wedi’i noddi gan
2
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
Croeso i Ffair Diwydiant Graddedigion Met Caerdydd sy’n gwahodd myfyrwyr o’n holl Ysgolion i archwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd. Dyw hi byth yn rhy gynnar i ystyried beth hoffech ei wneud ar ôl i chi raddio a, thrwy fynychu’r ffair hon, rydych wedi gwneud dechrau da. Mae’r digwyddiad hwn wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch sgiliau, archwilio llwybrau gyrfaol a thrafod opsiynau gyda chyflogwyr. Bydd llawer o gyfleoedd sy’n berthnasol i’ch gradd ond, os ydych yn feddwl agored ac yn chwilfrydig, bydd y ffair yn cynnig y cyfle i chi archwilio rolau mewn sectorau gwahanol. Yn y digwyddiad, gallwch ddisgwyl dysgu am leoliadau, swyddi i raddedigion a phrofiad gwaith arall sydd ar gael. Yn ystod y digwyddiad, gallwch ennill y blaen dros ymgeiswyr eraill drwy ddysgu am brosesau dethol cyflogwyr ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol. Cofiwch, nid cael swydd yn unig yw bod yn gyflogadwy - mae’n golygu meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i’ch gwneud chi’n effeithiol yn y gweithle. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yno i’ch helpu adnabod y sgiliau hynny a’u datblygu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes arnoch angen cymorth yn ystod y digwyddiad, gofynnwch i aelod o’r tîm Gyrfaoedd a fydd yn hapus i’ch helpu. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r digwyddiad! James Hirst Pennaeth Gyrfaoedd 3
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION 4
Dysgwch am y cwmnïau sy’n mynychu’r ffair a gwnewch restr o’r rhai yr hoffech chi siarad â nhw.
Meddyliwch am rai cwestiynau allweddol, mae paratoi yn allweddol i lwyddiant mewn ffeiriau gyrfaoedd.
Ystyriwch eich cryfderau allweddol a byddwch yn barod dynnu sylw siarad â chyflogwyr.
Gwisgwch yn smart er mwyn creu argraff gyntaf broffesiynol.
Argraffwch gopïau o’ch CV fel bod y rhain gennych wrth law os bydd cyflogwr yn gofyn amdanynt.
Cadwch gofnod o unrhyw wybodaeth neu syniadau defnyddiol a roddir i chi yn ystod y digwyddiad.
Rhif Stondin
Swyddi i raddedigion/ Cynllun i raddedigion
Acorn Recruitment
32
Affinity Addysg
8
Alcumus
29
Aldi
86
Gwasanaethau Addysgu Apollo
01
Y fyddin
38
Celf a Busnes Cymru
13
Atkins / Faithful & Gould
46
BUNAC
14
Arddangoswyr
Interniaethau/ Rhan-amser Gwirfoddol lleoliadau /tymhorol
11
CGI
59
17
CHASE
7
Challenger Sports
CIMA (Chartered Institute of Management Accountants)
33
City Electrical Factors
82
Consortia
28
Caerdydd Creadigol
68
Deloitte
24
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
18
DevOpsGroup
5
Dunbia
15
Effective Communication
25
Enterprise Rent-A-Car
67
Farmfoods Ltd
23
FDM Group
74
Ffilm Cymru
55
Frontier
6
Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth
41
Gradsouthwest
19
graduatejobs.com
4
Greenwich Leisure Centre
90
Hays Recruitment
51
Hijinx
69
Hilton
48
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
47
Innovantage
40
Cwrt Insole
60
IntaPeople
77
Kier Construction Western & Wales Lexis Nexis Risk Solutions
Camp America
54
Capgemini
16
Cardiff City FC Foundation
34
Cyngor Caerdydd
75
Cyngor Caerdydd (Caerdydd Dwyieithog)
76
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd
Yn derbyn myfyrwyr ag unrhyw ddisgyblaeth gradd
Aelodaeth /arall
45
2
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
MATH O GYFLE
5
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION 6
MATH O GYFLE
Arddangoswyr
Rhif Stondin
Lidl
12
Cymdeithas Llywodraeth Leol
79
Swyddi i raddedigion/ Cynllun i raddedigion
Interniaethau/ lleoliadau
Gwirfoddo
Meltwater UK
70
MotoNovo Finance
26
Net Support UK
85
Network Rail
57
New Directions Addysg
83
NewLaw Solicitors
71
NewLink Wales
56
NFU Mutual
49
NHS Leadership Academy
53
Swyddfa Ystadegau Gwladol
89
Opus Talent Solutions
72
Oxfam
43
PE Direct Teaching Agency
64
Principality Stadium Experience
88
PTUK
61
PureGym
30
PwC
3
RateMyPlacement.co.uk
31
recruit3
42
Yr Awyrlu Brenhinol
37
Royal Educare
35
Y Llynges Frenhinol a’r Môr-Filwyr Brenhinol
36
Rugbytots Morgannwg Ganol
80
S3 Advertising
63
SC Productions Ltd
20
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
21
Heddlu De Cymru
58
Chwaraeon Caerdydd
52
Chwaraeon Cymru
9
SportFit Caerdydd
27
Nofio Cymru
65
Cymdeithas Athrawon Nofio
50
Swyddle
87
Target Group
22
TARGETjobs
66
Teach First
44
Canolfan Gwirfoddoli Caerdydd
84
The Mentor Ring
62
The Sustainable Studio
78
Trafnidiaeth Cymru
73
UNA Exchange
39
Urdd Gobaith Cymru
81
Cyngor Bro Morgannwg
10
Rhan-amser /tymhorol
Yn derbyn myfyrwyr ag unrhyw ddisgyblaeth gradd
Aelodaeth /arall
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
Adran
Rhif Stondin
Sut allan nhw eich helpu?
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
100
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yma i'ch helpu chi i adeiladu a datblygu eich sgiliau cyflogaeth fel eich bod yn barod ar gyfer y byd gwaith.
Canolfan Entrepreneuriaeth
96
P’un ai rydych yn bwriadu dechrau eich busnes eich hun neu gael eich swydd ddelfrydol, gall y Ganolfan Entrupreneuriaeth eich helpu chi gyda sgiliau datlblgu a chymorth ar y dechrau.
GO Wales
99
Mae GO Wales yn eich cynorthwyo drwy chwilio am sesiynau blasu gwaith, cysgodi mewn swydd neu leoliadau gwaith sydd wedi eu teilwra yn llwyr ar eich cyfer chi ac yn ffitio o’ch cwmpas chi, eich bywyd, eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau. Ewch i’w stondin nhw i weld a ydych yn gymwys.
Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaeth
97
Mae’r Swyddfa Ryngwladol a Phartneriaeth yn eich darparu chi â gwybodaeth am astudio a/neu weithio dramor. Ewch i’w stondin nhw i gael gwybod mwy am sut mae’n gweithio.
Cyllid Myfyrwyr, Budd a Lles Myfyrwyr
98
Mae cyllid myfyrwyr yn darparu cyngor ar bob agwedd ar arian, cyllido a rheoli arian myfyrwyr yn ogystal â chyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael a ble i ddod o hyd iddo. Mae’r tîm hefyd yn gallu rhoi cyngor ar y gwasanaeth iechyd a lles myfyrwyr ym Met Caerdydd.
