Gorffennaf 2017 Campws Llandaf
Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Addysg Oedolion Mae Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, llawn hwyl a gall wella eich posibiliadau gyrfa. Os ydych yn ystyried cofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau achrededig newydd, yna mae'r Ysgol Haf yn gyflwyniad perffaith. Mae hefyd yn ffordd wych o gael blas ar fywyd yn y brifysgol, yn enwedig os ydych yn ystyried astudio yma. Eleni, rydym hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio arbennig ddydd Mercher 19 Gorffennaf ar Sut i Wneud Cais am Le ym Met Caerdydd, sy'n dangos i chi sut i wneud cais ac sy'n rhoi gwybodaeth am gyllid myfyrwyr a llawer mwy. Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i ennill credydau prifysgol am ddim drwy gofrestru ar gyfer ein cwrs newydd, Cyflwyniad i Ymarfer Myfyriol ar ôl i'r Ysgol Haf orffen.
www.cardiffmet.ac.uk/summerschool cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
1
Croeso i Ysgol Haf 2017 Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy'n Oedolion. Mae gennym lawer o gyrsiau i chi roi cynnig arnynt eleni, sy'n cynnwys eich holl ffefrynnau yn ogystal â rhai newydd i ennyn eich diddordeb: megis Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio; Rhyw, Cyffuriau ac Arch-fygiau; Dechrau Arni ym maes Newyddiaduraeth, a Choginio'n Iach pan fydd Arian yn Dynn. Mae gennym ddyddiadur defnyddiol sy'n dangos yn gryno pryd fydd eich cwrs yn cael ei gynnal er mwyn i chi osgoi unrhyw wrthdaro â chyrsiau eraill yr hoffech gofrestru amdanynt o bosibl. Byddwch hefyd yn gweld ein llysgenhadon myfyrwyr bob dydd, sydd yma i'ch helpu i ddod o hyd i'ch cwrs, i ddangos y brifysgol i chi ac, yn gyffredinol, i fod mor ddefnyddiol ag y gallant fod. Mae ein holl gyrsiau rhagflas yn dal i fod yn rhad ac am ddim, a rhoddir blaenoriaeth i bobl o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Mae pob un ohonynt yn gyflwyniad gwych i astudio pellach yma, neu efallai fodiwl achrededig fel rhan o'n rhaglen allgymorth ar gyfer 2017/18. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Met Caerdydd yr haf hwn.
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
▪
Rhestr Cyrsiau ▪
▪
▪
Sgiliau Academaidd
▪
Asesu eich Saesneg Academaidd
▪
Sgiliau Busnes ar gyfer yr 21ain Ganrif
▪
Celf a Chrefft
▪
Technoleg Pobi
▪
Iechyd yr Amgylchedd
▪ ▪
▪
Sgiliau Rheoli Prosiect ar gyfer Digwyddiadau
cardiffmet.ac.uk/summerschool
▪
▪ ▪
Cyflwyniad i Therapïau Cyflenwol
▪
Cyflwyniad i Gerameg
▪
Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol
▪
Dechrau Arni ym maes Newyddiaduraeth
▪
Sut i Wneud Cais am Le ym Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy’n Oedolion – Sesiynau Galw Heibio Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio
▪
Her Dylunio FabLab – Cyflwyniad i Ddylunio Cynnyrch
Coginio'n Iach pan fydd Arian yn Dynn
▪
Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyflwyniad i Astudiaethau Tai Cyflwyniad i Baratoi i Addysgu Oedolion Cyflwyniad i Seicoleg
/wideningaccess
@wideningaccess
Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Chymunedol
▪
Cyllid Islamaidd
▪
Ffotograffiaeth Gyda neu Heb Gamera
▪
Sgiliau Myfyrio – Achrededig
▪
▪
Rhyw, Cyffuriau ac Arch-fygiau
▪
▪
▪
Mudo ac Integreiddio
Gwyddoniaeth Siocled Meddwl eich bod yn Dda yn Tynnu Lluniau? Tynnu Lluniau ar gyfer Dechreuwyr Clwb Athroniaeth Gymunedol Cyflwyniad i Uwchgylchu gyda Stitch
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
1
Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath Byddwch yn rhan o arddangosfa gelfyddydau 'Ehangu Mynediad' yn ystod gŵyl gelfyddydau gymunedol madeinroath, digwyddiad wythnos o hyd sydd bellach yn ei 9fed flwyddyn. Mae'r arddangosfa yn agored i fynychwyr cwrs celf Ehangu Mynediad, a bydd yn rhoi'r cyfle i chi gael profiad o guradu arddangosfa a meithrin dealltwriaeth o sut i gyflwyno eich celfwaith mewn amgylchedd arddangosfa. Cewch gymorth drwy gydol y digwyddiad gan drefnwyr madeinroath, sydd ag amrywiaeth eang o gefndiroedd, gwybodaeth a phrofiadau i fanteisio arnynt. Dim ond un darn o gelfwaith sydd ei angen i'w arddangos, ac mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim. Mae croeso i chi fynychu unrhyw un o gyrsiau celf yr Ysgol Haf i gael gwybod rhagor a chymryd rhan.
www.madeinroath.com
2
DIWRNODAUAgored I DREFNU I DDOD I UN O'N DIWRNODAU AGORED, EWCH I: www.cardiffmet.ac.uk/opendays neu ffoniwch: 029 2041 6042 P'un a ydych wedi penderfynu mai Met Caerdydd yw'r brifysgol i chi; neu'n dal i fod yn ansicr, mae dod i un o'n Diwrnodau Agored yn hanfodol. Mae'n gyfle perffaith i chi ddysgu rhagor am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, siarad â staff a myfyrwyr a chael taith i weld ein cyfleusterau, llety a champysau. Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored ysgolion academaidd drwy gydol y flwyddyn, sy’n berthnasol i'ch cwrs a'ch maes o ddiddordeb.
