Cyrsiau Ehangu Mybediad

Page 1

Cyrsiau Ehangu Mynediad CYRSIAU AM DDIM


Man cychwyn eich siwrnai ddysgu


Cynnwys 22 33

Beth yw Ehangu Mynediad? Sut mae mynd ati i ddysgu?  

44

Dysgu yn y Gymuned Ysgol Haf

Enghraifft o'r modd y gallwch chi symud ymlaen o gyrsiau Cymunedol i astudio yn y Brifysgol 

Sut i gymhwyso ar gyfer gyrfa wrth ddefnyddio Seicoleg

6

Taith Dysgwraig

7

Sylwadau Myfyrwyr

8

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

14

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

1816 20

824 10

Ysgol Reoli Caerdydd Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd Cwestiynau Cyffredin

1


Beth yw Ehangu Mynediad? Ein nod ni ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yw sicrhau bod oedolion o unrhyw gefndir neu grŵp ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio a chael cymorth i wneud hynny. Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod pawb sydd a’r dyfalbarhad, y sgiliau a’r awydd i fanteisio ar Addysg Uwch yn gallu gwneud hynny. Rydyn ni’n gweithio i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr yn eu cymunedau eu hunain, gan dargedu’r rhai hynny sydd heb gael cyfle yn flaenorol i astudio ar lefel Addysg Uwch Efallai’ch bod wedi meddwl yn y gorffennol am ba reswm bynnag, na fyddai cwrs addysg uwch yn addas ar eich cyfer chi, rydyn ni wedi cyflwyno ystod o gyrsiau byr a luniwyd i darparu llwybr i astudio mewn Prifysgol. Byddwn yn ystyried amrediad eang o gymwysterau mynediad ar gyfer astudio’n llawn amser a rhan amser. Yn aml iawn, mbydd profiad yn golygu llawer iawn, ac rydyn ni’n ystyried cais pob unigolyn sy’n dymuno astudio gyda ni yn unigol. Ehangu Mynediad Mae gwasanaeth cynghori ar gael ‘r rhai hynny sy’n ansicr pa raglen sydd orau iddyn nhwneu os nad ydyn nhw’n gwybod a ydy eu cymwysterau cyfredol yn dderbyniol ar gyfer y cwrs o’u dewis. addas i gael lle ar y cwrs o’u dewis.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

 029 2020 1563

 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk  @wideningaccess  @wideningaccess

2


Sut mae mynd ati i ddysgu? Dysgu yn y Gymuned Ym Met Caerdydd, rydyn ni'n deall pa mor bwysig yw cydweithio’n agos â chymunedau lleol er mwyn helpu i godi dyheadau pobl ac annog y rhai sydd, efallai’n credu nad yw addysg uwch “ar eu cyfer nhw” i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Rydyn ni’n cydweithio gyda sefydliadau partner i ddod ag addysg i’r gymuned leol. Rydyn ni’n ymrwymo i weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau sy’n rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl gael blas ar ddulliau newydd o ddysgu yn eu cymunedau eu hunain. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau blasu a chyrsiau lefel 3 achrededig am ddim yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn i oedolion sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu sydd am ddatblygu eu sgiliau. Mae modd cysylltu’r cyrsiau â phynciau y gallwch eu dilyn ar lefel uwch ym Met Caerdydd wedyn. I gael enghreifftiau o’r cyrsiau yr ydyn ni’n eu cynnal ar hyn o bryd, ewch i: www.cardiffmet.ac.uk/tastercourses www.cardiffmet.ac.uk/accreditedcourses

Ysgol Haf Cynhelir Ysgol Haf Met Caerdydd bob mis Mehefin ac mae’n gyfle i oedolion roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd am ddim. Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau gwahanol am ddim ar y campws lle gallwch chi weld yr holl gyfleusterau sy ar gael pan fyddwch yn astudio ym Met Caerdydd. Mae’r cyrsiau’n cyflwyno myfyrwyr i bynciau y gallan nhw eu hystyried eu dilyn ym Met Caerdydd wedyn. Am fanylion llawn ewch i: www.cardiffmet.ac.uk/summerschool

3


Enghraifft o'r modd y gallwch chi symud ymlaen o gyrsiau Cymunedol i astudio yn y Brifysgol Ym Met Caerdydd, rydyn ni’n llunio’n cyrsiau iddyn nhw darparu blas ar bwnc penodol i'w hastudio yn y gymuned a all gynnig dilyniant ac arwain i Brifysgol. Dyma enghreifftiau o rai o’n llwybrau i mewn i Addysg Uwch:

Cyflwyniad i Seicoleg Cwrs am ddim heb ei Achredu, fel arfer yn cael ei gynnig am 2 awr yr wythnos am 5 wythnos, 10 awr o ddysgu Caiff ei gynnig yn y Gymuned ac yn ein Hysgol Haf i Oedolion. Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr pur sydd am ddysgu rhagor am Seicoleg mewn amgylchedd cyfeillgar. .

Cyflwyno’r Gwyddorau Cymdeithasol: Modiwl Seicoleg Cwrs am ddim wedi’i Achredu, fel arfer yn cael ei gynnig am 3 awr yr wythnos am 8 wythnos, 24 awr o ddysgu. Cynigir y modiwl hwn yn y gymuned Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno rhai o safbwyntiau allweddol seicoleg i fyfyrwyr, er enghraifft ymddygiad biolegol, gwybyddol a phersbectif seicodynamig. Gwarantir lle ar gwrs Lefel Sylfaen mewn Gwyddorau Cymdeithasol i’r rhai sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Cwrs Sylfaen yn arwain at gwrs BA/BSc mewn Gwyddorau Cymdeithasol Bwriad y cwrs hwn ydy ehangu mynediad a chyfranogiad i’r myfyrwyr hynny sy’n ‘dychwelyd i fyd addysg’ ac sy’n dymuno dilyn cwrs gradd Anrhydedd. Bydd y cwrs yn magu’ch hyder a’ch cymhwysedd wrth gaffael y sgiliau astudio sydd eu hangen i ddilyn cwrs gradd Anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol megis BSc (Anrh) mewn Seicoleg.

4


BSc (Anrh) Seicoleg Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu’n broffesiynol gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae’r flwyddyn gyntaf yn cyflwyno’r holl sgiliau a’r wybodaeth allweddol i’w datblygu drosdair blynedd y rhaglen lawn amser. Mae’r ail flwyddyn yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth graidd sy’n ofynnol ar gyfer achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain. Ar ben hynny, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i gael dysgu'n seiliedig ar waith yma. Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cynnal eich ymchwil eich hun yn y maes seicoleg sydd o ddiddordeb i chi a chwblhau amrediad o fodiwlau opsiynol. Drwy gydol eich astudiaethau cewch gymorth tiwtor personol wedi'i neilltuo i chi, yn ogystal â darlithwyr ymhob modiwl.

