Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

Page 1

Rhaglen ChwaRaeon yR ysgol


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

Rhaglen yr ysgol Chwaraeon Caerdydd yw tîm datblygu chwaraeon y Ddinas sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac sy'n gweithio ar draws y chwe maes Rheoli Cymdogaethau Caerdydd. Mae deunaw Swyddog Datblygu Chwaraeon profiadol yn canolbwyntio eu hymdrechion ar gynyddu “Cyfleoedd i bawb drwy Chwaraeon” tra'n canolbwyntio rhaglenni gwaith o amgylch y canlynol:    

Plant a Phobl Ifanc Cystadlaethau a Digwyddiadau Clybiau Hyfforddi a Gweithlu

Mae gan Chwaraeon Caerdydd hefyd grwpiau targed penodol sydd yn ystyriaethau allweddol wrth raglennu gweithgareddau. Mae'r rhain yn cynnwys:  Merched a Genethod  Chwaraeon Anabledd a Chwaraeon Cynhwysol  Y boblogaeth BME  Ardaloedd o Amddifadedd

Yn Chwaraeon Caerdydd rydym yn awyddus i wella Iechyd a Lles plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd drwy ddarparu nifer o gyfleoedd hygyrch a phriodol drwy chwaraeon. Rydym yn rhannu nod Chwaraeon Cymru i gael 'Pob Plentyn i Wirioni ar Chwaraeon am Oes'. Mae tîm profiadol o Swyddogion Datblygu Chwaraeon yn gweithio ar draws y Ddinas, wedi’u lleoli mewn ysgolion a chymunedau lle mae Plant a Phobl Ifanc yn parhau i fod yn ffocws. Rydym yn datblygu clybiau, yn darparu cystadlaethau priodol, datblygu gweithlu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ac yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein rhaglenni’n gynhwysol i roi mynediad i gyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i bob person ifanc.


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

Yn y llyfryn hwn cewch wybodaeth am ein pecyn ysgol newydd sy'n cynnwys y canlynol:

Bydd Chwaraeon Caerdydd yn:

 Lleoliadau Myfyrwyr  Pecyn Cystadleuaeth - Gemau Caerdydd  Hyfforddiant Staff  Darparu Hyfforddiant  Chwaraeon Cynhwysol a Gwasanaeth Cynghori Chwaraeon Anabledd

 Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb  Cefnogaeth Ysgolion Cysylltiadau clwb lle bo’n hyfyw  Creu gweithlu medrus iawn  Darparu mynediad i gystadlaethau o ansawdd uchel

1


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

lleoliadau Myfyrwyr Gyda mynediad i dros 2000 o fyfyrwyr yn astudio chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gyda llawer ohonynt yn gorfod llenwi oriau gwirfoddol ar leoliad galwedigaethol, mae'n gyfle gwych i ddefnyddio'r adnodd hwn yn llawn o fewn y rhaglen ysgol. Gall Chwaraeon Caerdydd eich cynorthwyo i nodi cyfleoedd lleoliadau myfyrwyr a gweithio gyda'r Ysgol Chwaraeon ym Met Caerdydd i gofrestru’ch ysgol ar Career Hub. Gallwn gynorthwyo gyda'r broses ymgyrch recriwtio a dethol, er mwyn sicrhau bod safon dderbyniol o ymgeiswyr yn cael eu recriwtio i rolau. Bydd y meysydd gwaith yn cwmpasu:  Datblygu Chwaraeon – gallai lleoliadau myfyrwyr helpu i gydlynu darpariaeth ar ôl ysgol, gan gysylltu â chlybiau cymunedol lleol i gynnal sesiynau blasu yn yr ysgol a helpu i drefnu cyrsiau datblygu'r gweithlu, fel Arweinwyr Chwaraeon i staff a disgyblion.  Chwaraeon Ysgol a Hyfforddiant – cymorth gyda hyfforddiant o fewn gweithgareddau allgyrsiol.  Rheoli Chwaraeon a Digwyddiadau – cydlynu diwrnodau chwaraeon neu ddigwyddiadau chwaraeon ysgol i godi arian gan gysylltu gyda sefydliadau amrywiol i’w cefnogi.

2

 Chwaraeon ac Ymarfer Corff – cymorth gyda chyflwyno gwersi AG yn seiliedig ar y cwricwlwm drwy theori ac yn ymarferol, yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol. Cefnogi ymglymiad yr ysgol o fewn Gemau Caerdydd drwy gydlynu ceisiadau a chyfranogwyr neu gystadlaethau mewnol yn yr ysgol.  Gwyddor Chwaraeon – cefnogaeth lleoliadau myfyrwyr ar gyfer academïau/timau perfformiad 6ed dosbarth. Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd staff sydd â phrofiad a sgiliau lefel uchel i gefnogi myfyrwyr ar leoliadau.  Cyflwyno’r Cwricwlwm – cynorthwyo gyda gwersi AG.  Cyflwyno Allgyrsiol – cynorthwyo amser cinio a sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol.


