ÿ
CAMPWS LLANDAF
17 - 28 MEHEFIN
2019
YSGOL HAF Ë
á á á
U A I S R IM! Y C ADDYSG OEDOLION DD AM EHANGU MYNEDIAD
Croeso i Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Addysg Oedolion 2019 sy’n darparu amrywiaeth o gyrsiau AM DDIM i oedolion rhwng 17 a 28 Mehefin 2019. Rydym wrth ein boddau bod Ysgol Haf 2019 yn cael ei chynnal adeg yr Ŵyl Ddysgu (Wythnos Addysg Oedolion gynt) – ymgyrch flynyddol i ddathlu a hyrwyddo cyfleoedd addysg oedolion. Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ein nod yw sicrhau bod oedolion o unrhyw gefndir neu grŵp oedran yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio a chymorth. Rydym yn ymroi i sicrhau bod pawb sydd a’r dycnwch a'r penderfyniad, y sgiliau a’r awydd i fynd i addysg uwch, yn gallu gwneud hynny. Deallwn pa mor bwysig yw gweithio’n agos â’r gymuned leol er mwyn helpu i godi dyheadau ac annog pobl sy’n meddwl nad yw addysg uwch “ar eu cyfer nhw” i ddechrau meddwl am y cyfleoedd sydd ar gael. Os ydych chi, am ba bynnag reswm, wedi meddwl yn y gorffennol na fyddai cwrs addysg uwch yn addas i chi, rydym wedi cyflwyno amryw o fesurau i’w gwneud hi mor hawdd a hyblyg â phosib i astudio yma. Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd, efallai’ch bod yn poeni sut ydych chi am ddatblygu’ch sgiliau a chyflawni’ch potensial mewn marchnad waith mor anodd. Gyda holl ymrwymiadau’r bywyd modern - gwaith, teulu, bywyd cymdeithasol - nid yw’n hawdd cydbwyso’r
rhain i gyd ac ystyried astudio yr un pryd. Efallai’ch bod yn teimlo nad ydych chi’n ddigon peniog i astudio mewn Prifysgol, hwyrach na chawsoch chi hwyl arni yn yr ysgol a bod bywyd wedi mynd â chi ymhell o fyd addysg. Yn aml, does gan oedolion sydd heb astudio ers cryn amser ddim digon o hyder i ddychwelyd i ddysgu, neu'n meddwl y bydd pobl eraill yn rhy feirniadol. Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn cynnig pob math o gyfleoedd dysgu diddorol, rhad ac am ddim. Gallai ein cyrsiau eich helpu i fagu hyder a chanolbwyntio ar eich cynllun gyrfa neu ddysgu. Mae Ysgol Haf Met Caerdydd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, naill ai am hwyl neu er mwyn gwella’ch potensial gyrfa. Efallai mai cwrs Ysgol Haf fydd cychwyn rhywbeth cyffrous, a allai agor rhagor o ddrysau i chi trwy gamu ymlaen i un o’n cyrsiau achrededig yn y gymuned a phwy a ŵyr, ymlaen i gwrs llawn amser neu ran-amser yn y Brifysgol maes o law. Mae’r Ysgol Haf yn ffordd wych o gael blas ar fywyd prifysgol, yn enwedig os ydych chi’n meddwl astudio yma. Llynedd, aeth llawer o’r oedolion a fynychodd Ysgol Haf Met Caerdydd ymlaen i gofrestru ar gwrs pellach y Brifysgol ym mis Medi, llawer ar gyrsiau Sylfaen neu raglen achrededig, rhai’n syth i gwrs gradd. Efallai mai’ch tro chi fydd hi eleni! Pwy bynnag ydych chi, mae yna gwrs ar eich cyfer - un y byddwch yn ei fwynhau ac yn gyfforddus wrth astudio.
Janet Jones Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (Rhaglenni) Prifysgol Metropolitan Caerdydd
AR GYFER PWY? Mae croeso i bob oedolyn dros 18 oed ddod i’n Hysgol Haf. Ond mae llefydd yn gallu llenwi’n gyflym iawn. Felly, rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r dysgwyr hynny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd niferus a rhai sy’n perthyn i’r categorïau canlynol:
á á á á á *
heb gael cyfleoedd addysg uwch o’r blaen hawlio budd-daliadau’r llywodraeth (gan gynnwys y budd-dal plant) ar incwm isel ac yn wynebu ‘tlodi mewn gwaith’ gofalwr* llawn amser neu'n gadael gofal wedi’ch cyfeirio gan un o’n sefydliadau partner cymunedol neu elusennau Rhywun sy’n gofalu’n ddi-dâl am ffrind neu berthynas sy’n methu ymdopi heb eu cymorth, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu broblem gaethiwus (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, 2017)
Mae’r holl gyrsiau’n dechrau am 10 y bore ac yn gorffen am 3 y prynhawn, a hynny ar gampws Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 1
s
AR DRYWYDD DYSGWR Mae’r stori hon yn dathlu llwyddiant dysgwyr a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eraill sy’n meddwl dychwelyd i ddysgu. Dyma’r hanes o safbwynt y dysgwr ei hun, sy’n dangos pa wahaniaeth mae dysgu wedi gwneud a sut mae ei bywyd wedi gwella yn sgil hynny.
