ÿ CAMPWS LLANDAF
18 – 29 MEHEFIN 2018
Ë
YSGOL HAF
5Z U SIA CYR D AC RHA
AMM! DDI
I DDYSGWYR SY’N OEDOLION
W
Croeso i Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd 2018 i Ddysgwyr sy’n Oedolion, yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau RHAD AC AM DDIM i ddysgwyr sy’n oedolion rhwng 18 – 29 Mehefin 2018. Rydym wrth ein boddau fod Ysgol Haf 2018 yn digwydd yn ystod Yr Ŵyl Ddysgu (Wythnos Addysg Oedolion gynt) - sef ymgyrch flynyddol sy’n dathlu ac yn hyrwyddo cyfleoedd dysgu oedolion. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ein nod yw sicrhau bod oedolion o bob cefndir neu grŵp ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio mewn ffordd a gynorthwyir. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y dylai pawb sydd â’r penderfyniad, y sgiliau a’r dymuniad i fynd i mewn i Addysg Uwch, allu gwneud hynny. Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i weithio’n agos gyda chymunedau lleol er mwyn helpu codi uchelgeisiau ac annog pobl sy’n meddwl “nad yw addysg uwch iddyn nhw” i ddechrau meddwl am y cyfleoedd sydd ar gael. Am ba reswm bynnag, os ydych yn y gorffennol wedi teimlo na fyddai cwrs addysg uwch yn addas i chi, rydym wedi cyflwyno ystod o gamau sydd wedi’u cynllunio i wneud astudio yma mor syml a hyblyg ag y bo modd. Wrth i ni fyw mewn cyfnod economaidd mor ansicr, efallai eich bod yn poeni ynghylch sut ydych yn mynd i ddatblygu’ch sgiliau a chyrraedd eich potensial mewn marchnad swyddi mor anodd. Rydym yn deall, gyda’r holl ymrwymiadau a ddaw gyda bywyd modern - gwaith, teulu, a bywyd cymdeithasol - nad yw’n hawdd ceisio cydbwyso’r holl bethau hyn ac
ystyried astudio ar yr un pryd. Efallai eich bod yn teimlo nad ydych chi’n ddigon deallus i astudio mewn Prifysgol, efallai na wnaethoch chi’n dda iawn yn yr ysgol a bod bywyd wedi’ch tywys i ffwrdd oddi wrth addysg. Yn aml, nid yw’r hyder gan oedolion sydd wedi bod allan o’r byd astudio am gyfnod hir i fynd yn ôl i ddysgu, neu maent yn meddwl y bydd pobl yn eu beirniadu’n hallt. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu difyr, rhad ac am ddim. Gall ein cyrsiau eich helpu i feithrin hyder a helpu rhoi ffocws i’ch gyrfa neu gynllun dysgu. Mae Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, am hwyl neu i wella’ch potensial o ran gyrfa. Gallai rhoi cynnig ar gwrs Ysgol Haf fod yn gychwyn i rywbeth cyffrous, a gallai hynny agor mwy o ddrysau i chi drwy symud ymlaen at un o’n cyrsiau cymunedol achrededig ac, yn y pen draw, darparu llwybr dilyniant i astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser yn y Brifysgol. Mae’r Ysgol Haf yn ffordd wych hefyd o gael blas ar fywyd prifysgol, yn enwedig os ydych chi’n ystyried astudio yma. Y llynedd, aeth llawer o’r oedolion a fynychodd Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd ymlaen i gofrestru ar gwrs pellach yn y Brifysgol ym mis Medi, aeth llawer ymlaen at gyrsiau Sylfaen neu ein rhaglenni achrededig, ac aeth rhai ymlaen yn syth at gyrsiau gradd. Eleni, gallech chi wneud hynny! Pwy bynnag ydych chi, mae gennym gwrs y byddwch yn ei fwynhau ac yn teimlo’n esmwyth yn ei astudio. Janet Jones Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (Rhaglenni)
PWY ALL ß FYNYCHU? Mae ein Hysgol Haf yn agored i bob oedolyn dros 18 oed. Gall lleoedd yn ein Hysgol Haf lenwi’n sydyn. Dylech wybod felly ein bod yn rhoi blaenoriaeth i’r Dysgwyr hynny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog a’r rheiny sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
á á á á á á
heb gael cyfleoedd i fynd i mewn i Addysg Uwch o’r blaen yn hawlio Budd-daliadau’r Llywodraeth (ac eithrio Budd-dal Plant) ar incwm isel neu’n wynebu ‘tlodi mewn gwaith’ yn byw gydag Anableddau yn Ofalwyr neu’n rhywun sy’n Gadael Gofal wedi’u cyfeirio gan un o’n sefydliadau cymunedol partner neu elusennau
Mae pob cwrs yn dechrau am 10.00am ac yn gorffen am 3.00pm, a chânt eu cynnal ar Gampws Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 1
H TAITH DYSGWR Mae’r stori hon yn dathlu llwyddiant dysgwr a gobeithio y bydd yn ysbrydoliaeth i bobl eraill a allai fod yn ystyried mynd yn ôl i ddysgu. Caiff y stori ei hadrodd yng ngeiriau’r dysgwr ei hun, ac mae’n dangos pa wahaniaeth y mae dysgu wedi’i wneud a sut mae ei bywyd wedi gwella drwy’r broses.
