dylunio ac adnewyddu lawn dros yr haf a buddsoddiad sylweddol i uwchraddio a moderneiddio'r Ystafelloedd Lletygarwch ar gampws Llandaf. Mae'r Swît Lletygarwch ar ei newydd wedd yn cynnig naws hudol a modern o’r tu mewn. Mae'r gosodiad ar gyfer cyfarfodydd yn hyblyg gyda dewis o fyrddau petryal a chrwn gyda chynhwysedd o hyd at 80 o bobl. Gall amgylchedd cyfarfod wir osod y tôn a bydd yn cyfrannu tuag at ymgysylltiad cyfranogwyr. Rydym yn gobeithio y bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn ein Swît Lletygarwch newydd yn elwa o sgyrsiau ysbrydoledig am flynyddoedd lawer i ddod!

Os hoffech ddod i edrych o gwmpas ein cyfleusterau newydd, cysylltwch ag un o’r Tîm Cynadleddau at conferenceservices@cardiffmet.ac.uk a byddwn yn falch iawn o'ch dangos o gwmpas y lle.

Ystafelloedd Cynadleddau'n troi'n Glyfar! • Dyfais yn efelychu defnyddwyr yn yr ystafell i alluogi cynrychiolwyr i gydweithio yn y fan a’r lle gyda'r cyflwynydd • Cysylltedd di-wifr, e-bostio a darlledu • Bwrdd gwyn electronig Yr haf hwn roedd y Tîm Cynadleddau’n gyffrous iawn o gael sgriniau rhyngweithiol Clevertouch wedi'u gosod yn yr ystafelloedd cynadleddau yng nghampws Cyncoed. Mae cymaint o fuddion i'w cael o ddefnyddio'r sgriniau hyn ar gyfer cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant gan gynnwys:

• Anodi cyflwyniadau PowerPoint • Cydraniad sgrin 4K • Dim sŵn cefndirol o daflunydd • Hawdd i'w defnyddio ac yn sythweledol

“Mae'r sgriniau rhyngweithiol newydd yn anhygoel ac mor amlbwrpas. Rwyf wrth fy modd gyda'r opsiwn bwrdd gwyn sy'n llawer mwy deniadol i'r cynadleddwyr." Hwylusydd (Cyngor Bro Morgannwg)

Dywed Clare (Rheolwr Cynadleddau): “Mae'r sgriniau newydd yn anhygoel! Rydym bob amser yn awyddus i aros ar flaen y gad yn y diwydiant digwyddiadau ac mae gallu cynnig y dechnoleg ddiweddaraf yn dyst i'n hymrwymiad i ansawdd. Mae'r sgriniau'n cynnig profiad AV/cyflwyniad di-dor i'n hwyluswyr.”

Yn dod yn fuan! Gweithdy Sgrin Cyffwrdd Rhyngweithiol In the New Year, Yn y Flwyddyn Newydd, bydd Cynadleddau Met Caerdydd yn cynnal gweithdy hyfforddi ar sut i ddefnyddio nodweddion allweddol y sgriniau cyffwrdd. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn cael eu hychwanegu at ein rhestr wahoddiadau, ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, yna anfonwch e-bost at conferenceservices@cardiffmet.ac.uk

03


Archebion Llety Haf Yn ystod misoedd yr haf, mae gan Gynadleddau Met Caerdydd adeiladau ar gael i unigolion a grwpiau. Yn ystod yr haf, cafodd dros 60 o ystafelloedd gwely en-suite eu hadnewyddu a'u diweddaru yng nghampws Cyncoed, sy'n golygu bod gennym bellach dros 800 o ystafelloedd gwely en-suite ym

Gwella'r Gymraeg

Met Caerdydd! Yr haf hwn am y tro cyntaf gwnaethom nifer o ystafelloedd ar gael i'w harchebu drwy booking.com. Roeddem wrth ein boddau gyda'r llwyddiant, gan dderbyn cyfanswm o 264 o nosweithiau ystafelloedd ar gampws Plas Gwyn!

Y ‘Dirty Vegan' yn cymryd trip i lawr y Llwybr Atgof Mae Matt Pritchard, seren y gyfres BBC 'The Dirty Vegan', yn un o gyn-raddedigion Met Caerdydd ac roeddem yn falch iawn o'i groesawu yn ôl i gampws Llandaf yn gynharach eleni. Mewn sgwrs gyda Matt Pritchard roedd noson wedi'i threfnu gan adran Cynaliadwyedd Met Caerdydd a oedd yn cynnwys sgwrs ysbrydoledig, aduniad annisgwyl gyda darlithydd Matt, sesiwn Cwestiwn ac Ateb ac arwyddo llyfrau. Cafodd y cynadleddwyr hefyd gyfle i fwynhau bwffe 'Dirty Vegan' a baratowyd gan Dîm Arlwyo Met Caerdydd gan ddefnyddio ryseitiau o lyfr diweddaraf Matt.

Eleni, mae dau aelod o’r Tîm Cynadleddau, Sally ac Eva, wedi bod yn cymryd dosbarthiadau Cymraeg 'Uwch' ym Met Caerdydd. Roeddent yn falch iawn o dderbyn gwobrau diwedd blwyddyn i'w llongyfarch ar eu hymdrechion.

Met Caerdydd yn mynd yn Ddi-fwg Ddim yn hir nawr nes y bydd Met Caerdydd yn gampws aer glân. O 2020 mae'r Brifysgol wedi gwneud ymrwymiad i fod yn ddi-fwg, nid yn unig i fod o fudd i staff a myfyrwyr ond hefyd i'r miloedd o oedolion a phlant sy’n ymweld â’r campws bob blwyddyn. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'n Prifysgol awyr glân yn 2020!

Oes cyfarfod neu ddigwyddiad gennych ar y gorwel y gallem eich helpu ag ef? Ffoniwch ni ar 029 2041 6181 er mwyn trefnu i weld ein cyfleusterau neu i gael dyfynbris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Ymunwch â ni ar...

Twitter  Facebook  Linkedin  Instagram Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewchi'n gwefan.

04


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.