HANES HELEN Cyfaddefiad – doeddwn i ddim yn fodel o fyfyrwraig ers talwm. Roedd mam druan yn gorfod wynebu ymweliadau cyson gan y swyddog triwantiaeth oherwydd fy record bresenoldeb wael. Ar ôl i’r gwasanaethau cymdeithasol ymyrryd yn y mater, bu’n rhaid i mi fynd drwy’r cywilydd o ailsefyll blwyddyn pedwar a phump yn yr ysgol. Fe wnaeth fy athrawon fy nghyfeirio i’r chweched dosbarth, ond ar ôl dwy flynedd o orfod sefyll arholiadau – gan fethu dro ar ôl tro – penderfynais adael. Bues i’n gweithio mewn siopau tecawes er mwyn cael arian i deithio dramor am flwyddyn. Dychwelais adre’n llawn bwrlwm, ac ymrestru yng ngholeg ‘tec’ Rhymni a llwyddo i gael pump Lefel ‘O’ ac 1 Lefel ‘A’. Rwyf wedi mwynhau gyrfa ddiddorol ac amrywiol, sydd nid yn unig wedi mynd â fi o amgylch y byd ond darparu ar gyfer fy nheulu hefyd. Prif elfen fy nhaith bywyd yw’r llif cyson o ddyletswyddau gofal, a hynny ers 14 oed. 2 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Bues i’n gofalu am mam, yn helpu fy chwaer hyn i adsefydlu ar ôl dioddef ymosodiad, yn ogystal â’r dasg anodd o ofalu am fab awtistig ar y cyd â’r gŵr. Treuliais 26 mlynedd yn gofalu am ein mab gartref, gan ddwyn fy holl sylw ac ymdrechion. Fodd bynnag, ar ôl i’r mab adael cartref, daeth y cyfle i ailystyried llwybr fy mywyd ac roeddwn i’n barod i fynd i’r afael â’r her nesaf. O fewn pythefnos, cefais fy hun yn ymrestru ar gwrs seicoleg a chwnsela yn Hyb Llanrhymni. Roedd yr holl broses ymrestru’n hawdd iawn, dewis gwych o gyrsiau a llefydd ac amseru addas i unrhyw un. Roedd dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn 51 oed yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un, yn enwedig o gofio fy hanes i yn y gorffennol. Er hynny, cefais yr un croeso â phawb arall a’m trin â pharch, ac roedd amrywiaeth y cymeriadau ar y cwrs fel chwa o awyr iach o gymharu â’r profiadau dysgu blaenorol. Roedd y tîm addysg oedolion yn wych gyda thiwtoriaid wirioneddol eisiau’ch helpu i ailafael yn eich doniau cudd, a gyda llawer o arweiniad, cefnogaeth ac ambell sbort, roeddwn i’n barod i fwrw iddi. Gyda chryn anogaeth gan fy nhiwtor, fe es i ar dri chwrs Ehangu Mynediad Ysgol Haf Met Caerdydd. Trwy ymweld â’r Brifysgol a chael blas ar fywyd prifysgol, sylweddolais fod fy sgiliau dysgu’n datblygu, fy uchelgeisiau’n cynyddu a’m hyder yn tyfu gyda phob tystysgrif a gefais.
sut i ddysgu, sut i werthuso’r hyn gafodd ei ddysgu, a’r ffaith fod methu hefyd yn elfen o ddysgu. Roedd strwythur y dosbarth yn hwyl a hawdd i’w ddeall, gan fy arwain i gyflwyno traethawd er mwyn asesu fy sgiliau myfyriol ac ennill 10 credyd Lefel 3. Mae’r holl gredydau yn mynd tuag at bortffolio ar gyfer unrhyw ddarpar gyflogwr, neu i gael mynediad i Brifysgol. Rwyf wedi cael cefnogaeth o bob cwr, gan gynnwys anogaeth gan fy nhiwtoriaid a’m cyd-ddisgyblion gan fod pawb wedi dod drwy’r rhengoedd gyda’n gilydd. Mae yna ymdeimlad braf o frawdoliaeth ymysg pawb. Fel myfyriwr hŷn, mae tiwtoriaid yn eich annog chi i gydnabod a gwerthfawrogi’ch sgiliau sydd gennych eisoes o brofiadau bywyd. Mae’r staff, tiwtoriaid a myfyrwyr yn cydweithio ym mhob agwedd ar eich siwrnai ddysgu ac yn eich trin yn gyfartal. Mae gan Met Caerdydd wasanaeth cymorth gwych i fyfyrwyr, i’ch helpu ar unrhyw beth o geisiadau i gyllid, ac mae’n darparu cymorth i bob myfyriwr, ar y cyd ac yn unigol. Ac yn olaf, fy ngŵr cefnogol llawn hiwmor. Ei addewid yntau i baratoi swper ar fy ‘nosweithiau ysgol’ seliodd y syniad o fynd i Met Caerdydd. Erbyn hyn, rwy’n fyfyriwr ail flwyddyn cwrs BSc Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Met Caerdydd. Rwy’n gobeithio defnyddio’r wybodaeth hon i gael swydd yn amddiffyn hawliau oedolion ag anawsterau dysgu a helpu teuluoedd i ofalu amdanyn nhw - wedi’r cwbl, dyna fues i’n ei wneud am y 26 mlynedd diwethaf.
Y cwrs Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol wnaeth ddenu fy niddordeb i, gan fod gen i gymaint o brofiad a sgiliau trosglwyddadwy yn barod fel gofalwr gweithgar fy mab. Hefyd, dangosodd y cwrs sgiliau myfyriol Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 3
ß
GRŴP FFRINDIAU A CHYMDOGION (FAN) Yma yn Met Caerdydd, rydym yn awyddus i ymgysylltu â’r gymuned leol. Os na allwch chi fynychu ein Hysgol Haf, rydym yn cynnal nifer o gyrsiau am ddim gydol y flwyddyn mewn cymunedau lleol a chanolfannau amrywiol ar hyd a lled y brifddinas. Rydym hefyd yn cynnal grŵp FAN bob dydd Mawrth am 3pm yn Undeb y Myfyrwyr, Campws Llandaf. Elusen leol sy’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd yn enw cyfeillgarwch yw FAN.
DYSGWYR HŶN MET CAERDYDD – SUT I YMGEISIO Ydych chi’n ddysgwr o oedolyn a hoffai wneud cais i Met Caerdydd? Ydych chi’n gwybod sut i ymgeisio? Hoffech chi wybod mwy am gostau a pha gymorth all fod ar gael i chi, fel benthyciadau, grantiau a bwrsariaethau myfyrwyr? Nid rhywbeth i bobl ifanc yn unig yw’r brifysgol - mae digonedd o bobl o bob oed sy’n astudio ar gyrsiau gwahanol yma’n Met Caerdydd. Dewch draw i gampws Llandaf i ddysgu mwy. Bydd digon o gyfleoedd i ofyn cwestiynau. Rydym yn trefnu sesiwn wybodaeth fel rhan o’r Ysgol Haf.