Am ragor o wybodaeth each ar: www.bps.org.uk/public/ become-psychologist

Cyflogadwyedd ar gyfer Gyrfa Rydyn ni’n cynorthwyo myfyrwyr i ennill cymaint o brofiad â posibl yn ystod eu cyfnod yn astudio gyda ni. Yn ystod yr ail flwyddyn byddan nhw’n cael cyfleoedd pellach i ennill profiad trwy fodiwl gwirfoddoli a dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn yn annog y myfyrwyr i ddefnyddio’u gwybodaeth am seicoleg mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae’r cwrs yn sylfaen delfrydol gyfer astudiaeth bellach ar gyrsiau seicoleg ôl-radd sy’n arwain at gymhwyster fel seicolegydd galwedigaethol, addysgol, clinigol, fforensig neu iechyd, a hefyd yn arwain at gyrsiau ôl-raddedig eraill fel TAR. Bydd graddedigion hefyd yn gallu dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel rheoli personél, hysbysebu, hybu iechyd a sawl maes ym myd diwydiant. Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd ewch i: www.bps.org.uk

5


Enghraifft o Daith Dysgwraig Taith Leah Es i Ysgol Uwchradd Willows gan adael gyda graddau B a C yn fy mhynciau TGAU. Es yn syth i brentisiaeth trin gwallt a gweithio tuag at NVQ lefel un, dau a thri mewn trin gwallt tra’n gweithio mewn salon. Bum yn gweithio mewn nifer o salonau ar draws Caerdydd am ddeg mlynedd. Am bump o’r rheiny, roeddwn yn driniwr gwallt symudol, yn cynnig fy ngwasanaeth i gleientiaid rheolaidd ar draws Caerdydd yn eu cartrefi eu hunain. Gan mod i'n ansicr o’r hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud, roedd hyn yn fy nal yn ôl, a dyna pam i mi fynychu Ysgol Haf Met Caerdydd, lle mae ganddyn nhw ddyddiau blasu. Ar ôl hynny fe wnes i gais i wneud AHO/TAR. Rwyf hefyd yn cadw llygaid ar fy arian ac roedd gorfod cwtogi ar oriau gwaith i wneud cwrs bob amser yn ddadl dros beidio ag astudio. Bu Cyllid Myfyrwyr yn gymorth i mi yn hyn o beth. Cychwynnais addysgu gydag ACT Training, drwy wneud fy mhrofiad gwaith yno a dangos fy mrwdfrydedd iddyn nhw. Cyn gynted â daeth swydd yn wag, fe wnes i gais yn syth a chael cynnig y swydd. Erbyn hyn, rydw i’n gweithio gydag oedolion ag anawsterau dysgu ac wrth fy modd yn mynd i’r gwaith bob dydd. Rydw i’n fy ystyried fy hun yn berson ymarferol yn hytrach nag yn unigolyn academaidd. Ces hi’n anodd ar y dechrau, ond nawr dwi ddim yn gall credu cymaint dw i wedi gwella a dwi’n synnu at fy nghynnydd. Gynt, doedd dim hyder gyda fi , pan ddechreues i ar y cwrs, roeddwn i’n rhy ofnus hyd yn oed i ddarllen yn uchel o flaen y dosbarth a nawr dwi’n sefyll o flaen grwpiau o oedolion bob dydd heb feddwl ddwywaith am y peth.

6

Roedd technoleg yn broblem arall, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu trefnu fy nhraethawd cyntaf, treuliais ddyddiau yn ceisio newid ffont a chynllun i gwrdd â’r safonau gofynnol, ond erbyn hyn, mae fy sgiliau wedi gwella'n eithriadol a dw i’n defnyddio technoleg yn ddyddiol yn fy swydd newydd. Mae tiwtoriaid Met Caerdydd ar gael bob amser, gallen i eu ffonio, anfon e-bost atyn nhw neu drefnu i gael sgwrs unrhyw bryd, maen nhw’n cynnig cymorth gwych. Mae fy nghariad yn gymorth emosiynol ardderchog, yn fy helpu i ddelio â’r strès o geisio gwneud popeth. Mae’n fy helpu i fynd fesul cam ac yn fy atgoffa ar adegau anodd pa mor bell dw i wedi cyrraedd i gyflawni fy nod. Mae fy mam-ynnghyfraith hefyd yn wych, gwnaeth hithau yr un cwrs ac mae’n addysgu TG, felly mae wedi fy helpu gyda fformatio a defnyddio technoleg oedd mor anghyfarwydd i mi. Fy nghyngor i Ddysgwyr newydd fyddai peidio â bod ofn gofyn am help, mae help ar gael bob amser. Rydw i wedi gwneud ffrindiau da ym Met Caerdydd a llwyddais i gael fy swydd cyn i mi orffen fy nghwrs hyd yn oed, a dw i’n ennill mwy o arian.


Wedi'i gyflwyno a'i ddysgu'n dda

Taswn i'n gwybod fod o cystal â hyn fyddwn i wedi gweithio'n galetach yn yr ysgol :)

Mae cwrs Ehangu Mynediad yn syniad da i arwain ac ysgogi rhai â diddordeb mewn cael gwell sgiliau a gwybodaeth

Mae'n gws da i mi fynd ymlaen i Brifysgol Met Caerdydd

Y cwrs gorau, wnes i ei fwynhau

Y cwrs yn grêt, tiwtor gwybodus gyda sgiliau personol gwych, cwrdd â phobl hyfryd - wedi fy helpu i ddewis Mae'r cwrs yn un da iawn ac yn rhoi'r hyder sydd ei angen arnoch chi i ail-afael mewn addysg

Rydyn ni angen rhagor o gyrsiau fel hyn

Sylwadau Myfyrwyr Yr hyn oedd gan ein myfyrwyr i ddweud am ein cyrsiau O mam bach! Diolch fil i chi. Rwy'n teimlo'n wych ac wedi synnu, Oooo rwy'n mynd i'r Brifysgol :)

Diolch am wneud yr amhosibl yn bosibl. Wedi gwir fwynhau'r cwrs, treuni na fyddai modd ei ymestyn. Mi hoffwn wneud hyn eto - diolch

Tiwtor ffantastig, llawn cefnogaeth, wedi dysgu pethau newydd Rydw i wedi gwir fwynhau'r cwrs

Mae wedi newid fy mywyd a'm ffordd o feddwl

Cwrs gwych. Tiwtoriaid ardderchog. Lleoliad hawdd mynd iddo. Cludiant hwylus.

7


YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD Cwrs Blasu heb ei achredu

Aromatherapi

Y N A R WA I N AT

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i aromatherapi a gwahanol briodweddau’r olewau. Byddwch yn dysgu rhai technegau ymarferol a sut i roi triniaeth syml tylino’r llaw a’r fraich.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Therapïau Cyflenwol Bydd y cwrs rhagarweiniol hwn yn cynnig trosolwg i chi o’r Therapïau Cyflenwol gyda gwybodaeth mwy penodol am rai o’r gwahanol therapïau sydd ar gael ynghyd â’u manteision. Byddwch yn dysgu sut i weithredu triniaeth syml fel grŵp.

Y N A R WA I N AT

Bydd rhagarweiniad sylfaenol i Aromatherapi, Tylino Holistig ac Adweitheg. Bydd y cwrs yn gymysgedd o theori sylfaenol a chymhwysiad ymarferol a’i nod ydy bod yn bleserus, yn hwyl ac yn ysgogol!

Cyrsiau Blasu/ Rhagarweiniol heb eu hachredu

Modiwlau wedi’u hachredu Lefel 3 - 10 credyd

Rhaglen Sylfaen

Cyrsiau Gradd

Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda statws ymarferydd) BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol (yn cynnwys Sylfaen) Adweitheg CEA3001 Aromatherapy

Anatomeg & Ffisioleg Complementary Therapies

Diploma mewn Gofal Iechyd Cyflenwol (DipHE)

ac CEA3002

Sylfaen yn arwain at BSc mewn Gwyddorau Iechyd

(mae angen astudio’r rhain gyda’i gilydd)

Dyfarniad Parhaus mewn Aromatherapi Dyfarniad Parhaus mewn Tylino Holistig Dyfarniad Parhaus mewn Adweitheg

8

YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD


I astudio unrhyw gwrs Achrededig mae angen o leia TGAU Saesneg Gradd C neu gyfwerth Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Anatomeg a Ffisioleg CEA3002

Adweitheg CEA3001 Rhaid astudio hwn gydag Anatomeg a Ffisioleg (CEA3002). Byddwch yn astudio:

Rhaid astudio hwn gydag Adweitheg (CEA3001). Byddwch yn:

Ymdrin a strwythur a swyddogaeth y system ysgerbydol, system gyhyrol, system endocrin, system resbiradol, system dreulio, system wrinol, system genhedlu, system cylchrediad gwaed, system lymffatig a system y pilyn. Bydd dysgwyr sy'n pasio'r modiwlau hyn yn cael cynnig cyfweliad ar gyfer y Rhaglen Sylfaen.

YNGHYD Â

Datblygu gwybodaeth am y corff dynol mewn perthynas â thriniaeth therapi cyflenwol.

