Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:23 Page 1
UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF
AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R D Y D D
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:23 Page 2
CANOLFAN DIWYDIANT BWYD
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:23 Page 3
HANES Crëwyd Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2five i gynorthwyo busnesau bwyd yn dechnegol ac yn weithredol, gan eu galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol yn y farchnad fyd-eang drwy ddarparu gwybodaeth, cyfleusterau ac adnoddau i helpu cwmnïau i wthio'u terfynau, cyflawni eu nodau a datblygu eu busnesau.
ARBENIGEDD A GYDNABYDDIR YN RHYNGWLADOL
GWELLA SGILIAU A GWNEUD YR ELW MWYAF POSIBL
Mae Zero2five yn gallu manteisio ar arbenigedd yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd UWIC, sy'n cynnwys Gwyddor Bwyd, Maetheg a Deieteg yn ogystal ag Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnachu a Gwyddorau Biomeddygol.
Mae arbenigedd Ysgol Fusnes UWIC hefyd ar gael i roi cyngor a chymorth ychwanegol i gwmnïau y mae angen help arnynt mewn meysydd fel marchnata a chyllid. Gallwn hefyd helpu cwmnïau i gyrchu cyllid er mwyn lleihau'r baich ariannol sydd fel arfer yn gysylltiedig â rheoli newid wrth arloesi yn y sector preifat, sef y rhwystr mwyaf i lawer o gwmnïau yn eu hymdrechion i ddatblygu eu busnesau.
Mae ein tîm o arbenigwyr o'r diwydiant bwyd a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gael i gynorthwyo ein cleientiaid mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau bwyd gan gynnwys technolegau pobi, cynnyrch llaeth a chig, rheoli hylendid, dylunio deunydd pacio, systemau rheoli technegol a datblygu cynhyrchion newydd.
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2five, sy'n cyfuno ein tîm o arbenigwyr â hanes rhagorol o lwyddo, yma i helpu busnesau bwyd i ennyn cydnabyddiaeth fyd-eang am ragoriaeth ac, o ganlyniad, lwyddiant economaidd.
3
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 4
CANOLFAN DIWYDIANT BWYD
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 5
CYFLEUSTERAU Mewn diwydiant mor gystadleuol, nid yw aros yn yr unfan yn opsiwn. Mae'n hanfodol bod gan gwmnïau fynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n eu cynorthwyo gyda'u rhaglenni ymchwil a datblygu neu, mewn rhai achosion, yn ei gwneud yn bosibl iddynt roi rhaglen ymchwil a datblygu ar waith am y tro cyntaf, er mwyn iddynt ehangu a thyfu. Mae'r Ganolfan yn darparu cyfleusterau o'r fath sy'n galluogi cwmnïau i gyflawni gwaith profi a datblygu cynhyrchion soffistigedig gan ei gwneud yn haws ac yn fwy cost-effeithiol i gwmnïau barhau â phrosiectau ymchwil a datblygu a oedd yn waharddol gynt. Darperir ar gyfer pob agwedd ar y broses o ddatblygu cynhyrchion newydd yn y Ganolfan, o'r cysyniad, y treialon yn y gegin, y gwerthusiadau synhwyraidd, cynhyrchu ar raddfa cynllun peilot a dadansoddi ymchwil i'r farchnad, ynghyd â'r arbenigedd technegol i ddatblygu rheolaethau HACCP a nodi costau gweithredu er mwyn lansio cynhyrchion newydd posibl.
Ardaloedd Prosesu Bwyd Mae llawr daear y Ganolfan yn cynnwys pedair ardal prosesu bwyd wahanol: ardal risg isel, ardal risg uchel, canolfan bobi a chanolfan felysion. Mae'r rhain yn galluogi cwmnïau i gynnal prosesau cynhyrchu peilot gan leihau'r colledion a geir drwy uwchraddio cynhyrchion newydd yn uniongyrchol i lawr y ffatri.