Astudiaethau ôl-raddedig ym Met Caerdydd
91
Ystyried astudio ymhellach? Dyma’r stondin i weld trosolwg o astudio ôl-radd ym Met Caerdydd.
Astudiaeth Ôl-raddedig (Ysgol Gelf a Dylunio Ysgol CAerdydd)
92
Darparu gwybodaeth am ystod o gyrsiau MSc ar draws yr Ysgol Gelf a Dylunio.
Astudio Ôl-raddedig (Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd)
93
Darparu gwybodaeth ar ystod o gyrsiau MSc ar draws yr Ysgol Addysg Pholisi Cymdeithasol.
Astudiaeth Ôl-raddedig (Ysgol Reoli Caerdydd)
94
Darparu gwybodaeth ar ystod o gyrsiau MSc ar draws yr Ysgol Rheoli.
Astudiaeth Ôl-raddedig (Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd)
95
Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn cynnig ystod o raglenni ôl-raddedig ar draws meysydd Chwaraeon, Ymarfer Corff ac Iechyd Cyhoeddus. Bydd cynrychiolwyr y cyrsiau hyn ar gael i drafod y rhaglenni gyda’r rhai sy’n mynychu.
Gwybodaeth Ôl-raddedig
7
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
Mynedfa 10
9
8
7
6
5
4
3
2
1
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
Desg groesawu
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
CafямБ dros dro
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
Allanfa
8
Mae Acorn Group yn un o gwmnïau recriwtio a hyfforddi mwyaf blaenllaw y DU gyda rhwydwaith o 37 cangen ac adran arbenigol ar draws y De-orllewin, y Gogledd-rllewin a De-ddwyrain Lloegr a Chymru. Mae Acorn yn darparu recriwtio parhaol, dros dro a chontract ar draws ystod eang o sectorau. www.acornpeople.com
08 AFFINITY ADDYSG Diwydiant: Diwydiant ar gyfer addysg Cyfleoedd: Swyddi rhan-amser Mae Affinity Addysg yn gwmni annibynnol sefydledig sydd ag enw da wedi ei leoli yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i leoli staff addysg mewn ysgolion uwchradd yn ne Cymru. Rydym yn recriwtio athrawon, goruchwylwyr cyflenwi a chynorthwywyr cefnogi dysgu ar gyfer swyddi o ddydd i ddydd a thymor hir.
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
32 ACORN RECRUITMENT Diwydiant: Diwydiant Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, swyddi rhan-amser.
www.affinityeducation.co.uk
29 ALCUMUS Diwydiant: Ymgynghori (iechyd, diogelwch, llywodraethiant, rheoli risg) Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, interniaeth. Mae gan Alcumus ddegawdau o brofiad o weithio gyda sefydliadau, yn eu helpu i integreiddio a hybu eu harferion rheoli risg, sef y rheswm pam fod 35% o’r FTSE 100 yn ymddiried yn Alcumus oherwydd ei gydsyniad rheoli risg a sicrwydd busnes. Ymunwch ag Alcumus a helpwch sicrhau bod sefydliadau yn ddiogelach, iachach a chryfach. www.alcumusgroup.com
86 ALDI Diwydiant: Manwerthu Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, lleoliadau Mae gan Aldi dros 750 o siopau ledled y DU a chynlluniau i weithredu 1000 ar draws y wlad erbyn 2022. Mae Aldi yn trydydd yn 100 Cyflogwr i Raddio Gorau'r Times ac yn cynnig swyddi i Raddedigion trwy gydol y DU ar gyfer Rheolwyr Ardal sy'n medru darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad clir i Dîm Rheoli Manwerthu. www.aldirecruitment.co.uk
01 GWASANAETHAU ADDYSGU APOLLO Diwydiant: Diwydiant ar gyfer addysg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, lleoliadau, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Mae Gwasanaethau Addysgu Apollo yn asiantaeth addysgu achrededig REC Aur ac mae ganddyn nhw wyth swyddfa ledled y DU. Mae Apollo yn cynnig lleoliadau tymor byr a thymor hir i athrawon a staff cefnogi yn ogystal â gwaith hyblyg a chyfleoedd hyfforddi ardderchog. Does dim amser gwell i ymuno â thîm Apollo! www.apolloteaching.co.uk
38 Y FYDDIN Diwydiant: Amddiffyn Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Milwr neu swyddog, gwasanaethu’n llawn neu wrth gefn, milwr troed neu nyrs, pa bynnag rôl yr ydych yn ei gwneud, bydd y cysylltiadau y byddwch yn eu hadeiladu yn y Fyddin yn amhosibl eu torri a bydd yr atgofion yn parhau am byth. Os ydych yn chwilio am antur, cyfle a ffrindiau am byth, mae’n amser i chi ddarganfod ble rydych yn perthyn. www.army.mod.uk
9
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
13 CELF A BUSNES CYMRU Diwydiant: Creadigol Cyfleoedd: Interniaeth Rôl CaB Cymru yw hyrwyddo, galluogi a datblygu partneriaethau sy’n llesol i bawb rhwng bsunes a’r celfyddydau. Mae CaB Cymru yn gwybod pan fod busnes a’r celfyddydau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth hollol gytbwys, mae’r ddau’n cryfhau ac mae’r canlyniadau o fudd i’n cymdeithas mewn ffordd bellgyrhaeddol a chyffyrddadwy. www.aandbcymru.org.uk
46 ATKINS / FAITHFUL + GOULD Diwydiant: Project management, asset management Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, lleoliadau Mae Faithful+Gould yn ymgynghoriaeth rheoli rhaglen a phrosiectau integredig gyda’r gorau yn y byd. Mae'r cwmni yn ymdrechu i adeiladu perthnasau cryf trwy ddeall yr heriau a wynebir gan gleientiaid, gan rannu eu gweledigaeth o'r dyfodol a'u helpu i wireddi eu huchelgais.
