Professorial Lectures 2015/16

Page 1

YR ATHRO CATHY TREADAWAY Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Dydd Mercher 14 Hydref 2015 Gwneud gwahaniaeth: dylunio i sicrhau hapusrwydd

CYFRES DARLITHOEDD AGORIADOL ATHRAWOL 2015/16

YR ATHRO OLWEN MOSELEY Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Dydd Mercher 27 Ionawr 2016 “Be bold or italic, never regular.”

YR ATHRO CARWYN JONES Ysgol Chwaraeon Caerdydd Dydd Mercher 9 Mawrth 2016 Moeseg chwaraeon: ymddwyn yn briodol

YR ATHRO KEITH MORRIS Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Dydd Mercher 27 Ebrill 2016 A yw hi'n bosibl i ddeall datblygiadau mewn ymchwil wyddonol heb ddeall ystadegau?


GWNEUD GWAHANIAETH: DYLUNIO I SICRHAU HAPUSRWYDD Yr Athro Cathy Treadaway Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd DyDDIaD: Dydd Mercher 14 Hydref 2015 aMsEr: 5:45 pm i ddechrau am 6pm LLEoLIaD: Darlithfa O1.01, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

Mae dylunio’n ymwneud â phobl; drwy ddeall anghenion pobl mae’r dylunwyr gorau’n gallu creu atebion priodol i’w cynorthwyo’n haws. Drwy ddefnyddio dulliau cyfranogol ymarferol, gyda phobl wrth wraidd y broses, mae’n bosibl cael dealltwriaeth o brofiadau pobl ac yna dylunio’n gadarnhaol i hybu ffyniant pobl a gwella eu lles. Gellir defnyddio gweithgareddau creadigol fel cyfleoedd grymus a chwyldroadol mewn trafodaethau yn ystod y broses ddylunio. Mae gwneud pethau â llaw, ystumio a chyffwrdd yn weithgareddau y gellir eu defnyddio i ddatgloi’r meddwl, ailddiffinio problemau a hwyluso cyfathrebu. Defnyddir dulliau cyfranogol sy’n cyfuno empathi a gweithgareddau grŵp creadigol mewn nifer o brosiectau ymchwil rhyngwladol dan arweiniad CarIaD sy’n ceisio mynd i’r afael â’r her ddylunio fyd-eang o ofalu am ein cymdeithas sy’n heneiddio. Mae LaUGH, sensor e-Texitles, Hand i Pockets a HaNDs i gyd yn brosiectau sy’n canolbwyntio ar ddylunio i gefnogi lles pobl â dementia. 1


PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Cyfres Darlithoedd Agoriadol Athrawol 2015 / 2016 cardiffmet.ac.uk/events

Yr Athro Cathy Treadaway Mae Cathy yn athro ymarfer Creadigol yn ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. roedd hi’n un o sylfaenwyr CarIaD (Canolfan ymchwil Gymhwysol mewn Celf a Dylunio Cynhwysol) ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, yn Gymrawd yr academi addysg Uwch ac yn ysgolor Gwadd yn yr University of Technology sydney. ym mis Ionawr 2015 derbyniodd Cathy ddyfarniad ymchwil pwysig gan yr aHrC am LaUGH (Ludic artefacts Using Gesture and Haptics). Bydd yn defnyddio’r dyfarniad dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu arteffactau i gefnogi lles pobl â dementia dwys. Mae’r prosiect yn waith ar y cyd ag University of Technology sydney a Birmingham City University dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â Gwalia Cyf gyda chefnogaeth yr elusennau age Cymru, Cymdeithas alzheimer a Dementia Positive. Graddiodd Cathy mewn Tecstilau a Dylunio Ffasiwn ac mae ganddi radd Meistr mewn Cerameg. Dechreuodd ar ei gyrfa ddylunio yn gweithio i ymgynghorwyr dylunio yn Llundain, Indesign yna Queensberry Hunt. Bu’n rhedeg ei hymgynghoriaeth ddylunio ei hun yng Nghymru am 17 flynedd, gan werthu gwaith i’r diwydiant yn fyd-eang ac arddangos ei gwaith dramor. Dychwelodd i’r byd academaidd yn 2003 fel Cynorthwyydd ymchwil yn CsaD ac yn 2006 cwblhaodd ei doethuriaeth yn ymchwilio i dechnolegau digidol a’u dylanwad ar ymarfer creadigol. yna, fe’i penodwyd yn Gymrawd ymchwil a Darllenydd yn ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ac yn Gymrawd ymchwil Gwadd yn yr University of Bath.


