RHIFYN 2
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau diweddar Confensiwn Addysg Uwch UCAS Ar gyfer y 14eg flwyddyn yn olynol, cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd Gonfensiwn Addysg Uwch UCAS, a chroesawu dros 7,000 o ymwelwyr yn ystod y dydd. Roedd y digwyddiad llwyddiannus yn cynnwys Canolfan Athletau Dan Do Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei thrawsffurfio i fod yn arena arddangos 5,000m2, gyda dros 150 o stondinau, a thŷ chwyddadwy maint go iawn â gwely, soffa a sinc cegin chwyddadwy! Fe wnaeth y Tîm Cynadleddau proffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sicrhau bod holl fanylion y logisteg wedi’u hystyried, o bob agwedd ar iechyd a diogelwch i ddarparu rholiau bacwn yn y siop fwyd dros dro.
“Roedd yn noson wych, diolch! Roedd y lleoliad yn berffaith ac fe wnes i werthfawrogi eich help yn fawr ar y diwrnod! Byddwn yn bendant yn defnyddio’r lleoliad eto pan fyddwn yn dychwelyd i Gaerdydd.” CODE UK
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Gŵyl Delynau Camac
Dros y penwythnos 6-7 Chwefror, cynhaliodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd gynhadledd flynyddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol. Cynhaliwyd y digwyddiad a ddarlledwyd gan y BBC yn adeilad yr Ysgol Rheoli, gyda chyflwyniadau a chyfarfodydd ymylol ar gyfer dros 200 o bobl. Roedd siaradwyr y gynhadledd yn cynnwys Tim Farron, Kirsty Williams a nifer o wleidyddion eraill. Roedd awyrgylch gwych yn y digwyddiad, gydag 19 stondin arddangos a chaffi’r Atriwm yn gweini bwyd a diod. Roedd y gwaith cynllunio a pharatoi yn werth chweil, gan yr oedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr.
Roeddem yn falch croesawu digwyddiad Telynau Camac Caerdydd yn ôl, a gynhaliwyd yn ystod y penwythnos 12-13 Mawrth. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyngerdd ar y nos Sadwrn gyda cherddorion enwog, gan gynnwys Catrin Finch, Elinor Bennett a Gwenllian Llŷr. Roedd dros 30 telyn yn cael eu harddangos yn yr Atriwm, ac roedd y cleient yn falch o gael defnyddio lle mor wych ar gyfer eu digwyddiad. Darganfyddwch fwy am ein Cyfleusterau Cynadledda a Digwyddiadau.
“Diolch am ddiwrnod hyfryd heddiw; aeth popeth yn berffaith! Roedd pawb yn falch iawn â’r lleoliad a’r bwyd, a byddaf yn argymell y lleoliad i bobl eraill.” Y Gymdeithas Strôc “Diolch yn fawr iawn am eich help gyda’r digwyddiad heddiw. Crëwyd argraff fawr arnom o ran pa mor hawdd yr aeth popeth a’ch gwaith caled.” Effective Communication
01
Digwyddiadau sydd ar ddod Mae’r haf yn gyfnod prysur ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, pan rydym yn defnyddio’r holl gyfleusterau, ystafelloedd cynadledda ac ystafelloedd gwely yn y ddau gampws. Rydym yn cynnal cynadleddau meddygol, grwpiau ysgol, ysgolion iaith ac ysgolion haf, corau, cynadleddau academaidd a
gwersyllfaoedd hyfforddi chwaraeon. Mae’r digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys Massage Training Institute, European Inferno, Ras De Cymru, South Wales Potters a Triathlon Cymru. Mae’n bleser gennym hefyd gynnal digwyddiad nesaf Cardiff PA Network, a gynhelir ar 18 Mai. Yn ogystal â’r cyfarfod
a’r siaradwyr ysgogiadol, bydd y cynrychiolwyr yn gallu mwynhau lluniaeth ar y noson wrth rwydweithio gyda’r grŵp a chyfarfod â’ Tîm Cynadleddau. Cymerwch gipolwg ar dudalen we Cardiff PA Network i gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad a sut i gofrestru.
Cynnig Ystafell Gyfarfod ‘Funud Olaf’ Trefnwch gyfarfod ym mis Ebrill neu fis Mai, a chewch ostyngiad o 50% oddi ar bris llogi ystafell a phlât o ffrwythau rhad ac am ddim.
