cardiffmet.ac.uk/cst @CMetAdmissions
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
YSGOL
DECHNOLEGAU CAERDYDD RHAGLENNI GRADD 2019
RHAGOR O WYBODAETH cardiffmet.ac.uk/cst @CMetAdmissions
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
CYNNWYS Ysgol Dechnolegau Caerdydd Ein Cyrsiau – Wedi'u cynllunio ar gyfer y byd digidol Eich Profiad Dysgu Lleoliadau
3 5 7 9
Rhaglenni Israddedig BSc (Anrh) Systemau Gwybodaeth Busnes BSc (Anrh) Cyfrifiadureg BSc (Anrh) Gwyddor Data BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol BSc (Anrh) Cyfrifiadura ar gyfer Rhyngweithio BSc (Anrh) Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol BSc (Anrh) Datblygu a Dylunio Gemau BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd
13 15 17 19 20 21 22 23 25
Rhaglenni Ôl-raddedig MSc Cyfrifiadura MSc Gwyddor Data MSc Rheoli Technoleg Gwybodaeth MSc Rheoli Prosiect Technoleg
27 28 29 30 31
Caerdydd Caerdydd – Prifddinas sy'n canolbwyntio ar dechnoleg
33 35 1
2
YSGOL DECHNOLEGAU CAERDYDD Lansiwyd Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn 2018, a bydd yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr drwy'r diwydiant technoleg cyfan. Bydd yr Ysgol ar flaen y gad o ran bodloni gofynion myfyrwyr a diwallu anghenion cyflogwyr mewn sector lle mae mwy a mwy o yrfaoedd sy'n talu'n dda i raddedigion. Bydd yr Ysgol yn ychwanegu at bortffolio sefydledig o raglenni presennol sy'n canolbwyntio ar y diwydiant ar lefel israddedig ac ôlraddedig er mwyn cynnig cyrsiau newydd mewn gwyddor data, diogelwch gwybodaeth, roboteg, electroneg a pheirianneg systemau o 2019 ymlaen. Bydd ein Hysgol uchelgeisiol yn datblygu Prifysgol Metropolitan Caerdydd ymhellach yn arweinydd byd-eang o fewn y diwydiant technoleg, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y campws. Yr Athro Jon Platts, Deon
I gael rhagor o wybodaeth am Ysgol Technolegau Caerdydd, ewch i: www.cardiffmet.ac.uk/cst
3
4
EIN CYRSIAU – WEDI'U CYNLLUNIO AR GYFER Y BYD DIGIDOL Cynlluniwyd graddau Ysgol Dechnolegau Caerdydd i annog myfyrwyr i fod yn ddysgwyr annibynnol drwy feddwl yn gyfrifiadurol, dadansoddi'r byd go iawn a datblygu sgiliau ar gyfer gweithio yn y byd digidol sy'n esblygu. Gall ein graddedigion gyd-destunoli eu hastudiaethau o safbwynt technegol a chymdeithasol ehangach; maent yn gymwys iawn yn broffesiynol ac yn foesegol ac yn barod i dderbyn eu rolau yn y gweithle amlddisgyblaethol. Caiff myfyrwyr eu haddysgu gan arbenigwyr academaidd ac ymarferwyr arbenigol ym meysydd cyfrifiadureg, busnes a TG, gan daflu goleuni ar eu hymchwil a'u gweithgarwch busnes. Mae ein rhwydwaith o arbenigwyr yn cynnig gwybodaeth arbenigol drwy ddarlithwyr gwadd er mwyn hwyluso gweithdai rhyngweithiol a chyflwyno problemau yn y byd go iawn i'w hasesu.
5
“Mae brwdfrydedd mor bwysig i mi fel darlithydd wrth ystyried ymgeiswyr. Fel Prifysgol, byddwn yn ystyried eich proffil academaidd er mwyn sicrhau eich bod yn barod i gymryd y cam hwnnw ar un o'n cyrsiau, ond mae brwdfrydedd ac angerdd dros y pwnc yn dweud llawer wrthyf am berson wrth ei ystyried fel darpar fyfyriwr. Nid oes angen i chi o reidrwydd fod wedi astudio pynciau sy'n ymwneud â thechnoleg o'r blaen, ac nid oes angen profiad o raglennu arnoch chwaith, ond mae myfyrwyr brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu yn llawer mwy tebygol o lwyddo wrth astudio.”
