Adolygiad Blynyddol Chwaraeon Cymru 2015-2016

Page 1

ADOLYGIAD BLYNYDDOL 2015-2016


Cyflwyniad Dwy flynedd yn ôl mewn ymateb i'r heriau ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru, ymrwymodd Cyngor Dinas Caerdydd i bartneriaeth ffurfiol gyda'r Brifysgol drwy Chwaraeon Met Caerdydd. Roedd y buddiannau i Gyngor y Ddinas yn canolbwyntio ar yr angen i ddiogelu ymdrechion i ddatblygu chwaraeon ledled y Ddinas a meithrin ei gydberthynas â'r Brifysgol ymhellach. I Chwaraeon Met Caerdydd, roedd yn cynnig cyfle i ddatblygu ac ehangu'r gwaith datblygu a wneir drwy'r rhaglen Academïau Chwaraeon i Bobl Ifanc lwyddiannus ymhellach; i sicrhau rheolaeth uniongyrchol dros greu lleoliadau gwaith a'r broses o ddyrannu myfyrwyr i'r lleoliadau hynny ac i'r Brifysgol, y posibilrwydd o gynyddu gwelededd y brand ar draws y gymuned.

Mae'r math hwn o bartneriaeth yn unigryw yng Nghymru a ledled Prydain, dim ond Southampton Solent sydd wedi meithrin cydberthynas debyg i'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd. Daw cyllid y prosiect gan Chwaraeon Cymru i Gyngor y Ddinas fel rhan o strategaeth Datblygu Cymunedol Cymru gyfan, Chwaraeon Anabledd Cymru a Chyngor y Ddinas. Mae'r Brifysgol yn darparu'r adeiladau a'r swyddogaeth reoli drwy Chwaraeon Met Caerdydd. Gan ddechrau ei thrydedd flwyddyn weithredol, mae'r bartneriaeth wedi aeddfedu ac mae ganddi bellach 18 o aelodau o staff a gyflogir i roi Cynllun Chwaraeon Cyfan ('whole Sport') y ddinas ar waith. yn arbennig, mae wedi cyflawni'r canlynol:  Gemau Ysgolion Caerdydd - un o'r cystadlaethau mwyaf i ysgolion wedi'i chydgysylltu'n ganolog gan ysgolion ym Mhrydain, gyda thros 65 o gystadlaethau mewn 18 o wahanol fathau o chwaraeon.  Lansiwyd cynllun hyrwyddo a chyflawni cyntaf Cymru i annog menywod a merched i gymryd mwy o ran mewn ymarfer corff o dan frand Girls Together  Dros 100 o gyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr Met Caerdydd

 Y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau'r Haf glodwiw ar y cyd ag Is-adran Prydau Bwyd Ysgol Cyngor Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru  Y Ganolfan Gwirfoddolwyr Chwaraeon gyda thros 3500 o wirfoddolwyr wedi'u cofrestru ac yn darparu cymorth mewn digwyddiadau mawr yn y Ddinas megis y Felathon, Ardal Cefnogwyr Cwpan Rygbi'r Byd, Hanner Marathon Caerdydd a Hanner Marathon y Byd IAAF.  Gweithgareddau Chwaraeon i Bobl Anabl a Chwaraeon Cynhwysol cynhwysfawr

Bellach mae Chwaraeon Caerdydd yn edrych i'r dyfodol gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r ddarpariaeth llythrennedd corfforol gymunedol, ehangu Gemau Caerdydd ymhellach i gynnwys mwy o fathau o chwaraeon, mwy o leoliadau a mwy o gyfranogwyr; datblygu'r gweithgareddau Hyfforddi a'r Gweithlu a gynigir, drwy lansio'r Academi Hyfforddwyr i Fyfyrwyr Met Caerdydd sy'n dangos potensial sylweddol fel hyfforddwyr chwaraeon; defnyddio'r bartneriaeth gyda'r Ysgol Chwaraeon i ymgymryd â gwaith ymchwil er mwyn cael darlun manylach o effaith ein gwaith.


Chwaraeon i Blant Mae Chwaraeon Caerdydd yn anelu at gynnig cyfleoedd chwaraeon o ansawdd i bob person ifanc yng Nghaerdydd. Cynllunnir y rhaglenni er mwyn sicrhau y gall unrhyw blentyn o unrhyw gefndir, lleoliad neu gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon llawn hwyl mewn amgylchedd diogel. Ein diben allweddol yw helpu pobl ifanc i sefydlu a chynnal ffordd o fyw iach a hefyd i ddatblygu unigolion talentog er mwyn iddynt gyflawni eu llawn botensial. Mae Chwaraeon Caerdydd yn gweithio gyda 95 o ysgolion ar hyn o bryd sy'n cynnwys pob un o'r 19 o ysgolion uwchradd yn ardal Caerdydd ac mae'n canolbwyntio ar amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys Gemau Caerdydd, lleoliadau i fyfyrwyr a chlybiau cyn ysgol, clybiau amser cinio a chlybiau ar ôl ysgol. Mae'r rhaglenni yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, mathau traddodiadol ac anhraddodiadol o chwaraeon, gan gynnwys:  Pêl-rwyd  Pêl-droed

