Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 1
UNIVERSITY OF WA LES INSTITUTE , CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDY DD
Cyfres o Ddarlithoedd Agoriadol a Phroffesiynol UWIC
2010/11
mewn cydweithrediad ag Eclipse printing
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 2
01
cyfres o ddarlithoedd 10/11
uwic.ac.uk
Ailgyflwyno'r bwrdd du: pwy sydd angen TGCh mewn addysg? Nos Fercher 20 Hydref 2010 5.45pm i ddechrau am 6pm Adeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
Yr Athro Gary Beauchamp / Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC Dim ond yn ddiweddar y sefydlodd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ei hun ar gwricwlwm ysgolion. Yn ogystal â dod yn bwnc yn y cwricwlwm, mae TGCh wedi dod yn ddull ac yn adnodd pwysig i athrawon a dysgwyr o bob oedran. Fel rhan o'r datblygiad hwn, mae athrawon wedi gorfod datblygu sgiliau TGCh ymarferol yn ystod eu hyfforddiant a thrwy gydol eu gyrfa. Wrth i galedwedd a meddalwedd ddatblygu, mae'r sgiliau gofynnol yn newid a gallant fynd yn hen yn gyflym iawn. Yr hyn sy'n newid yn llai cyflym, ond yn ddi-au sy'n bwysicach, yw'r feddylfryd ym maes addysgeg sy'n tanseilio'r defnydd o TGCh mewn sefydliadau addysgol. Mae cyflwyno technoleg, yn enwedig y bwrdd gwyn rhyngweithiol, yn yr ystafell ddosbarth, wedi caniatáu gwell mynediad i TGCh gan ddysgwyr a mwy o ddefnydd ohoni. Mae hyn wedi arwain at well ymreolaeth i ddisgyblion a'r potensial i gael amrywiaeth o ryngweithio ym maes addysgeg ag adnoddau TGCh, yn ogystal â mwy o ryngweithio rhwng athrawon a disgyblion ac ymhlith disgyblion. Caiff natur yr achosion hyn o ryngweithio, pwy sy'n gwneud penderfyniadau am eu caniatáu a sut maent yn wahanol i'r rhyngweithio mwy traddodiadol (ond nid o reidrwydd yn llai effeithiol) eu hystyried yn y ddarlith hon. Gall TGCh gynnig amrywiaeth o nodweddion unigryw i addysgwyr a dysgwyr, nad ydynt ar gael drwy ddefnyddio dulliau eraill. Bydd yr Athro Beauchamp yn ystyried sut a phryd y gall TGCh fod yn effeithiol wrth ddysgu ac addysgu ac, yn fwy sylfaenol, a oes ei angen o gwbl?
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 3
uwic.ac.uk
cyfres o ddarlithoedd 10/11
Ymarfer corff a'r galon: Gwersi gan Pheidippides a Da Vinci Nos Fercher 26 Ionawr 2011 5.45pm i ddechrau am 6pm Adeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
Yr Athro Rob Shave / Ysgol Chwaraeon Caerdydd, UWIC Os yw rhywfaint o ymarfer corff yn dda i'r galon, a yw mwy yn well? Yn aml caiff ymarfer corff ei hyrwyddo fel y feddyginiaeth i bob clefyd cardiofasgwlaidd. Fodd bynnag, mor bell yn 么l 芒 450 BC a chwedl Pheidippides, awgrymwyd y gall ymarfer corff fod yn niweidiol i swyddogaeth gardiaidd ac mewn amgylchiadau eithafol gall hyd yn oed arwain at farwolaeth. Er gwaethaf datblygiadau sylweddol ym maes meddygaeth, a thechnoleg delweddu yn benodol, ychydig yn fwy a wyddom am ddulliau sylfaenol swyddogaeth gardiaidd na'r hyn a ddangoswyd gan astudiaethau Leonardo Da Vinci ar ddechrau'r 16eg Ganrif. Yn ei ddarlith agoriadol, bydd yr Athro Shave yn defnyddio gwaith blaenorol ac astudiaethau parhaus UWIC i ystyried dulliau cymhleth swyddogaeth gardiaidd ac yn arbennig, ddylanwad ymarfer corff ac ymarfer corff gwytnwch eithafol ar y galon.
