Prosbectws ôl-raddedig

Page 1



P‘un a ydych chi’n dewis astudio ym Met Caerdydd am y tro cyntaf neu’ch bod wedi penderfynu aros gyda ni yn dilyn eich astudiaethau israddedig, byddwch yn ymuno â chymuned o dros 2000 o fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, myfyrwyr ymchwil a myfyrwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd. Rydym yn cynnig detholiad eang o gyfleoedd llawn amser a rhan-amser i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, myfyrwyr ymchwil a myfyrwyr proffesiynol ar draws ein pum ysgol academaidd - rhaglenni a fydd yn datblygu eich gwybodaeth arbenigol am eich pwnc ymhellach, yn gwella eich rhagolygon gyrfa ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer astudiaethau pellach. Bydd y prosbectws hwn yn rhoi rhagflas byr i chi o’r rhaglenni rydym ni’n eu cynnig. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion modiwlau a’r gofynion mynediad llawn, ewch i’n gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ ôl-raddedig *Roedd yr holl wybodaeth yn y prosbectws hwn yn gywir adeg ei argraffu. (Gorffennaf 2020).

01


02


CYNNWYS Pam Met Caerdydd .................................. 05 Astudiaeth Ymchwil . . ............................... 06 Cyfeiriadur Rhaglenni

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd .............. 14

Ysgol Addysg ............................................. 30 a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Ysgol Reoli Caerdydd . . ............................. 50

Ysgol Chwaraeon ...................................... 74 a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Ysgol Dechnolegau Caerdydd .............. 100

Cyngor i Ymgeiswyr ............................... 110 a Sut i Ymgeisio Ffioedd a Chymorth Ariannol .............. 114

Ein Campysau Campws Llandaf ..................................... 116 Campws Cyncoed ................................... 118 Caerdydd.. ................................................ 120 Dolenni Defnyddiol ................................ 122 Mynegai .. .................................................. 124

03


86%

BODDHAD Mae 86% o’n myfyrwyr ôlraddedig a addysgir yn fodlon yn gyffredinol â’u profiad astudio ôl-raddedig.* *Arolwg o Brofiad Ôl-raddedigion 2018

97%

CYFLOGAETH Mae 97% o’n myfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio neu’n mynd ymlaen i astudio ymhellach o fewn 6 mis i raddio.* *Cyrchfan Ymadawyr Addysg Uwch 2017

Y DDINAS

FWYAF FFORDDIADWY Ni fu amser gwell erioed i astudio yng Nghaerdydd. Mae’r ddinas wedi ei henwi’n ddinas fwyaf fforddiadwy y DU.* *Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2019

04


PAM MET CAERDYDD YMCHWIL O’R RADD

FLAENAF Mae ymchwil ym Met Caerdydd wedi’i dyfarnu ‘gyda’r gorau yn y byd’ (4*) neu ‘ragorol yn rhyngwladol’ (3*) yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf (2014).

ADDYSGU O

ANSAWDD UCHEL

Dyfarnwyd statws Arian i Met Caerdydd yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) diweddaraf (2017) – un o bedair prifysgol yng Nghymru yn unig i gyflawni hyn.

05


ASTUDIAETHAU YMCHWIL Ym Met Caerdydd, rydym yn cymryd rhan mewn ymchwil sydd ar y rhyngwyneb o greu gwybodaeth newydd a’i chymhwyso. Gyda hanes ardderchog o waith ymchwil cymhwysol, wedi’i gefnogi gan sylfaen gadarn o arbenigedd ac ysgolheictod uwch, mae ymchwil y Brifysgol yn uniongyrchol berthnasol i fusnes, diwydiant, y proffesiynau a’r gymuned yn gyffredinol.

ASTUDIAETHAU DOETHUROL Mae’r Brifysgol yn cynnig cyfres o gyfleoedd ar gyfer astudiaethau doethurol, pob un wedi’i deilwra i wahanol anghenion. Mae pob doethuriaeth yn cael ei rhoi i gydnabod cyfnod parhaus o ymchwil dan oruchwyliaeth sy’n arwain at wybodaeth a/neu ddamcaniaeth newydd. Gellir cynnal y gwaith ymchwil hwn mewn nifer o ffyrdd a gall gynnwys data o unrhyw nifer o wahanol ffynonellau. Er enghraifft: dadansoddi data, arbrofi, astudiaethau maes, ymarfer creadigol a dadansoddi beirniadol.

06


Dwi’n defnyddio pob un sgil a ddysgais yn ystod fy noethuriaeth bob un diwrnod yn fy swydd nawr. Mae hynny’n cynnwys y sgiliau technegol fel mesur gweithrediad y galon a phibellau gwaed, ond hefyd y sgiliau meddalach, fel sut i ysgrifennu papur ymchwil, sut i gyfleu eich gwaith mewn cyflwyniadau gwyddonol neu i gynulleidfaoedd cyffredinol, neu sut i weithio gyda chyfranogwyr/cleifion i wneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus. Rwyf wedi meithrin llawer o wybodaeth yn ystod fy noethuriaeth, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod wedi rhoi’r gorau i ddysgu. Ond dwi’n amau mod i’n dysgu ychydig yn fwy effeithlon erbyn hyn! Victoria Meah, PhD mewn Ffisioleg Ymarfer Corff

07


Wrth astudio ar gyfer fy ngradd israddedig, dechreuais gymryd diddordeb brwd mewn Gwyddor Data. Sylwodd fy narlithydd ar y brwdfrydedd cynyddol hwn ac fe ddywedodd wrtha i am wneud cais am ddoethuriaeth ym Met Caerdydd a oedd yn berffaith ar gyfer fy niddordebau. Cefais gymorth cyson gan y tîm yn ystod y broses ymgeisio er mwyn ei chwblhau mor gyflym â phosibl. Mae’n anhygoel meddwl y gallwn i raddio unwaith eto yn 24 oed, ond y tro hwn gyda theitl Doethur. Alla i ddim aros i ddechrau fy astudiaethau a gweld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig ym Met Caerdydd. Joel Pinney, PhD mewn Gwyddor Data

08


Doethuriaeth Ymchwil Mae cyfleoedd llawn amser a rhan-amser ar gael i ymgymryd ag ymchwil sy’n arwain at ddyfarnu Doethuriaeth Ymchwil: Doethur Athroniaeth (PhD) Doethur Rheoli (DMan) Doethur Doethur Hyfforddiant Chwaraeon (DSC)* Doethur Seicoleg Fforensig Atodol (D Foren Psy)

Cyfnodau astudio: Rhaid cwblhau PhD o fewn pedair blynedd yn llawn amser neu 8 mlynedd yn rhan-amser. Byddai DSC, DMan a D Foren Psy (Atodol) fel yn cael eu cwblhau mewn tair blynedd yn llawn amser neu hyd at chwe blynedd yn rhan-amser fel arfer.

Gofynion mynediad: Fel arfer, dylai ymgeiswyr sy’n gwneud cais am astudiaethau ymchwil tuag at ddyfarniad doethuriaeth feddu ar radd israddedig anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) neu well gan sefydliad addysg uwch cydnabyddedig. Fel arall, gradd ôl-raddedig neu gymhwyster sy’n gyfwerth â’r lefel hon ym marn y Brifysgol.

Bydd ceisiadau ar gyfer MPhil/PhD heb yr elfen hyfforddiant ymchwil gychwynnol ond yn cael eu hystyried gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod wedi cwblhau, neu a fydd yn cwblhau’n amserol, ddyfarniad ôl-radd sy’n cynnwys o leiaf 20 credyd o hyfforddiant ymchwil ffurfiol (e.e. MRes).

Yn dibynnu ar brofiad blaenorol yr ymgeiswyr o waith ymchwil, mae ymgeiswyr yn cael eu cofrestru ar MPhil/ PhD fel rheol yn y lle cyntaf neu’n uniongyrchol ar PhD. Ar gyfer y DMan, y gofyniad mynediad arferol yw 120 o gredydau lefel 7 mewn maes pwnc perthnasol.

Mae’r DSC (Doethur Hyfforddiant Chwaraeon) yn gyfuniad o ddarpariaeth a addysgir ac astudiaeth ymchwil annibynnol. I gael rhagor o wybodaeth am y strwythur a’r gofynion mynediad, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/dsc

Bydd ceisiadau PhD yn cael eu hystyried gan bob ymgeisydd sydd wedi ennill gradd anrhydedd 2:1 neu gymhwyster cyfatebol. Mae’r dyfarniad hwn yn cynnwys elfen hyfforddiant ymchwil gychwynnol cyn dechrau ymchwil dan oruchwyliaeth.

Am ragor o wybodaeth am y Doethur Seicoleg Fforensig (D Foren Psy) - Atodol, gweler tudalen 82.

Mae ymchwil ym Met Caerdydd wedi’i dyfarnu ‘gyda’r gorau yn y byd’ (4*) neu ‘ragorol yn rhyngwladol’ (3*) yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf (2014).

09


Doethuriaeth Broffesiynol Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn rhaglen radd uwch sydd wedi’i strwythuro’n benodol i gefnogi newid fesul cam sy’n cael ei gynllunio a/neu ei weithredu mewn cyd-destun proffesiynol, wedi’i lywio gan wybodaeth broffesiynol ac academaidd sy’n bodoli eisoes neu sy’n dod i’r amlwg, a/neu ddamcaniaeth. Mae amrywiaeth o gyfleoedd i astudio’n rhan-amser drwy gynnal ymchwil sy’n arwain at un o nifer o lwybrau Doethuriaeth Broffesiynol ar gael: Doethur Gweinyddu Busnes (DBA) Doethur Addysg (EdD) Doethur Peirianneg (DEng) Doethur Ymarfer Proffesiynol (DProf) Doethur Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy (DSBE)

Cyfnodau astudio:

Chwe blynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Y gofyniad mynediad arferol ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol yw 120 credyd trwy fodiwlau a addysgir ar Lefel 7 (M), fel rhan o raglen MA, MSc neu MBA.

10

Yn dibynnu ar brofiad academaidd a galwedigaethol blaenorol, mae’n bosib y rhoddir esemptiad i ymgeiswyr o astudiaethau lefel Meistr.


Gyda 25 mlynedd o brofiad ym maes Caffael, wrth ymrwymo i raglen astudio ar gyfer PhD roedd hi’n bwysig i mi ddewis Prifysgol a fyddai’n gallu cynnig her i mi yn academaidd ac yn broffesiynol. Rwy’n falch o ddweud bod Met Caerdydd - trwy fy Nghyfarwyddwr Astudiaethau a’m Goruchwyliwr - wedi cyflawni hyn. Hefyd, fe wnaeth y rhyngweithio gyda fy nghyd-fyfyrwyr gyfrannu at fy nysgu a fy set sgiliau personol. Rwyf wedi cymhwyso’r hyn a ddysgais o’r PhD yn swyddogaeth gaffael sefydliad olew a nwy FTSE 100, yn ogystal ag yn fy rôl newydd mewn cwmni dyfeisiau meddygol blaenllaw yn ne Cymru. Yn ogystal erbyn hyn, rwyf yn gweithredu fel arbenigwr pwnc wrth oruchwylio myfyriwr PhD arall ym Met Caerdydd. Dr. David Allcock, PhD mewn Caffael

11


GWNEUD CAIS AM LE Fel arfer, gwneir ceisiadau am le ar ddyfarniadau doethurol drwy gyflwyno cynnig astudio ymchwil cychwynnol, ynghyd â ffurflen gais y brifysgol ac enwau pobl sy’n fodlon rhoi geirda i chi. Mae pob cais am le ar ddyfarniadau doethurol yn cael ei ystyried gan yr Ysgol neu’r uned academaidd y bydd yr astudiaeth ymchwil yn cael ei chynnal ynddi. Yn aml, bydd gan ysgolion a gwahanol ddyfarniadau derfynau amser a/neu ofynion penodol a bydd ganddynt rai disgwyliadau o ran yr hyn a ddisgwylir yng nghynnig eich cais astudio ymchwil cychwynnol, felly mae’n bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil yn gyntaf i fod yn glir ynghylch ble yw’r man gorau i gyfeirio’ch cais. Fe’ch anogir yn gryf i gysylltu â goruchwylwyr posibl neu arweinydd y rhaglen ddoethurol benodol i drafod eich syniadau cyn gwneud cais. Ar ôl i chi wneud cais ffurfiol i astudio tuag at ddyfarniad doethurol, bydd yn cael ei ystyried gan Banel Derbyniadau Graddau Ymchwil yn y ffyrdd canlynol: Asesiad ar sail eich cais o’ch addasrwydd a’ch profiad academaidd (gan gynnwys eich sgiliau Saesneg). As esiad ar sail eich cais ynghylch hyfywedd neu ddichonoldeb eich prosiect ymchwil arfaethedig. As esiad ar sail eich cais o sut mae’ch prosiect ymchwil arfaethedig yn cyd-fynd â’r arbenigedd ymchwil ym Met Caerdydd ac a oes modd creu tîm goruchwylio priodol. Gwirio geirdaon academaidd a phersonol. Fel rhan o’r broses ymgeisio, cewch wahoddiad i gyfweliad (naill ai wyneb yn wyneb neu o bell). Mae hyn yn cynnig cyfle i chi drafod eich prosiect arfaethedig gydag aelodau’r panel ceisiadau ar gyfer dyfarniadau doethur. Os cewch chi gynnig amodol, bydd angen i chi fodloni unrhyw ofynion a bennir a darparu tystiolaeth ddogfennol berthnasol cyn y gallwch chi ddechrau cofrestru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/sutiymgeisio Ar ôl i chi gael cynnig lle i astudio ar gyfer dyfarniad doethurol, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru trwy gyfleuster hunanwasanaeth ar-lein y Brifysgol yn: www.metcaerdydd..ac.uk/hunanwasanaeth

12


FFIOEDD Manylion ffioedd dysgu ymchwil cyfredol a ffioedd eraill ar ein gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd

MWY O WYBODAETH I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yn y Brifysgol, cymorth ariannol posibl a gwybodaeth gyswllt, ewch i’n tudalennau gwe yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ymchwil

Mae Met Caerdydd wedi rhoi cyfle i mi ehangu fy mhrofiad a’m gwybodaeth o fewn y byd ymchwilio. Yn ogystal ag astudio PhD, rwy’n Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Prosiect Ymchwil SHOUT4HE Erasmus+. Rydw i wedi gallu cynyddu fy ngalluoedd academaidd mewn adolygiadau llenyddiaeth a dulliau ymchwil ar Fframweithiau Digidol – pwnc sy’n agos iawn at fy nghalon. Sammy Chapman, PhD mewn Addysg (Fframwaith Cymhwysedd Digidol) 13


YSGOL GELF A DYLUNIO CAERDYDD Mae gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd hanes hir o astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil ym meysydd celf, dylunio a phensaernïaeth, ac mae wedi bod yn ganolfan ar gyfer goruchwylio graddau ymchwil ers y 1980au. Mae ein myfyrwyr yn elwa ar amgylchedd ôl-raddedig gweithgar a chefnogol, ac mae gan ein tiwtoriaid a’n goruchwylwyr gryn arbenigedd yn y ffyrdd y gall theori ac ymarfer celf, dylunio a pheirianneg gyfrannu at wybodaeth. Heddiw, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yw un o’r ysgolion mwyaf blaenllaw ar gyfer ymchwil celf a dylunio yn y Deyrnas Unedig; yn y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ diweddaraf, (asesiad o ansawdd ymchwil ym mhrifysgolion y DU) dyfarnodd y panel Celf a Dylunio fod 97% o’n cyflwyniadau ymchwil o safon ryngwladol, gyda 75% naill ai’n ‘rhyngwladol ardderchog’ neu ‘gyda’r gorau yn y byd’. Mae goruchwyliaeth graddau ymchwil ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau, ac mae gan yr Ysgol hanes ardderchog o gwblhau doethuriaethau’n llwyddiannus. Mae hyn yn adlewyrchu’r oruchwyliaeth agos a’r cymorth a roddir i’n myfyrwyr ymchwil. Mae myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir ac Ôl-raddedig Ymchwil ar ein campws yn Llandaf yng Nghaerdydd yn ymuno â chymuned fywiog o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd. Maent yn astudio ochr yn ochr â chydweithwyr fel rhan o un o gymunedau grŵp ymchwil yr Ysgol, neu gyda goruchwylwyr doethur annibynnol pwrpasol. Mae cyfleoedd hefyd i weithio gyda chydweithwyr o ganolfannau ymchwil a menter ar draws y brifysgol. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos myfyrwyr rhyngwladol, sy’n cael cymorth ychwanegol sylweddol gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi’r Brifysgol mewn technegau ymchwil cyffredinol, mae’r Ysgol yn darparu hyfforddiant arbenigol mewn dulliau sy’n benodol i’r ddisgyblaeth e.e. ymarfer celf a dylunio, ac mae hyn yn cael ei atgyfnerthu yn ystod tiwtorialau goruchwylio rheolaidd myfyrwyr. 14


Cerameg a Gwneuthurwr MA/PgD/PgC ...... 16 M enter Greadigol ac Arloesi ...................... 16 MA/PgD/PgC D ylunio Ffasiwn MA/PgD/PgC .. ................... 18 C elfyddyd Gain MFA .................................... 20 D ylunio Byd-eang MDes/PgD/PgC .. ............ 22 D arlunio ac Animeiddio MA/PgD/PgC ........ 24 M Res: Meistr Ymchwil . . ............................... 26 mewn Celf a Dylunio MRes/PgC D ylunio Cynnyrch MSc/PgD/PgC ................ 28 Mwy o wybodaeth I gael rhagor o fanylion am y graddau ôl-raddedig a addysgir a’r graddau ôl-raddedig ymchwil a gynigir gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/csad

15


Cerameg a Gwneuthurwr MA/PgD/PgC Nod y rhaglen MA Cerameg a Gwneuthurwr yw eich galluogi i nodi’r pethau sy’n wirioneddol ddiddorol a phwysig i chi fel artist, dylunydd neu wneuthurwr ac i ddatblygu dulliau priodol i archwilio’ch syniadau a’u cyfleu neu eu mynegi’n effeithiol mewn ffyrdd dychmygus neu arloesol drwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r radd Meistr hon yn eich annog i ymgysylltu â damcaniaethau allweddol a dadleuon cyfoes, gan feithrin eich dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae’r rhain yn dylanwadu ar sut mae’ch syniadau yn cael eu datblygu, eu mynegi a’u cyfathrebu, a fydd yn effeithio ar lwyddiant eich ymarfer yn y dyfodol fel artist, gwneuthurwr neu academydd.

Hyd y rhaglen:

Mae’r rhaglen MA Cerameg a Gwneuthurwr ar gyfer unigolion sy’n ceisio ymestyn a datblygu eu hymarfer yn ogystal â chynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc fel ymarferwyr, ymchwilwyr neu academyddion yn y dyfodol. Byddwch yn cael eich annog i herio normau ac i gwestiynu confensiynau trwy gyfuno materoldeb a chysyniad. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar drafodaeth feirniadol a hanesyddol - iaith hanfodol ar gyfer celf a dylunio cain a chymhwysol. Mae’r rhaglen yn eich galluogi i ddod yn artist, gwneuthurwr neu ddylunydd o’r iawn ryw sy’n arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn celf neu ddylunio, neu ddatblygu’ch gyrfa fel artist, gwneuthurwr neu ddylunydd.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol.

Menter Greadigol ac Arloesi MA/PgD/PgC Mae arloesi’n hanfodol i ddiogelu cymdeithas ar gyfer y dyfodol. Yn seiliedig ar gyd-destunau economaidd, moesegol, cymdeithasol a thechnolegol, mae angen meddylfryd entrepreneuraidd sy’n gallu addasu i newid cyson. Nod y radd Meistr hon mewn Menter Greadigol ac Arloesi yw datblygu a lansio busnesau’r myfyrwyr eu hunain drwy ymarfer seiliedig ar ymchwil ac ymchwil seiliedig ar ymarfer. Mae’n darparu llwybr academaidd i chi allu datblygu eich syniad menter a datblygu’ch cynnig busnes yn barod ar gyfer datblygiad masnachol neu lansiad. Ei nod yw datblygu eich dulliau gweithio entrepreneuraidd mewn perthynas â’ch ymarfer, gan feithrin y sgiliau ymchwil a busnes sydd eu hangen arnoch i ddechrau a chynnal busnes.

Hyd y rhaglen:

Mae ein MA menter greadigol yn caniatáu i chi edrych yn fanwl ar ddiddordeb ymchwil a menter mewn perthynas â chelf a dylunio, crefft dylunio, y diwydiannau diwylliannol a chreadigol neu fentrau cymdeithasol; gan ddarparu amgylchedd i chi elwa ar eraill sy’n gweithio mewn arferion creadigol cyfagos. Mae’r rhaglen yn eich galluogi i sefydlu ac ehangu gwybodaeth arbenigol drwy ymarfer seiliedig ar ymchwil ac ymchwil seiliedig ar ymarfer sy’n cwmpasu dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, llesiant a dylunio cynhwysol, profiad dynol ac arferion cynaliadwy a moesegol. Byddwn yn eich galluogi i osod eich diddordebau ymchwil o fewn y cyd-destunau byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach sy’n berthnasol i dirwedd ymchwil celf a dylunio gyfoes, gan feithrin y meddwl beirniadol a fydd yn eich cynorthwyo yn eich gyrfa.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol. 16


Y llynedd, yn ystod fy MA Cerameg ym Met Caerdydd, bues yn ddigon ffodus i gwblhau lleoliad preswyl yn y gweithdy crochenwaith yn Jingdezhen, Tsieina. Dychwelais i Met Caerdydd saith wythnos yn ddiweddarach gyda phen yn llawn straeon a sgiliau, ynghyd ag iaith newydd o ddeunydd, offer a chlai i’w rhannu gyda’m cyd-fyfyrwyr ac yn fy arddangosfa unigol gyntaf. Cafodd fy lleoliad preswyl yn Tsieina ei hwyluso’n llawn gan Met Caerdydd, ac roedd cefnogaeth fy narlithwyr ar y rhaglen yn yr Ysgol yn anhygoel. John Bennett, MA Cerameg a Gwneuthurwr

17


Dylunio Ffasiwn MA/PgD/PgC ​ ae’r MA Dylunio Ffasiwn yn hyrwyddo meddylfryd dylunio M arloesol ac yn meithrin ethos o arbrofi sy’n gweddu i astudiaethau ôl-raddedig mewn Ysgol Gelf a Dylunio. Ei nod yw cynhyrchu ymatebion unigryw i dueddiadau’r farchnad a gofynion technolegol, gan feithrin dealltwriaeth o ddylunio cyfoes mewn cyd-destunau byd-eang. Yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, byddwch yn cael eich annog i edrych ar gyfuniadau llawn dychymyg o ddeunyddiau a thechnoleg i ddatblygu eich hunaniaeth greadigol unigol. Yn ystod y broses hon drwyddi draw, byddwch yn ymgorffori eich dyluniadau o fewn fframwaith cysyniadol sy’n cwmpasu safbwyntiau cymdeithasol, diwylliannol a moesegol. Mae cydweithio creadigol gyda myfyrwyr ôl-raddedig o amrywiaeth o ddisgyblaethau o fewn yr Ysgol yn cael ei feithrin, gan weithio tuag at gasgliad dylunio sy’n cynnwys dillad ac ategolion, steilio brand, hyrwyddo ac arferion curadurol. Bydd y pwyslais ar lwybr ymchwil esblygol wrth baratoi portffolio proffesiynol a all ddenu diddordeb gan frandiau rhyngwladol, cynhyrchu labeli dylunio llwyddiannus a pharatoi hefyd ar gyfer ymchwil ôl-raddedig bellach. Mae’r rhaglen MA Dylunio Ffasiwn yn eich galluogi i ddod yn artist, gwneuthurwr neu ddylunydd o’r iawn ryw sy’n arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn celf neu ddylunio, neu ddatblygu’ch gyrfa fel artist, gwneuthurwr neu ddylunydd.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

G ofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol.

18


Mae fy mhrofiad o astudio rhaglen Meistr mewn Ffasiwn ym Met Caerdydd wedi bod yn un cyffrous. Roeddem yn cael ein hannog i ddysgu’n annibynnol gydol y rhaglen. I greu allbwn fy thesis MA, mentrais y tu hwnt i ffiniau ffasiwn er mwyn cynhyrchu dilledyn amlweddog a oedd yn cynnwys technolegau y gellir eu rhaglennu. Gydol y broses, roedd fy nhiwtoriaid yn hynod gefnogol, gan fy helpu i weld pa gydrannau a deunyddiau oedd eu hangen, a’m cyflwyno i godio. Fel dylunydd, mae fy ngwybodaeth a’m sgiliau newydd wedi fy helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’m maes a’m hamgylchoedd; fel athro, byddaf yn gallu rhannu mwy o gyfoeth o wybodaeth gyda’m myfyrwyr yn y dyfodol; fel person rydw i wedi magu aeddfedrwydd a hyder. Bea Bajarias, MA Dylunio Ffasiwn

19


Celfyddyd Gain MFA Mae’r rhaglen Meistr Celfyddyd Gain (MFA) ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu eu hymarfer neu eu gwybodaeth broffesiynol o fewn disgyblaeth Celfyddyd Gain. Gallai hyn gynnwys athrawon, artistiaid sy’n ymarfer, gweithwyr cymunedol, gweinyddwyr y celfyddydau, neu raddedigion diweddar mewn Celfyddyd Gain sydd eisiau datblygu eu hymarfer proffesiynol ymhellach. Fe’i cynlluniwyd i ymateb i fyfyrwyr sydd eisoes yn ymarfer - y rhai sy’n gallu penderfynu’n hawdd ble maen nhw mewn perthynas â’u maes, ei hanes o arferion a ffyrdd o weithio. Rôl yr MFA yw gweithio tuag allan, tuag at gyd-destun ar gyfer eich ymarfer. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu eich ymarfer celf ar draws meysydd pwnc gan gynnwys celfyddyd gain, tecstilau, cerameg, gwneud, a darlunio, tra’n datblygu eich sgiliau proffesiynol ac ymchwil. Mae cwricwlwm yr MFA wedi’i gynllunio i gynhyrchu artistiaid cain galluog, proffesiynol a than gyfarwyddyd, rhoi hwb i’ch gyrfa a datblygu’ch syniadau. Mae’r rhaglen MA Celfyddyd Gain yn eich galluogi i ddatblygu’ch gyrfa fel artist neu i ddod yn artist sefydledig sy’n arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

G ofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol.

