Itc newsletter welsh

Page 1

NEWYDDION Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol Gwanwyn 2014

TU MEWN: Lansiad ITC | E-ddysgu | ArcopolPlus | Addysgu a Hyfforddi Rhyngwladol Digwyddiadau Diweddar a Digwyddiadau i Ddod | Sefydliad Ymchwil Chulabhorn | Cwrdd â'r Tîm

CROESO I GYLCHLYTHYR Y GANOLFAN HYFFORDDI RYNGWLADOL Peter Sykes Cyfarwyddwr Menter, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Croeso! Mae'n bleser gennyf lansio rhifyn cyntaf cylchlythyr y Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol. Lansiwyd y Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol (ITC) dros flwyddyn yn ôl ac mae'n amserol i adrodd ar rai o'r gweithgareddau sydd wedi eu cynnal ers hynny.

Caiff y cylchlythyr hwn ei ddosbarthu ddwywaith y flwyddyn a bydd yn cwmpasu rhai o'r datblygiadau cyffrous ac arloesol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd mewn perthynas ag addysgu a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am rai o'r gweithgareddau a nodir yma. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn: www.cardiffmet.ac.uk/itc

Yr Athro Adrian Peters Deon Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd


Lansiad ITC Lansiwyd y Ganolfan ar Ebrill 20 fed 2012 ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (sydd bellach yn rhan o Public Health England), Gr p Gweithredu Diogelu Iechyd y Byd G7+ Mecsico, Sefydliad Iechyd y Byd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cefnogwyd y lansiad hefyd gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd.

Nod pennaf ITC yw cyfuno arbenigedd a meithrin partneriaethau er mwyn darparu canolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu a hyfforddi newydd, arloesol, ac o'r radd flaenaf. Mae ITC wrthi'n datblygu llwyfan ar gyfer datblygiad proffesiynol rhyngwladol parhaus ym mhob maes disgyblaeth sydd ym mhortffolio Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Caiff y rhaglenni hyn eu cyflwyno ar-lein a thrwy weithgareddau allgymorth gyda phartneriaid byd-eang.

Astudio gyda ni

Nod Pennaf ITC yw cyfuno arbenigedd a meithrin partneriaethau er mwyn darparu canolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu a hyfforddi newydd, arloesol, ac o'r radd flaenaf

M

ae ITC wedi datblygu deunyddiau e-ddysgu ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus a pherthynol ym maes rheoli digwyddiadau cemegol. Mae'r deunyddiau'n cwmpasu prif gydrannau rheoli digwyddiadau cemegol er iechyd cyhoeddus ac mae'n cynnwys y cydrannau hanfodol, sef nodi peryglon ac asesu risg, blaenoriaethu risg, lleihau risg, cynllunio a pharatoi ar gyfer argyfwng, ymateb ac adfer. Caiff y deunyddiau eu cyflwyno trwy Moodle, sy'n becyn meddalwedd ar gyfer llunio cyrsiau rhyngrwyd. Gellir cyrchu Moodle o unrhyw le gyda chyswllt Rhyngrwyd. Mae deunyddiau dysgu'n cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau powerpoint, cyfweliadau gydag arbenigwyr, astudiaethau achos, senarios ac ymarferion yn ogystal â rhestrau gwirio a chwestiynau hunan-asesu. Gellir dod o hyd i'r deunyddiau yn www.moodle.uwic.ac.uk a bydd angen manylion mewngofnodi arnoch. Anfonwch eich manylion i itc@cardiffmet.ac.uk a chaiff cyfrif ei agor ar eich cyfer

ARCOPOL Plus Y

n ddiweddar, cynhaliodd ITC y gynhadledd ryngwladol ARCOPOLplus gyda phartneriaid o'r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal, ac roedd y gynhadledd yn cwmpasu pynciau cyfoes ym maes llygredd morol gan gynnwys cyfathrebu â'r cyhoedd, nodi a defnyddio'r adnoddau a'r strategaethau cynllunio sydd eu hangen er mwyn helpu i ymateb i ddigwyddiadau morwrol ac adfer wedi hynny.