Pam y dylech ddod yma i ddysgu? Ar adeg pan fo cymaint o ansicrwydd o ran yr economi, efallai eich bod yn pryderu ynghylch sut rydych yn mynd i ddatblygu eich sgiliau a gwireddu eich potensial mewn marchnad swyddi mor anodd. Hefyd, rydym yn deall yr holl ymrwymiadau sy'n rhan o fywyd modern – gwaith, teulu a bywyd cymdeithasol – nid yw'n hawdd rhoi sylw i'r holl bethau hyn ac ystyried astudio ar yr un pryd. Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn ddigon clyfar i astudio mewn prifysgol. Efallai na wnaethoch yn dda yn yr ysgol, ac mae bywyd wedi golygu eich bod wedi gadael addysg ar ei hôl. Yn aml, nid oes gan oedolion sydd heb astudio am amser hir yr hyder i ddychwelyd i ddysgu, neu maent yn meddwl y bydd pobl yn eu barnu mewn ffordd gas. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu diddorol yn rhad ac am ddim. Gall ein cyrsiau helpu i godi eich hyder a rhoi ffocws i'ch gyrfa neu gynllun dysgu. Mae ein Hysgol Haf yn agored i oedolion dros 18 oed, beth bynnag yw eu hoedran, cefndir, cymwysterau blaenorol a phrofiad. Y llynedd, aeth llawer o'r oedolion a fynychodd Ysgol Haf Met Caerdydd ymlaen
cardiffmet.ac.uk/summerschool
i gofrestru ar gyfer cwrs pellach ym Met Caerdydd ym mis Medi, naill ai gwrs Sylfaen neu un o'n rhaglenni achrededig, neu i astudio tuag at radd. Eleni, gallwch chi fod yn un ohonynt! Mae Ysgol Haf Met Caerdydd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, er hwyl neu i wella eich posibiliadau gyrfa. Gall rhoi cynnig ar Ysgol Haf ddechrau rhywbeth cyffrous, a all agor mwy o ddrysau i chi!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: wideningaccess@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2020 1563 www.cardiffmet.ac.uk/wideningaccess www.facebook.com/wideningaccess www.twitter.com/wideningaccess
Jamie Grundy Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned (Prosiectau)
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
3
Celf a Chrefft! Dydd Llun 3ydd a Dydd Mawrth 4ydd Gorffennaf
Sgiliau Academaidd Dydd Iau 20fed a Dydd Gwener 21ain Gorffennaf 10am to 3pm Campws Llandaf Mae'r sesiynau hyn yn cynnig cyfle gwych i chi wella eich sgiliau academaidd. Drwy ganolbwyntio ar bedwar maes hanfodol – ysgrifennu, ymchwilio, cymryd nodiadau a rheoli amser – bydd y gweithdai hyn yn ddefnyddiol iawn i'ch paratoi ar gyfer astudio pellach, naill ai yn y coleg neu ar un o'n cyrsiau Ehangu Mynediad achrededig. Yn ystod y sesiwn ar ysgrifennu, byddwn yn ystyried sut y gallwch ysgrifennu'n glir ac yn effeithiol. Byddwn hefyd yn ystyried rhai camgymeriadau ysgrifennu cyffredin a sut y gallwch eu hosgoi. Diben ymchwil yw dod o hyd i'r wybodaeth gywir. Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn archwilio'r adnoddau sydd ar gael i wneud hyn a'r mathau o ffynonellau y gallech ddod ar eu traws. Bydd y sesiwn ar gymryd nodiadau yn dangos i chi sut y gall nodi gwybodaeth ar bapur fod yn rhan bwysicach o ddysgu. Drwy feddwl yn ofalus am yr hyn rydych yn ei ddarllen neu'n gwrando arno, gallwch gofio llawer mwy am y pwnc. Bydd y sesiwn ar reoli amser yn dangos i chi sut i roi trefn ar eich ymrwymiadau a chadw ar ben pethau sy'n mynnu eich amser yn hawdd. Mae bod yn drefnus yn golygu y gallwch gwblhau pob un o'r tasgau ar eich rhestr o bethau i'w wneud a chael ymdeimlad o foddhad eich bod yn gwneud cynnydd!
4
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
Campws Llandaf Nod y cwrs celf deuddydd yw cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio, creu a mwynhau'r broses o dynnu lluniau. Mae'r cwrs yn agored i bob gallu. P'un a ydych yn Picasso addawol neu'n Warhol gorffenedig, mae croeso i chi mewn amgylchedd creadigol nad yw'n eich barnu. Byddwn yn trafod nifer o dechnegau a sgiliau i'ch helpu i greu eich campwaith eich hun. Dim ond eich dychymyg a'r awydd i roi cynnig ar rywbeth newydd, ffres, llawn hwyl a chyffrous sydd ei angen arnoch. Byddwn yn archwilio sut i gymysgu paent acrylig a gwahanol ddulliau paentio, a chewch eich annog i ddatblygu eich steil unigryw eich hun a gweithio fel rhan o grŵp ar brosiect arbennig, a fydd yn arwain at eich darn o waith gorffenedig eich hun. Dysgwch Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio! Gweler tudalen 11 am ragor o wybodaeth. Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Asesu eich Saesneg Academaidd Dydd Mawrth 18fed Gorffennaf 10am a 1pm (Dwy sesiwn wahanol. Cofrestrwch ar gyfer un yn unig) Campws Llandaf Os hoffech astudio ond nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae'n bosibl bod gennych bryderon ynghylch cofrestru ar gyfer cyrsiau dysgu. Mae hyn yn gyfle gwych i unrhyw un yn y sefyllfa honno. Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi asesu eich Saesneg academaidd. Byddwch yn sefyll y prawf sy'n asesu lefel eich gramadeg a'ch geirfa yn fanwl. Bydd hyn yn eich helpu os hoffech astudio'r cwrs Paratoi ar gyfer Profion Academaidd y System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol (IELTS) neu gwrs Saesneg tebyg arall. Mae'r prawf yn cymryd hyd at 2 awr, felly dylech gadarnhau'r dyddiad a'r sesiwn (bore neu brynhawn) yr hoffech ddod iddi wrth gofrestru.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
5
Clwb Athroniaeth Gymunedol Dydd Mawrth 4ydd, Dydd Mercher 5ed a Dydd Iau 6ed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf
Technoleg Pobi Dydd Llun 10fed a Dydd Mawrth 11eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae'r cwrs deuddydd hwn wedi'i gynllunio i'ch cyflwyno i'r wyddoniaeth sy'n digwydd yn ein cynhyrchion pob. Bydd yr Ysgol Haf eleni yn canolbwyntio ar gacennau cri traddodiadol. Byddwn yn trafod hanes bara brith, cacennau cri a mwy. Dros y ddau ddiwrnod, byddwn yn ymchwilio i nifer o gynhyrchion ac yn eu cynhyrchu. Bydd sesiwn yn cael ei threfnu i asesu ansawdd y cynhyrchion.
6
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
Mae athroniaeth gymunedol neu athroniaeth 'llawr gwlad' yn ymarfer sefydledig lle y bydd hwylusydd yn defnyddio model o drafodaeth athronyddol, yn seiliedig ar y dull Socrataidd 'cymuned ymholi', i hwyluso trafodaeth grŵp er mwyn ystyried cwestiynau mawr bywyd. Mae athroniaeth gymunedol yn ymwneud â'r broses athronyddu. Mae ganddi rôl mewn dysgu yn y gymuned a dysgu oedolion, pan fo grwpiau yn dod ynghyd i drafod cwestiynau mawr bywyd. Mae wedi cael ei defnyddio yn llwyddiannus fel model i helpu rhai grwpiau i symud i mewn i gymdeithas brif ffrwd – mae hyn wedi cynnwys unigolion proffesiynol elît o'r byd chwaraeon, carcharorion a phobl ag anghenion iechyd meddwl.