02
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 4
03
cyfres o ddarlithoedd 10/11
uwic.ac.uk
Chwerthin yr holl ffordd i'r blwch pleidleisio: Hiwmor a dychan etholiadol Nos Fercher 9 Chwefror 2011 5.45pm i ddechrau am 6pm Adeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
Yr Athro Russell Deacon / Ysgol Addysg Caerdydd, UWIC Caiff gwleidyddiaeth ei hystyried yn aml yn fater difrifol heb lawer o gyfleoedd am hiwmor. Cawn ein hatgoffa'n aml o'r ffaith na ddylem byth drafod gwleidyddiaeth na chrefydd, er mwyn sicrhau nad ydym yn tramgwyddo. Yr hyn na ŵyr pobl yw fod hiwmor a dychan gwleidyddol wedi bod yn rhan o'r broses etholiadol ers i'r etholiadau modern cyntaf gael eu cynnal yng Nghymru yn 1868.
Mae darlith yr Athro Deacon yn olrhain rhai o'r defnyddiau o hiwmor yn fwriadol ac yn anfwriadol yn etholiadau Cymru a Phrydain ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n ystyried y defnydd o daflenni, posteri ac areithiau etholiadau digrif gydag enghreifftiau hefyd gan arwyr gwerin gwleidyddol Cymru megis David Lloyd George ac Aneurin Bevan. Mae'r Athro Deacon hefyd yn defnyddio
enghreifftiau mwy cyfoes, sef hiwmor anfwriadol yn ystod y broses etholiadol neu refferenda yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf. Yn benodol, mae'n ystyried y defnydd o'r jôc wleidyddol mewn ymgyrchoedd etholiadol. Fe welwch mai 'hen gêm ddoniol' yw gwleidyddiaeth wedi'r cyfan.
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 5
uwic.ac.uk
cyfres o ddarlithoedd 10/11
04
Celf a'r meddwl ymwybodol Nos Fercher 23 Mawrth 2011 5.45pm i ddechrau am 6pm Adeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
Yr Athro Robert Pepperell / Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC Mae dwy nodwedd ar ein cyflwr sydd mor unigryw ac mor gyffredinol fel eu bod bron yn diffinio beth yw bod yn ddynol: rydym yn gwneud gweithiau celf ac mae gennym feddyliau hunanymwybodol. Beth yw'r cysylltiad rhwng celf a'r meddwl ymwybodol? Beth all canfyddiadau ym maes niwrowyddoniaeth eu dweud wrthym am y ffordd rydym yn deall celf? Beth all celf ei ddatgelu am y meddwl ymwybodol, ac efallai natur bodolaeth ei hun? Dyma rai o'r cwestiynau yr eir i'r afael 창 nhw yn y ddarlith agoriadol hon.
Mae'r degawd diwethaf wedi gweld nifer o wyddonwyr enwog yn cynhyrchu llyfrau am gelf a'i pherthynas 창'r ymennydd, canfyddiad, gweledigaeth ac ymwybyddiaeth. Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Pepperell yn ystyried y cwestiynau hyn o safbwynt artist a damcaniaethwr ymarferol sydd wedi cydweithredu mewn arbrofion
niwrowyddonol ac sydd wedi ymyrryd mewn trafodaethau ar astudiaethau o ymwybyddiaeth. Drwy wneud hyn mae'n gobeithio datgelu'r cyfraniad newydd a sylweddol a esgeulusir i raddau helaeth y gall artistiaid ei wneud i'n dealltwriaeth o'r ffordd rydym yn canfod ac yn deall y byd.
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 6
05
cyfres o ddarlithoedd 10/11
uwic.ac.uk
Beth sy'n bris teg? Achos lleihad ym mhrisiau'r farchnad DVDs Nos Fercher 4 Mai 2011 5.45pm i ddechrau am 6pm Adeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
Yr Athro Mark Goode / Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC Mae tystiolaeth sylweddol bod perthynas gadarnhaol rhwng canfyddiad defnyddiwr o bris teg a'i lefel o wariant. At hynny, mae defnyddwyr yn tueddu i wario mwy o arian gyda manwerthwyr os ystyrir bod y prisiau'n deg neu'n rhesymol (mae enghreifftiau'n cynnwys archfarchnadoedd a www.amazon.com). Mae gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos, mai cost yw'r prif ffactor mewn penderfyniadau ar brisiau i lawer o reolwyr o hyd, gydag agweddau sy'n gysylltiedig â galw, gwerthiannau a gweithgareddau cystadleuwyr hefyd yn cael eu hystyried. Fodd bynnag, mae agweddau ansoddol megis cymhelliant, canfyddiad ac agweddau defnyddwyr yn ystyriaethau llai pwysig ac yn aml cânt eu hanwybyddu.