Catherine Tryfona, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen mewn Cyfrifiadura a Systemau Gwybodaeth
6
EICH PROFIAD DYSGU Anogir dull o ddysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, labordai ymarferol a sesiynau gweithdy er mwyn datblygu dealltwriaeth a gallu technegol. Caiff pob myfyriwr ei gefnogi'n academaidd ac yn fugeiliol gan dîm y rhaglen, sy'n cael ei arwain gan gyfarwyddwr y rhaglen a'i gefnogi gan diwtoriaid blwyddyn. Yn ogystal, caiff pob myfyriwr ei gefnogi gan y tîm Tiwtoriaid Personol yn yr Ysgol, sy'n bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Mae gan yr Ysgol gymdeithasau myfyrwyr bywiog mewn Cyfrifiadura a Gemau, yn ogystal â Chymdeithas i Fyfyrwyr BCS sy'n cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gweithgareddau a theithiau maes drwy gydol y flwyddyn academaidd.
7
“Mae Met Caerdydd bob amser yn eich annog i gael profiad gwaith yn eich maes perthnasol – mewn gwirionedd, roedd yn un o fodiwlau gorfodol fy nghwrs Cyfrifiadureg! Yn ystod fy lleoliad yn Circle IT yng Nghaerdydd, gwelais y broses o ddatblygu cynnyrch o'r dechrau a diwallu anghenion y defnyddiwr – rhywbeth nad oeddwn wedi'i wneud o'r blaen heblaw yn ddamcaniaethol. Hefyd, datblygais ddealltwriaeth well o systemau TG yn gyffredinol a sut i reoli'r systemau hynny'n effeithiol.”
Sam Conboy, BSc (Anrh) Cyfrifiadureg
8
LLEOLIADAU Er mwyn cryfhau'r gydberthynas â darpar gyflogwyr, mae pob myfyriwr sy'n astudio ar gyfer un o'n graddau israddedig yn cael y cyfle i gael profiad gwaith drwy fodiwlau sy'n seiliedig ar waith yn yr ail flwyddyn. Gall myfyrwyr gwblhau naill ai blwyddyn ar leoliad, lleoliad yn ystod yr haf neu leoliad 15 diwrnod (ar y lleiaf) yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae'r lleoliadau hyn yn ffordd o roi'r astudiaethau academaidd mewn cyd-destun drwy gynnig profiad ymarferol, atgyfnerthu amcanion dysgu a chyflwyno myfyrwyr i ddarpar gyflogwyr.
9
I BLE MAE EIN MYFYRWYR YN MYND?
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i ddod o hyd i leoliadau gwaith ar gynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a'r Swyddfa Dywydd a'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens yn yr Eidal.
10
“Rhwng fy ail a'm trydedd flwyddyn, roeddwn yn gwneud hyfforddeiaeth yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn Fflorens yn yr Eidal. Roeddwn yn gweithio mewn rôl cymorth ac yn delio â phopeth o broblemau gyda meddalwedd i galedwedd wedi'i thorri – ac unrhyw beth arall a gododd. Gwnaeth y lleoliad beri i mi ystyried chwilio am swyddi yn Ewrop a thu hwnt.”
