Rhifyn 6
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Iechyd, Lles a Meddygol Roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gael ei dewis i gynnal “Cyfarfod Rhwydwaith Prifysgolion a Cholegau Iach Cymru Gyfan” yn adeilad yr Ysgol Reoli ar 24 Ionawr 2018. Bu’r Tîm Cynadleddau’n gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau digwyddiad llwyddiannus a gafodd adborth gwych gan y trefnydd a’r cynrychiolwyr. Mae gan Gynadleddau Met Caerdydd gysylltiad tymor hir ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England, gyda’r sefydliadau hyn yn llogi cyfleusterau a chynnal amryw o ddigwyddiadau yma bob blwyddyn.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Cynadleddau Met Caerdydd wedi croesawu dros 1,200 o weithwyr meddygol proffesiynol i’r brifysgol ar benwythnosau i fynd i arddangosfeydd a darlithoedd a gynhaliwyd Mediconf UK. MediConf UK yw un o’r darparwyr addysg gofal sylfaenol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae’r Tîm Cynadleddau wedi gweithio’n agos gyda Mediconf UK dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae nifer y digwyddiadau wedi cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn. Mae thema’r darlithoedd yn newid ar gyfer pob digwyddiad, gan amrywio o Asthma i Iechyd Menywod. Yr un fath â phob digwyddiad a gynhelir ar y campws, mae aelod o’r tîm cynadleddau’n bresennol i gyfarch trefnwyr, arddangoswyr a chynrychiolwyr ac i helpu i sicrhau bod pob agwedd ar y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
“Mae’n bleser gweithio gyda’r Tîm Cynadleddau bob amser; maen nhw’n broffesiynol ac yn barod i helpu.”
MediConf UK
“Hoffem ddiolch yn fawr i chi a’ch staff am y trefniadau rhagorol cyn ac ar y diwrnod. Roedd yr adborth gan gynrychiolwyr yn gadarnhaol iawn ac roedd y cinio’n flasus dros ben. Yn sicr, byddwn yn ystyried defnyddio’ch gwasanaethau cynadledda eto ar gyfer digwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.”
Iechyd Cyhoeddus Cymru
01
Yn ogystal, mae Met Caerdydd wedi cynnal digwyddiadau diweddar ar gyfer: •
Y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Meddygol
•
Health Train
•
Diabetes UK
•
Medtrend
•
•
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru
•
Ambiwlans Sant Ioan
•
Cymdeithas Seicolegol Prydain
“Roedd y lleoliad a’r lluniaeth yn wych ac roedd pethau’n rhedeg yn esmwyth iawn, diolch yn fawr.” Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
" Hoffwn ddiolch i Sally a’r tîm, roedd pawb yn help mawr ar y dydd" Ambiwlans Sant Ioan
Digwyddiadau Addysg Mae amryw o sefydliadau a chwmnïau addysgol yn dewis cyfleusterau Met Caerdydd ar gyfer addysgu allgyrsiol, cyrsiau i oedolion, arholiadau ffurfiol a chynadleddau.
“Roedd y cyfathrebu a lefel y gwasanaeth yn ardderchog o’r dechrau i’r diwedd. Diolch i chi am helpu ni greu arddangosfa UCAS gwych arall..”
Mae ein cleientiaid rheolaidd yn cynnwys Spectrum Tutorials, Cardiff & Vale Tutors, Y Brifysgol Agored, ACCA, Cymdeithas Tsieineaidd De Cymru ac Ysgol Sadwrn Bwylaidd. Rydym yn cynnal Cynhadledd ranbarthol flynyddol UCAS sy’n croesawu dros 6,000 o fyfyrwyr chweched dosbarth i ddigwyddiad undydd a gynhelir yn ein Canolfan Athletau Dan Do Genedlaethol.
UCAS
Trefnu Digwyddiadau Llwyddiannus Mae paratoi a chynllunio yn allweddol i gynnal digwyddiadau gwych. Rydym ni wedi llunio canllaw defnyddiol ar sut i drefnu cynhadledd lwyddiannus. I gael manylion llawn ac i lawrlwytho copi o’n Rhestr Wirio Cynllunio Digwyddiad a’r Canllaw Digwyddiadau Gwyrddach, ewch i’n gwefan.
Mae Tîm Cynadleddau Met Caerdydd yn gweithio’n agos gyda chleientiaid wrth drefnu digwyddiadau o’r ymholiad gwreiddiol i ddiwrnod y digwyddiad i hun, gan sicrhau bod pob manylyn yn cael sylw a bod y digwyddiadau’n llwyddiant ysgubol.