TAITH LEAH
2 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
s
“Mynychais Ysgol Uwchradd Willows a gadewais gyda graddau B ac C mewn TGAU. Fe es i ar brentisiaeth trin gwallt yn syth a gweithiais tuag fy lefel NVQ un, dau a thri mewn trin gwallt, tra’n gweithio mewn salon. Rwyf wedi gweithio mewn sawl salon ar draws Caerdydd ac wedi magu deng mlynedd o brofiad. Am bump o’r rheiny roeddwn yn gweithio fel triniwr gwallt symudol yn cynnig fy ngwasanaethau trin gwallt i’m cleientiaid rheolaidd o amgylch Caerdydd yn esmwythder eu cartrefi eu hunain. Roed bod yn ansicr ynghylch beth roeddwn am ei wneud mewn gwirionedd yn rhywbeth a oedd wedi fy nal yn ôl erioed, a dyna pam y mynychais Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd lle maent yn cynnal diwrnodau blasu. Ar ôl hyn, fe wnes i gais i wneud fy nghwrs TAR PCET [Addysg a Hyfforddiant Ôlorfodol]. Rwy’n meddwl hefyd fod arian ac aberthu oriau gwaith i wneud cwrs yn rheswm dros beidio astudio erioed. Fe wnaeth Cyllid Myfyrwyr fy helpu gyda hyn. Dechreuais addysgu gydag ACT Training, drwy wneud fy oriau o brofiad gwaith a dangos iddynt ba mor awyddus oeddwn i weithio. Cyn gynted ag y daeth cynnig swydd, fe wnes i gais ar unwaith, a chefais gynnig y swydd, ac erbyn hyn rwy’n gweithio gydag oedolion ag anawsterau dysgu. Rwyf mor hapus yn fy rôl ac yn wir mwynhau mynd i’r gwaith bob dydd. Rwy’n ystyried fy hun yn berson ymarferol, yn hytrach nag academaidd. Roedd yn anodd ar y dechrau, ond ni alla’ i gredu faint rwyf wedi gwella, ac rwyf wedi synnu
fy hun hyd yn oed wrth edrych yn ôl ar fy nghynnydd. Roedd fy hyder yn fy nal yn ôl o’r blaen, pan ddechreuais y cwrs roedd gormod o ofn arnai i sefyll o flaen fy nosbarth fy hun hyd yn oed a darllen rhywbeth yn uchel. Ond nawr rwy’n sefyll o flaen grwpiau o oedolion yn ddyddiol heb feddwl ddwywaith am hynny. Roedd technoleg yn rhywbeth arall a oedd yn peri trafferth i mi, ac ni allwn fformatio fy nhraethawd cyntaf hyd yn oed. Treuliais ddiwrnodau yn ceisio newid y ffont a’r gosodiad i fodloni’r safonau, ond eto, mae fy sgiliau wedi gwella’n aruthrol, ac rwy’n defnyddio technoleg yn ddyddiol yn fy swydd newydd. Mae’r tiwtoriaid ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar gael drwy’r amser. Roeddwn yn gallu ffonio fy nhiwtoriaid, anfon e-bost atynt neu drefnu sgwrs ar unrhyw adeg, maent yn cynnig cymorth gwych. Mae fy nghariad yn rhoi cefnogaeth emosiynol arbennig i mi, yn fy helpu i ddelio â’r straen o geisio cydbwyso popeth. Mae’n fy helpu i ddadansoddi pethau ac yn f’atgoffa pan fydd pethau’n galed fy mod wedi tyfu’n aruthrol a fy mod hanner ffordd tuag at gyrraedd fy nod. Mae fy mam-yngnghyfraith yn wych hefyd, mae wedi gwneud y cwrs hwn ei hun ac yn addysgu TG, felly fe wnaeth hi fy helpu gyda fformatio a defnyddio technoleg yr oeddwn i’n anghyfarwydd â hi. Fy nghyngor i ddysgwyr newydd fyddai peidiwch â bod ofn gofyn am help, mae help ar gael bob amser. Rwyf wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau gwych ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a chefais fy swydd cyn i mi orffen y cwrs hyd yn oed, ac rwy’n ennill mwy o arian.”
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 3
ASTUDIO YMHELLACH YM MHRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD
Dim cymwysterau mynediad traddodiadol? Os yw mynychu rhaglen ein Hysgol Haf yn rhoi archwaeth i chi astudio ymhellach, mae ein rhaglen Ehangu Mynediad yn cynnig modiwlau Achrededig pellach RHAD AC AM DDIM (10 credyd) a gynhelir yn y Gymuned a all eich helpu i ddatblygu llwybr i mewn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd drwy’r cyrsiau Sylfaen blwyddyn. Mae manylion llawn ein Cyrsiau Blasu a’n Cyrsiau Achrededig ar gael ar ein gwefan www.cardiffmet.ac.uk/wideningaccess. Gall y cyrsiau Achrededig hyn fod yn addas i oedolion nad yw’r cymwysterau mynediad traddodiadol ganddynt, ond mae ganddynt sgiliau a phrofiadau eraill, ac maent yn darparu tystiolaeth o ymgysylltiad academaidd diweddar. Bwriad y rhaglen Sylfaen yw ehangu mynediad a chyfranogiad ar gyfer myfyrwyr ‘sy’n dychwelyd i ddysgu’ gan ddatblygu hyder a chymhwysedd i gaffael y sgiliau astudio sydd eu hangen i gychwyn ar rai cyrsiau gradd anrhydedd. Gall astudio un o’r cyrsiau hyn am flwyddyn wir eich helpu i feithrin hyder a gwella’ch sgiliau. Ar ôl eu cwblhau, gallwch symud ymlaen at un o amryw o raglenni gradd a gynigir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Er na ellir gwarantu lle, gall fod yn werth i chi gysylltu â’n harweinwyr rhaglenni i sgwrsio am eich amgylchiadau unigol, a byddant ar gael i gynghori ar y camau i’w cymryd i gael mynediad i’r cwrs.
SUT I WNEUD CAIS I BRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD AR GYFER DYSGWYR SY’N OEDOLION
w
ß
A ydych chi’n ddysgwr sy’n oedolyn a fyddai’n dymuno gwneud cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd? Ydych chi’n gwybod sut i wneud cais? Ydych chi am gael gwybod mwy am y costau cysylltiedig, a pha gymorth all fod ar gael i chi, fel benthyciadau myfyrwyr, grantiau a bwrsariaethau? Nid i bobl ifanc yn unig y mae’r brifysgol, mae yna ddigonedd o ddysgwyr sy’n oedolion o bob oed sy’n astudio ar gyrsiau gwahanol i gyd yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dewch am dro i Gampws Llandaf i ddarganfod mwy. Bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau. Rydym wedi cynllunio sesiwn wybodaeth fel rhan o’r Ysgol Haf.