20


Mae’r flwyddyn ddiwethaf yn astudio’r radd Meistr mewn Celfyddyd Gain wedi bod yn addysg ac ysbrydoliaeth heb ei hail i mi fel myfyrwraig ifanc sy’n dyheu am fod yn arlunydd. Mae ymweld â’r Biennial yn Lerpwl gyda rhai o’m cyfoedion, gweithio’n agos gyda myfyrwyr eraill yn ein gofod stiwdio a chynhyrchu a churadu arddangosfeydd ymhith y profiadau anhygoel rydw i wedi eu cael yn y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, yr uchafbwynt i mi oedd y cyfle i weithio fel goruchwyliwr yn Biennale Fenis am bum wythnos, yn cynrychioli Cymru ac arddangosfa Sean Edwards ‘Undo Things Done’. Cefais wneud cais am y profiad unwaith mewn bywyd hwn drwy Met Caerdydd, wrth i dri myfyriwr gael eu dewis i weithio yn Fenis fel rhan o dîm Cymru yn Fenis. Mae’r profiad o weithio gyda’r tîm wedi agor llawer o ddrysau i mi ac wedi ysbrydoli fy ymarfer yn fawr. Roedd yn gyfle i mi gwrdd â phobl o bob rhan o Gymru sy’n ymddiddori mewn celf a thrafod ein hymarfer a’r posibilrwydd o gydweithio. Cefais gyfle hefyd i gael tiwtorialau gydag artistiaid a churaduron llwyddiannus ynglŷn â’m hymarfer a hyd yn oed cael byw yn Fenis a phrofi’r Biennale am dros fis. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Brifysgol am ddarparu’r profiad anhygoel hwn, a byddaf yn trysori’r atgofion am weddill fy mywyd. Gwenllian Llwyd, MFA Celfyddyd Gain

21


Dylunio Byd-eang MDes/PgD/PgC Fel dylunwyr byd-eang rydym yn meddu ar y gwerthoedd, yr egwyddorion, yr arferion a’r prosesau i greu gweithredoedd ac allbynnau treiddiol sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng sy’n bygwth dyfodol y blaned a’i phobl. Rhaid i ni wneud y gorau o ddychymyg, dyfaliad a gweledigaeth ein crefft er mwyn dwyn ynghyd ac ysgogi gwyddonwyr, technolegwyr, ecolegwyr a gwleidyddion mewn cenhadaeth i wella bywydau nawr. Mae ein rhaglen MDes Dylunio Byd-eang ar gyfer dylunwyr sydd am chwarae eu rhan yn y genhadaeth honno. Rydym yn chwilio am raddedigion ymroddedig sy’n angerddol ynghylch ysgogi newid byd-eang, lleol ac unigol er mwyn adeiladu dyfodol cynaliadwy a bywiog i’r blaned, ei hecolegau a’i phobl. Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol a byd-eang, byddwch yn datblygu prosiect o’ch dewis chi mewn partneriaeth â chleientiaid ac ymchwilwyr sefydledig yn y byd go iawn. Yn ystod y rhaglen drwyddi draw byddwch yn ymgymryd â dulliau a phrosesau i ddylunio ar gyfer newid mewn ffordd sy’n chwareus a damcaniaethol ar yr un pryd, yn ogystal â hynod drwyadl. Mae’r rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr o gefndir ymarfer a rhai sydd ddim o gefndir ymarfer archwilio diddordeb mewn perthynas â chynaliadwyedd, moeseg, iechyd, diogelwch a’r amgylchedd drwy ddiwylliant ymchwil sy’n blaenoriaethu meithrin perthnasoedd, archwilio ar draws disgyblaethau a rhwng disgyblaethau, a chydweithio â rhanddeiliaid. P’un ai ymarfer seiliedig ar ymchwil neu ymchwil seiliedig ar ymarfer yw’ch ffocws, rydym ni’n disgwyl i chi leoli’ch diddordebau ymchwil o fewn y cyd-destunau byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol ehangach sy’n berthnasol i dirwedd ymchwil Celf a Dylunio gyfoes. Mae’r rhaglen MA Dylunio Byd-eang yn eich galluogi i ddod yn ddylunydd sefydledig sy’n arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn celf neu ddylunio, neu i ddatblygu’ch gyrfa fel dylunydd.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol.

22


FFOCWS AR ARBENIGWR Mae datrys problemau o bwys wedi mynd â’m bryd erioed, ac roedd fy ngyrfa gynnar yn canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion masnachol newydd ar gyfer cwmnïau fel Apple ac Ericsson. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cydweithio â sefydliadau amrywiol i wneud gwaith ymchwil i ddyluniad a datblygiad dulliau a strategaethau arloesi newydd, ac wedi helpu cwmnïau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd. O ganlyniad, dechreuais ymddiddori yn y ffactorau a’r prosesau sy’n effeithio ar greadigrwydd personol a sefydliadol, felly dyma ddechrau treiddio’n ddyfnach i ymchwil creadigrwydd. Mae creadigrwydd yn ymwneud â chreu atebion newydd ar gyfer yr economi, cwmnïau, cymunedau, unigolion ac ar gyfer y blaned. Mae’n hanfodol i lwyddiant sefydliadau yn y dyfodol, ac i fynd i’r afael â’r heriau y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Mae llawer o ffactorau sy’n effeithio ar greadigrwydd, o gymhelliant, ymgysylltiad a datblygu sgiliau personol i strwythurau, strategaethau a phrosesau sefydliadol. Mae deall yr holl ffactorau hyn a’r rhyngberthynas rhyngddynt yn bwysig gan fod gan hynny oblygiadau o ran sut rydym ni’n galluogi creadigrwydd i ffynnu y tu mewn i sefydliadau, ac o ran sut rydym ni’n addysgu ein myfyrwyr. Dr Gareth Loudon, Athro Creadigrwydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd 23


Mae cwblhau gradd Meistr wedi bod yn brofiad cadarnhaol. Mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu fel artist ac ehangu fy ngwaith drwy astudiaethau, ymchwil ac ymarfer hunangyfeiriedig, gan fy helpu i ffurfio portffolio mwy proffesiynol a chyflawn. Mae hynny yn ei dro yn caniatáu i mi ymgeisio am amrywiaeth ehangach o swyddi yn y diwydiant. Yn ystod y rhaglen cefais y cyfle i gwrdd a gweithio gydag artistiaid eraill ar sawl prosiect, gan ennill profiad gwerthfawr wrth gydweithio â phobl â gwahanol sgiliau. Yr agwedd bwysicaf ar y rhaglen fu datblygu fy arddull fy hun fel artist ymhellach drwy gydol y flwyddyn, ac o ganlyniad penderfynu i ba gyfeiriad rydw i eisiau mynd yn broffesiynol, a ble i ganolbwyntio fy egni a’m celfyddyd er mwyn bod yn llwyddiannus fel artist. Markos Kyriakopoulos, MA Darlunio ac Animeiddio

24


Darlunio ac Animeiddio MA/PgD/PgC Nid yw rôl y darlunydd neu’r animeiddiwr yn un fyrhoedlog, dros dro neu ddim mwy nag adloniant. Mae’n ecolegol, yn ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn dechnolegol, gan herio momentwm yr unfed ganrif ar hugain. Rhaid i ddarlunwyr ac animeiddwyr ddefnyddio’u sgiliau a’u dychymyg i ymateb i’r hinsawdd wleidyddol a diwylliannol ehangach gyda mwy o frys ac egni nag erioed. Mae dychymyg yn rym pwerus, gyda’r gallu i greu a chyflunio syniadau newydd a datblygu breuddwydion i unigolion a dynoliaeth yn ei chyfanrwydd. Mae’r rhaglen gradd Meistr hon yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddarlunwyr ac animeiddwyr i harneisio’r pŵer hwn yn effeithiol yn eu hymarfer unigryw. Bydd y rhaglen hon yn apelio at raddedigion o unrhyw un o ddisgyblaethau’r celfyddydau gweledol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sydd eisiau hogi eu sgiliau beirniadol a damcaniaethol. Byddwch yn archwilio rôl y darlunydd neu’r animeiddiwr drwy ddulliau dyfaliadol mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol. Drwy gyfuniad o ymarfer stiwdio hunangyfeiriedig, darlithoedd, sesiynau seminar a grwpiau darllen, byddwch yn cael eich arwain yn agos ac yn unigol i archwilio’ch ymarfer eich hun drwy’ch prosiect arfaethedig, fel proses feirniadol ac ail-gyfarwyddiadol. Rydym am recriwtio graddedigion creadigol dewr, dyfaliadol, dychmygus ac ymroddedig sy’n rhannu ein brwdfrydedd am ymchwil sy’n torri tir newydd ar gyfer darlunio a/neu animeiddio, a’n greddf i ddychmygu ac egluro. Bydd ein rhaglen MA Darlunio ac Animeiddio yn eich galluogi i ddatblygu’ch gyrfa fel darlunydd, artist, neu animeiddiwr sefydledig neu i ddod yn ddarlunydd, artist neu animeiddiwr sefydledig, gan arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn celf neu ddylunio.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol.

25


Mae fy mhrofiad fel myfyriwr ôl-raddedig ym Met Caerdydd wedi bod yn un o dwf personol, academaidd a phroffesiynol aruthrol. Mae’r staff yn yr Ysgol Gelf a Dylunio yn ofalgar, yn llawn anogaeth, ac wedi gwneud i mi deimlo fel rhan o dîm a rhan o deulu ehangach, yn hytrach na dim ond myfyriwr. Mae fy ngoruchwylwyr a’m cyfarwyddwr astudiaethau wedi fy arwain mewn ffordd sydd wedi datblygu fy hyder a’m hannibyniaeth yn fawr, a hynny y tu hwnt i’r cyd-destun academaidd hefyd. Mae’r gwaith ymchwil a wnes i yn ystod fy PhD wedi fy ngalluogi i ddatblygu technoleg a meddalwedd arloesol ymhellach, a datblygu canllawiau newydd sydd wedi cael goblygiadau go iawn yn niwydiant bwyd Cymru. Mae’r Brifysgol wedi fy helpu i fynychu cynadleddau sydd hefyd wedi ennyn diddordeb mawr mewn cydweithio masnachol ac academaidd rhwng ein prifysgol a sefydliadau a diwydiannau eraill. Abbie Lawrence, PhD Meddwl am Fwyd: Dull wedi’i seilio ar dystiolaeth o wella cystadleurwydd diwydiant bwyd Cymru

26


Celf a Dylunio MRes/PgC Res Mae’r MRes (Celf a Dylunio), Meistr Ymchwil mewn Celf a Dylunio, yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau paratoi ar gyfer ymchwil lefel doethuriaeth ym maes Celf a Dylunio, neu’r rhai sy’n dymuno datblygu amrywiaeth o sgiliau ymchwil creadigol i wella eu hymarfer neu eu gyrfa celf neu ddylunio, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bwriedir i’r rhaglen fod yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o ymchwil ym maes Celf a Dylunio a’r rhai heb ddim neu fawr ddim cefndir mewn ymchwil o unrhyw faes. Mae ymchwil greadigol wrth wraidd Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, ac mae’n gartref i amrywiaeth o ganolfannau a grwpiau sy’n gwneud gwaith ymchwil creadigol a rhyngddisgyblaethol arloesol sydd gyda’r gorau yn y byd. Rydym ni’n manteisio ar elfennau o fyd y Celfyddydau, y Gwyddorau, y Dyniaethau ac Athroniaethau ac yn defnyddio amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys ein Labordy Profiad Canfyddiadol (PEL) a’n MIT-FabLab, yn ogystal â’n arlwy helaeth o weithdai gwneuthurwyr traddodiadol a chyfoes, stiwdios arbenigol a thechnolegau digidol. Rydym ni’n annog cydweithio amlddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol gyda disgyblaethau ymchwil eraill, yn ogystal â gyda sectorau masnachol a chymunedol mewn cymdeithas ar draws y byd. Rydym ni’n gweithio’n agos gyda chanolfannau ymchwil eraill ar draws y Brifysgol hefyd. Mae ein rhaglen MRes Celf a Dylunio yn sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil greadigol, fel gweithiwr proffesiynol yn y celfyddydau sy’n ymgymryd ag unrhyw fath o ymarfer seiliedig ar ymchwil yn eu maes, neu i unrhyw un sy’n bwriadu mynd ymlaen i gwblhau PhD neu DProf.

Hyd y rhaglen: 12 neu 18 mis yn llawn-amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer mae angen gradd anrhydedd israddedig dda (2:1 neu uwch) i gael lle ar y rhaglen. Fodd bynnag, croesewir ymgeiswyr sydd â phrofiad neu gymwysterau proffesiynol perthnasol, a byddant yn cael eu hystyried yn unigol. Gellir ystyried myfyrwyr sydd â gradd israddedig is na’r gofynion ond sydd wedi dangos rhagoriaeth yn yr agweddau damcaniaethol ar Gelf a Dylunio hefyd.

27


Dylunio Cynnyrch MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Dylunio Cynnyrch yn rhaglen Meistr a addysgir sy’n seiliedig ar waith ymarferol. Mae ganddi gysylltiadau rhagorol â’r diwydiant ac mae’n canolbwyntio ar wella cyflogadwyedd ei graddedigion. Mae’n cydbwyso datblygu sgiliau dylunio ymarferol uwch â thrylwyredd academaidd ac ymchwil gymhwysol yn seiliedig ar weithgareddau ymchwil presennol Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a’r brifysgol ehangach. Bydd y rhaglen yn datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth am ddylunio rhyngweithio sy’n canolbwyntio ar bobl, profi cynnych ymysg defnyddwyr, cynllunio gwasanaethau, creadigrwydd, a thechnegau ymchwil ethnograffig. Byddwch yn edrych hefyd ar effeithiau cymdeithasol, cyfreithiol, moesegol a chynaliadwyedd amrywiol ddulliau o ddatblygu dyluniad. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol cyfredol a blaenllaw ac yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o egwyddorion ffisegol, canfyddiadol a gwybyddol ym maes dylunio. Datblygwyd y rhaglen mewn ymgynghoriad â’r diwydiant, ac mae’n cynnal cysylltiadau masnachol agos drwy fodiwlau ar leoliad, nawdd ar gyfer prosiectau mawr, a briffiau byw. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i raddedigion o arferion y diwydiant, a’r broses o ddatblygu dyluniad mewn cyd-destun masnachol cyfannol. Nod y rhaglen yw gwella’ch cyflogadwyedd drwy ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae galw amdanyn nhw mewn diwydiannau yma ac yn fyd-eang, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu eich galluoedd fel entrepreneur. Bydd cwblhau gradd Meistr Dylunio Cynnyrch yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ddod yn ddylunydd neu reolwr dylunio sefydledig ac effeithiol, neu ddilyn cwrs PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn maes cysylltiedig â dylunio.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer, byddwch wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch (gradd dosbarth 1af neu 2:1) mewn pwnc priodol, a/neu statws proffesiynol neu brofiad cyfatebol.

28


Fy mhrif reswm dros astudio’r rhaglen MSc oedd i’m paratoi ymhellach ar gyfer y diwydiant. Er fy mod yn credu bod y rhaglen i israddedigion wedi fy mharatoi mwy na digon ar gyfer rôl dylunydd, roeddwn i’n gwybod y gallwn elwa rhagor ar y rhaglen Meistr; cyfle i fod un cam ar y blaen i’r gystadleuaeth a datblygu dull mwy manwl o ddylunio cynnyrch Tom Fantom, MSc Dylunio Cynnyrch

29


YSGOL ADDYSG A PHOLISI CAERDYDD Mae Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ar draws meysydd addysg, y dyniaethau, polisi cymdeithasol, addysg athrawon a dysgu proffesiynol. Mae’n gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), ac mae’r Ysgol yn manteisio ar fwy na 60 mlynedd o brofiad o ddarparu AGA ac yn gweithio ar y cyd â’i phartneriaid i sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer SAC. Gwnawn hyn drwy ddarparu addysg achrededig a phroffesiynol o ansawdd uchel, sy’n drwyadl ymarferol ac yn her ddeallusol. Mae ein cymuned ôl-raddedig ac ymchwil yn datblygu’n barhaus i adlewyrchu portffolio’r Ysgol a blaenoriaethau cenedlaethol. Mae gan staff yr Ysgol amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil, gyda phroffiliau ymchwil sefydledig. Yn ogystal, mae cyfran sylweddol o ddarlithwyr yn dilyn graddau uwch ac yn datblygu diddordebau ymchwil ychwanegol. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau ymchwil Addysg ar draws y Brifysgol a thu hwnt i adlewyrchu ein diddordeb mewn ymchwil ryngddisgyblaethol. Mae timau ymchwil a goruchwylio ymchwil yr Ysgol yn seiliedig ar ddau grŵp, y naill a’r llall yn adlewyrchu casgliad amrywiol o ffocysau ymchwil:

Grŵp Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRG)

Grŵp Ymchwil Addysg a Chymdeithasol (ESRG)

Mwy o wybodaeth Am ragor o fanylion am y gwaith ymchwil a wneir gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd a’r amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/yaphcmc

30


L lenyddiaeth Saesneg ................... 32 MA/PgD/PgC

A ddysg Ôl-orfodol . . ....................... 38 a Hyfforddiant TAR/PCE

L lenyddiaeth Saesneg ac .............. 32 Ysgrifennu Creadigol MA/PgD/PgC

TAR Cynradd ................................... 41

Ysgrifennu Creadigol ..................... 35 MA/PgD/PgC A ddysg (gyda llwybrau) ................. 36 MA/PgD/PgC A ddysg: MA TESOL ......................... 36

TAR Uwchradd ................................ 42 N ewyddiaduraeth ........................... 47 Arbenigol MA/PgD/PgC G waith Ieuenctid a ......................... 49 Chymunedol PgD/Addysg: Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

S eicoleg mewn Addysg .................. 37 MSc/PgD/PgC 31


Llenyddiaeth Saesneg MA/PgD/PgC Mae’r radd MA Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig dadansoddiad difyr tu hwnt o lenyddiaeth Saesneg gan ddefnyddio testunau o’r ‘bedwaredd ganrif ar bymtheg hir’ hyd heddiw. Mae’r radd yn canolbwyntio ar gynrychioliadau testunol hanesyddol a chyfoes o le, gan ddamcaniaethu cynrychioliadau diwylliannol ac arferion yn ymwneud â genre, gofod, hanes, testunoldeb, rhyw a rhywioldeb ac effaith y rhain ar luniadau o hunaniaeth. Nod y rhaglen hyblyg hon yw’ch cynorthwyo wrth i chi ddatblygu a hogi eich sgiliau ysgrifennu beirniadol ac ymchwil, yn enwedig mewn perthynas â llenyddiaeth sy’n mynd i’r afael â genre, rhyw a rhywioldeb, hanes, lle a gofod. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr ac awduron cyhoeddedig. Mae gennym arbenigedd ar

Hyd y rhaglen:

draws nifer o feysydd ac mae ein cymuned academaidd yn un fywiog a deinamig gyda chysylltiadau cryf â’r diwydiant. Mae’r rhaglen yn addas os ydych chi’n addysgu Llenyddiaeth Saesneg Lefel ‘A’ neu TGAU ac yn awyddus i wella’ch arbenigedd at ddibenion datblygiad proffesiynol ac addysgu o fewn eich cwricwla cyfredol. Bydd yr MA yn eich helpu hefyd i arbenigo ym meysydd llenyddiaeth gyfoes a hanesyddol i’ch paratoi ar gyfer astudio ymhellach ar lefel PhD. Gall gradd Meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg arwain at amrywiaeth o yrfaoedd sy’n cynnwys meysydd arbennig o berthnasol fel addysgu, ymchwil, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, y Gwasanaeth Sifil, cyhoeddi, y cyfryngau, a chyflogaeth yn y sectorau cyhoeddus neu wirfoddol.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol.

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol MA/PgD/PgC Mae’r MA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn radd a addysgir werth chweil, sy’n cyfuno astudio llenyddiaeth Saesneg gydag ysgrifennu creadigol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff academaidd sy’n ymarferwyr ac yn ymchwilwyr ac sydd ag arbenigedd ar draws nifer o feysydd.

Mae elfen llenyddiaeth Saesneg y radd yn dadansoddi cynrychioliadau testunol hanesyddol a chyfoes o le, gan ddamcaniaethu cynrychioliadau diwylliannol ac arferion yn ymwneud â genre, gofod, hanes, testunoldeb, rhyw a rhywioldeb ac effaith y rhain ar luniadau o hunaniaeth.

Mae llawer o’n myfyrwyr yn defnyddio’r rhaglen i gynhyrchu a gwella eu hysgrifennu eu hunain i’w gyhoeddi. Mae ein modiwlau ymarfer creadigol wedi’u cynllunio gyda golwg ar gyhoeddi’r gwaith yn y pen draw.

Mae’r elfen ysgrifennu creadigol yn ceisio datblygu a hogi eich sgiliau ysgrifennu creadigol a beirniadol ar draws meysydd ffuglen, ffeithiol creadigol, sgriptiau a barddoniaeth. Mae ein cymuned academaidd yn fywiog ac yn ddeinamig gyda chysylltiadau cryf â’r diwydiant.

Mae’r MA yn ddewis gwych hefyd os ydych chi’n ceisio gwella eich cyfleoedd cyflogaeth a phroffesiynol mewn gyrfaoedd golygyddol a chyhoeddi. Mae’r rhaglen yn addas hefyd os hoffech chi ddod yn athro llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol, yn ogystal ag athrawon presennol sydd eisiau datblygu’n broffesiynol. Mae ein MA yn briodol os hoffech chi gael gyrfa mewn addysg ac ymarfer yn y gymuned. Mae’r rhaglen yn eich paratoi ar gyfer astudio ymhellach ar lefel PhD hefyd.

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

G ofynion mynediad:

Gradd anrhydedd dosabrth cyntaf neu ail uchaf mewn pwnc perthnasol. Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol.

32


Gwnaeth astudio’r MA wneud i mi deimlo fel awdur a rhoddodd yr hyder i mi fod yn ysgrifennwr copi llawrydd. Ar ôl graddio, sefydlais fy musnes llawrydd fy hun – Mountain Top Copywriting– ac rwy’n ysgrifennu ar gyfer cleientiaid o bob math, o elusennau i fragdai. Mae rhai o’m cerddi, erthyglau a straeon wedi cael eu cyhoeddi, ac mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i ddilyn lwybr creadigol gydol oes. Lisa Derrick, MA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

33


FFOCWS AR ARBENIGWR Rydw i’n Americanes sy’n ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen a gweithiau ffeithiol. Fy niddordebau ymchwil yw barddoniaeth gyfoes, addysgeg ysgrifennu creadigol a rôl ysgrifennu creadigol mewn cyd-destunau therapiwtig a chymunedol. Mae fy mhrofiadau fel awdur cyhoeddedig, ymchwilydd a hwylusydd cymunedol yn fy rhoi mewn sefyllfa dda i gefnogi diddordebau amrywiol ein myfyrwyr Ysgrifennu Creadigol. Rydw i’n cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu dulliau ymchwil a’u gwaith creadigol. Rydw i hefyd yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw hwyluso yn y gymuned yn fy ngrŵp ysgrifennu lleol, Roath Writers, a’u haddysgu i allu dechrau arwain gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol. Christina Thatcher, Darlithydd MA Ysgrifennu Creadigol

34


Ysgrifennu Creadigol MA/PgD/PgC Nod yr MA gwerh chweil mewn Ysgrifennu Creadigol yw’ch cynorthwyo wrth i chi ddatblygu a hogi eich sgiliau ysgrifennu creadigol a beirniadol ar draws meysydd ffuglen, ffeithiol creadigol, sgriptiau a barddoniaeth. Byddwch yn cael eich addysgu gan awduron ac ymchwilwyr cyhoeddedig sydd ag arbenigedd ar draws nifer o feysydd ac mae ein cymuned academaidd yn fywiog ac yn ddeinamig gyda chysylltiadau cryf â’r diwydiant. Mae llawer o’n myfyrwyr yn defnyddio’r rhaglen i gynhyrchu a gwella eu hysgrifennu eu hunain i’w gyhoeddi. Mae ein modiwlau ymarfer creadigol wedi’u cynllunio gyda golwg ar gyhoeddi’r gwaith yn y pen draw. Mae ein hasesiadau wedi’u llunio gyda golwg ar gyhoeddi, perfformio a/neu gynhyrchu ac mae nifer o’n myfyrwyr wedi cyhoeddi gwaith a chael llwyddiant yn y diwydiant. Gallwch astudio ein MA hyblyg at ddibenion datblygiad proffesiynol, er mwyn gwella eich gyrfa a pharatoi eich ysgrifennu ar gyfer ei olygu a’i gyhoeddi. Mae’r rhaglen yn addas os hoffech ddod yn Athro llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol, yn ogystal ag ar gyfer athrawon presennol sy’n awyddus i gamu ymlaen yn eu datblygiad proffesiynol. Mae ein MA yn briodol hefyd os hoffech chi gael gyrfa mewn addysg ac ymarfer yn y gymuned, yn ogystal â’ch helpu i arbenigo yn y meysydd ymarfer creadigol er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer astudio doethuriaeth.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

G ofynion mynediad: Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol.

35


Addysg (gyda llwybrau) MA/PgD/PgC* Nod y rhaglen Meistr Addysg arloesol hon yw cynhyrchu addysgwyr sy’n gallu gweithredu ar y lefelau uchaf ym maes addysg. Yn ystod y rhaglen mae myfyrwyr yn dysgu sut i integreiddio theori ag ymarfer a chymhwyso trylwyredd deallusol ac academaidd, ar sail ymchwil addysgol cyfredol, i’w cyd-destun proffesiynol. Mae pum llwybr i ddewis o’u plith:

Llwybrau Addysg - MA Arweinyddiaeth Addysgol - MA Addysg: Ymarfer Cymunedol - MA Addysg: Gwaith Ieuenctid a Chymunedol - MA Addysg: Polisi ac Ymarfer - MA Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol - MA

H yd y rhaglen:

Mae’r dyfarniadau hyn wedi’u datblygu ar ôl ymgynghori helaeth â chyflogwyr, athrawon, gweithwyr addysg proffesiynol a myfyrwyr. Gellir astudio’r rhaglen lawn amser neu ran-amser hyblyg hon drwy gyfuniad o fynychu mewn blociau neu drwy ddysgu cyfunol. Mae modiwlau ar gael fel rhan o’r cwricwlwm, neu fel cyrsiau byr achrededig y gellir eu cyfrif fel credyd tuag at un o’r llwybrau MA. Gall graddedigion TAR ddewis dilyn llwybr carlam drwy’r rhaglen MA oherwydd bod 60 o gredydau lefel Meistr yn cael eu hystyried wrth wneud cais. Mae graddedigion blaenorol wedi cael dyrchafiad yn y sector addysg, gan gynnwys i swyddi rheoli ac arwain mewn ysgolion ac yn y gymuned, arweinwyr y cwricwlwm, swyddi mewn gwasanaethau cynghori, swyddi darlithio ac ymchwil mewn addysg uwch, a gwaith gydag adrannau addysg llywodraethau ar draws y byd.

1-2 flynedd (MA Addysg yn unig) yn llawn-amser neu 2-4 blynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd 2:2 neu uwch. Mae angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer unrhyw ymchwil/lleoliad mewn ysgol neu leoliad ieuenctid a chymunedol. *Yn amodol ar ailddilysu

Addysg: TESOL (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) MA Mae’r rhaglen hon yn ymdrin â hanfodion Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ar lefel Meistr. Byddwch yn archwilio materion allweddol yn y maes gan gynnwys dulliau addysgu ar gyfer Addysgu Saesneg, Addysgu Saesneg i Ddysgwyr Ifanc, Saesneg at Ddibenion Penodol, gan gynnwys Saesneg at Ddibenion Academaidd, a Chaffael Ail Iaith. Mae’r cwricwlwm yn cyfuno damcaniaeth ag ymarfer ac mae’n unigryw, yn rhyngwladol, ac yn heriol. Ein nod yw datblygu gallu beirniadol, creadigrwydd, sensitifrwydd diwylliannol a llythrennedd digidol myfyrwyr, yn ogystal â’u sgiliau proffesiynol dros gyfnod y rhaglen.