Theori Tylino Adweitheg, hanes tarddiad ac esblygiad Adweitheg a Theori Cylchfa ynghyd â theorïau cyfredol. Y gyfraith ac ymarfer proffesiynol. Gwaith ymarferol ar y mannau adweithiol, siartiau, cylchfeydd a thraws adweithio a gwrthrybuddion a rhybuddion. Strwythur syldfaenol anatomegol mewn perthynas â mannau adweithiol ar y traed. Hyfforddiant ar waith ymarferol ar y traed, gyda gofal y traed a dangosyddion straen. Bydd angen i'r myfyrwyr wneud astudiaethau achos a thriniaethau wedi eu cofnodi. Bydd dysgwyr sy'n pasio'r modiwlau hyn yn cael cynnig cyfweliad ar gyfer y Rhaglen Sylfaen.

Y N A R WA I N AT

BSc Sylfaen mewn Gwyddorau Iechyd

Y N A R WA I N AT

BSc (Anrh) Gofal Iechyd Cyflenwol (gyda statws ymarferydd) YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD

9


Cwrs Blasu heb ei achredu

Iechyd yr Amgylchedd Oes gennych chi ddiddordeb mewn Iechyd a Llesiant? Ydych chi'n holi sut gallwn ni ddylanwadu ar ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig i wneud y gorau o'r ddau? Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i bum maes Ymarfer Iechyd yr Amgylchedd: Diogelwch Bwyd, Yr Amgylchedd Adfeiliedig, Rheoli Llygredd, Iechyd a Diogelwch a Iechyd y Cyhoedd. Bydd y cwrs hwn yn ystyried rolau rhagweithiol ac adweithiol swyddogion proffesiynol iechyd yr amgylchedd ac fe'i cynlluniwyd i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth ynghyd â'r wybodaeth fyddwch chi'n ei gaffael.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Yn ysod y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd diddorol sydd ar gael o fewn maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cewch gipolwg ar y deddfau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghyd â rhagarweiniad i sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn partneriaeth ac ymarfer proffesiynol.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Bwyta’n Iach / Coginio ar Arian Bach Lluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno’r cysyniad o Fwyta’n Iach ar gyfer yr holl deulu a sut i oresgyn rhai o’r problemau y gallan nhw fod yn eu hwynebu. Cwrs ymarferol ydy hwn yn bennaf gyda sesiynau ymarferol yn y gegin y rhan fwyaf o'r wythnosau. Fe'i lluniwyd hefyd i sbarduno trafodaeth grŵp a chaiff ei deilwra i ateb anghenion pob grŵp penodol.

10

YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD


Cwrs Blasu heb ei achredu

Astudiaethau Tai Pam na allwn ni godi mwy o dai? Beth ydy Diwygio Lles? Beth mae’r newidiadau newydd i fudd-daliadau yn ei olygu i mi? Mae’r cwrs hwn yn bwrw golwg ar faterion tai cyfredol yng Nghymru, a sut gall pobl leol ymdrin a thai yn eu cymunedau ac fel gyrfa. Mae tai yn sector sydd ar gynnydd ac un sy’n cynnig ystod o yrfaoedd diddorol gyda llawer o wahanol swyddi a llawer o gyfleoedd. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i denantiaid a phreswylwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, i oedolion sydd yn ystyried dychwelyd i fyd addysg neu newid gyrfa neu i unrhywun sy’n dymuno datblygu sgiliau newydd. Mae llawer o gyfleoedd yn bodoli yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol lle gallwch weithio a gwirfoddoli mewn meysydd megis cyngor ar dai, cymorth tai, atal digartrefedd a chyfranogiad tenantiaid. Mae croeso i unrhywun â diddordeb mewn tai ac ymglymu yn eu cymuned ymuno.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Ymfudo a Globaleiddio Beth ydyn ni wir yn gwybod am ymfudo? Bu’n rhan o hanes dynoliaeth ers cyn yr adeg Beiblaidd, ond gall ymfudo heddiw greu cythrwfl a chasineb. Bydd y cwrs hwn yn ystyried y rheswm pam fod pobl yn mudo o un wlad i’r llall, a allan nhw fyth ddychwelyd ‘adref’ a’r goblygiadau i’r ymfudwyr, y mannau y maen nhw’n eu gadael a’r mannau y maen nhw’n cyrraedd.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Cyflwyniad i Seicoleg Mae seicoleg yn bwnc hynod o amrywiol sy’n apelio at lawer o bobl. Ar y cwrs hwn cewch gyflwyniad i astudio seicoleg drwy ystyried rhai o brif feysydd y pwnc megis ymddygiad cymdeithasol pobl, datblygiad plant a deall yr ymennydd er mwyn deall ymddygiad. Byddwn hefyd yn cyflwyno’r mathau o ddulliau y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i deall ymddygiad pobl. Bydd pob gweithdy yn cynnwys darlithoedd bach yn ogystal â gweithgareddau ymarferol er mwyn dod i ddeall sail ymchwil seicoleg.

YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD

11


Cwrs Blasu heb ei achredu

Cymdeithaseg Bydd y cwrs hwn yn ystyried problemau cymdeithas drwy gymdeithaseg. Bydd yn delio â dealltwriaeth sylfaenol o gymdeithaseg a datblygu trosolwg o theori cymdeithaseg.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Y Gwir am Siwgr Prif nod y cwrs byr hwn ydy cyflwyno’r gwahanol fathau o siwgr ac ystyried technegau i leihau a/neu ddisodli siwgr mewn bwyd. Byddwch yn ystyried effaith siwgr ar iechyd a manteision ac anfanteision defnyddio siwgr mewn bwyd.

Y N A R WA I N AT

Cyflwynir myfyrwyr i amnewidion siwgr megis ffrwythau, suropau, llysiau, melysyddion a sut gallan nhw eu hamnewid neu leihau siwgr.

You can progress from all taster courses onto accredited modules Cyrsiau Blasu/ Rhagarweiniol heb eu hachredu

Modiwlau wedi’u hachredu Lefel 3 - 10 credyd

Rhaglen Sylfaen

Cyrsiau Gradd

Iechyd Amgylcheddol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bwyta’n iach/ Coginio ar arian bach Astudiaethau Tai Ymfudo a Globaleiddio Seicoleg

Cymunedau a iechyd SCM3005 Seicoleg CEA3009

Cwrs Sylfaen yn arwain at BA/BSc mewn Gwyddorau Cymdeithasol

Cymdeithaseg CEA3010

Cymdeithaseg Y Gwir am Siwgr

12

YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD

BSc (Anrh) mewn Iechyd Amgylcheddol HND/BSc (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol BSc (Anrh) mewn Seicoleg


I astudio unrhyw gwrs Achrededig mae angen o leia TGAU Saesneg Gradd C neu gyfwerth Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Cymunedau a Iechyd SCM3005

Seicoleg CEA3009

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rol(au) proffesiynol statudol ac anstatudol yn y gymuned, gan edrych ar y sgiliau angenrheidiol i ddeall y rolau proffesiynol ym meysydd tai, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a phobl broffesiynol byd iechyd.

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o safbwyntiau allweddol seicoleg, er enghraifft: persbectif biolegol, gwybyddol, ymddygiadol a seicodeinamig.

Bydd dysgwyr sy'n pasio'r asesiad ar y modiwl hwn yn cael cynnig cyfweliad ar gyfer y cwrs Sylfaen mewn Gwyddorau Cymdeithasol.

Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Hefyd, bydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r modd mae'r safbwyntiau hyn yn berthnasol i seicoleg cymdeithasol. Bydd y modiwl achrededig hwn yn archwilio meysydd megis yr hunan, dylanwadau cymdeithasol, rhagfarn a gwahaniaethu ac ymddygiad cymdeithasol a gwrth-gymdeithasol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn dangos sut gall eglurhad damcaniaethol yn y meysydd uchod gael eu cymhwyso i sefyllfaoedd y byd go iawn; bydd hefyd yn dangos fel bydd y ddisgyblaeth yn cysylltu gyda'r modiwlau eraill o fewn y Brifysgol, megis iechyd a gofal cymdeithasol, cymdeithaseg a gwaith ieuenctid a chymunedol. Bydd dysgwyr sy'n pasio'r asesiad yn y modiwl hwn yn cael cynnig lle ar y Cwrs Sylfaen mewn Gwyddorau Cymdeithasol.