BYDDWCH YN RHAN O ŴYL MADEINROATH
T
Dewch yn rhan o’r arddangosfa gelfyddydau ‘Ehangu Mynediad’ sy’n cael ei chynnal yn ystod gŵyl celfyddydau cymunedol madeinroath sy’n para wythnos. Mae’r arddangosfa yn agored i bawb sy’n mynychu’r cwrs celf Ehangu Mynediad a bydd yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad o guradu arddangosfa a chael gwybodaeth am sut i gyflwyno’ch gwaith celf mewn amgylchedd arddangosfa. Yno, cewch gymorth gan dîm trefnwyr madeinroath y mae ganddynt amrywiaeth eang o gefndiroedd, gwybodaeth a phrofiadau i fanteisio arnynt. Dim ond un darn o waith celf sydd ei angen i arddangos, ac mae’n rhad ac am ddim i chi gymryd rhan. Mynychwch unrhyw un o gyrsiau celf yr Ysgol Haf i ddarganfod mwy a chymryd rhan. www.madeinroath.com
4 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
RHESTR CYRSIAU
TUDALEN
SGILIAU ACADEMAIDD
6
ASESU EICH SAESNEG ACADEMAIDD
6
GWNÏO CREADIGOL
7
IECHYD YR AMGYLCHEDD
7
RHEOLI PROSIECTAU DIGWYDDIADAU
8
CYCHWYN ARNI MEWN NEWYDDIADURAETH
8
THERAPÏAU HOLISTAIDD
9
SUT I GREU EICH PORTFFOLIO CELF A DYLUNIO
9
SUT I WNEUD CAIS I BRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD AR GYFER DYSGWYR SY’N OEDOLION
10
CYFLWYNIAD I YSGRIFENNU CREADIGOL
10
CYFLWYNIAD I IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
11
CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU TAI
11
CYFLWYNIAD I BARATOI I ADDYSGU
12
CYFLWYNIAD I SEICOLEG
12
CYFLWYNIAD I FENTER GYMDEITHASOL AC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED
13
CYFLWYNIAD I WAITH IEUENCTID A GWAITH CYMUNEDOL
13
SGILIAU MYFYRIOL
15
RHYW, CYFFURIAU AC ARCHFYGIAU
16
CYMDEITHASEG
16
DECHRAU EICH BUSNES EICH HUN
17
Y GWIR AM SIWGR
17 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 5
Dydd Llun 18 a Dydd Mawrth 19 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Mawrth 26 Mehefin 1.00pm i 3.00pm
SGILIAU ACADEMAIDD
ASESWCH EICH SAESNEG ACADEMAIDD
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Mae’r sesiynau hyn yn gyfle cyffrous i chi wella’ch sgiliau academaidd. Drwy ganolbwyntio ar bedwar maes hanfodol – ysgrifennu, ymchwil, gwneud nodiadau a rheoli amser – bydd y gweithdai hyn yn fuddiol iawn wrth eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach, naill ai yn y coleg neu ar un o’n cyrsiau achrededig Ehangu Mynediad. Yn y sesiwn ‘ysgrifennu’, byddwn yn edrych ar sut gallwch chi ysgrifennu’n glir ac yn effeithiol. Byddwn hefyd yn ystyried rhai o’r gwallau ysgrifennu cyffredin a sut i’w hosgoi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio ond nid Saesneg yw’ch iaith gyntaf, efallai y bydd gennych bryderon ynglŷn â chael mynediad i ddysgu. Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un yn y sefyllfa honno. Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi asesu lefel eich Saesneg academaidd. Byddwch yn sefyll y prawf Password Knowledge sy’n rhoi lefel gywir eich lefelau gramadeg a geirfa. Bydd hyn yn eich helpu os ydych eisiau astudio ar y cwrs Preparation for Academic IELTS neu gwrs Saesneg tebyg arall.
Mae ymchwil yn golygu dod o hyd i’r wybodaeth gywir. Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio’r adnoddau sydd ar gael i wneud hyn, a’r mathau o ffynonellau y gallech ddod o hyd iddynt.
Mae’r prawf yn para hyd at ddwy awr, felly cyrhaeddwch ddeng munud cyn dechrau’r sesiwn.
Bydd gwneud nodiadau yn dangos i chi sut gall nodi gwybodaeth yn ysgrifenedig gael ei droi yn rhan bwysicach o ddysgu. Drwy feddwl yn ofalus am yr hyn rydych yn ei ddarllen neu’n gwrando arno, gallwch gofio llawer mwy am y testun. Bydd rheoli amser yn dangos i chi sut i drefnu’ch ymrwymiadau a chadw trefn yn hawdd ar y gofynion ar eich amser. Mae cael trefn ar bethau yn golygu y gallwch dicio pob un o’r tasgau ar eich rhestr ‘gwneud’, a theimlo’r boddhad hwnnw eich bod yn gwneud cynnydd! 6 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
Dydd Mawrth 19, Dydd Mercher 20 a Dydd Iau 21 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Llun 18, Dydd Mawrth 19 a Dydd Mercher 20 Mehefin 10.00am i 3.00pm
GWNÏO CREADIGOL
IECHYD YR AMGYLCHEDD
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio swyddogaethau a gosodiadau gwahanol y peiriant lle cewch gyfle i samplu gwahanol semau, hemiau a dartiau. Cawn olwg sylfaenol ar batrymau a mesur ar gyfer ffit well. Byddwn wedyn yn defnyddio’r sgiliau hyn i newid a ffitio dillad presennol neu’u huwchgylchu yn rhywbeth newydd. Mae’r cwrs ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sy’n gwella, ond croesewir pob lefel. Bydd peiriannau’n cael eu darparu ond gallwch ddod â’ch peiriant eich hun os dymunwch.
Diddordeb mewn iechyd a lles? Yn chwilfrydig ynghylch sut gallwn ni ddylanwadu ar ein hamgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig er mwyn hyrwyddo’u ddau ohonynt? Bydd y cwrs tridiau hwn yn eich cyflwyno i’r pum maes ymarfer Iechyd yr Amgylchedd a ganlyn: Diogelwch Bwyd, Yr Amgylchedd Adeiledig, Rheoli Llygredd, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd y Cyhoedd. Bydd y cwrs hwn yn archwilio rolau rhagweithiol ac adweithiol gweithiwr proffesiynol iechyd yr amgylchedd, a’i fwriad yw datblygu sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arwain ochr yn ochr â’r wybodaeth a gaffaelir. Mae’n gwrs rhyngweithiol ac yn cael ei arwain gan gyfranogwyr, ac mae’n rhoi cyflwyniad rhagorol i’r cwrs BSc Iechyd yr Amgylchedd.