Jake Horton, BSc (Anrh) Cyfrifiadureg
11
12
YSGOL
DECHNOLEGAU CAERDYDD
RHAGLENNI ISRADDEDIG
13
SGILIAU RHAGLENNU
14
BSc (ANRH)
SYSTEMAU GWYBODAETH BUSNES Cynlluniwyd y radd i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn dadansoddi, datblygu a chymhwyso systemau cymdeithasoldechnegol a phwysigrwydd technoleg gwybodaeth a chyfrifiadura yn y gymdeithas. Mae'n meithrin dealltwriaeth ddofn o sylfeini damcaniaethol gwybodaeth, technoleg a systemau a ddefnyddir mewn amgylcheddau busnes modern. Mae'r cwrs yn dechrau drwy ddatblygu sgiliau rhaglennu sylfaenol ac yn symud ymlaen i ddefnyddio'r sgiliau hyn ar gymwysiadau ar y we. Mae opsiynau ehangu yn mynd i'r afael â dylunio systemau gwybodaeth ar gyfer busnes byd-eang, rheoli data a gwybodaeth, amlgyfryngau a rhyngweithio, rheoli gweithrediadau, seiberddiogelwch a gwybodaeth busnes. Gall graddedigion weithredu fel datblygwyr meddalwedd sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol systemau gwybodaeth busnes i fasnach fyd-eang. www.cardiffmet.ac.uk/G5N1
15
DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL
16
BSc (ANRH)
CYFRIFIADUREG Cynlluniwyd y radd ar y cyd â'r diwydiant i ddatblygu gafael ar gysyniadau allweddol cyfrifiadura, meddalwedd a systemau. Mae'n meithrin dealltwriaeth ddofn o sylfeini damcaniaethol data a chyfrifiadura, ac yn datblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol, dadansoddi a datrys problemau hynod drosglwyddadwy, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau datblygu meddalwedd. Mae myfyrwyr yn dechrau drwy ddatblygu gwybodaeth sylfaenol am theori cyfrifiadura, saernïaeth gyfrifiadurol a chreu cyfrifiaduron a'u systemau gweithredu a datblygu eu sgiliau rhaglennu sylfaenol ar yr un pryd. Mae myfyrwyr yn symud ymlaen i ymchwilio i'r ffordd orau o drefnu cod meddalwedd broffesiynol. Maent hefyd yn dechrau gweithio wrth y ffin lle mae meddalwedd a chaledwedd yn cwrdd er mwyn deall sut y gall meddalwedd ryngweithio â'r byd corfforol. Gellir ymgymryd ag opsiynau ehangu sy'n galluogi myfyrwyr i feithrin gwybodaeth am feysydd arbenigol megis deallusrwydd cyfrifiadurol, seiberddiogelwch, technegau rhaglennu uwch, dadansoddi data a gwybodaeth busnes. Fel y cyfryw, gall myfyrwyr raddio â dyfarniad mewn Cyfrifiadura Symudol, Roboteg, Deallusrwydd Artiffisial neu Ddadansoddi Data a dod yn gyflogadwy iawn mewn nifer o sectorau'r economi ddigidol. www.cardiffmet.ac.uk/G400
17
GWYDDOR DATA
18
BSc (ANRH)
GWYDDOR DATA Dulliau, prosesau ac algorithmau gwyddonol sy'n ei gwneud yn bosibl i gasglu gwybodaeth o ddata ar ffurfiau gwahanol yw Gwyddor Data. Bydd graddedigion y cwrs Gwyddor Data wedi dysgu'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddelweddu data ac adrodd straeon a chynllunio a datblygu dulliau newydd o ddelweddu data â chreadigrwydd a sgiliau rhaglennu. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi setiau data drwy ddefnyddio technegau ystadegol a chyfrifiadurol gwahanol. Yn ogystal, byddant yn dysgu'r sgiliau i ddylunio a defnyddio systemau Gwyddor Data a defnyddio adnoddau a thechnegau safonol y diwydiant ac yn cael y cyfle hefyd i ddefnyddio technegau gwybodaeth gyfrifiadurol megis dysgu peirianyddol. www.cardiffmet.ac.uk/G500
19
BSc (ANRH)