www.careers.atkinsglobal.com/graduates
14 BUNAC Diwydiant: Teithio a thwristiaeth Cyfleoedd: Interniaeth, Lleoliadau, Gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Mae BUNAC wedi galluogi anturiaethau wrth weithio ledled y byd sy’n newid bywydau ers 1962. Boed yn wyliau wrth weithio am ddwy flynedd, swydd breswyl am chwe mis dramor neu daith wirfoddol am chwe wythnos, does dim gwlad yn rhy bell nac unrhyw gyfnod yn rhy fyr i Bunac eich helpu chi i wireddu eich breuddwydion o ran teithio. www.bunac.org/uk
54 CAMP AMERICA Diwydiant: Teithio i bobl ifanc Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, lleoliadau, swyddi tymhorol. Mae Camp America yn gyfle i chi dreulio 9 wythnos yn byw ac yn gweithio ar wersyll haf anhygoel yn America. Cyfle i ehangu eich CV a gwneud y gorau o’ch gwyliau haf. Ffordd o wneud ffrindiau o gwmpas y byd a theithio mewn gwlad anhygoel. www.campamerica.co.uk
16 CAPGEMINI Diwydiant: Creadigol Cyfleoedd: Interniaeth Mae capgemini yn arweinwyr byd-eang mewn ymgynghori, technoleg a gwasanaethau allanol; sy’n helpu cleientiaid i drawsnewid eu busnesau trwy ddatrysiadau technoleg arloesol. Mae Capgemini yn sefydliad amlddiwylliannol; gyda thros 200,000 o weithwyr ar draws 40 o wledydd. www.careers.uk.capgemini.com/business-technical-graduates
34 CARDIFF CITY FC FOUNDATION Diwydiant: Addysg Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Cardiff City FC Community Foundation yw elusen swyddogol Clwb Pêl droed Dinas Caerdydd. Ers ei sefydlu yn 2009, eu cenhadaeth yw defnyddio apêl unigryw Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd i newid bywydau. Y prif nod yw cynorthwyo plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Ne Cymru i gyrraedd eu llawn botensial. www.cardiffcityfcfoundation.org.uk
10
Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus llywodraeth leol ar gyfer prifddinas Cymru. www.cardiff.gov.uk
76 CYNGOR CAERDYDD (CAERDYDD DWYIEITHOG) Diwydiant: Awdurdod lleol, uned Gymraeg Cyfleoedd: Cynllun i raddedigion, interniaeth, lleoliadau, swyddi rhan-amser. Gorchwyl ‘Caerdydd Dwyieithog’ yw cymryd rôl flaenllaw mewn datblygu Caerdydd hollol ddwyieithog lle y gall preswylwyr a staff Cyngor Dinas Caerdydd gael mynediad i wasanaethau a chymorth yn y ddwy iaith yn gyfartal trwy weithio’n well mewn partneriaeth. www.caerdydd.gov.uk/caerdydd-ddwyieithog
11
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
75 CYNGOR CAERDYDD (CYFFREDINOL /AS) Diwydiant: Sector Cyhoeddus Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, Interniaeth, lleoliadau, gwirfoddol, swyddi rhan-amser
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL CYNGOR CAERDYDD Diwydiant: Awdurdod Lleol Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, lleoliadau, gwirfoddol, swyddi rhan-amser
Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth hwn i gynorthwyo’r gweithlu. Y bwriad yw lleihau llwythi achos fel y gall gweithwyr cymdeithasol wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau - gweithio’n uniongyrchol gyda dinasyddion sy’n agored i niwed. www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Social-Services-and-Wellbeing/Children
59 CGI Diwydiant: TG, technoleg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, lleoliadau gwaith Un o ddarparwyr TG a gwasanaeth prosesu busnes yn y byd ydy CGI. Maent yn darparu gwasanaeth ymgynghori busnes o ansawdd uchel, integreiddio systemau a gwasanaethau wedi’u rheoli. Mae oddeutu 730,00 o bobl proffesiynol yn gwasanaethu miloedd o gleientiaid led led y byd o swyddfeydd a chanolfannau nwyddau fyd-eang. www.cgi-group.co.uk/careers
17 CHALLENGER SPORTS Diwydiant: Chwaraeon Cyfleoedd: Lleoliadau gwaith, gwaith tymhorol Mae Challenger Sports yn cyflogi dros 800 o hyfforddwyr pêl-droed i weithio yn y UDA a Canada yn ystod cyfnod yr Haf rhwng Mai ac Awst. Dylai hyfforddwyr fod o leiaf 18 oed a chael rhywfaint o brofiad o chwarae a hyfforddi. www.challengersportsrecruitment.com
07 CHASE Diwydiant: Gwaith fferyllol, gofal iechyd Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Mae CHASE yn gweithio gyda Phrifysgolion gorau'r DU a bob amser yn edrych am fwy o raddedigion newydd talentog. Bydd y tîm profiadol yn cynnig cymorth ac arweiniad i chi gyda thechnegau asesu yn ogystal â chyngor arbenigol ar ymchwil perthnasol a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. www.chasepeople.com
11
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
33 CIMA (CHARTERED INSTITUTE OF MANAGEMENT ACCOUNTANTS) Diwydiant: Addysg Cyfleoedd: Swyddi i raddeidgion, mentrau i raddedigion, lleoliadau gwaith Y Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth (CIMA) yw’r corff proffesiynol mwyaf a blaenllaw yn fyd-eang o gyfrifwyr rheoli, gyda dros 232,000 o aelodau a myfyrwyr yn gweithredu mewn 177 o wledydd yn gweithio wrth galon busnes www.cimaglobal.com
82 CITY ELECTRICAL FACTORS Diwydiant: Cyfanwerth Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Cwmni Cyfyngedig Preifat a sefydlwyd yn 1951 yw City Electrical Factors. Nhw yw prif Rwydwaith Cyfanwerth Trydanol y Deyrnas Unedig gyda bron i ddwywaith gymaint o allanfeydd dosbarthu a’i chystadleuydd agosaf. www.cef.co.uk
28 CONSORTIA Diwydiant: Recriwtio Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaethau Asiantaeth Recriwtio ddibynadwy Consortia sy’n arbenigo mewn dod o hyd i ddatrysiadau TG parhaol a dros dro ar gyfer marchnadoedd anodd dod o hyd iddynt ar draws Defnyddiwr, Cynnyrch a Gweledigaeth. www.consortia.com/join-us
68 CREADIGOL CARDIFF Diwydiant: Creadigol industries Cyfleoedd: Membership Creadigol Cardiff is a network which connects people working in any creative organisation, business or job in the Cardiff region. Creadigol Cardiff believe that they can make Cardiff the most creative place it can be by enabling collaborations, amplifying opportunities and encouraging innovation. www.creativecardiff.org.uk
24 DELOITTE Diwydiant: Swyddi i raddedigion Cyfleoedd: Gwasanaethau proffesiynol Beth ydych chi eisiau o’ch gyrfa? Gweithio gyda chleientiaid mawr ar brosiectau pwysig? Gyda phobl hyfryd? Cymhwyster proffesiynol? Mynegi eich syniadau gwych? I fod ar y blaen o ran esblygiad busnes? Beth am yrfa ddiderfyn? Ac oriau gwaith synhwyrol? www2.deloitte.com/uk/en/careers/careers.html?icid=top_careers
18 ADRAN GWAITH A PHENSIYNAU Diwydiant: Gwasnaeth cyhoeddus Cyfleoedd: Cymorth a chyngor Mae Jobcentre Plus yn helpu pobl i symud oddi wrth fudd-daliadau ac i mewn i waith ac yn helpu cyflogwyr i hysbysu swyddi. Mae hefyd yn delio gyda budd-daliadau ar gyfer pobl sydd allan o waith neu sy’n methu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd. www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions