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Iechyd yr Amgylchedd Dydd Mawrth 18fed, Dydd Mercher 19eg a Dydd Iau 20fed Gorffennaf 10am to 3pm Campws Llandaf
Sgiliau Busnes ar gyfer yr 21ain Ganrif Dydd Mercher 12fed, Dydd Iau 13eg a Dydd Gwener 14eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Cynlluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno dysgwyr i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd beunyddiol yn ogystal â'r byd cyflogaeth. Mae'r sgiliau meddalach hyn yn cael eu hystyried yn elfen fwyfwy hanfodol i gyflogeion yn y 21ain ganrif, ac mae datblygu sgiliau rhyngbersonol a phobl da yn cael ei gydnabod yn bwysig iawn er mwyn llwyddo mewn unrhyw swydd reoli. Bydd cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau bywyd megis gweithio mewn tîm, meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu. Cynlluniwyd yr holl sesiynau i gychwyn trafodaethau grŵp a chânt eu teilwra i ddiwallu anghenion y grŵp. Mae'r cwrs yn annog hunan-gymhelliant a sgiliau rheoli amser er mwyn galluogi dysgwyr i nodi eu cryfderau a'u gwendidau unigol a rhoi sail wybodaeth gadarn iddynt adeiladu arni.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
Oes gennych chi ddiddordeb mewn iechyd a lles? Eisiau gwybod sut y gallwn ddylanwadu ar ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig i wella'r ddau hyd yr eithaf? Bydd y cwrs tridiau hwn yn eich cyflwyno i bum maes ymarfer Iechyd yr Amgylchedd: Diogelwch Bwyd, yr Amgylchedd Adeiledig, Rheoli Llygredd, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd y Cyhoedd. Bydd y cwrs hwn yn archwilio rôl gorfodi a sicrhau cydymffurfiaeth gweithiwr iechyd yr amgylchedd proffesiynol, ac mae wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau arwain a gweithio mewn tîm ochr yn ochr â'r wybodaeth sy'n cael ei meithrin. Mae'r cwrs yn un rhyngweithiol ac yn cael ei arwain gan y rhai sy'n cymryd rhan, ac mae'n gyflwyniad gwych i gwrs BSc Iechyd yr Amgylchedd.
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
7
Her Dylunio FabLab Cyflwyniad i Ddylunio Cynnyrch Dydd Llun 3ydd a Dydd Mawrth 4ydd Gorffennaf
Sgiliau Rheoli Prosiect ar gyfer Digwyddiadau Dydd Llun 17eg a Dydd Mawrth 18fed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i gyflwyno myfyrwyr i waith rheoli prosiect a'r meysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw i gyflawni prosiect llwyddiannus, gan gynnwys sut i gychwyn prosiect, ei fonitro a'i werthuso. Bydd yn gwrs delfrydol i unigolion sy'n cychwyn ac yn rhedeg prosiectau, neu'r rhai sy'n gobeithio gwneud hynny. Bydd yr enghreifftiau a ddefnyddir yn dod o'r diwydiant digwyddiadau, gan fod angen defnyddio adnoddau rheoli prosiect i sicrhau digwyddiadau llwyddiannus. Bydd y cwrs yn un ymarferol ac yn defnyddio senarios bywyd go iawn a fydd yn rhoi enghreifftiau o sawl agwedd gwahanol ar y diwydiant i'r myfyrwyr. Ymhlith y mathau o feysydd pwnc a gwmpesir bydd nodweddion digwyddiadau (maint a chwmpas), cynllunio a threfnu, rheoli risg, rheoli amser ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd cwblhau'r cwrs yn galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i nodi'r prif ofynion rheoli prosiect a deall y ffactorau mewnol ac allanol a all effeithio ar ganlyniad llwyddiannus.
8
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
10am i 3pm Campws Llandaf Yn ystod y cwrs tridiau hwn, gofynnir i chi ddod â thri syniad gyda chi a bydd FabLab yn eich helpu i ddewis un o'ch dyluniadau i'w ddatblygu o'r cysyniad a'i gwblhau. Cewch eich arwain drwy'r dulliau gweithgynhyrchu a dylunio megis argraffu yn 3D a thorri â laser yn y FabLab. Dysgwch Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio! Gweler tudalen 11 am ragor o wybodaeth. Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Dechrau Arni ym maes Newyddiaduraeth Dydd Llun 10fed a Dydd Mawrth 11eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Dyma gwrs rhagflas deuddydd sy'n cyflwyno'r grefft o ysgrifennu erthyglau newyddion a nodwedd. Mae'r cwrs yn ceisio meithrin dealltwriaeth sylfaenol o ysgrifennu yn y ddwy arddull newyddiadurol hyn. Dros y deuddydd, byddwn yn rhoi sylw i enghreifftiau o erthyglau newyddion a nodwedd ac yn ystyried arddull, cynnwys a chanllaw 'sut i ...' ar droi syniadau'n erthygl wirioneddol. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i arbrofi gyda'r arddull hon a meithrin eu hiaith ysgrifennu eu hunain.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
9
Coginio'n Iach pan fydd Arian yn Dynn Dydd Mercher 5ed Gorffennaf a Dydd Iau 6ed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i gyflwyno dysgwyr i'r cysyniad o Fwyta'n Iach ar gyfer yr holl deulu ac yn egluro sut i oresgyn rhai materion maent yn eu hwynebu. Bydd yn gwrs ymarferol yn bennaf, sy'n gofyn bod yn ymarferol yn y gegin dros y deuddydd. Mae hefyd wedi'i gynllunio i gychwyn trafodaethau grŵp a chaiff ei deilwra i anghenion y grŵp.
10
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Sut i Wneud Cais am Le ym Met Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion
Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio
Dydd Mercher 19eg Gorffennaf
10am i 3pm
11am i 12pm a 1.30pm i 2.30pm
Campws Llandaf
Campws Llandaf
P'un a ydych yn gobeithio mynd ymlaen i gwrs sylfaen Celf a Dylunio, astudio ymhellach n y maes creadigol neu greu corff o waith ar gyfer eich arfer proffesiynol eich hun, bydd y sesiwn hon ar greu portffolio yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau i'r lefel nesaf. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau sy'n cynnwys cynllunio'r dudalen, gorffen a golygu eich gwaith.
