Conference Services Newsletter (Welsh) - October 2016 (Internal)

Page 1

RHIFYN 2

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau diweddar Mae sicrhau bod digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth yn ymwneud â gwaith tîm a chynllunio. Mae’r Gwasanaethau Cynadleddau yn gweithio gydag adrannau mewnol ac ysgolion i ddarparu cyngor a chymorth ar gynnal cynadleddau yn ogystal â chynorthwyo gyda threfnu’r logisteg. Rydym wedi ymwneud â chynorthwyo nifer o gynadleddau adrannol a digwyddiadau eleni a dyma gipolwg: Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion Ar 16 Medi, cynhaliodd Met Caerdydd y gynhadledd Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion ar gampws Llandaf. Mynychodd dros 150 o addysgwyr carchardai, academyddion, gweithwyr cefnogi a phroffesiynolion carchardai o bob rhan o'r DU i drafod sut y gall addysg chwarae rhan bwysig yn helpu lleihau aildroseddu. Lansiwyd y gynhadledd gan Gadeirydd y Llywodraethwyr, Barbara Wilding, a chynhwysodd brif anerchiad gan gyn-fyfyrwyr Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion. Cyflwynwyd nifer o wobrau gan Jo Stevens, Gweinidog Cyfiawnder yr Wrthblaid. Darllenwch wybodaeth bellach am y gwobrau.

“Llawer o ddiolch am eich rôl yn hwyluso’r digwyddiad Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion mor effeithlon ddydd Gwener. Roedd adborth yr holl gynrychiolwyr ar y diwrnod yn gadarnhaol iawn, am y digwyddiad, y sefydliad a'r lleoliad. Roedd yr holl bobl y cyfarfûm â nhw yn llawn canmoliaeth am y gynhadledd a'r lleoliad. Roedd yr Ysgol Rheoli yn lleoliad perffaith ac amlygodd asedau Met Caerdydd yn berffaith.” Jamie Grundy, Ehangu Mynediad

Sefydliad Hyfforddi Tylino Yn ôl ym mis Ebrill, cynaliasom y Gynhadledd MTI mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gwyddorau Iechyd. Gwelodd y diwrnod 150 o gynrychiolwyr yn mwynhau 10 gweithdy amrywiol ac addysgiadol ac amrywiaeth o stondinau yn cynnig samplau a rhoddion. Y thema ar gyfer y gynhadledd oedd 'Hunanofal ar gyfer Ymarferwyr Tylino'. Cyflwynwyd y prif anerchiad gan Darien Pritchard a ranodd ei wybodaeth helaeth am dylino ystum, heb ddwylo a sut i gael gyrfa hir a hapus drwy ofalu am eich corff tra'n gweithio. Darllenwch wybodaeth bellach am y digwyddiad.

“Llawer o ddiolch am eich holl help a chefnogaeth ddydd Sadwrn a dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Roedd yn ymddangos mor rhwydd a gwerthfawrogais sut yr aethoch ati i gyflawni unrhyw beth roedd ei angen ar y diwrnod – diolch yn fawr iawn!” Sefydliad Hyfforddi Tylino

01


Yr Adran Seicoleg Fforensig Cynhaliodd Adran Seicoleg Fforensig Cymdeithas Seicolegol Prydain ddigwyddiad lansio ar 11 Gorffennaf, wedi’i lywyddu gan y Cadeirydd cyntaf yng Nghymru, Dr Siriol David, gyda phrif anerchiadau gan yr Athro Mary McMurran a Dr Caroline Schofield. Mynychwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a thua 70 seicolegydd fforensig o bob rhan o'r DU. Canolbwyntiodd y digwyddiad ar sut i ddwyn ynghyd y dalent sylweddol ym maes seicoleg fforensig yng Nghymru er mwyn gwella ymarfer, ymchwil a pholisi yng Nghymru. Mae Met Caerdydd yn arwain y ffordd mewn seicoleg fforensig gymhwysol, felly roedd yn briodol ein bod yn cynnal y digwyddiad. Dechreuodd y prynhawn gyda chyfarfod cyffredinol a chyflwyniadau yn y theatr ddarlithio wedi’i ddilyn gan dderbyniad diodydd difyr yn yr Atrium.