Y
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 7
Dydd Gwener 22, Dydd Llun 25 a Dydd Mawrth 26 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Iau 21 a Dydd Gwener 22 Mehefin 10.00am i 3.00pm
RHEOLI PROSIECTAU DIGWYDDIADAU
CYCHWYN ARNI MEWN NEWYDDIADURAETH
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gyflwyno myfyrwyr i reoli prosiectau a’r meysydd y mae angen ymdrin â nhw er mwyn cyflwyno prosiect llwyddiannus, gan gynnwys cychwyn, monitro a gwerthuso. Bydd yn gwrs delfrydol i unigolion sy’n ymwneud â neu’n gobeithio ymwneud â sefydlu a chynnal prosiectau. Cymerir yr enghreifftiau a ddefnyddir o’r diwydiant digwyddiadau gan fod angen i ddigwyddiadau llwyddiannus ddefnyddio offer rheoli prosiectau.
Cwrs blasu deuddydd sy’n cyflwyno’r grefft o ysgrifennu erthyglau newyddion ac erthyglau nodwedd. Nod y cwrs yw darparu dealltwriaeth sylfaenol o ysgrifennu yn y ddwy arddull newyddiadurol hon. Dros y deuddydd, byddwn yn edrych ar enghreifftiau o erthyglau newyddion ac erthyglau nodwedd ac yn archwilio arddull, cynnwys a chanllaw ‘sut i wneud’ o’r cam syniadau i’r cam ysgrifennu’r erthygl. Caiff myfyrwyr gyfle i arbrofi â’r arddull hon a chanfod eu llais ysgrifennu.
Bydd pwyslais y cwrs ar yr ymarferol, a bydd yn defnyddio senarios go iawn a fydd yn rhoi enghreifftiau i chi o’r llu o agweddau gwahanol ar y diwydiant. Bydd y mathau o feysydd pwnc yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys nodweddion digwyddiadau (maint a chwmpas), cynllunio a chydlynu, rheoli risg, rheoli amser ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd cwblhau’r cwrs yn galluogi cyfranogwyr i nodi gofynion allweddol rheoli prosiectau a deall y ffactorau mewnol ac allanol a all effeithio ar ganlyniad llwyddiannus.
8 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
E
Dydd Mawrth 19, Dydd Mercher 20 a Dydd Iau 21 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Gwener 22 Mehefin 10.00am i 3.00pm
THERAPÏAU HOLISTAIDD
SUT I GREU EICH PORTFFOLIO CELF A DYLUNIO
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y cwrs cyflwyniadol hwn yn rhoi trosolwg o Therapïau Holistaidd yn gyffredinol, yn ogystal â gwybodaeth fwy penodol am rai o’r therapïau gwahanol sydd ar gael, a’u buddion. Byddwch yn dysgu sut i dylino pen yn y dull Indiaidd yn syml fel grŵp, a hefyd yn mwynhau cyflwyniad sylfaenol i Aromatherapi, Tylino Holistaidd ac Adweitheg. Bydd y cwrs yn gymysgedd o waith theori sylfaenol a chymhwyso ymarferol, a bwriedir iddo fod yn ddifyr, yn hwyl ac yn ysgogol!
P’un a ydych chi’n bwriadu symud ymlaen at gwrs sylfaen Celf a Dylunio, hyrwyddo’ch astudiaethau yn y maes creadigol neu greu corff o waith ar gyfer eich ymarfer proffesiynol eich hun, bydd y sesiwn adeiladu portffolio hon yn eich helpu i wella’ch sgiliau i’r lefel nesaf. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau sy’n cynnwys syniadau am osod tudalennau, gorffen a golygu eich gwaith. Dewch â dau neu dri darn o waith gyda chi, gorau oll os ydynt yn ddarnau 2D, ond mae croeso i chi ddod â darnau 3D. Gallai fod yn ddarn arbrofol neu’n ddarn gorffenedig, neu hyd yn oed lyfr braslunio yn llawn lluniadau/paentiadau yr hoffech eu dangos yn eich portffolio. Fe wnawn ni weithio gyda’n gilydd a chychwyn ar eich portffolio! Byddwch yn rhan o’r Ŵyl madeinroath! Gweler tudalen 4 i gael rhagor o wybodaeth.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 9
Dydd Mercher 27 Mehefin 1.00pm i 2.30pm
Dydd Llun 18, Dydd Mawrth 19 a Dydd Mercher 20 Mehefin 10.00am i 3.00pm
SUT I WNEUD CAIS I BRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD AR GYFER DYSGWYR SY’N OEDOLION
CYFLWYNIAD I YSGRIFENNU CREADIGOL
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
A ydych chi’n ddysgwr sy’n oedolyn a fyddai’n dymuno gwneud cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd? Ydych chi’n gwybod sut i wneud cais? Ydych chi am gael gwybod mwy am y costau cysylltiedig, a pha gymorth all fod ar gael i chi, fel grantiau, benthyciadau a bwrsariaethau? Nid i bobl ifanc yn unig y mae’r brifysgol. Mae yna ddigonedd o ddysgwyr sy’n oedolion o bob oed sy’n astudio ar gyrsiau gwahanol i gyd yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Erioed wedi bod eisiau ysgrifennu eich stori eich hun? Mae’r cwrs cyflwyniadol hwn yn ddelfrydol i ddechreuwyr a’r rhai sydd am fireinio’u sgiliau. Dysgwch am hanfodion ffuglen fer a barddoniaeth.
Felly dewch am dro i Gampws Llandaf i ddarganfod mwy. Cadwch eich lle nawr.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau i gynhyrchu eich cerddi a’ch storïau eich hun wrth ddysgu sut i ddatblygu’ch llais ysgrifennu eich hun.
Byddwch yn dadansoddi gweithiau ysgrifenedig o genres amrywiol, ac yn cymryd rhan mewn ymarferiadau ysgrifennu gyda’r bwriad o addysgu hanfodion ffurf, disgrifio, cymeriadu, delweddaeth a llais i chi.