DIOGELWCH CYFRIFIADUROL Mae'r radd hon, sy'n aml yn cael ei galw'n Seiberddiogelwch, yn astudio'r technolegau a'r arferion sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu rhwydweithiau, cyfrifiaduron a data rhag ymosodiadau, difrod neu fynediad anawdurdodedig. Bydd y cwrs Diogelwch Cyfrifiadurol yn addysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddeall, cymhwyso a gwerthuso'n feirniadol yr egwyddorion sy'n sail i Ddiogelwch Cyfrifiadurol. Bydd yn meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o'r safbwyntiau technegol a chymdeithasol, sut mae ymosodiadau'n gweithio, y bygythiadau a'r peryglon tebygol a'r dulliau a ddefnyddir gan yr ymosodwyr. Bydd y cwrs yn addysgu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddeall a chynllunio fframweithiau sy'n cynnwys y rheolaethau technegol a chorfforol a'r prosesau y gellir eu gweithredu drwy sefydliad i leihau risgiau i wybodaeth a systemau, nodi a lleihau peryglon a bodloni gofynion cydymffurfio. Bydd y cwrs hefyd yn addysgu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gynnal profion hacio a dadansoddi peryglon mewn sefydliadau busnes, datblygu systemau diogel a defnyddio adnoddau a thechnegau safonol y diwydiant. www.cardiffmet.ac.uk/G100
20
BSc (ANRH)
CYFRIFIADURA AR GYFER RHYNGWEITHIO Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i dechnegau cynllunio ar gyfer technolegau sy'n bodoli eisoes a rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd y cwrs yn datblygu myfyrwyr ym maes cynllunio systemau cyfrifiadurol o safbwynt sy'n canolbwyntio ar fodau dynol a hefyd ar gyfer rhyngweithio. Bydd myfyrwyr yn ystyried agweddau ar ddatblygu meddalwedd sy'n cynnwys cylch oes prosiect, datblygu cyllidebau a chynigion yn ogystal â rôl y prototeip. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymchwilio i'r ffyrdd y gellir defnyddio prosesau cynhyrchu yn ymarferol i ddatblygu prosiectau sy'n canolbwyntio ar y cleient. Mae'r cwrs yn cynnwys rhywfaint o waith rheoli prosiect i gynhyrchu cyfryngau rhyngweithiol. Bydd graddedigion wedi dysgu'r sgiliau proffesiynol i gyfrannu'n sylweddol mewn timau amlddisgyblaethol yn y maes technoleg hwn sy'n hollbresennol yn y byd digidol modern, gan ddefnyddio dulliau cynllunio priodol i gynhyrchu cynhyrchion neu systemau meddalwedd rhyngweithiol. www.cardiffmet.ac.uk/G200
21
BSc (ANRH)
CYFRIFIADURA GYDA DYLUNIO CREADIGOL Mae'r cwrs hwn, sy'n cael ei gyflwyno ar y cyd ag Ysgol Dechnolegau Caerdydd ac Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn ceisio datblygu myfyrwyr ym maes cyfrifiadura, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu'r cyfleoedd creadigol a dylunio a geir yn y ddisgyblaeth. Hefyd, mae'r radd yn anelu at feithrin gwybodaeth a sgiliau cyfrifiadura proffesiynol myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol er mwyn iddynt ddod o hyd i waith a chyfrannu'n llawn at amrywiaeth o leoliadau, gan ganolbwyntio'n benodol ar greadigrwydd a dylunio mewn timau amlddisgyblaethol. Yn ogystal â dysgu hanfodion datblygu systemau cyfrifiadurol a systemau meddalwedd, caiff myfyrwyr eu hannog i feddwl am gynllun cynnyrch mewn ffordd fodern wrth wneud eu gwaith technegol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i gyd-destunoli eu hastudiaethau o safbwynt technegol a chymdeithasol ehangach a datblygu fel unigolion 'hybrid' sy'n barod i gau'r bwlch rhwng y byd technegol a'r byd creadigol. www.cardiffmet.ac.uk/G300
22
BSc (ANRH)
