Gwasanaethau Cyflogwyr
^ â Phrifysgol Ynglyn Metropolitan Caerdydd Gallwn olrhain ein hanes yn ôl i 1865, pan agorodd yr Ysgol Gelf am y tro cyntaf yn yr Hen Lyfrgell Rydd yng Nghaerdydd. Ers datblygu’n brifysgol, rydym wedi glynu at ein gwreiddiau yng Nghymru tra’n darparu addysg seiliedig ar arfer â phwyslais proffesiynol i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd. Mae’r Brifysgol bellach yn cynnwys 5 Ysgol: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ysgol Reoli Caerdydd Ysgol Technolegau Caerdydd Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni ei botensial i wneud cyfraniadau rhagorol ar lefel raddedig i’w genhedlaeth ei hun a chenedlaethau’r dyfodol.
1 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Campws Llandaf
Campws Cyncoed
^ â Ynglyn Gwasanaethau Cyflogwyr Mae’r Tîm Gwasanaethau Cyflogwyr ym Met Caerdydd yn helpu cyflogwyr i ddod o hyd i’r myfyrwyr a’r graddedigion gorau ar gyfer eu sefydliad Mae’r tîm yn darparu cyngor pwrpasol ar y ffordd orau i gyflwyno cyfleodd i fyfyrwyr. Trefnwyd ystod o’n digwyddiadau a gweithgareddau trwy ein system MetHub, lle gall cyflogwyr gofrestru am ddim: methub.cardiffmet.ac.uk/Employers Cysylltwch ̂ a’r tîm i drafod sut all ein hystod o wasanaethau helpu eich busnes chi: employerservices@cardiffmet.ac.uk 029 2041 6452
3 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Gweithio gyda Gwasanaethau Cyflogwyr Mae dewis eang o gyfleoedd i chi ymgysylltu â myfyrwyr Met Caerdydd, gweithio gyda nhw a’u recriwtio, drwy:
Hysbysebu Swyddi Gwag
Cynyddu Ymwybyddiaeth o Frand
Datblygu Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Ffeiriau Gyrfaoedd
TUD. 5 - 6
TUD. 7 - 8
TUD. 9 - 10
TUD. 11 - 12
Fforymau TUD. 13
Prosiectau at y Diben TUD. 14
GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD | 4
Hysbysebu Swyddi Gwag
MetHub Rydym yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i hysbysebu eich cyfleoedd drwy MetHub, ein system ar-lein. Mae myfyrwyr ym Met Caerdydd yn dechrau defnyddio MetHub o’u diwrnod cyntaf, felly gall defnyddio’r gwasanaeth hwn helpu i gynyddu amlygrwydd eich swyddi gwag i gynulleidfa darged berthnasol.
5 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Ymunwch drwy ein tudalen i gyflogwyr: methub.cardiffmet.ac.uk/ Employers Mae’r math o swyddi gwag y gallwch eu hyrwyddo yn cynnwys: • Swyddi gwag i raddedigion • Interniaethau â thâl • Lleoliadau a phrofiad gwaith • Gwirfoddoli • Cyfleoedd rhyngwladol • Rolau rhan-amser
Negeseuon e-bost wedi’u targedu Mae negeseuon e-bost wedi’u targedu yn ffordd effeithiol o farchnata cyfleoedd i garfan benodol o fyfyrwyr. Gellir hidlo’r sawl sy’n eu derbyn yn ôl meini prawf amrywiol yn cynnwys grŵp blwyddyn a chwrs. Os ydych yn edrych am ffordd effeithiol i ddweud wrth ein myfyrwyr am eich swyddi gwag, digwyddiadau, gweminarau neu unrhyw beth arall, yna mae negeseuon e-bost wedi’u targedu yn opsiwn ardderchog. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD | 6
Cynyddu Ymwybyddiaeth o Frand
Stondinau ‘Unnos’ i Gyflogwyr A ydych yn chwilio am gyfle i ymgysylltu â’m myfyrwyr mewn ardal brysur o’r campws? Os felly, efallai dyma’r union beth i chi. Gallwn drefnu lle o fewn ein caffis ar y campws lle rydym yn cynnig bwydlen o opsiynau pwrpasol a fforddiadwy mewn cydweithrediad â’n hadran arlwyo i annog ymgysylltiad myfyrwyr wrth eich stondin. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gael sgwrs anffurfiol gyda myfyrwyr i hyrwyddo eich swyddi gwag, mesur ymwybyddiaeth o frand, profi’r farchnad a nodi talent i’w recriwtio yn y dyfodol.
7 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Cyflwyniadau Cyflogwyr Hoffech chi sefyll o flaen ein myfyrwyr a hyrwyddo eich cynllun, sefydliad neu sector? Mae cyflwyniad cyflogwr yn eich caniatáu i chi wneud yr union beth hynny. Gallwch dynnu sylw at eich swyddi gwag presennol, amlinellu eich prosesau recriwtio a rhwydweithio gyda myfyrwyr. Chi pia’r dewis, ond os oes angen cymorth arnoch byddwn yma i weithio gyda chi i daro’r nodyn cywir.
GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD | 8
Datblygu Cyflogadwyedd Myfyrwyr
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym wedi ymrwymo i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth i raddedigion pan fyddan nhw’n gadael y brifysgol. Rydym yn dibynnu ar gefnogaeth cyflogwyr i gynorthwyo ein myfyrwyr wrth ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a’u gwybodaeth am y farchnad raddedigion drwy amrywiaeth o sesiynau a rhaglenni a ariennir.