“BE BOLD OR ITALIC, NEVER REGULAR” (ANHYSBYS) Yr Athro Olwen Moseley Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd DyDDIaD: Dydd Mercher 27 Ionawr 2016 aMsEr: 5.45 i ddechrau am 6pm LLEoLIaD: Darlithfa O1.01, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

Bydd y ddarlith athrofaol agoriadol hon yn olrhain gyrfa anghonfensiynol gyda chyfleoedd y bachwyd arnynt i hyrwyddo pwysigrwydd dylunio i ddathlu effaith y gymuned ddylunio ac i bontio rhwng diwydiant a’r byd academaidd. Bydd hefyd yn gofyn y cwestiwn ‘dylunio graffeg - ddim mor dyngedfennol â hynny, nady?’ er mwyn ein hatgoffa o botensial a dylanwad gyrfa anghonfensiynol. Mae myfyrwyr, athrawon a phobl broffesiynol yn aml yn ceisio mynd i’r afael a diffiniad sydd yn ymddangos yn arwynebol ac yn canolbwyntio ar wasanaethu’r diwydiant prynwyr arwynebol, er eu dyheadau i fod yn ddylunwyr sy’n gallu newid y byd.

3


PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Cyfres Darlithoedd Agoriadol Athrawol 2015 / 2016

Yr Athro Olwen Moseley Graddiodd olwen o’r Central school of art and Design, Llundain ym 1983. Enillodd brofiad gwerthfawr yn gweithio yn Llundain am rai blynyddoedd, cyn dychwelyd i Dde Cymru i weithio yn y gymuned ddylunio a’r sector addysg. ym 1989 sefydlodd Moseley Webb Design gyda richard Webb, sydd bellach wedi datblygu i fod yn ‘see What you Mean’. ymunodd ag ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd (UWIC) ym 1996, ac erbyn hyn, hi yw Deon yr ysgol. Cyn hynny bu'n Gyfarwyddwr Menter, gyda chyfrifoldeb am ymgysylltu a Throsglwyddo Gwybodaeth Ddiwylliannol a Busnes. yn 2005 a 2009 cafodd ei rhestru yn un o’r ‘Hot Top 50’ (y bobl fwyaf dylanwadol ym maes dylunio’r DU) gan gylchgrawn ‘Design Week’ am ei rôl yn sefydlu Gŵyl Ddylunio Caerdydd. Derbyniodd Wobr ysbrydoli Cymru 2010 gan y sefydliad Materion Cymreig am ei rôl yn y diwydiannau creadigol. yn 2012, derbyniodd olwen Gymrodoriaeth addysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a enwebwyd gan y myfyrwyr. Cafodd ei phenodi’n athro (Cadair bersonol) yn 2015. Mae’n gynrychiolydd academaidd ar Fwrdd addysgu a Dysgu’r Brifysgol, yn cadeirio pwyllgorau ymholi, yn cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiadau allanol ac yn Brif Farsial mewn digwyddiadau seremonïol. Bu’n ymddiriedolwr gyda Cadwch Gymru’n Daclus ac Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru, mae’n aelod o fwrdd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru ac yn ‘Llysgennad Caerdydd’ balch i Gyngor Dinas Caerdydd.


MOESEG CHWARAEON: YMDDWYN YN BRIODOL Yr Athro Carwyn Jones Ysgol Chwaraeon Caerdydd DyDDIaD: Dydd Mercher 9 Mawrth 2016 aMsEr: 5.45 i ddechrau am 6pm LLEoLIaD: Darlithfa O1.01, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

yn y ddarlith hon byddaf yn ateb y cwestiynau canlynol:  Beth yw cymeriad moesol?  a yw daioni moesol yn wrthrychol?  sut rydym ni’n datblygu i fod yn dda (neu’n ddrwg) a sut mae chwaraeon yn cyfrannu at hyn?  I ba raddau rydym yn rhydd i ddewis ein hymddygiad moesol?

5


PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Cyfres Darlithoedd Agoriadol Athrawol 2015 / 2016