DATBLYGU A DYLUNIO GEMAU Mae'r cwrs yn cwmpasu'r technegau a ddefnyddir i greu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys y theori ac ymarfer perthnasol o Gyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd. Mae'n meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o sut mae gemau'n cael eu dylunio a'u datblygu, yn ogystal â'r wybodaeth a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ym maes technoleg gemau. Caiff myfyrwyr wybod am yr adnoddau a'r technolegau diweddaraf a ddefnyddir yn y diwydiant yn ogystal â'r cyfle i weithio ar nifer o brosiectau gemau ar wahanol blatfformau caledwedd. Wrth i fyfyrwyr fynd drwy'r cwrs, byddant yn dysgu'r sgiliau a fydd yn eu galluogi i archwilio a datblygu eu syniadau eu hunain ar gyfer gemau, yn ogystal â deall y cyfleoedd busnes a chyflogaeth sy'n bodoli yn y diwydiant gemau. Mae gan y DU ddiwylliant gemau fideo arloesol a ffyniannus, gyda marchnad gwerth tua £4.1 biliwn yn 2015. Fel y cyfryw, mae gan y rhai sydd â'r radd hon y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa ym maes datblygu gemau neu yn y diwydiant TG ehangach. www.cardiffmet.ac.uk/433Y
23
REALITI ESTYNEDIG A RHITH-WIRIONEDD
24
BSc (ANRH)
PEIRIANNEG MEDDALWEDD Mae'r radd yn ceisio datblygu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd mewn dylunio, datblygu a chyflwyno meddalwedd ar gyfer amgylcheddau a phlatfformau modern drwy astudio ystod eang o adnoddau, technolegau a methodolegau datblygu meddalwedd. Bydd yn datblygu diwylliant ac ymwybyddiaeth o saernïaeth meddalwedd a gwaith codio, gan greu arteffactau meddalwedd defnyddiol a defnyddiadwy. Mae'r cwrs yn ymdrin â hanfodion tebyg i Gyfrifiadureg, ond gyda phwyslais yn ddiweddarach ar ddylunio a datblygu meddalwedd ar gyfer cymwysiadau penodol, yn ogystal ag archwilio paradeimau pensaernïol megis cyfrifiadura paralel a gwasgaredig. Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i ehangu eu hastudiaethau i gynnwys pynciau megis addysgu cyfrifiadura, graffeg gyfrifiadurol a'r gyfraith sy'n ymwneud â diogelwch digidol. Fel y cyfryw, gall myfyrwyr raddio â dyfarniad mewn Technoleg Gwe, Realiti Estynedig a Rhith-wirionedd, Diogelwch Rhwydweithiau neu Ddiogelwch Data a pharatoi ar gyfer gyrfa amrywiol ym maes peirianneg meddalwedd gymhwysol. www.cardiffmet.ac.uk/G600
25
26
YSGOL
DECHNOLEGAU CAERDYDD
RHAGLENNI ÔL-RADDEDIG
27
MSc
CYFRIFIADURA Mae'r cwrs yn ceisio cynnig rhaglen ôl-raddedig o ansawdd uchel sy'n berthnasol yn broffesiynol, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol myfyrwyr o'r ffordd y mae systemau cyfrifiadurol yn cael eu creu a'u defnyddio. Bydd graddedigion wedi dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddatblygu systemau o ansawdd uchel a rheoli pob agwedd ar y broses o'u cynhyrchu, eu cynnal a'u cadw. Bydd y cwrs yn galluogi myfyriwr i wella ei sgiliau presennol yn barod i ateb y galw masnachol cynyddol am raddedigion cyfrifiadura uwch. www.cardiffmet.ac.uk/postgraduate
28
MSc
GWYDDOR DATA Mae'r cwrs yn cynnig rhaglen astudio ôl-raddedig broffesiynol a phoblogaidd sy'n datblygu ymwybyddiaeth feirniadol myfyrwyr o wyddor data a'r defnydd o feddalwedd i ddadansoddi a chyfosod data. Nid yw Gwyddor Data na "Data Mawr" erioed wedi bod mor bwysig. Mae systemau cyfrifiadura a meddalwedd modern wedi ei gwneud yn bosibl i gael mwy o wybodaeth o setiau data mawr iawn a chyflwyno gwybodaeth y mae'n ymarferol bosibl gweithredu arni. Bydd graddedigion y cwrs hwn wedi dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddatblygu a rheoli systemau gwyddor data. Bydd y cwrs yn galluogi myfyrwyr i wella eu sgiliau yn barod i ateb y galw masnachol cynyddol yn y maes hwn. www.cardiffmet.ac.uk/postgraduate
29
MSc