Ydych chi'n ddysgwr sy'n oedolyn a hoffai wneud cais am le ym Met Caerdydd? Ydych chi'n gwybod sut i wneud cais? Hoffech chi wybod rhagor am y costau a pha gymorth a allai fod ar gael i chi, megis grantiau, benthyciadau a bwrsarïau? Nid dim ond ar gyfer pobl ifanc y mae'r brifysgol. Yma ym Met Caerdydd, mae llawer o ddysgwyr sy'n oedolion o bob oedran yn astudio cyrsiau gwahanol. Felly dewch i Gampws Llandaf i gael rhagor o wybodaeth. Nid oes angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw, felly galwch heibio i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Bydd llawer o gyfleoedd i ofyn cwestiynau. Rydym wedi trefnu dwy sesiwn galw heibio, felly dewch i'r naill neu'r llall.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Dydd Llun 17eg Gorffennaf
Dewch â dau neu dri darn o waith gyda chi, darnau 2D yn ddelfrydol ond croeso i chi ddod â darnau 3D. Gallant fod yn ddarnau arbrofol neu derfynol, neu luniau/paentiadau mewn llyfr braslunio yr hoffech dynnu sylw atynt yn eich portffolio. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd a rhoi eich portffolio ar ben y ffordd! ▪ ▪ ▪
▪
Why being an artist shouldn't be a terrifying prospect. How to approach different organisation types.
▪
What to expect from different organisations in the way of responses, funding, event support, etc.
▪
▪
Ensuring you have professional photographs of your work (without paying someone to do them for you). How to present previous works in applications or introductory emails. Where to find funding & support. Further tips on getting involved in the arts community.
Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
11
Cyflwyniad i Therapïau Cyflenwol Dydd Mercher 12fed a Dydd Iau 13eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf
Cyflwyniad i Gerameg Dydd Llun 3ydd, Dydd Mawrth 4ydd a Dydd Gwener 5ed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae'r cwrs hwn yn cynnwys olwyn crochenydd, a bydd yn cwmpasu'r holl hanfodion ar gyfer trin y clai ar yr olwyn, dodi'r clai yn y canol a llunio llestr silindrog sylfaenol. Dangosir technegau tylino amrywiol megis tylino troellog, tylino pen ych a thylino slab. Dangosir technegau creu â llaw hefyd i unrhyw un nad yw am ddefnyddio'r olwyn crochenydd. Dangosir y ffordd o wneud torchau o wahanol feintiau a thechneg creu torch hefyd. Croeso mawr i ddechreuwyr yn ogystal ag unrhyw un sydd â sgiliau llunio yn barod. Dysgwch Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio! Gweler tudalen 11 am ragor o wybodaeth. Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
12
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
Bydd y cwrs cyflwyniadol hwn yn rhoi trosolwg o Therapïau Cyflenwol yn gyffredinol, yn ogystal â gwybodaeth fwy penodol am rai o'r therapïau gwahanol sydd ar gael a'u manteision. Byddwn yn dysgu sut i dylino pen yn y dull Indiaidd fel grŵp, a hefyd yn mwynhau cyflwyniad sylfaenol i Aromatherapi, Tylino Holistig, Adweitheg a Reiki. Bydd y cwrs yn gymysgedd o theori sylfaenol a gwaith ymarferol, a bwriedir iddo fod yn bleserus, llawn hwyl a chymhelliant!
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol Dydd Mercher 12fed, Dydd Iau 13eg a Dydd Gwener 14eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Ydych chi erioed wedi dymuno ysgrifennu eich stori eich hun? Oes gennych chi ddiddordeb mewn iaith a geirfa? Dysgwch am hanfodion ffuglen fer a barddoniaeth gyda nofelydd a bardd sydd wedi cyhoeddi ei waith. Ar y cwrs hwn i ddechreuwyr, neu'r rhai a allai elwa ar sesiwn loywi, byddwch yn dadansoddi enghreifftiau o ysgrifennu da a chymryd rhan mewn ymarferion ysgrifennu a gynlluniwyd i addysgu hanfodion ffurf, disgrifiad, cymeriadaeth, delweddau a llais. Byddwch yn dysgu'r sgiliau i lunio eich cerddi a'ch straeon eich hun wrth ddysgu sut i ddatblygu eich llais ysgrifennu eich hun.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
13
Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dydd Llun 10fed, Dydd Mawrth 11eg a Dydd Mercher 12fed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael i chi o fewn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cewch wybod rhagor am gyrsiau llawn amser a rhan amser y gallwch eu hastudio a'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i chi. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i'r cwrs Sylfaen sy'n arwain at BA/BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol.
14
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Cyflwyniad i Baratoi i Addysgu Oedolion Dydd Iau 13eg Gorffennaf Campws Llandaf
Cyflwyniad i Astudiaethau Tai Dydd Llun 3ydd a Dydd Mawrth 4ydd Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Pam na allant adeiladu mwy o dai cyngor? Beth yw trosglwyddo stoc? Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru? Mae'r cwrs hwn yn trafod materion presennol o ran tai yng Nghymru a sut y gall pobl leol fod yn rhan o'r maes tai yn eu cymunedau ac fel gyrfa. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i bobl a hoffai wybod rhagor am dai. Croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tai i ymuno â ni. Mae'r cwrs hwn yn arbennig o addas i denantiaid a phreswylwyr, oedolion sy'n ystyried dychwelyd i addysg neu newid gyrfa neu sy'n dymuno datblygu sgiliau newydd. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i BSc Polisi Tai a gradd ymarfer ym Met Caerdydd.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
Mae llawer o oedolion yn dychwelyd i addysg ac mae hyn yn golygu bod angen tiwtoriaid calonogol ac ysbrydoledig iawn. Mae'r cwrs hwn yn trafod y sgiliau sydd eu hangen ar y rhai sy'n teimlo y gallent wneud gwahaniaeth drwy addysgu oedolion. Mae'r sesiwn yn un hamddenol, rhyngweithiol ac yn ffordd bleserus o wybod rhagor am yrfa newydd bosibl i chi eich hun. Byddwch yn trafod rôl y tiwtor; yn ystyried y ffordd y gall cymhelliant personol effeithio ar ddysgu; yn nodi technegau a dulliau sy'n hybu dysgu llwyddiannus; ac yn archwilio llwybrau dilyniant posibl ar gyfer astudio pellach. Felly os hoffech wybod rhagor am addysgu oedolion, mae'r cwrs hwn i chi. Mae'n gyflwyniad gwych i'r TAR/Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) a fydd yn rhoi cymhwyster i chi addysgu oedolion.
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
15
Cyflwyniad i Seicoleg Dydd Mercher 12fed a Dydd Iau 13eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Campws Llandaf Mae Seicoleg yn bwnc hynod ddiddorol ac amrywiol sy'n apelio at lawer o bobl. Yn ystod y cwrs, cewch eich cyflwyno i astudio seicoleg drwy ystyried rhai o'r prif feysydd pwnc megis ymddygiad cymdeithasol pobl; plant a'u datblygiad a deall yr ymennydd i ddeall ymddygiad. Byddwn hefyd yn cyflwyno'r mathau o ddulliau a ddefnyddir gan seicolegwyr i ddeall ymddygiad pobl. Bydd pob gweithdy yn cynnwys darlithoedd byr yn ogystal â gweithgareddau ymarferol er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o sail ymchwil seicoleg. Os hoffech fynd ymhellach, beth am ystyried y cwrs Sylfaen sy'n arwain at BA/BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol?