Y N A R WA I N AT Cymdeithaseg CEA3010 Mae Cymdeithaseg yn astudiaeth o'r byd cymdeithasol a'r modd mae'n effeithio arnon ni fel unigolion (ac, yn ei dro, fel rydyn ni'n ceisio dylanwadu ar y byd o'n cwmpas). Bydd y cwrs hwn yn edrych ar anghyfartaledd mewn cymdeithas drwy lens gymdeithasegol. Bydd yn dangos perthnasedd cymdeithaseg i elfennau o fywyd dyddiol, megis addysg, dosbarth cymdeithasol a chrefydd. Treuliwch ddeuddydd ymhlith ein meddylwyr mwyaf a chewch weld y byd meawn golau cwbl wahanol. Bydd dysgwyr sy'n pasio'r asesiad ar y modiwl hwn yn cael cynnig cyfweliad ar gyfer y Cwrs Sylfaen mewn Gwyddorau Cymdeithasol.

Syflaen: BA/BSc Gwyddorau Cymdeithasola

Y N A R WA I N AT

Cyrsiau Gradd yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

YSGOL CHWARAEON A GWYDDORAU IECHYD CAERDYDD

13


YSGOL GELF A DYLUNIO CAERDYDD Cwrs Blasu heb ei achredu

Celf i Ddechreuwyr / Celf Canolradd Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau lluniadu, paentio a’ch sgiliau gwneud. Byddwch yn gweithio ar eich pen eich hun a chydweithio ag eraill i greu darnau cyffrous o gelf cyfoes a gweithio gydag ystod o offer celf a dulliau o fynd ati i greu celf er mwyn datblygu darnau o gelf gorffenedig. Byddwch yn dysgu am amrediad o artistiaid y mae eu gwaith yn berthnasol i’r darnau celf sy’n cael eu creu. Rydyn ni hefyd yn cynnig cwrs portffolio celf a fydd yn rhoi gwybodaeth i’r rhai hynny sy’n dymuno casglu portffolio o’u gwaith i’w ddangos wrth wneud cais am gael eu derbyn ar gyrsiau celf ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Ffotograffiaeth Gyda neu Heb Gamera Methu fforddio camera ac yn credu na all eich ffôn symudol dynnu llun boddhaol? Ystyriwch eto. Mae’r cwrs hwn ar gyfer dechreuwyr yn edrych ar yr elfennau sylfaenol mewn cyfansoddiad ffotograffig, i’ch helpu dynnu lluniau gwell a nodi’r hyn sy’n gwneud llun yn ddeniadol. Bydd yn eich helpu chi i ddeall yr offer, y camera diweddaraf neu'r camera ar eich ffôn. Cwrs i ddechreuwyr ydy hwn ac yn gyflwyniad i bwnc celf a dylunio.

Y N A R WA I N AT

Cwrs Blasu heb ei achredu

Gwnïo / Trawsnewid gyda Phwythau Bydd y gweithdy hwn yn ystyried gwahanol swyddogaethau a gosodiadau y peiriant gwnïo pan gewch gyfle i samplo gwahanol semau, hemiau a dartiau. Edrychwn ar batrymau sylfaenol a mesur am well ffit. Yna, byddwn yn defnyddio’r sgiliau hyn i newid a ffitio dillad sydd eisoes yn bodoli neu eu diweddaru neu eu trawsnewid yn rhywbeth newydd. Mae’r cwrs wedi’i anelu at ddechreuwyr a’r rhai sydd angen gwella’u sgiliau ond croesewir pob lefel. Darperir peiriannau ond gallwch ddod â’ch peiriant eich hun os dymunwch.

14

YSGOL GELF A DYLUNIO CAERDYDD


Cyrsiau Blasu/ Rhagarweiniol heb eu hachredu

Dilyniant

Celf i Ddechreuwyr / Celf Canolradd Ffotograffiaeth gyda neu heb Gamera Gwnïo / Trawsnewid gyda Phwythau

Sut i Lunio'ch Portffolio Celf a Dylunio (modiwl heb ei achredu ydy hwn)

Rhaglen Sylfaen

Cyrsiau Gradd

BA (Anrh) Animeiddio BSc (Anrh) Dylunio a Thechnoleg Pensaernïol BA (Anrh) Dylunydd: Gwneuthurwr BA (Anrh) Serameg BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn BA (Anrh) Celf Gain BA (Anrh) Cyfathrebu Graffig BA (Anrh) Darlunio BA (Anrh) Cynllunio Cartref BA/BSc (Anrh) Dylunio Cynnyrch BA (Anrh) Tecstilau

Sylfaen (Celf a Dylunio) drwy Goleg Penybont, (wedi'i leoli yn yr Academi Gelf, Stryd Trade, Caerdydd) neu Fynediad uniongyrchol i gwrs Israddedig

Cwrs Blasu heb ei achredu

Sut i Lunio’ch Portffolio Celf a Dylunio P’un ai’ch bod am symud ymlaen i gwrs sylfaen Celf a Dylunio, astudio ymhellach yn y maes creadigol neu am greu corff o waith ar gyfer eich gwaith proffesiynol eich hun, bydd y sesiwn hwn ar lunio portffolio yn eich helpu i uwchraddio’ch sgiliau. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau sy’n cynnwys syniadau am gynllunio tudalennau, gorffen a golygu’ch gwaith. Dewch ag un neu ddau o ddarnau o waith gyda chi, 2D yn ddelfrydol ond croesewir darnau 3D hefyd. Gallai fod yn ddarn arbrofol neu’n ddarn terfynol neu hyd yn oed fraslyfr llawn o luniadau yr hoffech eu dangos yn eich portffolio. Byddwn yn gweithio gyda chi i'ch rhoi ar ben y ffordd i gychwyn eich portffolio!

Y N A R WA I N AT Sylfaen: Celf a Dylunio

NEU

Cwrs Is-raddedig

Y N A R WA I N AT Cyrsiau Gradd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd YSGOL GELF A DYLUNIO CAERDYDD

15


YSGOL REOLI CAERDYDD Cwrs Blasu heb ei achredu

Cynllunio Digwyddiad Bydd y cwrs hwn yn ystyried holl elfennau trefnu digwyddiad gan gynnwys: Atebolrwydd cyhoeddus, yswiriant, cerddoriaeth, codi a chario, iechyd a hylendid.  

Cynllunio’r Digwyddiad Problemau ac ystyriaethau

 

Cael y niferoedd Cynnal y Digwyddiad

Gwerthuso

Cwrs Blasu heb ei achredu

Cyllid Islamaidd Cwrs byr pum wythnos yn delio â ‘Hanfodion Cyllid Islamaidd’, cwrs sy’n cynnig cipolwg ar gyfraith Islamaidd, yr egwyddorion a’r gwaharddiadau a ddefnyddir mewn contractau ariannol Islamaidd. Mae’n cynnig cipolwg i ddechreuwyr o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau cyfredol sydd ar gael yn y marchnadoedd ariannol. Bydd yn datblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau ar gyfer cael eich cyflogi neu ar gyfer astudiaeth bellach.

