Conference Services Newsletter (Welsh) - November 2017

Page 1

RHIFYN 5

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar - CyberFirst Ym Mai 2016, lansiwyd CyberFirst sy’n rhan allweddol o Raglen Seiberddiogelwch Cenedlaethol llywodraeth y DU. Mewn cydweithrediad â Phencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU ac ymddiriedolaeth Smallpiece, mae QA yn datblygu ac yn darparu amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau hyfforddi ar seiberddiogelwch i bobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau ledled y DU. Yn ystod haf 2017 cynhaliodd Met Caerdydd dri digwyddiad hyfforddi preswyl llwyddiannus gan groesawu dros 150 o fyfyrwyr i gyrsiau Defenders, Futures ac Advanced CyberFirst. Roedd nifer o bartneriaid o’r diwydiant yn cyfrannu at y cyrsiau gan gynnwys siaradwyr o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, CyberSecurity Challenge, Cisco, BeCrypt a BAE.

eu diddordeb yn y maes yn ystod addysg bellach, mewn pynciau megis Cyfrifiadureg, ac yn y pen draw i ddilyn gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch. Yn yr hirdymor, y bwriad yw llenwi’r bwlch sgiliau ym maes seiberddiogelwch yn y DU.

Roedd pob cwrs yn para 4 i 5 niwrnod ac yn targedu disgyblion 14-17 oed i ennyn

Mae Met Caerdydd yn edrych ymlaen at groesawu CyberFirst nôl ym mis Ionawr.

Yr Eglwys Bresbyteraidd

“Roedd yr holl drefniadau’n dda iawn gyda chymorth cyfeillgar ac effeithlon y staff cynadledda ac arlwyo.” Yr Eglwys Bresbyteraidd

Fe fydd CyberFirst yn rhedeg y cyrsiau haf unwaith eto flwyddyn nesaf. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, e-bostiwch cyberfirst@smallpeicetrust.org.uk “88% o fyfyrwyr yn ystyried y lleoliad yn Dda neu’n Ardderchog”

Ym mis Gorffennaf, croesawodd Met Caerdydd dros 120 o bobol o bob cwr o Gymru i gynhadledd breswyl Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Parodd y digwyddiad am ddeuddydd a chynhaliwyd sesiynau llawn a chyfarfodydd llai ynghyd â stondinau a siopau llyfrau. Roedd brecwast llawn, cinio bwffe a phrydau 3 chwrs min nos yn cael eu darparu ym mwyty K1 a darparwyd llety yn ein hystafelloedd en-suite newydd sydd gerllaw’r ystafell gynadledda. Roedd wynebau llawen y grŵp wedi llonni ein boreau gyda chytgord eu sesiynau addoli boreol. Gan mai siaradwyr Cymraeg yn bennaf oedd aelodau’r grŵp, gyda dwy ran o dair o’u heglwysi’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd y tîm cynadledda yn falch o’r cyfle i ymarfer eu Cymraeg!

01


ICAS Mae ICAS yn gorff proffesiynol ar gyfer 20,000 a mwy o ddynion a menywod busnes gyda’r gorau yn y byd sy’n gweithio yn y DU ac mewn mwy na 100 o wledydd o gwmpas y byd. Mae ICAS yn addysgwr, arholwr, rheoleiddiwr ac arweinydd syniadau. Trwy gydol 2016/17 cynhaliodd Met Caerdydd dros 35 o ddiwrnodau hyfforddi ICAS yn ein Hystafelloedd Cynadledda yng Nghyncoed yn ogystal â’u harholiadau terfynol ym Mhrif Neuadd Llandaf.

“Roedd cefnogaeth y tîm yn wych ac yn gymorth mawr. Mae Met Caerdydd yn haeddu pob clod.” ICAS

Haf o chwaraeon Gydol yr haf, croesawodd Met Caerdydd gannoedd o ymwelwyr i gyfarfodydd dydd, cynadleddau preswyl, ysgolion iaith a gwersylloedd hyfforddi. Cynhaliwyd y nifer fwyaf erioed o ddigwyddiadau chwaraeon

eleni. Gall Met Caerdydd ymfalchïo yn ei phortffolio o gyfleusterau chwaraeon safon byd sy’n darparu ar gyfer pawb o’r athletwyr elît i’r to iau. Mae llawer o grwpiau’n dewis Met Caerdydd am ei bod mor hwylus cael yr holl

gyfleusterau ar yr un safle, gan gynnwys y cyfleusterau chwaraeon, llety ac arlwyo. Yn ystod yr haf roedd yn bleser croesawu:

Cynhadledd Dyfarnwyr FAW

Sport Cardiff

Clwb Rygbi Henley Hawks

Academi Griced Parramatta, Awstralia

Undeb Rygbi Cymru – Gwersyll y Ddraig dan 18

Twrnamaint Hoci Ysgolion

Ysgol Merchant Taylors

Cynghrair Rygbi Iwerddon

Cynghrair Rygbi Cymru

Undeb Rygbi Merched Lloegr

Tîm Athletau Botswana

Undeb Rygbi Caerlŷr

Tîm Athletau Zambia

Pêl-fasged dan 17 Merched Iwerddon

Cystadleuaeth Inferno Racing Cross-fit

“Roedd y tîm a drefnodd ein digwyddiad yn broffesiynol a chefnogol dros ben ac roedd yr holl broses yn gwbl ddidrafferth.” Pêl-fasged Iwerddon

I weld taith o’r awyr o gwmpas cyfleusterau chwaraeon Met Caerdydd, cliciwch yma, click here

“Roedd Prifysgol Met Caerdydd yn wych. Roedd trefniadau’r ystafelloedd yn berffaith a’r golchi dillad / brecwast a’r ddarpariaeth gymdeithasol yn ddelfrydol. Hyd yn oed ar y diwrnod glawog, llwyddwyd i lenwi’r diwrnod â gweithgareddau diddorol a difyr.” Parramatta Cricket Group (Australia)

02


Ffaith Ddifyr

Archebu ar-lein yn fyw nawr

Rydym ni ar y teledu! Defnyddiwyd cyfleusterau Met Caerdydd yn ddiweddar i ffilmio Doctor Who, Casualty a Pobol y Cwm. Cadwch eich llygaid ar agor am gip o Met Caerdydd ar y teledu.