RHEOLI TECHNOLEG GWYBODAETH Mae'r cwrs yn cynnig rhaglen ôl-raddedig sy'n berthnasol yn broffesiynol, sy'n datblygu gallu mewn technoleg ac sy'n addysgu sut y gall technoleg ateb dibenion rheoli. Mae modiwlau mewn rheoli prosiect, gyda phwyslais ar dechnoleg a risg, yn addysgu sgiliau hanfodol cyn symud ymlaen i fynd i'r afael â diogelwch gwybodaeth, sy'n dod yn fwfwy pwysig. Caiff agweddau ar gyfrifiadura cymdeithasol eu trafod yn ogystal ag adnoddau rheoli gwybodaeth allweddol. Bydd gofyn i fyfyrwyr wneud prosiect datblygu meddalwedd mewn tîm. Mae opsiynau ehangu ar gael mewn dadansoddi gofodol a dadansoddi data. Bydd gofyn i'r holl fyfyrwyr gyflwyno traethawd hir ar dechnoleg. Bydd graddedigion y rhaglen hon yn gallu perfformio'n dda yn y gweithle modern lle mae technoleg yn hollbresennol ac yn hanfodol i gadw'r fantais gystadleuol. www.cardiffmet.ac.uk/postgraduate
30
MSc
RHEOLI PROSIECT TECHNOLEG Fel arfer, mae datblygiadau arloesol ym maes technoleg yn cael eu rheoli drwy gyfrwng prosiect. Mae'r cwrs yn ceisio cynnig rhaglen ôl-raddedig o ansawdd uchel sy'n berthnasol yn broffesiynol, gan ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol myfyrwyr o gylch oes cyfan prosiect technolegol, o'r dechrau i'r adeg y caiff ei fabwysiadu a'i waredu yn y diwedd. Bydd cyfuno cymwyseddau rheoli prosiect mwy cyffredinol ag ymwybyddiaeth dechnolegol benodol yn sicrhau sail gadarn i yrfa yn y dyfodol fel rheolwr prosiectau technolegol. Dylai annog myfyrwyr i weithredu fel dysgwyr annibynnol arwain at raddedigion a fydd wedi datblygu'r sylfeini ar gyfer datblygiad proffesiynol yn y dyfodol a datblygiad proffesiynol parhaus. www.cardiffmet.ac.uk/postgraduate
31
32
CAERDYDD – EIN DINAS, EICH CARTREF Mae Caerdydd yn brifddinas gyffrous a modern sy'n gwneud yn rhyfeddol o dda o ystyried ei maint a phoblogaeth gymharol fach o tua 350,000 o bobl. Yn ôl y teithlyfr enwog Lonely Plant, Caerdydd yw'r enghraifft orau bosibl o ddinas cŵl, ac mae hefyd yn un o'r dinasoedd mwyaf cŵl yn y DU yn ôl Rough Guides. Yn 2017, roedd y ddinas ar frig rhestr Mynegai Byw fel Myfyriwr NatWest fel y ddinas fwyaf fforddiadwy i fyw ynddi fel myfyriwr yn y DU. Mae Caerdydd yn meddwl fel dinas fawr, ond hefyd yn cynnig manteision dinas fach, sy'n ei gwneud yn lle delfrydol i fyw, gweithio ac astudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/cardiff
33
34
CAERDYDD – PRIFDDINAS SY'N CANOLBWYNTIO AR DECHNOLEG Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae diwydiant technoleg Cymru wedi dod i'r amlwg fel y diwydiant sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Mae mentrau megis Creu Sbarc, Cardiff Start a Tramshed Tech yn rhoi cymorth i entrepreneuriaid a busnesau newydd drwy gynnig mannau i gydweithio, digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd a gweithdai. Yn ogystal, mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gwerth £1.28 biliwn a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys cynlluniau i ysgogi arloesedd digidol ledled De-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd ein graddedigion mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn sector technoleg cynyddol Cymru a thu hwnt.
Jessica Leigh Jones, Cyfarwyddwr, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru, Sony
“Gan edrych ar y sgiliau sydd eu hangen yn y dyfodol a'r 5-10 mlynedd nesaf, bydd Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn mynd i'r afael â'r anghenion am ddata, deallusrwydd artiffisial, roboteg a meddalwedd i helpu i ddiwallu anghenion amrywiol y diwydiant.”
35
Ysgol Dechnolegau Caerdydd Dwy ďŹ lltir o ganol dinas Caerdydd
36
RHAGOR O WYBODAETH cardiffmet.ac.uk/cst @CMetAdmissions
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
cardiffmet.ac.uk/cst @CMetAdmissions
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
YSGOL
DECHNOLEGAU CAERDYDD RHAGLENNI GRADD 2019