Ein huchelgais yw y bydd pobl ifanc sy'n dod i'n sesiynau mewn ysgolion yn mynd ati wedyn i ddatblygu eu potensial mewn clybiau lleol neu o fewn darpariaeth gymunedol. Yn ystod 2015-16, cynigiwyd dros 2600 o gyfleoedd cymunedol i bobl ifanc ledled y Ddinas, ac mae 350 o gyfleoedd ar gael mewn Clybiau hefyd.

Yn 2015, dangosodd Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru fod 47% o bobl ifanc yng Nghaerdydd yn gwirioni ar chwaraeon

 Codi hwyl  Criced  Athletau  Pêl-fasged  Dawns  Jiwdo

Cymerodd dros 40,000 o bobl ifanc ran yn rhaglenni Chwaraeon Caerdydd

 Golff  Gymnasteg

Dros 220,000 o sesiynau unigol

1


aStudiaethauAChoS darpariaeth Chwaraeon Maes y Coed Rhaglen gweithgareddau chwaraeon i blant rhwng 4 ac 16 oed yng nghymuned Canolfan Gymunedol Maes-y-Coed. Mae'r rhaglen yn cynnig y chwaraeon canlynol - gymnasteg, pêl-fasged, pêl-droed i ferched, pêl-rwyd, criced, tenis, codi hwyl, trampolîn, pêl-droed, tenis bwrdd. Nododd Bwrdd Chwaraeon Rhanbarthol Gogledd Caerdydd fod galw aruthrol am weithgareddau ar ôl ysgol yn y gymuned leol. Cafwyd y wybodaeth hon drwy ymgynghori â thrigolion ac ysgolion lleol. Cyflwynwyd cais llwyddiannus am grant datblygu o £10,000 gan Chwaraeon Cymru i brynu offer a hyfforddi gwirfoddolwyr lleol i ddod yn hyfforddwyr. Mae'r prosiect wedi cael effaith sylweddol ar yr ardal a chafwyd dros 2,300 o ymweliadau â'r ganolfan i gymryd rhan yn y sesiynau chwaraeon yn ystod yr 20 wythnos gyntaf o weithgareddau.

ymgysylltu â'r Gymuned ym Mhentre-baen Mae aelodau o'r gymuned leol newydd gymryd yr awenau ym Mharth Pentre-baen gan weithredu fel 'Ymddiriedolwyr'. O ganlyniad i hyn, rydym wedi eu helpu i gyflwyno cais cist gymunedol i dalu am offer chwaraeon arbenigol a chymwysterau hyfforddi i wella sgiliau gwirfoddolwyr lleol, er mwyn iddynt allu cynnal gweithgareddau cynaliadwy yn y Ganolfan i'r gymuned leol. O ganlyniad uniongyrchol i gael grant cist gymunedol, rydym wedi gallu cynnig gweithgareddau yn ystod gwyliau'r Pasg i'r bobl ifanc leol. Yn dilyn hyn, cynhelir clwb chwaraeon rheolaidd yn y parth, wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr. Hyd yn hyn, mae'r prosiect wedi ymgysylltu â 12 o bobl ifanc o ardal Pentre-baen, na fyddent wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch corfforol cyn hynny. Mae aelodau o'r gymuned leol wedi dangos diddordeb mewn gwella eu sgiliau er mwyn iddynt allu cynnig sesiynau chwaraeon yn y Ganolfan, gan olygu felly y bydd y sesiynau yn gynaliadwy. 2


Jiwdo wiSP Mae Roy Court o Jiwdo WISP wedi bod yn cynnig sesiynau Jiwdo cynhwysol yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd. Ers ymddeol, mae Roy wedi gweithio'n galed i ddarparu cyfleoedd cynhwysol i bawb drwy Jiwdo. Gyda chymorth Tîm Chwaraeon Caerdydd yn Nwyrain y Ddinas, mae Jiwdo WISP bellach yn cynnal Canolfan Ragoriaeth gyda mwy na 50 o gyfranogwyr yn dod i'r Ganolfan bob wythnos. Bu cynnydd o ran nifer aelodau'r clwb sy'n dod o gymunedau difreintiedig. Mae gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio mwy o wirfoddolwyr y mae rhai ohonynt bellach yn gweithio tuag at eu bathodynnau hyfforddi.

