Met Caerdydd Teithiau

Page 1

TEITHIAU


Rhagarweiniad

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn ceisio sicrhau bod oedolion o bob cefndir a grŵp ethnig yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio â chefnogaeth. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pawb sydd â’r penderfyniad, y sgiliau a’r awydd i gael mynediad i Addysg Uwch yn cael gwneud hynny. Rydym yn gweithio i roi cyfleoedd i oedolion o ddysgwyr yn eu cymunedau nhw eu hunain, yn targedu’r rheiny na chafodd y cyfle hyd yma i astudio mewn Addysg Uwch. Rydym yn deall mor bwysig yw gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i helpu i godi dyheadau ac annog pobl i feddwl “nad yw addysg uwch iddyn nhw” i ddechrau meddwl am y cyfleoedd sydd ar gael. Dyma’n pumed rhifyn o ‘Siwrneiau’, y cyhoeddiad ar gyfer Ehangu Mynediad.

1

TEITHIAU MET CAERDYDD

Y syniad sydd y tu cefn i’r llyfrynnau hyn yw dathlu llwyddiant dysgwyr ac ysbrydoli pobl eraill, gobeithio, a allai fod yn ystyried dychwelyd i ddysgu. Caiff pob un o’r straeon eu hadrodd yng ngeiriau’r dysgwyr eu hunain ac maen nhw’n dangos sut gwnaethon nhw lwyddo drwy oresgyn ystod eang o rwystrau. Bydd pob un ohonyn nhw’n dangos y gwahaniaeth mae dysgu wedi’i wneud a sut mae eu bywydau wedi gwella o ganlyniad i’r broses. Mae pob un o’u siwrneiau yn dangos sut, â’r cymorth a’r cyngor iawn, bydd myfyrwyr yn magu hyder a hunan-gred, gan ennill cymwysterau yn aml na fydden nhw wedi’u hystyried yn bosib cyn hynny.

Rydym yn rhannu eu straeon gyda chi gan obeithio y gwnân nhw eich ysbrydoli gymaint fel y byddwch chithau’n barod i gymryd y camau a fydd yn angenrheidiol i chi gael datblygu eich diddordebau chi a chael hyd i’ch llwybr dysgu eich hunan. Os cewch eich ysbrydoli i ddechrau ar eich siwrnai yn Addysg Uwch, mae ystod o gyrsiau blasu ac achrededig byr gennym ar gael AM DDIM sydd wedi’u dylunio i roi trywydd ar gyfer astudio yn y Brifysgol.

I gael rhagor o fanylion, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/wideningaccess


TYSTIOLAETH GAN EIN PARTNERIAID YN Y GYMUNED

MET CAERDYDD TEITHIAU

2


Mae Cymdeithas Tai Taf yn sefydliad ‘angori’ ar gyfer ardaloedd mewnol dinas Caerdydd drwy helpu i greu cymunedau cynhwysol ac adeiladu ar gryfderau a galluoedd pobl. Rydym yn credu nad oes rhaid i orffennol person benderfynu ei ddyfodol ac rydym yn gweithio gydag unigolion a chymunedau i gael datblygu eu gwytnwch, eu dyheadau a’u huchelgeisiau. Rydym wedi croesawu’n llawn bartneriaeth a dyfodol cyd-gynhyrchiol a chysylltiedig gyda sefydliadau sy’n rhannu ein cenhadaeth, megis Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd, i ddarparu sylfaen ar gyfer datblygu dyfodol person. Drwy ddefnyddio cryfderau ei gilydd, gall dysgwyr anhraddodiadol ymgymryd â chyrsiau sy’n hygyrch a hyblyg ac sy’n cael eu harwain gan diwtoriaid profiadol. Bydd llawer o ddysgwyr a oedd wedi datgysylltu’n flaenorol o fod yn gyflogedig, o fyd addysg a hyfforddiant yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol drwy gyrsiau mynediad gan symud ymlaen wedyn i astudio graddau prifysgol. Fe wnaeth y garfan gyntaf o ddysgwyr a ddaeth ar gyrsiau Ehangu Mynediad yn Taf nôl yn 2015, raddio yn ddiweddar. Dewisodd llawer o ddysgwyr wirfoddoli hefyd drwy raglen Adeiladu Dyfodol Taf i gael magu profiad ymarferol a datblygu eu gwybodaeth. Mae cymorth y Tîm Ehangu Mynediad a Taf yn rhoi’r hyder i ddysgwyr gyrraedd eu nodau ac mae bod yn dyst i’r siwrneiau hyn yn ysbrydoliaeth.