Hyd y rhaglen:

Gall graddedigion wneud cais am swyddi addysgu mewn amrywiaeth o gyd-destunau sy’n addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion iaith preifat, adrannau hyfforddi mewn cyd-destunau proffesiynol, datblygu deunyddiau, ac adrannau Saesneg mewn prifysgolion (rhaglenni cyn-sesiynol) ymhlith eraill. Gall graddedigion y rhaglen fynd ymlaen i astudio ar lefel PhD ym Met Caerdydd neu mewn prifysgolion eraill.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol. Ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, rhaid i ymgeiswyr ddangos hyfedredd yn y Saesneg i sgôr gyffredinol IELTS o 6.0 neu gyfwerth, gyda dim llai na 6.0 ar y papur Ysgrifennu. 36


Seicoleg mewn Addysg MSc/PgD/PgC* Mae’r rhaglen hon yn gwrs trosi ac nid oes gofyniad i fyfyrwyr fod wedi astudio seicoleg a/neu addysg yn flaenorol. Nod y rhaglen MSc Seicoleg mewn Addysg yw bodloni gofynion Cymdeithas Seicolegol Prydain ar gyfer Sail Graddedigion ar gyfer aelodaeth Siartredig. Mae’r ffocws ar gymhwyso seicoleg i addysg yn diwallu anghenion y rhai sydd â diddordeb mewn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl yn y maes hwn, ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cam nesaf eu gyrfaoedd. Mae’r MSc yn ceisio hyrwyddo sgiliau meddwl beirniadol a myfyrio uwch a datblygu’r gallu i rannu cymwysiadau addysgol o theori ac ymchwil seicolegol yn broffesiynol â chynulleidfa ehangach. Gellir astudio modiwlau

Hyd y rhaglen:

o fewn yr MSc ar wahân i gynyddu gwybodaeth am bynciau penodol. Bydd cwblhau’r MSc yn llwyddiannus yn rhoi Sail Graddedigion ar gyfer Siarteriaeth (GBC) gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)* (sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa fel seicolegydd yn y dyfodol). Gall myfyrwyr ag achrediad BPS presennol sydd â GBC yn barod wella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad drwy leoliad ymarfer proffesiynol mewn lleoliad anghenion addysgol arbennig/ychwanegol. Asesir y modiwl dewisol hwn gan ddarn o ymchwil weithredol yn y lleoliad, wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â darparwr y lleoliad.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Disgwylir i ymgeiswyr fodloni’r gofynion sylfaenol canlynol: Fel arfer, gradd anrhydedd dda 2:1 neu uwch, ond o leiaf gradd ail ddosbarth is; neu Cymhwyster nad yw’n radd sy’n cael ei ystyried i fod o safon foddhaol i gael lle ar gwrs ôl-raddedig. Mae’n bosibl y bydd llwybrau mynediad eithriadol ar gael i ddarpar fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion sylfaenol. *Yn amodol ar ddilysu ac achrediad BPS

37


Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) TAR PCE Bydd y TAR a’r PCE AHO yn eich cymhwyso i addysgu ym maes Addysg Bellach ac Uwch, addysg ieuenctid, oedolion a chymunedol, y sector 14-19, addysg seiliedig ar waith, hyfforddi yn y lluoedd arfog, addysg mewn carchardai, adrannau hyfforddiant diwydiant a masnachol.

Bydd myfyrwyr graddedig a’r rhai heb radd yn dilyn yr un patrwm dysgu ond, yn unol â gofynion QAA, cânt eu hasesu ar y lefelau gwahaniaethol ar gyfer astudiaethau israddedig ym Mlwyddyn 2.

Tystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (TAR) AHO

Mae’r ddau gymhwyster mewn swydd yn gofyn am o leiaf 30 awr o addysgu cyswllt yn y flwyddyn gyntaf a 100 awr yn yr ail flwyddyn (i ddigwydd rhwng mis Medi a mis Mai). Mae myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu horiau addysgu eu hunain a dod o hyd i fentor pwnc

Tystysgrif Addysg Broffesiynol (PCE) AHO

addas i gefnogi eu hymarfer addysgu proffesiynol.

Mae dau lwybr ar gael:

Mae’r TAR AHO ar gyfer graddedigion sydd am addysgu eu pwnc gradd neu unrhyw bwnc mae ganddynt gymhwyster ynddo i Lefel 3 neu uwch. Dylent fod yn addysgu neu’n gwneud ymdrech i addysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol hefyd. Mae’r PCE AHO ar gyfer myfyrwyr sydd â chymhwyster Lefel 3 ac sydd am gael mwy o brofiad yn eu maes pwnc drwy addysgu yn y sector AHO neu ddysgu a sgiliau gydol oes.

H yd y rhaglen:

Mae cyn fyfyrwyr wedi cael swyddi addysgu llawn amser neu ran-amser yn y sector AHO, yn addysgu eu pwnc a meysydd eraill sy’n gysylltiedig â’r pwnc gan amlaf. Caiff yr holl raddedigion eu cyfeirio at Gyngor Sir Caerdydd ac adran Ehangu Mynediad Met Caerdydd fel tiwtoriaid addysg oedolion posibl ar gyfer gweithgareddau allgymorth ac ysgol haf.

Dwy flynedd (gydag oriau addysgu) yn rhan-amser.

G ofynion mynediad: Dylai’r canlynol fod gan ymgeiswyr ar gyfer y Dystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (TAR) AHO: Gradd. Cymhwyster ar Lefel 3 neu uwch yn y pwnc y maent yn bwriadu ei addysgu. Mae angen cyfweliad. Dylai’r canlynol fod gan ymgeiswyr ar gyfer y Dystysgrif Addysg Broffesiynol (PCE) AHO: Cymhwyster ar Lefel 3 neu uwch yn y pwnc y maent yn bwriadu ei addysgu. Mae angen cyfweliad.

38


Paratoi i Addysgu yn y maes AHO Oeddech chi’n gwybod ein bod yn cynnig cwrs byr hefyd - Paratoi i Addysgu ym maes AHO sydd wedi ei lunio fel cyflwyniad i addysgu yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol?

39


Rydw i wrth fy modd yn addysgu’r amrywiaeth o bynciau, a byddwch yn siwr o gael cymorth gan eich Tiwtor Prifysgol. Dewisais astudio ym Met Caerdydd oherwydd fy mod i eisiau addysgu, ymarfer a hyfforddiant o safon uchel. Mae gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch cyn i chi gamu i’r ystafell ddosbarth. Hari Truman, TAR Cynradd

40


TAR Cynradd Os ydych chi wedi graddio ac yn awyddus i ddysgu a diddordeb mewn gyrfa ym maes addysgu cynradd, dyma’r rhaglen i chi. Mae’r radd TAR Addysg Gynradd yn rhaglen blwyddyn o hyd sy’n arwain at ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig. Nod y rhaglen yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr medrus, hyderus ac arloesol sy’n gallu myfyrio’n feirniadol ac sydd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol gydol oes ac addysgu pobl ifanc ar draws yr amrediad oedran 3-11.

a datblygiad proffesiynol yng Nghymru, ac felly mae’r cyfle i ddysgu ganddynt ac yn eu hamgylcheddau nhw eu hunain yn golygu y dylai datblygiad gyrfa o fod yn athro dan hyfforddiant i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.

Drwy gydol y rhaglen byddwch yn ymgymryd â chyfanswm o 120 diwrnod mewn ysgolion, a bydd 15 o’r rhain yn digwydd mewn ysgolion/cynghreiriau partner arweiniol lle byddwch yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar addysgeg ac yn cael eich cefnogi gan fentoriaid yn yr ysgol a thiwtoriaid y brifysgol.

mewn perthynas â datblygu ei sgiliau Cymraeg.

Byddwch yn hyfforddi fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Mae Ysgolion Partneriaeth Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi cael eu nodi fel prif ddarparwyr addysg

Hyd y rhaglen:

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau Cymraeg ein athrawon dan hyfforddiant i gyd yn seiliedig ar eu profiad a’u hanghenion unigol. Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysgu uniongyrchol Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac yn darparu cyfleoedd i gael gwaith ar y lefel gynradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, y DU a thramor. Gall graddedigion ‘gyfnewid’ 60 o gredydau ar lefel Meistr hefyd sy’n gallu cyfrif tuag at astudio MA mewn Addysg.

Blwyddyn yn llawn amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd mewn maes sy’n gysylltiedig ag addysg gynradd, dosbarth 2:2 o leiaf. TGAU gradd B neu uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Llenyddiaeth Gymraeg a Mathemateg. TGAU gradd C neu uwch mewn Gwyddoniaeth. Mae angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chyfweliad. I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion mynediad neu’r rhaglen, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/TARCynradd

41


TAR Uwchradd Rhaglen flwyddyn yw’r cwrs TAR Addysg Uwchradd sy’n arwain at ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig lle gallwch addysgu eich pwnc arbenigol ar draws amrediad oedran llawn ysgol uwchradd.

Bydd y rhaglen yn rhoi’r hyfforddiant proffesiynol, y wybodaeth, y sgiliau, yr hyder, yr arloesedd ac amrywiaeth eang o brofiadau i chi i fod yn barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Y meysydd pwnc uwchradd sydd ar gael yw:

Byddwch yn mynychu’r brifysgol neu ysgol/cynghrair partner arweiniol un diwrnod yr wythnos ac yn gwneud ymarfer clinigol bedwar diwrnod yr wythnos.

Celf a Dylunio* Bioleg gyda Gwyddoniaeth* Cemeg gyda Gwyddoniaeth* Dylunio a Thechnoleg* Drama Saesneg Daearyddiaeth Hanes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Chyfrifiadura* Mathemateg* Ieithoedd Tramor Modern** Cerddoriaeth Addysg Gorfforol

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau Cymraeg ein athrawon dan hyfforddiant i gyd yn seiliedig ar eu profiad a’u hanghenion unigol. Bydd pob athro dan hyfforddiant yn cael 25 awr o addysg uniongyrchol mewn perthynas â datblygu ei sgiliau Cymraeg. Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac yn darparu cyfleoedd i gael gwaith ar y lefel uwchradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, y DU a thramor. Gall graddedigion ‘gyfnewid’ 60 o gredydau ar lefel Meistr hefyd sy’n gallu cyfrif tuag at astudio MA mewn Addysg.

Ffiseg gyda Gwyddoniaeth* Addysg Grefyddol Cymraeg

Hyd y rhaglen:

Byddwch yn hyfforddi fel rhan o Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Mae Ysgolion Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi cael eu nodi fel prif ddarparwyr addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru, ac felly mae’r cyfle i ddysgu ganddynt ac yn eu hamgylcheddau nhw eu hunain yn golygu y dylai’r dilyniant gyrfa o fod yn athro dan hyfforddiant i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor.

Blwyddyn yn llawn amser.

Gofynion mynediad: Gan amlaf, gradd Anrhydedd yn y pwnc arbenigol a ddewiswyd neu bwnc cysylltiedig, dosbarth 2:2 o leiaf.** TGAU gradd B neu uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Saesneg Iaith, Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf) neu Llenyddiaeth Gymraeg a Mathemateg. TGAU gradd C neu uwch mewn Gwyddoniaeth. Mae angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chyfweliad. *Pynciau â gostyngiad o 25% ar gyfer cyn-fyfyrwyr. **I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a’r gofynion mynediad penodol ar gyfer pob llwybr, ewch i: www.metcaerdydd..ac.uk/TARUwchradd

42


Dewisais astudio ym Met Caerdydd am fy mod yn hoffi’r gymysgedd o ddysgu yn y Brifysgol a chael addysgu’n ymarferol yn ein lleoliadau. Mae’r aseiniadau sydd gennym i’w gwneud yn llywio’ch ymarfer heb os ac yn eich helpu i wella yn yr ystafell ddosbarth. Zoe Fullbrook, TAR Uwchradd

43


FFOCWS AR ARBENIGWR Yn dilyn rolau addysgu ac arwain mewn tair ysgol uwchradd ar draws y De, rhoddodd fy rôl fel Cynghorydd Arbenigol Mathemateg ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De gyfle unigryw i mi ddylanwadu ar sut mae mathemateg yn cael ei haddysgu, ei dysgu a’i harwain ar draws y rhanbarth a Chymru. Mae fy addysgu yn hyrwyddo cynwysoldeb, her, mwynhad a defnyddio mathemateg mewn bywyd go iawn i bob dysgwr, waeth beth fo’i allu a’i gefndir. Mae ymchwil yn chwarae rhan bwysig yn fy addysgu a’m gyrfa, gan ymchwilio i strategaethau ac addysgeg effeithiol ym maes dysgu ac addysgu mathemateg. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi ymchwilio i’r hyn sy’n achosi anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn deilliannau TGAU mathemateg, a strategaethau effaith uchel i fynd i’r afael â ‘r anghydbwysedd hwnnw. Cameron Stewart, Uwch Ddarlithydd Mathemateg TAR Uwchradd

44


45


FFOCWS AR ARBENIGWR Cyn dod yn academydd bues i’n gweithio yn Llundain am 15 mlynedd fel newyddiadurwr llawn amser. Dringais yr ysgol o fod yn Gynorthwyydd Golygyddol i Olygydd Cynorthwyol, Golygydd, Golygydd Rheoli a Dirprwy Olygydd Grŵp. Tra’n gweithio am sawl blwyddyn gyda gwahanol gyhoeddwyr a chylchgronau, trodd fy sylw at fy niddordeb pennaf ffilm, ac i yrfa mewn newyddiaduraeth fasnach fel Golygydd Film. Mae fy nghefndir mewn newyddiaduraeth a’r cyfryngau yn sail i’r MA mewn Newyddiaduraeth Arbenigol sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfuno meysydd o ddiddordeb, gwybodaeth a phrofiad â deilliannau penodol y rhaglen. Dyma un o gryfderau gwirioneddol y cwrs. Rob Taffurelli, Uwch Ddarlithydd yr MA Newyddiaduraeth Arbenigol

46


Newyddiaduraeth Arbenigol MA/PgD/PgC Nod y radd unigryw hon yw eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch technegau newyddiadurol o fewn un o’r arbenigeddau canlynol: Newyddiaduraeth Ffilm Newyddiaduraeth Cerddoriaeth Newyddiaduraeth Ffasiwn Newyddiaduraeth Chwaraeon

Mae’r rhaglen wedi’i llunio a’i chyflwyno gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a staff academaidd sy’n ymarferwyr ac yn ymchwilwyr, ac mae’n cwmpasu newyddiaduraeth brint ac ar-lein, yn ogystal â sgiliau cynhyrchu symudol lle byddwch yn dysgu sut i ffilmio’ch hun a golygu’r deunydd, a chreu cynnwys digidol creadigol a sain.

Mae gan y rhaglen ffocws ymarferol gyda

Mae sgiliau a thechnegau newyddiadurol allweddol yn ganolog i’r radd. Fodd bynnag, bydd y radd yn eich

chyflogadwyedd yn greiddiol iddi, sy’n eich galluogi i gyfuno technegau a safbwyntiau newyddiadurol gyda sgiliau galwedigaethol ymarferol a lleoliadau yn y diwydiant.

annog i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr hefyd fel annibyniaeth, cydweithio effeithiol, hunangyfeirio, trefnu, mentergarwch a hyblygrwydd a ystyrir yn werthfawr yn y gweithle.

P’un ai at ddibenion datblygiad proffesiynol, i wella eich gyrfa lawrydd, neu fel eich cam cyntaf i fyd newyddiaduraeth, bydd yr MA yn eich helpu i gael y wybodaeth a’r hyder i fod yn newyddiadurwr arbenigol yn y maes o’ch dewis.

Mae’r lleoliad gwaith a’r cyfle i gael profiad yn y byd go iawn y mae’r rhaglen yn eu cynnig yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith ym maes newyddiaduraeth arbenigol. Gyda ffocws ar gaffael sgiliau ynghyd â myfyrio ac ymchwil academaidd, bydd graddedigion y rhaglen yn gallu diwallu anghenion diwydiant newyddiaduraeth sy’n prysur ddatblygu.

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol. Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar sail eu rhinweddau unigol a’u gallu i ddangos diddordeb a gallu yn y maes pwnc. Mae’n bosibl y bydd llwybrau mynediad eithriadol ar gael i ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth a pherthnasol yn y diwydiant.

47


Mae’r rhaglen hon wedi rhoi hwb i’m hyder mewn swydd rydw i wrth fy modd yn ei gwneud ac wedi cynorthwyo fy nhaith o weithio gyda phobl ifanc. Drwy ymarfer myfyriol rheolaidd a chymorth gan diwtoriaid a hwyluswyr gwaith maes, rydw i wedi gallu dangos dilyniant clir yn fy mhortffolio. Joanne Kendrick, MA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

48


Gwaith Ieuenctid a Chymunedol PgD/Addysg: Gwaith Ieuenctid a Chymunedol MA Caiff ein rhaglen ôl-radd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ei chymeradwyo’n broffesiynol gan Safonau Hyfforddiant Addysg Cymru (ETS) a’i chydnabod gan y Cydbwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Mae dau ddewis astudio ar gael: Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol MA Addysg: Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Mae rhaglen lefel 7 y Diploma Ôl-raddedig sydd wedi’i chymeradwyo’n broffesiynol yn addas i raddedigion sy’n gweithio ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol ac yn awyddus i ennill cymhwyster proffesiynol. Byddwch yn astudio pedwar modiwl a addysgir, pedwar modiwl sy’n canolbwyntio ar leoliadau ac yn ymgymryd â dau leoliad ar wahân a oruchwylir yn broffesiynol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol. Byddwch yn mynychu sesiynau modiwl a addysgir a thiwtorialau un noson yr wythnos. Mae’r MA yn cynnig cyfle i chi ennill gradd MA academaidd lawn, yn ogystal â chymhwyster a gymeradwyir yn broffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol. I gwblhau’r MA bydd gofyn i chi astudio traethawd hir 60 credyd pellach yn canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis yn ymwneud â maes gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae myfyrwyr yn tueddu i ddatblygu i fod grŵp proffesiynol hynod gefnogol, cyfeillgar a dadansoddol. Ar ôl cwblhau naill ai’r rhaglen PgD neu MA, bydd graddedigion yn gwella eu cyfleoedd i sicrhau cyflogaeth yn sylweddol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol. Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn yr MA Addysg hefyd: Llwybr Ymarfer Cymunedol – gweler tudalen 36.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 200 awr o brofiad uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol; gwaith datblygu cymunedol neu grwpiau galwedigaethol cysylltiedig. Gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol. Mae angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a chyfweliad.

49


YSGOL REOLI CAERDYDD Yn Ysgol Reoli Caerdydd (CSM) rydym yn ymfalchïo yn ein henw da ym maes ymchwil gymhwysol ac ymgysylltu gweithredol â busnesau a diwydiant, a gallwn gynnig rhaglenni a addysgir o’r radd flaenaf a chyfleoedd ymchwil blaengar. Mae ein cyfleusterau di-ail ar gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu gwych, sy’n galluogi’r Ysgol i fod yn ganolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer addysgu ac ymchwil mewn pynciau busnes, arweinyddiaeth a rheoli. Mae yna ddiwylliant ymchwil cadarn sy’n treiddio drwy’r ysgol gyfan. Mae ymchwil nid yn unig yn hybu gwybodaeth reoli, mae hefyd yn ategu ac yn cyfoethogi ein haddysgu a’n dysgu. Mae gweithgareddau ymchwil yn yr Ysgol wedi’u trefnu’n ganolfannau a grwpiau sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o themâu gan adlewyrchu arbenigedd a diddordebau ein staff ymchwil. Mae llawer o’n gwaith ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn cael ei gynnal yn aml gydag ymchwilwyr o Ysgolion eraill y brifysgol a rhwydweithiau gwybodaeth ledled y byd.

Mwy o wybodaeth I gael rhagor o fanylion am y graddau ôl-raddedig a addysgir a’r graddau ôl-raddedig ymchwil a gynigir gan Ysgol Reoli Caerdydd, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/yrc

50


C yfrifeg a Chyllid MSc/PgD/PgC .. ............... 52 B ancio a Chyllid MSc/PgD/PgC . . ................. 54 Tystysgrif CIM/ . . .......................................... 55 Diploma mewn Marchnata Proffesiynol R heoli Marchnata Digidol ........................... 57 MSc/PgD/PgC E conomeg a Chyllid MSc/PgD/PgC ............. 58 R heoli Prosiect Digwyddiadau ................... 58 MSc/PgD/PgC E ntrepreneuriaeth a ................................... 59 Rheoli Arloesedd MSc/PgD/PgC R heoli Marchnata Ffasiwn . . ........................ 60 MSc/PgD/PgC R heolaeth Ariannol MSc/PgD/PgC ............. 63 R heoli Adnoddau Dynol .............................. 64 MSc/PgD/PgC R heoli Busnes Rhyngwladol ....................... 66 MSc/PgD/PgC L letygarwch a Thwristiaeth ....................... 66 . Rhyngwladol Rheoli MSc/PgD/PgC R heoli Cadwyni Cyflenwi a ......................... 67 Logisteg Rhyngwladol MSc/PgD/PgC Meistr Gweinyddu Busnes (MBA)................. 68 M eistr Gweinyddu Busnes . . ........................ 69 (MBA Gweithredol) M eistr Ymchwil mewn Rheoli ..................... 70 (MRes - Rheoli) R heoli Peirianneg Cynhyrchu . . ................... 70 MSc/PgD/PgC R heoli Prosiectau MSc/PgD/PgC ................ 71 M archnata Strategol MSc/PgD/PgC ........... 72 A rweinyddiaeth a Rheoli ............................ 73 20Twenty PgC 51


Cyfrifeg a Chyllid MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Cyfrifeg a Chyllid yn addas i’r rhai sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y sector ariannol, naill ai fel dadansoddwr neu gyfrifydd. Mae’r radd hon yn cynnig modiwlau dewisol sy’n galluogi myfyrwyr i addasu’r rhaglen i weddu i’w hanghenion a’u diddordebau nhw. Drwy ddewis cyfuniad penodol o fodiwlau, gall myfyrwyr ymdrin ag agweddau allweddol ar faes llafur lefel broffesiynol ACCA hefyd. Mae’r MSc hwn yn cynnig modiwlau sy’n cyd-fynd yn agos â maes llafur lefel broffesiynol cymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae pob un o’r rhaglenni Meistr Cyllid yn yr Ysgol Reoli yn cael mynediad llawn i’r Financial Times ar-lein a’r cyfle i ddysgu a gwneud gwaith ymarferol yn ein Labordy Ariannol Bloomberg, cyfleuster pwrpasol heb ei ail. Mae’r llwyfan ariannol rhithwir yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad at ddata byw am y farchnad a’i ddefnyddio drwy gymhwyso gwerthusiadau ymarferol a modelau ariannol. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle hefyd i fyfyrwyr ennill tystysgrif Bloomberg - Bloomberg Market Concepts (BMC), sy’n cael ei chydnabod yn eang yn y diwydiant bancio ac ariannol. Mae galw mawr am weithwyr cyllid proffesiynol medrus a gwybodus iawn ar draws y byd. Mae myfyriwr ôl-raddedig bron yr un mor debygol o gael ei swydd gyntaf yn Dubai, Bahrain neu Shanghai ag yng nghanolfannau traddodiadol Llundain ac Efrog Newydd. Mae gan yr Ysgol Reoli gyfleoedd i raddedigion llwyddiannus ymgeisio i astudio M.Phil./PhD yn yr ysgol. Mae graddedigion y rhaglen MSc Cyfrifeg a Chyllid wedi mynd ymlaen i weithio i CThEM, Chevron (Kuwait), SRG LLP, Bank of China, cwmnïau cyfrifyddu lleol yng Nghaerdydd a’r DU.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser (dechrau ym mis Medi) neu 15 mis yn llawn amser (dechrau ym mis Ionawr). Dwy flynedd yn rhan-amser (dechrau ym mis Medi a mis Ionawr).

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol; o leiaf bum mlynedd o brofiad gwaith perthnasol, neu gymhwyster proffesiynol gan gorff proffesiynol priodol.

52


Mae astudio MSc Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi bod yn brofiad anhygoel fel myfyriwr rhyngwladol! Mae’r MSc Cyfrifeg a Chyllid wedi bod yn her academaidd ac wedi adeiladu ar y wybodaeth a ddatblygais yn ystod fy ngradd israddedig dosbarth cyntaf. Mae arweiniad ac arbenigedd y staff yn Ysgol Reoli Caerdydd wedi fy nghynorthwyo i lwyddo. Mae’r amgylchedd dysgu a’r cyfleusterau yn wych ac wedi fy helpu i gyflawni canlyniadau gwych yn fy astudiaethau. Rwy’n teimlo fy mod i wedi gwneud y dewis cywir trwy astudio ym Met Caerdydd ac rwy’n hyderus y caf yrfa lwyddiannus yn y dyfodol. Soro Lossoungo-Gona Liyetchan, MSc Cyfrifeg a Chyllid

53


Bancio a Chyllid MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Bancio a Chyllid wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer graddedigion sy’n awyddus i ddilyn gyrfa ym maes cyllid corfforaethol mewn sefydliadau ariannol ac anariannol mawr, gwasanaethau ariannol corfforaethol, asiantaethau rheoleiddio ariannol, rheoli cyfoeth a buddsoddi. Mae modiwlau gorfodol a dewisol y rhaglen gyffrous hon yn cwmpasu amrywiaeth eang iawn o feysydd arbenigol a fydd yn rhoi gwybodaeth drylwyr i chi am y datblygiadau mwyaf cyfredol ym marchnadoedd a sefydliadau ariannol y byd, buddsoddi a rheoli cyfoeth. Amcan y modiwlau yw datblygu eich sgiliau dadansoddi meintiol, gan eich galluogi i ddadansoddi cynigion buddsoddi ariannol a chymwysiadau empirig o gyllid corfforaethol mewn ffordd feirniadol. Mae gan yr holl raglenni Meistr sy’n seiliedig ar Gyllid yn yr Ysgol Reoli fynediad llawn at y Financial Times arlein a’r cyfle i ddysgu a gwneud gwaith ymarferol yn ein Labordy Ariannol Bloomberg, cyfleuster pwrpasol heb ei ail. Mae’r llwyfan ariannol rhithwir yn eich galluogi

i gael mynediad at ddata byw am y farchnad a’i ddefnyddio drwy gymhwyso gwerthusiadau ymarferol a modelau ariannol. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle hefyd i fyfyrwyr ennill tystysgrif Bloomberg - Bloomberg Market Concepts (BMC), sy’n cael ei chydnabod yn eang yn y diwydiant bancio ac ariannol. Mae’r modiwl Profiad Gwaith Proffesiynol dewisol gwerth 20 credyd yn cynnwys lleoliad gwaith pedair wythnos o hyd o leiaf i ddigwydd y tu allan i’r semesterau addysgu. Mae galw mawr am weithwyr cyllid proffesiynol medrus a gwybodus iawn ar draws y byd. Mae myfyriwr ôlraddedig bron yr un mor debygol o gael ei swydd gyntaf yn Dubai, Bahrain neu Shanghai ag yng nghanolfannau traddodiadol Llundain ac Efrog Newydd. Mae gan yr Ysgol Reoli gyfleoedd i raddedigion llwyddiannus ymgeisio i astudio M.Phil./PhD yn yr ysgol. Mae graddedigion y rhaglen MSc Bancio a Chyllid wedi mynd ymlaen i weithio i CThEM, Deloitte France, AMEKO (Ffrainc), KPMG (Ffrainc) a Next PLC.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser (dechrau ym mis Medi) neu 15 mis yn llawn amser (dechrau ym mis Ionawr).