“Roedd yn achlysur lansio symbolaidd sylweddol sy'n gosod seicoleg fforensig wrth wraidd iechyd a chyfiawnder yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr.” Nic Bowes, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Os ydych yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau allanol neu gymdeithasau neu’n mynychu cynadleddau pwnc penodol yn genedlaethol neu'n rhyngwladol, pam na wnewch chi awgrymu Met Caerdydd fel lleoliad ar gyfer eu cynhadledd nesaf? Byddwn yn helpu gyda’r cynnig, y cynllunio a’r logisteg ar y dydd i sicrhau digwyddiad llwyddiannus gan ddod â bri i’r brifysgol a’ch Ysgol/Adran. Hoffai tîm y gynhadledd ddweud diolch yn fawr i’r holl adrannau sydd wedi gweithio gyda ni i drefnu cymaint o ddigwyddiadau llwyddiannus yn 2016

Mae’r cyfan yn newydd, newydd, newydd…

Eatwell

Bwyta’n Dda

Edrychwch ar ein fideo newydd

Bwydlenni Newydd Blasus Yr Hydref hwn rydym ni ac Arlwyo wedi bod yn brysur yn rhoi ein pennau ynghyd i helpu creu bwydlenni lletygarwch newydd gwych. Mae gan y bwydlenni newydd cyffrous opsiynau ar gyfer pawb gan gynnwys bwffes unigol ar gyfer cynrychiolwyr gyda gofynion dietegol arbennig. Mae'r bwydlenni hyn yn cynnwys fegan, heb lactos, cnau a glwten a rhai llysieuol. Fe welwch hefyd nifer o opsiynau o fewn yr amrediad Bwyta'n Iach (Eatwell) a gynlluniwyd ar y cyd ag Ysgol y Gwyddorau Iechyd a grŵp iechyd a lles yn y gweithle. Cliciwch yma i weld ein bwydlenni newydd.

02


Trawsnewid y Bute Disgleiriodd yr haul ar breswylfeydd y Bute yr haf hwn gan ddod â thrawsnewidiad thema cwbl oren newydd. Mae’r 30 ystafell en-suite newydd hyn ar Gampws Cyncoed i gyd yn cynnig gwelyau maint tri chwarter a chegin/ystafell fwyta fawr a chyfoes gydag ardal eistedd a theledu. Mae campysau Cyncoed a Plas Gwyn yn lleoliadau delfrydol i gynnal digwyddiadau haf preswyl.

‘Trac’ newydd i NIAC Bellach, mae gan NIAC gaffi newydd ei hun, Y Trac. Gwibiwch i mewn i nôl Coffi Costa neu baguette wedi’i llenwi. Perffaith ar gyfer hwb ynni cyn unrhyw ddigwyddiad!

Beth sydd ar yr agenda? Dyma grynodeb o rai o'n cyfarfodydd, digwyddiadau a chynadleddau sydd i ddod: • • • •

Cyfarfod Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru Cynulliad Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd Cynhadledd Feddygol ac Arddangosfa Mediconf UK Confensiwn AU UCAS

• • •

Penwythnos Telynau Harps Cynhadledd Teach First Ysgol Iaith Ryngwladol Preswyl

Mae Sally'n rhedeg... er budd Cymdeithas Alzheimer Llongyfarchiadau mawr i Sally eleni nid am redeg un, dau, tri, ond pedwar hanner marathon, a chodi dros £420 er budd Cymdeithas Alzheimer. Dywedodd Sally o'r tîm cynadledda "Rwyf wrth fy modd yn rhedeg yn fy nhref enedigol, Caerdydd, ond Pont Hafren oedd fwyaf cofiadwy. Y flwyddyn nesaf rwy'n bwriadu rhedeg fy marathon llawn cyntaf, sy'n frawychus iawn ond rwyf wedi dechrau hyfforddi yn barod. Os byddwch yn fy ngweld o gwmpas y lle, cofiwch godi llaw".

Ymunwch â ni ar...

 Twitter  Facebook  Linkedin Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.

03


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.