4 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
DIWRNODAU AGORED Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle delfrydol i ddysgu mwy am eich cwrs o ddiddordeb, siarad â thiwtoriaid a myfyrwyr y cwrs a chael taith o amgylch ein cyfleusterau, neuaddau preswyl a champysau. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored ar gampysau gydol y flwyddyn, sy’n berthnasol i’ch cwrs a’ch maes diddordeb chi. www.cardiffmet.ac.uk/opendays 029 2041 6042 opendays@cardiffmet.ac.uk
RHESTR CYRSIAU 2019
TUDALEN
SGILIAU ACADEMAIDD TECHNOLEG POBI CREU PATRYMAU SYML ATHRONIAETH GYMUNEDOL THERAPÏAU CYFLENWOL DYLUNIO LOGO IECHYD YR AMGYLCHEDD RHEOLI PROSIECT DIGWYDDIAD BWYTA’N IACH SUT I GREU’CH PORTFFOLIO CELF A DYLUNIO SUT I WNEUD CAIS I MET CAERDYDD AR GYFER ADDYSG OEDOLION CYFLWYNIAD I CERAMEG CYFLWYNIAD I YSGRIFENNU CREADIGOL CYFLWYNIAD I IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
06 06 07 07 08 08 09 09 10 10
CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU TAI CYFLWYNIAD I BARATOI I ADDYSGU CYFLWYNIAD I SEICOLEG CYFLWYNIAD I WAITH IEUENCTID A CHYMUNEDOL CYLLID ISLAMAIDD PRAWF ‘PASSWORD KNOWLEDGE’ SGILIAU MYFYRIOL ROBOTEG GWNÏO METHU DARLUNIO? CYCHWYN EICH BUSNES EICH HUN
13 13 14 14 15 15 17 18 18 19 19
11 11 12 12
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 5
Dydd Llun 24 a Dydd Mawrth 25 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Llun 24 a Dydd Mawrth 25 Mehefin 10.00am - 3.00pm
SGILIAU ACADEMAIDD
TECHNOLEG POBI
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Mae’r sesiynau hyn yn gyfle cyffrous i wella’ch sgiliau academaidd. Gan ganolbwyntio ar bedwar maes hanfodol ysgrifennu, ymchwil, cymryd nodiadau a rheoli amser - bydd y gweithdai hyn yn ddefnyddiol iawn er mwyn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, naill ai mewn coleg neu un o’n cyrsiau achrededig Ehangu Mynediad. Yn y sesiwn ‘ysgrifennu’, byddwn yn trafod sut allwch chi ysgrifennu’n glir ac effeithiol. Hefyd, byddwn yn ystyried rhai o’r camgymeriadau ysgrifennu cyffredin a sut i’w hosgoi nhw.
Mae’r cwrs deuddydd hwn wedi’i gynllunio er mwyn eich cyflwyno i wyddorau cynhyrchion pob. Byddwn yn dysgu sut i brosesu bara a chacennau, rôl glwten mewn cynhyrchion wedi’u pobi a sut allwch ei gyfnewid am rywbeth arall. Mae ffeibr hefyd yn elfen bwysig o’n hiechyd, ac nid yw’r rhan fwyaf o gynhyrchion pob heb glwten yn cynnwys digon o ffeibr - felly yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn ymchwilio i’r defnydd o lysiau fel ffynhonnell dda o ffeibr mewn nwyddau pob.
Mae ymchwil yn golygu chwilio am y wybodaeth gywir. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio’r adnoddau sydd ar gael i chi a'r mathau o ffynonellau y gallwch ddod ar eu traws. Bydd cymryd nodiadau’n eich dangos sut i ysgrifennu gwybodaeth y gallech ei throi’n rhan bwysicach o ddysgu wedyn. Trwy feddwl yn ofalus am yr hyn rydych chi’n ei ddarllen neu’n gwrando iddo, gallwch hefyd gofio mwy am y pwnc. Bydd y sesiwn rheoli amser yn dangos sut i drefnu’ch ymrwymiadau a chadw ar ben pob dim. Mae bod yn drefnus yn golygu y byddwch yn gallu ticio pob tasg oddi ar eich rhestr o bethau i’w gwneud, a chael yr ymdeimlad hwnnw o foddhad eich bod yn gwneud cynnydd! 6 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Mae wy yn un o gynhwysion allweddol eraill y diwydiant pobi, ac mae llawer o ymchwil wedi’i gynnal i gymryd lle’r elfen hanfodol hon ar gyfer cynhyrchion fegan addas. Yn y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i wneud cynnyrch heb wy a’i gymharu â chynhyrchion confensiynol eraill. Byddwn yn paratoi ac yn trafod nifer o gynhyrchion dros y deuddydd hwn. Ar ddiwedd pob cynhyrchiad, cynhelir sesiwn synhwyraidd i asesu ansawdd y cynnyrch a dysgu am rôl bob cynhwysyn.
h
Dydd Mawrth 18, Dydd Mercher 19 a Dydd Iau 20 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Mawrth 25, Dydd Mercher 26 a Dydd Iau 27 Mehefin 10.00am - 3.00pm
CREU PATRYMAU SYML
ATHRONIAETH GYMUNEDOL
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Cwrs tridiau i ddechreuwyr. Byddwch yn dysgu sut i osod dartiau ar raddfa chwarter, gwneud mân addasiadau a manylion dylunio. Yna, byddwch yn dargopïo’ch patrwm ‘sloper’ maint llawn ac yn cynllunio’ch patrwm maint llawn. Ar y diwrnod olaf, byddwch yn creu’ch cynllun ar ddefnydd.
Mae athroniaeth gymunedol neu ‘llawr gwlad’ yn ymarfer hirsefydlog lle bydd hwylusydd yn defnyddio enghraifft o drafodaeth athronyddol er mwyn ystyried cwestiynau mawr bywyd. Proses o athronyddu yw hon, ei rôl mewn addysg gymunedol ac addysg oedolion pan ddaw grwpiau at ei gilydd i drafod cwestiynau mawr bywyd, ac fe’i defnyddiwyd yn llwyddiannus fel ffordd o helpu rhai grwpiau i bontio i gymdeithas prif ffrwd gan gynnwys mabolgampwyr elît, carcharorion a phobl ag anghenion iechyd meddwl.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 7
Dydd Mawrth 18, Dydd Mercher 19 a Dydd Iau 20 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Iau 20 a Dydd Gwener 21 Mehefin 10.00am - 3.00pm
THERAPÏAU CYFLENWOL
DYLUNIO LOGO
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y cwrs cyflwyniadol hwn yn rhoi trosolwg o Therapïau Cyflenwol yn gyffredinol yn ogystal â gwybodaeth mwy benodol am rai o’r therapïau gwahanol sydd ar gael a’u manteision. Byddwch yn dysgu sut i gynnal sesiwn tylino’r pen Indiaidd fel grŵp a chael cyflwyniad cyffredinol i aromatherapi, tylino holistig ac adweitheg. Bydd y cwrs yn gyfuniad o theori sylfaenol a chymhwyso ymarferol, gyda’r bwriad o gael hwyl, mwynhad ac ysbrydoliaeth!