Mae ystod o gyfarpar prosesu yn y ganolfan sy'n cwmpasu amrywiaeth o sectorau prosesu bwyd, e.e. prydau parod, cig, pysgod, cynnyrch llaeth (gan gynnwys cynhyrchu llaeth, caws ac iogwrt). Mae'r cyfleusterau pobi a melysion ar gael i ddatblygu cynhyrchion newydd, ailfformiwleiddio ryseitiau (yn enwedig mewn perthynas ag optimeiddio elw), hyfforddiant technoleg pobi (cyrsiau hyfforddi pwrpasol wedi'u datblygu i ddiwallu anghenion y diwydiant) a phrosesau cynhyrchu peilot. Mae llawr cyntaf yr adeilad wedi'i gynllunio i fod yn amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu cynhyrchion peilot, ymchwilio i'w haddasrwydd ar gyfer y farchnad a gwerthuso priodoleddau synhwyraidd a ffisegol yn wrthrychol gan ddefnyddio dulliau gwyddonol.
Cegin Hyfforddi Mae'r cyfleuster hwn yn ei gwneud yn bosibl datblygu cynhyrchion newydd a dilysu cyfarwyddiadau coginio ac mae'n amgylchedd delfrydol i werthuso cynhyrchion newydd drwy grwpiau ffocws, a gaiff eu hwyluso gan ein harbenigwyr technegol ar y safle.
Ystafell Gwerthuso Synhwyraidd Mae un o'r ystafelloedd gwerthuso synhwyraidd mwyaf yn y DU yn y Ganolfan hon a dyma'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru. Bydd y cyfleuster hwn, sydd wedi'i gynllunio er mwyn hwyluso dull mwy gwrthrychol o werthuso cynhyrchion newydd, yn sicrhau bod cwmnïau partner yn cael dadansoddiad annibynnol o'u cynhyrchion newydd pan fyddant yn rhoi cyflwyniadau i ddarpar gwsmeriaid, gan gynnwys manwerthwyr mawr.
Gellir defnyddio'r ystafell synhwyraidd hefyd i werthuso effeithiolrwydd profion panel blasu/panelwyr. Mae hwn yn faes cynyddol bwysig ar gyfer gwerthuso cynhyrchion am fod angen gwirio a dilysu technegau synhwyraidd yn y sector bwyd yn fwy nag erioed. Yn dilyn datblygu cynhyrchion newydd yn llwyddiannus, mae Canolfan Datblygu Bwyd Zero2five yn paru ein cleientiaid â sefydliadau sy'n gweithio'n agos gyda manwerthwyr mawr i feithrin gallu, creu swyddi a lleihau costau cyffredinol.
Cegin ar gyfer Datblygu Cynhyrchion Newydd Cegin ar gyfer datblygu cynhyrchion newydd sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol yn debyg i'r rheini a geir ar safleoedd prosesu bwyd mawr yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer creu cynhyrchion newydd. Mae'r gegin yn gysylltiedig â'n cyfleusterau ar y llawr daear er mwyn hwyluso proses ddi-dor o drosglwyddo rhwng cysyniad am gynnyrch newydd, ei ddylunio, ei ddatblygu a chynnal prosesau cynhyrchu peilot. Mae'r cyfleuster hwn wedi'i leoli gerllaw ein hystafell gwerthuso synhwyraidd sy'n hwyluso'r broses o ddatblygu cynhyrchion newydd a'u gwerthuso'n wrthrychol. Cliciwch ar ystafelloedd y Ganolfan Diwydiant Bwyd i gael taith rithwir www.uwic.ac.uk/virtualtours/ health
5
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 6
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 7
ARBENIGEDD Cynhyrchion Pob
Cynnyrch llaeth
Hylendid
Cynhyrchir llawer o gynhyrchion pob gwahanol yn y becws, o nwyddau ffres i nwyddau sydd wedi'u pobi'n rhannol a'r rhai sydd wedi'u pacio dan wactod. Mae gennym yr arbenigedd i gynorthwyo cwmnïau gydag unrhyw fath o gynnyrch.
Mae symleiddio prosesau ac arloesedd yn allweddol ar gyfer llwyddiant busnesau cynnyrch llaeth. Bydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Ganolfan yn galluogi cwmnïau i arbrofi wrth ddatblygu cynhyrchion newydd a hefyd yn rhoi cymorth i'w cyflwyno i'r farchnad.
Gall y Ganolfan gynnig arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes rheoli hylendid drwy waith ymchwil, addysg, hyfforddiant, datrys problemau ar safleoedd prosesu bwyd ac asesu'r risg sy'n gysylltiedig â'r gweithrediad hylendid.