16
#CMetSummerSchool
Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Chymunedol Dydd Mawrth 18fed, Dydd Mercher 19eg a Dydd Gwener 20fed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae mwy a mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, ond heb wybod sut i wneud hynny. Cynlluniwyd y cwrs hwn fel cyflwyniad i'r rhai sydd am gwblhau hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a'r rhai sydd am wybod rhagor am astudio yn y maes hwn. Mae'n gwrs delfrydol i bobl sy'n poeni am eu cymunedau ac sydd am wybod rhagor, ac mae hefyd yn gwrs da i weithwyr ieuenctid neu weithwyr cymunedol ag ychydig o brofiad blaenorol o astudio. Mae themâu a gaiff eu datblygu o fewn y cwrs yn cynnwys: dysgu o brofiad; ymdopi mewn amgylchoedd newydd a deall eraill. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i'r modiwl 10 credyd Addysg Ieuenctid a Chymunedol a gynhelir yn y gymuned.
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Cyllid Islamaidd Dydd Mercher 5ed Gorffennaf a Dydd Iau 6ed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu hanfodion cyllid Islamaidd, gan daflu goleuni ar y gyfraith, yr egwyddorion a'r gwaharddiadau Islamaidd a ddefnyddir mewn contractau cyllidol Islamaidd. Mae'n cynnig gwybodaeth i ddechreuwyr am rai o'r cynhyrchion a'r gwasanaethau presennol sydd ar gael yn y marchnadoedd ariannol. Bydd yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ar gyfer cyflogaeth neu astudio pellach.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
17
Mudo ac Integreiddio Dydd Llun 10fed a Dydd Mawrth 11eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Beth rydym yn ei wybod am fudo mewn gwirionedd? Mae wedi bod yn rhan o hanes dynol ers cyn cyfnodau beiblaidd, ond mae mudiadau heddiw yn achosi cynnwrf a chasineb. Bydd y dosbarth hwn yn ystyried pam mae pobl yn mudo o un wlad i wlad arall, p'un a allant byth fynd 'adref' a beth yw'r canlyniadau i'r mudwyr, y lleoedd maent yn eu gadael a'r lleoedd maent yn eu cyrraedd. Mae hwn yn gwrs rhagflas ar gyfer y modiwl o dan yr un enw, a fydd yn rhan o'r cwrs Sylfaen yn y Gwyddorau Cymdeithasol yn 2017.
18
#CMetSummerSchool
Ffotograffiaeth Gyda neu Heb Gamera Dydd Mercher 5ed Gorffennaf a Dydd Iau 6ed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Ddim yn gallu fforddio camera, ac yn meddwl na all y camera ar eich ffôn symudol gymryd llun digon da? Meddyliwch eto. Mae'r gweithdy hwn i ddechreuwyr yn rhoi sylw i hanfodion sylfaenol cyfansoddi lluniau i'ch helpu i gymryd lluniau gwell, ac yn nodi'r hyn sy'n gwneud llun yn un deniadol i edrych arno. Dylech ddeall y gall unrhyw offer, p'un ai'n hen gamera ffilm, camera digidol drud, neu gamera ar eich chwaraeydd mp3, gymryd llun 'da' os caiff ei gyfansoddi'n effeithiol. Mae'r dosbarth hwn ar gyfer dechreuwyr llwyr, ac yn gyflwyniad syml i bwnc celf a dylunio. Dysgwch Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio! Gweler tudalen 11 am ragor o wybodaeth. Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Sgiliau Myfyrio ACHrededig Dydd Llun 24ain a Dydd Mawrth 25ain Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae'r cwrs yn cael ei addysgu dros ddau ddiwrnod mewn partneriaeth â Chanolfan y Brifysgol ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith. Cewch eich asesu drwy bortffolio myfyriol sy'n golygu y bydd disgwyl i chi gadw cofnod/dyddiadur myfyriol a datblygu adroddiad myfyriol ar sail profiad dysgu rydych wedi'i gael, er enghraifft meddwl am holl gyrsiau'r Ysgol Haf rydych yn eu mynychu. Mae myfyrio yn dechneg sy'n helpu i atgyfnerthu dysgu sydd wedi digwydd. Mae'n adnodd pwerus iawn ar gyfer hunan-ddatblygu a gwella dysgu. Mae'r cwrs hwn yn eich helpu i ddeall beth yw
myfyrio a sut i'w ddefnyddio i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. Mae'n eich cynorthwyo i allu ysgrifennu'n fyfyriol ac yn rhoi'r technegau i chi allu cyflwyno ymarfer myfyriol i'ch prosesau meddwl dyddiol. Mae'r cwrs yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau myfyrio a sgiliau academaidd ac ennill 10 credyd Addysg Uwch ar lefel 3 i'w defnyddio i gael mynediad at raglenni israddedig megis y Radd Sylfaen mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol www.cardiffmet.ac.uk/FDA
(Rhaid i chi fod ar gofrestr o leiaf un cwrs Ysgol Haf arall fel rhan o'r cwrs hwn).
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
19
Rhyw, Cyffuriau ac Arch-fygiau Dydd Iau 13eg a Dydd Gwener 14eg Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Sut allwn ni helpu cymunedau i wella eu hiechyd? Sut rydym yn atal achos o glefyd?
Gwyddoniaeth Siocled Dydd Llun 17eg a Dydd Mawrth 18fed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Ydych chi erioed wedi gofyn o ble mae siocled yn dod, neu sut mae siocled blasus a hyfryd yn cael ei wneud mewn gwirionedd? Mae'r sesiwn hon yn cynnig y cyfle i gael gwybod rhagor am hanes siocled, o ble mae'n dod a'r gwahaniaeth rhwng siocled y DU ac amrywiaethau cyfandirol. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn gwneud siocled ymarferol, a chewch hyd yn oed fynd â'r samplau rydych yn eu gwneud adref!
20
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
Bydd y cwrs deuddydd hwn yn eich cyflwyno i bwnc eang ac amrywiol Iechyd y Cyhoedd. Bydd y cwrs yn ystyried tri phrif faes Iechyd y Cyhoedd. Byddwch yn ymchwilio i'r ffordd y mae maes Iechyd y Cyhoedd yn diogelu ein hiechyd drwy ystyried y technegau a ddefnyddir i annog pobl i fyw bywydau iachach, ac yn cael eich cyflwyno i'r ffordd y mae iechyd yn cael ei ddylanwadu gan y byd o'n hamgylch. Mae'r cwrs yn gyflwyniad gwych i gwrs BSc Iechyd y Cyhoedd.