Mae CEM Prescoed yn ceisio darparu gwasanaeth ail-sefydlu ar gyfer y rheiny sydd yn y ddalfa er mwyn ei gwneud yn llai tebygol y byddan nhw’n ail-droseddu. Mae cyfle gennym yn ein carchar agored Categori D i ffurfio partneriaethau gyda phrosiectau yn y gymuned, grwpiau busnes a darparwyr addysg. Nid gwaith hawdd fydd magu’r perthnasoedd gwaith a’r partneriaethau llwyddiannus hyn bob amser ac yn aml bydd yr ymdrech yn aflwyddiannus.

Clare Dickinson

Matthew Jones

Swyddog Buddsoddi yn y Gymuned, Cymdeithas Tai Taf

Athro/Swyddog Addysg yn CEM Prescoed

3

TEITHIAU MET CAERDYDD

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r eithriad yn hyn o beth. Mae’r tîm Ehangu Mynediad wedi derbyn ein sefydliad ninnau i’w cymuned academaidd nhw, gan dderbyn nid yn unig rai o’n dysgwyr ar raddau israddedig (yn dilyn proses ddatgeliad drylwyr iawn) ond drwy wneud ein sefydliad yn safle sydd wedi galluogi llawer o gyrsiau i gael eu cyflawni. Yn CEM Prescoed mae Met Caerdydd wedi cyflawni llawer o gyrsiau eisoes i ni. Mae’n rhoi mewnwelediad i’n dynion i addysg lefel brifysgol sy’n beth hollol wych, gan y bydd hyn yn gwneud unigolion yn fwy cyflogadwy drwy wella’u cymwysterau a’u profiad ond bydd hefyd yn rhoi mewnwelediad i ddysgu uwch. Gobeithio y bydd hyn yn parhau am gyfnod maith!


Bu’r rhaglen o gyrsiau a gafodd eu cyflawni yn Hyb Trelái ar gyfer y gymuned leol yn fodd i newid bywydau. O safbwynt ymgysylltu, gallai unigolion gyflwyno eu hunain yn rhai a deimlai’n negyddol iawn ynghylch eu bywydau. Gallai sgiliau cyfathrebu rhai pobl fod yn gyfyng iawn, gallai eu hunan-barch a’u dyheadau fod yn isel ac roedd llawer wedi rhoi’r gorau i unrhyw obaith o ennill cymwysterau, heb sôn am fynd i’r Brifysgol. Mae manteision gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn defnyddio dull sy’n gymunedseiliedig, ac sy’n cynnig cymorth parhaus 1-1, anogaeth ac adeiladu sgiliau, wedi rhoi cyfleoedd i unigolion dyfu yn emosiynol, i ymestyn eu gwybodaeth a’u sgiliau a chyrraedd eu nodau. Yn ei dro, fe wnaeth hyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’r gymuned leol a mwyafu’r cyfleoedd i gael swydd. Oddi ar bod yn gweithio mewn partneriaeth o dan y |model hwn, mae 46 o ddysgwyr o Gymuned Trelái wedi symud ymlaen i astudio yn y Brifysgol.