Rydym ni’n cynnig cyfle i’n cwsmeriaid logi ein Hystafelloedd Cynadledda ar-lein erbyn hyn. Mae’r gwasanaeth newydd yn galluogi defnyddwyr i bori’r safle 24 awr y dydd i chwilio am le, a gwirio prisiau a manylion eraill ac i archebu lle.

Archebu Ar-lein

Ffocws ar Iechyd a Diogelwch Iechyd a Diogelwch yw un o flaenoriaethau allweddol Met Caerdydd ac nid yw’n fater i’w anwybyddu wrth drefnu cynhadledd neu ddigwyddiad. Gwaith trefnydd y digwyddiad yw cynllunio, rheoli a monitro digwyddiadau er mwyn sicrhau diogelwch y staff a’r cyhoedd sy’n ymweld. Mae’r pethau sydd angen eu hystyried yn cynnwys maint y digwyddiad a’r math o ddigwyddiad a gan gynnwys rheoli pobl a thrafnidiaeth yn ogystal â deall a bod yn ymwybodol o asesiadau risg a gweithdrefnau gwacau. Mae Tîm Cynadledda Met Caerdydd yn adolygu iechyd a diogelwch pob digwyddiad ac maen nhw wedi bod yn diweddaru eu sgiliau argyfwng yn ystod yr haf gan hyfforddi i ddefnyddio cadair wacau (Evac) ac ymwybyddiaeth o ddiffoddwyr tân.

Diffibrilwyr Allanol Awtomatig Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu sut mae diffibriliwr yn gweithio

Mae Diffibrilwyr Allanol Awtomatig ar gael ar holl gampysau Met Caerdydd

Os ydych chi’n rheoli digwyddiad a’ch bod angen cymorth gyda iechyd a diogelwch, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. HSE website.

Gwobr Cymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy Cafodd Met Caerdydd ei henwebu ar gyfer y wobr ‘Feed People Better’ yn ystod y gwobrau Cymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy diweddar, gan ddod yn ail y tu ôl i Jamie’s Italian. Derbyniodd ein Pennaeth Arlwyo a’i ddirprwy Karen Thorne y wobr gan

Lywydd Cymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy, Raymond Blanc. Mae’n bleser gan Met Caerdydd i fod y brifysgol yng Nghymru i dderbyn 3 seren aur gan y Gymdeithas y Tai Bwyta Cynaliadwy.

Cynnig yr hydref Archebwch eich digwyddiad cyntaf gyda ni i gael gostyngiad o 20% ar bris yr ystafell a phlatiaid o ddanteithion te prynhawn yn rhad ac am ddim. Mae telerau ac amodau’n berthnasol i’r cynnig.

03


Cyfleuster Athletau Awyr Agored Newydd a Maes Rygbi 3G

Mae disgwyl mawr wedi bod yn y byd athletau am ein cyfleuster athletau ar ei newydd wedd, felly mae’n bleser gennym allu darparu cyfleuster athletau awyr agored o’r radd flaenaf erbyn hyn i’n holl randdeiliaid a defnyddwyr law yn llaw â’n Canolfan Genedlaethol Athletau Dan Do ysblennydd. Bydd y cyfleuster yn ganolfan hyfforddi allweddol ar gyfer ein hathletwyr gorau, athletwyr y Brifysgol, y gymuned leol yn ogystal â’n hacademi ar gyfer athletwyr iau – sef y Cardiff Archers.

Agorwyd y cyfleuster newydd yn swyddogol ar 4 Medi gan yr Athro Cara Aitchison, Darren Campbell, Aled Davies, Colin Jackson, Christian Malcolm a Jamie Baulch. Meddai Colin Jackson a enillodd fedal arian yn y gemau Olympaidd ac a fu’n bencampwr byd ddwy waith,: “Mae’r trac newydd yma yn ardderchog. Rwyf eisoes wedi ei ddangos i griw o Awstralia gyda’r posibilrwydd o’i ddefnyddio ar gyfer gwersyll hyfforddi yn yr haf, ac ar gyfer y tymor Athletau Ewropeaidd. Maen nhw’n gwybod pa mor ddefnyddiol yw cael popeth yn yr un lle, o drac mewnol ac allanol i gampfa a llety – roedden nhw’n meddwl bod y lle’n rhagorol.”

Yn ogystal â’r cyfleuster athletau, mae gennym faes rygbi 3G newydd a fydd yn darparu cyfleuster hyfforddiant a chystadlaethau rygbi ym mhob tywydd.

Oes cyfarfod neu ddigwyddiad gennych ar y gorwel y gallem eich helpu ag ef? Ffoniwch ni ar 029 2041 6181 er mwyn trefnu i weld ein cyfleusterau neu i gael dyfynbris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.

Ymunwch â ni ar...

 Twitter  Facebook  Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.

04


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.