10 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
Dydd Iau 21 a Dydd Gwener 22 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Llun 18 a Dydd Mawrth 19 Mehefin 10.00am i 3.00pm
CYFLWYNIAD I IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
CYFLWYNIAD I ASTUDIAETHAU TAI
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael i chi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cewch gipolwg ar y cyfreithiau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â chyflwyniad i sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn partneriaeth ac ymarfer proffesiynol.
Pam na allwn ni adeiladu mwy o dai? Beth yw Diwygio Lles? Beth mae’r newidiadau newydd i fudd-daliadau yn ei olygu i mi?
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i’r Sylfaen sy’n arwain at BA/BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol.
Ë
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar faterion cyfredol ym maes tai a sut y gall pobl ddod yn gysylltiedig â’r maes tai yn eu cymunedau ac fel gyrfa. Mae tai yn sector sy’n tyfu, ac mae’n cynnig ystod o yrfaoedd gwerthfawr, gyda llawer o rolau swydd gwahanol a llu o gyfleoedd. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr sydd eisiau datblygu’u sgiliau a’u gwybodaeth, oedolion sy’n meddwl am fynd yn ôl i addysg neu newid gyrfa, neu unrhyw un sydd yn dymuno datblygu sgiliau newydd. Mae llawer o gyfleoedd ar gael yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, lle gallwch weithio a gwirfoddoli mewn meysydd fel cyngor ar dai, cymorth tai, atal digartrefedd a chyfranogiad tenantiaid. Mae’r cwrs byr hwn yn gyflwyniad cyfeillgar ac anffurfiol i’r radd BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Tai ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tai a chwarae rhan yn eu cymuned i ymuno.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 11
Dydd Gwener 22 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Mawrth 19 a Dydd Mercher 20 Mehefin 10.00am i 3.00pm
CYFLWYNIAD I BARATOI I ADDYSGU
CYFLWYNIAD I SEICOLEG
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Mae llawer o oedolion yn mynd yn ôl i ddysgu, ac yn sgil hyn daw’r angen am diwtoriaid gwirioneddol anogol ac ysgogol. Mae’r cwrs hwn yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen ar y rheiny sy’n teimlo y gallent wir wneud gwahaniaeth yn helpu pobl eraill drwy addysgu oedolion. Mae awyrgylch ymlaciol i’r sesiwn, mae’n rhyngweithiol ac yn ffordd ddifyr o ddarganfod mwy am yrfa newydd bosibl i chi’ch hun. Byddwch yn trafod rôl y tiwtor; yn edrych ar y ffordd y gall cymhelliant personol effeithio ar ddysgu; yn nodi technegau a dulliau sy’n hyrwyddo dysgu llwyddiannus; ac yn archwilio llwybrau dilyniant posibl i astudio ymhellach.
Mae seicoleg yn bwnc rhyfeddol o amrywiol sy’n apelio at lawer o bobl. Ar y cwrs, cewch gyflwyniad i astudio seicoleg drwy ystyried rhai o’r prif feysydd pwnc fel ymddygiad cymdeithasol pobl; plant a’u datblygiad a deall yr ymennydd er mwyn deall ymddygiad. Byddwn hefyd yn cyflwyno’r mathau o ddulliau y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i ddeall ymddygiad pobl.
Felly os ydych chi am ddarganfod mwy am addysgu oedolion, hwn yw’r cwrs i chi. Mae’n gyflwyniad gwych i’r TAR neu’r TAR PCET a fydd yn eich cymhwyso i fod yn athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-16.
Bydd pob gweithdy yn cynnwys darlithoedd byr yn ogystal â gweithgareddau ymarferol, i gynorthwyo deall sylfaen ymchwil seicoleg. Os ydych eisiau mynd ymhellach, yna beth am ystyried ein Modiwl Seicoleg Lefel 3 achrededig, neu’r cwrs Sylfaen sy’n arwain at radd BA/BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol.
12 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
Dydd Gwener 22 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Mercher 20 a Dydd Iau 21 Mehefin 10.00am i 3.00pm
CYFLWYNIAD I FENTER GYMDEITHASOL AC YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED
CYFLWYNIAD I WAITH IEUENCTID A GWAITH CYMUNEDOL
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Bydd y sesiwn hon yn darparu cyflwyniad i’r rôl y gall menter gymdeithasol ei chwarae o ran grymuso’r gymuned. Bydd materion i’w hystyried yn cynnwys y cyfraniad y gall menter gymdeithasol ei gwneud at greu cyflogaeth leol sy’n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy.
Mae mwy a mwy o bobl yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ond nid yw'r wybodaeth ganddynt am y ffordd orau i gyfranogi. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel cyflwyniad i’r rheiny sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol, a’r rheiny a fyddai’n hoffi gwybod mwy am astudio yn y maes hwn. Mae’n ddelfrydol i bobl sy’n ymboeni am eu cymuned ac sydd am wybod mwy, ac mae’n dda hefyd i weithwyr ieuenctid neu weithwyr cymunedol sydd heb lawer o brofiad blaenorol o astudio.
Byddwn yn ystyried sut i nodi cyfleoedd a rolau a chyfrifoldebau. Hefyd, bydd enghreifftiau o fenter gymdeithasol y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’u cefnogi yn cael eu trafod. Bydd y sesiwn hon yn galluogi myfyrwyr i ystyried dilyniant at amrywiaeth o raglenni Sylfaen.
Mae themâu a fydd yn cael eu datblygu o fewn y cwrs yn cynnwys: dysgu o brofiad; ymdopi mewn amgylchoedd newydd a deall pobl eraill. Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i’r modiwl Addysg Ieuenctid a Chymunedol 10 credyd sy’n cael ei gynnal yn y gymuned.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 13
14 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
Dydd Mercher 27 a Dydd Iau 28 Mehefin 10.00am i 3.00pm
SGILIAU MYFYRIOL – ACHREDEDIG (10 CREDYD) Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf Mae’n rhaid bod gennych Radd C neu’n uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Sgiliau Sylfaenol Lefel 2 cyfwerth i ymgymryd â’r cwrs hwn. Rhaid eich bod hefyd wedi cofrestru ar o leiaf un o gyrsiau eraill yr Ysgol Haf. Mae’r cwrs yn cael ei addysgu dros ddeuddydd mewn partneriaeth â Chanolfan Dysgu yn y Gwaith y Brifysgol. Byddwch yn cael eich asesu drwy bortffolio myfyriol, sy’n golygu y disgwylir i chi gadw cofnod/dyddiadur myfyriol a datblygu adroddiad myfyriol yn seiliedig ar brofiad dysgu a gawsoch, er enghraifft myfyrio ar y cyrsiau eraill yn yr Ysgol Haf rydych yn eu mynychu.