Cwrs Blasu heb ei achredu

TG ar gyfer Gwaith / Sgiliau Cyfrifiadurol Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd i’r cyfranogwyr i gynhyrchu dogfennau syml gan ddefnyddio adnodd prosesydd geiriau ac ymgyfarwyddo â’r bysellfwrdd. Bydd cyfleoedd i gael mynediad i’r rhyngrwyd yn rhoi cyfle i'r dysgwyr i defnyddio’r cyfrifiadur ymhellach tu allan i’r ystafell ddosbarth ac i chwilio am swyddi ar-lein.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Sgiliau ar gyfer Busnes Gwyddoch eich bod am gychwyn busnes ond beth ydych chi’n ei wneud nesaf? Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y gwahanol feysydd a rhoi'r sgiliau y byd angen arnoch chi i wireddu’ch syniad. Ymhlith y pynciau a astudir mae: entrepreneuriaeth, astudiaeth dichonolrwydd, gosod targedau, cymorth i gychwyn busnes, dadansoddiad SWOT a PESTEL a’r meysydd a’r sgiliau sydd eu hangen i greu cynllun busnes. Bydd y cwrs hwn yn un rhyngweithiol a darperir deunyddiau a fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch syniadau.

16

YSGOL REOLI CAERDYDD


Cwrs Blasu heb ei achredu

Cyflwyniadau Pwerus Bydd hwn yn cyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen i lunio cyflwyniad effeithiol yn defnyddio PowerPoint.  

Cynllunio sleidiau i greu cyflwyniad

Creu meistr-sleid

Dewis y lliwiau cefndirol mwyaf

Dewis trawsnewidiadau sleid effeithiol

effeithiol

Dewis yr arddull a maint y ffontiau mwyaf effeithiol

Mewnosod delweddau ac addasu gwrthrychau

Creu effeithiau a thrin sleidiau

Mewnosod graffeg gydag effeithiau

Yna, bydd y cyfranogwyr yn ystyried y sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno’u cyflwyniad yn hyderus i gynulleidfa.

Cyrsiau Blasu/ Rhagarweiniol heb eu hachredu

Cynllunio Digwyddiad Cyllid Islamaidd TG ar gyfer gwaith / Sgiliau Cyfrifiadurol Cyflwyniadau Pwerus Sgiliau ar gyfer Busnes

Modiwlau wedi’u hachredu Lefel 3 - 10 credyd

Rhaglen Sylfaen

Cyllid Islamaidd SCM3003 Sgiliau Trosglwyddadwy ar gyfer Busnes CEA3033 Sgiliau Adfyfyriol SCM3004

Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd

Cyrsiau Gradd

BA (Anrh) Cyfrifeg BSc (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid BA (Anrh) Busnes a Rheoli (gyda llwybrau arbenigol) BA (Anrh) Economeg Busnes BA (Anrh) Systemau Gwybodaeth Busnes BSc (Anrh) Cynllunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol BSc (Anrh) Gwyddor Cyfrifiaduron BSc (Anrh) Economeg BA (Anrh) Rheoli Digwyddiadau BSC (Anrh) Rheoli Marchnata Ffasiwn BA (Anrh) Rheoli Busnes Rhyngwladol BSc/BScEcon (Anrh) Economeg a Chyllid Rhyngwladol BA (Anrh) Rheoli Lletygarwch Rhyngwladol (gyda llwybrau arbenigol) BA (Anrh) Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol (gyda llwybrau arbenigol) BA (Anrh) Rheoli Marchnata

YSGOL REOLI CAERDYDD

17


Gallwch symud ymlaen o bob cwrs blasu i fodiwlau achrededig. I astudio unrhyw gwrs Achrededig, gofynnir am o leiaf TGAU Saesneg Gradd C neu gyfwerth

Y N A R WA I N AT Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Islamic Finance CEA3003 This course introduces students to the basic principles of Islamic Finance and the overview of some of the current financial products and services offered by the financial institutions. The course provides the learners with an opportunity to develop a broad understanding of the basic Islamic Financial principles, its ethical, social and economic objectives, major prohibitions and main contracts that govern the Islamic Financial products and services. You will gain an appreciation of the ethical value proposition and the overall differences between the conventional finance and Islamic Finance.

NEU Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Sgiliau Trosglwyddadwy ar gyfer Busnes CEA3003 Lluniwyd y modiwl hwn i gyflwyno’r sgiliau y bydd eu hangen ar y cyfranogwyr o ddydd i ddydd yn eu bywydau yn ogystal yn eu gwaith. Yn gynyddol, ystyrir bod y “sgiliau meddalach” hyn yn elfen hanfodol i gyflogai yn yr unfed ganrif ar hugain. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud y canlynol: Deall cysyniadau personoliaeth, canfyddiad, ysgogiad a deinamig grŵp a’u dylanwad ar agweddau unigolion a chyflogadwyedd. Trafod rolau a chyfrifoldebau unigolion o ran sgiliau arweinyddiaeth, sgiliau, gosod targedau a phennu amcanion tra’n cydnabod anghenion, disgwyliadau ag agweddau unigolion. Amlinellu a dadansoddi’r broses gyfathrebu sy’n digwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd a sut y gellir defnyddio hyn mewn sefyllfaoedd datrys problemau ymarferol. Ystyried sut gall ymddygiad grŵp a phrosesau tîm effeithio ar unigolion a chwmnïau. Sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, ymwybyddiaeth o ddiwylliant a rheoli amser wrth weithio mewn grwpiau. Caiff dysgwyr sy’n pasio’r asesiad ar y modiwl hwn gynnig cyfweliad ar y Rhaglen Sylfaen yn yr Ysgol Reoli a fydd yn arwain at y Rhaglen Is-raddedigion yn yr Ysgol Reoli.

18

YSGOL REOLI CAERDYDD


NEU Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Reflective Skills SCM3004 Addysgir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Chanolfan y Brifysgol ar Addysg Seiliedig ar Waith. Cewch eich asesu drwy bortffolio adfyfyriol y Brifysgol sy’n golygu y bydd disgwyl i chi gadw log/dyddiadur adfyfyriol a datblygu adroddiad adfyfyriol ar sail profiad dysgu a gawsoch, er enghraifft, ystyried cwrs blasu Ehangu Mynediad arall yr ydych wedi’i fynychu. Mae adfyfyrio yn dechneg sy’n helpu i atgyfnerthu'r dysgu sydd wedi digwydd. Mae’n adnodd pwerus iawn ar gyfer hunanddatblygiad ac i wella dysgu. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall yr hyn ydy adfyfyrio a sut i’w ddefnyddio i ddatblygu’ch datblygiad personol a phroffesiynol chi eich hun, mae’n eich cynorthwyo i allu ysgrifennu yn adfyfyriol ac yn rhoi technegau i chi allu cyflwyno arferion adfyfyriol i mewn i’ch prosesau meddwl dyddiol.

Y N A R WA I N AT

Rhaglen Sylfaen: Ysgol Reoli Caerdydd

Y N A R WA I N AT

Cyrsiau Gradd yn Ysgol Reoli Caerdydd YSGOL REOLI CAERDYDD

19


YSGOL ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAERDYDD Cwrs Blasu heb ei achredu

Athroniaeth Gymunedol Mae athroniaeth Gymunedol neu ‘athroniaeth lefel sylfaenol’ yn ymarfer sefydledig lle bydd hwylusydd yn defnyddio model o drafodaeth athronyddol yn seiliedig ar ddull Socrates o ‘community of enquiry’ i drefnu trafodaeth grŵp i ystyried cwestiynau mawr bywyd. Mae athroniaeth gymunedol yn ymwneud â’r broses o athronyddu. Mae ganddo rôl yn y gymuned ac ym maes dysgu yn y gymuned lle mae grwpiau yn dod at ei gilydd i drafod cwestiynau mawr bywyd. Cafodd ei ddefnyddio’n llwyddiannus fel model i helpu rhai grwpiau i bontio i mewn i brif lif cymdeithas – mae hyn wedi cynnwys chwaraewyr elit proffesiynol, carcharorion a phobl ag anghenion iechyd meddyliol.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Ysgrifennu Creadigol / Ysgrifennu am Hwyl Ydych chi erioed wedi dymuno ysgrifennu’ch stori eich hun? Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a’r rhai hynny sydd am fireinio’u sgiliau.