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol. Neu o leiaf bum mlynedd o brofiad gwaith perthnasol. Neu gymhwyster proffesiynol gan gorff proffesiynol priodol.

54


Tystysgrif/Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol Tystysgrif/Diploma CIM mewn Marchnata Digidol Proffesiynol Mae Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) i gynnig amrywiaeth o gymwysterau CIM. Mae’r cymwysterau hyn wedi’u creu gan weithwyr marchnata proffesiynol, ac maent yn sicrhau eich bod yn gwella eich gyrfa drwy fod yn wybodus am y tueddiadau marchnata diweddaraf.

Mae’r Diploma mewn Marchnata Proffesiynol (Lefel 6) yn canolbwyntio ar y broses o gynllunio marchnata strategol, gan roi’r gallu i chi werthuso llwyddiant drwy fetrigau marchnata allweddol a nodi patrymau i ysgogi penderfyniadau gwybodus. Ystyrir ei fod yn gyfwerth â gradd israddedig.

Ar hyn o bryd, mae’r Ysgol yn cynnig Tystysgrif CIM a Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol Proffesiynol.

Mae’r Diploma mewn Marchnata Digidol Proffesiynol (Lefel 6) yn canolbwyntio ar ddeall sut i wella’r profiad digidol cyfan ac optimeiddio pob sianel, a meithrin dealltwriaeth i allu gwneud penderfyniadau strategol gwybodus.

Mae’r Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol (Lefel 4) yn rhoi cipolwg ar ymddygiad cwsmeriaid, gan eich galluogi i ddyfeisio strategaethau cyfathrebu marchnata integredig i gyfoethogi profiad y cwsmer. Mae’r Dystysgrif mewn Marchnata Digidol Proffesiynol (Lefel 4) yn canolbwyntio ar y dirwedd ddigidol ddeinamig sy’n datblygu’n barhaus drwy ystyried yr heriau a’r cyfleoedd yn yr amgylchedd digidol a’r defnydd o ystod o adnoddau i gynllunio sut mae gwneud sefydliad yn fwy effeithiol yn yr oes ddigidol.

Caiff ein rhaglenni eu darparu drwy flociau penwythnos dwys, gyda gweithgareddau ar-lein ychwanegol, gan ddefnyddio prosiectau busnes go iawn i annog dealltwriaeth fwy trylwyr o farchnata. Rydym yn ymfalchïo yn ein haddysgu mewn grwpiau bach lle gall ein dysgwyr gael eu trin fel unigolion.

Hyd y rhaglen: 1 0 mis yn rhan-amser. Gweler y wefan am y dyddiadau addysgu. Gofynion mynediad: Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol/Marchnata Digidol Proffesiynol Tystysgrif Ragarweiniol Lefel 3 y CIM mewn . Marchnata. Tystysgrif Sylfaen y CIM mewn Marchnata. Unrhyw gymhwyster Lefel 3 perthnasol. Unrhyw radd yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol. Y Fagloriaeth Ryngwladol (sy’n cyfateb i NQF Lefel 3 ac uwch). Bydd ymarfer proffesiynol (awgrymir blwyddyn mewn rôl farchnata) yn cael ei ystyried.

Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol/Marchnata Digidol Proffesiynol Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr un o’r canlynol: Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol. Gradd Sylfaen mewn Busnes gyda Marchnata. Gradd Baglor neu Feistr o brifysgol gydnabyddedig, gydag o leiaf traean o’r credydau’n dod o gynnwys marchnata (h.y. 120 credyd mewn graddau Baglor neu 60 credyd mewn graddau Meistr). Bydd dwy flynedd o brofiad proffesiynol ym maes marchnata (rôl weithredol) yn cael ei ystyried hefyd.

55


Dewisais astudio MSc mewn Rheoli Marchnata Digidol yn dilyn fy ngradd BA (Anrh) Astudiaethau Busnes a Rheoli gyda Marchnata israddedig, lle sywleddolais fod gen i ddiddordeb brwd mewn marchnata. Gyda thwf yr elfen ddigidol roeddwn i’n teimlo y byddai perthnasedd y rhaglen o fantais i mi wrth ddechrau ar fy ngyrfa. Roedd y rhaglen yn cynnig llawer o amrywiaeth, gan fy ngalluogi i ddysgu gwybodaeth drylwyr am amrywiaeth o sianeli marchnata digidol fel PPC, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata cynnwys, yn ogystal â’m galluogi i ennill fy nghymhwyster Google Dadansoddol – cymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant. Fe wnes i fwynhau bob agwedd ar y rhaglen ac rydw i wedi cael sgiliau a phrofiadau heb eu hail drwy Met Caerdydd. Caitlin Fitzpatrick, MSc Rheoli Marchnata Digidol

56


Rheoli Marchnata Digidol MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Rheoli Marchnata Digidol wedi cael ei lunio ar y cyd â’r Sefydliad Marchnata Uniongyrchol a Digidol (IDM) ac anghenion y diwydiant digidol. Byddwch yn dysgu amrywiaeth eang o wybodaeth a thechnegau marchnata digidol a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Nod y radd yw datblygu marchnatwyr digidol sy’n gallu llwyddo ar lefel reoli yn y dirwedd marchnata digidol gystadleuol sydd ohoni. Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn datblygu dirnadaeth hollbwysig o ymddygiad prynu cwsmeriaid digidol a sut mae sefydliadau’n ymgysylltu â nhw. Byddwch yn cael dealltwriaeth fanwl hefyd o’r damcaniaethau, y tueddiadau a’r technegau diweddaraf yn ymwneud â defnyddio optimeiddiad peiriannau chwilio (SEO), talu-fesul-clic (PPC) a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â’r metrigau a’r methodolegau a ddefnyddir gan fusnesau dadansoddeg digidol, megis Google AdWords a Twitter Dadansoddol drwy gynllun Cymhwyster Unigol Google Dadansoddol. Bydd strwythur a chynnwys y rhaglen yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau drwy weithio ar ymgyrchoedd go iawn mewn cydweithrediad â busnesau perthnasol. Byddwch yn gwerthuso’r damcaniaethau a’r egwyddorion yn ymarferol drwy ddefnyddio astudiaethau achos a phrosiectau ‘byw’. Credwn y bydd y radd hon yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ragori ar lefel rheolwr drwy gael y ddirnadaeth, yr addysg a’r ddealltwriaeth feirniadol sydd eu hangen i weithredu mewn tirwedd marchnata digidol sy’n ddeinamig a newidiol. Mae ein gradd MSc Marchnata Digidol yn y broses o gael statws achrededig IDM - a fydd yn galluogi ein myfyrwyr i gael esemptiadau o Dystysgrif IDM mewn Marchnata Digidol.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol neu brofiad gwaith perthnasol y bydd angen tystiolaeth ohono a geirdaon i’w gadarnhau. Bydd ymgeiswyr â chymwysterau mynediad ansafonol yn cael eu hystyried.

57


Economeg a Chyllid MSc/PgD/PgC Nod y rhaglen yw datblygu myfyrwyr ôl-raddedig sydd â’r gallu academaidd i lwyddo mewn gweithle byd-eang cynyddol gymhleth a heriol. Pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gadael fel economegydd proffesiynol sydd nid yn unig yn barod ar gyfer gyrfa academaidd ond sy’n barod hefyd i ddefnyddio meddwl economaidd yn y byd y tu allan i’r byd academaidd. Mae galw mawr am economegwyr sydd â chymwysterau da mewn llywodraeth, diwydiant a masnach. Mae gan yr holl raglenni Meistr sy’n seiliedig ar Gyllid yn yr Ysgol Reoli fynediad llawn at y Financial Times arlein a’r cyfle i ddysgu a gwneud gwaith ymarferol yn ein Labordy Ariannol Bloomberg, cyfleuster pwrpasol heb ei ail. Mae’r llwyfan ariannol rhithwir yn eich galluogi i gael mynediad at ddata byw am y farchnad a’i ddefnyddio drwy gymhwyso gwerthusiadau ymarferol a modelau ariannol.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle hefyd i fyfyrwyr ennill tystysgrif Bloomberg - Bloomberg Market Concepts (BMC), sy’n cael ei chydnabod yn eang yn y diwydiant bancio ac ariannol. Mae’r deilliannau dysgu’n sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen yn y diwydiant cyllid. Mae’r rhaglen yn ceisio diwallu anghenion unigolion a’r diwydiant drwy ddatblygu myfyrwyr â sgiliau a galluoedd gwybyddol lefel uwch sydd hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth ymarferol ardderchog o economeg a chyllid. Mae graddedigion y rhaglen MSc Economeg a Chyllid wedi mynd ymlaen i weithio i Blick (Rothenberg), Third Bridge Group (Llundain) ac SRG LLP. Mae cyfle i raddedigion llwyddiannus wneud cais i fynd ymlaen i astudio M.Phil./PhD hefyd.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser (dechrau ym mis Medi) neu 15 mis yn llawn amser (dechrau ym mis Ionawr).

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol (Cyfrifeg, Economeg neu Gyllid); Neu o leiaf bum mlynedd o brofiad gwaith perthnasol ym maes cyllid; Neu gymhwyster proffesiynol gan gorff proffesiynol priodol.

Rheoli Prosiect Digwyddiadau MSc/PgD/PgC Amcan y strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan yr MSc Rheoli Prosiect Digwyddiadau yw hyrwyddo ymgysylltiad gweithredol â’r maes pwnc ac adlewyrchu pwyslais galwedigaethol cryf y rhaglen.

adeiladu ar gynnwys a addysgir y rhaglen a gwella eu rhagolygon ar gyfer rhwydweithio yn y diwydiant. Gallwch hefyd ddysgu iaith fel modiwl dewisol, a all fod yn sgìl ddeniadol i ddarpar gyflogwyr.

Fel rhan o’r rhaglen mae pob myfyriwr yn ymgymryd â phrosiect ymgynghori byw drwy’r modiwl Rheoli Prosiect Diwydiant, sy’n rhoi cyfle i ymgysylltu a rhwydweithio gyda chyflogwyr yn y diwydiant. Fel rhan o’r modiwl hwn, gall myfyrwyr ennill cymhwyster achrededig gan y Sefydliad Rheoli Prosiectau (PMI).

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ennill tystysgrifau proffesiynol ychwanegol hefyd, megis y rhai gan yr Ymddiriedolaeth Addysgol Gwin a Gwirodydd, Cymorth Cyntaf a Dyfarniadau Hylendid Bwyd y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd. Mae’r tystysgrifau proffesiynol hyn yn cynnig cyfleoedd datblygu ardderchog ac yn dangos sgiliau dymunol i gyflogwyr.

Yn ogystal â’r prosiect ymgynghori, gall myfyrwyr ddilyn modiwl Interniaeth dewisol, a fydd yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr hyd yn oed ymhellach, gan

Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i swyddi rheoli yn y diwydiant.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Gofynion mynediad: Gradd israddedig gysylltiedig, dosbarth 2:2 o leiaf; neu gymhwyster proffesiynol (neu arall) derbyniol a pherthnasol; neu ddwy flynedd o leiaf o brofiad gwaith perthnasol. 58


Entrepreneuriaeth a Rheoli Arloesedd MSc/PgD/PgC Nod yr MSc Entrepreneuriaeth a Rheoli Arloesedd yw sicrhau bod gan fyfyrwyr wybodaeth hollbwysig am entrepreneuriaeth, strategaeth a rheoli arloesedd. Ei nod yw datblygu pobl sy’n meddwl yn wahanol, ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i fynd â syniadau newydd i’r farchnad a chreu busnesau llwyddiannus o’u hamgylch. Bydd y rhaglen yn rhoi cipolwg ar y problemau sy’n wynebu mentrau busnes newydd a busnesau sefydledig sy’n adfywio drwy feithrin creadigrwydd, dylunio a ffyrdd newydd o feddwl. Mae’n adeiladu gwybodaeth ddamcaniaethol ynghyd â’r sgiliau busnes craidd sydd eu hangen i gychwyn mentrau newydd a thrawsnewid rhai sydd eisoes yn bodoli drwy arloesi gyda chynhyrchion, prosesau neu fodelau busnes.

eraill, a dysgu am feysydd pwysig entrepreneuriaeth gan gynnwys datblygu cynnyrch ac eiddo deallusol. Bydd ein tîm academaidd arbenigol yn arwain eich astudiaethau ac yn eich helpu i ddatblygu persbectif byd-eang o’r byd busnes. Rydym yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr a chyrff proffesiynol i sicrhau bod gennych gyfleoedd astudio priodol a pherthnasol ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd gan raddedigion y potensial i sefydlu eu cwmni eu hunain, bod yn llawer mwy arloesol mewn sefydliad mwy o faint neu fynd ymlaen i astudio ymhellach ym Met Caerdydd. Mae gan yr Ysgol y gallu i oruchwylio cymwysterau PhD a dyfarniadau uwch eraill ym meysydd entrepreneuriaeth ac arloesi.

Byddwch yn darganfod hefyd sut gall arloesi wneud gwahaniaeth yn eich busnes chi ac mewn sefydliadau

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser neu dair blynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd israddedig, dosbarth 2:2 o leiaf; neu o leiaf dair blynedd o gyflogaeth/hunangyflogaeth neu brofiad gwaith perthnasol; neu gymhwyster proffesiynol (neu arall) perthnasol.

59


Rheoli Marchnata Ffasiwn MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Rheoli Marchnata Ffasiwn yn rhaglen ddeinamig a chyffrous sy’n cyfuno egwyddorion ffasiwn, marchnata a rheoli i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant ffasiwn byd-eang. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth hollbwysig o anghenion cwsmeriaid ffasiwn, yn deall pwysigrwydd marchnata brand yn y byd ffasiwn a chwmpas rhyngwladol y diwydiant ffasiwn. Byddwch yn archwilio agweddau megis prynu ffasiwn a marsiandïaeth gan gynnwys darogan tueddiadau, rheoli cadwyni cyflenwi a rhagolygon ffasiwn. Byddwch yn darganfod y grefft o gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o gwsmeriaid ffasiwn, gan ddefnyddio dulliau digidol a thraddodiadol a chymhwyso eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth i greu strategaethau marchnata yn y maes Rheoli Brandiau a Ffasiwn Rhyngwladol. Elfen ganolog o’n gradd yw’r cyfle i integreiddio damcaniaethau ac egwyddorion marchnata gydag ymarfer, yn enwedig mewn perthynas â’ch anghenion gyrfa chi eich hun. Byddwch yn gwerthuso damcaniaethau ac egwyddorion drwy astudiaethau achos a phrosiectau ‘byw’. Mae’r radd ar gyfer pobl sydd eisiau gyrfa marchnata ffasiwn lwyddiannus a gwerth chweil, gan gynnwys: prynu a marsiandïaeth, hysbysebu, rheoli brand ffasiwn a chysylltiadau cyhoeddus.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Caiff myfyrywr ddechrau ym mis Medi neu’n mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Dylai pob myfyriwr feddu ar radd gyntaf berthnasol neu gymhwyster cyfatebol, dosbarth 2:2 o leiaf neu brofiad gwaith perthnasol. Bydd ymgeiswyr â chymwysterau mynediad ansafonol yn cael eu hystyried.

60


FFOCWS AR ARBENIGWR Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gynllunio profiadau dysgu trawsnewidiol drwy brosiectau ymarferol ‘byd go iawn’ sy’n galluogi myfyrwyr i gymhwyso damcaniaeth i ymarfer mewn ffordd ystyrlon. Mae’r diwydiant ffasiwn yn amgylchedd cystadleuol ac angerddol sy’n symud yn gyflym, gydag arloesedd a chreadigrwydd yn rhan annatod ohono. Mae hyn yn ysbrydoli sut rydw i’n mynd ati i gynllunio’r cwricwlwm ar gyfer y graddau rwy’n eu harwain. Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys cyfuniad o ddulliau strategol a chreadigol o ddarparu ac asesu. Ar ôl treulio degawd yn y diwydiant ffasiwn cyn dychwelyd i’r byd academaidd, rwy’n canolbwyntio ar gynnwys yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd mewn asesiadau, heb gyfaddawdu ar gywirdeb academaidd. Mae’r ffordd rydw i am i fyfyrwyr ddysgu yn cael ei ddylanwadu gan fy nadansoddiad a’m dealltwriaeth o gylch oes myfyrwyr - gan ganolbwyntio ar fyfyrwyr fel unigolion, sydd â hunaniaeth ac anghenion sy’n esblygu. Jemma Oeppen Hill, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen yr MSc Rheoli Marchnata Ffasiwn 61


FFOCWS AR ARBENIGWR Rwy’n frwdfrydig iawn am ddefnyddio technoleg wrth addysgu pynciau cyllid. Mae’r Ystafell Bloomberg yn caniatáu i’n myfyrwyr gymhwyso a phrofi damcaniaethau ariannol gan ddefnyddio data amser real , traws-asedau a dadansoddiad cyfres amser hanesyddol. Mae gweithgareddau Bloomberg sydd yn y cwricwlwm yn helpu myfyrwyr i ddysgu sut i ddadansoddi marchnadoedd ariannol, asesu senarios economaidd a dehongli’r datblygiadau newyddion allweddol sy’n effeithio ar yr economi fyd-eang. Mae’r addysgu seiliedig ar ymchwil a’r profiad Bloomberg yn galluogi ein graddedigion i gael mantais gystadleuol mewn gyrfa ym maes cyllid. Dr Ricky Li, Uwch Ddarlithydd Bancio a Chyllid, Cyfarwyddwr Rhaglen y Casgliad o raglenni MSc Cyllid

62


Rheolaeth Ariannol MSc/PgD/PgC MSc Rheolaeth Ariannol

MSc Rheolaeth Ariannol (Rheolaeth Strategol)

MSc Rheolaeth Ariannol (Rheoli Newid)

MSc Rheolaeth Ariannol (Cyllid Rhyngwladol)

MSc Rheolaeth Ariannol (Cyllid Islamaidd)

MSc Rheolaeth Ariannol (Rheoli Prosiect)

Mae’r MSc Rheolaeth Ariannol poblogaidd yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno caffael gwybodaeth ym maes busnes, rheoli a chyllid. Nod y rhaglen yw gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid, a’u cymhwyso i faterion cymhleth er mwyn gwella arferion busnes

Mae gan yr holl raglenni Meistr sy’n seiliedig ar Gyllid yn yr Ysgol Reoli fynediad llawn at y Financial Times ar-lein a’r cyfle i ddysgu a gwneud gwaith ymarferol yn ein Labordy Ariannol Bloomberg, cyfleuster pwrpasol heb ei ail. Mae’r llwyfan ariannol rhithwir yn eich

a rheoli. Mae’r rhaglen yn cynnig casgliad o fodiwlau a llwybrau dewisol, a fydd yn galluogi myfyrwyr i deilwra eu hastudiaethau i weddu i’w hanghenion a’u diddordebau unigol.

galluogi i gael mynediad at ddata byw am y farchnad a’i ddefnyddio drwy gymhwyso gwerthusiadau ymarferol a modelau ariannol Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle hefyd i fyfyrwyr ennill tystysgrif Bloomberg - Bloomberg Market Concepts (BMC), sy’n cael ei chydnabod yn eang yn y diwydiant bancio ac ariannol.

Mae’r rhaglen yn ceisio diwallu anghenion unigolion a’r diwydiant drwy gymell myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ymarferol ardderchog o’r maes pwnc. Mae yna fodiwl Profiad Gwaith Proffesiynol dewisol, sydd â’r nod o wella sgiliau cyflogadwyedd a chynnig cyfle i fyfyrwyr adeiladu eu rhwydweithiau yn y diwydiant.

Mae gan yr Ysgol Reoli gyfleoedd i raddedigion llwyddiannus ymgeisio i astudio M.Phil./PhD yn yr Ysgol. Mae graddedigion yr MSc Rheolaeth Ariannol wedi mynd ymlaen i weithio i PKF (Jordan ac Irac), St James’s Place Academy, y Weinyddiaeth Gyllid, Deloitte (DU), HSBC a Bank of Montserrat.

Hyd y rhaglen: B lwyddyn yn llawn amser (dechrau ym mis Medi) neu 15 mis yn llawn amser (dechrau ym mis Ionawr).

Dwy flynedd yn rhan-amser (dechrau ym mis Medi a mis Ionawr).

Gofynion mynediad: Dylai ymgeiswyr feddu ar un o’r canlynol: Gradd israddedig (neu gymhwyster cyfatebol), 2:2 neu uwch fel arfer, mewn maes perthnasol.* Pum mlynedd o brofiad gwaith perthnasol ym maes cyllid. Cymwysterau proffesiynol addas gan gyrff fel ACCA, CII, CFA, IFS ac ati. *Ni fydd gan raddedigion o ddisgyblaethau anariannol y sgiliau gofynnol fel arfer, ond mae croeso iddynt wneud cais a byddant yn cael eu hystyried ar sail unigol.

63


Rheoli Adnoddau Dynol MSc/PgD/PgC Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn cael ei chydnabod ledled y byd fel canolfan sydd wedi’i chymeradwyo’n broffesiynol gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Felly, mae’r MSc Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) yn cael ei gymeradwyo’n llawn gan y CIPD a byddwch yn gymwys i fod yn aelod ‘Cyswllt’ o’r CIPD pan fyddwch wedi cwblhau’r radd Meistr lawn yn llwyddiannus. Mae’r amgylchedd gwaith wedi dod yn fwy cymhleth gyda gweithlu cynyddol amrywiol, patrymau newydd o weithio a threfniadau cytundebol newydd. Yn gefndir i hyn i gyd mae marchnad fyd-eang hynod gystadleuol. Felly mae denu, cadw a datblygu pobl o’r radd flaenaf fel ffynonellau o fantais gystadleuol i sefydliadau yn hollbwysig er mwyn llwyddo ac mae hyn yn rhoi rôl hanfodol i Reoli Adnoddau Dynol o ran sicrhau bod busnesau’n perfformio i safon uchel. Mae’r MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn archwilio mewn ffordd feirniadol y goblygiadau damcaniaethol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau dynol ar lefel strategol a gweithredol mewn sefydliadau. Yn y modd hwn, mae’r cysyniadau a’r damcaniaethau busnes diweddaraf yn cael eu cymhwyso i leoliadau ‘go iawn’. Bydd myfyrwyr yn dysgu am y dadleuon a’r themâu allweddol sy’n adlewyrchu materion cyfoes ac yn archwilio’n feirniadol y goblygiadau i strategaethau a pholisïau rheoli adnoddau dynol, rheolwyr llinell a gweithwyr cyflogedig. Mae’r MSc Rheoli Adnoddau Dynol, ynghyd ag aelodaeth ‘Gyswllt’ o’r CIPD, yn darparu sylfaen gref ar gyfer dechrau neu gamu ymlaen mewn gyrfa Rheoli Adnoddau Dynol. Mae’r cymhwyster gwerthfawr hwn yn paratoi myfyrwyr hefyd ar gyfer rolau rheoli ac arwain eraill mewn sefydliadau sy’n gwerthfawrogi rheolaeth gref ar bobl.

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser.

Gofynion mynediad: Dylai pob myfyriwr feddu ar radd gyntaf berthnasol neu gymhwyster cyfatebol, 2:2 neu uwch. Mae profiad proffesiynol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.

64


FFOCWS AR ARBENIGWR Rwy’n ffodus iawn i allu addysgu ac ymchwilio yn fy hoff faes pwnc - Rheoli Adnoddau Dynol (HRM). Mae addysgu ac ymchwil yn anodd oherwydd ei fod mor bwysig i gyflawni’r gorau. Maent yn rhoi boddhad hefyd oherwydd bod canlyniadau llwyddiannus yn cael effeithiau cadarnhaol ar fyfyrwyr a minnau. Mae gennyf arbenigedd mewn cynnal prosiectau ymchwil annibynnol a chydweithredol yn y maes Rheoli Adnoddau Dynol ar draws lleoliadau diwylliannol. Rwy’n defnyddio’r arbenigedd hwn wrth addysgu’r modiwl Sgiliau Ymchwil i fyfyrwyr yr MSc Rheoli Adnoddau Dynol. Mae fy nghefndir yn fy ngalluogi i arwain ac ysgogi myfyrwyr drwy gydol eu prosiect ymchwil ym mhob cyfnod allweddol. Wrth addysgu’r modiwl Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol, rwy’n defnyddio fy niddordebau arbennig i ysgogi trafodaethau dosbarth ar faterion rheoli adnoddau dynol traws-ddiwylliannol a rhyngwladol. Dr Xiaoni Ren, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen yr MSc Rheoli Adnoddau Dynol.

65


Rheoli Busnes Rhyngwladol MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol yn ystyried ac yn gwerthuso gofynion yr economi ryngwladol, a’r globaleiddio cynyddol o ran arferion busnes a rheoli. Mae’r cwricwlwm yn defnyddio’r syniadau diweddaraf ym maes rheoli busnes rhyngwladol ac mae’n cynnig adolygiad cynhwysfawr a chyfoes o’r amgylchedd busnes modern. Gan ddefnyddio disgyblaethau busnes sefydledig, mae’r MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol yn darparu cyfres o fodiwlau creadigol a heriol sy’n adlewyrchu themâu a thrafodaethau cyfredol ym maes rheoli a busnes rhyngwladol.

Yn ogystal, mae myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen datblygiad proffesiynol werthfawr, gyda mentora, cefnogaeth a chymuned fywiog o fyfyrwyr yn creu amgylchedd dysgu ysgogol a blaengar. Mae’r radd Meistr hon yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i fyfyrwyr gael gyrfa mewn busnes a rheoli, mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol. Mae mwy a mwy o fusnesau’n chwilio am wybodaeth a sgiliau busnes rhyngwladol. Mae graddedigion y rhaglen hon wedi cael gwaith fel ymgynghorwyr rheoli, rheolwyr prosiect, ac wedi cael lle ar amrywiaeth o gynlluniau cyflogi graddedigion gyda llawer o gwmnïau blaenllaw yn y DU a thramor.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser. Caiff myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu’n mis Ionawr. Gofynion mynediad: Dylai pob myfyriwr feddu ar radd israddedig, dosbarth 2:2 o leiaf. Nid yw profiad rheoli yn hanfodol ond mae’n ddymunol.

Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth Rhyngwladol MSc/PgD/PgC Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gyflogaeth a’r nod yw rhoi profiad o’r diwydiant i fyfyrwyr fel y gallant adeiladu ar sgiliau dymunol ar gyfer y gweithle a meithrin cysylltiadau. Nod y strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y rhaglen yw hyrwyddo ymgysylltiad gweithredol â’r maes pwnc ac adlewyrchu pwyslais galwedigaethol cryf y rhaglen. Mae dysgwyr yn gallu gwneud Interniaeth ddewisol (lleiafswm o 20 diwrnod), a fydd yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr. Enghreifftiau o ble mae myfyrwyr wedi cwblhau’r interniaeth hon a hyd y interniaethau hyn. Mae opsiwn hefyd i gwblhau’r Prosiect Terfynol fel prosiect interniaeth 48 wythnos, sy’n golygu ei bod yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau lleoliad 10-12 wythnos ar ddiwedd eu dau semester o fodiwlau

a addysgir. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr ac adeiladu rhwydweithiau yn y diwydiant. Opsiwn arall ar gyfer y Prosiect Terfynol yw cynnal Prosiect Ymgynghoriaeth Unigol, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu ag ymarferydd yn y diwydiant. Caiff myfyrwyr gyfle i ddilyn modiwl iaith fel un dewisol. Gallai hyn eu gwneud yn fwy cyflogadwy a gallant fanteisio hefyd ar y cyfle i ennill tystysgrifau proffesiynol ychwanegol, e.e. Ymddiriedolaeth Addysgol Gwin a Gwirodydd, Cymorth Cyntaf a Dyfarniadau Hylendid Bwyd y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd. Mae’r tystysgrifau proffesiynol hyn yn darparu gwerth ychwanegol ac yn gallu gwella CV myfyrwyr. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi symud ymlaen i swyddi rheoli yn y diwydiannau.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Caiff myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu’n mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Dylai pob myfyriwr feddu ar radd israddedig, dosbarth 2:2 o leiaf. Nid yw profiad rheoli’n hanfodol ond mae’n ddymunol. 66


Rheoli Cadwyni Cyflenwi a Logisteg Rhyngwladol MSc/PgD/PgC Mae’r rhaglen hon yn darparu astudiaethau uwch ym maes cymhleth rheoli cadwyni cyflenwi a logisteg. Ei nod yw rhoi cipolwg allweddol i reolwyr, peirianwyr ac arbenigwyr busnes ar systemau cynhyrchu sy’n gweithredu mewn amrywiaeth eang o sefydliadau. Mae’r rhaglen yn cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o ddamcaniaeth i systemau cymhleth i wella arferion rheoli cadwyni cyflenwi a logisteg ac yn datblygu gwybodaeth myfyrwyr ar lefel broffesiynol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o feysydd gwybodaeth arbenigol ym maes rheoli cadwyni cyflenwi a logisteg megis cyfraith masnach ryngwladol, rheoli peirianneg o ansawdd a logisteg mewn cyd-destun byd-eang. Bydd y rhaglen yn baratoad cadarn hefyd ar gyfer ymchwil neu astudiaethau pellach yn y maes ac mae graddedigion yn gymwys i gael eu derbyn ar y

Hyd y rhaglen:

rhaglenni Gradd Ymchwil ym Met Caerdydd lle gall graddedigion symud ymlaen naill ai i’n PhD neu’r DBA (Doethuriaeth Broffesiynol). Mae eich sgiliau dysgu lefel uchel a’ch datblygiad personol yn cael eu gwella fel eich bod mewn sefyllfa dda i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun a gyda gwreiddioldeb wrth gyfrannu at ddisgyblaeth rheoli cadwyni cyflenwi a logisteg. Bydd llawer o raddedigion o’r rhaglen hon yn mynd ymlaen i gael swyddi uwch mewn amrywiaeth o fusnesau fel rheolwyr a chyfarwyddwyr cadwyni cyflenwi a logisteg. Bydd cysylltiad agos â Chyrff Proffesiynol fel y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) a’r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) yn galluogi myfyrwyr i weithio tuag at statws siartredig eu sefydliad.

1-2 flynedd yn llawn amser neu 2-4 blynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:2 neu uwch) mewn maes rheoli, peirianneg neu fusnes; neu ddisgyblaeth gradd arall gyda phrofiad proffesiynol perthnasol; neu brofiad gwaith eithriadol a helaeth ym maes rheoli cynhyrchiant, peirianneg, cadwyni cyflenwi, gweithrediadau neu logisteg.

67


Meistr Gweinydd Busnes MBA Mae’r Meistr Gweinyddu Busnes (MBA) yn gymhwyster uchel ei barch sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer rheolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat ac ar draws diwydiannau. Mae’r MBA yn addas i bawb sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd rheoli ac i’r bobl uchelgeisiol hynny sydd am gael dealltwriaeth o’r holl brif swyddogaethau busnes gan ddarparu gwybodaeth gyffredinol ar gyfer darpar arweinwyr. Yn ogystal â gwella rhagolygon gyrfa myfyrwyr llwyddiannus, nod y rhaglen yw eu hannog i feddwl yn annibynnol ac yn greadigol. Cyflawnir hyn drwy ddilyn canllawiau Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU sy’n cynnig ‘pwyslais ymarferol a phroffesiynol cryf’ i ddysgwyr, sy’n ei gwneud yn wahanol i raglenni Meistr eraill. Nod yr addysgu craidd yw cael myfyrwyr i archwilio syniadau cyfoes yn y disgyblaethau rheoli allweddol a rhoi cyfle ym mhob rhan o’r rhaglen iddynt gymhwyso damcaniaeth i sefyllfaoedd rheoli go iawn.

Byddwch yn astudio gwybodaeth a damcaniaethau rheoli amrywiol sy’n cynnwys cyfrifeg, marchnata a gweithrediadau. Mae’r rhaglen yn cynnig sawl arbenigedd y gall myfyrwyr eu dewis yn unol â’u dyheadau a’u diddordebau gyrfaol, gan gynnwys: MBA (Dadansoddeg Busnes) MBA (Cyllid) MBA (Adnoddau Dynol) MBA (Cyllid Islamaidd) MBA (Rheoli Marchnata) MBA (Rheoli Prosiect) MBA (Rheoli Cadwyn Cyflenwi a Logisteg) Anogir myfyrwyr i adeiladu eu rhwydweithiau proffesiynol a diwydiant ac i ddatblygu Cynlluniau Datblygu Personol (PDP) i fyfyrio ar eu perfformiad unigol a mapio’u datblygiad personol a gyrfaol.

Hyd y rhaglen: 12-16 mis yn dibynnu ar y dyddiad cychwyn. Gall myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Dylai ymgeiswyr feddu ar un o’r canlynol: Gradd israddedig, dosbarth 2:2 o leiaf, ac o leiaf bedair blynedd o brofiad proffesiynol ym maes rheoli. Bydd cymwysterau proffesiynol eraill fel CIM neu CIMA yn cael eu hystyried hefyd ynghyd â phedair blynedd o brofiad proffesiynol ym maes rheoli. Bydd angen i fyfyrwyr heb Saesneg fel iaith gyntaf ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon 6.0 IELTS neu gyfwerth.

68


Meistr Gweinyddu Busnes Gweithredol Mae’r Meistr Gweinyddu Busnes (Gweithredol) wedi’i ddatblygu ar y cyd â’r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), ac mae’n cael ei achredu ganddo, i’ch datblygu fel rheolwr effeithiol ac arweinydd yn y dyfodol. Efallai mai’r MBA (Gweithredol) yw’r catalydd sydd ei angen ar eich gyrfa i symud i rôl neu swyddogaeth uwch neu fe allai’ch galluogi i ddatblygu y tu hwnt i’ch arbenigedd technegol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddisgyblaethau busnes a rheoli craidd a dysgu sut maent yn cysylltu â’i gilydd yn strategol ac yn weithredol. Mae elfennau craidd rheoli strategol, rheoli gweithrediadau, marchnata strategol, rheoli adnoddau dynol (HRM) a chyfrifeg, economeg a chyllid (AEF) yn

cael eu haddysgu drwy fewnbwn modiwlaidd dwys mewn blociau penwythnos, gyda gweithgareddau ar-lein ychwanegol a phrosiectau busnes go iawn i annog dealltwriaeth ddyfnach. Mae modiwlau dewisol yn eich galluogi i arbenigo er mwyn adlewyrchu eich diddordebau a bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar gyflymder sy’n gweddu i chi a’ch ymrwymiadau gwaith. Achredir y rhaglen gan CMI ac mae’n cynnig cyfle i ennill casgliad o gymwysterau CMI fel Tystysgrif Lefel 7 CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol, Diploma Lefel 7 CMI mewn Rheoli ac Arwain Strategol a Statws Rheoli Siarter drwy’r llwybr eithrio. Mae cymwysterau CMI yn ffordd wych o wella eich enw da proffesiynol.

Hyd y rhaglen: R han-amser yn unig. Dwy flynedd (llwybr carlam) neu dair blynedd. Gofynion mynediad: Dylai ymgeiswyr feddu ar un o’r canlynol: Gradd israddedig, dosbarth 2:2 o leiaf, ac o leiaf bedair blynedd o brofiad proffesiynol ym maes rheoli. Bydd cymwysterau proffesiynol eraill fel CIM neu CIMA yn cael eu hystyried hefyd ynghyd â phedair blynedd o brofiad proffesiynol ym maes rheoli.

69


Meistr Ymchwil mewn Rheoli MRes - Rheoli Mae’r Meistr Ymchwil (MRes) mewn Rheoli yn darparu astudiaeth ymchwil uwch ym maes Rheoli. Ei nod yw cynnig dealltwriaeth allweddol o ddamcaniaeth ac ymarfer ymchwil yn y ddisgyblaeth reoli i ddarpar reolwyr ac arbenigwyr busnes. Mae’r MRes yn datblygu sgiliau ymchwil digonol i gael lle ar raglen Doethuriaeth ond mae’n ddelfrydol hefyd ar gyfer ymgeiswyr sydd am gael gradd ymchwil, ond nad ydynt am ymrwymo i gyfnod hirach o astudio. Mae sgiliau dysgu annibynnol a datblygiad personol wrth wraidd rhaglen Mres fel bod ymchwilwyr yn gallu gweithio o’u pen a’u pastwn eu hunain gan gyfrannu at y ddisgyblaeth reoli.

Hyd y rhaglen:

Bydd y MRes ym maes Rheoli yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o ddamcaniaeth rheoli ac ymarfer ymchwil i systemau cymhleth, er mwyn gwella arferion rheoli. Darparu cyd-destun rhyngddisgyblaethol i ymchwil, gan ennill cefnogaeth gan amrywiaeth o safbwyntiau technegol, academaidd a disgyblaethol. Bydd gwybodaeth myfyrwyr am arferion ymchwil a damcaniaeth rheoli (cysyniadol, methodolegol, ymarferol a moesegol) yn datblygu ar lefel broffesiynol ac academaidd. Mae myfyrwyr rhan-amser presennol yn gweithio mewn sefydliadau fel Heddlu De Cymru a City Hospice ac mae llawer o raddedigion y rhaglen yn mynd ymlaen i ddilyn rhaglenni gradd ymchwil.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:2 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu Bydd profiad gwaith eithriadol a helaeth mewn rolau rheoli yn cael ei ystyried hefyd.

Rheoli Peirianneg Cynhyrchu MSc/PgD/PgC Mae’r rhaglen hon yn darparu astudiaeth uwch ym maes Rheoli Cynhyrchu a Pheirianneg. Ei nod yw rhoi cipolwg allweddol i reolwyr, peirianwyr ac arbenigwyr busnes ar systemau cynhyrchu sy’n gweithredu mewn amrywiaeth eang o sefydliadau. Mae’r rhaglen wedi’i chreu mewn cysylltiad agos â chyrff proffesiynol fel y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) a’r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT) ac felly bydd yn galluogi myfyrwyr i weithio tuag at statws siartredig. Mae’r rhaglen yn datblygu ac yn cymhwyso dealltwriaeth o ddamcaniaeth rheoli cynhyrchu a pheirianneg, gan gynnwys Arloesi a Datblygu Cynnyrch a Pharadeimau Gweithgynhyrchu

Hyd y rhaglen:

Uwch, i systemau cymhleth er mwyn gwella arferion rheoli cynhyrchu. Bydd graddedigion y rhaglen yn gallu gweithio’n annibynnol gyda gwreiddioldeb gan gyfrannu at ddisgyblaeth Rheoli Cynhyrchu a Pheirianneg, ac felly’n cael eu paratoi’n dda ar gyfer ymchwil neu astudiaethau pellach yn y maes. Mae’r rhaglen yn darparu mynediad i’r rhaglenni gradd ymchwil yn y Brifysgol lle gall graddedigion symud ymlaen i’n PhD neu’r DBA (rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol). Mae llawer o raddedigion y rhaglen hon yn mynd ymlaen i gael swyddi uwch mewn busnesau amrywiol fel rheolwyr a chyfarwyddwyr cynhyrchu a pheirianneg.

Blwyddyn yn llawn amser neu 2-4 blynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd israddedig (2:2 neu uwch) mewn rheoli, peirianneg neu fusnes; neu radd mewn disgyblaeth arall gyda phrofiad proffesiynol perthnasol; neu brofiad gwaith eithriadol a helaeth ym maes rheoli cynhyrchu, peirianneg, cadwyni cyflenwi, gweithrediadau neu logisteg. 70


Rheoli Prosiectau MSc/PgD/PgC Cydnabyddir bod Rheoli Prosiectau yn set sgiliau werthfawr i gyflawni arbedion effeithlonrwydd ac i sicrhau llwyddiant cynaliadwy prosiectau, rhaglenni a phortffolios. Mae galw mawr am sgiliau rheoli prosiect effeithiol mewn amgylchedd byd-eang cynyddol gydweithredol, ansicr a chymhleth ar draws pob sector. Mae bron pob disgrifiad swydd yn nodi rheoli prosiectau fel maen prawf hanfodol neu ddymunol. Nod yr MSc Rheoli Prosiectau hwn yw cynnig casgliad eang o adnoddau arbenigol ac uwch i raddedigion mewn sgiliau technegol a rhyngbersonol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus ym maes rheoli prosiectau, maes llawn her sy’n ehangu’n gyflym. Mae ein MSc Rheoli Prosiectau wedi cael ei gynllunio i gyd-fynd â meysydd gwybodaeth a fframweithiau’r APM

Hyd y rhaglen:

(y Gymdeithas Rheoli Prosiectau) a’r PMI (y Sefydliad Rheoli Prosiectau). Bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer anghenion y rhan fwyaf o sectorau a diwydiannau drwy ymwreiddio amrywiaeth o fethodolegau a dulliau rheoli prosiect megis Llinellol (Traddodiadol/Rhaeadr), Ystwyth, Scrum, Kanban, PRINCE2 a Rheoli Prosiectau ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Bydd gradd MSc Rheoli Prosiectau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa llawn her ym maes rheoli prosiectau ar draws sectorau amrywiol gan gynnwys peirianneg, adeiladu, y trydydd sector ac iechyd. Byddwch yn gallu datblygu’r sgiliau a’r profiad rheoli prosiect sydd gennych eisoes hefyd i arbenigo mewn meysydd fel rheoli risg, cyllid a rheoli contractau neu i ymgymryd â rôl arwain yn eich sefydliad.

Blwyddyn yn llawn amser.

Gofynion mynediad: Gradd israddedig (2:2 neu uwch); neu Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau gyda dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn rôl tîm prosiect; neu bum mlynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn rôl tîm prosiect neu ddwy flynedd o brofiad gwaith cysylltiedig mewn rôl rhaglen a phortffolio.

71


Marchnata Strategol MSc/PgD/PgC Nod yr MSc Marchnata Strategol yw cynhyrchu marchnatwyr a rheolwyr marchnata sy’n gallu gweithredu’n effeithiol mewn pob math o sefydliadau ac amgylcheddau marchnata.

Bydd yr Interniaeth Marchnata orfodol yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau yn y gweithle yn ogystal â datblygu eich rhwydwaith yn y diwydiant.

Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer graddedigion sy’n awyddus i lansio gyrfa farchnata neu’r rhai sydd eisiau camu ymlaen yn eu gyrfa. Felly, ni fydd dysgu am ddamcaniaethau ac egwyddorion marchnata yn ddigon i chi. Byddwch chi eisiau digon o gyfleoedd i werthuso

Mae’r dysgu a’r addysgu ar yr MSc Marchnata Strategol yn defnyddio astudiaethau achos a phrosiectau bob cam o’r rhaglen hyd at yr asesiad terfynol sy seiliedig ar thesis. Credwn fod y rhaglen hon yn rhoi’r cyfle gorau i fyfyrwyr lwyddo mewn marchnad swyddi sy’n disgwyl i arweinwyr a rheolwyr feddu ar y craffter, yr

defnyddioldeb y damcaniaethau a’r egwyddorion hyn yn ymarferol hefyd, yn enwedig mewn perthynas â’ch anghenion penodol chi.

addysg a’r sgiliau sydd eu hangen i weithredu mewn amgylcheddau cynyddol gymhleth lle mae angen mwy a mwy o wybodaeth.

Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys ymddygiad defnyddwyr, ymchwil marchnata a rheoli brand yn ogystal â chael yr opsiwn i deilwra eich astudiaethau i weddu i’ch diddordebau chi.

Mae’r MSc Marchnata Strategol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael gyrfa farchnata lwyddiannus sy’n rhoi boddhad yn ogystal â’r rheiny sy’n awyddus i arbenigo mewn meysydd sy’n cynnwys hysbysebu, cyfathrebu, ymddygiad defnyddwyr, brandio a marchnata digidol.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Caiff myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Dylai ymgeiswyr feddu ar un o’r canlynol: Gradd israddedig (2:2 neu uwch). Profiad gwaith perthnasol (bydd angen dangos tystiolaeth o hyn a’i gwirio).

72


Arweinyddiaeth a Rheoli 20Twenty PgC Mae’r rhaglen Arweinyddiaeth a Rheoli 20Twenty, a gefnogir yn rhannol gan gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), wedi’i chynllunio ar gyfer sefydliadau mawr a busnesau bach a chanolig. Y nod cyffredinol yw helpu busnesau i dyfu’n gynaliadwy drwy ddatblygu’r sgiliau arwain a busnes hanfodol sydd eu hangen ar weithwyr er mwyn ymateb i’r heriau ehangu sy’n wynebu busnesau yng Nghymru. Mae mwy na 600 o gwmnïau wedi elwa ar y rhaglen hyd yn hyn, gyda mwy na 90 y cant yn dweud bod eu trosiant gwerthiannau, cyflogaeth, cynhyrchiant ac elw wedi cynyddu. Cyflwynir y rhaglen Arweinyddiaeth a Rheoli 20Twenty dros gyfnod o ddeg mis drwy chwech o weithdai deuddydd o hyd. Mae hanner cyntaf y rhaglen yn cydnabod ac yn datblygu eich arddull arwain chi eich hun drwy gyfres o weithdai ymarferol a hyfforddiant gweithredol unigol.

Hyd y rhaglen:

Yn yr ail hanner, darperir cyfres o ddosbarthiadau meistr ar arloesi a syniadau newydd ar amrywiaeth o themâu busnes. Ategir yr elfennau ymarferol a gyflwynir drwy’r rhaglen gan gyfle i ennill dyfarniad deuol sy’n cynnwys Tystysgrif lefel 7 mewn Arweinyddiaeth Strategol gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) a Thystysgrif i Raddedigion (PgC) mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy. Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif i Raddedigion yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn ennill 60 o gredydau lefel Meistr a gellir defnyddio’r credydau hyn tuag at yr MBA (Gweithredol) (gweler tudalen 69). Hefyd, gall myfyrwyr ddewis parhau â’u hastudiaethau i ddod yn Rheolwr Siartredig a defnyddio’r dynodiad ‘CMgr’ ar ôl eu henw. Mae’r rhaglen Arweinyddiaeth a Rheoli 20Twenty yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu strategaeth twf tair blynedd o hyd ar gyfer eu busnes neu adran. Mae’r holl weithdai ac aseiniadau’n seiliedig ar anghenion y busnes o ran ysgogi twf cynaliadwy.

10 mis (6 gweithdy, pob un yn para deuddydd).

Gofynion mynediad: Cysylltwch â thîm y rhaglen i drafod y gofynion mynediad. E-bost: cbyrne@cardiffmet.ac.uk

73


YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn un o brif ddarparwyr addysg ac ymchwil ôl-raddedig mewn chwaraeon ac iechyd yng Nghymru. Mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni ôl-raddedig a addysgir ym meysydd chwaraeon, lles, ymarfer corff ac iechyd. Gan dderbyn bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu orau mewn amgylchedd sy’n gyforiog o waith ymchwil, caiff ein rhaglenni ni eu harwain gan y canfyddiadau diweddaraf ym mhob maes. Mae llawer o’n gwaith ymchwil yn unigryw o ran ei ddulliau , ac mae wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei ragoriaeth. Rydym yn ymfalchïo’n gyson yn ein hanes o ran ymchwil a’i heffaith ar ymarfer. Mae ein hymgysylltiad â chymunedau, diwydiant, a llywodraeth leol a chanolog, un o egwyddorion craidd ein hagenda ymchwiliol, yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’n graddedigion allu rhagori yn y proffesiwn o’u dewis.

Rhaglenni a addysgir Mae’r tîm addysgu ôl-raddedig yn cynnwys amrywiaeth eang o brofiad perthnasol. Mae llawer ohonynt ar flaen y gad o ran gweithgareddau ymchwil, ysgolheigaidd, a phroffesiynol ac ymgynghorol sydd, yn eu tro, yn llywio eu gwaith wrth addysgu’r cwricwla. Mae llawer o’n myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar lefel doethuriaeth, tra bod eraill yn sicrhau swyddi mewn amrywiaeth eang o sefydliadau perthnasol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn falch iawn o’n cymuned ymarfer ôlraddedigion fywiog.

Rhaglenni a addysgir Mae gennym gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog, gyda mwy na 150 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, cynorthwywyr ymchwil ac ymchwilwyr ôl-ddoethuriaeth llawn amser a rhan-amser o bob cwr o’r byd.

Mwy o wybodaeth I gael rhagor o fanylion am y graddau ôl-raddedig a addysgir a’r graddau ôl-raddedig ymchwil a gynigir gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ychagi 74


Ymarfer Uwch ................................................ 76 (gyda llwybrau arbenigol) MSc/PgD/PgC D e MSc/PgD/PgC ............................................ 76 G wyddoniaeth Fiofeddygol MSc/PgD/PgC ....... 77 Technoleg Ddeintyddol (Dysgu o bell) ............ 77 MSc/PgD/PgC D eieteg MSc/PgD.. .......................................... 78 Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant ............... 79 MSc/PgD/PgC G wyddor a Thechnoleg Bwyd MSc/PgD/PgC .... 81 S eicoleg Fforensig ......................................... 82 MSc/PgD/PgC/(Rhaglen Ymarferwyr) PgD/Doethuriaeth (D. Foren. Psy.) S eicoleg Iechyd MSc/PgD/PgC ........................ 82 M eistr Ymchwil.. ............................................. 84 (Gwyddorau Biofeddygol/Iechyd/ Seicoleg) MRes/PgC M aeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff . . . 86 MSc/PgD/PgC D iogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol ....... 86 MSc/PgD/PgC Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol .......... 88 MSc/PgD/PgC C ymdeithaseg a Moeseg Chwaraeon .............. 88 MA/PgD/PgC M eddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ...... 91 MSc/PgD/PgC G wyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ............ 91 MSc/PgD/PgC D arlledu Chwaraeon MSc/PgD/PgC ................. 93 H yfforddiant ac Addysgeg Chwaraeon ........... 94 MSc/PgD/PgC R heoli ac Arweinyddiaeth Chwaraeon ............ 94 MSc/PgD/PgC D adansoddi Perfformiad Chwaraeon .............. 95 MSc/PgD/PgC Ymarfer Proffesiynol . . .................................... 95 (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon) MSc/PgD S eicoleg Chwaraeon MSc/PgD/PgC ................. 96 A dsefydlu Chwaraeon MSc/PgD/PgC . . ............ 96 C ryfder a Chyflyru MSc/PgD/PgC ................... 97 75


Ymarfer Uwch (gyda llwybrau arbenigol) MSc/PgD/PgC Mae’r rhaglen hon yn cynnig y llwybrau canlynol: MSc Ymarfer Uwch (Awdioleg) MSc Ymarfer Uwch (Deieteg) MSc Ymarfer Uwch (Astudiaethau Cyhyrysgerbydol) MSc Ymarfer Uwch (Therapi Lleferydd ac Iaith) Y bwriad yw bod y rhaglen yn darparu dilyniant hyblyg ac amrywiol sy’n ymateb i anghenion dysgu proffesiynol parhaus myfyrwyr a chyflogwyr a’r amgylchedd ymarfer sy’n newid yn gyson.

Gellir cynnwys unrhyw fodiwlau lefel Meistr a astudir mewn man arall, sy’n diwallu anghenion dysgu’r myfyriwr, yn y gymysgedd o fodiwlau drwy’r weithdrefn Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL). Yn ogystal, cydnabyddir bod llawer o broffesiynau’n cymryd rhan mewn gweithgareddau DPP heb gredydau. Mae’r modiwl Myfyrio ar Ddysgu Blaenorol yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio gweithgareddau DPP perthnasol i fyfyrio’n feirniadol ar y profiadau hynny a chynhyrchu datganiad a phortffolio myfyriol. Gellir gweld rhestr lawn o fodiwlau llwybr ar ein gwefan a byddant yn cael eu cyflwyno mewn patrwm dysgu cyfunol (blociau o addysgu gydag adnoddau ar-lein).

Hyd y rhaglen: Dwy flynedd yn llawn amser i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio awdioleg ac astudiaethau cyhyrysgerbydol neu dair3 blynedd yn rhan-amser yn unig ar gyfer myfyrwyr y DU/yr UE.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd mewn disgyblaeth sy’n gysylltiedig â’u maes astudio arfaethedig. Gallu dangos dwy flynedd o leiaf o brofiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad priodol.

Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol MSc/PgD/PgC Mae’r MSc Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol yn rhoi ffocws cryf ar gydraddoldeb iechyd a chyfiawnder cymdeithasol ar lefel leol a byd-eang. Nod y rhaglen yw datblygu ymarferwyr iechyd y cyhoedd myfyriol sy’n defnyddio dealltwriaeth systematig ac ymarferol o iechyd y cyhoedd er mwyn gwella a diogelu iechyd a lles yr unigolion, y grwpiau a’r cymunedau y maent yn gweithio gyda nhw. Mae’r rhaglen yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella’r casgliad llawn o benderfynyddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o ran iechyd: er enghraifft, pobl sy’n gweithio ym maes iechyd y cyhoedd, addysg, hybu iechyd, tai, trafnidiaeth, hamdden, iechyd yr amgylchedd, datblygu cymunedol,

partneriaethau iechyd a lles, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol, nyrsys ysgol, ac ymwelwyr iechyd. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob sector: y sectorau cyhoeddus, preifat, a gwirfoddol ac annibynnol. Bwriedir i’r rhaglen fodloni fframweithiau cymhwysedd iechyd y cyhoedd yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd y DU a Safonau Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd y DU. Rydym yn defnyddio llawer o astudiaethau achos rhyngwladol yn ein haddysgu, yn ogystal ag enghreifftiau o’r DU. Gall myfyrwyr ddewis cwblhau’r asesiad portffolio o’r modiwl Ymyriadau Cydraddoldeb Iechyd drwy ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.