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

Manteision i’ch ysgol:  Mynediad i fyfyrwyr sydd â gwybodaeth a sgiliau arbenigol cyfredol.  Staff ychwanegol i gefnogi’ch rhaglenni chwaraeon heb unrhyw gost.  Adnodd ychwanegol i alluogi myfyrwyr i gynnal prosiectau arbenigol.

 Cyfle i’ch staff gael profiad goruchwylio/mentora myfyriwr.  Cyfle i adeiladu cysylltiadau partneriaeth â'r Brifysgol.  Mae gan fyfyrwyr lleoliadau y potensial i fod yn weithwyr yn y dyfodol. Gall cyflogi myfyriwr ar leoliad roi mynediad i chi i raddedigion yn y dyfodol. *

Sylwch y bydd yr holl fyfyrwyr yn cael gwiriad GdG, fodd bynnag, bydd dal angen iddynt gael eu goruchwylio gan aelod o'r staff.

3


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

gemau Caerdydd “Bydd Gemau Caerdydd yn uno seilwaith chwaraeon yng Nghaerdydd drwy ddarparu cystadlaethau o safon uchel sy'n briodol ar gyfer dros 7000 o bobl ifanc” Lansiwyd Gemau Caerdydd yn 2012 fel rhaglen etifeddiaeth chwaraeon ysgol blaenllaw yr adran yn dilyn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain. Ers cyflwyno cystadlaethau ar lefel briodol i'r rhaglen Chwaraeon Ysgolion Caerdydd yn 2013 rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y ffigurau cyfranogiad. Mae Gemau Caerdydd bellach wedi tyfu i gynnwys dros 18 o chwaraeon mewn 18 lleoliad o'r radd flaenaf ar draws y Ddinas.

Mae cyfleoedd cystadleuol ar gyfer disgyblion gwrywaidd a benywaidd o flwyddyn 2 hyd at flwyddyn 10 ac mae'n cynnig 10 cyfle cynhwysol i gymryd rhan drwy gydol y flwyddyn yn benodol ar gyfer disgyblion anabl a disgyblion ag AAA. Anelwyd y Gemau at ddisgyblion o bob gallu er mwyn i fwy o bobl ifanc gael y cyfle i gynrychioli’u hysgol mewn chwaraeon ac ennill pwyntiau tuag at y tablau cynghrair (cynradd,, Ysgolion y Fro, tablau cynghrair Cynhwysol uwchradd).

Mae’r Gemau’n cynnwys cystadlaethau chwaraeon strwythuredig ar draws y Brifddinas mewn partneriaeth ag ysgolion, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, clybiau chwaraeon a chymdeithasau chwaraeon ysgol o dan faner Gemau Caerdydd. Mae'r calendr yn creu llwybr cystadleuaeth clir ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n gweithredu drwy gydol y flwyddyn academaidd o fis Medi tan fis Gorffennaf.

Mae ysgolion sydd wedi cystadlu yng Ngemau Caerdydd wedi nodi gwelliannau yng nghyrhaeddiad disgyblion yn yr ysgol. Mae'r elfen gystadleuol i'r rhaglen yn dysgu sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd allweddol megis gwaith tîm, parch, disgyblaeth, ymroddiad a sbortsmonaeth yn ogystal ag adeiladu sgiliau emosiynol mewn hunan-hyder a hunan-barch. Mae rowndiau rhanbarthol mewn pêldroed, pêl-rwyd ac athletau i sicrhau cyfleoedd lleol ar gyfer ysgolion a fydd yn caniatáu gostyngiad mewn ymrwymiadau teithio.

4


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

Aelodaeth o Gemau Caerdydd: Ysgolion Cynradd ac Ysgolion Arbennig - £20 y flwyddyn neu £5 mynediad i bob ysgol ar gyfer pob cystadleuaeth Ysgolion Uwchradd - £30 y flwyddyn neu £5 mynediad ar gyfer pob cystadleuaeth Mae’r holl ffioedd aelodaeth a mynediad yn mynd tuag at dalu costau cynyddol llogi cyfleuster i gynnal Gemau Caerdydd. Yr hyn a gewch am yr Aelodaeth:  Caiff calendr wal o ddigwyddiadau gyda'r holl ddyddiadau, lleoliadau ac amseroedd ei anfon i’ch ysgol.  Mynediad anghyfyngedig i gystadlaethau (42 Ysgol Gynradd, 32 Uwchradd, 8 Cynhwysol).  Mynediad ar-lein i gystadlaethau.  Cyfle i ennill Diwrnod 'Profiad Chwaraeon' ar gyfer eich ysgol.  Gwahoddir enillwyr Cynghrair Gemau Caerdydd i'r Gwobrau Chwaraeon, Chwaraeon Caerdydd yn flynyddol.