Mewn marchnad fel DVDs, mae hyn yn arwain at agendor eang rhwng prisiau manwerthu a phrisiau a ystyrir yn rhai teg gan ddefnyddwyr. Mae'r bwlch rhwng prisiau manwerthu a'r prisiau a ystyrir yn rhai teg gan ddefnyddwyr yn ehangu wrth i DVDs fynd yn hen - i ddefnyddwyr mae'r DVDs hyn yn werth llai gan nad oes ganddynt y ffactor 'newyddbeth' sydd gan ffilmiau sy'n fwy newydd. I ddefnyddwyr, mae gwerth DVDs yn lleihau'n gyflym a chyda hynny, y pris a ystyrir yn un teg. Ni chaiff y lleihad hwn mewn pris ei adlewyrchu mewn prisiau manwerthu. At hynny, caiff disgwyliadau defnyddwyr eu dylanwadu hefyd gan hyrwyddiadau gwerthu megis 'biniau bargeinion'. Os caiff rhai hen
DVDs eu gwerthu am brisiau isel iawn neu os cânt hyd yn oed eu rhoi i ffwrdd am ddim mewn papurau newydd ar ddydd Sul, mae'r prisiau llawer uwch am hen DVDs a brynir yn y ffordd arferol yn mynd yn groes i brisiau cyfeirio meddyliol cwsmeriaid ar gyfer hen DVDs. Mae sawl canlyniad i'r sefyllfa hon. Fel marchnad ddigidol, caiff elw yn y farchnad DVD ei fygwth yn ddifrifol gan ladrad, ac un o'r ffactorau hysbys sy'n effeithio ar ladrad yw pris. Bydd y ddarlith hon yn trafod y lleihad ym mhrisiau'r farchnad DVD, sy'n dilyn y gyfres harmonig yn ôl pob golwg.
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 7
uwic.ac.uk
cyfres o ddarlithoedd 10/11
'Hanesion o'r Portofino Lounge... Ffotogyfosodiad, Pync-roc, Jo Orton a Blackpool’ Nos Fercher 1 Mehefin 2011 5.45pm i ddechrau am 6pm Adeilad Ysgol Reoli Caerdydd, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd
Yr Athro David Ferry / Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, UWIC Ar ddechrau'r 1990au, dechreuodd David Ferry wneud gweithiau celf drwy addasu a difwyno llyfrau a oedd eisoes wedi'u cyhoeddi. Mae'r prosiect hwn bellach wedi tyfu'n llyfrgell amgen sy'n darlunio Ynysoedd Prydain mewn ffyrdd nas bwriadwyd erioed ar gyfer y teithiwr cyffredin na diddordeb daearyddol. Yn y ddarlith hon bydd yr Athro Ferry yn ystyried ei atgofion gweledol a chymdeithasol cynnar o dref lan y môr Blackpool, hyd at ei gyfnod yn ysgol gelf Llundain yn ystod y blynyddoedd Pyncroc. Bydd yn disgrifio sut mae'r dylanwadau unigryw a phwerus hyn wedi helpu i greu cymeriad yn ei weithiau celf.
06
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 8
07
cyfres o ddarlithoedd 10/11
uwic.ac.uk
Proffiliau academig Yr Athro Gary Beauchamp Yr Athro Gary Beauchamp yw Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Addysg ac mae'n Athro mewn Addysg. Ar ôl blynyddoedd yn gweithio fel athro ysgol gynradd, symudodd Gary i addysg uwch fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y cwrs TAR cynradd yn ogystal â darlithio mewn gwyddoniaeth, cerddoriaeth ac addysg gynradd ac astudiaethau proffesiynol. Hefyd, addysgodd ar amrywiaeth o fodiwlau MA a goruchwyliodd fyfyrwyr ymchwil. Aeth ymlaen i gyflawni'r un dyletswyddau yn Ysgol Addysg Abertawe cyn derbyn swydd Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y radd Astudiaethau Addysg BA (Anrh) yn UWIC yn 2007. Mae diddordebau ymchwil yr Athro Beauchamp yn canolbwyntio ar bedwar prif faes: TGCh mewn addysg, addysg gynradd, addysg gerddoriaeth ac addysg gwyddoniaeth ysgolion cynradd. Mae wedi cyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a ariennir. Mae wedi gwasanaethu fel arholwr allanol ar gyfer sawl prifysgol, mae'n Arolygydd Ychwanegol i Estyn ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd leol. Yn ei amser rhydd mae'n arwain cerddorfa ysgolion cynradd y sir (200 o blant) ar gyfer plant 8 i 11 oed.