Yr Athro Carwyn Jones Cafodd yr athro Carwyn Jones ei fagu yn Ninbych a derbyniodd ei addysg yn ysgol Glan Clwyd cyn dod i astudio Chwaraeon ac astudiaethau symudiadau Dynol yn athrofa addysg Uwch De Morgannwg ym 1990. yn ystod ei astudiaethau ymddiddorodd mewn athroniaeth chwaraeon ac aeth ymlaen i gwblhau PhD mewn Moeseg Chwaraeon (y cyntaf yn y DU) dan oruchwyliaeth yr athro Mike McNamee a’r athro Jim Parry. aeth ymlaen i addysgu yn yr University of Teesside a’r University of Gloucestershire cyn dychwelyd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2004. Mae’n un o sylfaenwyr Cymdeithas athroniaeth Chwaraeon Prydain, yn gyn lywydd y Gymdeithas athroniaeth Chwaraeon ryngwladol ac mae wedi cyhoeddi llawer o waith, nid yn unig ar athroniaeth a moeseg chwaraeon, ond hefyd ar gymdeithaseg ac addysgeg chwaraeon. Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys “Doping as Addiction: disorder and moral responsibility”, “The Woman in Black: exposing sexist beliefs about female officials in elite men’s football” (gyda Lisa Edwards), “National Identity, Citizenship and the Nation: A Sporting Case Study” (gyda Hywel Iorwerth ac alun Hardman), ac “I’d Rather Wear a Turban than a Rose”: the (in) appropriateness of terrace chanting amongst sport spectators” (gyda scott Fleming). Ef yw awdur cyfrol routledge “Sport and Alcohol: An ethical perspective” a chydawdur “The Ethics of Sports Coaching”. Mae Carwyn yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan wasanaethu ar y bwrdd academaidd. Datblygodd ysgol Chwaraeon Caerdydd i fod yn brif ddarparwr darpariaeth Chwaraeon academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Gyda Hywel Iorwerth ysgrifennodd “Chwaraeon yn y Gymdeithas”, y gwerslyfr chwaraeon cyntaf yn y Gymraeg. Mae wedi goruchwylio 3 myfyriwr PhD sydd wedi’u hariannu gan y Coleg Cymraeg sydd bellach yn addysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Carwyn yn hoff o feicio mynydd, ac wedi ymgymryd â her enwog yr ‘a’ line yn Whistler Canada. Mae’n gefnogwr brwd o Lerpwl, yn briod ag Enlli Thomas ac yn dad balch i Tomos Llywelyn Jones


YMCHWIL FIOFEDDYGOL A CHLINIGOL - A YW HI’N BOSIBL DEALL DATBLYGIADAU MEWN YMCHWIL WYDDONOL HEB DDEALL YSTADEGAU A HAFALIAD EULER? Yr Athro Keith Morris Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd DyDDIaD: Dydd Mercher 27 Ebrill 2016 aMsEr: 5.45 i ddechrau am 6pm LLEoLIaD: Darlithfa O1.01, Ysgol Reoli Caerdydd, Campws Llandaf

Mae gwyddorau biofeddygol a Bioystadegau yn rhyngberthyn. Bydd y sgwrs hon yn trafod y berthynas sylfaenol rhwng Biofeddygaeth ac ystadegau - yn enwedig y cryfderau, y cyfyngiadau a’r camsyniadau cyffredin sy’n gysylltiedig â chasgliadau gwyddonol. Bydd y cyflwyniad yn dangos sut mae hafaliad syml ond allweddol Euler eiπ + 1 = 0 yn effeithio ar bron bob agwedd ar wyddoniaeth.

7


PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Cyfres Darlithoedd Agoriadol Athrawol 2015 / 2016

Yr Athro Keith Morris Mae’r athro Keith Morris yn athro Gwyddorau Biofeddygol a Bioystadegau. am flynyddoedd bu’n gweithio ym maes Gwyddoniaeth Labordai Clinigol mewn gwahanol labordai yn y DU a thramor am ugain mlynedd cyn ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. I ddechrau, bu’n gweithio ar astudiaethau clinigol gan ddefnyddio dulliau dadansoddi biofeddygol ac ystadegol cymwysedig ond datblygodd ddulliau ystadegol hefyd ym maes sicrhau ansawdd, a bu’n samplu a datblygu dulliau ym maes anhwylderau ceulo a llidau haematolegol. Mae hefyd wedi gweithio deirgwaith fel ymgynghorydd i sefydliad Iechyd y Byd ar ddulliau dadansoddol labordai. Mae wedi cyfannu at dri Chyflwyniad asesu ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd a hyd yn hyn wedi cyhoeddi 60 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid ac wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn nifer o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae wedi goruchwylio 9 myfyriwr PhD yn llwyddiannus ac yn goruchwylio 5 myfyriwr PhD ar hyn o bryd. Bu’n ystadegydd enwebedig ar dros ddeg o dreialon clinigol. Mae wedi defnyddio methodoleg ddadansoddol gydag ystod eang o feysydd ymchwil Gwyddorau Biofeddygol, yn enwedig wrth gynllunio treialon clinigol ac er mwyn sicrhau dealltwriaeth sylfaenol o glefydau llidiol a sut i’w rheoli.


ARCHEBU AR-LEIN Ewch i'r Darlithoedd Proffesiynol ac Agoriadol yn:

cardiffmet.ac.uk/events am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caryn Blunt yn:  pandilectures@cardiffmet.ac.uk  029 2041 6052 cardiffmet.ac.uk

9


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.