Gair i Gall wrth Gynllunio Digwyddiad: Beth am gynnig cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd neu ddatblygu sgil? Cofiwch neilltuo digon o amser i sefydlu’r gweithgareddau hyn wrth archebu’r lleoliad.
02
Cynhadleddau yn Gymraeg Mae’r tîm cynadleddau wrthi’n datblygu ei arlwy Cymraeg trwy gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a thrwy barhau i hyfforddi staff. Mae gan 50% o’n staff sgiliau Cymraeg da ac maen nhw’n fwy na hapus i ymgysylltu â’n cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg . Rydym eisoes wedi croesawu sawl cynhadledd yn yr iaith Gymraeg ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, CBAC, Merched y Wawr ac Eglwys Presbyteraidd Cymru. Mae’r Tîm Cynadledda yn edrych ymlaen at groesawu ein digwyddiad Cymraeg nesaf!
Yr haf hwn, bydd Met Caerdydd yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ar 3-11 Awst yng Nghaerdydd. Rydym ni’n gobeithio eich gweld chi yno! I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.eisteddfod.org.uk/
Lleoliad Gwaith Myfyriwr
Y gwanwyn hwn, rydym ni wedi croesawu aelod newydd i’r Tîm Cynadleddau. Mae Amber, sy’n fyfyriwr marchnata ail flwyddyn ym Met Caerdydd, wedi ymuno â’r tîm i ennill profiad mewn amgylchedd gwaith. Fel rhan o’i rôl, mae Amber wedi bod yn helpu gyda gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd digidol a phrosiectau marchnata. Fe ofynnon ni rai cwestiynau i Amber am ei hamser yma, a dyma beth oedd ganddi i’w ddweud; 1. Pa fath o brosiectau wyt ti wedi bod yn rhan ohonyn nhw yn ystod dy brofiad gwaith? Rwyf wedi cyflawni pob math o dasgau, sydd wedi golygu bod y gwaith wedi bod yn ddiddorol ac amrywiol. Fy mhrif dasgau oedd rhoi cynnwys hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol trwy Hootsuite a helpu’r tîm cynadleddau mewn digwyddiadau.
2. Beth wyt ti wedi’i ddysgu yn ystod dy amser yma? Rwyf wedi dysgu llawer o bethau newydd, megis sut i ddefnyddio Hootsuite a sut y gall cyfryngau cymdeithasol helpu i greu a meithrin cysylltiadau cwsmeriaid; pethau a oedd o fudd mawr i mi wrth ysgrifennu aseiniad diweddar yn y brifysgol.
3. Beth oedd y dasg fwyaf ddiddorol neu a oes unrhyw beth wedi peri syndod i ti? Roeddwn i wrth fy modd yn creu ymgyrch farchnata i hyrwyddo llety haf i’w phostio ar gyfryngau cymdeithasol. Doeddwn i byth wedi dychmygu faint o amser y byddai’n ei gymryd i greu post neu neges drydar; ond roeddwn i’n cyflymu wrth ddod i arfer â’r broses.
4. A yw’r rôl wedi rhoi rhyw syniad i ti am y mathau o feysydd busnes yr hoffet ti weithio ynddyn nhw? Mae fy mhrofiad yma wedi cadarnhau fy mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn wrth ddewis marchnata fel gyrfa, ond mae wedi gwneud i mi ystyried gweithio i gwmnïau llai o faint yn y dyfodol, yn hytrach na chwmnïau rhyngwladol mawr. I gael mwy o wybodaeth am leoliad gwaith Amber, gallwch chi ddarllen ei blog yma.
03
Arddangosfeydd a Sioeau Busnes Eleni, rydym ni wedi bod amryw o arddangosfeydd rhanbarthol, gan gynnwys y Southern Wales Group Buyer Showcase a gynhaliwyd ym Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd. Fe aethom ni i Sioe Fusnes Abertawe ym mis Hydref a byddwn yn arddangos yn Sioe Fusnes Cymru yng Nghaerdydd ar 26 Ebrill ac yn Business Showcase South West ym Mryste ar 16 Mai. Bydd Sioe Fusnes Cymru a Business Showcase South West yn gyfleoedd gwych i rwydweithio â busnesau eraill yn yr ardal. Mae gweithdai gwych ar y gweill, megis ‘Complying with the new GDPR laws’, a gallwch chi gymryd rhan yn eu digwyddiadau rhwydweithio cyflym. I gofrestru’ch presenoldeb yn Sioe Fusnes Cymru, ewch i: www.twbs.wales/the-shows/cardiff-2018/ neu, i gofrestru ar gyfer Business Showcase South West, ewch i: gofrestru ar gyfer Business Showcase South West, ewch i: www.businessshowcasesouthwest.com/ Dewch i un o’r sioeau i siarad â ni am ofynion eich digwyddiad. Bydd cyfle i chi ennill gwobr hefyd.