12
DEVOPSGROUP Diwydiant: TG Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, mentrau i raddedigion, interniaethau, lleoliadau gwaith
Arbenigwyr mewn peirianneg ymarferol a datrysiadau ymgynghori er mwyn trawsnewid y ffordd y mae mudiadau yn datblygu eu meddalwedd yw DevOpsGroup www.devopsgroup.com
15 DUNBIA Diwydiant: Bwyd Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, lleoliadau Mae Dunbia yn un o gwmnïau bwyd mwyaf blaenllaw Ewrop. Fe’i sefydlwyd ym 1976, ac mae Dunbia yn fusnes teuluol sydd â gwerthoedd diffwdan a’r awydd i greu bwyd gwell yn naturiol yw’r gyriant y tu ôl i bopeth y maent yn ei wneud. Mae Dunbia yn isadran i Dawn Meats ac yn cyflogi dros 5,200 o bobl ar draws 15 safle yn y DU. www.dunbia.com
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
5
25 EFFECTIVE COMMUNICATION Diwydiant: Cysylltiadau cyhoeddus, marchnata digidol Cyfleoedd: Swyddfeydd i raddedigion, lleoliadau, gwirfoddol Mae Effective Communication yn asiantaeth gyfathrebu hollol integredig, yn helpu busnesau a sefydliadau eraill i hyrwyddo, amddiffyn a gwella eu brandiau. www.weareeffective.co.uk
67 ENTERPRISE RENT-A-CAR Diwydiant: Manwerthu Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaeth, lleoliadau Ychwanegwch drosiant o dros $22.3 biliwn i fflyd rhentu a phrydlesu dros 1.9 miliwn o gerbydau ar draws tua 9,900 o leoliadau dros y byd, dyna yw Rent-a-Car – busnes dydd wedi tyfu i fod y cwmni rhentu ceir mwyaf yn y byd. www.enterprisealive.co.uk
23 FARMFOODS LTD Diwydiant: Manwerthu Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion Mae Farmfoods, busnes teuluol o’r Alban, wedi gwasanaethu Prydain Fawr am dros 60 o flynyddoedd. O siop gig yn Aberdeen, maent wedi tyfu i dros 330 o siopau a phedair canolfan ddosbarthu ledled y wlad. www.farmfoods.co.uk
74 FDM GROUP Diwydiant: TG Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaeth, lleoliadau Mae FDM yn recriwtio, hyfforddi ac yn lleoli talent o gwmpas y byd trwy eu Rhaglen Gyrfaoedd enwog, gan lansio gyrfaoedd miloedd o raddedigion bob blwyddyn. Maent yn darparu hyfforddiant TG a busnes o safon, yn ogystal â phrofiad masnachol amhrisiadwy. www.fdmgroup.com
13
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
55 FFILM CYMRU Diwydiant: Diwydiannau Creadigol Cyfleoedd: Lleoliadau Ffilm Cymru yw’r asiantaeth datblygu ffilmiau ar gyfer ffilm yng Nghymru. Maent yn cynorthwyo datblygu ffilmiau, cynhyrchu ffilmiau, addysg am ffilmiau, arddangos ffilmiau, datblygu busnesau ffilm a datblygiad gyrfaol gwneuthurwyr ffilm yn fwy eang; maent yn cynnig hyfforddiant a chyngor i’r rhai hynny sy’n gobeithio mynd i’r sector ffilm neud sydd eisoes yno. www.ffilmcymruwales.com
06 FRONTIER Diwydiant: Elusen, trydydd sector Cyfleoedd: Interniaeth, lleoliadau, gwirfoddol, swyddi tymhorol Mae Frontier yn sefydliad gwirfoddoli dielw rhyngwladol sy’n cynnal dros 450 o brosiectau datblygu cymuned mewn dros 60 o wledydd ar draws y byd. www.frontier.ac.uk
41 GWASANAETH ECONOMAIDD Y LLYWODRAETH Diwydiant: Gwasanaeth sifil Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaeth, lleoliadau Mae Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth (GES) yn un o’r swyddi cydnabyddedig yng Ngwasanaeth Sifil y DU. Dyma recriwtiwr economegwyr mwyaf y DU, ac mae dros 1,500 o weithwyr proffesiynol mewn dros 30 o adrannau ac asiantaethau. Mae staff GES wedi eu lleoli yn Llundain ond hefyd ym Mryste, Caerdydd, Casnewydd a lleoedd eraill. www.ges.gov.uk
19 GRADSOUTHWEST Diwydiant: Gwasanaethau busnes Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaeth, lleoliadau Mae Gradsouthwest.com yn fwrdd swyddi sy’n cynnig ffordd gyflym, syml ac effeithiol i fyfyrwyr a graddedigion i ddod o hyd i swyddi da i raddedigion. Mae’r rhan fwyaf o rolau a gaiff eu hysbysebu wedi eu lleoli yn Ne Orllewin Lloegr – ond maent yn recriwtio yn fwy eang gyda rolau yn Ne Cymru a De Lloegr. www.gradsouthwest.com
04 GRADUATEJOBS.COM Diwydiant: Hysbysebu cyflogaeth Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaeth, lleoliadau, swyddi tymhorol Graduate-jobs.com yw’r bwrdd swyddi annibynnol mwyaf i raddedigion yn y DU (Ymchwil High FliersResearch, 2007) ac NID yw’n asiantaeth recriwtio. Mae graduate-jobs.com yn eich galluogi chi i greu cyfrif sy’n gweddu i’ch pwnc academaidd - sy’n golygu y gallwch edrych ar unwaith ar swyddi sydd yn iawn i chi! www.graduate-jobs.com
90 CANOLFAN HAMDDEN GREENWICH Diwydiant: Hamdden, llyfrgelloedd a chelfyddydau perfformio Cyfleoedd: Gwirfoddol Mae GLL yn fenter gymdeithasol elusennol nad yw’n gwneud elw, sydd wedi ymrwymo i ddarparu ffitrwydd a hamdden, llyfrgelloedd a chyfleusterau celfyddydau perfformio o ansawdd gwell I bawb. Maent wedi ymrwymo i roi mynediad I gyfleusterau cymunedol o ansawdd a mwy - am bris y gall bawb ei fforddio. www.better.org.uk
14
Hays Recruitment yw’r cwmni recriwtio mwyaf llwyddiannus yn y DU, ac maent yn gosod mwy nag un ymgeisydd mewn swydd bob munud o bob diwrnod busnes. Maent yn fyd-eang ac yn lleol, gan weithredu ar draws y DU ac Iwerddon, yn gweithio gyda rhai o’r cwmnïau mwyaf ac ystod eang o fusnesau bach a chanolig. www.careers.hays.co.uk
69 HIJINX Diwydiant: Theatr Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, lleoliadau Cwmni theatr broffesiynol yw Hijinx sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Mae Hijinx yn teithio theatrau bach rwy gydol y DU a thu hwnt. Yr hyn sydd yn gwneud Hijinx yn wahanol yw bod unigolion gydag anableddau dysgu ymhlith ei actorion. www.hijinx.org.uk
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
51 HAYS RECRUITMENT Diwydiant: Recriwtio Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, lleoliadau
48 HILTON Diwydiant: Lletygarwch Cyfleoedd: Cynllun i raddedigion, lleoliadau, swyddi rhan-amser Mae’r Hilton yn un o’r cwmnïau lletygarwch sy’n tyfu gyflymaf yn y byd a chanddynt dros 5,100 o adeiladau â thros 838,000 o ystafelloedd mewn 103 o wledydd a thiriogaethau. www.jobs.hilton.com
47 CYLLID A THOLLAU EI MAWRHYDI Diwydiant: Gwasanaeth sifil Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yw gweinyddiaeth treth y DU sy’n sicrhau bod arian sydd ar gael i ariannu gwasanaeth cyhoeddus y DU, a helpu pobl â chymorth ariannol wedi ei dargedu. Os byddwch yn gweithio i Cyllid a Thollau EM, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau, datblygiad gyrfaol cyflym, cymorth mentor ymroddedig a chyflog cychwynnol ardderchog. www.hmrc.gov.uk