“Diolch i chi am eich amynedd diddiwedd yn dysgu Angharad sut i wneud rhôl ymlaen yn ddiogel. Mae ei hyder wedi cynyddu'n sylweddol drwy'r dosbarthiadau Jiwdo ac nid yw'n dweud "Alla i ddim" fel yr arferai”. Rhiant

Prosiect Gymnasteg de-ddwyrain Caerdydd ysgol uwchradd willows Mae Ysgol Uwchradd Willows yn ysgol arall nad ydynt wedi cymryd rhan yn un o gystadlaethau Gemau Caerdydd yn y gorffennol. Drwy'r partneriaid yn y Bwrdd Chwaraeon Rhanbarthol, nodwyd nad oedd nifer o ferched a oedd yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Willows erioed wedi cael cyfle i fynd i glwb gymnasteg oherwydd diffyg hyder, diffyg ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael a chost cymryd rhan. Cyfarfu swyddogion yn Ne-ddwyrain Caerdydd â Chlwb Gymnasteg Somersault a gynigiodd gynnal sesiynau am ddim dros floc o chwe wythnos, gan ddiweddu â chystadleuaeth Gemau Caerdydd. Cafodd y prosiect effaith sylweddol, nid yn unig ar allu gymnasteg y merched ond hefyd ar eu hyder a'u sgiliau cyfathrebu. Ar ddechrau'r bloc o chwe wythnos, roedd un o'r merched yn ei chael hi'n anodd gwneud rhôl ymlaen. Erbyn diwedd y prosiect, roedd yr un ferch yn perfformio trefniant llawr yn hyderus. Enillodd tair o'r merched 3edd wobr yn nigwyddiad Gemau Caerdydd gan gynrychioli Caerdydd wedyn yn y rowndiau terfynol a gynhaliwyd yn Chwaraeon Cymru. 3


GeMauCAerDyDD Bu'r adborth gan ysgolion ac athrawon yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn. Sefydlwyd Gemau Caerdydd yn 2012 fel prosiect etifeddiaeth y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd er mwyn annog pobl ifanc i gystadlu mewn cystadlaethau cyfeillgar ar lefel briodol ar gyfer eu hoedran a'u gallu. Mae'r Gemau bellach yn eu pedwaredd flwyddyn ac wedi mynd o nerth i nerth. Rydym yn parhau â'r bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd fel un o bartneriaid cystadlu swyddogol Gemau Caerdydd. Eleni, mae Gemau Caerdydd wedi cynnwys 66 o gystadlaethau mewn 18 o fathau o chwaraeon gan ddefnyddio 20 o leoliadau ledled y Ddinas. Gan gynnig cyfleoedd i Ferched a Bechgyn rhwng 6 ac 16 oed o bob Ysgol Uwchradd a Chynradd, gan gynnwys Ysgolion Uwchradd Bro Morgannwg hefyd. uchafbwyntiau:  8 tabl cynghrair (gan gynnwys tabl cynghrair cynhwysol)  19/19 o Ysgolion Uwchradd yn Cymryd Rhan  7/8 o Ysgolion Uwchradd y Fro yn Cymryd Rhan  8 o ysgolion yn cymryd rhan yn y tabl cynghrair cynhwysol  70/97 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan  6783 o Blant a Phobl Ifanc yn cymryd rhan  20 o bartneriaid cyflawni

4

eleni, cyflwynwyd cystadlaethau newydd yn y mathau canlynol o chwaraeon:  Sgïo - Cynradd ac Uwchradd  Rhwyfo Dan Do  Gymnasteg  Dringo  Ffitrwydd

Oherwydd y galw am y cystadlaethau pêl-droed a phêl-rwyd i ysgolion cynradd, penderfynwyd cynnal cystadlaethau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfle i fwy o ysgolion ac felly fwy o ddisgyblion gymryd rhan yng Ngemau Caerdydd ar lefel leol. Trefnodd y Cydgysylltwyr a'r Gweithredwyr y cystadlaethau rhanbarthol. Aeth y ddwy ysgol orau o bob ardal ymlaen i rownd derfynol y Ddinas gyfan. Bu'r fformat yn boblogaidd a bwriedir cynyddu'r cystadlaethau rhanbarthol ar draws mwy o fathau o chwaraeon y flwyddyn nesaf.

Buddiannau Gemau Caerdydd:  Lleihau'r baich ar athrawon i drefnu gemau rheolaidd.  Cynyddu hunanhyder a chred pobl ifanc y gallant gyflawni.  Mwy o ddisgyblion yn cystadlu ac yn cynrychioli eu hysgolion flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Cydberthynas gryfach rhwng Chwaraeon Caerdydd a'r ysgolion lleol drwy agor sianelau cyfathrebu a chynyddu cyfleoedd.  Mwy o gysylltiadau â sefydliadau a chlybiau chwaraeon lleol.  Cyfeirio disgyblion at brif raglenni talent y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol.  Tystiolaeth o well ymddygiad gan ddisgyblion sy'n awyddus i gymryd rhan mewn cystadlaethau yn y dyfodol.


