RHIFYN 7
Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar - 'Connect More' yng Nghymru Roedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch iawn o groesawu a chymryd rhan yn nigwyddiad 'Connect More' yng Nghymru dan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (Jisc) ar Gampws Llandaf ym mis Gorffennaf. Roedd y sesiwn undydd yn canolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr, athrawon, llyfrgellwyr ac ymgynghorwyr ym maes addysg uwch a phellach y DU i ffynnu yn y byd digidol. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i ymwneud â chymheiriaid, cyfnewid arferion da, a chanfod sut i fanteisio i'r eithaf ar gymorth a chyngor ymarferol Jisc, bargeinion y sector a gwasanaethau cyffredin. Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiynau llawn yn ein darlithfa fawr, gweithdai yn yr Ystafell Groeso ac ystafelloedd cyfagos ac arddangosfeydd Digilab yn yr Atriwm. Roedd Met Caerdydd yn falch o gyfrannu i'r agenda gyda'n Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth, Paul Riley, yn estyn y
croeso ac yn siarad am strategaethau digidol gyda'r newyddion diweddaraf am Ysgol Technolegau newydd Met Caerdydd. Yn ogystal â chroesawu dros 100 o gynrychiolwyr i'r achlysur, roedden ni'n hynod falch o gael cwmni dau robot sy'n rhan o dîm Jisc, sef Poppy ac Elfie, oedd ar gael i ddiddanu a darparu gwybodaeth i'r cynrychiolwyr drwy gydol y dydd.
“Cynhaliodd JISC ei chyfarfod ‘Connect More’ yng Nghymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd eleni ac roeddent wrth eu bodd gyda’r dewis o leoliad. Mae’r gofod yn un modern iawn ac yn cynnwys yr holl gyfleusterau a oedd angen arnom i gynnal digwyddiad llwyddiannus. Darparodd Eva a thîm y lleoliad cymorth rhagorol cyn ac yn ystod y digwyddiad. Mae’r adborth a gasglwyd gan aelodau yn cefnogi hyn.” Jisc
Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Atal Dweud Prydain Ar ddiwedd Awst roedd yn bleser croesawu dros 150 o gynrychiolwyr preswyl i Gynhadledd Flynyddol Genedlaethol Cymdeithas Atal Dweud Prydain (British Stammering Association - BSA). Roedd y cynrychiolwyr yn lletya ar gampws Cyncoed Met Caerdydd am ddwy noson ac yn cymryd rhan mewn amrediad o ddathliadau i ddathlu 40fed penblwydd BSA. Ymhlith y digwyddiadau roedd sgyrsiau gan westeion arbennig, ynghyd â gweithdai rhyngweithiol, gan gynnig sgiliau a chefnogaeth werthfawr i'r gymuned sydd ag atal dweud arnyn nhw. Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys gweithgareddau creadigol a cherddorol i blant ynghyd ag arddangosfa gelf agored gyntaf BSA.