Mae’r cwrs yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau myfyriol ac academaidd er mwyn i chi allu cyflawni 10 o gredydau Addysg Uwch ar lefel 3. Gellir defnyddio hyn ar gyfer mynediad i’r Radd Sylfaen mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol: www.cardiffmet.ac.uk/FDA, neu’r Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd.
Mae myfyrio yn dechneg sy’n helpu atgyfnerthu dysgu a wnaed. Mae’n offeryn pwerus iawn ar gyfer hunanddatblygu ac i wella dysgu. Mae’r cwrs hwn yn eich helpu i ddeall beth yw myfyrio a sut i’w ddefnyddio i ddatblygu’ch datblygiad personol a phroffesiynol, mae’n eich cynorthwyo i allu ysgrifennu’n fyfyriol ac yn rhoi technegau i chi allu cyflwyno ymarfer myfyriol i’ch prosesau meddwl dyddiol.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 15
Dydd Iau 21 a Dydd Gwener 22 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Mawrth 19 a Dydd Mercher 20 Mehefin 10.00am i 3.00pm
RHYW, CYFFURIAU AC ARCHFYGIAU
CYMDEITHASEG
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Sut gallwn ni helpu cymunedau i wella’u hiechyd? Sut ydyn ni’n atal achosion o glefydau?
Bydd y cwrs hwn yn archwilio materion mewn cymdeithas trwy gymdeithaseg.
Bydd y cwrs deuddydd hwn yn eich cyflwyno i bwnc eang ac amrywiol Iechyd y Cyhoedd. Bydd y cwrs yn edrych ar dri maes allweddol Iechyd y Cyhoedd. Byddwch yn ymchwilio i sut mae Iechyd y Cyhoedd yn gysylltiedig ag amddiffyn ein hiechyd, gan edrych ar y technegau a ddefnyddir i annog pobl i fyw bywydau iachach, ac yn eich cyflwyno i’r modd y mae’r byd o’n hamgylch yn dylanwadu ar ein hiechyd.
Bydd yn cwmpasu dealltwriaeth sylfaenol o gymdeithaseg ac yn datblygu trosolwg o ddamcaniaeth gymdeithasegol. Mae’n gyflwyniad delfrydol i’r modiwl achrededig lefel 3 mewn Cymdeithaseg gyda’r bwriad o roi llwybr i’r Rhaglen Sylfaen mewn Gwyddorau Cymdeithasol yn arwain at y rhaglen radd.
Mae’r cwrs yn gyflwyniad rhagorol i’r cwrs BSc Iechyd y Cyhoedd.
16 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
Dydd Mercher 27, Dydd Iau 28 a Dydd Gwener 29 Mehefin 10.00am i 3.00pm
Dydd Llun 18 a Dydd Mawrth 19 Mehefin 10.00am i 3.00pm
DECHRAU EICH BUSNES EICH HUN
Y GWIR AM SIWGR
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
Rydych eisiau dechrau busnes, ond beth yw’r cam nesaf?
Prif nod y cwrs byr hwn yw cyflwyno mathau gwahanol o siwgr ac edrych ar dechnegau i leihau a/neu ddefnyddio rhywbeth yn lle siwgr mewn bwyd.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi i’r meysydd a’r sgiliau gwahanol sydd eu hangen arnoch er mwyn troi eich syniad yn realiti. Bydd testunau’n cynnwys: entrepreneuriaeth, astudiaeth ddichonoldeb, pennu nodau, cymorth i ddechrau arni, dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau [SWOT] a PESTEL, a’r meysydd a’r sgiliau sydd eu hangen i greu cynllun busnes. Bydd y cwrs yn un rhyngweithiol a darperir deunyddiau a fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch syniadau.
Byddwch yn edrych ar effaith siwgr ar iechyd a manteision ac anfanteision defnyddio siwgr mewn bwyd. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i amnewidion siwgr fel ffrwythau, suropau, llysiau, melysyddion a sut y gallant gael eu defnyddio yn lle siwgr neu leihau siwgr.
h
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 17
CYNLLUNIWR CWRS DEFNYDDIOL
6
I’ch helpu i gynllunio a threfnu’r cyrsiau gorau i chi, rydym wedi cynnwys cynlluniwr defnyddiol am y ddwy wythnos. Bydd hwn yn eich helpu i osgoi trefnu i fynd ar ddau gwrs y gallai eu dyddiadau gyd-daro. Cynhelir yr holl gyrsiau ar gampws Llandaf. Bydd yr holl gyrsiau yn dechrau am 10.00am ac yn gorffen am 3.00pm.
18 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
LLUN 18 Meh
MAW 19 Meh
MER 20 Meh
IAU 21 Meh
GWE 22 Meh
LLUN 25 Meh
MAW 26 Meh
MER 27 Meh
IAU 28 Meh
GWE 29 Meh
Sgiliau Academaidd Cyflwyniad i Astudiaethau Tai Y Gwir am Siwgr Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol
Iechyd yr Amgylchedd Cyflwyniad i Seicoleg Cymdeithaseg Therapïau Holistaidd Gwnïo Creadigol Cyflwyniad i Waith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol
Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cychwyn Arni mewn Newyddiaduraeth
Rhyw, Cyffuriau ac Archfygiau Menter Gymdeithasol ac Ymrymuso’r Gymuned
Cyflwyniad i Baratoi i Addysgu Sut i Greu Eich Portffolio Celf a Dylunio
Rheoli Prosiectau Digwyddiadau Asesu eich Saesneg Academaidd Sut i Wneud Cais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Dysgwyr sy’n Oedolion
Sgiliau Myfyriol Dechrau eich Busnes eich Hun
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 19
CWESTIYNAU CYFFREDIN A all unrhyw un fynychu cwrs yr Ysgol Haf?
