Conference Services Newsletter – Welsh

Page 1

RHIFYN 3

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar O Reolwyr Rhaglenni Achrededig HEA i gast a chriw Dr Who, mae Cynadleddau Met Caerdydd yn dod â llu o bobl o lawer o gymunedau a busnesau i mewn i'r brifysgol. Y llynedd, yn sgil y digwyddiadau a drefnwyd drwy Gynadleddau Met Caerdydd, profodd mwy na 30,000 o gynrychiolwyr o sefydliadau lleol, elusennau, chwaraeon a chlybiau cymdeithasol, busnesau

cenedlaethol a rhyngwladol a chymdeithasau y cyfleusterau a'r gwasanaethau ym Met Caerdydd. Mae archebion gan gleientiaid newydd yn uwch nag erioed gydag archebion wedi’u cadarnhau o 40 sefydliad newydd yn y 12 mis diwethaf. Mae'n amlwg bod y rhai sy'n mynychu yn llawn edmygedd o'r cyfleusterau a'r

“Diolch i chi am eich holl help a chefnogaeth wrth baratoi tuag at y diwrnod - ni fyddem wedi gallu gwneud hyn hebddoch chi.”

gwasanaeth maent yn ei dderbyn wrth i ni barhau i gyflawni lefelau uchel iawn o fusnes cyson ac mae nifer fawr o archebion yn ganlyniad i gyfeiriadau gan ein cleientiaid presennol. Darganfyddwch beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud. Darganfyddwch beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud.

“Alla i ddiolch i chi am yr hyn a oedd yn ddigwyddiad gwych mewn lleoliad gwych. Roedd y staff mor sylwgar ac yn garedig ac mae hynny i raddau helaeth i lawr i chi a'ch staff. Byddwn yn argymell unrhyw un i chi heb unrhyw oedi o gwbl.” PM Premier

Learn English in Wales

Cyflwyno’r Is-Ganghellor newydd Dechreuodd yr Athro Cara Aitchison yn ei swydd ym mis Hydref 2016 fel Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, lle mae hi hefyd yn Athro Daearyddiaeth ac Economi Diwylliannol. Gyda 30 mlynedd o brofiad mewn addysg uwch mae'r Athro Aitchison wedi arwain rhaglenni twf a rheoli newid sylweddol yn datblygu enw da prifysgolion, cyllid, rhyngwladoli a phrofiad myfyrwyr. Mae hi wedi ymrwymo i arweinyddiaeth a yrrir gan werthoedd sy'n integreiddio agendâu dinesig, economaidd a rhyngwladol i

ehangu cyfranogiad mewn addysg prifysgol gyda'r diben o drawsnewid bywydau, cymunedau, economïau a chysylltiadau rhyng-ddiwylliannol. O fewn ei meysydd pwnc mae gan yr Athro Aitchison enw da yn fyd-eang am ei hymchwil; hi oedd Cadeirydd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU (REF 2014) ar gyfer Is-banel Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth, Aelod o’r Prif Banel ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol ac Athro er Anrhydedd yn yr Adran Iechyd ym Mhrifysgol Caerfaddon (2015-presennol).

Darllenwch ragor o wybodaeth am yr Is-Ganghellor newydd.

01


Codi arian ar gyfer Tenovus Cafodd y tîm cynadledda hwyl yr ŵyl ym mis Rhagfyr yn codi arian i Tenovus. Cynhwysodd y codi arian win cynnes a mins peis, raffl, gemau a siwmperi hwyliog i helpu i godi arian ar gyfer yr achos gwych hwn. Mae codi arian nid yn unig yn helpu Tenovus i ehangu ymhellach ymchwil hanfodol ond hefyd i sicrhau parhad cefnogaeth amhrisiadwy i gleifion a'u hanwyliaid yn y gymuned.

Edrychwch ar ein fideo newydd

Dewch draw i'r Venue a PA Expo Bydd Cynadleddau Met Caerdydd yn arddangos yn y Venue a PA Expo sydd ar ddod a gynhelir ar 24 Mai yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

gwasanaethau a chynnyrch sy'n ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau (MICE). Os ydych yn ystyried dod draw cofiwch ymweld â'n stondin i gael cyfle i ennill Llechen Amazon Fire yn ein cystadleuaeth.

Anogir yr holl fynychwyr yn y Venue a PA Expo i fynychu seminarau DPP achrededig a manteisio ar gyfleoedd rhwydweithio hynod werthfawr. Heb sôn am yr amrywiaeth enfawr o arddangoswyr sy'n cynnig

I gofrestru eich presenoldeb rhad ac am ddim, cliciwch yma. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

Cliciwch yma i weld y pamffled newydd ar gyfer Cynadleddau

Fideos Realiti Rhithwir 360 Gellir gweld llety Met Caerdydd yng Nghyncoed a Neuaddau Plas Gwyn yn awr o bell gyda fideos realiti rhithwir 360 newydd. Gyda'r defnydd o glustffonau realiti rhithwir mae’r fideos yn rhoi cipolwg go iawn i chi a phrofiad uniongyrchol o'r cyfleusterau llety.

Cyncoed

Archebwch grŵp preswyl ar gyfer 10 o bobl neu fwy ym mis Awst 2017 a derbyn gostyngiad o 20%. Dyfynnwch AO17.

Plas Gwyn

02


Arena Archers yn cael Agoriad Olympaidd Croesawydd y Flwyddyn gwblhau Archers Arena, ar gampws Cyncoed.

Mae'r datblygiad newydd hwn yn ymfalchïo mewn neuadd chwaraeon enfawr 1400m2 y gellir ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged a badminton. Agorwyd yr Arena Archers yn swyddogol gan rai o dîm Olympaidd Met Caerdydd y gellir gweld eu llwyddiannau hefyd ar y wal enwogion Olympaidd yng nghyntedd yr Arena. P'un a ydych yn chwilio i gynnal cystadleuaeth chwaraeon neu wersyll

hyfforddi preswyl yn ystod yr haf gall y cyfleuster newydd hwn gael ei logi gennych chi yn unig ar gyfer eich digwyddiad.

Beth sydd ymlaen yng Nghaerdydd ffantastig. Efallai byddai'n well gennych ymweld ag un o'r atyniadau celf neu ddiwylliannol niferus sydd yng Nghaerdydd neu hyd yn oed fynychu un o'r digwyddiadau chwaraeon neu gerddorol mawreddog. Dros Mehefin a Gorffennaf mae criced rhyngwladol yn ogystal â pherfformiadau gan Justin Bieber a Coldplay. Mae Caerdydd yn lle gwych i ymweld ag ef, yn enwedig yn yr haf. Ewch i lawr i Fae Caerdydd i fwynhau bwyta al fresco neu fynd am dro drwy’r Parc Bute prydferth sydd drws nesaf i Gastell Caerdydd. Cewch ddigonedd o ddewis pan ddaw i siopa gyda chanolfannau siopa modern yn ogystal ag arcedau hen ffasiwn a boutiques

Edrychwch ar ein tudalen Beth sydd ymlaen yng Nghaerdydd/ What’s On in Cardiff gwybod rhagor. Llety i unigolion a grŵp ar gael i’w archebu ym Met Caerdydd yn ystod cyfnod yr haf.

Oes cyfarfod neu ddigwyddiad gennych ar y gorwel y gallem eich helpu ag ef? Ffoniwch ni ar 029 2041 6181 er mwyn trefnu i weld ein cyfleusterau neu i gael dyfynbris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Ymunwch â ni ar...

 Twitter  Facebook  Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.

03


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.