Trafododd y cynadleddwyr y risgiau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn yr arfer o gludo sylweddau peryglus a gwenwynig ledled y byd ac yn Ewrop yn benodol. Mae cydnabyddiaeth ryngwladol bod gollyngiadau o'r sylweddau hyn yn peri risgiau posibl i'r amgylchedd, i ecoleg ac i iechyd y cyhoedd.


Lledaenu'r Gair: Addysgu a Hyfforddi Rhyngwladol Belgrade, Serbia

Hong Kong

Sefydliad Ymchwil Chulabhorn

Ym mis Mawrth 2013, cynhaliwyd gweithdy deuddydd yn Sefydliad Iechyd y Cyhoedd yn Belgrade, Serbia. Cynhaliwyd y gweithdy mewn cydweithrediad â Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop a gyda chyfranogwyr o Serbia, Albania, Moldofa a Bosnia, aeth i'r afael yn benodol â rhwymedigaethau'r Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (IHR) mewn perthynas ag adeiladu gallu ac adnoddau ym maes iechyd y cyhoedd a gwydnwch ym maes rheoli digwyddiadau cemegol. Ymdriniodd ag agweddau allweddol er enghraifft perygl a risg, blaenoriaethu a lleihau risg a rheoli ac ymateb i argyfyngau mewn modd integredig.

Ym mis Ebrill 2013, cynhaliodd aelodau Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd weithdy ar reoli iechyd y cyhoedd mewn achosion cemegol yn yr Ysgol Addysg Proffesiynol a Pharhaus, ym Mhrifysgol Hong Kong. Mynychwyd y gweithdy gan feddygon brys lleol, swyddogion iechyd yr amgylchedd, ymgynghorwyr iechyd y cyhoedd a gwneuthurwyr polisi, ac roedd yn canolbwyntio ar nodi a rheoli risg, datblygu a diweddaru cynlluniau cemegol ac ymatebion ar y cyd i argyfyngau. I gloi, cafwyd ymarfer yn ymchwilio i'r cynllunio a fyddai ei angen ar gyfer digwyddiad cemegol morwrol mawr lle byddai hydrogen fflworid yn cael ei ryddhau ym mhorthladd Hong Kong a'n ymateb i hynny.

Cyfrannodd Aelodau'r ITC at raglen Gwenwyneg Amgylcheddol flynyddol Sefydliad Ymchwil Chulabhorn yn ddiweddar yn Bangkok, Gwlad y Thai ym mis Rhagfyr. Roedd y cwrs, a fynychwyd gan fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol o dde-ddwyrain Asia, yn cwmpasu prif agweddau perygl a risg, a nodweddion ffiseg-gemegol prif lygryddion aer, d r, pridd a bwyd. I gloi, cafwyd sesiwn asesu risg ymarferol yn seiliedig ar astudiaethau achos yn dangos agweddau allweddol ar senarios yn ymwneud â llygredd d r ac aer, a halogi bwyd

Miami, Florida Cynhaliodd y Sefydliad Iechyd Traws America (PAHO) weithdy ym Miami, Fflorida ym mis Mai eleni. Cymerodd 15 o wledydd y Caribî ran a chynrychiolwyd ITC gan Danny Sokolowski o Health Canada a hwylusodd y broses o gynnal ymarfer a oedd yn canolbwyntio ar gynllunio a pharatoi at argyfyngau. Roedd yr ymarfer yn darparu senario a oedd yn profi cynllun ymateb cenedlaethol pob gwlad unigol. Daeth y gweithdy i'r casgliad bod cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau cemegol mawr yn dueddol o adlewyrchu cymhlethdod y diwydiant cemegol mewn gwlad benodol. Gobeithir y caiff hyfforddiant pellach ei drefnu yn y dyfodol.

