RHIFYN 1
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Ystafelloedd gynadledda ar eu newydd wedd Wyddech chi fod ein tair Ystafell Gynadledda yng Nghyncoed wedi cael eu hadnewyddu'n ddiweddar? Mae'r lliwiau gwyrdd leim a llwyd llechen yn adlewyrchu cefn gwlad Cymru. Gyda dodrefn cyfforddus a modern a chyfleusterau clyweledol pwrpasol, mae'r ystafelloedd yn
cynnig y lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfarfod proffesiynol. Mae'r gofod hyblyg yn cynnig lle i 80 o bobl ar ffurf theatr gyda thafluniad dwbl. Os ydych yn cynllunio cynhadledd neu ddigwyddiad proffil uchel eleni, beth am archebu un o'n Hystafelloedd Cynadledda newydd?
Cymerwch gipolwg yma neu cysylltwch â ni i drafod eich digwyddiad.
Awgrym ar gyfer cynllunio cynhadledd: Bydd lefelau egni'r cynadleddwyr yn codi ac yn disgyn drwy gydol y diwrnod. Ewch ati i wella cyfranogiad cynadleddwyr drwy gynnwys gweithgareddau i dorri'r iâ ar ddechrau'r cyfarfod a gweithgareddau i roi hwb i lefelau egni ar ôl cinio.
Lawrlwythwch ein rhestr wirio ar gyfer digwyddiadau yma.
Mynd allan i'r byd Rydym wedi cynnal ymgyrch farchnata gref eleni drwy fynychu arddangosfeydd, cynnal diwrnod agored, gwella ein strategaeth cyfryngau cymdeithasol a gweithio gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghaerdydd a Croeso Cymru. Gwnaeth 370 o bobl hoffi ein tudalen Facebook yn ystod ei blwyddyn
gyntaf ac mae gennym dros 560 o ddilynwyr ar Twitter. Mae'r Tîm Cynadleddau wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu ymwelwyr allanol ychwanegol i'r brifysgol a chodi proffil yr adran drwy ei wasanaeth cwsmeriaid ardderchog a gweithgareddau gwerthu a marchnata ychwanegol.
Cipolwg ar ddigwyddiadau 2016
Awgrym ar gyfer cyfryngau cymdeithasol:
Ystyriwch ddefnyddio 'rhestrau' ac 'analyteg' i fynd i'r afael â'ch methiannau a'ch llwyddiannau. A chofiwch fod eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn beiriannau chwilio pwerus.
Cynhadledd Flynyddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Cyfarfod Blynyddol yr Eglwys yng Nghymru Ras De Cymru 2016 Cynhadledd Flynyddol y Sefydliad Hyfforddiant Tylino Cynhadledd ac Arddangosfa Feddygol MediConf UK Confensiwn Addysg Uwch UCAS Cynhadledd Ymgysylltu â'r Gymuned Ysgol Iaith Breswyl Ryngwladol
01
Cydweithio Mae gwaith tîm a gwaith cynllunio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich digwyddiad yn mynd rhagddo'n ddidrafferth. Mae'r Gwasanaethau Cynadleddau yn gweithio gydag adrannau mewnol ac Ysgolion i roi cyngor a chymorth ar sut i gynnal cynadleddau,
yn ogystal â threfnu'r logisteg ar gyfer eich digwyddiad. Rydym wedi bod yn helpu i gynnal cynadleddau a digwyddiadau adrannol gan gynnwys Digwyddiad y Rhwydwaith Seicoleg, Cynhadledd UKLA, Cynhadledd Flynyddol ARLIS (y Gymdeithas Llyfrgellyddiaeth Gelf), y
Fforwm Rhwydwaith Cyflogwyr, Cynhadledd Seicoleg Fforensig BPS, Cynhadledd ar Wella Ymgysylltiad Myfyrwyr, Sioe Deithiol Gydweithredol Santander a Chynhadledd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Athroniaeth Chwaraeon (IAPS).
“Diolch eto am eich help i drefnu a chynnal y digwyddiad ddoe, roeddwn i'n hapus iawn gyda'r canlyniad - fe aeth popeth yn dda iawn.” Dr Caroline Limbert, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd “Roedd hi'n fraint fawr cael cynnal y gynhadledd hon yn Met Caerdydd ac rydym yn falch iawn bod yr holl gynadleddwyr wedi mwynhau'r digwyddiad. Hoffem ddiolch yn fawr i bob un o staff Met Caerdydd a gyfrannodd gymaint at y gynhadledd naill ai drwy siarad, mynychu'r gynhadledd, neu drwy'r gwaith trefnu a'r lletygarwch gwych a ddarparwyd.” Emma Adamson, Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell yn Met Caerdydd Os ydych yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau allanol neu'n mynychu cynadleddau pwnc-benodol cenedlaethol neu ryngwladol, beth am awgrymu eu bod yn dewis Met
Caerdydd fel lleoliad ar gyfer eu cynhadledd nesaf? Byddwn yn helpu gyda'r cynnig, y gwaith cynllunio a'r logisteg ar y diwrnod er mwyn sicrhau y cynhelir digwyddiad llwyddiannus, tra'n
Sally yn rhedeg dros Diabetes UK
Yn answyddogol
Eleni, mae Sally wedi rhedeg 10k Caerdydd, Hanner Marathon Caerdydd, Royal Windsor Half Marathon River Trail a hefyd wedi cwblhau Velothon Cymru.
Mae pedwar aelod y tîm Gwasanaethau Cynadledda yn ymfalchïo yn y cydbwysedd sydd ganddynt rhwng bywyd a gwaith. Mae Clare yn mwynhau chwarae tennis a golff ac wedi ennill nifer o gystadlaethau (bach!) eleni. Mae Sally yn rhedwraig frwd sydd wedi cymryd rhan yn ras 10k Caerdydd a Hanner Marathon Caerdydd yn ogystal â'r
dod â chlod i'r brifysgol ac i'ch Ysgol/adran. Hoffai aelodau'r Tîm Cynadleddau ddiolch i holl adrannau Met Caerdydd sydd wedi gweithio gyda ni yn 2015.
Felothon yn gynharach eleni, gan godi arian i Diabetes UK. Os oes angen unrhyw syniadau dylunio mewnol arnoch neu awgrymiadau am leoedd i ymweld â nhw yng Ngwlad Groeg, yna byddem yn awgrymu eich bod yn siarad â Cathy. Mae'n gwneud tzatziki arbennig! Mae Eva yn mwynhau yoga a glampio yng Ngogledd Cymru ac mae'n ddysgwraig Cymraeg frwd.
Ffaith ddiddorol: Bu Clare yn gweithio yn Tahiti am 10 mlynedd!
Ymunwch â ni ar... Twitter
Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i'n gwefan.
Iechyd da! Eva, Cathy a Clare yn mwynhau dathliadau 150 oed Met Caerdydd
02