Mae’r cwrs cyflwyniadol hwn yn addas i rai â diddordeb mewn dylunio graffeg, a chyfathrebu brand yn effeithiol. Mae’r cwrs yn cwmpasu hunaniaeth a dylunio brand, o’r briff creadigol i gyflawni hynny. Byddwch yn gweithio mewn tîm i ymchwilio i frandiau llwyddiannus, creu mapiau meddwl, nawsfyrddau a chysyniadau gweledol, er mwyn creu logo ar gyfer briff dylunio. Bydd myfyrwyr yn ystyried sut mae pob elfen o’r hunaniaeth yn cyfrannu at y syniad o’r brand: enw, is-bennawd, logo, masgot, lliw, teipograffeg ac estheteg.
8 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Dydd Llun 17, Dydd Mawrth 18 a Dydd Mercher 19 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Llun 24, Dydd Mawrth 25 a Dydd Mercher 26 Mehefin 10.00am - 3.00pm
IECHYD YR AMGYLCHEDD
RHEOLI PROSIECT DIGWYDDIAD
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Oes gennych chi ddiddordeb mewn iechyd a llesiant?
Nod y cwrs hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r byd rheoli prosiectau a'r meysydd sydd angen eu cynnwys er mwyn cyflwyno prosiect llwyddiannus, gan gynnwys cychwyn, monitro a gwerthuso. Mae’n gwrs delfrydol i unigolion sy’n ymwneud â sefydlu a rhedeg prosiectau, neu’n gobeithio gwneud hynny. Byddwn yn defnyddio enghreifftiau o’r diwydiant digwyddiadau gan fod rhaid i ddigwyddiadau llwyddiannus ddefnyddio adnoddau rheoli prosiect.
Yn chwilfrydig o ran sut allwn ni ddylanwadu ar ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig i fanteisio i’r eithaf arnynt? Bydd y cwrs tridiau hwn yn eich cyflwyno i bum maes ymarfer Iechyd yr Amgylchedd: Diogelwch Bwyd, Amgylchedd Adeiledig, Rheoli Llygredd, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Cyhoeddus. Bydd y cwrs yn ystyried rolau rhagweithiol ac adweithiol swyddog iechyd yr amgylchedd, a’r nod yw datblygu sgiliau gwaith tîm a sgiliau arwain law yn llaw â’r hyn a ddysgwyd. Mae’n gwrs rhyngweithiol dan arweiniad cyfranwyr, ac yn gyflwyniad gwych i gwrs BSc Iechyd yr Amgylchedd.
Y
Cwrs ymarferol fydd hwn, gyda phwyslais ar ddefnyddio sefyllfaoedd go iawn a fydd yn rhoi enghreifftiau o agweddau gwahanol ar y diwydiant i chi. Bydd y pynciau trafod yn cynnwys nodweddion digwyddiadau (maint a chwmpas), cynllunio a chydlynu, rheoli risg, rheoli amser ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu nodi gofynion allweddol rheoli prosiect a deall y ffactorau mewnol ac allanol sy’n gallu effeithio ar ganlyniad llwyddiannus.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 9
Dydd Llun 17 a Dydd Mawrth 18 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Iau 20 a Dydd Gwener 21 Mehefin 10.00am - 3.00pm
BWYTA’N IACH
SUT I GREU’CH PORTFFOLIO CELF A DYLUNIO
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio er mwyn cyflwyno cysyniad ‘Bwyta’n Iach’ ar gyfer y teulu cyfan a sut i oresgyn rhai o’r materion y gallant eu hwynebu. Cwrs ymarferol yn y gegin ydyw’n bennaf. Hefyd, bydd yn sbarduno trafodaeth mewn grŵp ac yn cael ei deilwra i anghenion y grŵp.
P’un ai’ch bod yn bwriadu camu ymlaen ar gwrs sylfaen Celf a Dylunio, mynd â’ch astudiaethau ymhellach mewn maes creadigol neu greu corff o waith ar gyfer eich ymarfer proffesiynol eich hun, bydd y sesiwn creu portffolio hon yn mynd â’ch sgiliau i’r lefel nesaf. Byddwch yn dysgu amryw o dechnegau sy’n cynnwys archwilio arddulliau newyddion a dulliau o gynhyrchu celfwaith, yn ogystal â syniadau gosod tudalen, gorffen a golygu’ch gwaith. Dewch â dau neu dri darn o waith gyda chi - rhai 2D yn ddelfrydol, er bod croeso i rai 3D hefyd. Gall fod yn ddarn arbrofol neu orffenedig neu hyd yn oed lyfr brasluniau llawn darluniau/paentiadau yr hoffech eu cynnwys mewn portffolio. Byddwn yn cydweithio i roi’ch portffolio ar ben ffordd!
10 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Dydd Iau 27 Mehefin 1.00pm - 2.30pm
Dydd Llun 17, Dydd Mawrth 18 a Dydd Mercher 19 Mehefin 10.00am - 3.00pm
SUT I WNEUD CAIS I MET CAERDYDD AR GYFER ADDYSG OEDOLION
CYFLWYNIAD I CERAMEG
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Ydych chi’n oedolyn a fyddai’n hoffi gwneud cais i astudio ym Met Caerdydd? Ydych chi’n gwybod sut i ymgeisio? Hoffech chi wybod mwy am y costau cysylltiedig a pha gymorth posib sydd ar gael i chi, fel grantiau, benthyciadau a bwrsariaethau?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi weithio gyda Jin Eui Kim, artist cerameg o fri rhyngwladol. Mae’r cwrs yn cynnwys defnyddio olwyn crochenydd, ac fe fydd yn cwmpasu holl hanfodion trin clai ar yr olwyn, canoli a chreu ffurf silindraidd sylfaenol. Byddwn hefyd yn dangos technegau lletemu amrywiol fel troelli, pen ych a slabio. Hefyd, bydd yn dangos technegau â llaw os nad ydych chi am ddefnyddio’r olwyn crochenydd. Cwrs addas i ddechreuwyr pur a rhai sydd â rhywfaint o sgiliau taflu clai, felly croeso i bawb.
Nid rhywbeth i bobl ifanc yn unig yw Prifysgol. Mae digonedd o oedolion yn astudio pob math o gyrsiau gwahanol yma ym Met Caerdydd. Felly, dewch draw i gampws Llandaf i ddysgu mwy. Archebwch eich lle nawr, neu trowch lan ar y diwrnod.