ysgol Gynradd llanedeyrn Ysgol Gynradd Llanedeyrn yw un o lwyddiannau Gemau Caerdydd eleni. Nid yw’r ysgol wedi cystadlu yn ystod y blynyddoedd blaenorol, maent wedi datblygu Strategaeth Chwaraeon newydd ac wedi mynychu pob cystadleuaeth bu yn y flwyddyn ysgol bresennol hyd yn hyn. Bu Bev Knuckley, dirprwy Bennaeth yr ysgol, yn siarad am effaith Gemau Caerdydd ar ei disgyblion:

“I ni fel ysgol, rydyn ni wedi gweld hyder ein disgyblion yn datlblygu - o’r amser maen nhw’n cyrraedd ac yn edrych o’u cwmpas yn llawn parch tuag at sgiliau chwaraeon pobl eraill i fwynhau rhai o’r lleoliadau chwaraeon cyffrous. Mae gall darllen, rhannu a hybu’r dyfyniadau y gellir eu gweld oddi amgylch y Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru gyda’r disgyblion wedi bod yn brofiad rhyfeddol na fydd ein disgyblion, a ni fel staff cynorthwyol yn ei anghofio. Mae ymddygiad a hyder ein disgyblion wedi gwella fel canlyniad uniongyrchol o gymryd rhan yn Ngemau Caerdydd. Mae un o’n disgyblion 11 mlwydd oed wedi ennill ei fedal gyntaf mewn gymnasteg ac wedi ei wisgo byth ers hynny, enillodd un plentyn fedal aur mewn badminton,

gan ddarganfod dawn nad oedd o’n gwybod amdano o’r blaen; hefyd, fe gafodd amryw o ddisgyblion sydd heb gael eu dewis i gynrychioli’r ysgol o’r blaen, y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon allanol am y tro cyntaf drwy Multi Sport. Mae ein staff wedi gweithio’n agos gyda Swyddogion y Gogledd Chwaraeon Caerdydd, sydd wedi cefnogi ein Strategaeth Datblygu Chwaraeon drwy ddarparu hyfforddwyr, adnoddau a threfnu cyfleoedd i’n disgyblion weld chwaraeon mewn llefydd fel Met Caerdydd. rydym wedi elwa o arbenigedd ac angerdd yr hyfforddwyr ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn nesaf ar Gyfnod 2 o’n Strategaeth. yn aml, chwaraeon, yw’r pwnc sy’n colli allan pan fo angen mwy o amser ar bynciau eraill. o ganlyniad i’n cyfranogaeth yn Ngemau Caerdydd, mae chwaraeon nawr yn ganolog i les ein disgyblion ac yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar safonau a hyder ein disgyblion gan roi sail i’r ystwythder y bydd angen arnynt trwy gydol eu bywydau.'' 5


hyfforddiantA'rGweithlu Mae rhaglen y Gweithlu Hyfforddi ar gyfer 2015/16 wedi parhau i ehangu gan gynnig mwy o leoliadau i fyfyrwyr gyda dros 100 o gyfleoedd am leoliadau i fyfyrwyr Met Caerdydd ledled y ddinas yn cefnogi mentrau a digwyddiadau Chwaraeon Caerdydd. Eleni hefyd, gwelwyd Chwaraeon Caerdydd yn cefnogi'r gweithlu mewn sawl digwyddiad pwysig, gan gynnwys y Felathon, Triathlon Caerdydd, Gemau Cymru, Hanner Marathon Caerdydd, Fanzone Cwpan Rygbi'r Byd, Sport Relief a Hanner Marathon y Byd IAAF. Diolch i'r digwyddiadau hyn, wedi'u cyfuno â chyfleoedd gwirfoddoli eraill yn y gymuned, cyfrannwyd dros 4,000 o oriau gwirfoddoli a chymerodd dros 400 o wirfoddolwyr ran. Mae gwefan VSB Chwaraeon Caerdydd wedi bod yn destun cryn waith datblygu ac fel rhan o'r gwaith hwnnw, fe'i hunwyd â gwefan theSportsHub-Cardiff.com gan greu siop un stop ar gyfer gwirfoddoli, hyfforddi, clybiau a hyfforddiant. Y gobaith yw y bydd y datblygiad hwn yn cynyddu nifer ymwelwyr y wefan, a ddenodd tua 7,000 o ymwelwyr a ymwelodd â thua 33,000 o dudalennau yn ystod y 12 mis diwethaf. Yn y cyfamser, denodd gwefan wreiddiol VSB tua 9,000 o ymwelwyr a ymwelodd â thua 35,000 o dudalennau, sef cyfanswm effaith ar-lein gyfun o 16,000 o ymwelwyr, a 68,000 o ymweliadau â thudalennau. Yn ystod 2015/16, darparodd y rhaglen hyfforddi 3,600 o oriau hyfforddi fel rhan o raglenni Chwaraeon Caerdydd a defnyddiwyd 48 o hyfforddwyr i roi hyfforddiant i 292 o bobl. Lansiwyd cynllun Bwrsari Hyfforddi newydd a fuddsoddodd mewn datblygu a hyfforddi 10 o hyfforddwyr talentog sy'n cefnogi chwaraeon cymunedol yng Nghaerdydd. Cafodd y rhaglen Hyfforddi a'r Gweithlu effaith ar gyfanswm o tua 17,000+ o bobl.