Beth os nad wyf wedi gwneud unrhyw astudio ers cryn amser?
Gall pob oedolyn 18 oed a hŷn fynychu, ond caiff blaenoriaeth o ran lleoedd yn ein Hysgol Haf ei rhoi i’r Dysgwyr hynny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog neu’r Dysgwyr hynny sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
Nid oes disgwyl i chi ddod gydag unrhyw wybodaeth bynciol flaenorol. Mae’r cyrsiau wedi’u sefydlu ar gyfer pobl sydd wedi bod allan o addysg ers tro. Bydd tiwtoriaid profiadol yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau ac ehangu’ch gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a difyr. Bwriad y cyrsiau hyn yw rhoi blas i chi ar sut beth fyddai astudio mewn Prifysgol.
á á á á á á
heb gael cyfleoedd i fynd i mewn i Addysg Uwch o’r blaen yn hawlio Budd-daliadau’r Llywodraeth (ac eithrio Budd-dal Plant) ar incwm isel neu’n wynebu ‘tlodi mewn gwaith’ yn byw gydag Anableddau yn Ofalwyr neu’n rhywun sy’n Gadael Gofal wedi’u cyfeirio gan un o’n sefydliadau cymunedol partner neu elusennau
Beth fydd cost fy nghwrs Ehangu Mynediad yn yr Ysgol Haf? Mae pob un o’n cyrsiau Ehangu Mynediad yn yr Ysgol Haf yn RHAD AC AM DDIM.
A oes angen unrhyw gymhwyster arnaf i fynychu’r Ysgol Haf?
Ble a pha bryd y mae’r cyrsiau? Bydd pob un o’n cyrsiau yn dechrau am 10am ac yn gorffen am 3pm, a chânt eu cynnal ar ein Campws yn Llandaf. I gael rhagor o wybodaeth a chyfeiriadau ag ein campws yn Llandaf, edrychwch ar ein gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/llandaff.
A ydw i’n gallu trefnu i fynd ar fwy nag un cwrs? Gallwch fynychu mwy nag un cwrs. Fodd bynnag, cyfeiriwch at ein Cynlluniwr ar dudalen 19 i wneud yn siŵr nad yw’r cyrsiau y dymunwch eu mynychu yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Ni fydd modd i chi fynychu mwy nag un cwrs ar yr un diwrnod.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau i fynychu cyrsiau’r Ysgol Haf heblaw am y rheiny sy’n mynychu ein cwrs Sgiliau Myfyriol achrededig. I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen, man lleiaf, Gradd C TGAU mewn Iaith Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Lefel 2 cyfwerth. 20 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
Dim ond ar un o ddiwrnodau’r cwrs rwyf yn gallu mynychu. A allaf ddod o hyd? Yn anffodus, ni fyddwch yn gallu mynychu os na allwch ddod i mewn ar bob diwrnod y bydd y cwrs yn cael ei gynnal. Yn aml iawn, bydd ein cyrsiau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed y diwrnod blaenorol, ac os rhan o’r cwrs yn unig y gallwch ei fynychu, mae’n amharu ar y tiwtor a dysgwyr eraill.
Sut ydw i’n cofrestru? Gallwch gofrestru ar ein cyrsiau Ysgol Haf drwy lenwi’r Ffurflen Gofrestru ar-lein sydd ar gael yn www.cardiffmet.ac.uk/summerschool.
Beth os ydw i wedi cadw lle ar y cwrs ond yn methu mynychu erbyn hyn? Lleoedd cyfyngedig sydd ar bob un o’n cyrsiau Ysgol Haf. Os ydych wedi trefnu cadw lle ond nad ydych yn gallu mynychu mwyach, rhowch wybod i ni. Yn aml, bydd gennym restr aros o bobl sydd eisiau dod, a thrwy roi gwybod i ni ymlaen llaw nad ydych yn gallu mynychu mwyach, mae hyn yn golygu y gallwn ni gynnig eich lle iddyn nhw wedyn.
A ydw i’n gallu parcio ar y campws? Mae lleoedd parcio ar y campws yn gyfyngedig, ac os oes modd dod yma ar Drafnidiaeth Gyhoeddus, gorau oll. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gweithredu system barcio talu ac arddangos, sy’n costio £1 am barcio am hanner diwrnod a £2 am ddiwrnod cyfan. Os ydych yn bwriadu parcio ar y campws, bydd angen i chi fynd drwy’r bar atal, pwyso’r seiniwr yma a rhoi gwybod i’r dderbynfa eich bod yn mynychu cwrs Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
A yw cinio’n cael ei ddarparu? Nid oes unrhyw luniaeth yn cael ei ddarparu gyda’n cyrsiau. Fodd bynnag, mae rhai cyfleusterau arlwyo ar gael ar y campws.
I ble ddylwn i ddod ar y bore cyntaf? Adroddwch i’r Brif dderbynfa ar flaen y campws ar gyfer dechrau’r cwrs. Bydd ein llysgenhadon myfyrwyr yno i’ch croesawu, yn eich helpu i gofrestru ac yn mynd â chi i’ch dosbarth. Maent ar gael hefyd i ateb unrhyw ymholiadau a all fod gennych ynglŷn â’ch cwrs neu gyfleusterau yn y Brifysgol.
A oes angen i mi ddod ag unrhyw beth i’r cwrs? Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw beth penodol ar gyfer eich cwrs. Bydd pennau a phapur yn cael eu darparu, a bydd eich tiwtor yn darparu unrhyw adnoddau y gall fod eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs.
Os bydda’ i’n mwynhau mynychu cwrs Ysgol Haf, beth allaf wneud nesaf? Os ydych wedi mwynhau eich cwrs Ysgol Haf ac yn dymuno parhau â’ch taith ddysgu, beth am fynychu un o’n cyrsiau blasu neu gyrsiau achrededig sy’n rhedeg allan yn y gymuned. Gellir gweld manylion llawn cyrsiau sy’n rhedeg ar ein gwefan: www.cardiff met.ac.uk/wideningaccess.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 21
TELERAU AC AMODAU
CYFFREDINOL
á
á
á
á
Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â rheoliadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a cheir y manylion yn y Llawlyfr Myfyrwyr ar wefan y Brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar gopi o’r Llawlyfr Myfyrwyr ac yn darllen y polisïau a’r gweithdrefnau hyn.