Ë
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 11
Dydd Gwener 21, Dydd Llun 24 a Dydd Mawrth 25 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Llun 17 a Dydd Mawrth 18 Mehefin 10.00am - 3.00pm
CYFLWYNIAD I YSGRIFENNU CREADIGOL
CYFLWYNIAD I IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Cwrs cyflwyniadol addas i ddechreuwyr a rhai sydd am hogi eu sgiliau ’sgrifennu. Byddwch yn dysgu hanfodion ysgrifennu ffuglen fer a barddoniaeth dros dridiau.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael i chi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cewch flas ar y deddfau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chyflwyniad i sgiliau cyfathrebu, gwaith partneriaeth ac ymarfer proffesiynol.
Byddwch yn dadansoddi genres amrywiol, ac yn cymryd rhan mewn tasgau ysgrifennu wedi’u cynllunio i ddysgu ffurf, disgrifio, cymeriadu, creu delweddau a llais. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych chi’r sgiliau naratif i greu’ch cerddi a’ch straeon byrion eich hun, ynghyd â’r adnoddau i ddarganfod a datblygu’ch llais ysgrifennu eich hun.
12 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i fodiwl Cymunedau ac Iechyd (gwerth 10 credyd) sy’n cael ei gynnal yn y gymuned.
Dydd Iau 20 a Dydd Gwener 21 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Gwener 21 Mehefin 10.00am - 3.00pm
CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU TAI
CYFLWYNIAD I BARATOI I ADDYSGU
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Pam na allwn ni adeiladu fwy o dai? Beth yw’r Diwygiad Lles? Beth mae’r newidiadau mewn budd-daliadau yn ei olygu i mi?
Mae llawer o oedolion yn dychwelyd i ddysgu, ac felly mae angen tiwtoriaid anogol ac ysbrydoledig. Mae’r cwrs hwn yn trafod y sgiliau sydd eu hangen ar rai sy’n teimlo y gallant wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn helpu eraill trwy addysgu oedolion. Sesiwn rhyngweithiol, hamddenol braf a ffordd bleserus o ddysgu mwy am yrfa newydd bosib i chi’ch hun. Byddwch yn trafod rôl y tiwtor; yn edrych ar sut gall cymhelliant personol effeithio ar ddysgu; nodi’r dulliau a’r technegau sy’n hybu dysgu llwyddiannus; ac archwilio’r llwybrau datblygu posib ar gyfer astudio ymhellach.
Mae’r cwrs hwn yn trin a thrafod y materion/problemau cyfredol ym maes tai a sut gall pobl ymwneud â’r maes tai yn eu cymunedau ac fel gyrfa. Mae’r sector tai yn tyfu’n gyflym ac yn cynnig amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil, gyda sawl rôl swydd a llawer o gyfleoedd. Mae’r cwrs yn arbennig o addas i denantiaid a phreswyliaid sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, oedolion sy’n meddwl dychwelyd i fyd addysgu neu newid gyrfa, neu unrhyw un sy’n dymuno datblygu sgiliau newydd. Mae cyfleoedd di-ri ar gael yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, lle gallwch chi weithio a gwirfoddoli mewn meysydd fel cyngor tai, cymorth tai, atal digartrefedd a chyfraniad tenantiaid. Mae’r cwrs byr hwn yn gyflwyniad anffurfiol a chyfeillgar i radd BSc (Anrh) Astudiaethau Tai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Felly, os hoffech ddysgu mwy am addysgu oedolion, dyma’r cwrs i chi. Mae’n gyflwyniad gwych i’r cwrs PGCE neu PCE PCET a fydd yn eich cymhwyso i fod yn athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl 16.
Croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ym maes tai a chyfrannu at eu cymuned.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 13
Dydd Mercher 26, Dydd Iau 27 a Dydd Gwener 28 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Llun 24 a Dydd Mawrth 25 Mehefin 10.00am - 3.00pm
CYFLWYNIAD I SEICOLEG
CYFLWYNIAD I WAITH IEUENCTID A CHYMUNEDOL
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Mae seicoleg yn bwnc amrywiol a diddorol sy’n apelio at gymaint o bobl. Cewch gyflwyniad i astudio seicoleg trwy ystyried rhai o’r prif feysydd fel ymddygiad cymdeithasol pobl; plant a’u datblygiad a deall yr ymennydd er mwyn deall ymddygiad. Byddwn hefyd yn cyflwyno’r mathau o ddulliau mae seicolegwyr yn eu defnyddio i ddeall ymddygiad pobl.
Mae mwy a mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, ond ddim yn gwybod y ffordd orau i wneud hynny. Nod y cwrs hwn yw rhoi cyflwyniad i rai sy’n dymuno dilyn hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a rhai sydd am ddysgu am astudio yn y maes hwn. Mae’n ddelfrydol i bobl sy’n malio am eu cymuned ac sydd am wybod mwy, yn ogystal â gweithwyr ieuenctid neu gymunedol heb fawr o brofiad blaenorol o astudio.
Bydd pob diwrnod yn cynnwys mân ddarlithoedd a gweithgareddau ymarferol, er mwyn helpu i ddeall sylfaen ymchwil seicoleg. Os hoffech chi fynd ymhellach, yna beth am ystyried eich Modiwl Seicoleg Lefel 3 achrededig neu’r cwrs sylfaen sy’n arwain at radd BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasol.
14 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Bydd themâu’r cwrs yn cynnwys: dysgu o brofiad; ymdopi mewn amgylchiadau newydd a deall eraill. Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i’r modiwl Addysg Ieuenctid a Chymunedol (10 modiwl) yn y gymuned.
Dydd Llun 17 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Mercher 26 Mehefin 1.00pm - 3.00pm
CYLLID ISLAMAIDD
PRAWF ‘PASSWORD KNOWLEDGE’
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y cwrs hwn yn trafod hanfodion cyllid Islamaidd gan roi cipolwg ar egwyddorion a gwaharddiadau contractau cyllid Islamaidd. Mae’n rhoi syniad i ddechreuwyr o rhai o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y marchnadoedd ariannol. Bydd yn datblygu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer swydd neu astudiaeth bellach.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio, ond nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf i chi, efallai’ch bod yn poeni am fynd ar gwrs dysgu. Dyma gyfle gwych i rywun yn y sefyllfa hon. Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i chi asesu’ch lefel Saesneg academaidd. Byddwch yn sefyll prawf Password Knowledge sy’n rhoi syniad cywir i chi o’ch lefelau gramadeg a geirfa. Bydd o gymorth i chi astudio ar gwrs ‘Preparation for Academic ILETS’ neu gwrs iaith Saesneg tebyg arall. Mae’r prawf yn para hyd at ddwy awr felly cofiwch gyrraedd deg munud cyn dechrau’r sesiwn.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 15
Pe tawn i’n gwybod y byddai’n teimlo mor dda â hyn, byddwn wedi gweithio’n galetach yn yr ysgol :)
Tiwtor gwych, hynod gefnogol, dysgu pethau newydd...