YSTADEGAU


datBlyGuClybIAu Cyflawniadau allweddol 2015-2016  Helpu 12 o glybiau i gael cymorth mentora penodol drwy Raglen Clybiau Sported  Mae 8 clwb newydd wedi ennill achrediad insport eleni, gan ddod â'r cyfanswm i 11 yng Nghaerdydd  Buddsoddwyd £100,059 mewn clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol drwy'r gist gymunedol  Buddsoddwyd £30,429 ychwanegol mewn grwpiau sy'n mynd i'r afael yn benodol ag anghydraddoldebau o ran cyfleoedd chwaraeon  Lansiwyd sesiynau galw heibio Just Ask mewn clybiau yn Ne-ddwyrain y Ddinas

erthygl Clwb: Clwb Sboncen rhiwbeina Rhoddwyd gwobr Clwb y mis insport i Glwb Sboncen Rhiwbeina ym mis Mawrth am ei ddull rhagweithiol o ddarparu chwaraeon cynhwysol. Dyfarnwyd lefel arian iddo. Mae'r clwb yn darparu gwersi sboncen i bobl anabl ac roedd yn awyddus i ehangu'r ddarpariaeth hon ymhellach. Ategir hyn gan y ffaith mai Rhiwbeina yw'r clwb Sboncen cyntaf yng Nghymru i gyflawni gwobr insport yn ogystal â chyflawni lefel rhuban, efydd ac arian mewn cyfnod byr o amser. Dywedodd Swyddog Arweiniol insport Clwb Sboncen Rhiwbeina, Richard Plenty “Mae insport wedi gwneud gwahaniaeth eithriadol i Riwbeina gan annog pob un o'n haelodau i annog unrhyw un ag anableddau i ddechrau chwarae sboncen. Mae hefyd wedi ein gwella fel hyfforddwyr gan ein gosod y tu allan i'n hardal gysur.” Dywed Plenty wrth glybiau eraill sy'n awyddus i gymryd rhan yng nghynllun insport, “Fy nghyngor i unrhyw glwb fyddai na ddylid canolbwyntio ar yr hyn na all unigolion ei wneud ond yn hytrach ar yr hyn y gallant ei wneud.” Mae Clwb Sboncen a Phêl-raced Rhiwbeina hefyd wedi agor pedwerydd cwrt newydd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn a Rhiwbeina, ochr yn ochr â Sboncen Cymru, oedd y clwb sboncen cyntaf i gymryd rhan yn Sioe Chwaraeon Cadair Olwyn 2015.

Menter Cerdyn teyrngarwch Cynhaliwyd peilot o gynllun Cerdyn Teyrngarwch newydd gyda dau glwb yn y Ddinas er mwyn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â'u clwb cymunedol ar ôl cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol. Mae Clwb Tenis Bwrdd Dinas Caerdydd a Dance Fit Caerdydd wedi cytuno i gynnal cynllun peilot ac maent wedi llwyddo i ddenu aelodau newydd o ganlyniad i hynny. Mae'r cerdyn yn edrych fel 'cerdyn coffi' a rhoddir stamp i chi am fynd i sesiwn yn y clwb fel y byddech yn ei gael bob tro rydych yn prynu coffi ac yn cael stamp ar eich cerdyn. Mae'r ddau glwb wedi darparu gwobr i gyfranogwyr fel cymhelliant am lenwi eu cardiau â stampiau. Mae'r gwobrau yn cynnwys crys-t am ddim, sesiwn hyfforddi unigol neu flwyddyn o aelodaeth am ddim. Mae'r wobr yn unigryw i'r clwb. Mae Clwb Tenis Bwrdd Dinas Caerdydd wedi denu 15 o aelodau newydd ac mae dros 20 o bobl ifanc wedi ymuno â sesiynau cymunedol Dance Fit Caerdydd o ganlyniad i hynny ac yn mynd i sesiynau rheolaidd. Cadwch lygad allan am fwy o glybiau yn defnyddio cardiau teyrngarwch yn 2016-2017.