40 INNOVANTAGE Diwydiant: Meddalwedd, technoleg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion Innovantage yw’r arweinydd o ran darparu cenhedlaeth arweiniol a dadansoddiadau marchnad i’r diwydiant recriwtio. Gan ddefnyddio technoleg arloesol gan gynnwys dysgu peiriant, mae Innovantage yn gallu casglu data o filoedd o ffynonellau ar-lein mewn amser go iawn. Caiff y data ei ddarparu wedyn i’w cwsmeriaid drwy WebApp. www.innovantage.co.uk
15
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
60 INSOLE COURT Diwydiant: Treftadaeth Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol Mae’r Insole Court, sydd ym meistref ddeiliog Llandaf, yn blasty sydd â hanes cyfoethog a dyfodol hyd yn oed yn gyfoethocach. Mae’r tŷ 160 oed a achubwyd gan y gymuned wedi cael ei adfer ac mae’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf bellach ar agor i ymwelwyr. www.insolecourt.org
77 INTAPEOPLE Diwydiant: Recriwtio technoleg a pheirianneg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Mae IntaPeople yn ymgynghoriaeth recriwtio sy’n arbenigo mewn cynnig datrysiadau talent o’r radd flaenaf o fewn technoleg a pheirianneg. Fe’u sefydlwyd ym 1994, ac maent yn arbenigwyr mewn dod o hyd i ymgeiswyr o safon uchel ar gyfer ystod eang o swyddi parhaol, cytundebol a dros dro ledled Cymru, y DU ac Ewrop. www.intapeople.com
45 KIER CONSTRUCTION WESTERN & WALES Diwydiant: Adeiladu Cyfleoedd: Cynllun i raddedigion Mae Kier Group plc yn grŵp eiddo, preswyl, adeiladu a gwasanaethau sy’n buddsoddi yn y lleoedd yr ydym yn gweithio, byw a chwarae ynddyn nhw yn ogystal â’u hadeiladu, cynnal ac adnewyddu. Mae Kier yn gweithredu ar draws ystod o sectorau gan gynnwys amddiffyn, addysg, tai, diwydiant, pŵer, trafnidiaeth a gwasanaethau. www.kierconstruction.com
02 LEXIS NEXIS RISK SOLUTIONS Diwydiant: Technoleg gwybodaeth a gwasanaethau Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaeth, lleoliadau Mae Risk Solutions yn rhoi offer datrys a phenderfynu i gwsmeriaid sy’n cyfuno cynnwys sy’n benodol ar gyfer y cyhoedd a diwydiant gyda thechnoleg a dadansoddiadau er mwyn eu cynorthwyo i werthuso a rhagweld risg a gwella effeithlonrwydd gweithredol. www.solutions.lexisnexis.com/uk-careers
12 LIDL Diwydiant: Manwerthu Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, interniaethau, lleoliadau, swyddi rhan-amser Mae Lidl yn arloeswyr balch ym myd manwerthu gyda dros 670 o siopau, 12 warws a thros 20,000 o weithwyr yn y DU yn unig. Maent yn chwilio am unigolion uchelgeisiol, llawn cymhelliant a thalentog sy’n barod i ymuno ag amgylchedd deinamig, ymgysylltiol er mwyn gwneud y gorau o’u potensial. www.lidl.co.uk
79 RHAGLEN DATBLYGU GENEDLAETHOL I RADDEDIGION Diwydiant: Cysylltiadau â’r Llywodraeth Cyfleoedd: Cynllun i raddedigion Mae’r Rhaglen Datblygu Genedlaethol i Raddedigion yn rhaglen datblygu rheoli dwy flynedd i raddedigion a gynhelir gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Mae’r rhaglen yn darparu awdurdodau lleol â’r rheolwyr calibr uchel sydd eu hangen ar gymunedau drwy roi hyfforddiant a chyfleoedd i raddedigion ymrwymedig er mwyn gwneud effaith gadarnhaol. www.local.gov.uk/national-graduate-development-programme
16
Fe’i sefydlwyd yn Oslo yn 2001 cyn iddynt symud eu pencadlys i San Francisco yn 2006. Meltwater yw’r arweinydd byd-eang o ran deallusrwydd cyfryngau, ac mae ganddyn nhw dros 1,600 o weithwyr a 26,000 o gleientiaid dros y byd. Mae eu cynnyrch arloesol yn helpu busnesau i ddethol mewnwelediadau o biliynau o sgyrsiau ac erthyglau ar-lein. www.meltwater.com/UK
26 MOTONOVO FINANCE Diwydiant: Gwasanaethau ariannol Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau, swyddi rhan-amser Mae MotoNovo Finance yn un o’r benthycwyr cyllid ceir ail-law mwyaf yn y DU, ac mae’n swyddogol yn un o’r Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt yn ôl y Sunday Times. Mae MotoNovo Finance yn falch o’u diwylliant ac yn gosod ymddiriedaeth, dilysrwydd a gwaith tîm wrth galon yr hyn y maent yn ei wneud, ac mae hyn yn eu gwneud yn lle unigryw i weithio.
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
70 MELTWATER UK Diwydiant: Deallusrwydd cyfryngau Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion
www.motonovocareers.com
85 NET SUPPORT UK Diwydiant: Technoleg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau Ydych chi’n chwilio am rôl gyffrous ar ôl graddio mewn cwmni TG a thelecom sy’n tyfu’n gyflym, yma yng Nghaerdydd? Mae Net Support UK yn chwilio am raddedigion busnes neu dechnoleg sydd ag archwaeth am bopeth technegol. Os ydych yn angerddol ac yn glyfar ac yn awchu am lwyddiant, ewch i’w gweld yn ffair gyrfaoedd Met Caerdydd! www.nsuk.com
57 NETWORK RAIL Diwydiant: Trafnidiaeth Cyfleoedd: Interniaethau, lleoliadau, gwirfoddol Network Rail sydd piau, sy’n gweithredu ac sy’n datblygu seilwaith rheilffordd Prydain; sef 20,000 milltir o drac, 30,000 pont, twneli a thraphontydd a miloedd o signalau, croesfannau lefel a gorsafoedd. www.networkrail.co.uk/vacancies
83 NEW DIRECTIONS ADDYSG Diwydiant: Addysg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, lleoliadau, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Mae New Directions Education yn darparu staff ar gyfer athrawon uwchradd, cynradd ac anghenion dysgu ychwanegol, darlithwyr addysg bellach, cynorthwywyr cefnogi dysgu, goruchwylwyr absenoldeb, arolygwyr arholiadau a gwasanaethau cefnogi ysgolion. www.new-directions.co.uk/education
71 NEWLAW SOLICITORS Diwydiant: Gwasanaethau Cyfreithiol Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Sefydlwyd NewLaw Solicitors yn 2004 ac mae’n un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf arloesol ac sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, yn arbenigo ym mhob maes o gyfraith anafiadau personol o hawliadau am chwipio yn ôl i achosion i anafiadau trychinebus i waith llesiant, ewyllys, ymddiriedolaethau a phrofeb a Llys Amddiffyn. www.new-law.co.uk/careers
17
Considering a legal career? Talk to our team about our rewarding graduate career opportunities in the heart of Cardiff. NewLaw specialise in providing high quality legal services to customers on behalf of some of the UK’s most respected organisations. We offer a modern and diverse environment, interesting and varied work and the opportunity to become part of a successful team of legal professionals. Our customers are at the heart of everything we do, and our people and team help us do this. If you have the talent and passion to make a difference and you’re looking to advance your legal career, speak to one of our team.