Hyd y rhaglen: Dwy flynedd yn llawn amser neu dair blynedd yn rhan-amser. Gofynion mynediad: Yn gyffredinol, disgwylir i fyfyrwyr sy’n ymuno â’r rhaglen yn syth ar ôl cwblhau gradd Baglor feddu ar radd 2:1 o leiaf. Fodd bynnag, ystyrir ceisiadau yn ôl teilyngdod, yn dibynnu ar y pwnc astudio israddedig a ffactorau eraill megis profiad perthnasol (cyflogedig neu wirfoddol). 76


Gwyddoniaeth Fiofeddygol MSc/PgD/PgC Mae’r rhaglen hon wedi’i hachredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol (IBMS), a’i nod yw darparu rhaglen ôl-raddedig o ansawdd uchel sy’n berthnasol yn broffesiynol, gyda phwyslais ar wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarfer Gwyddoniaeth Fiofeddygol. Yn ogystal â chwblhau nifer o fodiwlau craidd, byddwch yn dewis opsiwn arbenigol i ganolbwyntio arno yn eich astudiaethau a bydd eich dyfarniad wrth raddio yn enwi’r arbenigedd a ddewiswyd gennych o fewn teitl y cymhwyster ôl-raddedig y byddwch yn ei gael, fel a ganlyn:

Gydol eich astudiaethau, bydd eich dealltwriaeth bersonol a phroffesiynol o Wyddoniaeth Fiofeddygol yn tyfu drwy raglen academaidd gydlynol o ddysgu cyfeiriedig a hunangyfeiriedig. Bydd hyn yn eich grymuso i ymdrin â themâu biofeddygol cyfoes perthnasol a’u gwerthuso’n feirniadol, ac i gymryd rhan mewn ymchwil ar lefel ôl-raddedig, drwy ddadansoddi a chymhwyso gweithgareddau ymarferol mewn labordy.

MSc Gwyddoniaeth Fiofeddygol (Biocemeg Feddygol)

MSc Gwyddoniaeth Fiofeddygol (Patholeg Celloedd a Moleciwlau)

MSc Gwyddoniaeth Fiofeddygol (Microbioleg Feddygol)

MSc Gwyddoniaeth Fiofeddygol (Geneteg a Genomeg Feddygol)

MSc Gwyddoniaeth Fiofeddygol (Imiwnohaematoleg)

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Dylai ymgeiswyr feddu ar un o’r canlynol: Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth sy’n cynnwys elfen sylweddol o wyddoniaeth fiolegol. Pas gyda sgôr o 60% o leiaf yn yr arholiad Sylfaenol (Rhan I) ar gyfer Cymrodoriaeth y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol. Profiad perthnasol sylweddol ar lefel uwch.

Technoleg Ddeintyddol MSc/PgD/PgC (Dysgu o bell) Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant arbenigol sy’n adeiladu ar gymhwyster cychwynnol mewn technoleg ddeintyddol. Mae sawl modiwl dysgu seiliedig ar waith ar gael sy’n cynnwys astudiaethau achos, datblygiad personol a datblygu portffolio. Mae modiwlau ymchwil ar gael hefyd sy’n paratoi ymgeiswyr ar gyfer y radd Meistr os oes angen. Ar y lefel hon rhaid cynnal prosiect ymchwil a pharatoi erthygl y gellid ei chyhoeddi.

Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer y rhaglen hon gan ei bod yn cael ei haddysgu drwy gyfrwng dysgu o bell. Bydd hyn yn golygu bod angen i fyfyrwyr gael mynediad at gyfleuster fideo-gynadledda ar gyfrifiadur personol sydd â chysylltiad band eang. Cynhelir cyfarfodydd wythnosol o fewn pob modiwl. Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 6 awr o waith ymarferol bob wythnos yn eu labordy/gweithle drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae’r pwnc ymchwil yn cael ei gytuno rhwng y myfyriwr a’i oruchwylydd dynodedig.

Hyd y rhaglen:

Tair blynedd yn llawn amser.

Gofynion mynediad: Dylai fod gan ymgeiswyr ddosbarthiad anrhydedd (1af neu 2:1) mewn technoleg ddeintyddol. 77


Deieteg MSc/PgD Cymeradwyir y graddau PgD ac MSc Deieteg gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac maent wedi’u hachredu gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain hefyd. Mae’r rhaglen Diploma Ôl-raddedig yn perthyn yn agos i’r rhaglen BSc (Anrh) Maeth a Deieteg Dynol ac mae’n cynnwys tri lleoliad gorfodol yn adrannau deieteg y GIG yng Nghymru.

Mae’r MSc yn galluogi graddedigion â Diploma Ôlraddedig mewn Deieteg sydd wedi cofrestru gyda’r HCPC i gwblhau modiwl traethawd hir 60 credyd. Gall myfyrwyr sy’n gadael gyda’r Diploma Ôl-raddedig ddychwelyd i wneud y traethawd hir o fewn pum mlynedd i ddechrau’r Diploma Ôl-raddedig. Mae’r MSc Deieteg yn cael ei gyflawni’n rhan-amser mewn un flwyddyn academaidd. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau’r MSc Deieteg wrth iddynt weithio yn y GIG.

Hyd y rhaglen: Diploma ôl-raddedig: Dwy flynedd yn llawn amser. MSc: Blwyddyn yn llawn amser. Gofynion mynediad: Diploma ôl-raddedig: Dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd (dosbarth 1af neu 2:1) mewn maeth dynol, neu radd sy’n cynnwys maeth yn nheitl y dyfarniad, gyda phwyslais digonol ar ffisioleg a biocemeg (mae angen 50 credyd i gyd, gydag o leiaf 20 credyd mewn ffisioleg ac 20 credyd mewn biocemeg ddynol). Gorau oll hefyd os oes gan ymgeiswyr 10 credyd mewn cymdeithaseg a 10 credyd mewn seicoleg, ond gellir cwblhau’r rhain ochr yn ochr â modiwlau eraill ar y rhaglen os ydynt yn llwyddiannus. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd fynychu Diwrnod o Brofiad mewn Ymddiriedolaeth yng Nghymru. Mae’r rhain yn caniatáu i ddarpar fyfyrwyr fynychu diwrnod a chael blas ar yr amgylchedd clinigol. Gan fod y rhaglen yn gystadleuol, byddai unrhyw brofiad perthnasol fel cynorthwyydd deietegol, gweithiwr iechyd neu waith ar gyfer rhaglenni maeth cymunedol yn ddefnyddiol i wella eich cais.

MSc: Dylai ymgeiswyr fod â chymhwyster Diploma Ôl-raddedig mewn Deieteg a bod wedi eu cofrestru gyda’r HCPC. Gall ymgeiswyr wneud cais i’r rhaglen MSc Deieteg os ydynt wedi astudio ar gyfer y Diploma Ôl-raddedig mewn Deieteg ddim mwy na phum mlynedd cyn hynny.

78


Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant MSc/PgD/PgC (Dysgu o bell) Mae’r MSc mewn Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant ar-lein hwn gyda dysgu hyblyg wedi’i ddosbarthu yn ceisio datblygu staff y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym maes sicrhau ansawdd technegol a datblygu cynnyrch newydd, gyda chyfeiriadau a chymwysiadau penodol i’w hymarfer nhw’u hunain. Bwriad y rhaglen gymhwysol hon yw herio rhagdybiaethau ac arferion y rhai sy’n cymryd rhan, yn ogystal â datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u cymwyseddau.

Hyd y rhaglen:

Mae’r rhaglen yn darparu’r potensial i staff technegol a datblygu cynnyrch newydd presennol a darpar staff o’r fath, gan gynnwys gweithwyr sicrhau ansawdd a thechnolegwyr yn y diwydiant i arddangos eu gwybodaeth a’u sgiliau lle maent yn gweithio. Mae’n gyfrwng i hwyluso datblygiad gyrfaol o fewn eich cwmni neu er mwyn symud i swydd lefel uwch. Nid oes angen dod i’r Brifysgol ar gyfer y rhaglen hon, gan ei bod yn cael ei chyflwyno drwy ddulliau electronig yn unig.

Rhaid cwblhau’r MSc llawn sy’n cael ei astudio’n rhan-amser o fewn pum mlynedd.

Gofynion mynediad: Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd berthnasol mewn gwyddoniaeth a gallu dangos tair blynedd o brofiad o leiaf mewn lleoliad perthnasol.

79


FFOCWS AR ARBENIGWR Des i i Met Caerdydd ar ôl gweithio mewn sawl swydd gwyddor bwyd wahanol yn y diwydiant bwyd. Rydw i wedi bod wrth fy modd â gwyddoniaeth erioed, ac oherwydd bod rhaid i bawb fwyta, daeth y ddau faes at ei gilydd yn fy astudiaethau a dyma agor y drws i’r sector bwyd i mi. Mae gwyddor gwneud bwyd yn ddiogel yn rhywbeth y dylai pawb ei deall yn fy marn i, gan ei fod yn gwneud 600 miliwn o bobl yn sâl yn fyd-eang bob blwyddyn o hyd. Gydol fy mywyd gwaith, mae fy ngyrfa wedi rhoi cyfle i mi deithio a phrofi pob math o ddiwylliannau gwahanol. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar fy mywyd ac ar fy ngyrfa. Mae wedi fy ngalluogi i ddeall bwyd mewn sawl ffordd. O dyfu i brosesu i’w fwyta, mae cael darlun byd-eang o’r hyn sy’n sbarduno bwyd a marchnadoedd rhyngwladol wedi helpu i lywio fy nysgu a’m datblygiad gyrfa. Nid rhywbeth i’n galluogi ni i oroesi’n unig yw bwyd. Mae’n gallu cael ei ddefnyddio i ddod â phobl at ei gilydd, meithrin perthynas, ffurfio grwpiau cymdeithasol, uno diwylliannau gwahanol, ar gyfer perfformiad chwaraeon, fel meddyginiaeth, ac i ddathlu... Yn y pen draw, rhaid i bawb fwyta, felly fel gyrfa mae’n ddiwydiant cynaliadwy i weithio ynddo. Simon Dawson, MRes FHEA MIFST CSci, Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc Gwyddor a Thechnoleg Bwyd 80


Gwyddor a Thechnoleg Bwyd MSc/PgD/PgC Diben y rhaglen yw darparu hyfforddiant proffesiynol i chi sy’n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gynhwysfawr ym meysydd gwyddor bwyd a thechnoleg bwyd. Mae’n ddelfrydol i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio ehangu eu rhagolygon gyrfa i amrywiaeth eang o swyddi gweithgynhyrchu bwyd, masnachol, llywodraeth neu ymchwil ym maes eang gwyddor bwyd a thechnoleg bwyd. Bydd y myfyrwyr yn cael tasgau i ddatblygu a chryfhau eu gwybodaeth a’u sgiliau arwain, ymchwil a datrys problemau er mwyn ymateb i’r heriau byd-eang sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar y diwydiant bwyd, o’r fferm i’r fforc. Mae’r Brifysgol yn gartref i’r Ganolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, canolfan ragoriaeth flaenllaw sy’n rhoi cymorth technegol, gweithredol a masnachol i fusnesau bwyd i’w galluogi i gystadlu’n fwy effeithiol. Mae gan y Ganolfan enw da yn rhyngwladol am ymchwil diogelwch bwyd ac mae’n darparu arbenigedd, hyfforddiant a chyngor i’r diwydiant bwyd, a bydd myfyrwyr sy’n dilyn y radd hon yn elwa ar y cysylltiad agos â’r Ganolfan a’r staff a’u harbenigedd. Mae’r rhaglen yn cynnig y potensial i raddedigion gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y diwydiant bwyd, manwerthu, llywodraeth neu addysg. Mae ein myfyrwyr blaenorol wedi cael gwaith yn rhai o brif fanwerthwyr y DU, gweithgynhyrchwyr bwyd lleol, rhanbarthol a rhyngwladol, labordai bwyd, amrywiol sectorau’r Llywodraeth a rolau cynghori ymgynghorol.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn neu ddwy flynedd (gyda lleoliad gwaith/interniaeth*) yn llawn amser. Dwy flynedd yn rhan-amser. *Er na all Met Caerdydd sicrhau lleoliadau gwaith/interniaethau, gallwn ddarparu cymorth ac arweiniad amrywiol i chi ar sut i ddod o hyd i’ch interniaeth eich hun.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd mewn pynciau gwyddoniaeth a/neu dechnoleg perthnasol. O dan rai amgylchiadau, bydd ymgeiswyr heb radd gyntaf, ond sy’n gallu dangos profiad diwydiannol/proffesiynol perthnasol mewn disgyblaeth debyg yn cael eu hystyried hefyd.

81


Seicoleg Fforensig MSc/Pg.Dip (Rhaglen Ymarferwyr)/ Doethuriaeth Ategol D.Forens.Psy Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio gyda phobl sydd wedi cyflawni troseddau difrifol gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth o’r ffactorau a gyfrannodd at eu gweithredoedd. Maent yn gwneud hyn drwy gynnal asesiadau seicolegol, darparu ymyriadau seicolegol a gwneud argymhellion gyda’r bobl y maent yn gweithio gyda hwy a’r timau amlddisgyblaethol ehangach. Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio mewn pob math o leoliadau cyfiawnder, lleoliadau iechyd diogel, lleoliadau cymunedol a thimau cyfiawnder ieuenctid yn ogystal â’r byd academaidd. Mae’r MSc Seicoleg Fforensig yn cael ei achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio Seicoleg Fforensig yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn darparu sail ar gyfer Cam 1 tuag at Siarteriaeth y BPS.

Mae’r PGDip mewn Seicoleg Fforensig Ymarferwyr yn gymhwyster lefel 8 sy’n galluogi myfyrwyr i ennill sgiliau proffesiynol a hyfforddiant sy’n arwain at gofrestriad HCPC, ac mae ein rhaglen ddoethuriaeth atodol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwil cymhwysol ymhellach. Mae rhanddeiliaid o Wasanaethau Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a darparwyr cyfleusterau iechyd meddwl fforensig diogel yng Nghymru, a ledled y DU, yn helpu i gadw’r rhaglenni’n gyfoes gyda datblygiadau mewn ymarfer a phenderfyniadau polisi. Yn ogystal, mae’r rhaglenni’n elwa ar fewnbwn nifer o gyfranwyr cenedlaethol a rhyngwladol sy’n rhannu eu gwybodaeth arbenigol a’u profiad helaeth o’r maes Seicoleg Fforensig.

Hyd y rhaglen: MSc Seicoleg Fforensig: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Pg.Dip Seicoleg Fforensig (Rhaglen Ymarferwyr): 2-5 mlynedd yn llawn amser. Doethuriaeth Atodol D.Foren.Psy: Dwy flynedd yn llawn amser neu 4 blynedd yn rhan-amser. Gofynion mynediad: MSc Seicoleg Fforensig: gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) o raglen israddedig a achredir gan y BPS. Pg.Dip Seicoleg Fforensig (Rhaglen Ymarferwyr): Gradd a achredir gan y BPS, MSc Seicoleg Fforensig (neu gywerth â hyfforddiant Cam 1 y BPS mewn seicoleg fforensig). Doethuriaeth Atodol D.Foren.Psy: Wedi cofrestru gyda HCPC fel Seicolegydd Fforensig.

Seicoleg Iechyd MSc/PgD/PgC Mae seicoleg iechyd yn canolbwyntio ar rolau seicoleg, bioleg a ffactorau cymdeithasol neu amgylcheddol ar iechyd ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae seicolegwyr iechyd yn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw ac yn ceisio gwella lles drwy ddeall yr effaith y gall meddyliau, teimladau ac ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd ei chael ar yr unigolyn.

yn sail i gam dau y broses tuag at Siarteriaeth gyda’r BPS (dwy flynedd o ymarfer dan oruchwyliaeth). Mae cwblhau cam dau gyda’r BPS yn rhoi cymhwysedd hefyd i fod yn Seicolegydd Iechyd sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae pob seicolegydd sy’n ymarferydd yn cael ei reoleiddio gan yr HCPC.

MSc mewn Seicoleg Iechyd yw’r cam cyntaf (cam un) tuag at statws Seicoleg Siartredig i fyfyrwyr sy’n gymwys i ddal Sail Raddedig ar gyfer Siarteriaeth (GBC) Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Bydd y rhaglen yn darparu’r sylfaen wybodaeth a’r sgiliau ymchwil a fydd

Mae seicolegwyr iechyd yn gweithio ym mhob maes sy’n berthnasol i iechyd, salwch a darparu gofal iechyd. Mae opsiynau gyrfa yn cael eu trafod yn helaeth gydol y rhaglen.

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:1 ac uwch) mewn Seicoleg, o raglen israddedig sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) gan amlaf. 82


Rydw i wedi bod yn gweithio fel fferyllydd cymunedol ers i mi raddio, ond mae gen i ddiddordeb mewn seicoleg iechyd erioed. Rydw i newydd orffen blwyddyn gyntaf PhD llawn amser sy’n ymgorffori seicoleg iechyd a’m cefndir mewn fferylliaeth. Mae wedi bod yn brofiad dysgu llawn her: allai diwrnod gwaith nodweddiadol ddim bod yn fwy gwahanol i’m diwrnod gwaith flwyddyn yn ôl. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried PhD i fynd amdani - dyw hi byth yn rhy hwyr! Sarah Brown, PhD mewn Seicoleg Iechyd

83


Meistr Ymchwil MRes/PgCert Mae’r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n berthnasol yn broffesiynol ar ddulliau ymchwil a dadansoddi ar gyfer graddedigion gwyddoniaeth fiofeddygol, iechyd, seicoleg a chwaraeon. Llwybrau sydd ar gael: Meistr Ymchwil (Gwyddoniaeth Fiofeddygol) - MRes/PGCert ​ Meistr Ymchwil (Iechyd) - MRes/PGCert Meistr Ymchwil (Seicoleg)-MRes/PGCert Mae’r rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn ymchwil yn y dyfodol naill ai drwy symud ymlaen i wneud PhD, fel rhan o dîm ymchwil neu drwy integreiddio ymchwil i’w rôl broffesiynol. Drwy’r modiwlau a addysgir bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil, gan gynnwys cynllunio a chyflwyno rhaglen o ymchwil, gwerthuso llenyddiaeth yn feirniadol, datblygu cynigion ymchwil, technegau labordy ac ymchwil, rheoli prosiectau, cyflwyno canfyddiadau (drwy gyfryngau llafar, ysgrifenedig a digidol) a gwneud cais am gyllid yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i fethodolegau a thechnegau ymarferol amrywiol sy’n berthnasol i’w disgyblaeth. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar lywodraethu ymchwil a gweithdrefnau moesegol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer gwaith fel ymchwilwyr proffesiynol. Bydd myfyrwyr yn cynnal ymchwil sylweddol gan astudio pwnc o’u dewis, dan oruchwyliaeth aelodau profiadol o staff academaidd. Caiff yr astudiaeth hon ei hysgrifennu ar ffurf un i dair erthygl cyfnodolyn a bydd yn cyfrif fel rhan sylweddol o’r credydau ar gyfer y dyfarniad MRes. Mae myfyrwyr blaenorol wedi llwyddo i fynd ymlaen i wneud PhD ac wedi defnyddio eu dyfarniad Meistr Ymchwil i sicrhau gyrfa’n canolbwyntio ar ymchwil.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd (2:1 ac uwch) mewn pwnc iechyd neu wyddor gymdeithasol.

84


Pan wnes i ymrestru ar y rhaglen MRes Gwyddoniaeth Fiofeddygol, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd ar drywydd ymchwil fiofeddygol fel gyrfa. Fe wnaeth rhyddid deallusol a phwyslais ymarferol y rhaglen gynyddu fy mrwdfrydedd ar gyfer ymchwil. Mae gan y rhaglen gyfuniad da o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y misoedd cyntaf, ac yna prosiect chwe mis o hyd yn labordy, prosiect rydych chi’n gyfrifol amdano o’r dechrau i’r diwedd. Ers graddio, rydw i wedi symud i Boston, UDA, i ddilyn gyrfa mewn darganfod cyffuriau ym maes oncoleg. Wrth wneud cais am swyddi, roedd yn amlwg bod fy mhrofiad o wneud ymchwil annibynnol wedi gwneud cryn argraff ar y rhai oedd yn fy nghyfweld, ac i’r rhaglen MRes mae’r diolch am hynny. Ben Stevens, MRes Gwyddoniaeth Fiofeddygol

85


Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc/PgD/PgC Mae maeth yn gwella perfformiad; boed mewn chwaraeon elît, ffitrwydd amatur neu ymarfer corff ymhlith y boblogaeth gyffredinol. Bydd y rhaglen Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn eich galluogi i gael y wybodaeth a’r sgiliau seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Faethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff proffesiynol. Nod y rhaglen yw eich galluogi i ymuno â’r Gofrestr Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (SENr), y gofrestr broffesiynol ar gyfer maethegwyr chwaraeon ac ymarfer corff cymwysedig yn y DU. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymarferwyr SENr cofrestredig profiadol i sicrhau bod gennych chi’r sgiliau

Hyd y rhaglen:

sydd eu hangen arnoch i gael effaith gadarnhaol ar berfformiad pwy bynnag rydych yn gweithio gyda nhw pan fyddwch chi’n dechrau ar eich gwaith. Mae modiwlau galwedigaeth mewn ymarfer proffesiynol yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda thimau chwaraeon, clybiau ac unigolion dethol i wella eu perfformiad drwy faeth. Gwneir hyn mewn modd hyblyg er mwyn cyd-fynd â diddordebau a dyheadau gyrfa pob myfyriwr unigol. Caiff yr holl waith ei oruchwylio’n ofalus gan ymarferwyr cofrestredig er mwyn sicrhau bod sgiliau’n cael eu datblygu’n glir o fewn cod ymddygiad proffesiynol SENr.

Dwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd (2:1 ac uwch) mewn maetheg, deieteg, gwyddor chwaraeon, bioleg ddynol, ffisioleg ymarfer corff neu bwnc cyfatebol.

Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol MSc/PgD/PgC Nod yr MSc Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol yw galluogi ymarferwyr i ddatblygu dulliau cyfannol o wella diogelwch ac iechyd sefydliadol drwy wella ymgysylltiad a lles gweithwyr. Nod y rhaglen yw gwella eich dealltwriaeth a’ch defnydd presennol o brosesau rheoli iechyd a diogelwch galwedigaethol drwy eich galluogi i ddatblygu dull mwy cyfannol o ddylanwadu ar weithwyr a pherfformiad sefydliadol drwy’r cysyniadau cyfoes o ymgysylltu â gweithwyr a lles gweithwyr.

Hyd y rhaglen:

Mae cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith wedi’u hintegreiddio drwy gydol y rhaglen. Fe’ch anogir i gyflawni a chwblhau prosiectau seiliedig ar waith fel rhan o sawl asesiad modiwl. I’r rhai nad ydynt mewn gwaith mae yna Gydgysylltydd Lleoliadau sy’n gweithio gyda myfyrwyr i geisio cael lleoliadau byr ac interniaethau mwy hirdymor tra’n astudio ar y rhaglen. Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH). Ar ôl cwblhau elfen a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i gael aelodaeth graddedigion o IOSH, y cam cyn ennill statws Siartredig.

1-2 flynedd amser llawn neu 2-3 blynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Fel arfer, disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd mewn disgyblaeth sy’n ymwneud â diogelwch, iechyd a lles galwedigaethol. Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad perthnasol arall ym maes diogelwch, iechyd a lles galwedigaethol neu broffesiwn cysylltiedig yn cael eu hystyried.

86


Rhoddodd y rhaglen gyfle i mi ddatblygu gwybodaeth fanwl am bynciau iechyd a diogelwch allweddol fel rheoli risg, gwella diwylliant diogelwch ac ymyriadau eraill i sicrhau gweithle mwy diogel. Rwy’n gweithio fel Cydgysylltydd Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch yn Celsa Steel UK erbyn hyn - rwy’n cymryd rhan mewn prosiect cydymffurfiaeth gyfreithiol sy’n edrych ar agweddau ymarferol ar iechyd a diogelwch. Gallaf ddweud yn hyderus na fyddwn wedi cael y swydd hon heb fy MSc o Met Caerdydd. Nireeksha Nadig, MSc Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol

87


Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol MSc/PgD/PgC Mae’r MSc mewn Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol ar gyfer graddedigion sydd eisiau ymestyn eu gwybodaeth, eu sgiliau ymchwil a’u profiad o gymwysiadau seicoleg. Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer graddedigion seicoleg a disgyblaethau tebyg. Mae’r rhaglen yn addas i fyfyrwyr sydd eisoes mewn gwaith ac sydd eisiau gwella eu hymarfer bob dydd a’u sylfaen sgiliau, neu i raddedigion diweddar sydd

Hyd y rhaglen:

am ymestyn eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w paratoi ymhellach ar gyfer gyrfa. Nod y rhaglen yw meithrin sgiliau ymchwil, gyda phwyslais ar ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac i gynorthwyo myfyrwyr i ennill sgiliau sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd perthynas ystyrlon ag eraill sy’n helpu pobl i newid ymddygiad. Felly mae’r rhaglen ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda phobl eraill ac sy’n rheoli pobl eraill.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd (2:1 ac uwch) mewn seicoleg neu bwnc tebyg.