Loyalty Card

Loyalty C ard Club name

:

Card numb er:

  

rdiff @SportCa diff t-cardiff Sport Car c.uk/spor iffmet.a www.card

Expiry date:

Attend 8 ses to collect pri sions ze: Session 1

Session 5

Session 2

Session 6

Session 3

Session 7

Session 4

Collect Prize


ChwaraeonANAbleDD aChwArAeoNCynhwySol Cyflawniadau allweddol 2015-2016  Enillodd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Celts wobr Clwb y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Nation Radio yn dilyn tymor lle yr enillwyd 14 o gemau yn olynol yn y Gynghrair Genedlaethol a lle cafodd y clwb ei ddyrchafu.  Partneriaeth ag Ysbyty Rookwood i fynd i glinigau i ddefnyddwyr cadair olwyn actif i drafod y cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bobl.  Aeth 581 o gyfranogwyr i'r 13eg Sioe Chwaraeon Cadair Olwyn yn NIAC. Roedd John Prosser ymhlith y cyfranogwyr hynny ac ar ôl rhoi cynnig ar rwyfo, ymunodd â Chlwb Rhwyfo Llandaf. Aeth yn ei flaen i ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Rhwyfo Dan Do Prydain ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Yn ogystal, enwyd John yn ddiweddar fel rhan o Dîm Prydain Fawr i gystadlu yng Ngemau Invictus yn Fflorida eleni.  Enillodd Heather Sargent o Glwb Rebounders wobr "Hyfforddwr Chwaraeon Anabledd y Flwyddyn" Nation Radio er mwyn cydnabod blynyddoedd o ymroddiad i therapi trampolîn ac adlam i bobl anabl.  Mae 2061 o bobl anabl yn cymryd rhan reolaidd mewn sesiynau chwaraeon anabledd neu chwaraeon cynhwysol yng Nghaerdydd. Mae 244 o hyfforddwyr yn darparu'r sesiynau hynny, gyda chymorth 262 o wirfoddolwyr. O blith y gweithlu hwnnw, mae 12 o'r hyfforddwyr a 44 o'r gwirfoddolwyr yn anabl.

Pêl-fasged Cadair olwyn Beth? Gan weithio gydag Ysgol Chwaraeon Met Caerdydd, crëwyd cyfle am leoliad i fyfyriwr i ddatblygu gweithgareddau Pêl-fasged Cadair Olwyn yn y Brifysgol. Ymgymerodd y myfyriwr â rôl Swyddog Pêl-fasged Cadair Olwyn Addysg Uwch a datblygodd sesiynau wythnosol ym Met Caerdydd i fyfyrwyr. Helpodd y prosiect hwn i godi proffil chwaraeon cynhwysol yn y Brifysgol gan ddod â chyfranogwyr anabl a phobl anabl nad oeddent yn gyfranogwyr ynghyd i greu tîm Pêl-fasged Cadair Olwyn cyntaf Met Caerdydd a aeth ymlaen i gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Prifysgolion yng Nghaerwrangon ym mis Mawrth, gan lwyddo i gyrraedd y 7fed safle allan o 16 o Brifysgolion. effaith? Diolch i ddull partneriaeth cadarn rhwng Chwaraeon Caerdydd, yr Ysgol Chwaraeon, Pêl-fasged Archers, Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Celts Caerdydd a Chwaraeon Anabledd Cymru, roedd y prosiect hwn yn llwyddiant a bydd yn parhau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

ysgol arbennig woodlands Beth? Mae Woodlands ar hyn o bryd yn cynnal amrywiaeth o glybiau allgyrsiol gan weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Caerdydd megis jiwdo, dawns stryd, boccia a nofio.. Ariannwyd y clwb dawns stryd yn rhannol gan Chwaraeon Caerdydd gyda'r disgyblion yn talu hanner arall y gost am raglen 10 wythnos a oedd yn boblogaidd iawn. Caiff y clwb y tymor nesaf ei ariannu'n llwyr gan y disgyblion. Bydd Woodlands yn perfformio dawns arddangosiadol yn nigwyddiad Dawns Gemau Caerdydd. effaith? Goresgyn heriau i ddarpariaeth ar ôl ysgol ar gyfer ysgol arbennig, megis trafnidiaeth. Mae'r disgyblion yn cael yr un cyfleoedd ag ysgolion prif ffrwd i fod yn rhan o glwb chwaraeon.


ProSieCtauCyMuNeDol y ddinas a de Caerdydd Jiwdo eGh Mewn partneriaeth a ffurfiolwyd rhwng EGH, Saeed Ebrahim (Rheolwr Pafiliwn Ieuenctid Butetown) a Chwaraeon Caerdydd, sefydlwyd clwb Jiwdo lloeren yn dilyn llwyddiant y rhaglen haf gyda chlwb Jiwdo EGH. Mae'r sesiwn bellach yn un o sesiynau cynaliadwy'r clwb gyda chyfartaledd o 20 o blant lleol rhwng 4 ac 11 oed yn dod iddi. Mae'r clwb bellach yn rhan o'r WJA a gall gynnal sesiynau graddio yn ogystal â chystadlu yn erbyn clybiau jiwdo eraill yng Nghymru.