“Hoffem ddiolch i dîm cynadledda Met Caerdydd am yr holl gymorth a chefnogaeth wrth gynnal ein cynhadledd fwyaf llwyddiannus erioed. Roedd y tîm yn gefnogol cyn ac yn ystod y gynhadledd, Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth; gofal cwsmeriaid o’r radd flaenaf! Dywedodd cyfranogwyr bod y cyfleusterau yn rhagorol. Gallwn argymell Prifysgol Met Caerdydd yn gryf fel lleoliad cynadleddau.” BSA
01
Ffeinal Cenedlaethol Y Criw Mentrus Ar Orffennaf 3yddd, cynhaliwyd diwrnod cyffrous a boddhaol iawn ym Met Caerdydd wrth groesawu Cystadleuaeth Ysgolion Cynradd 'Y Criw Mentrus / ‘Enterprise Troopers’ sy'n rhan o Syniadau Mawr Cymru, ymgyrch Gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru rhwng 5 a 25. Croesawyd 150 i'r ffeinal fawr, gan gynnwys dros 50 o blant ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Cafwyd prif anerchiadau gan Ross McEwan (Prif Weithredwr Banc RBS/ Natwest), Kirsty Williams (Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg), Dr Cecilia Hannigan-Davies, (Dirprwy Ddeon Gweithredol Dysgu ac Addysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a Chris Jones (Cyflwynydd S4C a Model Rôl Syniadau Mawr Cymru). Bu pob ysgol yn rhoi cyflwyniad yn y ddarlithfa a chael eu “Roedd yn ddiwrnod arbennig o lwyddiannus, holi gan y beirniaid am eu prosiectau menter. Roedden diolch yn fawr i chi. Roedd pawb yn sôn mor dda nhw hefyd yn cael cymryd rhan yn y gweithdai ABC roedd y lleoliad ac yn nodi'r bwrlwm oedd yno Opera, gan roi mewnwelediad rhyngweithiol i'r plant i fyd drwy'r dydd. Roedd yr arlwyo a'r lletygarwch yn opera, dan arweiniad yr entrepreneur a'r canwr opera Mark Llewelyn Evans. Roedd y Swyddfa Eiddo Deallusol ardderchog. Doedd dim yn ormod o drafferth, hefyd yn yr achlysur yn cynnal 'cawod cari-oci', fu'n destun sy'n gwneud ein bywydau ni gymaint haws fel cryn gynnwrf yn yr Atriwm. Roeddem wrth ein boddau'n trefnyddion digwyddiadau.” Cazbah rhoi croeso i'r achlysur hwn ac roedd y cyfan yn glod i ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru.
Digwyddiadau Preswyl ym myd Chwaraeon Yn ystod misoedd yr Haf roedd llety ac adnoddau chwaraeon Met Caerdydd ar gael i amrywiaeth o grwpiau chwaraeon, ac yn ddewis poblogaidd ar gyfer timau ieuenctid a rhai proffesiynol, fel ei gilydd. Mae'r dewis eang o adnoddau sydd i'w cael ar gampws Cyncoed yn gwneud Met Caerdydd yn ddewis gwych ar gyfer cymaint o wahanol gampau, yn cynnwys athletau, tenis, rygbi, pêl-droed, nofio, badminton, pêl foli, gymnasteg, trampolinio a thenis bwrdd. Yn ystod yr haf eleni croesawyd dros 15 o grwpiau preswyl a digwyddiadau byd chwaraeon yn cynnwys: • Pencampwriaethau Agored Pêl Foli Traeth Cymru
• Athletwyr Ieuenctid Seland Newydd
• Cynhadledd Flynyddol Dyfarnwyr Cymdeithas Pêl-droed Cymru
• Saith grŵp chwaraeon ysgol preswyl ar gyfer pobl ifanc rhwng 15 a 17 oed o'r ysgolion canlynol:
• Pencampwriaethau Cleddyfaeth Ieuenctid y Pum Gwlad
• Cystadleuaeth 'Inferno Racing Cross Fit
Ysgol King's Rochester, Ysgol King's
yng Nghaerloyw, Academi Abraham Darby, Ysgol Uppingham, Coleg Glenalmond, Ysgol Merchant Taylors a Choleg Magdalen. Mae Ysgol King's Macclesfield eisoes wedi trefnu digwyddiad hoci i ferched o dan 18 oed yma yn ystod haf 2019.
^ “Byddwn yn bendant yn cysylltu ynglyn â digwyddiadau yn y dyfodol roedd y cyfuniad o'r lleoliad a'r llety'n gweithio'n dda a'r gefnogaeth gan y staff yn berffaith!” Pencampwriaethau Cleddyfaeth
02
Met Caerdydd yn cefnogi Pride Cymru ^ Ymunodd Met Caerdydd gyda channoedd o fudiadau eraill drwy Gymru ar wyl banc mis Awst i ddathlu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar 'Benwythnos Mawr 2018' Pride Cymru. Roedd stondin Met Caerdydd yn cynnig cyfle i ddathlu ein Cymuned LHDdTh/LGBT+ a hyrwyddo Met Caerdydd fel darparydd addysg a chyflogwr cynhwysol.