Archebion di-ri gan Grwpiau Preswyl! Mae Met Caerdydd yn ddewis poblogaidd i grwpiau preswyl, gyda phob haf yn fwy prysur na’r un blaenorol. Un o’r rhesymau mae pobl yn dewis Met Caerdydd yw gan ein bod ni’n cynnig gwasanaeth gwych ac yn gallu darparu pecyn arlwyo llawn a chyfleusterau hamdden ar un safle. Gall grwpiau mawr archebu cyfleusterau chwaraeon megis caeau pêl-droed 3G, caeau rygbi, pwll nofio, cyrtiau pêl-fasged a neuaddau chwaraeon. Mae prisiau talu a chwarae ar gael hefyd i unigolion sydd eisiau defnyddio’r cyfleusterau yn ystod eu hamser yma e.e. nofio, tennis, sboncen, badminton, y gampfa ac athletau. .
Gall unigolion a grwpiau bach archebu lle i aros ym Met Caerdydd dros fisoedd yr haf ar-lein. I gael mwy o wybodaeth am y llety ac i weld ein Canllaw Beth Sydd Ymlaen, cliciwch yma. I wneud ymholiadau grŵp preswyl, anfonwch e-bost at y Tîm Cynadleddau yn conferenceservices@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2.
“Mae galw mawr am lety yr haf hwn, hwn fydd ein haf prysuraf eto. Rydym ni’n dweud yn aml yn ein swyddfa bod ceisio diwallu anghenion pawb fel ceisio rhoi peg sgwâr mewn twll crwn! Rydym ni’n gwneud ein gorau glas i ddiwallu anghenion pawb ac edrychwn ymlaen at groesawu ein grwpiau yn 2018”
Clare Brockway, Rheolwr Cynadleddau
Cynnig ystafell wely Archebwch le i grŵp preswyl gyda ni y mis Awst hwn i gael gostyngiad o 20% ar bris yr ystafelloedd gwely. Dyfynnwch BD18. Yn amodol ar argaeledd, mae telerau ac amodau’n berthnasol. 04
Met Caerdydd yn mynd yn Wyrdd
Y mis Chwefror hwn, dathlodd Met Caerdydd wythnos Go Green gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys marchnad ffermwyr, MOT am ddim i feiciau, rheoli gwastraff, ‘Smalls for All’, gardd gymunedol, cyfnewid llyfrau, clwb rhedeg, teithiau beic, gwersylloedd ymarfer corff, ioga, ailddefnyddio a gweithdai gwneud mêl, ymysg pethau eraill. Bellach yn ei phumed flwyddyn ym Met Caerdydd, wythnos Go Green yw wythnos flynyddol Pobl a Phlaned o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae cynaliadwyedd yn uchel ar agenda Met Caerdydd, ac mae hyn yn amlwg mewn amryw o brosiectau a gwobrau diweddar; •
Pwerir yn llwyr gan drydan gwyrdd
•
Prifysgol Masnach Deg
•
Gwobr Aur y Sustainable Restaurant Association
•
Platinwm yng Ngwobrau Cynlluniau Teithio Llywodraeth Cymru
•
Prosiect gardd gymunedol a statws ‘Bee Friendly’
•
Gwobr Pobl a Phlaned, 1af yng Nghymru ac o fewn y 10 gorau yn y DU
•
Ardystiedig i ISO 14001: 2015
•
Gwobr Aur, Safon Iechyd Corfforaethol
Eleni, gwahoddwyd ein myfyriwr lleoliad gwaith i gymryd rheolaeth dros gyfrif Instagram Met Caerdydd fel rhan o’i gwaith yn ystod wythnos Go Green.
Oes cyfarfod neu ddigwyddiad gennych ar y gorwel y gallem eich helpu ag ef? Ffoniwch ni ar 029 2041 6181 er mwyn trefnu i weld ein cyfleusterau neu i gael dyfynbris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.
Ymunwch âni ar...
Twitter Facebook Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n www.cardiffmet.ac.uk/conferences
05