Cymdeithaseg a Moeseg Chwaraeon MA/PgD/PgC Mae’r astudiaeth gymdeithasol-ddiwylliannol o chwaraeon wedi dod yn fwy fwy arwyddocaol. Gan ddefnyddio dau faes astudio o bwys o fewn yr astudiaeth ddiwylliannol-gymdeithasol o chwaraeon, mae’r radd Cymdeithaseg a Moeseg Chwaraeon yn canolbwyntio ar gymdeithaseg a moeseg (athroniaeth) chwaraeon, sy’n ei gwneud yn wahanol i raglenni chwaraeon diwylliannol-gymdeithasol eraill. Mae cynnwys y rhaglen yn cael ei llywio gan ymchwil gyfredol ac arloesol ac mae wedi cael ei chanmol am ei chwmpas a’i hyblygrwydd wrth asesu sy’n galluogi myfyrwyr i ddilyn a datblygu diddordebau unigol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r ffordd y mae myfyrwyr yn llunio’r syniadau hyn o fudd i’w dyheadau gyrfa yn y dyfodol. Ceir galw cynyddol am ymwybyddiaeth a gwybodaeth am faterion cymdeithasol gan arbenigwyr ym maes chwaraeon lle mae diddordeb mewn pobl. Mae galw am gymdeithasegwyr a moesegwyr chwaraeon mewn galwedigaethau amrywiol sy’n

Hyd y rhaglen:

gysylltiedig â chwaraeon sy’n cynnwys; rhaglenni datblygu chwaraeon cymunedol, rheoli cyfleusterau chwaraeon/hamdden yn y sector preifat, rolau gweinyddu chwaraeon a’r cyfryngau chwaraeon. At hynny, mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy’n awyddus i ddilyn gyrfa ymchwil neu barhau i astudio ar lefel PhD ac mae’n meithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r canlynol yn enghreifftiau penodol o’r hyn mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i’w wneud ar ôl graddio: Darlithydd coleg Addysg Bellach mewn Chwaraeon, Tiwtor Cyswllt Addysg Uwch mewn chwaraeon, Darlithyddiaeth Addysg Uwch mewn chwaraeon, hyfforddiant athrawon TAR, astudiaeth PhD; Swyddog Ymchwil ac Arloesi y DU, hyfforddwr pêl-droed, gweithiwr y GIG, rheolwr codi arian cymunedol RNLI, recriwtiwr gwasanaethau ariannol arbenigol, hyfforddwr Taekwondo.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn maes disgyblaeth amgen sy’n dderbyniol i arweinydd y rhaglen. Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth ym myd addysg, hyfforddi, rheoli hamdden neu hamdden yn cael eu hystyried ar gyfer lle ar y llwybr hefyd. 88


Nid oedd dewis beth i’w wneud ar ôl graddio’n benderfyniad hawdd, ond sylweddolais fod un pwnc yn mynd â’m bryd fwy na dim byd arall - Moeseg, a chefais farciau da yn y pwnc. Wrth edrych ar raglenni ôl-raddedig posibl, des i ar draws y rhaglen MA Cymdeithaseg a Moeseg Chwaraeon. Roedd y syniad o allu astudio moeseg ymhellach a’i gyfuno gyda phwnc newydd yn apelio ataf. Ar ôl trafod y rhaglen gyda thiwtoriaid, a oedd yn gefnogol iawn, roedd yn ddewis hawdd parhau â’m hastudiaethau yma ym Met Caerdydd. Meilyr Jones, MA Cymdeithaseg a Moeseg Chwaraeon

89


FFOCWS AR ARBENIGWR Ar lefel ôl-raddedig, rydym ni’n aml yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes ymchwil neu ymarfer proffesiynol mewn chwaraeon neu iechyd ac mae’r themâu hyn yn cydredeg drwy fy llwybr gyrfa fy hun. Mae fy mhrofiadau yn llywio addysgu a chynllun ein rhaglen i helpu myfyrwyr i gychwyn ar eu llwybrau gyrfa eu hunain. Mae maint cymharol fach y grwpiau’n galluogi trafodaeth go iawn a datblygu sgiliau, sy’n golygu ein bod yn gallu diwallu anghenion myfyrwyr drwy eu goruchwylio, eu haddysgu a’u harwain yn ystod eu rhaglen ôl-raddedig. Michael Hughes, PhD. Cyfarwyddwr Rhaglen yr MSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

90


Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc/PgD/PgC* Mae’r rhaglen Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ôl-raddredig unigryw hon sy’n cael ei hachredu gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn ceisio addysgu meddygon meddygol, ffisiotherapyddion siartredig ac osteopathiaid ym maes meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Yn ystod y rhaglen byddwch yn cael darlithoedd gan arbenigwyr â chymwysterau lefel uchel mewn meddygaeth

Hyd y rhaglen:

chwaraeon ac ymarfer a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ar y datblygiadau academaidd ac ymarferol diweddaraf yn y maes. Mae’r rhaglen ôl-raddedig yn rhoi gwybodaeth eang i fyfyrwyr ar draws meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff a’r sgiliau angenrheidiol i roi theori ar waith. *Ddim yn cael ei chynnig ar hyn o bryd ar gyfer mynediad 20/21.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd mewn gwyddorau meddygol neu wyddorau iechyd cysylltiedig, a hefyd o leiaf blwyddyn o brofiad clinigol ar ôl graddio.

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc/PgD/PgC Mae’r arbenigedd ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn cael ei gyfuno mewn ffordd unigryw gydag un o’r canolfannau mwyaf blaenllaw ar gyfer chwaraeon myfyrwyr yn y DU i ddarparu rhaglen MSc boblogaidd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae’r rhaglen Meistr hon yn canolbwyntio ar ddysgu ac ymarfer proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil ac yn mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr o feithrin dealltwriaeth o faterion cyfoes mewn chwaraeon ac ymarfer corff drwy safbwyntiau aml-ddisgyblaeth a disgyblaeth annibynnol.

Hyd y rhaglen:

O fewn y rhaglen, gall myfyrwyr ddewis arbenigo mewn llwybrau penodol mewn Biomecaneg, Ffisioleg a Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd neu o fewn llwybr cyffredinol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo myfyrwyr i archwilio cyfleoedd i gael interniaethau ym maes ymchwil, gwyddor chwaraeon gymhwysol ac ymarfer clinigol, ac yn cefnogi ymgysylltiad myfyrwyr mewn cyrff proffesiynol ymhellach (e.e. Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain: BASES).

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn gwyddor chwaraeon neu ymarfer corff neu ddisgyblaeth berthnasol sy’n dderbyniol i Gyfarwyddwr y Rhaglen.

91


Mae gan y rhaglen gymysgedd dda o sesiynau theori a sesiynau ymarferol yr oeddem ni’n gallu eu rhoi ar waith mewn lleoliadau bywyd go iawn. Er enghraifft; cawsom gyfle i gynnal cyfweliadau yng nghemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a defnyddio sianel deledu chwaraeon Met Caerdydd fel llwyfan i rannu ein cynnwys ni’n hunain. Ar gyfer fy lleoliad gwaith bues i’n ffodus iawn cael mynd i Minsk yn Belarus i redeg y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y Pwyllgor Olympaidd Ewropeaidd yn y Gemau Ewropeaidd. Gweithiais i gwmni o’r enw MSM Management a gofalu am straeon Instagram a oedd yn cynnwys cyfweld â’r athletwyr a oedd yn cystadlu yno yn y seremoni agoriadol a’r seremoni cloi. Roedd gen i bas i fynd i bob digwyddiad lle bues i’n ffilmio a golygu eitemau dyddiol ‘o’r tu ôl i’r llenni’. Mae’r rhaglen wedi fy helpu i sicrhau cymaint o gyfleoedd gwaith cyn i mi raddio hyd yn oed! Mica Moore, MSc Darlledu Chwaraeon

92


Darlledu Chwaraeon (gyda Chyfleoedd Interniaeth) MSc/PgD/PgC Gradd Meistr gyda ffocws ymarferol ac sy’n cael ei llunio a’i chyflwyno gan weithwyr proffesiynol y diwydiant darlledu chwaraeon i greu ymarferwyr Darlledu Chwaraeon a’u paratoi i fod yn barod ar gyfer y diwydiant i gael eu cyflogi ym maes newyddiaduraeth darlledu chwaraeon ac ar draws y diwydiant cyfryngau chwaraeon. Mae’r rhaglen wedi’i hysgrifennu ar y cyd â newyddiadurwyr darlledu chwaraeon o’r BBC, ITV, Sky Sports a’r Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Darlledu. Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn meistroli amrywiaeth eang o sgiliau cynhyrchu newyddiaduraeth ddarlledu, yn dysgu sut i ffilmio a golygu eu heitemau eu hunain, recordio a chynhyrchu sain, creu cynnwys digidol tra’n hogi eu greddf newyddiadurol, eu gwerthoedd newyddion a’u craffter golygyddol. Byddant yn edrych yn feirniadol ar y berthynas ddwyffordd rhwng materion gwleidyddol-gymdeithasol, sylw gan y cyfryngau modern a chwaraeon proffesiynol. Bydd myfyrwyr yn astudio elfennau o gyfraith y cyfryngau hefyd, ac yn dadansoddi sut mae moeseg, ymdeimlad o degwch, didueddrwydd, cywirdeb a gwybodaeth gadarn am reoliadau a hawliau’n hollbwysig wrth weithredu o fewn y dirwedd darlledu chwaraeon fodern sy’n newid yn gyflym. Mae cynnwys modiwl lleoliad gwaith sylweddol yn y radd yn rhoi cyfle i weithio yn ein huned ddarlledu fewnol gydol y flwyddyn academaidd. Mae gennym gyfleoedd i wneud lleoliadau gyda phob un o’r prif ddarlledwyr yng Nghymru a thu hwnt. Trwy gydol y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol yn y byd go iawn o wahanol rolau darlledu. Bydd myfyrwyr yn dysgu ymchwilio, rhwydweithio a meithrin cysylltiadau, gan ddyrchafu eu sgiliau adrodd ac ysgrifennu am chwaraeon i’r lefel nesaf a meistroli’r grefft o ddweud stori a chreu cynnwys yn yr oes ddigidol sy’n newid yn gyflym drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, blogio, flogio, ffrydio byw a phodlediadau.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd mewn unrhyw Chwaraeon, Darlledu, Cyfryngau neu pwnc Newyddiaduriaeth

93


Hyfforddiant ac Addysgeg Chwaraeon MSc/PgD/PgC Mae’r rhaglen Hyfforddiant ac Addysgeg Chwaraeon yn cynnwys hyfforddwyr ac athrawon yn y broses o gymhwyso theori i’w hymarfer a’i nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol sydd â’r gallu i reoli problemau addysgeg yn effeithiol. Mae’n cynnig cyfle unigryw ar gyfer datblygiad proffesiynol a gyrfaol, gan ganolbwyntio ar ddysgu cymhwysol a dysgu drwy brofiad o fewn cymuned ymarfer.

Hyd y rhaglen:

Mae myfyrwyr y rhaglen wedi datblygu gyrfaoedd mewn hyfforddi chwaraeon, addysgu, cymorth gwyddor chwaraeon, addysg bellach ac uwch, a datblygu chwaraeon. Mae’r rhaglen yn sylfaen ardderchog hefyd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r ddoethuriaeth a addysgir mewn Hyfforddiant Chwaraeon, MPhil/PhD neu astudieth Doethuriaeth Broffesiynol.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar BSc/BA(Anrh) dosbarth cyntaf neu 2:1 mewn maes pwnc cysylltiedig ynghyd â phrofiad addysgu/hyfforddi priodol.

Rheoli ac Arweinyddiaeth Chwaraeon (gyda Chyfleoedd Interniaeth) MSc/PgD/PgC Mae hon yn rhaglen gyfoes sy’n targedu gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden ac sy’n awyddus i ddatblygu eu hymarfer arwain a/neu chwilio am gyfleoedd newydd. Mae’r rhaglen yr un mor ddeniadol i raddedigion diweddar yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol sy’n ceisio datblygu eu gwybodaeth a’u potensial i gael gwaith (trwy leoliad dan oruchwyliaeth neu interniaeth ymgynghori). Mae’r rhaglen yn rhoi pwys mawr ar gyflogadwyedd, o ran datblygu a gwella gyrfaoedd y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector chwaraeon ac o ran paratoi graddedigion newydd a’r rhai sydd eisiau newid gyrfa i fod yn gystadleuol yn y farchnad waith. Mae’r ffocws ar ddatblygu sgiliau arwain ac rydym yn annog myfyrwyr i weithio gyda’i gilydd i’w datblygu a’u mireinio.

i gael blas ar y cyd-destun, llunio achosion a sgiliau sy’n gysylltiedig ag amgylchedd gwaith arweinydd chwaraeon cyfoes mewn lleoliad addysgol rheoledig a diogel. Yn fwy penodol, gall myfyrwyr ddewis modiwl dewisol 20 credyd a addysgir sy’n darparu hyd at 180 o oriau o ddysgu seiliedig ar waith. Hefyd, gan amlaf, mae nifer o’n myfyrwyr mewn gwaith ac mae amgylchedd dysgu’r rhaglen a’r dull addysgu rhyngweithiol yn eu galluogi i rannu a throsglwyddo’r hyn maent wedi ei ddysgu wrth gymhwyso eu dysgu seiliedig ar waith a dangos hyn mewn asesiadau. Mae’r rhaglen yn sylfaen ardderchog hefyd ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen i astudio MPhil/ PhD ac i ddatblygu ymhellach mewn cyd-destun ymchwil ôl-raddedig.

Yn gyffredinol, mae llawer o’n dulliau darparu, tasgau yn y dosbarth a strategaethau asesu yn galluogi myfyrwyr

Hyd y rhaglen:

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd mewn pwnc priodol sy’n gysylltiedig â rheoli.

94


Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon MSc/PgD/PgC Gyda llwybrau a enwir ar gyfer: Cymhwysol ​​ Dadansoddeg Mae Dadansoddi Perfformiad yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ymysg y gorau yn y byd o ran safbwyntiau academaidd a chymhwysol. Mae’r Ysgol wedi cynnig astudiaethau ôl-raddedig mewn Dadansoddi Perfformiad ers datblygu’r radd Meistr gyntaf erioed ym maes Dadansoddi Perfformiad yn 2003. Mae gan yr Ysgol Ganolfan Dadansoddi Perfformiad unigryw sydd â labordai addysgu ac ymarferol o’r radd flaenaf gyda phob math o feddalwedd ac adnoddau gyda’r gorau yn y byd. Mae’r ysgol wedi datblygu dau lwybr newydd sydd â’r nod o adlewyrchu datblygiadau diweddar ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon. Mae’r rhaglen yn cyfuno sgiliau academaidd, ymarferol ac ymchwil i’ch galluogi i ddatblygu yn y maes o’ch dewis.

Gall myfyrwyr ddewis arbenigo mewn llwybrau penodol, naill ai Cymhwysol neu Ddadansoddeg. Mae’r llwybr Cymhwysol yn paratoi ymarferwyr medrus ag egwyddorion gwyddonol cadarn i seilio eu gwaith arnynt a datblygu eu dealltwriaeth o’r ddamcaniaeth wrth wraidd y dadansoddiad. Mae’r llwybr Dadansoddeg yn cyfuno sgiliau gwyddor data a gwybodaeth am chwaraeon gyda damcaniaeth dadansoddi perfformiad. Mae llawer o raddedigion dadansoddi perfformiad Met Caerdydd yn gweithio ym maes dadansoddi perfformiad. Oherwydd gofynion Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, cwmnïau teledu lloeren a daearol, clybiau pêl-droed, clybiau rygbi, Athrofa Chwaraeon Cymru, yr English Institutes (canolfannau rhanbarthol) of Sport, bu cynnydd yn y dewis o gyfleoedd gyrfa ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon. Mae’r rhaglen hon yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd dadansoddi yn y diwydiant chwaraeon, yn enwedig gwaith sy’n digwydd gyda pherfformwyr elît.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd (2:1 neu uwch) mewn maes pwnc priodol.

Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon) MSc/PgD Mae’r rhaglen Meistr Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon ymysg y gorau yn y byd o ran safbwyntiau academaidd a chymhwysol. Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi cynnig astudiaethau ôl-raddedig mewn Dadansoddi Perfformiad ers datblygu’r radd Meistr gyntaf erioed ym maes Dadansoddi Perfformiad yn 2003. Mae gan yr Ysgol Ganolfan Dadansoddi Perfformiad unigryw sydd â labordai addysgu ac ymarferol o’r radd flaenaf gyda phob math o feddalwedd ac adnoddau gyda’r gorau yn y byd.

Mae’r datblygiad newydd hwn, yr MSc Ymarfer Proffesiynol, yn defnyddio dysgu o bell, sy’n osgoi’r angen i symud neu gymudo ar gyfer darlithoedd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu arbenigedd a dysgu cymhwysol o fewn yr amgylchedd gwaith a chymhwyso cyd-destun damcaniaethol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy leoliad proffesiynol hydredol ym maes dadansoddi perfformiad chwaraeon, naill ai drwy waith y myfyrwyr eu hunain neu drwy ysgoloriaeth ymchwil a hysbysebir.

Hyd y rhaglen: 1-2 flynedd yn llawn amser (dysgu o bell) neu 2-4 blynedd yn rhan-amser. Gofynion mynediad: Dylai ymgeiswyr feddu ar un o’r canlynol: Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn chwaraeon, mathemateg neu faes cysylltiedig sy’n briodol ym marn Cyfarwyddwr y Rhaglen. Profiad o astudio neu ddarparu dadansoddiad o berfformiad. Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth ym maes chwaraeon, hyfforddi neu berfformiad yn cael eu hystyried hefyd. 95


Seicoleg Chwaraeon MSc/PgD/PgC Mae’r MSc mewn Seicoleg Chwaraeon a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ddamcaniaethol a chymhwysol o seicoleg chwaraeon mewn amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Bernir bod graddedigion y rhaglen (sydd â gradd Israddedig Siartredig Sail Graddedigion hefyd) wedi bodloni cam un y gofynion ar gyfer Aelodaeth Siartredig o’r Gymdeithas (CPsychol) ac aelodaeth lawn o’r Adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y BPS.

Hyd y rhaglen:

Bwriedir i’r rhaglen fod yn hyblyg, diwallu anghenion myfyrwyr a datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd. Cyflwynir y rhaglen gan dîm o staff seicoleg chwaraeon ymroddedig, gyda llawer ohonynt ar flaen y gad ym maes ymchwil ryngwladol a datblygiadau ymarfer proffesiynol yn eu priod feysydd. Mae cymhwyso theori i ymarfer proffesiynol a ffocws ar les athletwyr (a staff cymorth) ymhlith cryfderau allweddol y rhaglen.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig a achredir gan y BPS mewn seicoleg (2:1 neu uwch) neu radd israddedig (2:1 neu uwch) mewn gwyddor chwaraeon/ymarfer corff (neu raglen gysylltiedig) gydag elfen sylweddol o seicoleg chwaraeon.

Adsefydlu Chwaraeon MSc/PgD/PgC Nod y radd Meistr Adsefydlu Chwaraeon yw datblygu ymarferwyr Adsefydlu Chwaraeon medrus tu hwnt sydd ag ymwybyddiaeth feirniadol o’r maes ac sy’n barod ar gyfer gwaith yn y diwydiant. Cyflawnir hyn drwy ddatblygu myfyrwyr myfyriol ac annibynnol sydd â dealltwriaeth o faterion proffesiynol, rhesymu clinigol ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar yr un pryd â sicrhau bod ganddynt amrywiaeth eang o sgiliau ymarferol sy’n hanfodol ar gyfer Adsefydlu Chwaraeon. Mae’r rhaglen wedi’i chymeradwyo gan Gymdeithas Adsefydlwyr a Hyfforddwyr Chwaraeon Prydain (BASRaT) a bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen MSc achrededig yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda BASRaT.

Hyd y rhaglen:

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n helaeth ar sgiliau a galluoedd ymarferol a rhaid i bob myfyriwr gwblhau o leiaf 400 awr o brofiad mewn lleoliad clinigol; gofyniad sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag achrediad (BASRaT). Mae gennym gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gyda chlinigau adsefydlu chwaraeon, timau chwaraeon y brifysgol a rhai lleol yn ogystal â rhai ymhellach i ffwrdd. Fel rhan o’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn cwblhau cymhwyster gofal trawma uwch cydnabyddedig a gymeradwyir gan y Gyfadran Gofal Cyn Ysbyty, Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin. Mae’r cymhwyster hwn yn ofyniad a nodir gan BASRaT a bydd yn darparu gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i fyfyrwyr a fydd o fudd mawr wrth gwblhau’r modiwl Ymarfer Clinigol Proffesiynol ac ar gyfer eu gyrfaoedd gwaith.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn Adsefydlu Chwaraeon, Therapi Chwaraeon, Ffisiotherapi, Osteopathi, Cryfder a Chyflyru, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

96


FFOCWS AR ARBENIGWR Des i i faes seicoleg chwaraeon yn ddiweddarach mewn bywyd ar ôl fy ngyrfa gyntaf fel swyddog yn yr RAF. Mae nofio wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd i erioed ac ar ôl cael cyflwyniad i seicoleg drwy’r Brifysgol Agored, dyma feddwl am sut gallwn i gyfuno fy nau ddiddordeb - chwaraeon a seicoleg. Aeth cariad at ddysgu â mi ar daith drwy ail MSc, PhD, a chymhwyster ymarfer proffesiynol. Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach ac rydw i bellach yn Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd a Seicolegydd Chwaraeon Siartredig yn gweithio gydag athletwyr o gampau unigol ar bob lefel o chwaraeon. Rydw i’n credu gant y cant bod seicoleg chwaraeon yn un o’r pynciau hynny lle gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn nid yn unig i berfformiad athletwyr ond hefyd i ansawdd eu bywydau o ran eu lles meddyliol. Er mwyn gallu cyflawni hyn, mae angen i mi edrych ar y darlun cyfan: mae ymchwil yn llywio fy ngwaith addysgu a’m hymarfer ac i’r gwrthwyneb. Gobeithio y bydd y myfyrwyr a’r athletwyr rydw i’n gweithio gyda nhw yn elwa ar drin y pwnc mewn modd amlochrog fel hyn, a bod yr MSc Seicoleg Chwaraeon yn arbennig yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y cam nesaf o’u taith i ddod yn seicolegwyr chwaraeon, ymchwilwyr, athrawon, neu unigolion sy’n gallu mabwysiadu golwg feirniadol ar y byd chwaraeon i lywio eu hymarfer nhw’u hunain (ac eraill). Karen Howells PhD, CPsychol, SFHEA, Uwch Ddarlithydd Seicoleg Chwaraeon

97


Cryfder a Chyflyru (gyda Chyfleoedd Interniaeth) MSc/PgD/PgC Nod y rhaglen cryfder a chyflyru yw paratoi myfyrwyr ar gyfer cael gwaith yn y diwydiant cryfder a chyflyru. Caiff hyn ei gyflawni drwy staff academaidd sydd â phrofiad yn y sector cymhwysol ac sy’n gwneud ymchwil gyfredol yn y proffesiwn cryfder a chyflyru a meysydd cysylltiedig. Mae’r rhaglen yn elwa hefyd ar gael darlithwyr gwadd o’r diwydiant. Dyma’r rhaglen gyntaf o’i math i gynnig modiwl interniaeth pwrpasol lle gall myfyrwyr ennill credydau academaidd wrth ymgymryd â phrofiad gwaith mewn strwythur clwb chwaraeon, sefydliad proffesiynol neu mewn Corff Llywodraethu Cenedlaethol.

Hyd y rhaglen:

Gall graddedigion y rhaglen barhau â’u hastudiaethau a chofrestru ar gyfer gradd ymchwil (MPhil/PhD) mewn pwnc cysylltiedig. Bydd graddedigion eraill yn dilyn gyrfaoedd fel hyfforddwyr cryfder a chyflyru proffesiynol sy’n gweithio i’r Home Country Sports Institutes, timau chwaraeon proffesiynol a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, hyfforddwyr technegol, yn gweithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd, yn gweithredu fel ymgynghorwyr ac yn darlithio.

Blwyddyn yn llawn amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

Gofynion mynediad: Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth sy’n dderbyniol i Gyfarwyddwr y Rhaglen.

Pan wnes i ymrestru ar y rhaglen MSc Cryfder a Chyflyru roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant ffitrwydd. Mae gan y rhaglen gymysgedd dda o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol sy’n golygu fy mod i’n gallu archwilio hyfforddi fel gwyddor ac fel crefft. Yn ogystal â dysgu egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth, dysgais sut i gyfleu’r wybodaeth yn ymarferol er mwyn cael canlyniad dymunol. Ryan Stevens, MSc Cryfder a Chyflyru

98


Roedd fy interniaeth gyda Dreigiau Casnewydd nid yn unig yn hwb i’m cymhwysedd i weithio gydag athletwyr gwryw, elít, ond roedd yn gyfle i mi ddysgu gan rai o staff hyfforddi a chwaraewyr rygbi gorau’r byd hefyd. Cefais greu a gweithredu rhaglen ar gyfer un o chwaraewyr y tîm. Roedd hyn yn caniatáu i mi greu rhaglen ymwrthiant lawn sy’n targedu ei brif nodau fel mewnwr, a’i hyfforddi trwy bob un o’i sesiynau ymarfer corfforol. Mollie Martin, MSc Cryfder a Chyflyru

99


100


YSGOL DECHNOLEGAU CAERDYDD Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn cynnig graddau ôl-raddedig a chyfleoedd ymchwil mewn technoleg. Mae ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn cael eu llywio gan yr holl waith ymchwil amrywiol a wneir o yn yr Ysgol, ac maent wedi’u cynllunio’n ofalus i fod yn berthnasol i’r diwydiant a chanolbwyntio ar yrfaoedd. Mae gan ein gwaith ymchwil gysylltiadau agos â diwydiant, ac mae’n dangos effaith yn lleol tra’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ragoriaeth hefyd. Mae’r Ysgol yn gartref i Labordy Roboteg EUREKA hefyd, un o brif ganolfannau ymchwil y DU ym maes roboteg gymdeithasol a gwasanaeth. Mae pob un o’n graddau a addysgir yn cynnig cyfleo i gael profiad yn y diwydiant drwy lwybrau Interniaeth arloesol neu leoliadau gwaith byrrach. Mae cyfleoedd i ymchwilio neu astudio gyda’n partneriaid rhyngwladol ar gael hefyd.

Mwy o wybodaeth I gael rhagor o fanylion am yr ymchwil a wneir gan Ysgol Dechnolegau Caerdydd a’r casgliad o raddau ôl-raddedig a addysgir a’r graddau ymchwil a gynigir, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ydc

C yfrifiadureg Uwch ................................... 104 (Interniaeth) MSc/PgD/PgC G wyddor Data (Interniaeth) ..................... 107 MSc/PgD/PgC R heoli Technoleg Gwybodaeth . . ............... 108 (Interniaeth) MSc/PgD/PgC R heoli Prosiectau Technoleg ................... 108 (Interniaeth) MSc/PgD/PgC

101


102


Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yr holl adnoddau sydd eu hangen arnaf i ganolbwyntio ar fy ymchwil. Mae dysgu gan staff a rhannu arbenigedd wedi ychwanegu gwerth at fy astudiaethau ac wedi helpu i ehangu fy ffocws ar y darlun mwy mewn ymchwil seiber. Does gen i ddim amheuaeth fy mod i yn y lle iawn gyda’r bobl iawn. Mae fy goruchwylwyr yn gyfeillgar ac yn gefnogol, ac mae eu hadborth wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Gyda’u harweiniad a’u cyfarwyddyd, cefais gyfle i gyhoeddi nifer o erthyglau, ac un benodol ar gyfer Sri Lanka, a gafodd ei chyhoeddi’n ddiweddar yn un o bapurau newydd mwyaf blaenllaw Sri Lanka. Rydw i wedi cael y cyfle hefyd i fynd i gynadleddau a seminarau, cyflwyno fy ngwaith, sefydlu cysylltiadau gwerthfawr a datblygu fy ngyrfa. Os ydych chi’n ystyried gwneud eich ymchwil a datblygu’ch gwybodaeth dechnegol, bydd astudio ym Met Caerdydd yn gwireddu’r cyfan i chi hefyd. Vibhushinie Bentotahewa, PhD mewn Seiberddiogelwch

103


Cyfrifiadureg Uwch MSc/PgD/PgC Cyfrifiadureg Uwch (Interniaeth) MSc/PgD/PgC Nod y radd Meistr hon yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ddatblygu systemau cyfrifiadurol datblygedig a rheoli pob agwedd ar y gwaith o’u cynhyrchu a’u cynnal a’u cadw. Ar hyd a lled y byd, mae’r galw am raddedigion Cyfrifiadureg ar gynnydd. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa ar gael i raddedigion medrus, gan gynnwys fel datblygwyr y we a meddalwedd, peirianwyr meddalwedd, dadansoddwyr diogelwch gwybodaeth, dadansoddwyr cronfeydd data a dadansoddwyr data. Trwy gyfuniad o ddysgu seiliedig ar ymarfer a modiwlau damcaniaethol, bydd y radd hon yn sicrhau bod gennych chi’r galluoedd a’r cymhwysedd uwch sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich gyrfa neu wneud rhagor o ymchwil. Mae gan Ysgol Dechnolegau Caerdydd gysylltiadau agos â diwydiant a chyflogwyr, ac mae ffocws ar ddatblygu gyrfa a phrofiad gwaith diwydiannol yn allweddol i’r rhaglen hon. Os ydych yn dymuno dilyn y llwybr Interniaeth, byddwch yn ymgymryd â lleoliad craidd yn y diwydiant a fydd yn eich galluogi i gael profiad gwaith gyda chwmnïau lleol a chenedlaethol sy’n berthnasol i’r sector. Mae’r llwybr safonol yn cynnig modiwl Interniaeth dewisol byrrach i adeiladu ar eich gwybodaeth mewn lleoliad proffesiynol.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn neu ddwy flynedd (llwybr Interniaeth) yn llawn amser. Tair blynedd yn rhan-amser. Gall myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:2 o leiaf) mewn maes perthnasol, e.e. Cyfrifiadura, Systemau Gwybodaeth neu arbenigedd Peirianyddol priodol.