Er enghraifft, rydym yn ymgymryd â'r canlynol: Datblygu Cynhyrchion Newydd (NPD) Datblygu Cynhyrchion sy'n Bodoli Eisoes (NPD) Astudiaethau oes ar silff Astudiaethau gwerthuso synhwyraidd Profi adwaith ensymau Asesiadau lleihau gwastraff Ymgynghoriaeth a rheoli prosiectau Dadansoddi ansawdd.
Datblygu Cynhyrchion Newydd (NPD) Ymgynghori ar brosiectau Datblygu rhaglenni addysgol i ddefnyddwyr Profi datblygiad cynhyrchion Cymorth marchnata ar gyfer BBaChau Defnydd o gyfarpar e.e. sychwr chwistrell, uned hidlo Profi'r farchnad.
Mae ein gwasanaethau'n cynnwys: Gwerthuso arferion hylendid presennol Addysgu am bwyntiau halogi a risgiau croeshalogi Gwirio a dilysu arferion glanhau Olrhain listeria Asesu datblygiad hylendid Lleihau lefelau bacteria drwy dechnegau dadhalogi arloesol e.e. technoleg osôn gyfeillgar.
Cig a Physgod Melysion Yn y sector melysion, bydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Ganolfan yn bodloni gofynion pawb: o weithgynhyrchydd newydd sydd am ddatblygu cynnyrch siocled o'r radd flaenaf i weithgynhyrchydd sefydledig sy'n ystyried ffyrdd o roi hwb i lefelau gwerthu cynnyrch sy'n bodoli eisoes. Datblygu cynhyrchion newydd Astudiaethau ymchwil i'r farchnad Cymorth i dreiddio i'r farchnad Profi arloesedd cynhyrchion Astudiaethau oes ar silff Prosesau rheoli ansawdd Gwerthuso synhwyraidd.
Mae gennym lawer o wasanaethau amrywiol y gallwn eu darparu i weithgynhyrchwyr a phroseswyr cig ac maent yn manteisio ar wybodaeth ein harbenigwyr. Maent yn cynnwys: Datblygu Cynhyrchion Newydd (NPD) Cyngor microbiolegol Cyngor ar ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd cig (cemegol a biocemegol) Diogelwch a hylendid bwyd yn y sector cig Lleihau costau Materion yn ymwneud â safon cig - ansawdd, blas, ymddangosiad Deunydd pacio sy'n addasu'r awyrgylch e.e. pacio dan wactod a'i effaith ar ansawdd cig a'i oes ar y silff Cyngor ar achrediad PGI Deddfwriaeth yn ymwneud â chig.
Deunydd pacio Mae ein gwasanaethau'n cynnwys: Gwerthuso oes ar silff deunydd pacio Dadansoddi ailfrandio mewn grŵp ffocws Datblygu cysyniadau o ran dylunio deunydd pacio arloesol a'u gwerthuso'n wrthrychol Cyfeirio at gyflenwyr deunydd pacio perthnasol Asesu effaith deunydd pacio Gwerthuso cyfarwyddiadau defnyddio cynnyrch ar ddeunydd pacio.