Gwybodaeth Bellach ynghylch Gemau Caerdydd:  Mae amseroedd cystadlaethau yn amrywio bob dydd (10y.b.-2y.p.) i brynhawn (12 canol dydd-4y.p.) i gychwyn yn gynnar gyda'r nos (4y.p.7y.p.) gyda'r holl gystadlaethau cynhwysol yn gorffen erbyn 2y.p.  Nid oes rhaid i chi gymryd rhan ymhob cystadleuaeth.  Bydd eich ysgol yn cael ei gosod yn awtomatig yn y tabl cynghrair.  Bydd manylion penodol cystadleuaeth, er enghraifft; y rheolau, yn cael eu hanfon trwy ebost o leiaf 4-5 wythnos cyn dyddiad y gystadleuaeth.  Dyfarnir deg o bwyntiau i ysgolion fesul mynediad i gystadleuaeth.  Caiff pwyntiau ychwanegol eu dyfarnu ar sail swyddi terfynol ym mhob cystadleuaeth.  Gellir gweld y tabl cynghrair ar-lein drwy ymweld â www.Cardiffmet.ac.uk/ Cardiff-Games

5


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

6


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

hyfforddiant a DPP Rydym yn ymwybodol bod llawer o athrawon ar hyn o bryd yn cyflwyno'r ddarpariaeth chwaraeon mewn ysgolion. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu sgiliau staff gyda chyfleoedd hyfforddi cyfredol. Bydd y rhaglen hyfforddi staff yn sicrhau bod gan staff yr offer a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gyflwyno sesiwn chwaraeon ysgol o safon uchel. Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi sydd ar gael i staff a disgyblion hŷn (lle bo'n briodol) i’w mynychu. Mae enghreifftiau o gyrsiau’n cynnwys:  Arweinwyr Chwaraeon lefel 1, 2 a 3  Cyrsiau Arweinwyr penodol Corff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon  Lefel 1 a 2 UKCC y Corff Llywodraethu Cenedlaethol  Hyfforddiant Llythrennedd Corfforol  Gweithdai Corff Llywodraethu Cenedlaethol Ychwanegol  Cwrs Active Kids ar gyfer pawb (gan gynnwys plant anabl mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol)  Gall staff Chwaraeon Caerdydd ac Ysgol Chwaraeon Met Caerdydd ddarparu DPP i staff a chefnogaeth gyda darlithoedd a chyfweliadau ar unedau penodol Datblygu Chwaraeon a Rheoli Chwaraeon fel y cyfeiriwyd ym meysydd llafur TGAU, Safon Uwch a BTEC  Gweithdai chwaraeon penodol anachrededig (cyrsiau gyda'r hwyr, cymhorthfeydd/clinigau hyfforddi) Sylwch y codir tâl am fynychu pob cwrs. Os oes unrhyw gyrsiau yr ydych yn teimlo y byddai eich staff yn elwa ohonynt, rhowch wybod i ni.

Gwasanaeth Cynghori Chwaraeon Anabledd a Chwaraeon Cynhwysol Mae ein rhaglenni’n gynhwysol ac rydym yn credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i gymryd rhan mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol. O'n cystadlaethau cynhwysol yn Gemau Caerdydd mae nifer o ysgolion wedi cymryd ysbrydoliaeth o hyn a syniadau ar sut i wneud eu gwersi AG a chlybiau chwaraeon allgyrsiol yn fwy hygyrch. Os hoffech gael mwy o gymorth ar sut i sicrhau bod eich gwersi'n gynhwysol ac yn cynnwys pob disgybl siaradwch â Chydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth leol neu’r Ysgogwyr. Llysgenhadon Ifanc Yn ogystal â datblygu staff, mae Chwaraeon Caerdydd wedi ymrwymo i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ifanc trwy'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc. Rhaglen bwrpasol ar gyfer ein Llysgenhadon Ifanc i gael mynediad sy'n gysylltiedig i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yw hon. Am wybodaeth bellach am y rhaglen Llysgenhadon Ifanc, siaradwch â'ch Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth leol.