104


FFOCWS AR ARBENIGWR Fy niddordeb ymchwil yw’r man lle mae data gwyddoniaeth a gofal iechyd yn dod at ei gilydd. Fel gwyddonydd data a biowybodegydd, rydw i’n defnyddio cyfrifiadureg a gwyddor data i dynnu gwybodaeth arwyddocaol o ddilyniannau genom a signalau biofeddygol, fel tonnau’r galon neu’r ymennydd, i wella gofal iechyd. Drwy wyddoniaeth data, rydw i’n ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu profion a therapïau diagnostig mwy cywir sy’n fwy tebygol o lwyddo i wella canser a thrin heintiau bacterol ac afiechydon eraill. Rwy’n dod â’m gwaith ymchwil i’r ystafell ddosbarth ac rydw i’n ceisio cysylltu fy addysgu ag astudiaethau achos go iawn bob amser. Trwy ddod ag enghreifftiau o’r prosiectau ymchwil rydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw, rwy’n gallu dangos i’m myfyrwyr sut mae gwyddor data yn gallu cael effaith go iawn yn y byd. Dr Ambikesh Jayal, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni MSc yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd 105


Roedd astudio ym Met Caerdydd yn brofiad gwerth chweil gan fy mod i wedi gallu datblygu fy holl alluoedd i atgyfnerthu fy sgiliau gwyddor data. Mae’r rhaglen yn eich paratoi’n dda iawn i allu archwilio cyfleoedd mewn unrhyw swyddi sy’n gysylltiedig â gwyddor data. Mae arweinwyr y modiwl yn gyfeillgar ac yn agos atoch a gall pob modiwl gael ei weithredu yn y gweithle. Merlin Mary Vincent Vedaraj, MSc Gwyddor Data

106


Gwyddor Data MSc/PgD/PgC Gwyddor Data (Interniaeth) MSc/PgD/PgC Mae’r radd Meistr hon yn rhaglen astudio ôl-raddedig sy’n berthnasol i ddiwydiant. Bydd y rhaglen yn rhoi i chi’r wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol y mae galw mawr amdanynt fel y gallwch ddatblygu systemau gwyddor data, defnyddio meddalwedd i ddadansoddi a syntheseiddio data, a rheoli pob agwedd ar wyddor data. Mae Gwyddor Data a “Data Mawr” yn bwysicach nag erioed. Mae galw mawr yn y sectorau preifat a chyhoeddus am raddedigion sydd wedi’u hyfforddi i ennyn dealltwriaeth o setiau data mawr, tynnu patrymau a darparu gwybodaeth y gellir gweithredu ar ei sail i ddatrys problemau’r byd go iawn. Bydd y wybodaeth arbenigol y byddwch chi’n ei datblygu drwy’r rhaglen yn eich galluogi i ddilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys dadansoddwr data, gwyddonydd data, ymgynghorydd TG a rolau rheoli mewn gwahanol ddiwydiannau a sectorau, o ofal iechyd a biotechnoleg i fancio a chyllid, chwaraeon, seiberddiogelwch, a’r heddlu, y llywodraeth a’r sector cyhoeddus i enwi dim ond rhai. Mae’r rhaglen yn rhoi amrywiaeth o sgiliau cyfrifiadura i chi hefyd a fyddai’n ddefnyddiol mewn unrhyw rôl ym meysydd busnes a chyfrifiadura. Mae’r llwybr Interniaeth yn cynnwys lleoliad craidd mewn diwydiant sydd â’r nod o’ch galluogi i ennill profiad proffesiynol perthnasol ac adeiladu ar eich CV. Bydd myfyrwyr ar y llwybr safonol yn gallu dewis gwneud modiwl interniaeth byrrach.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn neu ddwy flynedd (llwybr Interniaeth) yn llawn amser. Tair blynedd yn rhan-amser. Gall myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Gradd israddedig (2:2 o leiaf) mewn maes perthnasol, neu gymhwyster proffesiynol addas gan gorff proffesiynol priodol.

107


Rheoli Technoleg Gwybodaeth MSc/PgD/PgC Rheoli Technoleg Gwybodaeth (Interniaeth) MSc/PgD/PgC Bydd y radd Meistr hon yn rhoi’r cymwyseddau i chi i reoli technolegau gwybodaeth a chyfathrebu cydgyfeiriol er mwyn cyflawni nodau rheoli busnes. Bydd eich dysgu yn uniongyrchol berthnasol i’r gweithle modern, lle mae technoleg yn hollbresennol ac yn hanfodol i gynnal mantais gystadleuol. Mae graddedigion y rhaglen wedi dilyn gyrfaoedd yn llwyddiannus fel rheolwyr TGCh, rheolwyr prosiect ac ymgynghorwyr, dadansoddwyr busnes a systemau, athrawon a darlithwyr. Mae modiwlau mewn rheoli prosiectau, gyda phwyslais ar dechnoleg a risg, yn rhoi sylfaen

gadarn cyn symud ymlaen i fynd i’r afael â chysyniadau sylfaenol diogelwch gwybodaeth a dadansoddi data. Ymdrinnir â phrosesau busnes, yn ogystal ag offer rheoli gwybodaeth allweddol. Gan ganolbwyntio’n i raddau helaeth ar brofiad proffesiynol ymarferol, bydd y llwybr Interniaeth yn cynnig cyfle i chi ymgymryd â lleoliad craidd mewn diwydiant i gael profiad gwaith ac adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Gall myfyrwyr ar y llwybr safonol elwa ar fodiwl interniaeth byrrach dewisol.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn neu ddwy flynedd (llwybr Interniaeth) yn llawn amser. Tair blynedd yn rhanamser. Gall myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:2 o leiaf) mewn maes perthnasol, e.e. Cyfrifiadura, Systemau Gwybodaeth neu arbenigedd Peirianyddol priodol.

Rheoli Prosiectau Technoleg MSc/PgD/PgC Rheoli Prosiectau Technoleg (Interniaeth) MSc/PgD/PgC Bydd y rhaglen Meistr hon yn darparu’r sgiliau perthnasol i yrfa sydd eu hangen arnoch i reoli cylch bywyd cyfan prosiectau sy’n seiliedig ar dechnoleg, o’r syniad cychwynnol i’w mabwysiadu ac yna’u gwaredu yn y pen draw. Gan gyfuno sgiliau rheoli prosiect cryf gydag ymwybyddiaeth dechnolegol benodol, bydd y radd ôl-raddedig hon yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gymhwyso’ch dysgu i’r gwaith yn syth bin, a bydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa fel rheolwr prosiectau TG a thechnolegol.

Mae pob rhaglen gradd yn Ysgol Technolegau Caerdydd yn rhoi cryn bwyslais ar brofiad gwaith diwydiannol. Bydd gan fyfyrwyr ar y llwybr safonol y cyfle i gwblhau modiwl Interniaeth dewisol byr. Bydd myfyrwyr sydd ar y llwybr Interniaeth yn cwblhau lleoliad craidd mewn diwydiant i ddechrau adeiladu eu proffil proffesiynol mewn sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n berthnasol i’r sector.

Hyd y rhaglen: Blwyddyn neu ddwy flynedd (llwybr Interniaeth) yn llawn amser. Tair blynedd yn rhanamser. Gall myfyrwyr ddechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr.

Gofynion mynediad: Gradd anrhydedd (2:2 o leiaf) mewn maes perthnasol, e.e. Cyfrifiadura, Systemau Gwybodaeth neu arbenigedd Peirianyddol priodol. Bydd ymgeiswyr o gefndiroedd eraill yn cael eu hystyried ar sail unigol. 108


Gwahoddwyd arbenigwyr y diwydiant o wahanol feysydd technoleg fel siaradwyr gwadd yn ystod seminarau a gweithdai er mwyn hybu ein dealltwriaeth ymhellach ac ymhelaethu ar gysyniadau a ddysgwyd yn y dosbarth, yn ogystal â rhoi cipolwg ar y diwydiant. Roedd strwythur y rhaglen yn caniatáu mwy o ymchwil annibynnol gyda’m cymheiriaid ynghyd â chyfleoedd i roi cyflwyniadau, ac fe gafodd hyn effaith fawr ar fy nealltwriaeth o’r pwnc a sut i gyfleu fy mhwynt yn effeithiol i gynulleidfa. Yn ogystal â gwybodaeth a hyfedredd technegol, rydw i wedi dysgu sut mae meddwl yn seiliedig ar ymchwil ac yn feirniadol. Hefyd, rydw i wedi gallu meithrin cysylltiadau gwerthfawr gyda chyfoedion yn ogystal ag athrawon, ac maen nhw’n siŵr o fod yn ddefnyddiol pa lwybr gyrfa bynnag y byddaf yn ei ddilyn. Ted Ariaga, MSc Rheoli Technoleg Gwybodaeth

109


CYNGOR I YMGEISWYR A SUT I YMGEISIO Er mwyn helpu i’ch arwain drwy’r broses o wneud cais i astudio gyda ni, rydym wedi llunio ein tudalennau gwe Cyngor i Ymgeiswyr, sy’n cynnig cyngor manwl ar wneud cais ôl-raddedig, proffesiynol neu ymchwil. www.metcaerdydd.ac.uk/cyngoriymgeiswyr Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig hefyd. I weld y dyddiadau a’r cyfleoedd diweddaraf i ymweld â ni, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/digwyddiadauor

MYFYRWYR Y DU A’R UE Gellir gwneud cais ar-lein drwy ein system hunanwasanaeth lle gallwch gadw eich cais a dychwelyd ato i’w gyflwyno rywbryd eto. Gallwch atodi dogfennau ategol perthnasol (e.e. datganiad personol, cymwysterau, geirdaon, trawsgrifiadau ac ati) hefyd. Ar ôl cyflwyno’ch cais, gallwch fewngofnodi a gwirio statws eich cais a gweld pryd fydd penderfyniad wedi’i wneud. www.metcaerdydd.ac.uk/hunanwasanaeth Os ydych chi’n cael trafferth cyflwyno’ch cais neu os hoffech ofyn am ffurflen gais Gymraeg, cysylltwch â’n tîm Derbyniadau

Cymwysterau’r UE (Y tu allan i’r DU) Mae’r Brifysgol yn cydnabod cywerthedd cymwysterau a ddyfernir ym mhob gwlad sy’n aelod o’r UE ac yn ystyried ceisiadau unigol ar sail eu teilyngdod. I gael rhagor o wybodaeth am gymwysterau derbyniol, ewch i’r tudalennau gwe sy’n rhoi cyngor i ymgeiswyr. 110


Rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd Os ydych yn gwneud cais am un o’n rhaglenni hyfforddi athrawon dylech wneud cais ar-lein drwy wefan UCAS yn www.ucas.com. Mae ceisiadau’n agor ym mis Hydref bob blwyddyn fel rheol. Rydym yn annog ceisiadau cynnar ar gyfer ein rhaglenni TAR Cynradd oherwydd y galw am leoedd.

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau Bydd unrhyw raglenni sydd â dyddiadau cau ar gyfer ymgeisio yn nodi hynny yn y manylion ar-lein penodol ar gyfer eu rhaglen.

MYFYRWYR RHYNGWLADOL Dylai Myfyrwyr Rhyngwladol fwrw golwg ar ein tudalennau gwe ymgysylltu rhyngwladol a byd-eang cyn llenwi ffurflen gais bwrpasol ar-lein. Mae ein tîm ymgysylltu byd-eang wedi cynhyrchu canllawiau penodol i’ch helpu i wneud cais am y rhaglen o’ch dewis, ac i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ac angenrheidiol yn cael ei chyflwyno fel rhan o’ch cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais i astudio yn y DU, gofynion fisa neu gymorth wrth i chi astudio gyda ni, mae’r tîm wrth law i helpu.

+44 (0)29 2041 6045 askinternational@cardiffmet.ac.uk www.metcaerdydd.ac.uk/rhyngwladol Gofynion Saesneg Mae gan bob un o’n rhaglenni ôl-raddedig ac ymchwil feini prawf penodol o ran gofynion Saesneg - sgorau IELTS/CAE neu Pearson. Mae gwybodaeth fanwl am y gofynion hyn ar dudalennau rhyngwladol ein gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/rhyngwladol

111


112


GOFYNION MYNEDIAD Bydd y gofynion mynediad ar gyfer pob rhaglenni ôl-raddedig a addysgir a phob rhaglen broffesiynol yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen rydych chi’n ei dewis. Mae gofynion cryno wedi’u rhestru ym manylion y rhaglenni unigol yn y prosbectws hwn, a cheir manylion llawn ar ein gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ôl-raddedig Bydd gofynion mynediad ar gyfer pob gradd ymchwil yn amrywio hefyd. Ceir manylion cryno ar dudalennau 6-13 yn y prosbectws hwn ac ar-lein yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ymchwil

Polisi derbyniadau Nod Polisi Derbyniadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw derbyn unrhyw un a fyddai’n elwa ar addysg uwch. Ystyrir ceisiadau ar sail eu teilyngdod unigol a byddant yn ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau ffurfiol, yn ogystal ag unrhyw brofiad gwaith perthnasol. Gellir gweld ein polisi derbyniadau yn: www.metcaerdydd.ac.uk/derbyniadau I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau:

029 2041 6010 askadmissions@cardiffmet.ac.uk www.metcaerdydd.ac.uk/cyngoriymgeiswyr @CMetAdmissions

TELERAU AC AMODAU EICH CYNNIG Am ragor o fanylion, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/termau

113


FFIOEDD A CHYMORTH ARIANNOL FFIOEDD DYSGU Bydd y ffioedd dysgu sy’n rhaid i chi eu talu yn dibynnu ar y rhaglen rydych chi’n dewis ei hastudio ac a ydych yn fyfyriwr cartref neu ryngwladol. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd yr holl raglenni ôl-raddedig, proffesiynol ac ymchwil, ewch i’n gwefan ar: www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd Fel arall, gallwch gysylltu â ni ar 029 2041 6083, neu gall Myfyrwyr Rhyngwladol gysylltu â ni ar +44 (0)29 2041 6045

CYMORTH ARIANNOL Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ôl-raddedig Met Caerdydd* Mae’r Brifysgol yn falch o gynnig amrywiaeth o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig. Ar hyn o bryd maen nhw’n cynnwys: Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Bwrsariaeth Cymhelliant Graddau Meistr Ôl-raddedig a Addysgir Cymru - gwerth hyd at £4000 Gall cymorth arall, gan gynnwys Ysgoloriaethau Rhyngwladol ac Ysgoloriaethau Chwaraeon, fod ar gael hefyd. Am wybodaeth bellach a chyfredol, meini prawf cymhwystra ac i wneud cais, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ysgoloriaethau

Disgownt i gyn-fyfyrwyr* Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Disgownt i Gyn-fyfyrwyr sy’n cynnig gostyngiad o 25% mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion Met Caerdydd sy’n cofrestru ar raglenni 114


ôl-raddedig a addysgir (gan gynnwys rhai rhaglenni TAR Uwchradd). I gael rhagor o wybodaeth, meini prawf cymhwystra a thelerau, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/gostyngiadalumni

Benthyciadau myfyrwyr ôl-raddedig Fel myfyriwr ôl-raddedig, gallwch wneud cais am fenthyciad myfyriwr ôl-raddedig i helpu eich cynnal yn ystod eich astudiaethau. Efallai y bydd myfyrwyr ymchwil sy’n dilyn rhaglen lawn amser yn gallu gwneud cais am y benthyciadau hyn hefyd. Am ragor o wybodaeth, meini prawf cymhwystra ac i wneud cais, ewch i’r wefan berthnasol isod, yn dibynnu ble rydych chi’n byw: Myfyrwyr o Gymru: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ Myfyrwyr o Loegr: www.gov.uk/studentfinance Myfyrwyr o Ogledd Iwerddon: www.studentfinanceni.co.uk Myfyrwyr o’r Alban: www.saas.gov.uk

Cymhelliannau hyfforddi TAR Mae grantiau hyfforddi gan y Llywodraeth ar gael ar gyfer y TAR Cynradd a rhai meysydd pwnc TAR Uwchradd. Nid oes angen gwneud cais am y grantiau gan y byddwch yn cael lle yn awtomatig os ydych chi’n gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.darganfodaddysgu.cymru/

Cyllid ymchwil Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau doethurol i helpu myfyrwyr sy’n gwneud ymchwil i ariannu eu hastudiaethau. I gael rhagor o wybodaeth amdanynt, ewch i’n tudalennau ymchwil yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ymchwil

Gwasanaeth Cynghori Ariannol Myfyrwyr Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau am gymorth ariannol a allai fod ar gael gan y Brifysgol wrth i chi astudio. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr *Mae’r wybodaeth am yr holl ffioedd a chymorth ariannol yn gywir adeg argraffu – Mehefin 2020. 115


CAMPWS LLANDAF

Cartref Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Ysgol Reoli Caerdydd, rhan o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd. Campws prysur sydd wedi elwa ar fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar yn y mannau dysgu, addysgu a chymdeithasu; mae’n cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol, siop ar y safle a chaffis. Mae’r campws tua dwy filltir o ganol dinas Caerdydd, yng nghanol nifer o barciau, caeau chwarae a phentref hanesyddol Llandaf. Mae campws llety Plas Gwyn gerllaw hefyd. www.metcaerdydd.ac.uk/llandaff 116


117


118


CAMPWS CYNCOED

Cartref Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd a rhan o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Mae’r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon helaeth o’r radd flaenaf i wella perfformiad a datblygiad academaidd pob myfyriwr. Yn ogystal â llety ar y safle a chanolfan gampws bwrpasol, mae yna siop, caffis a ffreutur ar y safle. Mae gan y campws ofodau dysgu, addysgu a chymdeithasu hefyd sydd eu hangen i wella’ch profiad fel myfyriwr. www.metcaerdydd.ac.uk/cyncoed

119


CAERDYDD DYMA’N DINAS NI Prifddinas Cymru. Yn llawn diwylliant, antur a chwaraeon; bywyd nos, siopa, sîn fwyd ryngwladol lewyrchus, mannau gwyrdd, dyfrffyrdd a mwy - i gyd o fewn tafliad carreg i’w gilydd.

Rhywle y byddwch chi’n hapus i’w alw’n gartref P’un ai ydych chi’n aros yn y ddinas rydych chi wedi dod i’w galw’n gartref neu’n ymuno â ni fel myfyriwr rhyngwladol, ni fu amser gwell erioed i astudio yng Nghaerdydd, gan mai hon yw’r ddinas fwyaf fforddiadwy i fyfyrwyr yn y DU ar hyn o bryd.* Os ydych chi angen help i ddod o hyd i le i fyw, gall ein tîm llety ymroddedig gynnig cyngor ac arweiniad. Ewch i’n gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/llety

Cyfleus Mae’r ddau gampws yn gyfleus i’r M4 gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog ar gyfer teithio o amgylch y ddinas.

GLASGOW

MANCEINION

Mwy o wybodaeth www.croesocaerdydd.com www.croesocymru.com

BIRMINGHAM

LLUNDAIN

CAERDYDD BRISTOL

*Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2019 120

CAERWYSG


121


DOLENNI DEFNYDDIOL Rhestr lawn o raglenni www.metcaerdydd.ac.uk/uwchraddedig G ofynion mynediad www.metcaerdydd.ac.uk/gofynionmynediad Digwyddiadau agored i ôl-raddedigion www.metcaerdydd.ac.uk/digwyddiadauor Ymgeisio ar-lein www.metcaerdydd.ac.uk/hunanwasanaeth M yfyrwyr rhyngwladol Mae ein tîm ymgysylltu byd-eang ymroddedig wrth law i helpu gyda’ch cais i astudio yn y DU ac ymgartrefu pan fyddwch chi’n cyrraedd yma. www.metcaerdydd.ac.uk/rhyngwladol Blogiau myfyrwyr Darllenwch i weld sut beth yw astudio gyda ni fel myfyriwr ôl-raddedig. www.studentblogs.cardiffmet.ac.uk/cymraeg/ Chwaraeon Un o brifysgolion gorau’r DU ar gyfer chwaraeon myfyrwyr. Mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau gyda rhywbeth i bawb o athletwyr elît i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. www.metcaerdydd.ac.uk/chwaraeon G wasanaethau Myfyrwyr Amrywiaeth o gymorth wrth i chi astudio – o gymorth lles a chyngor ar arian i wasanaeth gyrfaoedd ymroddedig. www.metcaerdydd.ac.uk/gwasanaethaumyfyrwyr Llety Angen help i ddod o hyd i le i fyw? Gall ein tîm Llety ymroddedig eich helpu. www.metcaerdydd.ac.uk/llety Dysgu Seiledig ar Waith Yn dod ag addysg Prifysgol i’r gweithle, gan gynnig amrywiaeth o ddewisiadau hyblyg a fforddiadwy gan gynnwys gwasanaeth achredu, cyrsiau byr pwrpasol a llwybrau dilyniant o Brentisiaethau Uwch i raddau Meistr. www.metcaerdydd.ac.uk/dsaw 122


123


MYNEGAI Arweinyddiaeth a Rheoli 20Twenty PgC......................................... 73

A Cyfrifeg a Chyllid MSc/PgD/PgC........................................................ 52 Cyfrifiadureg Uwch (Interniaeth) MSc/PgD/PgC..........................104 Ymarfer Uwch (gyda llwybrau arbenigol) MSc/PgD/PgC............... 76 Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol MSc/PgD/PgC................................ 76

B Bancio a Chyllid MSc/PgD/PgC.......................................................... 54 Gwyddoniaeth Fiofeddygol MSc/PgD/PgC...................................... 77

C Cerameg a Gwneuthurwr MA/PgD/PgC.......................................... 16 Tystysgrif/Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol............. 55 Menter Greadigol ac Arloesi MA/PgD/PgC...................................... 16 Ysgrifennu Creadigol MA/PgD/PgC.................................................. 34

D Gwyddor Data (Interniaeth) MSc/PgD/PgC...................................106 Technoleg Ddeintyddol MSc/PgD/PgC............................................. 77 Deieteg MSc/PgD................................................................................ 78 Rheoli Marchnata Digidol MSc/PgD/PgC......................................... 57

E Economeg a Chyllid MSc/PgD/PgC................................................... 58 Addysg (gyda llwybrau) MA/PgD/PgC.............................................. 36 Addysg: TESOL MA.............................................................................. 36 Llenyddiaeth Saesneg MA/PgD/PgC................................................ 32 Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol MA/PgD/PgC..... 32 Entrepreneuriaeth a Rheoli Arloesedd........................................... 59 MSc/PgD/PgC Rheoli Prosiect Digwyddiadau MSc/PgD/PgC................................. 58 MBA Gweithredol............................................................................... 00

F Dylunio Ffasiwn MA/PgD/PgC........................................................... 18 Rheoli Marchnata Ffasiwn MSc/PgD/PgC....................................... 60 Rheolaeth Ariannol MSc/PgD/PgC................................................... 63 Celfyddyd Gain MFA........................................................................... 20 Gwyddor a Thechnoleg Bwyd MSc/PgD/PgC.................................. 80 Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant MSc/PgD/PgC....................... 79 Seicoleg Fforensig MSc/PgD/PgC/.................................................... 82 (Rhaglen Ymarferwyr) PgD/Doethuriaeth (D. Foren. Psy.)

G Dylunio Byd-eang MDes/PgD/PgC.................................................... 22

H Seicoleg Iechyd MSc/PgD/PgC........................................................... 82 Rheoli Adnoddau Dynol MSc/PgD/PgC............................................ 64 124


Darlunio ac Animeiddio MA/PgD/PgC............................................. 24 Rheoli Technoleg Gwybodaeth (Interniaeth) MSc/PgD/PgC......108 Rheoli Busnes Rhyngwladol MSc/PgD/PgC..................................... 66 Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth Rhyngwladol MSc/PgD/PgC.... 66 Rheoli Cadwyni Cyflenwi a Logisteg Rhyngwladol MSc............... 67

M Meistr Ymchwil (Gwyddorau Biofeddygol) MRes/PgC.................. 84 Meistr Ymchwil (Iechyd) MRes/PgC................................................. 84 Meistr Ymchwil (Seicoleg) MRes/PgC.............................................. 84 Meistr Ymchwil mewn Celf a Dylunio MRes/PgC.......................... 26 Meistr Ymchwil mewn Rheoli (MRes Management)...................... 70 MBA Meistr Gweinyddu Busnes (MBA)........................................... 68 MBA Meistr Gweinyddu Busnes (Executive)................................... 69

N Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc/PgD/PgC....... 86

O Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol MSc/PgD/PgC............. 86

P Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol.................................................. 38 TAR/Tystysgrif Addysg Broffesiynol TAR Addysg Gynradd......................................................................... 40 Cynnyrch Dylunio MSc/PgD/PgC...................................................... 28 Gradd Meistr mewn Rheoli Peirianneg Cynhyrchu MSc/PgD/PgC....70 Ymarfer Proffesiynol......................................................................... 95 (Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon) MSc/PgD Gradd Meistr Mewn Rheoli Prosiectau MSc................................... 71 Gradd Feistr mewn Seicoleg Newid Ymddygiad Cymhwysol...... 88 MSc/PgD Seicoleg mewn Addysg MSc/PgD/PgC*........................................... 37

S TAR Uwchradd.................................................................................... 42 Cymdeithaseg a Moeseg Chwaraeon MA/PgD/PgC...................... 88 Newyddiaduraeth Arbenigol MA/PgD/PgC..................................... 46 Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc/PgD/PgC........... 91 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff MSc/PgD/PgC.................. 91 Darlledu Chwaraeon MSc/PgD/PgC................................................. 92 Hyfforddiant ac Addysgeg Chwaraeon MSc/PgD/PgC.................. 94 Rheoli ac Arweinyddiaeth Chwaraeon MSc/PgD/PgC................... 94 Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon MSc/PgD/PgC.................... 95 Seicoleg Chwaraeon MSc/PgD/PgC.................................................. 96 Adsefydlu Chwaraeon MSc/PgD/PgC............................................... 96 Marchnata Strategol MSc/PgD/PgC................................................. 72 Cryfder a Chyflyru MSc/PgD/PgC..................................................... 98

T Rheoli Prosiectau Technoleg (Interniaeth) MSc/PgD/PgC..........108

Y Gwaith Ieuenctid a Chymunedol PgD/............................................ 48 Addysg: Ieuenctid a Chymunedol *Yn amodol ar ddilysu.



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.