Daeth y Clwb Chwaraeon yn boblogaidd iawn yn gyflym iawn. Fel rhan o'r twf hwn, caiff llyfrau eu darllen, pynciau gwaith cartref eu hastudio a chyfrifiaduron eu defnyddio mewn modd cynhyrchiol wrth i'r bobl ifanc yn eu harddegau aros eu tro i chwarae gemau. Cynhaliwyd cystadleuaeth ym mis Rhagfyr a chymerodd 14 o blant ran. Gan fod pedair merch, cynhaliwyd twrnamaint ar wahân i'r bechgyn a'r merched. Y llyfrgell a drefnodd y digwyddiad, ei hysbysebu a'i gynnal. Trefnodd Chwaraeon Caerdydd fwrdd maint llawn, dau dlws, 14 o fedelau a phedwar bat fel gwobrau. Yn dilyn llwyddiant cychwynnol sefydlu'r clwb, rhoddwyd dau fwrdd tenis bwrdd maint llawn, 8 bat, pedair rhwyd godi, 200 o beli ac un peiriant serfio robotaidd gan TTAW er mwyn gallu dechrau Clwb Tenis Bwrdd ar wahân. Rhodd mewn nwyddau gwerth dros £400. Mae'r clwb ar wahân bellach yn glwb cyswllt ac yn cael ei gynnal ar yr un pryd â'r Clwb Chwaraeon yn un o'r ystafelloedd y gellir ei llogi.

de-orllewin Caerdydd Clwb Chwaraeon hyb trelái Prosiect a gynlluniwyd i ymgysylltu â phobl ifanc yn eu harddegau a phlant ysgol hŷn yw Clwb Chwaraeon Hyb Trelái a Chaerau. Yn draddodiadol, mae'r broblem hon yn broblem barhaus i lyfrgelloedd - sut i ymgysylltu â phobl ifanc yn eu harddegau a helpu i wella eu sgiliau llythrennedd; yn enwedig pan fo'r grŵp oedran hwn yn aml o'r farn nad yw llyfrgelloedd yn cŵl, neu eu bod yn fannau diflas, anniddorol y maent ond yn eu defnyddio er mwyn cael Wi-Fi am ddim neu er mwyn gwefru eu llechi. Gan weithio'n agos â Chwaraeon Caerdydd, datblygodd y Clwb Chwaraeon gynllun i ddenu oedolion ifanc i'r llyfrgell, i'w hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt ac i'w cyflwyno i fuddiannau ehangach y gwasanaeth llyfrgelloedd drwy gyfrwng y maent yn ei fwynhau ac yn awyddus i'w ailadrodd dro ar ôl tro.

Ym mis Mawrth, enwebwyd y prosiect am Wobr Rhagoriaeth Marchnata lle yr enillodd Brosiect Marchnata ar y Cyd y Flwyddyn mewn partneriaeth â Hwb Trelái.

Prosiect SheP Cynllun peilot amlasiantaeth i ddarparu prydau bwyd a darpariaeth chwaraeon o ansawdd da i blant sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yng Nghaerdydd yw Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau'r Ysgol (SHEP). Drwy agor ysgolion, mae'n anelu at helpu'r ddinas i gyflawni ei hymrwymiad i leihau lefelau tlodi ymhlith plant, gwella ansawdd bywyd plant a lleihau anghydraddoldebau o ran iechyd a cholli cyfleoedd i ddysgu yn ystod cyfnod gwyliau'r haf. Wedi'i hwyluso gan Bwyd Caerdydd, arweiniodd partneriaeth rhwng Adran Arlwyo Addysg Cyngor Dinas Caerdydd, Chwaraeon Caerdydd - Met Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Adran Maeth a Dieteteg Iechyd y Cyhoedd a Thîm Iechyd y Cyhoedd) at ddatblygu rhaglen a roddwyd ar waith mewn partneriaeth ag ysgolion a grwpiau cymunedol mewn pump lleoliad yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Caerdydd, gan gynnwys dros 100 o blant a theuluoedd. Enillwyr gwobrau iechyd a maeth PS100 yng Ngwobrau'r Sector Costau 2016


GenethodGyDA'IGilydd Eleni, mae rôl Menywod a Merched wedi datblygu'n sylweddol. Treuliwyd cryn dipyn o amser yn creu'r deunydd marchnata ar gyfer yr ymgyrch Girls Together a chynhaliwyd digwyddiad lansio llwyddiannus ar 8fed Mawrth 2016 fel rhan o'r dathliadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae tîm o bedwar cennad a 12 model rôl yn cefnogi'r ymgyrch a chaiff amserlen o weithgareddau ei chreu mewn partneriaeth â Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol, clybiau lleol a busnesau.

rhedeg Sefydlwyd grŵp rhedeg i ddechreuwyr yn Ne-ddwyrain y Ddinas gyda 15 o fenywod yn rhedeg unwaith yr wythnos gydag arweinwyr hyfforddedig ac yn trefnu nosweithiau ychwanegol i redeg drwy'r rhwydwaith cymdeithasol y maent wedi'i ddatblygu. Dechreuodd y grŵp ym mis Medi 2015 gan anelu at redeg 1k yr wythnos ac o fewn chwe mis, maent wedi rhagori ar hynny gan redeg 8k o leiaf unwaith yr wythnos a chwblhaodd hanner y grŵp ras 10k Dydd Gwyl Dewi gyda'r aelodau eraill yn cymryd rhan yn y digwyddiad 5k.