Mae’r cwrs yn dda iawn ac wedi rhoi’r hyder sydd ei angen arnaf i ddychwelyd i addysg eto...
16 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Dydd Mercher 26 Mehefin 10.00am - 3.00pm
SGILIAU MYFYRIOL – ACHREDEDIG (10 CREDYD) Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf Rhaid bod gennych gymhwyster TGAU Saesneg neu Fathemateg Gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth Sgiliau Sylfaenol Lefel 2, i wneud y cwrs hwn. Rhaid eich bod wedi ymrestru ar o leiaf un o’r cyrsiau Ysgol Haf eraill hefyd. Mae’r cwrs hwn yn cael ei addysgu mewn partneriaeth â Chanolfan Dysgu Seiliedig ar Waith y Brifysgol. Byddwch yn cael eich asesu trwy bortffolio myfyriol sy’n golygu y bydd disgwyl i chi gadw cofnod/dyddiadur myfyriol a datblygu adroddiad myfyriol sy’n seiliedig ar brofiad dysgu a gawsoch chi, er enghraifft, myfyrio neu gnoi cil ar un o’r cyrsiau Ysgol Haf eraill a fynychwyd gennych.
Mae’r cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau myfyriol ac academaidd lle gallwch ennill 10 credyd Addysg Uwch ar lefel 3. Gallwch ddefnyddio’r rhain wedyn i fynd ymlaen i wneud Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol: www.cardiffmet.ac.uk/FDA, neu’r Rhaglen Sylfaen: Ysgol Rheoli Caerdydd.
Mae myfyrio yn dechneg sy’n helpu i ategu’r hyn a ddysgwyd eisoes. Mae’n ffordd bwerus iawn o hunanddatblygu a gwella dysgu. Mae’r cwrs yn eich helpu i ddeall beth yw myfyrio a sut i’w ddefnyddio i ddatblygu’ch datblygiad personol a phroffesiynol. Mae’n eich helpu i allu ysgrifennu’n fyfyriol a rhoi’r technegau i chi gyflwyno arferion myfyriol yn eich meddyliau bob dydd.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 17
Dydd Mercher 19 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Gwener 21, Dydd Llun 24 a Dydd Mawrth 25 Mehefin 10.00am - 3.00pm
ROBOTEG
GWNÏO
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno dysgwyr i 500 mlynedd o hanes Roboteg Dynolffurf, o fodelau mecanyddol hynafol i’r modelau diweddaraf o robotiaid dynolffurf.
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio swyddogaethau a gosodiadau gwahanol peiriant gwnïo, lle gewch chi’r cyfle i samplu semau, hemiau a dartiau gwahanol. Byddwn yn bwrw golwg cyffredinol ar batrymau a mesur er mwyn ffitio’n well. Yna, byddwn yn defnyddio’r sgiliau hynny i addasu a ffitio dilledyn cyfredol neu ei uwchgylchu’n rhywbeth newydd. Cwrs i ddechreuwyr a rhai sydd am wella yw hwn, ond mae croeso i fyfyrwyr o bob lefel. Bydd peiriannau gwnïo ar gael, ond mae croeso i chi ddod â’ch peiriant eich hun os ydych chi’n dymuno.
Bydd arddangosiad byw o roboteg dynolffurf mwyaf blaenllaw’r byd yn Labordy Roboteg EUREKA, Ysgol Technoleg Caerdydd, yn rhan o’r cwrs. I fyfyrwyr brwd, bydd rhywfaint o dechnegau rhaglennu sylfaenol i reoli’r Robotiaid Dynolffurf yn cael eu haddysgu er mwyn gwneud i’r robot siarad, symud a dawnsio o bosib!
18 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Dydd Mawrth 18 a Dydd Mercher 19 Mehefin 10.00am - 3.00pm
Dydd Iau 27 Mehefin a Dydd Gwener 28 Mehefin 10.00am - 3.00pm
METHU DARLUNIO?
CYCHWYN EICH BUSNES EICH HUN
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y cwrs hwn yn archwilio’r dulliau amrywiol y gallwch eu datblygu trwy waith darlunio, a bydd hyn yn cynnwys llu o ddeunyddiau gwreiddiol. Bydd yn sbarduno cwestiynau am sut i arsylwi a gwneud amryw o ddarluniau sy’n defnyddio ymarferion strwythuredig. Yna, bydd yn arwain at hoff ddewis personol yr unigolyn o wneud pethau. Bydd pynciau’n cynnwys amrywiaeth o senarios bywyd llonydd mewn grŵp, a bydd sesiwn diwtora unigol ar gael hefyd.
Rydych chi am gychwyn busnes, ond beth nesaf? Bydd y cwrs hwn yn rhoi syniad i chi o’r meysydd a’r sgiliau gwahanol sydd angen eu hystyried er mwyn troi’ch syniadau yn ffaith. Bydd y pynciau trafod yn cynnwys: entrepreneuriaeth, astudiaeth ddichonoldeb, gosod nodau ac amcanion, cymorth i fusnesau newydd, dadansoddiad SWOT a PESTEL a’r meysydd a’r sgiliau sy’n ofynnol i greu cynllun busnes. Cwrs rhyngweithiol fydd hwn, a byddwn yn darparu deunyddiau i’ch helpu i ddatblygu syniadau.
) Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 19
CYNLLUNYDD CWRS DEFNYDDIOL
6
Dyma gynllunydd defnyddiol i’ch helpu i gynllunio ac archebu’r cyrsiau gorau i chi dros y pythefnos dan sylw. Help i osgoi archebu dau gwrs sy’n cyd-daro â’i gilydd ar yr un diwrnod. Popeth ar gampws Llandaf. Y cyfan yn dechrau am 10 y bore ac yn gorffen am 3 y prynhawn – oni nodir fel arall.