Cysylltwch â’r Tîm Cynadleddau i weld beth sydd ar gael a threfnu ystafell gan ddyfynnu ‘Cynnig Gwanwyn’.
Llety En-suite Newydd 150 o ystafelloedd gwely newydd eu hailwampio, ac mae 30 ohonynt yn cynnwys gwelyau maint ¾, a gall dau unigolyn rannu. Darganfyddwch fwy, gwiriwch beth sydd ar gael a threfnwch le ar-lein.
Rhwng Gorffennaf a Medi, gallwch drefnu lle mewn detholiad mawr o lety ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae dros 700 o ystafelloedd gwely en-suite ar gael yng Nghampws Cyncoed a Champws Plas Gwyn, ar gyfer arosiadau unigol a grŵp. Mae gan Gampws Cyncoed
“Roedd yn ardderchog; roedd y cyfathrebu a’r llety’n wych – yn union beth yr oedd ei angen arnom. Roedd y bobl a wnaeth ein cyfarch ni yn wych ac yn gynorthwyol iawn. Rwy’n trefnu’r daith hon bob mis Gorffennaf a byddaf yn bendant yn cysylltu eto yn y gobaith o drefnu lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd eto’r flwyddyn nesaf.” Syr Thomas Ysgol Picton, Sir Benfro
02
Beth sy’n Digwydd yng Nghaerdydd Gydag atyniadau unigryw a llu o stadiwms trawiadol, mae Caerdydd yn cynnal digwyddiadau adloniant a chwaraeon o’r radd flaenaf.
Beyoncé, a fydd yn perfformio ar 30 Mehefin yn Stadiwm Principality, a Simply Red, a fydd yn chwarae ar 17 Gorffennaf yn Stadiwm Swalec.
O griced rhyngwladol yn Stadiwm Swalec i ŵyl ddiwylliannol Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, mae rhywbeth i bawb! Bydd ymddangosiadau gan enwogion, fel
Bwrwch olwg ar ein tudalen What’s On in Cardiff i ddarganfod mwy. Mae llety unigol a grŵp ar gael i’w trefnu ym
Cynnig Grŵp Trefnwch 15 ystafell wely am arhosiad o ddwy noson o leiaf, o £20 + TAW fesul ystafell y noson.
Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cyfadeilad Chwaraeon Newydd Dros y blynyddoedd nesaf, bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn buddsoddi’n fawr mewn datblygu ei chyfleusterau chwaraeon ar Gampws Cyncoed. Bydd cyfadeilad chwaraeon newydd, cyffrous yn ategu’r cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd eisoes ar gael ar y campws. Bydd y gwaith yn cael ei
gyflawni mewn dau gam, ac mae’r cam cyntaf eisoes ar waith. Disgwylir i’r ail gam ddod i ben erbyn Medi 2018. Bydd y datblygiad arloesol hwn yn gwneud Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn un o’r dewisiadau gorau ar gyfer digwyddiadau a phencampwriaethau chwaraeon yng Nghymru.
Ffoniwch y tîm nawr i weld beth sydd ar gael; 029 2041 6181/2.
Mae’r cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael yn cynnwys: tennis, sboncen,
badminton, neuaddau chwaraeon, canolfan athletau, cyrtiau pêl-rwyd a hoci, caeau rygbi a phêl-droed, pwll nofio, stiwdios dawns a champfeydd arbenigol. I gael mwy o wybodaeth a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch i dudalen gwe Chwaraeon Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Statws Masnach Deg Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch ei bod wedi ennill statws Masnach Deg. Fe wnaeth statws Masnach Deg y Brifysgol, a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Masnach Deg, gyd-fynd â Phythefnos Masnach Deg a llu o ddigwyddiadau Masnach Deg Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r Brifysgol wedi ennill statws Masnach Deg trwy weini
Ymunwch â ni ar...
cynhyrchion Masnach Deg ar draws y campws, gweithredu polisi masnach deg ar gyfer y Brifysgol, yn ogystal ag ymgyrchoedd a mentrau amrywiol eraill. Mae cynhyrchion Masnach Deg hefyd ar gael ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gofynnwch i’r tîm am fanylion pan fyddwch yn trefnu eich digwyddiad nesaf.
Twitter Facebook Linkedin I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i’n gwefan.
03