Donna Hurley Mentor Oedolion, Cymunedau am Waith

TEITHIAU MET CAERDYDD

4


Mae atgofion melys iawn gen i o’m haddysg ysgol gynradd yn Baden Powell, Tremorfa. Roedd yr addysg yn ardderchog, yr athrawon yn ein hysbrydoli, ac roedd tiroedd yr ysgol yn hollol unigryw. Yn sicr roedd yn gyfnod hapus iawn yn fy mywyd. Fodd bynnag, testun gofid mawr i fi oedd newid ysgol ychydig cyn fy mlwyddyn olaf am ein bod wedi symud tŷ. Anghofia i byth y diwrnod y ceisiodd fy nhad fy sicrhau y byddwn yn gwneud ffrindiau newydd, wrth i ni gyrraedd gatiau Ysgol Gynradd Roath Park ar y diwrnod cyntaf hwnnw. Efallai i farwolaeth sydyn fy nhad, mor fuan wedi hynny, ei gwneud yn anodd iawn gwneud ffrindiau newydd. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe ges i fy ngwahanu oddi wrth yr ychydig ffrindiau roeddwn wedi llwyddo i’w gwneud, pan symudais i’r Ysgol Uwchradd. Roeddwn yn un o lond dwrn o ddisgyblion nad oedd yn gallu mynd i Tŷ Celyn (Ysgol Uwchradd Caerdydd erbyn hyn), sef yr ysgol fwydo, oherwydd niferoedd. Felly, byddwn yn teithio ar y ‘Bws Arbennig’ i Ysgol Uwchradd Llanrhymni i Ferched lle y treuliais bedair blynedd ddiflas iawn. Roedd fy nghyflawniadau yn isel a rhyddhad mawr i fi oedd cael gorffen mis cyn fy mhen-blwydd yn 15 oed yn 1970.

Roedd addysg uwch yn elitaidd yn ystod y 70au ond roedd fy record o dangyflawni yn awgrymu nad oeddwn yn ddigon disglair beth bynnag. Nid oedd un aelod o’r teulu wedi bod yn y brifysgol a’r gwir yw nad oedd y gair ‘prifysgol’ yn fy ngeirfa, na chafodd y gair ei yngan ar hyd cyfnod cyfan fy addysg – gartref neu yn yr ysgol. O dan yr amgylchiadau, doedd dim uchelgais gen i heblaw dod yn ‘wraig tŷ’. Roeddwn yn briod ac wedi cael fy mhlentyn cyntaf erbyn cyrraedd 20 oed cyn dychwelyd i weithio’n amser llawn yn fuan wedyn. Byddwn yn treulio fy amser rhydd yn cefnogi fy mam oedd yn weddw, ac yn bod yn unig enillydd cyflog yn fy mhriodas (oherwydd iechyd meddwl fy ngŵr). Roedd fy amser rhydd yn brin iawn ac wrth i iechyd fy mam ddirywio (yn feddyliol ac yn gorfforol), daeth hi’n fwy a mwy dibynnol arnaf. Pan oedd fy merch bron yn 17 oed, cefais fy ail blentyn yn 36 oed (roeddwn naill ai’n ddewr neu’n dwp!), ac fe wnes i fwynhau bod yn fam aeddfed i gymaint graddau fel y des i’n fam amser llawn a chael plentyn arall ddwy flynedd wedyn. Fe es i ddosbarthiadau TG gyda’r nos er mwyn paratoi i ddychwelyd i’r gweithle. Ond wedi chwilio’n aflwyddiannus am swydd am sawl blwyddyn, fe wnes i golli fy hyder a’m hunan-barch. Roeddwn i heb ragweld mor anodd y byddai cael hyd i


swydd a sylweddolais fod fy oedran yn rhwystr mawr. Allwn i ddim troi’r cloc yn ôl ac fe roddais i’r gorau i chwilio. Roedd yn gyfnod digon tywyll yn fy mywyd; fe wnaeth y teimlad o anobaith bara tair blynedd. Mewn ymdrech i newid fy mywyd, penderfynais mai’r ateb fyddai trochi fy hunan mewn gwaith gwirfoddol. Bu hyn yn llwyddiant a symudais allan o’r cyfnod tywyll gan adennill y strwythur roedd angen mawr amdano yn fy mywyd, ynghyd â rhywfaint o hunan-barch. Yn ‘Care for the Family’ roedd fy lleoliad cyntaf, lle y treuliais 12 mis difyr iawn yn gynorthwyydd gweinyddol. Ond roeddwn yn awyddus i weithio o fewn amgylchedd y brifysgol a ches gyfle i gael gwneud hynny drwy ‘Gynllun Gwireddu eich Potensial’ Cymdeithas Tai Cadwyn a wnaeth fy helpu i gysylltu ag adran Ehangu Mynediad Met Caerdydd lle y dechreuais drwy gynorthwyo â’r paratoadau ar gyfer cyrsiau Ysgol Haf Met Caerdydd. Roedd y cyrsiau’n argoeli i fod mor ddiddorol nes y gwnes i ymrestru ar sawl un ac, er syndod i fi, roedden nhw’n fwy pleserus o lawer nag oeddwn wedi’u rhagweld. Ar wahân i’r profiad o ddysgu o fewn sefyllfa brifysgol, fe wnaeth y ffrindiau a’r cydnabod a wnes ar y ffordd, y profiad hyd yn oed yn fwy gwerthfawr. Roedd y tiwtoriaid yn gyfeillgar ac yn ddymunol dros ben, ac roedd y cyrsiau mor ddiddorol roeddwn yn eithaf trist pan ddaethon nhw i ben. Fe es i ymlaen i ymrestru ar gwrs Seicoleg achrededig Met Caerdydd (oddi ar y campws) gan ei gwneud yn hollol glir nad oeddwn am fod yn rhan o’r asesu yn unrhyw ffordd gan fy mod yn cymryd rhan yn y cwrs o ran diddordeb personol yn unig. Er hynny, fe wnes i ‘ymgolli’ yn y broses i raddau ac fe