Digwyddiadau Diweddar a Digwyddiadau i Ddod 28 Tach - 13 Rhag 2013 Cwrs Hyfforddi Rhyngwladol ar Hanfodion Diogelwch Cemegol: Egwyddorion Asesu Gwenwyneg a Risg, Bangkok, Gwlad y Thai 5 - 6 Chwefror 2014 Gweithdy yng Nghanada ar Gyfyngau Cemegol at ddiben Terfysgaeth, Ottowa, Canada

David Russell gyda chynrychiolwyr y gweithdy Rheoli Iechyd y Cyhoedd mewn Digwyddiadau Cemegol ym Mhrifysgol Hong Kong

Dyddiad i’w gadarnhau Addysgu Iechyd y Cyhoedd Amgylcheddol, Coleg Hyfforddi Meddygol Cenia, Nairobi, Cenia


Cwrdd â'r Tîm

David Russell yn athro gwadd mewn Amgylchedd ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'n rhedeg Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Digwyddiadau Cemegol ac yn gyd-gadeirydd ar Weithgor Digwyddiadau Cemegol G7+ Mecsico.

Gayle Davis yn ddarlithydd prifysgol ac yn hyfforddwr proffesiynol, sy'n cyflwyno darlithoedd, seminarau a gweithdai yn rheolaidd i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol. Ymunodd Gayle â'r Ysgol Gwyddorau Iechyd yn 2011 ac mae bellach yn arwain agweddau diogelu'r amgylchedd ar gyfer y rhaglen Iechyd Amgylcheddol BSc (Anrh). Roedd ganddi rôl ehangach yn flaenorol ym maes iechyd y cyhoedd, fel rheolwr partneriaeth iechyd cyhoeddus strategol rhwng awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid y trydydd sector.

Peter Sykes yn brif ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Menter yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae Peter yn uwch gynghorydd addysg ar gyfer Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y byd ac mae'n cymryd rhan weithredol mewn addysgu, hyfforddi ac ymchwil mewn agweddau a chymwysiadau Asesiad Risg Amgylcheddol a Galwedigaethol.

Andrew Kibble yw'r Rheolwr Gweithrediadau yn Swyddfa Cymru y Ganolfan ar gyfer Pelydriad, Cemegion a Pheryglon Amgylcheddol i Public Health England. Mae ei ddiddordebau'n canolbwyntio ar asesiadau risg cemegol, iechyd y cyhoedd amgylcheddol a chyfathrebu risg. Mae Andrew wedi cyhoeddi llawer ar bynciau megis tir ac iechyd halogedig, ansawdd aer a chanser, monitro a modelu’r amgylchedd ac yn fwyaf diweddar nwy siâl. Mae'n ymgynghorydd mewn asesiad risg ar gyfer Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Digwyddiadau Cemegol.

Danny Sokolowski yn Ymgynghorydd i Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Digwyddiadau Cemegol yng Nghaerdydd. Mae wedi hwyluso gweithdai yn ddiweddar yn Belgrade a Miami gyda'r nod o wella parodrwydd ar gyfer argyfyngau ac ymateb i ddigwyddiadau cemegol.

Sian Westcombe sy'n gyfrifol am ddatblygu e-ddysgu yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Ynghyd ag arbenigwyr yn y maes mae'n datblygu cyrsiau e-ddysgu ar Reoli Iechyd y Cyhoedd mewn Digwyddiadau Cemegol a Rheoli Ymateb i Ddigwyddiadau Traethlin Morwrol.



Canolfan Hyfforddi Rhyngwladol Prifysgol Metropolitan Caerdydd Campws Llandaf Rhodfa’r Gorllewin Llandaf Caerdydd CF5 2YB Dewch o hyd i ni ar-lein: www.cardiffmet.ac.uk/itc


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.