RHIFYN 1
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Rydyn ni wedi cael gweddnewidiad! Oeddech chi’n gwybod ein bod ni wedi adnewyddu ein tair ystafell gynadledda yng Nghyncoed yn ddiweddar? Mae’r lliw gwyrdd leim a llwyd llechen yn adlewyrchu cefn gwlad Cymru. Gyda chelfi modern cyfforddus a system glywedol sy’n rhan o’r dodrefn, mae’n lleoliad heb ei ail i gynnal cyfarfod proffesiynol. Mae’r
gofod hyblyg, arddull theatr, yn dal hyd at 80 o bobl, gydag uwchdaflunydd dwbl. Os ydych chi’n trefnu cynhadledd neu ddigwyddiad y flwyddyn nesaf, beth am archebu un o’n hystafelloedd gynadledda? Cymerwch gip yma neu cysylltwch â ni i drafod eich digwyddiad.
Gair o gyngor wrth drefnu cynhadledd: Mae lefelau egni’r mynychwyr yn amrywio gydol y dydd. Gallwch wella eu cyfraniad trwy gynnwys ‘sesiynau torri’r ia’ ar ddechrau’r cyfarfod a sesiynau sbardun ar ôl cinio er mwyn cadw lefelau egni’n uchel. Lawrlythwch ein rhestr wirio.
Trydar y dydd Social media tip: Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol: Ystyriwch ‘restrau’ a ‘dadansoddeg’ er mwyn deall eich methiannau a’ch llwyddiannau. A chofiwch bod eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn beiriannau chwilio grymus. @CardiffMetConf
Tamaid i aros pryd Bu’n haf prysur ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rhwng creu ein caffi newydd yn yr Atrium ac addurno bloc newydd o ystafelloedd
gwely. Mae caffi’r Atrium yn yr Ysgol Reoli, lle cynhelir cynadleddau ar gyfer hyd at 200 o bobl. Mae yna gownter coffi Costa yn ogystal â
dewis o frechdanau, bwyd poeth a bar salad ffres. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Caffi newydd Atrium
01
Lloftydd newydd En-suite Yng Nghyncoed, rydym wedi gweddnewid 33 o ystafelloedd en suite. Mae hyn yn golygu bod gennym bellach 158 o ystafelloedd en suite o’r radd flaenaf yn ein campws yng Nghyncoed. Mae’r ystafelloedd gwely braf hyn yn cynnwys gwelyau maint tri
chwarter, celfi modern ac ystafell gawod en suite. Mae pob fflat yn cynnwys 11 llofft a chegin gyffredin, man eistedd a theledu Freeview. Rhwng ein hystafelloedd gwely newydd a detholiad o lefydd bwyta a chyfleusterau chwaraeon penigamp,
mae campws Cyncoed yn lle delfrydol ar gyfer cynadleddau preswyl, ysgolion haf a phencampwriaethau chwaraeon. Cysylltwch â ni i weld ein cyfleusterau newydd neu i drafod eich digwyddiadau ar gyfer 2016.
Ystafelloedd ar eu newydd wedd, Cyncoed
Cydweithio Yr hyn sy’n bwysig yw gwaith tîm a chynllunio i wneud yn siŵr bod eich digwyddiad yn rhedeg fel wats. Mae’r Gwasanaethau Cynadleddau yn darparu cyngor a chymorth ar gynnal cynadleddau yn ogystal â threfnu manylion eich digwyddiad. Eleni, rydym wedi cynnal cynadleddau a digwyddiadau ar ran pob math o fusnesau, sefydliadau, cymdeithasau a chyrff cyhoeddus a phroffesiynol, e.e. Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ACCA, y GIG, UCAS, CBAC, Roche, Autism Fledglings, Banc Santander, Anglophiles Academic, Lexis Nexis, Cymdeithas y Cerddwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Triathlon Cymru, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd ac Effective Communication. “Rydym wedi defnyddio cyfleusterau hyfforddiant a chynadleddau Met Caerdydd ers sawl blwyddyn – ry’n ni’n dychwelyd dro ar ôl tro gan fod yr ystafelloedd mor braf a llawn golau, does dim yn ormod o drafferth ac mae’r prisiau’n gystadleuol dros ben". Canolfan Hyfforddi Cyngor Caerdydd Hoffai’r Tîm Cynadleddau ddiolch i’n holl gwsmeriaid am archebu cyfarfodydd a digwyddiadau gyda ni yn 2015 ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu’n ôl eto yn y flwyddyn newydd!
I wneud cais, cliciwch yma
Cynnig cyw cynnar Manteisiwch ar eich Cynnig Cyw Cynnar! Archebwch nawr i dderbyn 10% o ostyngiad ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau yn
2016. Yn dibynnu a oes llefydd ar gael, gydag amodau a thelerau. Dyfynnwch EB16 wrth archebu.
02
Cwrdd â’n tîm Mae’r tîm o bedwar yn y Gwasanaethau Cynadleddau yn rhoi bri mawr ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae Clare yn mwynhau tennis a golff ac wedi ennill sawl cystadleuaeth (fach!) eleni. Mae Sally yn rhedwraig a beicwraig frwd ac yn mwynhau darllen a siarad
Ffrangeg. Os ydych chi eisiau syniadau ar gynllunio un o stafelloedd y tŷ neu ble i fynd yng ngwlad Groeg, yna Cathy yw’r un i chi. Mae’n gwneud tzatziki bendigedig! Mae Eva yn mwynhau ioga, glampio yn y Gogledd ac yn mwynhau dysgu Cymraeg!
Ffaith i chi: Bu Clare yn gweithio yn Tahiti am ddeng mlynedd!
Sally yn rhedeg dros Diabetes UK Eleni, mae Sally wedi rhedeg 10k Caerdydd, Hanner Marathon Caerdydd, Royal Windsor Half Marathon River Trail a hefyd wedi cwblhau Velothon Cymru.
Iechyd da! Eva, Cathy a Clare yn mwynhau dathliadau 150 oed Met Caerdydd
Ymunwch â ni ar... Twitter Facebook Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.
03