0333 003 1909 Careers@new-law.co.uk NewLaw: www.new-law.co.uk
Mae NewLink yn darparu sefydliadau camddefnyddio sylweddau a lles ehangach â gwirfoddolwyr ymrwymedig, ysbrydoledig ac sydd wedi eu hyfforddi’n llawn. Mae’r elusen yn gosod gwirfoddolwyr mewn sefydliadau ledled Cymru ac mae eu gwaith yn aml yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaethau. www.newlinkwales.org.uk
49 NFU MUTUAL Diwydiant: Yswiriant Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion Mae NFU Mutual yn un o gwmnïau yswiriant cyffredinol a gwasanaethau ariannol mwyaf blaenllaw’r DU ac mae wedi bod yn cwrdd ag anghenion cwsmeriaid am dros 100 mlynedd. www.nfumutualcareers.co.uk
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
56 NEWLINK WALES Diwydiant: Elusen/trydydd sector Cyfleoedd: Interniaethau, lleoliadau, gwirfoddol
53 ACADEMI ARWEINYDDIAETH Y GIG Diwydiant: Gofal Iechyd Cyfleoedd: Cynllun i raddedigion Mae Academi Arweinyddiaeth y GIG yma i helpu datblygu arweinwyr arbennig sy’n ysbrydoli eraill i wneud popeth y gallan nhw i wella iechyd, gofal triniaeth a phrofiad pobl gyda’r GIG. www.leadershipacademy.nhs.uk/
89 SWYDDFA YSTADEGAU GWLADOL Diwydiant: Sector Cyhoeddus Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaethau, lleoliadau, swyddi tymhorol Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw Sefydliad Cenedlaethol y DU ac mae’n un o’r cynhyrchwyr ystadegau swyddogol mwyaf. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu data ar ystod o bynciau economaidd, cymdeithasol a demograffig allweddol. www.ons.gov.uk
72 OPUS TALENT SOLUTIONS Diwydiant: Recriwtio Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion Yn 2008, bwriad Opus oedd bod yn arweinydd o ran datrysiadau talent unigryw ac arloesol. Er mwyn gwneud hynny, fe weithion nhw ar y cyd â chleientiaid, gan gyflawni eu nodau busnes drwy ddatblygu eu strategaeth talent, o ddenu, recriwtio, rheoli perfformiad a chadw i gynllunio olyniaeth. www.opustalentsolutions.com
43 OXFAM Diwydiant: Elusen, trydydd sector Cyfleoedd: Gwirfoddol Mae Oxfam yn elusen cymorth a datblygu sy’n adnabyddus dros y byd a chanddi 70 mlynedd o brofiad o weithio ac ymgyrchu gyda phartneriaid mewn dros 90 o wledydd ledled y byd. www.oxfam.org.uk/shop
19
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
64 ASIANTAETH ADDYSGU PE DIRECT Diwydiant: Addysg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Mae PE Direct yn asiantaeth yn arbennig ar gyfer addysgu AG a BESD, anelu at wella safonau mewn AG a helpu pob plentyn i ddod yn gorfforol lythrennog. Mae PE Direct yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled De Cymru o Abertawe yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain. www.pedirect.org.uk
88 PRINCIPALITY STADIUM EXPERIENCE Diwydiant: Lletygarwch Cyfleoedd: Lleoliadau, swyddi rhan-amser Principality Stadium Experience yw’r unig ddarparwr lletygarwch ac arlwyo ar gyfer y cyhoedd yng nghartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality. Mae PSE wedi cynnal digwyddiadau fel Cwpan Rygbi’r Byd, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, chwaraeon modur a chyngherddau fel y pedair noson gydag Ed Sheeran wnaeth dorri record. www.principalitystadium.wales
61 PTUK Diwydiant: Iechyd meddwl plant Cyfleoedd: Aelodaeth, cyrsiau ôl-raddedig arbenigol Play Therapy UK (PTUK) - Cymdeithas y DU ar gyfer Chwarae a Chelfyddydau Creadigol Cyf. yn sefydliad nad yw’n gwneud elw sydd wedi ei gysegru i hyrwyddo’r defnydd o chwarae a chelfyddydau creadigol fel ffyrdd o alluogi plant i gyrraedd eu llawn botensial. www.playtherapy.org.uk
30 PUREGYM Diwydiant: Iechyd a Ffitrwydd Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaethau, lleoliadau, gwirfoddol Mae PureGym yn credu y dylai bawb gael y cyfle i gael ffordd o fyw ffit ac iach, felly maent wedi gwneud pethau’n syml drwy gynnig ffordd fforddiadwy a chyfleus i bawb gyflawni eu nodau iechyd personol. P’un ai rydych yn ddechreuwr neu’n berson profiadol, yn ifanc neu’n hen, mae PureGym yma i bawb. www.puregym.com/gyms/cardiff-gate
03 PWC Diwydiant: Gwasanaethau proffesiynol Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau Mae PWC yn un o sefydliadau gwasanaethau proffesiynol mwyaf blaenllaw'r byd gyda 208,000 o bobl ar draws 157 o wledydd. Mae PWC yn cynghori rhai o’r sefydliadau, entrepreneuriaid a busnesau preifat mwyaf llwyddiannus a’u pwrpas yw adeiladu ymddiriedaeth mewn cymdeithas a datrys problemau pwysig. www.pwc.com
31 RATEMYPLACEMENT.CO.UK Diwydiant: Cyflogadwyedd israddedigion Cyfleoedd: Interniaethau, lleoliadau, cynlluniau mewnwelediad RateMyPlacement.co.uk yw’r bwrdd swyddi mwyaf blaenllaw ar gyfer israddedigion sy’n chwilio am brofiad gwaith, gan gynnwys lleoliadau, interniaethau, cynlluniau gwyliau a mewnwelediadau. Siaradwch â’r tim er mwyn cael gwybod rhagor am y cwmnïau y maent yn gweithio gyda nhw a’r 52,000+ o adolygiadau a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr sydd ar eu gwefan! www.ratemyplacement.co.uk
20
Mae Recruit3 yn fenter ar y cyd rhwng The Big Issue Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy’n hysbysebu swyddi trydydd sector yng Nghymru. Mae’r trydydd sector yn cynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, a llywodraeth neu sefydliadau addysg. Caiff swyddi eu hysbysebu mewn print ac ar-lein. www.recruit3.org.uk
37 YR AWYRLU BRENHINOL Diwydiant: Sector cyhoeddus, milwrol, amddiffyn Cyfleoedd: Swyddi graddedigion, swyddi rhan-amser Mae’r Awyrlu Brenhinol yn sefydliad safon sydd gyda’r gorau yn y byd sydd angen graddedigion sydd gyda’r gorau yn y byd i arwain y gyriant i’r dyfodol. Mae ganddynt rolau mewn masnachau yn amrywio o beirianneg i logisteg, a gaiff eu cefnogi gan hyfforddiant, teithio a manteision safon byw o’r radd flaenaf.