Y N A R WA I N AT

Byddwch yn dysgu am hanfodion straeon byrion a barddoniaeth. Byddwch yn dadansoddi gwahanol 'genres' a gwneud ymarferion ysgrifennu a luniwyd i’ch addysgu mewn hanfodion ffurf, disgrifiad, cymeriadaeth, delweddaeth a llais. Byddwch yn dysgu’r sgiliau i greu’ch barddoniaeth a’ch straeon eich hun tra’n dysgu sut i ddatblygu’ch llais ysgrifennu eich hun.

Cwrs Blasu heb ei achredu

Cychwyn arni ym maes Newyddiaduraeth Mae’r cwrs blasu hwn yn cyflwyno’r grefft o ysgrifennu erthyglau newyddion ac erthyglau nodwedd. Nod y cwrs ydy darparu dealltwriaeth sylfaenol o ysgrifennu yn y ddwy arddull newyddiadurol hyn. Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o erthyglau newyddion a nodwedd ac ystyried arddulliau, cynnwys a chanllawiau ‘sut i wneud’ o’r cyfnod syniadau i’r cyfnod ysgrifennu’r erthygl. Caiff myfyrwyr y cyfle i arbrofi gyda’r arddull hon a darganfod eu llais fel ysgrifenwyr. 20

YSGOL ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAERDYDD


Cyrsiau Blasu/Rhagarweiniol heb eu hachredu

Modiwlau Achrededig Lefel 3-4

Cyrsiau Grad Lefel 4-7

Strengthening School Governance CEA4025 (level 3) Cryfhau Trefn Lywodraethol Ysgol CEA4025 (lefel 3) Athroniaeth Gymunedol Ysgrifennu Creadigol / Ysgrifennu am Hwyl Cychwyn arni ym maes Newyddiaduraeth

AHO / TAR

Addysgu Oedolion SCM3006 (lefel 3) Ysgrifennu Straeon CEA4024 (lefel 4) Ysgrifennu Barddoniaeth CEA4025 (lefel 4) Newyddiaduraeth - Nodwedd CEA4027 (lefel 4)

BA (Anrh) Ysgrifennu Creadigol a'r Cyfryngau Cyrsiau Addysg Is-raddedig Drama ac Ysgrifennu Creadigol

Newyddiaduraeth - Newyddion CEA4026 (lefel 4)

Gallwch symud ymlaen o bob cwrs blasu i fodiwlau achrededig eraill. I astudio ar gwrs Achrededig, mae angen lleiafswm o TGAU Saesneg Gradd C neu gyfwerth Modiwl Achrededig - Lefel 4 10 Credyd Prifysgol

Ysgrifennu Straeon CEA4024 Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr feithrin eu sgiliau ysgrifennu creadigol eu hunain trwy gyfrwng gweithdai sy'n seiliedig ar dasgau ymarferion ac asesiadau. Mae'r cwrs yn gyflwyniad da i bobl a fyddai'n hoffi astudio ar gyrsiau Is-raddedig Saesneg megis Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

NEU Modiwl Achrededig - Lefel 4 10 Credyd Prifysgol

Ysgrifennu Barddoniaeth CEA4025 Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r broses o greu casgliad o gerddi a, thrwy hynny, wneud penderfyniadau golygyddol. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu, drafftio a myfyrio ar eu gwaith eu hunain a barddoniaeth pobl eraill. Ein nod hefyd ydy ehangu gwybodaeth a gallu myfyrwyr er mwyn iddyn nhw ddefnyddio ffurfiau gwahanol o farddoniaeth. Mae’n gyflwyniad da i bobl a fyddai’n hoffi astudio cyrsiau Is-raddedig Saesneg megis Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

YSGOL ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAERDYDD

21


NEU Modiwl Achrededig - Lefel 4 10 Credyd Prifysgol

Cychwyn arni ym maes Newyddiaduriaeth Nodwedd CEA4027 Cychwyn arni ym maes Newyddiaduriaeth Newyddion CEA4026 Prif nod y cwrs byr hwn ydy cyflwyno'r sgiliau allweddol mewn ymchwilio a newyddiaduriaeth ysgrifennu. Cewch archwilio sut i strwythuro, ysgrifennu a ffurfio erthygl nodwedd a chael profiad ymarferol o gasglu ffeithiau, sut i ganfod storïau a sut i olygu copi. Mae hwn yn gyflwyniad i bobl hoffai astudio ar y cyrsiau Saesneg Is-raddedig megis Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Y N A R WA I N AT Cyrsiau Gradd yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

I astudio ar gwrs Achrededig mae angen o leiaf TGAU Saesneg Gradd C neu gyfwerth Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Cryfhau Trefn Lywodraethol Ysgolion CEA4025 Ydych chi'n Llywodraethwr Ysgol hoffai wella eich gwybodaeth a'ch hyder yn eich rôl neu ydych chi'n ystyried bod yn Llywodraethwr Ysgol? Mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd gallwn gynnig gwrs 12 awr achrededig AM DDIM ar lefel 3.

Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Addysgu Oedolion SCM3006 Nod y cwrs hwn ydy codi dyheadau a chymell myfyrwyr sydd â diddordeb mewn addysgu fel proffesiwn. Mae'r cwrs yn codi ymwybyddiaeth am y sgiliau sydd eu hangen i fod yn athro/athrawes oedolion effeithiol ac i ysgogi myfyrwyr. Mae'n edrych ar swyddogaethau a chyfrifoldebau tiwtor addysg oedolion, addysgu effeithiol a dulliau dysgu a steiliau dysgu. Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio a gwneud cyflwyniad ar ddiwedd y cwrs ar gyfer yr asesiad.

Y N A R WA I N AT Sylfaen: Paratoir i Addysgu - Lefel 4

22

YSGOL ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAERDYDD

Cwrs Gradd AHO / TAR


Cwrs Blasu heb ei achredu

Rhagarweiniad i Addysg Ieuenctid a Chymunedol Mae mwy a mwy o bobl yn awyddus i wneud y gwahaniaeth yn eu cymunedau ond heb fod â'r wybodaeth sut mae gwneud hynny. Cynlluniwyd y cwrs hwn fel rhagarweiniad i'r rhai hynny sy'n dymuno cael hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a'r rhai hoffai wybod mwy am astudio yn y maes hwn. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n caru eu cymuned ac am wybod rhagor, ac mae hefyd yn dda i weithwyr ieuenctid a chymunedol heb fawr o brofiad blaenorol o astudio. Ymhlith y themâu a ddatblygir o fewn y cwrs bydd: dysgu drwy brofiad, ymdopi mewn amgylchedd newydd a dod i ddeall eraill. Bydd y cwrs hwn yn rhoi mewnwelediad i'r rolau a'r sgiliau sydd eu hangen gan rai sy'n gweithio â phobl ifanc yn y gymuned. Byddwch yn dynodi ac asesu gwahanol gymunedau ac yn diffinio cysyniadau am ieuenctid a phobl ifanc.

Y N A R WA I N AT I astudio ar gwrs Achrededig mae angen o leiaf TGAU Saesneg Gradd C neu gyfwerth Modiwl Achrededig - Lefel 3 10 Credyd Prifysgol

Addysg Ieuenctid a Chymunedol CEA3002 Mae'r cwrs hwn yn eich helpu i adnabod y rolau a'r sgiliau sydd eu hangen ac i weithredu'r egwyddorion sy'n tanategu gwaith ieuenctid a chymunedol. Byddwch yn dynodi ac asesu gwahanol gymunedau ac yn diffinio cysyniadau am ieuenctid a phobl ifanc. Caiff dysgwyr sy'n pasio'r asesiad ar y modiwl hwn gynnig cyfweliad i gael lle ar gwrs Tystysgrif Sylfaen Ieuenctid a Chymunedol sy'n arwain at radd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Tystysgrif Sylfaen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Cyrsiau Blasu/ Rhagarweiniol heb eu hachredu

Modiwlau wedi’u hachredu Lefel 3 - 10 credyd

Cwrs sylfaen

Cyrsiau Gradd

Rhagarweiniad i Addysg Ieuenctid a Chymunedol

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol CEA3014

Tystysgrif Sylfaen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

BA ((Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

YSGOL ADDYSG A PHOLISI CYMDEITHASOL CAERDYDD

23


Cwestiynau cyffredin

24


Beth yw cost astudio ar gyfer y modiwlau achrededig a rhai heb eu hachredu? Mae'r cyfan o'n modiwlau Ehangu Mynediad sydd heb eu hachredu a'r rhai achrededig am ddim.