Pêl-droed Mewn partneriaeth â DanceFit Caerdydd a thrwy gyllid a gafwyd gan gynllun Buddsoddi Rhanbarthol Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru, crëwyd y cynnyrch BeatBall. Mae BeatBall yn cynnwys ffitrwydd, dawns a phêl-droed wedi'u huno i gyfeiliant cerddorol. Ers mis Tachwedd 2015, mae dros 3000 wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn BeatBall a chynhaliwyd dwy ŵyl i blant rhwng 7 ac 11 oed. Yn 2016-17, rydym yn gobeithio hyfforddi pobl leol i ddarparu'r sesiynau yn eu cymuned ac annog hybiau cymunedol a chanolfannau hamdden i gynnig y ddarpariaeth er mwyn sicrhau ei bod yn gynaliadwy. Rydym yn disgwyl y bydd nifer yr hybiau cymunedol yn dyblu ac yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau fel rhan o'r ddarpariaeth BeatBall.


nationrADIo GwoBrauChwArAeoN

Eleni, gwnaethom barhau i weithio gyda Nation Radio fel un o noddwyr Gwobrau Chwaraeon Nation Radio. Gyda'r nifer uchaf erioed o enwebiadau a rhai cyflawniadau eithriadol o ran chwaraeon yn y Ddinas, roedd y lleoliad yn stadiwm SSE Swalec yn berffaith i ddathlu'r llwyddiant chwaraeon. Mae'n bleser gennym arddangos gwaith Steve Kaireh, enillydd y Wobr Cyflawniad Oes am ei waith yn Ardal Butetown, Glan yr Afon a Grangetown y Ddinas.


SyMudyMlAeN Ein cenhadaeth o hyd yw darparu Cyfleoedd i bawb drwy Chwaraeon, ac yn ystod y pedair blynedd nesaf, byddwn yn anelu at ddenu cymaint o bobl â phosibl i ymgymryd â Chwaraeon yn y Ddinas. Mae hyn yn amrywio o gymryd rhan i hyfforddi a gwirfoddoli, gwaith gweinyddu cyffredinol i fod yn aelod o fwrdd, yn newydd i chwaraeon ac yn dychwelyd i chwaraeon. Rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o frand Chwaraeon Caerdydd er mwyn cael ein cydnabod fel y 'siop un stop' ar gyfer Chwaraeon yn y Ddinas. Bydd ein meysydd gwaith â blaenoriaeth, sy'n cynnwys Plant a Phobl Ifanc; Cystadlaethau, Hyfforddi a'r Gweithlu a Datblygu Clybiau yn anelu at gynyddu nifer yr unigolion sy'n cymryd rhan a Gwirioni ar Chwaraeon. Bydd yr ymgyrch Girls Together yn parhau i ymdrin â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau a chynyddu nifer y cyfleoedd i ferched o bob oedran a gallu fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r Arolwg Your Sport, Your Way hefyd yn ymdrin ag anghenion a dymuniadau'r boblogaeth anabl yng Nghaerdydd. Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn ein helpu i gynnig amrywiaeth cadarnach o ran chwaraeon anabledd a chwaraeon cynhwysol yn y Ddinas.

ProSieCtau allweddol i Gadw llyGad allan aMdanynt: llythrennedd corfforol Hyfforddi aelodau'r gymuned i gyflawni Just ask Mwy o gyfleoedd i Glybiau Chwaraeon yng Nghaerdydd ymgysylltu er mwyn cael rhagor o gymorth academi hyfforddwyr Datblygu myfyrwyr talentog fel hyfforddwyr er mwyn helpu gyda gweithgareddau cymunedol Girls together Mwy o gyfleoedd i fynd i sesiynau Girls Together. Gwaith ymchwil Defnyddio'r cyfleoedd ymchwil yn y Brifysgol i fesur effaith rhaglenni a phenderfynu ble y gallai ymyriadau pellach fod o fudd. rhaglen Cyfoethogi Gwyliau'r haf (SheP) Cyflwyno'r rhaglen i fwy o ardaloedd yn y Ddinas ac yn Genedlaethol ledled Cymru.


Manylion cyswllt  www.cardiffmet.ac.uk/sport-cardiff  sportcardiff@cardiffmet.ac.uk  029 2020 5286  @SportCardiff  Sport Cardiff


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.