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
42 RECRUIT3 Diwydiant: Hysbysebu recriwtio ar gyfer y trydydd sector Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, lleoliadau, gwirfoddol
www.raf.mod.uk/recruitment
35 ROYAL EDUCARE Diwydiant: Gofal cymdeithasol ac addysg Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Mae Royal Educare yn chwilio’n barhaus am ymgeiswyr profiadol o fewn y sector gofal ac addysg. Mae Royal Educare yn deall y gall fod yn anodd weithiau i adael diogelwch eich swydd bresennol neu chwilio am yrfa newydd, fell ymaent yma i helpu hwyluso’r trosglwyddiad. www.royaleducare.co.uk/
36 Y LLYNGES BRENHINOL A’R MÔR FILWYR BRENHINOL Diwydiant: Lluoedd arfog Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Mae swydd yng Ngwasanaeth y Llynges yn golygu antur, cyfeillgarwch - a rhagolygon da ar hyd eich bywyd. Fe allwch wneud gwahaniaeth bob dydd. Ydych chi’n barod i fynd ar daith? www.royalnavy.mod.uk/careers
80 RUGBYTOTS MORGANNWG GANOL Diwydiant: Chwaraeon Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol, swyddi rhan-amser Rugbytots yw hoff raglen chwarae rygbi’r byd ar gyfer bechgyn a merched 2-7 oed. Maent yn sesiynau chwarae wythnosol sy’n hwyl ac yn ddeinamig ac sy’n galluogi plant i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a chorfforol mewn amgylchedd hwyliog a chadarnhaol. www.rugbytots.co.uk
63 S3 ADVERTISING Diwydiant: Hysbysebu Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaethau, lleoliadau Mae S3 yn asiantaeth sy’n gosod talent ar y brig. Enillodd yr asiantaeth Asiantaeth Hysbysebu’r Flwyddyn y DU, gan arddangos mai nhw yw’r gorau yn eu maes. Maent yn disgrifio rhai o’u staff fel rhai trafferthus gyda rhai ohonynt yn rhyfedd a rhai yn hollol wallgof! Ond mae pob un ohonynt yn angerddol wedi eu gyrru ac yn ffyddlon ac maent bob amser yn ysu i gyflawni mwy. www.S3advertising.agency
21
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
20 SC PRODUCTIONS LTD Diwydiant: Adloniant Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau, gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Mae SC Productions Ltd yn cynnig ystod lawn o wasanaethau ymgynghori proffesiynol ar gyfer Cerddoriaeth, Adloniant, Gwyliau, Cyswllt Artistiaid a Chynyrchiadau Theatr. Gan eu bod wedi gweithio mewn digwyddiadau byw am yr 20 mlynedd ddiwethaf, maent yn arbenigo mewn Safle, Cynhyrchu a Rheoli Cyswllt Artistiaid. www.scproductionsltd.com
21 GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB DE CYMRU Diwydiant: Gwasanaethau brys Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, gwirfoddol Gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Tân ac Achub De Cymru yw’r hyn sy’n gyrru ac yn ysbrydoli eu pobl i sicrhau bod De Cymru yn ddiogelach, drwy leihau risg. Maent yn anelu at amddiffyn a gwasanaethu ledled y 10 Awdurdod Unedol sy’n ffurfio’r ardal amrywiol, gan weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau rheng flaen eraill. www.southwales-fire.gov.uk
58 HEDDLU DE CYMRU Diwydiant: Gwasanaeth i’r cyhoedd Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, gwirfoddol Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am raddedigion i wneud cais am rôl Swyddog Heddlu i wasanaethu cymunedau De Cymru. Maent yn anelu yn benodol at recriwtio o gymunedau sydd wedi eu tangynrychioli. www.south-wales.police.uk/joinuslearnmore
52 CHWARAEON CAERDYDD Diwydiant: Datblygu chwaraeon Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol, gwaith hyfforddi chwaraeon achlysurol Chwaraeon Caerdydd yw tîm datblygu chwaraeon y ddinas wedi ei leoli ym Met Caerdydd. Mae Chwaraeon Caerdydd yn gweithio ar draws Caerdydd gyda’r bwriad o gynyddu "Cyfleoedd i bawb drwy chwaraeon" gan ganolbwyntio ar y canlynol: plant a phobl ifanc, cystadlaethau a digwyddiadau, clybiau, hyfforddi a gweithlu. www.sportcardiff.com
09 CHWARAEON CYMRU Diwydiant: Chwaraeon Cyfleoedd: Swyddi tymhorol Chwaraeon Caerdydd yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Chwaraeon Cymru yw’r prif gynghorydd ar faterion sy’n ymwneud â chwaraeon i Lywodraeth Cymru ac maent yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol i chwaraeon elitaidd a lefel lawr gwlad yng Nghymru. www.sport.wales
27 SPORTFIT CAERDYDD Diwydiant: Chwaraeon Cyfleoedd: Graduate jobs, placements, voluntary, part-time jobs Swyddi i raddedigion, lleoliadau, gwirfoddol, swyddi rhanamser Mae SportFit yn darparu amlchwaraeon (pêl-droed, rygbi), a gweithgareddau dawns a gymnasteg i blant, pobl ifanc ac oedolion drwy’r Gymraeg a Saesneg. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys clybiau ar ôl ysgol, dosbarthiadau cymunedol a chyrsiau yn ystod y gwyliau. www.sportfit-cardiff.co.uk
22
Nofio Cymru yw corff Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon dŵr, ac mae’n ysbrydoli ein cenedl i fwynhau, cyfranogi, dysgu a chystadlu mewn chwaraeon dŵr yng Nghymru. www.swimwales.org
50 CYMDEITHAS ATHRAWON NOFIO Diwydiant: Hamdden Cyfleoedd: Gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser, aelodaeth Mae’r gymdeithas athrawon nofio yn gydnabyddedig yn rhyngwladol ac wedi ei sefydlu yn unigryw fel yr unig sefydliad gwobrwyo yn y DU sy’n gallu darparu rhaglenni aml-ddŵr Cymwysterau Addysg Nofio, Achub Bywydau a Phlanhigion Pwll. www.sta.co.uk
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
65 NOFIO CYMRU Diwydiant: Chwaraeon Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol
87 SWYDDLE Diwydiant: Recriwtio lle mae’r Gymraeg yn hanfodol neu o fantais Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaethau, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Cafodd Swyddle ei sefydlu i ddarparu gwasanaeth recriwtio a busnes arbenigol. Caiff Swyddle ei arwain gan siaradwyr Cymraeg brodorol a chanddynt dros 30 mlynedd o brofiad o weithio’n ddwyieithog o fewn meysydd recriwtio a chyfathrebu strategol. www.swyddle.com