7
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 8
PROSIECTAU Prosiect Sgiliau'r Diwydiant Bwyd (FISP) Nod Cynyddu nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r sector bwyd yng Nghymru a'u cadw. Meithrin sgiliau yn y diwydiant gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd yng Nghymru. Cyflawniadau MSc mewn Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant Gradd Sylfaen Cynllun Bwrsariaeth Lleoliad Myfyriwr Diwrnod hyfforddi cynghorwyr gyrfaoedd ar yrfaoedd yn y diwydiant bwyd Diwrnod hyfforddi i athrawon bwyd AB ac AU ar yrfaoedd yn y diwydiant bwyd Cyrsiau Byr Cyhoeddiad Bwyta'n Dda Mwy o gyfleoedd Dysgu Seiliedig ar Waith
CANOLFAN DIWYDIANT BWYD
Presenoldeb mewn digwyddiadau, eu trefnu a'u cynnal er mwyn rhannu negeseuon Prosiect Sgiliau'r Diwydiant Bwyd (FISP), gan gynnwys: 7 ffair yrfaoedd (Castell Nedd x2, Blaenau Gwent, Tredomen, Torfaen, Parc Margam, Caerffili) 6 ŵyl fwyd (y Fenni, y BontFaen, Caerdydd, Sir Benfro, Wrecsam a Gŵyl Bwyd Môr Môn) 5 cynhadledd (IAFP, UKAFP, IFST, BCCC, Gymiau a Deunyddiau Sefydlogi, DPP Diogelwch Bwyd (Highfield)) 4 sioe (RWS, Good Food, Sioe Fusnes Cymru, Sioe Fusnes Start up Wales) 2 ddigwyddiad (Digwyddiad cyfarfod â'r cynhyrchydd a gynhaliwyd gan UWIC a digwyddiad Cyfarfod â'r Prynwr a gynhaliwyd gan Levercliff) 3 chyfarfod diwydiant Prosiect Sgiliau'r Diwydiant Bwyd (FISP) rhanbarthol 2 gyfarfod myfyrwyr dros ginio i hyrwyddo'r fwrsariaeth 2 ddiwrnod hyfforddi athrawon/cynghorwyr gyrfaoedd.
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 9
Knowledge Innovation Technology Exchange (KITE)
PARTNERIAID
Mae'r wybodaeth a'r profiad a gynigir gan ein gweithwyr proffesiynol yn y ddwy ganolfan yn fuddiol ac yn werthfawr iawn. Mae cwmnïau bwyd sy'n BBaChau yng Nghymru yn manteisio ar yr adnodd hwn at ddiben eu llwyddiant economaidd eu hunain. Mae cleientiaid yn cyflawni allbynnau mesuradwy a buddiannau ariannol, amgylcheddol a sgiliau clir. Mae’r rhain yn cynnwys: Datblygu arbeigedd technegol cwmnïau yn unol â safonau rhyngwladol e.e. BRC Lleihau faint o wastraff a gynhyrchir yn y tarddiad, gan arwain at leihad yn yr effaith amgylcheddol a'r costau a chynnydd mewn elw Ehangu sgiliau a gwybodaeth cyflogeion Effeithlonrwydd gweithredol gwell Datblygu cynhyrchion newydd ac arloesol Mwy o fantais gystadleuol yn sgîl rheolaeth dechnegol well Amcan cyffredinol y rhaglen KITE yn y pen draw yw cynyddu lefelau gwerthiant cynhyrchion bwyd o Gymru £10 miliwn erbyn 2015.
Mae'r rhaglen KITE wedi'i llunio i leihau i ba raddau yr amherir ar eich busnes bwyd tra'n cynyddu'r gallu i reoli prosesau a chynyddu elw. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu arbenigedd technegol cwmnïau ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hwy. Gall hyn fod cyn lleied â thri mis i ddwy flynedd drwy raglenni llawn amser a rhan amser. Bydd cynrychiolwyr FNW yn cynnal dadansoddiad o fwlch technegol ar gyfer eich cwmni er mwyn nodi meysydd a all gael budd o fwy o reolaeth dechnegol. Mae'r meysydd pwnc a gwmpesir gan y rhaglen yn amrywiol ac yn helaeth, megis datblygu cwmni yn unol â safonau BRC, datblygu cynhyrchion newydd a dadansoddi effeithlonrwydd gweithrediad prosesu. Caiff pob rhaglen ei rheoli o ran nodau ac amser a chaiff cynnydd ei fonitro drwy broses reoli prosiect strwythuredig y mae arbenigwyr y Ganolfan Fwyd yn ei goruchwylio. Mae'r rhaglen yn agored i gwmnïau bwyd sy'n BBACh yng Nghymru a fyddai'n cael budd o gael gafael ar y wybodaeth a'r arbenigedd a geir yn y Canolfannau. Am ragor o fanylion www.kite-programme.org.uk
9
Welsh Brussels 08.11_Layout 1 07/09/2011 12:24 Page 10
Cyswllt: David Lloyd, Cyfarwyddwr Rhodfa’r Gorllewin Llandaf Caerdydd CF5 2YB
Ffôn: 029 2041 6306 E-bost: dclloyd@uwic.ac.uk Gwe: www.zero2five.org.uk www.kite-programme.org.uk