Fydda i angen cymwysterau blaenorol? Cyrsiau blasu heb eu hachredu Nid oes angen cymwysterau i fynychu'r cyrsiau blasu heb eu hachredu. Modiwlau Achrededig Byddwch angen o leiaf TGAU Saesneg Iaith ar lefel C neu uwch neu gyfwerth i fynychu'r modiwlau achrededig. Bydd angen i chi hefyd fynychu pob sesiwn, gan ei bod yn hanfodol i chi gael presenoldeb sydd o leiaf yn 80% i basio.

Beth fydd fy nghwrs yn ei olygu? Mae'r cyrsiau hyn ar gyfer myfyrwyr sydd â bywydau prysur ac ymrwymiadau blaenorol, megis gwaith neu gyfrifoldebau teuluol. Rydyn ni'n cynllunio'r amseroedd i ffitio o gwmpas amseroedd cludo i'r ysgol a chasglu oddi yno ac i ffitio'ch amserlen bresennol. Bydd angen i chi gyflawni gwaith megis traethodau, adroddiadau neu wneud ymchwil tu allan i'r ystafell ddosbarth. Gall hyn gynnwys pob math o bethau megis darllen a chymryd nodiadau, gwneud gwaith cartref, codi llyfrau o'r llyfrgell a gweithio ar aseiniadau. Fodd bynnag, cewch lawer o gefnogaeth gan eich tiwtor i'ch helpu i wneud y gwaith yn dda. Cynlluniwyd yr asesiadau i wella eich profiad dysgu; bydd rhain yn mireinio eich sgiliau i'ch galluogi i astudio ar lefel Addysg Uwch. Fel arall, y cyfan sydd ei angen arnoch ydy brwdfrydedd i astudio, penderfyniad ac ymroddiad i weithio yn ystod y cwrs.

25


Sut galla i ymrestru? I ymrestru, bydd angen i chi lenwi ein ffurflen ymrestru ar-lein sydd ar ein gwefan cyn i'r cwrs gychwyn. Os cewch chi unrhyw darfferth i lenwi hon, gallwch gysylltu â ni ar y ffôn a byddwn yn eich helpu. www.cardiffmet.ac.uk/accredited courses www.cardiffmet.ac.uk/tastercourses

Faint fydd hyn yn ei gostio i mi? Efallai nad yw’n costio cymaint ag yr ydych chi’n ei feddwl i astudio ym Met Caerdydd; er enghraifft, mae’n holl gyrsiau Ehangu Mynediad a’n cyrsiau Ysgol Haf yn RHAD AC AM DDIM. Os byddwch chi’n penderfynu camu ymlaen i un o’n rhaglenni gradd, bydd ffioedd addysgu arferol y Brifysgol yn weithredol. Mae’r syniad o fynd i brifysgol yn un cyffrous mae’n siŵr, ond bod meddwl am reoli’ch arian, a hynny efallai am y tro cyntaf erioed, yn codi braw arnoch. Yma ym Met Caerdydd, rydym am roi cymaint o gymorth a chefnogaeth ag y bo modd i chi fel y gallwch ganolbwyntio ar eich astudiaethau a mwynhau bywyd myfyriwr. Felly, pa bynnag gwrs rydych chi wedi’i ddewis, boed yn llawn amser neu ran-amser, mae gennym lond gwlad o wybodaeth i’ch helpu chi.

26

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch:  029 2041 6083 Gwasanaeth Cynghori Ariannol Myfyrwyr:  029 2041 6170 Ffioedd a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwlado:  029 2041 6045 Neu ewch ar ein gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/finance


Alla i ymgeisio am Fwrsari neu Ysgoloriaeth? Mae’r manylion canlynol yn amlinellu pa fath o wahanol fwrsari ac ysgoloriaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau ym Met Caerdydd ym mis Medi 2018. Mae’r bwrsariaethau’n cynnwys: Gwobr Astudio Bywyd Gwobr o £1,000 i ymgeiswyr is-raddedig Cartref / UE yn byw o fewn ardaloedd cyfranogiad isel dynodedig. Gwobr Ysgolor Chwaraeon Elit Ar gyfer myfyrwyr is-raddedig Cartref / UE sy'n rhagori yn eu dewis gamp. Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg Varying awards via Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bwrsari i rai sy'n Gadael Gofal Hyd at £1,000 i helpu ymgeiswyr is-raddedig Cartref / UE yn cychwyn addysg uwch o gefndir gofal. Cronfa Waddol Caerdydd £500 - £1,000 i helpu ymgeiswyr is-raddedig Cartref / UE sy'n byw yng Nghaerdydd gyda chost mynd i brifysgol.

Os hoffech wybod mwy, ewch ar ein gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/bursaries Neu cysylltwch â:

 scholarship@cardiffmet.ac.uk

Ysgoloriaethau Ôl-radd Mae Met Caerdydd ar hyn o bryd yn adolygu ei chynllun ysgoloriaethau ar gyfer 2018 yn dilyn gwybodaeth daeth o Lywodraeth Cymru am y pecynnau cymorth i fyfyrwyr ôl-radd yn cychwyn y flwyddyn academaidd 2018/19. 25% Disgownt i Gyn-fyfyrwyr Gostyngiad o 25% mewn ffioedd addysgu i raddedigion Cartref / UE / Rhyngwladol Met Caerdydd.

27


Ble galla i gael help am y Gwasanaeth Cynghori ar Gyllid a Lles Myfyrwyr? Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Gyllid a Lles Myfyrwyr yn rhan o Wasanaethau Myfyrwyr Met Caerdydd ac yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac anfeirniadol ar bob agwedd o gyllid myfyrwyr, ac mae’r cyfan AM DDIM i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr Met Caerdydd. Dyma rai o’r pethau y gallwn eu cynnig: Cyfweliadau un-i-un gyda Chynghorydd Cyllid a Lles Myfyrwyr.  Cyngor ar gyllidebu a rheoli arian.  Cyngor ar y cymorth ariannol sydd ar gael a ble i ddod o hyd iddo.  Gwybodaeth am newidiadau i ffioedd a chymorth ariannol.  Cymorth gyda phroblemau dyled.  Cyngor ar fudd-daliadau tra’r ydych chi’n fyfyriwr.  Gweinyddu’r Gronfa Ariannol wrth Gefn.  Cymorth ariannol brys yn y tymor byr os yw rhandal cyntaf eich Benthyciad Myfyriwr heb gyrraedd (a does dim bai arnoch chi). 

Am ragor o wybodaeth, ewch ar y wefan: www.cardiffmet.ac.uk/financewelfare

A fydd astudio ym Met Caerdydd yn caniatáu i mi arddel fy ffydd? Mae Caplaniaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn lle agored, cyfeillgar ac aml-ffydd. Y Caplan, Paul Fitzpatrick, yw’r aelod o’r Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n gyfrifol am unrhyw faterion ffydd ac am amddiffyn a hyrwyddo rhyddid myfyrwyr unigol i gredu. Nid gorchwyl bychan ydy hyn. Mae Met Caerdydd yn brifysgol aml-ddiwylliant ac aml-ffydd, gyda thros 92 o draddodiadau ffydd o 140 gwlad wahanol. Mae gennym ystafelloedd weddi aml-ffydd ar bob campws.