22 TARGET GROUP Diwydiant: Gwasanaethau ariannol Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion Mae Target Group yn rhoi gwasanaethau ariannol allanol, wedi ei leoli yng Nghasnewydd a Chaerdydd, yn gweithio ar ran cleientiaid ac yn gwasanaethu eu cynnyrch. www.targetgroup.com/about/careers
66 TARGETJOBS Diwydiant: Recriwtio Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau Mae gan TARGETjobs y dewis mwyaf o interniaethau, lleoliadau, swyddi a chynlluniau i raddedigion, a chyngor ar sut y gael eich cyflogi gan arbenigwyr sector mewnol. P'un ai rydych yn ddi-glem am yrfa neu’n hyderus am yrfa, mae gan TARGETjobs yr holl offer sydd ei angen arnoch mewn un lle. www.targetjobs.co.uk
44 TEACH FIRST Diwydiant: Addysg Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, interniaethau Ni ddylai faint rydych yn ei gyflawni mewn bywyd ddibynnu ar faint mae eich rhieni yn ei ennill. Mae TeachFirst yn dod o hyd i bobl, hyfforddi pobl ac yn cynorthwyo pobl i ddod yn athrawon ardderchog, gan ysbrydoli pobl ifanc sydd eu hangen fwyaf. www.teachfirst.org.uk
23
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
84 CANOLFAN WIRFODDOLI CAERDYDD (C3SC) Diwydiant: Gwirfoddoli Cyfleoedd: Interniaethau, gwirfoddol, aelodaeth Mae Canolfan Wirfoddoli Caerdydd (C3SC) yn gweithredu fel canolfan ganolog ble gall unrhyw un yng Nghaerdydd gael gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli. Mae C3SC yn helpu pobl sydd eisiau gwirfoddoli a sefydliadau sydd eisiau recriwtio gwirfoddolwyr i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir, ac mae cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael. www.c3sc.org.uk/volunteer
62 THE MENTOR RING Diwydiant: Darparu mentora trydydd sector Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol Cenhadaeth The Mentor Ring yw darparu cefnogaeth mentora ac arweiniad i bobl o bob oed a chefndir, gan eu helpu i oresgyn rhwystrau arwyddocaol o ran cynhwysiant cymdeithasol. Mae’r elusen yn helpu unigolion a chymunedau i fynd i’r afael â’u heriau personol - boed mewn iechyd a lles neu addysg. www.mentorring.org.uk
78 THE SUSTAINABLE STUDIO Diwydiant: Creadigol Cyfleoedd: Cynllun i raddedigion, gwirfoddol Mae The Sustainable Studio yn darparu gofod creadigol ar gyfer cydweithio a digwyddiadau i wneuthurwyr a chynllunwyr gydweithio, partner, meddwl, gwneud ac annog a chefnogi ei gilydd. Maent yn cynnal gweithdai, hyfforddiant a digwyddiadau sy’n ysbrydoli, rhoi gwybodaeth ac yn creu effaith. Maent yn cynnig gofod gyda chymhorthdal ar gyfer myfyrwyr a graddedigion. www.thesustainablestudio.com
73 TRAFNIDIAETH CYMRU Diwydiant: Trafnidiaeth Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni nad yw’n gwneud elw, a berchnogir yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn bodoli er mwyn gyrru gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael rhwydwaith o safon uchel, diogel, integredig, fforddiadwy a hawdd cael ei ddefnyddio y mae pobl Cymru yn falch ohono. www.tfw.gov.wales
39 UNA EXCHANGE Diwydiant: Gwirfoddoli dramor Cyfleoedd: Gwirfoddoli Mae UNA Exchange yn elusen wirfoddoli ryngwladol yng Nghaerdydd sy’n cefnogi prosiectau datblygu cymunedol ar hyd a lled y byd. www.unaexchange.org
81 URDD GOBAITH CYMRU Diwydiant: Sefydliad bobl ifanc Cyfleoedd: Lleoliadau, gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser Bwriad Urdd Gobaith Cymru yw darparu’r cyfle, drwy gyfrwng y Gymraeg, i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddod yn unigolion crwn gan ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned. www.urdd.cymru/cy/chwaraeon
24
Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ystod amrywiol o gyfleoedd swyddi a gyrfa ar draws nifer o wasanaethau gan gynnwys swyddi ôl-raddedig, prentisiaethau, profiad gwaith a hyfforddiant. Nhw yw’r Cyngor yng Nghymru sy’n perfformio orau am y drydedd flwyddyn yn olynol. www.valeofglamorgan.gov.uk
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
10 CYNGOR BRO MORGANNWG Diwydiant: Llywodraeth Leol Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, gwirfoddol, swyddi tymhorol, swyddi rhan-amser
Gwasanaeth Gyrfaoedd Met Caerdydd Mae cyflogwyr heddiw yn mynnu mwy oddi wrth raddedigion Byddwch yn barod Siaradwch â’ch Tîm Gyrfaoedd www.cardiffmet.ac.uk/careers @CmetCareers
25
CHOOSE YOUR FUTURE. Our rotational graduate programmes give huge variety, all-rounder experience and the skills to grow a career that’s going places.
BRING YOUR BEST. WE’LL DO THE REST.
lidlgraduatecareers.co.uk
FFAIR DIWYDIANT GRADDEDIGION
Cymerwch amser i fyfyrio ar y digwyddiad, edrychwch dros eich nodiadau a dechreuwch rwydweithio â’ch cysylltiadau newydd.
Nawr eich bod wedi archwilio eich opsiynau, dyma’r amser perffaith i berffeithio eich CV a phroffil Linkedin gyda chymorth y Gwasanaeth Gyrfaol.
Ehangwch eich sgiliau cyflogadwyaeth er mwyn bod yn hollol barod ar gyfer y byd gwaith – mae gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd amrywiaeth o weithdai i’ch helpu!
Mae cannoedd o swyddi gwych i’w harchwilio ar MetHub - edrychwch i weld beth sydd ar gael a phryd mae’n rhaid gwneud cais.
Cadwch olwg am ragor o ddigwyddiadau gyrfaol sydd wedi eu teilwra ar gyfer eich Ysgol. Mae ein holl ddigwyddiadau wedi eu hysbysebu ar MetHub er mwyn i chi gofrestru.
Mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd a bydd yn help i chi ddod yn gystadleuydd o ddifrif ar gyfer y swydd ddelfrydol honno. Dewch i’n gweld er mwyn deall sut y gallwch fynd y filltir ychwanegol a sefyll allan o’r dorf.
27
Campws Cyncoed Porth-G, Bloc A Campws Llandaf Porth-G, Bloc A www.cardiffmet.ac.uk/careers careers@cardiffmet.ac.uk 029 2041 6333 @CMetCareers Roedd y wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir yn ystod y broses argraffu. Efallai y bydd ffotograffydd yn tynnu lluniau yn ystod y digwyddiad, ac efallai y bydd y lluniau hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer deunyddiau cyhoeddusrwydd eraill. Os nad ydych am i ni ddefnyddio lluniau ohonoch, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Gyrfaoedd.