Tîm Arlwyo'n Teithio'r Filltir Ychwanegol Barod am ginio? Mae'r adborth o gyfarfodydd a chynadleddau'n gyson yn canolbwyntio llawer ar y lletygarwch ac nid yw'n syndod mai bwyd a diod sy'n aml yn llywio profiad y cynrychiolwyr ac yn porthi'r lefelau ynni. Ym Met Caerdydd, rydyn ni'n canolbwyntio ar sicrhau fod y gwasanaeth gorau posib ym maes arlwyo wedi ei ddarparu. Adlewyrchir hyn yn ein gwobrau a'n mentrau megis y ddarpariaeth 'Eatwell' enillodd wobr aur 'Opsiwn Iechyd Cymru Gyfan', a'n gwasanaeth ‘Food Made Good’ yn cael tair seren gynaliadwyaeth gan y Sustainable Restaurant Association, a'n statws Masnach Deg a'r dyfarniad 5
seren am hylendid bwyd. Yn ddiweddar enillodd ein Tîm Arlwyo wobr 'Teithio'r Filltir Ychwanegol' Met Caerdydd. Roedd hyn yn gwbl haeddiannol ac yn glod i ymdrechion holl aelodau'r tîm.
“Rwy'n hynod falch fod tîm arlwyo Cyncoed wedi ennill y wobr teithio'r filltir ychwanegol ac yn falch eu bod wedi derbyn y clod maen nhw'n ei wir haeddu.” Andrew Phelps, Pennaeth Arlwyo
Calendr Desg AM DDIM Cadwch yn drefnus ar 2019! Cysylltwch â ni os hoffech gael un o’n calendrau desg ddefnyddio yma.
Ystafelloedd gwely newydd! Mae 69 ystafell safonol wedi eu hadnewyddu'n llwyr dros yr haf gan eu troi'n rhai 'en-suite'. Mae'r adnewyddiad hwn yn creu ased werthfawr ar gyfer y ddarpariaeth llety ym Met Caerdydd, sydd bellach yn golygu fod hyd at 400 ystafell en-suite bellach ar gampws Cyncoed a chyfanswm o 800 ystafell en-suite drwy'r brifysgol i gyd.
03
Diwrnod yn yr Eisteddfod Sut mae! Shwmae! Roedden ni'n hynod ffodus o gael treulio diwrnod ar stondin Met Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n ddiwrnod diddorol ac yn gyfle gwych i weld y ^ torfeydd oedd yn mynychu'r wyl. Mae Sally ac Eva wedi ymrestru yn y dosbarthiadau Cymraeg Uwch eleni ac yn edrych ymlaen i ymarfer eu sgiliau ar bob cyfle posibl!
Teithiwch i'ch cynhadledd ar gefn 'Nextbike'! Mae cynllun Nextbike Caerdydd wedi cyrraedd Met Caerdydd a bellach mae stondinau 'Nextbike' ar gampysau Cyncoed, Llandaf a Phlas Gwyn. Erbyn hyn mae 52 gorsaf feiciau o gwmpas Caerdydd gan gynnig cryn hyblygrwydd i deithwyr. Y gost safonol ydy £1 am 30 munud. Os byddwch yn teithio i'ch digwyddiad nesaf yng Nghaerdydd ar drên, chwiliwch am y stondin Nextbike ger yr orsaf a dewiswch yr opsiwn gwyrdd a beicio i safle Met Caerdydd. I ganfod mwy ac i gofrestru am ddim ewch ar https://www.nextbike.co.uk/en/ cardiff/ neu lawrlwythwch yr 'app' Nextbike.
Gallwn ni eich helpu chi gyda chyfarfod neu ddigwyddiad? Rhowch alwad i ni ar 029 2041 6181/2 i drefnu dod i weld ein cyfleusterau neu i dderbyn amcan bris cystadleuol ar gyfer eich digwyddiad nesaf.
Ymunwch â ni ar...
Twitter Facebook Linkedin Am ragor o wybodaeth rhowch alwad i ni ar 029 2041 6181/2 neu ewch i www.cardiffmet.ac.uk/conferences
04