á
Rhaid hysbysu aelod o staff ar unwaith am achosion o dorri neu ddifrodi eiddo Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Gall fod yn ofynnol i fyfyrwyr dalu am golli, neu ddifrod i, unrhyw lyfr, cyfarpar neu offer yn eu gofal. Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eiddo personol, a phe bai unrhyw gyfryngau digidol yn cael eu rhoi i mewn fel eiddo coll, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gael mynediad i’r ddyfais hon er mwyn rhoi’r eiddo yn ôl i’w berchennog iawn.
á
Dim ond yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 y bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi (eich data personol). Drwy gyflwyno’r cofrestriad hwn, rydych yn caniatáu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gasglu, cadw a defnyddio gwybodaeth amdanoch i weinyddu a rheoli eich rhaglen astudio ac at ddibenion eraill a bennwyd yn ein Hysbysiad ac yn yr Hysbysiad Prosesu Teg Myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Prosesu Teg Myfyrwyr. Rhaid gadael beiciau yn y rheseli neu standiau arbennig a ddarperir a’u cloi yn ddiogel.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo, atal neu addasu unrhyw raglen pe bai amgylchiadau’n mynnu hynny.
EF
22 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
YMDDYGIAD
COFRESTRU
á
á
Disgwylir i chi ymddwyn mewn modd rhesymol a threfnus bob amser, gan ystyried pobl eraill ac eiddo Prifysgol Metropolitan Caerdydd fel yr amlinellir yng Nghod Ymddygiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru naill ai cyn eu rhaglen astudio neu wrth gychwyn arni. Nid yw’r broses gofrestru wedi’i chwblhau hyd nes:
•
bod cofrestriad gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’i gwblhau yn foddhaol.
•
bod unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill wedi’u bodloni.
á
Ni chaiff unrhyw fyfyrwyr a chanddynt unrhyw ymrwymiadau ariannol sydd heb eu talu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gofrestru na derbyn unrhyw ddyfarniad gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 23
ASTUDIO YMHELLACH YM MHRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD Dim cymwysterau mynediad traddodiadol? Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal cyrsiau Sylfaen blwyddyn a allai fod yn addas i oedolion nad oes ganddynt gymwysterau mynediad traddodiadol ond mae ganddynt sgiliau a phrofiadau eraill. Gall astudio un o’r cyrsiau hyn am flwyddyn wir eich helpu i feithrin hyder a gwella’ch sgiliau. Ar ôl eu cwblhau, gallwch symud ymlaen at un o amryw o raglenni gradd a gynigir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Er na ellir gwarantu lle, gall fod yn werth i chi gysylltu â’n harweinwyr rhaglenni i sgwrsio am eich amgylchiadau unigol, a byddant yn gallu cynghori ar y camau i’w cymryd i gael mynediad i’r cwrs. Cysylltwch â’r arweinwyr rhaglenni:
Sylfaen yn arwain at BSc (Anrh) yn y Gwyddorau Iechyd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-health-sciences Dr Paul Foley pfoley@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2020 5632 Sylfaen yn arwain at BA/BSc (Anrh) yn y Gwyddorau Cymdeithasol www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-social-science Dan Heggs dheggs@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 7019
Y Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd www.cardiffmet.ac.uk/ foundation-management Lisa Wright lwright@cardiffmet.ac.uk +44(0) 29 2041 6318 Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â Thîm Derbyniadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar 029 2041 6010 neu anfonwch neges e-bost i askadmissions@cardiffmet.ac.uk
24 Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion
CYNGOR AR GYLLID A LLES MYFYRWYR
CYMORTH ANABLEDD
Mae’r Gwasanaethau Cynghori ar Gyllid a Lles Myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, ac mae’n RHAD AC AM DDIM i bob darpar fyfyriwr. Dyma rai o’r pethau y gallant eu cynnig:
á á á á á á á
Cyfweliadau un-i-un Cyngor ar gyllidebu a rheoli arian Cyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael Gwybodaeth am ffioedd a chymorth ariannol Cyngor ar fudd-daliadau tra’ch bod chi’n fyfyriwr Cyngor ar sut i wneud cais i’r Gronfa Ariannol wrth Gefn Benthyciadau brys tymor byr
Os hoffech drefnu i weld Cynghorydd Cyllid a Lles Myfyrwyr, ffoniwch 029 2041 6170 neu anfonwch e-bost i financeadvice@cardiffmet.ac.uk neu studentservices@cardiffmet.ac.uk I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/financewelfare
Mae’r Gwasanaeth Anabledd yn cydlynu cymorth i fyfyrwyr anabl ar draws y brifysgol. Ein nod yw sicrhau bod myfyrwyr anabl yn gallu cael mynediad i’w rhaglen astudio ac nad ydynt o dan anfantais o ganlyniad i anabledd neu anhawster dysgu penodol. Os oes gennych anabledd, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Weithiau, gall rhai addasiadau gymryd amser i’w trefnu, felly po fwyaf o rybudd y gallwch ei roi i ni, gorau oll. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/disability
CREFYDD Mae Caerdydd yn gartref i lawer o ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol. Gall myfyrwyr gael eu cyflwyno i grwpiau crefyddol lleol fel yr Undeb Gristnogol, y gymuned Islamaidd leol, y gymuned Sikh neu Hindŵaidd a llawer o rai eraill. Ceir amrywiaeth fawr o leoedd i addoli yng Nghaerdydd, ni waeth pa ffydd y byddwch yn ei dilyn. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae gennym nifer o gyfleusterau sy’n fannau addas wedi’u neilltuo ar gyfer myfyrdod, gweddïo neu fyfyrio. Mae gennym ystafelloedd gweddïo i ddynion a menywod Mwslimaidd ar bob campws sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr Mwslimaidd.
Ysgol Haf Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Ddysgwyr sy’n Oedolion 25
COFRESTRWCH NAWR Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB
029 2020 1563 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk @wideningaccess www.facebook.com/wideningaccess www.cardiffmet.ac.uk/summerschool