7


ChwaRaeonCaerdydd | Rhaglen Chwaraeon yr Ysgol

hyfforddi Chwaraeon Cymwysedig Bydd rhaglen Cyflawni Hyfforddi Chwaraeon Caerdydd yn darparu gweithlu proffesiynol ychwanegol i weithio ochr yn ochr ag athrawon wrth gyflwyno chwaraeon ysgol. Bydd hyfforddwyr allanol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi cyflwyno rhaglenni chwaraeon allgyrsiol o ansawdd uchel ar safleoedd ysgolion. Gellir cyflwyno ein rhaglen cyflawni hyfforddi fel clybiau brecwast, amser cinio neu ar ôl ysgol gyda’n tîm o hyfforddwyr arbenigol a phartneriaid allanol. Bydd yr holl hyfforddwyr yn dal cymhwyster lefel 2 NGB neu gyfwerth, gwiriad GDG, a byddant wedi mynychu cyrsiau Cymorth Cyntaf, Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd a Diogelu ac Amddiffyn Plant. Gellir darparu hyfforddwyr mewn ystod eang o chwaraeon o ddawns, codwyr hwyl a badminton. Gyda'n tîm o Gydlynwyr Cymunedol ac Ysgogwyr byddwn yn sicrhau bod clybiau chwaraeon lleol yn gysylltiedig â'r

8

ysgolion lle bo modd. Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig i blant a phobl ifanc allu cael mynediad at gyfleoedd chwaraeon o safon uchel o fewn eu cymuned leol. Byddwn yn sicrhau ein bod yn mynd ati i hyrwyddo cyfleoedd ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc i gynnal ffordd o fyw iach ac egnïol trwy fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon lleol. Sylwch y codir tâl am y gwasanaeth hwn. Bydd costau'n amrywio yn dibynnu ar y chwaraeon.

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi mentrau eraill ysgolion cynradd fel rhaglen AmlChwaraeon Sefydliad Cymunedol Tîm Pêl Droed Dinas Caerdydd a'r fenter Ysgolion Gleision y Dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am y mentrau hyn, cysylltwch â'ch Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth.


Cysylltiadau Laura Williams Cydlynydd Uwch datblygu Chwaraeon

07973 451596

Emma Hill Cydlynydd Uwch Chwaraeon y Gymdogaeth 07792 397216 Gareth Power Cydlynydd datblygu Chwaraeon (Hyfforddi a Gweithlu) Joanna Coates-McGrath Cydlynydd datblygu Chwaraeon (Chwaraeon anabledd & Clybiau) Fay Benningwood Cydlynydd datblygu Chwaraeon (Merched & Genethod) Dawn Mitchell-Williams Cydlynydd datblygu Chwaraeon (Cystadleuaethau & digwyddiadau)

07976 056155

lwilliams@cardiffmet.ac.uk ehill@cardiffmet.ac.uk gpower@cardiffmet.ac.uk

02920 205284 jcoates-mcgrath @cardiffmet.ac.uk 07964 116838

fbenningwood@cardiffmet.ac.uk

02920 205282 dmitchell- Williams @cardiffmet.ac.uk

Andrew Gardiner Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth (Gorllewin)

07792 397611

agardiner@cardiffmet.ac.uk

Gethin Smart Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth (Gogledd)

07768 143227

gsmart@cardiffmet.ac.uk

Lorraine Rye Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth (dwyrain)

07792 397655

lrye@cardiffmet.ac.uk

Sophie Grosvenor Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth (de dwyrain)

07792 397236

sgrosvenor@cardiffmet.ac.uk

Anthony Thomas Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth (Canolog a de Caerdydd)

07792 397413

antthomas@cardiffmet.ac.uk

Thomas Clarke Cydlynydd Chwaraeon y Gymdogaeth (de dwyrain)

07792 397403

tclarke@cardiffmet.ac.uk

Hannah Pretty actifadydd Chwaraeon y Gymdogaeth (Gorllewin)

07792 397278

hpretty@cardiffmet.ac.uk

Stephen De Abreu actifadydd Chwaraeon y Gymdogaeth (Gogledd)

07800 630122 sdeabreu@cardiffmet.ac.uk

Huw James actifadydd Chwaraeon y Gymdogaeth (dwyrain)

07792 397489

hjames@cardiffmet.ac.uk

James Horwood actifadydd Chwaraeon y Gymdogaeth (de dwyrain)

07717 541350

jhorwood@cardiffmet.ac.uk

Jessica Huddleston actifadydd Chwaraeon y Gymdogaeth (Canolog a de Caerdydd)

07717 541311

jhuddleston@cardiffmet.ac.uk


Mae Chwaraeon Caerdydd yn darparu ystod eang o gyfleoedd a gwasanaethau. Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn helpu. Chwaraeon Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd College House Cyncoed Caerdydd CF23 6XD

 SportCardiff@cardiffmet.ac.uk  029 2020 5286  @SportCardiff @Cardiff_Games  Sport Cardiff  www.cardiffmet.ac.uk/sport-cardiff


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.