Yr Athro Rob Shave Rob Shave yw'r Athro Ffisioleg mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi'n eang, mewn cyfnodolion gwyddor chwaraeon a'r prif gyfnodolion meddygol, ym maes cardioleg chwaraeon. Cyn dilyn ei yrfa academaidd, gweithiodd yr Athro Shave fel gwyddonydd cymwysedig yng Nghanolfan Feddygol Olympaidd Prydain yn helpu i baratoi athletwyr ar gyfer cystadlaethau Olympaidd. Mae'n parhau i gyfuno ei ddiddordebau ymchwil â'r byd cymwysedig drwy ei rôl fel cyd-drefnydd Cynhadledd flynyddol Gwyddoniaeth a Meddygaeth Marathon Llundain.
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 9
uwic.ac.uk
cyfres o ddarlithoedd 10/11
08
Yr Athro Russell Deacon Mae Russell Deacon yn Athro Hanes Gwleidyddol Cyfoes Cymru yn Adran Dyniaethau, Ysgol Addysg Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar hanes gwleidyddol Cymru a datganoli gwleidyddol. Mae ei waith ar ddatganoli a hanes gwleidyddol wedi'i gyhoeddi gan sawl gwasg academaidd gan gynnwys Edinburgh University Press, Manchester University Press ac yn fwyaf diweddar, Pearson/Longman. Yn fwy diweddar cyhoeddodd yr Athro Deacon 'A History of Welsh Liberalism’, gan Wasg Academaidd Cymru. Dyma hanes cyntaf y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru. Cyn cael ei gyflogi yn UWIC, gweithiodd yr Athro Deacon yn Is-adran Materion Ewropeaidd y Swyddfa Gymreig a gwasanaethodd hefyd ar secondiad rhwng 1999 a 2000 yn sefydlu swyddfa ymchwil Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers 2007 mae'r Athro Deacon wedi bod yn gadeirydd Grŵp Astudiaethau Gwleidyddol Rhyddfrydol Prydain. Mae hefyd yn aelod o sawl corff arall, gan gynnwys Archifau Gwleidyddol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Grŵp Hanes y Democratiaid Rhyddfrydol a Chyngor Ewropeaidd Cymru. Mae'r Athro Deacon hefyd wedi cyflawni gwaith ymchwil sylweddol ar symudedd myfyrwyr a'r rhaglen ERASMUS. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd ym maes hanes gwleidyddol mewn prifysgolion yng Ngwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, yr Almaen a Phortiwgal.
Yr Athro Robert Pepperell Astudiodd Robert Pepperell PhD yn Ysgol Gelf Slade, Llundain. Yn ystod y 1980au a'r 1990au arddangosodd nifer o weithiau electronig arloesol, gan gynnwys Ars Electronica, Oriel Barbican, Oriel Celf Gyfoes Glasgow, yr ICA, a'r Millennium Dome. Mae wedi cyhoeddi tri llyfr, The Posthuman Condition (1995/2003/2009), The Postdigital Membrane (gyda Michael Punt, 2000), Screen Consciousness (gyda Michael Punt, 2006), yn ogystal â sawl erthygl, adolygiad a phapur ar gyfer cyfnodolion a chylchgronau, gan gynnwys papurau gwyddonol cydweithredol ar niwrowyddoniaeth a chanfyddiad. Ar hyn o bryd mae'n Athro Celfyddyd Gain ac yn Bennaeth Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn aelod o adran Ymwybyddiaeth a Seicoleg Arbrofol Cymdeithas Seicolegol Prydain, y Gymdeithas ar gyfer Astudiaeth Wyddonol o Ymwybyddiaeth, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Rhwng 2000 a 2008 roedd yn Olygydd Cyswllt ar gyfer adran adolygiadau'r cyfnodolyn, Leonardo. Mae'n arddangos ei waith yn rheolaidd. www.robertpepperell.com
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 10
09
cyfres o ddarlithoedd 10/11
uwic.ac.uk
Yr Athro Mark Goode Mae Dr. Mark M. H. Goode yn Athro Marchnata yn Ysgol Reoli Caerdydd, ac mae wedi ennill gwobr addysg nodedig gan Brifysgol Abertawe. Mae gan Mark ddwy radd mewn Economeg a PhD mewn Marchnata ac mae wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac UWIC. Mae ei brif ddiddordebau ymchwil ym maes ymddygiad defnyddwyr, yn arbennig o ran modelu boddhad, ffyddlondeb a lleoliad gwasanaeth defnyddwyr. Mae wedi cyhoeddi dros 40 o bapurau academaidd mewn amrywiaeth eang o gyfnodolion, gan gynnwys y cyfnodolyn clodwiw 'Journal of Retailing’. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr yr MBA Gweithredol yn UWIC ac mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd i sawl cwmni lleol ac wedi cyhoeddi llyfr o'r enw ‘Quantitative Methods in Marketing Management’ (John Wiley, 1998).