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Meddwl eich bod yn Dda yn Tynnu Lluniau? Tynnu Lluniau ar gyfer Dechreuwyr Dydd Llun 10fed, Dydd Mawrth 11eg a Dydd Mercher 12fed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Bydd y cwrs yn archwilio amrywiaeth o ddulliau y gellir eu datblygu drwy dynnu lluniau. Drwy ddysgu ac archwilio sut i dynnu lluniau o dasgau penodol ac ymarfer arsylwadol, gallwn sicrhau dealltwriaeth well o egwyddorion tynnu lluniau. Bydd hyn wedyn yn arwain at ddewis personol o ran dull. Bydd pynciau'n cynnwys amrywiaeth o senarios bywyd llonydd mewn amgylchedd grŵp, a rhoddir hyfforddiant un i un. Dysgwch Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio! Gweler tudalen 11 am ragor o wybodaeth. Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Cyflwyniad i Uwchgylchu gyda Stitch Dydd Mawrth 4ydd, Dydd Mercher 5ed a Dydd Iau 6ed Gorffennaf 10am i 3pm Campws Llandaf Mae'r gweithdy tridiau hwn yn cymryd eich hen ddillad, dillad gwael eu cyflwr neu ddillad sydd wedi torri ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i'w gwella, eu trwsio a'u cyfoethogi y tu hwnt i'w cyflwr gwreiddiol. Mae uwchgylchu yn golygu gwneud rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn ddiwerth yn rhywbeth gwerth ei gael eto. Drwy'r broses hon, byddwch yn rhoi gwedd bersonol ar y dillad ac yn eu gwneud yn ddefnyddiol ac yn ddymunol eto. Gallwch ddod â'ch eitem eich hun i'w huwchgylchu ar yr ail neu'r trydydd diwrnod, neu ddewis gwneud rhywbeth newydd megis bag o'r darnau gwastraff a ddarperir. Dysgwch Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio! Gweler tudalen 11 am ragor o wybodaeth. Byddwch yn Rhan o Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth.
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
21
Er mwyn eich helpu i gynllunio a chofrestru ar gyfer y cyrsiau sydd orau i chi, rydym wedi cynnwys dyddiadur defnyddiol ar gyfer y ddwy wythnos. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi cofrestru ar gyfer dau gwrs sydd â dyddiadau a all wrthdaro.
22
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Cynlluniwr Defnyddiol ar gyfer Cyrsiau Rhestr Cyrsiau
Llun 3 Maw 4 Mer 5 Gorff Gorff Gorff
Iau 6 Gorff
Mae pob cwrs yn dechrau am 10y.b. ac yn gorffen am 3yp ac maent ar Gampws Llandaf
Gwe 7 Llun 10 Maw 11 Mer 12 Iau 13 Gwe 14 Llun 17 Maw 18 Mer 19 Iau 20 Gwe 21 Llun 24 Maw 25 Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff Gorff
○
Sgiliau Academaidd Celf a Chrefft
○
○
Asesu eich Saesneg Academaidd ○
Technoleg Pobi
○ ○
Sgiliau Busnes ar gyfer yr 21ain Ganrif ○
Clwb Athroniaeth Gymunedol
○
○
○
○ ○
Iechyd yr Amgylchedd ○
Sgiliau Rheoli Prosiect ar gyfer Her Dylunio FabLab
○
○ ○
Coginio'n Iach pan fydd Arian yn Dynn
○ ○ ○
Sut i Greu eich Portffolio Celf a Dylunio ○
○
○
Cyflwyniad i Therapïau Cyflenwol
○
○
Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol
○
○
○
Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol ○
○
○
○
○ ○
Cyflwyniad i Baratoi i Addysgu Oedolion ○
Cyflwyniad i Seicoleg
○ ○
Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Cyllid Islamaidd
○
○
○
○
○
Mudo ac Integreiddio Ffotograffiaeth Gyda neu Heb Gamera
○
○
○ ○
Sgiliau Myfyrio ○
Gwyddoniaeth Siocled ○
Rhyw, Cyffuriau ac Arch-fygiau ○
Meddwl eich bod yn Dda yn Tynnu Cyflwyniad i Uwchgylchu gyda Stitch cardiffmet.ac.uk/summerschool
○
○
Sut i Wneud Cais am Le ym Met Caerdydd
Cyflwyniad i Astudiaethau Tai
○
○
○
Dechrau Arni ym maes Newyddiaduraeth
Cyflwyniad i Gerameg
○
○
○
○
/wideningaccess
○
○
○
○
○
○ @wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
23
Telerau ac Amodau CYFFREDINOL 1.1 Ar ôl cwblhau'r broses gofrestru, gall myfyrwyr llawn amser neu ryngosod cymwys gael Tystysgrif y Dreth Gyngor drwy borth y myfyrwyr. 1.2 Rhaid i fyfyrwyr gadw at reolau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae manylion y rheolau hynny i'w gweld yn y Llawlyfr Myfyrwyr ar wefan y Brifysgol. Sicrhewch y cewch afael ar gopi o'r Llawlyfr Myfyrwyr a'ch bod yn darllen y polisïau a'r gweithdrefnau hyn. 1.3 Bydd y Brifysgol yn gofyn i chi gyflwyno rhai darnau o waith drwy'r system E-gyflwyno. Mae'r system E-gyflwyno yn defnyddio'r gronfa ddata Turnitin, a gall gwaith a gyflwynwch gael ei ddefnyddio at ddibenion gwirio gwreiddioldeb eich gwaith chi eich hun a gwaith myfyrwyr eraill. 1.4 Rhaid rhoi gwybod i aelod o staff ar unwaith am unrhyw doriadau neu ddifrod i eiddo'r Brifysgol. Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr wneud iawn am golli neu ddifrodi unrhyw lyfr neu offer yn eu gofal. 1.5 Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am golli neu ddifrodi eiddo personol ac, os bydd unrhyw ddyfais ddigidol yn cael ei rhoi i mewn fel eiddo ar goll, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i edrych ar gynnwys y ddyfais hon er mwyn dychwelyd yr eiddo i'r perchennog cywir. 1.6 Gwaherddir ysmygu ac eithrio mewn ardaloedd Ysmygu allanol dynodedig. 1.7 Ceidw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yr hawl i ganslo, gohirio neu addasu unrhyw raglen os bydd yr amgylchiadau'n gofyn hynny. 1.8 Dim ond yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 y bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn prosesu gwybodaeth amdanoch (eich data personol). Drwy gyflwyno'r ffurflen hon, rydych yn caniatáu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gasglu, cadw a defnyddio gwybodaeth amdanoch at ddibenion gweinyddu a rheoli eich rhaglen astudio ac at ddibenion eraill a nodir yn ein Hysbysiad a'r Hysbysiad
24
#CMetSummerSchool
Prosesu Teg i Fyfyrwyr. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Prosesu Teg i Fyfyrwyr. 1.9 Rhaid gadael beiciau yn y rheseli neu'r standiau a ddarperir a'u cloi'n ddiogel. 1.10 O ganlyniad i newidiadau yn y ffordd y caiff unigolion eu cofrestru i bleidleisio, gall y Brifysgol anfon eich manylion i'r swyddfa cofrestru etholiadol leol er mwyn eich cofrestru. Mae gennych yr hawl i roi gwybod i'r Brifysgol os na hoffech gael eich cofrestru, ond byddwch mewn perygl o gael dirwy os na fyddwch yn ymateb i geisiadau gan eich swyddfa cofrestru etholiadol leol.