20 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
YSGOL HAF 2019
Llun Maw Mer 17 18 19 Meh Meh Meh
Iau Gwe Llun Maw Mer 20 21 24 25 26 Meh Meh Meh Meh Meh
Iau Gwe 27 28 Meh Meh
Cyllid Islamaidd Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bwyta’n Iach Iechyd yr Amglychedd Cyflwyniad i Cerameg Methu Darlunio? Creu Patrymau Syml Therapïau Cyflenwol Roboteg Dylunio Logo Sut i Greu’ch Portffolio Celf a Dylunio Cyflwyniad i Astudiaethau Tai Cyflwyniad i Baratoi i Addysgu Gwnïo Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol Sgiliau Academaidd Technoleg Pobi Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Cymunedol Rheoli Prosiect Digwyddiad Athroniaeth Gymunedol Prawf ‘Password Knowledge’ Cyflwyniad i Seicoleg Sgiliau Myfyriol Sut i Wneud Cais i Met Caerdydd ar gyfer Addysg Oedolion
Cychwyn Eich Busnes Eich Hun
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 21
CWESTIYNAU CYFFREDIN Ydy unrhyw un yn gallu mynychu cwrs Ysgol Haf? Mae’n agored i bob oedolyn dros 18 oed, ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r dysgwyr hynny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd sylweddol neu’r dysgwyr sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
á á á á á
heb gael cyfleoedd addysg uwch o’r blaen hawlio budd-daliadau’r llywodraeth (gan gynnwys y budd-dal plant) ar incwm isel ac yn wynebu ‘tlodi mewn gwaith’ gofalwr llawn amser neu'n gadael gofal wedi’ch cyfeirio gan un o’n sefydliadau partner cymunedol neu elusennau
Faint fydd fy nghwrs Ysgol Haf Ehangu Mynediad yn ei gostio? Mae’r holl gyrsiau Ehangu Mynediad yn RHAD AC AM DDIM.
Oes angen cymhwyster arnaf i fynychu’r Ysgol Haf? Does dim angen cymwysterau i fynychu cyrsiau’r Ysgol Haf, oni bai am y cwrs Sgiliau Myfyriol. I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf TGAU Iaith Saesneg neu Fathemateg Gradd C, neu gymhwyster Lefel 2 cyfwerth.
22 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Beth os nad ydw i wedi astudio ers cryn amser? Does dim disgwyl i chi ddod ar gwrs gyda gwybodaeth flaenorol am y pwnc. Mae’r cyrsiau ar gyfer pobl sydd wedi bod allan o fyd addysg ers sbel. Bydd tiwtoriaid profiadol yn eich helpu i feithrin sgiliau ac ehangu’ch gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar llawn hwyl. Nod y cyrsiau yw rhoi blas o astudio mewn prifysgol i chi.
Lle a phryd mae’r cyrsiau? Mae’r holl gyrsiau’n cychwyn am 10 y bore ac yn gorffen am 3 y prynhawn. Am fwy o wybodaeth a sut i gyrraedd campws Llandaf, ewch i’n gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/llandaff.
Alla i archebu mwy nag un cwrs? Mae croeso i chi fynychu mwy nag un cwrs, ond trowch i’n Cynllunydd ar dudalen 21 i wneud yn siŵr nad yw’ch cyrsiau’n cael eu cynnal yr un pryd. Ni fyddwch yn gallu mynychu mwy nag un cwrs ar yr un diwrnod.
Dim ond un o ddiwrnodau’r cwrs rwy’n gallu’i fynychu. Ydy hi’n iawn i mi ddod o hyd? Yn anffodus, allwch chi ddim gwneud y cwrs os dydych chi ddim yn gallu mynychu pob diwrnod ohono. Yn aml iawn, bydd ein cyrsiau yn adeiladu ar waith y diwrnod blaenorol, ac os mai dim ond rhan o’r cwrs byddwch chi’n ei fynychu, bydd hynny’n amharu ar waith y tiwtor a’r dysgwyr eraill.
Sut mae ymrestru? Gallwch ymrestru ar gyfer eich cyrsiau’r Ysgol Haf trwy lenwi’r ffurflen ar-lein yn www.cardiffmet.ac.uk/summerschool.
Oes cinio ar gael? Dydyn ni ddim yn darparu cinio fel rhan o’n cyrsiau, ond mae rhai cyfleusterau arlwyo ar gael ar y campws.
I ble rwy’n mynd ar y bore cyntaf? Ewch i’r brif dderbynfa ar flaen y campws ar gyfer dechrau’r cwrs. Bydd ein llysgenhadon myfyrwyr yno i’ch croesawu, eich cofrestru a’ch hebrwng i’r dosbarth. Maen nhw hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich cwrs neu am gyfleusterau’r Brifysgol.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth ar gyfer y cwrs? Beth sy’n digwydd os ydw i wedi archebu lle, ond yn methu mynychu erbyn hyn? Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael ar bob cwrs Ysgol Haf. Os ydych chi wedi archebu, ond yn methu dod bellach, rhowch wybod i ni. Bydd gennym restr aros o bobl sydd eisiau dod, a thrwy roi digon o rybudd ymlaen llaw i ni, gallwn gynnig eich lle chi iddyn nhw.
Alla i barcio ar y campws? Mae llefydd parcio ar y campws yn brin, felly os oes modd, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus i ddod yma. Mae gan Met Caerdydd system parcio talu ac arddangos, sy’n costio £1 am hanner diwrnod a £2 am ddiwrnod cyfan. Os ydych chi’n bwriadu parcio ar y campws, bydd angen i chi fynd heibio rhwystr. Pwyswch y gloch wrth gyrraedd, a dweud wrth y dderbynfa eich bod yn mynychu cwrs Ysgol Haf Met Caerdydd.
Does dim angen i chi ddod ag unrhyw beth penodol gyda chi. Byddwn yn darparu beiros a phapurau, a bydd eich tiwtor yn cyflenwi unrhyw adnoddau sydd eu hangen fel rhan o’r cwrs.
Os bydda i’n mwynhau mynychu cwrs Ysgol Haf, beth alla i wneud nesaf? Os wnaethoch chi fwynhau’r Ysgol Haf, ac am barhau i ddysgu, beth am fynychu un o’n cyrsiau rhagflas neu achrededig sy’n cael eu cynnal yn y gymuned. Mae’r holl fanylion am gyrsiau ar gael yn: www.cardiff met.ac.uk/wideningaccess.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 23
Am gwrs gwych! Roedd y tiwtor yn llawn gwybodaeth a sgiliau personol, ac fe gwrddais â phobl hyfryd – a’m helpodd i wneud dewisiadau...
Diolch am wneud yr amhosib yn bosib. Joies i’r cwrs yn fawr iawn, trueni na allen ni ei ymestyn ymhellach. Hoffwn i wneud hyn eto, diolch...