Yr Athro David Ferry Mae llyfrau diwygiedig a phrintiau gwreiddiol David Ferry yn creu ôl troed prin ac unigol iawn yng nghyd-destun delweddau graffeg cyfoes sy'n dystiolaeth o ddylanwadau John Heartfield a'r traddodiad ffotogyfosodiad clasurol. Mae gwaith Ferry mewn sawl casgliad rhyngwladol a chasgliadau mewn amgueddfeydd, gan gynnwys The Ashmolean yn Rhydychen, The Art Institute of Chicago, Museum of Modern Art, Efrog Newydd, The Victoria & Albert Museum, M & C Saatchi, Llundain, The Strang Collection, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgolion Rhydychen, Southampton, Vermont a Gorllewin Lloegr, Bryste. Mae wedi derbyn gwobr gelf fawr Pollock / Krasner yn y gorffennol. Enillodd y Fedal Efydd yn y Gystadleuaeth Celf Llyfrau Ryngwladol Gyntaf a gynhaliwyd yn Seoul, Korea yn 2004. Ers gadael Ysgol Celfyddyd Gain Slade, Coleg Prifysgol Llundain yn 1981, mae wedi arddangos ei waith mewn sawl cystadleuaeth ac arddangosfa fawr ryngwladol. Cynhaliwyd ei arddangosfa unigol yn ddiweddar yn Oriel Llyfrau Prin Woodfinch / SimonFinch yn Mayfair yn 2010. Mae'n gyn-Bennaeth yr Is-adran Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Caer-wynt. Cyn hynny roedd yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Long Island, Efrog Newydd, ac yn gyn-uwch ddarlithydd yn Sefydliad Celf a Dylunio Caint yng Nghaergaint.
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 11
uwic.ac.uk
cyfres o ddarlithoedd 10/11
10
Ffurflen archebu Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) yn cynnal gwaith ymchwil sydd wrth wraidd y broses o greu gwybodaeth newydd a'i defnyddio. Felly, gellir defnyddio'r gwaith ymchwil yn uniongyrchol mewn busnes, diwydiant, y proffesiynau a'r gymuned yn gyffredinol. I fod yn rhan o'r darlithoedd unigryw hyn ar waith ymchwil yn UWIC, cwblhewch y ffurflen ganlynol a'i hanfon at: Jill Doran, Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau, Adran Cyfathrebu a Marchnata, UWIC, Campws Llandaf, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB ffôn: 029 2041 6053 e-bost: jdoran@uwic.ac.uk Neu, ewch i: www.uwic.ac.uk/lectures i gwblhau ein ffurflen ar-lein.
Mae gennyf ddiddordeb yn y darlithoedd canlynol:: Nos Fercher 20fed Hydref 2010
Yr Athro Gary Beauchamp
Nos Fercher 26ain Ionawr 2011
Yr Athro Rob Shave
Nos Fercher 9fed Chwefror 2011
Yr Athro Russell Deacon
Nos Fercher 23ain Mawrth 2011
Yr Athro Robert Pepperell
Nos Fercher 4ydd Mai 2011
Yr Athro Mark Goode
Nos Fercher 1af Mehefin 2011
Yr Athro David Ferry
Cadwch
sedd ar gyfer pob darlith a nodir.
Enw Llawn:…..…………………………………………………………………………………………………………………………………......................................................................................................... Cyfeiriad:…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………...................................................................................................... …..…………………………………………………………………………………………………………………………………………........................................................................................…..………………………….….........
…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………........................................................................................…..………………………….….........
…..…………………………………………………………………………………………………………………………………………........................................................................................…..………………………….….........
Ebost:…………………………………………………………………………………………………………….............................................Rhif Ffôn:……………............................................…….........
Lecture Booklet welsh_2010-11:Layout 1 07/09/2010 14:26 Page 12
UNIVERSITY OF WA LES INSTITUTE , CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD
Mae'r holl bren/mwydion a ddefnyddiwyd yn y daflen hon yn tarddu o gynhyrchwyrcynaliadwy a choedwigoedd a reolir yn gyfrifol sy'n cael yr effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd. Ailgylchwch y daflen hon.