YMDDYGIAD 2.1 Mae disgwyl i chi fynychu'r sesiynau addysgu ffurfiol (lle bo'n berthnasol) sydd ar amserlen eich rhaglen a chydymffurfio â'r gofynion presenoldeb a amlinellir yn y rheolau. 2.2 Mae disgwyl i chi ymddwyn mewn ffordd resymol a threfnus bob amser, gan ystyried pobl eraill ac eiddo'r Brifysgol fel yr amlinellir yng Nghod Ymddygiad y Brifysgol.
COFRESTRU 3.1 Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru cyn neu ar ddechrau ei raglen astudio ym mhob blwyddyn academaidd. Er mwyn cwblhau'r broses gofrestru, rhaid: (i) cwblhau ffurflen gofrestru'r Brifysgol yn foddhaol. (ii) bod tiwtor rhaglen academaidd priodol/UCAS wedi cytuno ar gymwysterau mynediad. (iii) bod myfyrwyr wedi dewis eu modiwlau ar-lein wrth gofrestru.
3.3 Un o arferion y Brifysgol yw cyhoeddi canlyniadau diwedd blwyddyn o fewn yr Ysgol ar ffurf rhestr llwyddo. Os na fyddwch am i'ch canlyniadau gael eu cynnwys ar y rhestr, rhowch wybod i registryenquiries@cardiffmet.ac.uk ac ni chaiff eich enw ei gynnwys.
FFIOEDD 4.1 Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae'n ofynnol i bob myfyriwr gytuno ar ddull/sail i dalu am ffioedd rhaglen astudio'r flwyddyn gyfan gydag Uned y Trysorlys. 4.2 Lle nad yw myfyrwyr yn ariannu eu hunain, fel arfer rhaid cyflwyno tystiolaeth o nawdd. Os na fydd tystiolaeth ddogfennol ffurfiol ar gael ar adeg cofrestru, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno dogfennaeth o'r fath cyn pen 2 wythnos o gofrestru; bydd methu â gwneud hynny yn golygu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu eu ffioedd eu hunain. 4.3 Os ydych yn talu eich ffioedd eich hun, gallwch wneud trefniadau i dalu fesul rhandaliadau. 4.4 Os bydd y noddwr yn gwrthod derbyn cyfrifoldeb am dalu'r ffioedd am ba bynnag rheswm, yna bydd y myfyriwr yn dod yn gyfrifol yn awtomatig am dalu ffioedd o'r fath. 4.5 Cynghorir myfyrwyr i gyfeirio at y Llawlyfr Myfyrwyr sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, a'r wefan ar gyfer Ffioedd Dysgu am fanylion ar reoliadau ffioedd dysgu. 4.6 Os byddwch mewn dyled i'r Brifysgol ar ôl i chi adael, gellir atgyfeirio hwn at asiantaeth gasglu allanol i gymryd camau pellach. Noder, bydd unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag atgyfeirio'r mater hwn yn cael eu hychwanegu at ddyled y myfyriwr. Cynghorir myfyrwyr i gyfeirio at y Llawlyfr Academaidd i gael rhagor o wybodaeth am reolau a gweithdrefnau.
(iv) bodloni unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill. 3.2 Ni chaniateir i unrhyw fyfyrwyr sydd mewn dyled i'r Brifysgol gofrestru na chael unrhyw ddyfarniad gan y Brifysgol.
@wideningaccess
@wideningaccess
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Ffurflen Archebu CWBLHEWCH Y FFURFLEN GANLYNOL MEWN PRIFLYTHRENNAU neu gallwch gofrestru yn cardiffmet.ac.uk/summerschool Personal Details
Cwrs yr hoffech ei fynychu
Ethnigrwydd (opsiynol)
Enw: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Cwrs: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I would describe my Ethnic origin as:
Diwrnod: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(Ticiwch un blwch)
Cyfeiriad: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Cod poste: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . Ffôn: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . (PWYSIG: rhag ofn y bydd angen i ni roi gwybod i chi am newidiadau i'r cyrsiau.)
Rwy'n cael / Nid wyf yn cael budd-daliadau (rhowch fanylion): . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Amser: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Gwyn
Rwy'n bwriadu dod i'r diwrnod Sut i Wneud Cais am Le ym Met Caerdydd: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Teithiwr Gwyddelig
(Noder, rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, pobl sy'n cael budddaliadau a gofalwyr neu'r rhai sydd wedi gadael gofal. Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle.)
Du neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd Du neu Ddu Prydeinig – Affricanaidd Cefndir Du Arall
Gwybodaeth Ychwanegol
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Indiaidd
..............................................
Oes gennych chi anabledd y gallwn eich helpu ag ef?
A fyddech chi'n disgrifio eich hun fel rhywun sydd wedi gadael gofal, neu ydych chi'n ofalwr?
Oes Nag oes Os oes, a wnewch chi nodi natur eich anabledd ac unrhyw anghenion, cyfleusterau neu ofynion eraill i gefnogi eich dysgu:
Ydw Rhyw:
Nac Gwryw
Benyw
Arall
..............................................
E-bost: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
..............................................
Dyddiad Geni: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
A fyddech chi'n disgrifio eich hun fel rhoddwr gofal?
Ydych chi wedi cael eich atgyfeirio gan sefydliad? Os felly, esboniwch pam. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .............................................. ..............................................