24 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Mae’n gwrs da i mi gamu ymlaen i Brifysgol Met Caerdydd...
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 25
AMODAU A THELERAU
CYFFREDINOL
á
á
á
Rhaid i fyfyrwyr ddilyn rheoliadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd mae’r manylion ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Os bydd unrhyw eiddo Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei dorri neu ei ddifrodi, rhaid sôn wrth aelod o’r staff ar unwaith. Efallai y bydd myfyrwyr yn gorfod gwneud iawn am golli neu ddifrodi unrhyw lyfr, offer neu gyfarpar sy’n eu gofal nhw.
á
á
Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am golli neu ddifrodi eiddo personol. Os bydd rhywun yn cyflwyno unrhyw offer digidol fel eiddo coll, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gael mynediad i’r ddyfais er mwyn ei dychwelyd i’r perchennog cywir.
á á
26 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo, atal neu addasu unrhyw raglen yn unol â’r amgylchiadau. Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth fyddwch chi’n ei roi ar eich ffurflen ymrestru yn unol â’r egwyddorion Diogelu Data. Yn unol ag Erthygl 6.1(f) y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) rydym yn prosesu’ch gwybodaeth er eich budd cyfreithlon chi a’r Brifysgol. Efallai y byddwn yn rhannu’ch data â’n sefydliadau partner at ddibenion gweinyddu’r cwrs a chadarnhau’ch presenoldeb / cyrhaeddiad. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio’ch data personol, ebostiwch DataProtection@cardiff.met.ac.uk. Rhaid gadael beiciau wrth y raciau neu’r standiau arbennig sydd wedi’u darparu, a’u cloi’n ddiogel. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw’r hawl i dynnu rhywun o’r cwrs unrhyw bryd.
YMDDYGIAD
YMRESTRU
á
á
Rydym yn disgwyl i chi ymddwyn mewn modd rhesymol a threfnus gydol yr amser, ac ystyried pobl eraill ac eiddo Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn unol â Chod Ymddygiad Myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
EF
Rhaid i bob myfyriwr ymrestru cyn dechrau’r cwrs. Nid yw’r broses ymrestru’n gyflawn hyd nes eich bod:
•
wedi llenwi ffurflen ymrestru Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn foddhaol
•
wedi bodloni unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill.
á
Ni fydd myfyrwyr sydd ag arian yn ddyledus i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ymrestru.
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 27
ASTUDIAETH BELLACH YM MHRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Dim cymwysterau mynediad arferol? Mae Prifysgol Met Caerdydd yn cynnal cyrsiau Sylfaen blwyddyn a all fod yn addas i oedolion heb gymwysterau mynediad arferol, ond sydd â sgiliau a phrofiadau eraill. Mae astudio un o’r cyrsiau hyn am flwyddyn yn gallu’ch helpu i fagu hyder a meithrin sgiliau. Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen, gallwch gamu ymlaen i un o’r cyrsiau gradd niferus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Er na allwn ni sicrhau lle i bawb, efallai y byddai’n werth i chi gysylltu â’n harweinwyr rhaglenni i drafod eich amgylchiadau personol a’ch cynghori ar y camau i’w cymryd i fynd ar gwrs. Cysylltwch â’r arweinwyr cyrsiau: Cwrs Sylfaen yn arwain at BSc (Anrh) Gwyddorau Iechyd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-health-sciences Dr Paul Foley pfoley@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2020 5632
Y
Cwrs Sylfaen yn arwain at BA/BSc (Anrh) Gwyddorau Cymdeithasol www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-social-science Sarah Taylor-Jones foundationsocsci@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 7228
28 Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd
Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-management Lisa Wright lwright@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 6318 Ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Derbyniadau Met Caerdydd trwy ffonio 029 2041 6010 neu e-bostio askadmissions@cardiffmet.ac.uk
CYNGOR AR GYLLID A LLES MYFYRWYR Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Gyllid a Lles Myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd, ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr ac mae AM DDIM i bob darpar fyfyriwr. Dyma rai o’r pethau y gallant eu cynnig:
á á á á á á á
Cyfweliadau un i un Cyngor ar gyllidebu a rheoli arian Cyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael Gwybodaeth am ffioedd a chyngor ariannol Cyngor ar fudd-daliadau fel myfyriwr Cyngor ar sut i wneud cais i’r Gronfa Argyfwng Ariannol Benthyciadau brys am dymor byr
Os hoffech archebu i weld Cynghorydd Cyllid a Lles Myfyrwyr, ffoniwch 029 2041 6170 neu e-bostiwch financeadvice@cardiffmet.ac.uk neu studentservices@cardiffmet.ac.uk Am fwy o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/financewelfare
ANABLEDDAU A CHYMORTH ERAILL Mae’r Gwasanaeth Anableddau yn cydlynu cymorth i fyfyrwyr anabl ledled y brifysgol. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr anabl yn gallu cael gafael ar eu rhaglen astudio, ac nad ydynt dan unrhyw anfantais oherwydd anabledd neu anhawster dysgu penodol. Os oes gennych chi anabledd, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Weithiau, gall gymryd amser i drefnu rhai addasiadau, felly gorau po fwyaf o rybudd a gawn ni gennych. Rhagor o wybodaeth: www.cardiffmet.ac.uk/disability Gall myfyrwyr sydd wedi gwahanu oddi wrth eu rhieni neu a fu dan ofal awdurdod lleol, gael cymorth ychwanegol trwy eu hastudiaethau. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.cardiffmet.ac.uk/study/ studentservices/finance/Pages/ care-leavers.aspx Os ydych chi’n gofalu am rywun ac yn rhoi cymorth di-dâl i ffrindiau a theuluoedd, efallai bod cymorth ychwanegol ar gael i chi gydol eich cyfnod ym Met Caerdydd. Rhagor o wybodaeth yn: www.cardiffmet.ac.uk/ study/studentservices/finance/Pages/ Student-carers.aspx Mae gan Met Caerdydd bob math o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau a allai helpu myfyrwyr i dalu am gostau astudio. Rhagor o wybodaeth yn: www.cardiffmet.ac.uk/study/ finance/bursaries/Pages/default.aspx
Ysgol Haf Addysg Oedolion Met Caerdydd 29
EWCH ATI I GOFRESTRU Ehangu Mynediad, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB
029 2020 1563 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk @wideningaccess www.facebook.com/wideningaccess www.cardiffmet.ac.uk/summerschool