Sut i gysylltu â’r Caplan: Y Parchedig Paul Fitzpatrick, Gwasanaethau Myfyrwyr, Ystafell A0.14, Campws Cyncoed

 029 2041 7252 07917 818524

 pfitzpatrick@cardiffmet.ac.uk

Mae’r Gaplaniaeth yn agored i bawb o bob ffydd a rhai heb ffydd. Mae yno groeso bob amser ac, yn aml, gall sgwrs gyfrinachol mewn lle diogel fod o help. Gallwch ffonio Paul unrhyw bryd yn ystod y tymor:  07917 818524

28


Alla i ymuno â chymdeithasau myfyrwyr? Nod cymdeithasau myfyrwyr yw cynnig cymorth i bobl â ffydd. Maen nhw'n cynnwys yr Undeb Cristnogol a’r gymdeithas Islamaidd. Os nad oes cymdeithas benodol yn bodoli i ddiwallu anghenion ysbrydol myfyrwyr, mae Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd yn gwahodd myfyrwyr i sefydlu eu cymdeithas eu hunain. Mae rhestr lawn o gymdeithasau myfyrwyr a’r manylion cyswllt ar gael gan Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd.

Mae gen i gyfrifoldebau gofal plant. Sut alla i astudio gyda Met Caerdydd? Mae llawer o’n cyrsiau cymunedol yn cynnig cyfleusterau gwarchod plant wrth astudio mewn lleoliad yn y gymuned, ond mae angen archebu lle ymlaen llaw fel arfer. Hefyd, mae rhai o’n rhaglenni gradd yn rhai rhan-amser ac felly gellir trefnu iddyn nhw gyd-fynd â’ch gofynion gofal plant.

Beth os nad oes gen i ffordd o deithio i gyrraedd Met Caerdydd? Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ffoniwch am fanylion. Peidiwch â phoeni, rydym yn cynnig llawer o gyrsiau Ehangu Mynediad mewn lleoliadau ar hyd a lled Caerdydd. Ffoniwch am fwy o fanylion.

Dim ond dosbarthiadau i un rhyw yn unig alla i eu mynychu. Oes modd i mi astudio gyda Met Caerdydd? Rydym weithiau'n cynnig dosbarthiadau Ehangu Mynediad dysgu yn y gymuned i un rhwy yn unig. Ffoniwch am fanylion.

29


Does gen i ddim digon o sgiliau na’r hyder i astudio ym Met Caerdydd Mae llawer o oedolion sy’n dychwelyd i addysg yn teimlo fel hyn i ddechrau. Mae’r tim Ehangu Mynediad yn cynnal cyrsiau i’ch helpu i wella’ch sgiliau academaidd. Mae Sgiliau Academaidd yn cynnwys dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron, sut i ysgrifennu traethodau a sut i roi cyflwyniad. Yn wir, bron iawn yr holl sgiliau sydd eu hangenarnoch i astudio ym Met Caerdydd. Rydyn ni'n credu bydd ein cyrsiau Ehangu Mynediad yn helpu i roi’r hyder hwnnw i chi wella’ch sgiliau. Os dewch chi’n fyfyriwr ym Met Caerdydd, gallwch fanteisio ar bob math o gymorth i’ch helpu i astudio neu ymdopi a bywyd llawn prysurdeb. Ffoniwch i gael gwybod am yr holl gymorth sydd ar gael.

Alla i ddod draw i ddiwrnod agored fel oedolyn sy’n dysgu? P’un ai’ch bod eisoes wedi penderfynu mai Met Caerdydd yw’r lle i chi; neu’ch bod yn dal i bwyso a mesur, mae’n hollbwysig eich bod yn dod i un o’n Dyddiau Agored. Dyma gyfle perffaith i chi ddysgu mwy am y cwrs sy’n apelio atoch chi, cael gair uniongyrchol a staff a myfyrwyr a gweld ein cyfleusterau, ein llety a’n campysau. Ar hyd y flwyddyn, rydyn ni'n cynnal Dyddiau Agored yn yr ysgolion academaidd, sy’n berthnasol i’ch cwrs a’ch maes diddordeb chi.

30

I wybod mwy a neilltuo lle:

 029 2041 6042

www.cardiffmet.ac.uk/opendays


Oes help ar gael os oes gen i anabledd ac yn poeni na fydda i’n gallu ymdopi yn y Brifysgol? Oes help ar gael os oes gen i anabledd ac yn poeni na fydda i’n gallu ymdopi yn y Brifysgol?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

 029 2041 6170

www.cardiffmet.ac.uk/disability

 disability@cardiffmet.ac.uk.ac.uk

Gallwn eich helpu mewn sawl ffordd:  Trefnu cymorth i chi yn ystod eich cwrs.  Eich cynghori ar sut i gael gafael ar Lwfans Myfyriwr Anabl.  Trafod eich anghenion yn ymwneud a’ch cwrs.  Cysylltu a staff y cwrs a rhoi cyngor pellach ar unrhyw addasiadau ychwanegol sydd eu hangen.  Trefnu ar gyfer sgrinio/adnabod dyslecsia.  Trefnu hyfforddiant Dyslecsia (a elwir hefyd yn hyfforddiant Sgiliau Astudio Arbenigol).  Helpu i gydlynu trefniadau ychwanegol ar gyfer arholiadau.  Eich cyfeirio at wasanaethau eraill. Yn bennaf oll, rydym yn gwneud ein gorau i’ch helpu i sicrhau nad ydych chi dan anfantais o ganlyniad i’ch anabledd neu’ch anhawster dysgu penodol.

Yr hyn rydw i ei wir angen ydy cymhwyster a allai fy helpu i gael swydd. Pam ddylwn i ddewis Met Caerdydd? Mae’n cyrsiau ni’n canolbwyntio ar ofynion gyrfaoedd, ac wedi’u cynllunio ar y cyd a byd busnes a diwydiant. Trwy raglenni lleoliadau gwaith, achrediadau proffesiynol a chyfleoedd i astudio dramor, mae’n ffocws ar gyflogadwyedd wedi sicrhau bod 95% o’n graddedigion yn cychwyn ym myd gwaith neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis i raddio *Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) 2016.

31


Rydw i’n siarad Saesneg fel ail iaith ac yn poeni na fyddwn yn gallu ymdopi fel myfyriwr. Oes unrhyw gymorth ar gael i’m helpu i wneud cais i fynd i Brifysgol? Rydym yn cynnal cwrs gydol y flwyddyn er mwyn helpu pobl sydd angen cymorth gyda Saesneg academaidd er mwyn astudio mewn prifysgol. Yn gyffredinol, mae angen i fyfyrwyr Saesneg ail iaith gael sgor IELTS o 6.0 i fynd i Brifysgol. “System Ryngwladol Profi Saesneg” ydy lELTS ac mae’n ymdrin a sgiliau Saesneg academaidd mewn Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad. Mae’n cwrs "Preparing for Academic IELTS” yn cael ei gynnal unwaith yr wythnos ac mae’n rhad ac am ddim. Trwy astudio ar y rhaglen hon, rydyn ni'n eich helpu chi i wella’ch sgor IELTS fel eich bod yn barod i wneud cais Prifysgol.

Alla i gael unrhyw gyngor gyrfaol i wneud yn siŵr fy mod i’n gwneud cais am y cwrs cywir? Ym Met Caerdydd, mae'r Gwasanaethau Gyrfaoedd yn annog a chynorthwyo oedolion i ddychwelyd i fyd addysg ac elwa i’r eithaf ar fywyd myfyriwr ar ôl cyrraedd yma. Gallwn helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir ar sail blaenoriaethau bywyd ar hyn o bryd, cefndir addysgol ac anghenion gwaith. I’r rhan fwyaf o bobl, proses nid digwyddiad untro yw penderfyniadau gyrfaol. Lle bynnag rydych chi arni o ran cynllunio’ch gyrfa, rydym yn hapus i’ch helpu i symud ymlaen. Gallwn helpu gyda'r canlynol: Arweiniad Cyfweliadau a Gweithdai Gwybodaeth am Yrfaoedd Cyflogadwyedd Profiad Gwaith

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

 029 2041 6333

 careers@cardiffmet.ac.uk www.cardiffmet.ac.uk/about/careers

32


Beth am roi cynnig arni? Does wybod i ble y gallai'ch arwain.

33


Ehangu Mynediad

 029 2020 1563

 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk www.cardiffmet.ac.uk/wideningaccess


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.