Oes
cardiffmet.ac.uk/summerschool
/wideningaccess
@wideningaccess
Tsieineaidd Cefndir Ethnig Arall Cefndir Asiaidd Arall Cymysg – Gwyn a Du Caribïaidd
Cymysg – Gwyn ac Asiaidd
Nag oes
Nag oes
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Pacistanaidd Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig - Bangladeshaidd
Cymysg – Affricanaidd Gwyn a Du
Oes gennych chi unrhyw gollfarnau, rhybuddiadau, ceryddon neu rybuddion terfynol sydd heb eu "hamddiffyn" fel y'i diffinnir o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y'i diwygiwyd yn 2013)? Oes
Sipsiwn neu Deithiwr
Cefndir Cymysg Arall Arabaidd Rwyf wedi darllen ac yn deall y datganiad uchod: Oes
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
25
Astudio Pellach ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd Heb gymwysterau mynediad traddodiadol? Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhedeg cyrsiau Sylfaen blwyddyn a all fod yn addas i oedolion nad oes ganddynt gymwysterau mynediad traddodiadol ond sydd â sgiliau a phrofiadau eraill, yn ogystal â thystiolaeth o ymwneud â'r byd academaidd yn ddiweddar. Gall astudio un o'r cyrsiau hyn am flwyddyn helpu i godi eich hyder a'ch sgiliau. Ar ôl ei gwblhau, gallwch symud ymlaen i un o amrywiaeth o raglenni gradd a gynigir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Er na ellir gwarantu lle i chi, gall fod o werth i chi gysylltu â'n harweinwyr rhaglen i drafod eich amgylchiadau unigol, gan y gallant roi cyngor ar y camau i'w cymryd i ddilyn y cwrs. Am ymholiadau cyffredinol ar y rhain neu unrhyw gwrs arall ym Met Caerdydd, cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau Met Caerdydd ar:
Cwrs Sylfaen yn arwain at BSc mewn Gwyddorau Iechyd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-health-sciences Dr Paul Foley pfoley@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2020 5632
Cwrs Sylfaen yn arwain at BA/BSc mewn Gwyddorau Iechyd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-social-science Dr Daniel Heggs foundationsocsci@cardiffmet.ac.uk 029 2041 7011
Rhaglen Sylfaen: Ysgol Rheolaeth Caerdydd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-management Jane Levy
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
jlevy@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 7178
+44(0) 29 2041 6010
26
#CMetSummerSchool
@wideningaccess
@wideningaccess
Cyngor ar Gyllid Myfyrwyr a Lles Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Gyllid Myfyrwyr a Lles ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi cyngor cyfrinachol, diduedd ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr. Mae'r gwasanaeth YN RHAD AC AM DDIM i bob darpar fyfyriwr. Dyma rai pethau y gall eu cynnig: ▪ Cyfweliadau un i un
▪ Cyngor ar gyllidebu a rheoli arian
▪ Cyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael
▪ Gwybodaeth am ffioedd a chymorth ariannol
▪ Cyngor ar fudd-daliadau tra rydych yn fyfyriwr ▪ Cyngor ar sut i wneud cais i'r Gronfa Ariannol wrth Gefn ▪ Benthyciadau argyfwng tymor byr
Os hoffech drefnu apwyntiad i weld Cynghorydd Cyllid Myfyrwyr a Lles, ffoniwch 029 2041 6170 / 6333 neu e-bostiwch financeadvice@cardiffmet.ac.uk neu welfareadvice@cardiffmet.ac.uk Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/financewelfare
/wideningaccess
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn cydlynu cymorth i fyfyrwyr anabl yn y Brifysgol. Ein nod yw sicrhau y gall myfyrwyr anabl ddilyn eu rhaglen astudio ac nad ydynt dan anfantais o ganlyniad i anabledd neu anhawster dysgu penodol. Os oes gennych anabledd, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Weithiau, gall rhai addasiadau gymryd amser i'w trefnu, felly y peth gorau yw rhoi cymaint o rybudd â phosibl i ni.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: disability@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 6170 Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Pecyn cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal Os ydych yn gadael gofal* ac yn ystyried astudio gyda ni, gallwn gynnig ystod eang o gymorth. Pan gewch eich cynnig lle i astudio gyda ni, byddwn yn cynnig cyfarfod i chi er mwyn trafod eich sefyllfa a'r cymorth sydd ei angen arnoch yn eich barn chi. Bydd y cyfarfod hwn yn ein galluogi i weld faint o gymorth ariannol sydd ar gael, y math o lety
cardiffmet.ac.uk/summerschool
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o fod wedi ennill gwobr Nod Safon Ymddirideolaeth Frank Buttle ar gyfer ei hymrwymiad i'r rhai sy'n gadael gofal.
fyddai orau gennych ac unrhyw gymorth ychwanegol y gall fod ei angen arnoch.
Cymorth anabledd
Gallwch roi gwybod i ni eich bod wedi bod mewn gofal drwy'r ffurflen gais i UCAS. Drwy wneud hyn, gallwn nodi unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnoch cyn neu yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Crefydd
*Mae'r pecyn hwn ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, sy'n preswylio'n barhaol yn y Deyrnas Unedig ac sy'n fyfyrwyr 'cartref' at ddibenion ffioedd. Mae'r cymorth ar gael i fyfyrwyr sy'n datgan ar y ffurflen gais i UCAS eu bod wedi bod mewn gofal (sef bod awdurdod lleol/gofalwyr maeth wedi gofalu amdanynt). Rhaid darparu manylion llawn gweithiwr cymdeithasol y myfyriwr, ac mae'n rhaid bodloni meini prawf llym i gael y cymorth hwn: ▪ ▪ ▪
Mae Caerdydd yn gartref i sawl diwylliant a chrefydd gwahanol. Gellir cyflwyno myfyrwyr i grwpiau crefyddol lleol megis yr Undeb Gristnogol, y Gymuned Islamaidd leol, y gymuned Sikh neu Hindŵ a sawl un arall. Ceir amrywiaeth eang o leoedd i addoli yng Nghaerdydd, waeth pa ffydd rydych yn ei ddilyn. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae gennym lawer o gyfleusterau sy'n fannau addas i fyfyrio, gweddïo neu adlewyrchu. Mae gennym ystafelloedd gweddïo ar gyfer Mwslimiaid gwrywaidd a benywaidd ar bob campws, sydd ar gael i bob myfyriwr Mwslimaidd.
Rhaid i fyfyriwr sydd wedi bod mewn gofal ers yn 14 oed fod wedi bod mewn gofal am o leiaf 6 mis. Rhaid i fyfyriwr sydd wedi bod mewn gofal ers yn 16 oed fod wedi bod mewn gofal am o leiaf 3 mis. Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 25 oed.
/wideningaccess
@wideningaccess
@wideningaccess
#CMetSummerSchool
27
Ysgol Haf Met Caerdydd ar gyfer Addysg Oedolion Rhadbost RTHX-HCHY-ARUG Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd Rhodfa'r Gorllewin Caerdydd CF5 2YB 029 2020 1563 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk @wideningaccess #CMetSummerSchool @wideningaccess #CMetSummerSchool www.facebook.com/wideningaccess #CMetSummerSchool www.cardiffmet.ac.uk/summerschool