Sesiynau Sgiliau Cyflogwyr
Sesiynau Sgiliau Cyflogwyr Chwilio am gyfle i gefnogi datblygu sgiliau yn eich rhanbarth? Ceisio dod o hyd i ffordd i gefnogi ymgeiswyr i gael swyddi ar lefel graddedigion? Gwych, ni fyddem yn gallu gwneud hyn hebddoch chi. Gofynnwn fod sesiynau sgiliau wedi’u harwain gan gyflogwyr yn rhyngweithiol, ac wedi’u hanelu at ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr. Maen nhw’n ein cefnogi i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a hefyd yn cynyddu amlygrwydd cyflogwyr ymhlith ein myfyrwyr. Mae sesiynau sgiliau yn gyfle perffaith i gysylltu â’n myfyrwyr a’u helpu i ddatblygu sgil neu wybodaeth benodol. Yn ansicr ynghylch sut fath o beth fyddai hyn o ran eich sefydliad chi? Mynnwch sgwrs gydag un o’r tîm heddiw. 9 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Diddordeb mewn Interniaeth wedi’i Ariannu? Mae Met Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Santander i gynnig interniaethau a ariennir yn rhannol i fusnesau bach a chanolig sy’n dymuno cyflogi myfyriwr neu rywun sydd wedi graddio’n ddiweddar am rhwng 1 a 10 wythnos. Mae hyn yn creu cyfle i fusnesau bach gipio sgiliau myfyrwyr a graddedigion Met Caerdydd, tra’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad pwysig yn y gweithle.
Go Wales Os yw eich sefydliad wedi ymrwymo i Gynhwysiant ac Amrywiaeth, cysylltwch â’r tîm GO Wales ym Met Caerdydd i drefnu profiad gwaith i’n myfyrwyr. Mae tîm GO Wales yn gweithio gyda chyflogwyr a myfyrwyr i sicrhau bod y lleoliad yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus. Gallan nhw hefyd ddarparu 50% o’r arian tuag at gyfleoedd profiad gwaith â thâl (4-6 wythnos o hyd). Ewch i www.cardiffmet.ac.uk/gowales am ragor o wybodaeth neu ebostiwch gowales@cardiffmet.ac.uk
GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD | 10
Ffeiriau Gyrfaoedd
Mae ein ffeiriau gyrfaoedd yn llwyfan perffaith i chi ymgysylltu ag amrywiaeth o fyfyrwyr a thrafod eich cyfleoedd mewn lleoliad anffurfiol. Ffair Recriwtio Graddedigion Y lle i fod er mwyn denu sylw, anelir y digwyddiad hwn at fyfyrwyr o bob blwyddyn sy’n dymuno trafod llwybrau gyrfa posibl. Mae arddangoswyr o amrywiaeth o sectorau gyrfa yn bresennol er mwyn hyrwyddo cynlluniau, interniaethau a lleoliadau i raddedigion. Mae tua 1500 o fyfyrwyr ac 80 o gyflogwyr yn mynychu’r ffair bob blwyddyn.
11 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Ffair Swyddi Rhan-amser a Thymhorol Mae’r ffair swyddi rhan-amser yn cael ei chynnal ar y ddau gampws yn flynyddol ac mae’n denu amrywiaeth eang o gyflogwyr. Mae’r ffeiriau hyn yn brysur ac yn llawn amrywiaeth o fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i gyflogwyr ryngweithio gyda myfyrwyr a dod o hyd i dalent i lenwi rolau rhan-amser dros dro a pharhaol.
Rydym hefyd yn cynnal ffeiriau gyrfaoedd amrywiol wedi’u teilwra drwy gydol y flwyddyn academaidd ac mae’r rhain wedi’u cefnogi gan gyflogwyr o nifer o ddiwydiannau, yn cynnwys y canlynol: • • • • • •
Gwyddorau Technoleg Iechyd Gofal cymdeithasol Addysg Chwaraeon GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD | 12
Fforymau A allwch ein helpu i wella canlyniadau gyrfa ein myfyrwyr drwy ehangu eu dealltwriaeth o’r opsiynau gyrfa yn eich sector? Mae fforymau yn ddigwyddiadau ar ffurf panel gyda 4-5 o gynadleddwyr yn bresennol, a phob un yn rhoi cyflwyniad byr gyda chyfle i rwydweithio yn dilyn. Mae’r siaradwyr yn rhoi cyngor a gwybodaeth o’u profiad eu hunain o ddatblygu llwybr gyrfa, sy’n helpu’r myfyrwyr i nodi eu dyheadau gyrfa eu hunain. Mae’r math hyn o ddigwyddiadau yn rhoi cyfle i gyflogwyr hyrwyddo eu diwydiant ac ymgysylltu â darpar dalent ar gyfer y dyfodol.
13 | GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD
Prosiectau at y Diben
A ydych yn dymuno sefyll allan a chynnal digwyddiad at y diben ar y campws? Gwych, rydym bob amser yn agored i syniadau newydd sydd o fudd i gyflogwyr a myfyrwyr. Cysylltwch os hoffech drafod prosiect.
GWASANAETHAU CYFLOGWYR MET CAERDYDD | 14
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau, cysylltwch â ni:
029 2041 6452 employerservices@cardiffmet.ac.uk www.cardiffmet.ac.uk/careers @CMetCareers
Roedd yr holl wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi (Hydref 2018). Bydd gwybodaeth wedi ei ddiweddaru ar gael ar ein gwefan.