ges i fy hunan yn gwneud yr asesiad (ac yn llwyddo). Fe wnaeth hyn fy ngalluogi i ymrestru ar Gwrs Sylfaen y Gwyddorau Cymdeithasol, llwybr a wnaeth fy arwain at radd BSc (Anrh) Seicoleg. Ches i ddim llawer o amser i feddwl am y peth ac, o edrych yn ôl, roedd hynny’n beth da gan na fyddwn i wedi bod yn ddigon dewr – a heb yr hyder yn bendant – i fynd amdani. Roeddwn yn teimlo hefyd y byddwn yn teimlo cywilydd fy mod yn mynd yn fyfyriwr a minnau bron â bod yn 60 oed! Cedwais fy mywyd prifysgol yn gyfrinach oddi wrth fy nheulu a’m ffrindiau gan nad oeddwn yn fodlon gadael i fi fy hunan gredu fy mod yn gallu ennill gradd. Yn y pen draw fyddai hyn yn osgoi bod yn destun cywilydd iddyn nhw os (pan) byddwn yn methu. Aeth yn amhosib cadw’r gyfrinach ac, ar ddiwedd fy mlwyddyn Sylfaen, ‘gadawyd y gath o’r cwd’ – er rhyddhad enfawr i fi! Y peth rhyfedd oedd nad oedd y newyddion yn hanner cymaint o syndod i’r teulu ag oeddwn wedi’i ragweld ac roedden nhw’n hollol gefnogol. Byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn mynd i gynifer o Ysgolion Haf a chyrsiau Ehangu Mynediad ag y gallwch. Ar wahân i’r ffaith y byddan nhw o ddiddordeb i chi yn bersonol, byddan nhw’n codi eich hunan-barch ac yn magu hyder, a byddwch hefyd yn gwneud ffrindiau newydd diddorol na fyddech yn cwrdd â nhw fel arall o bosib. Rhaid i fi bwysleisio i’r pedair blynedd fod yn heriol dros ben ond gwibiodd yr amser heibio yn gynt nag y byddwn wedi’i ddychmygu. Yn ddi-os, mae rhaid mai uchafbwynt fy siwrnai israddedig oedd treulio amser a gwneud ffrindiau gyda myfyrwyr ifanc o lawer rhan o’r byd. Hefyd roedd y staff ym Met Caerdydd yn

ddieithriad yn ddymunol, yn ddiddorol ac yn gefnogol bob amser. Alla i ddim meddwl am un ddarlith nad oedd yn ddiddorol i fi. Mae’r tîm Ehangu Mynediad yn haeddu clod hefyd gan iddyn nhw roi anogaeth ac arweiniad diflino. Yn wir, roedd y gefnogaeth a gefais oddi wrth y brifysgol yn gyffredinol ar hyd cyfnod fy ngradd yn gefnogaeth heb ei hail. Nawr bod popeth ar ben rwy’n ei chael hi’n anodd credu fy mod yn berchennog balch gradd mewn Seicoleg! Alla i ddim gwadu i’r cwrs fod yn un heriol iawn, a minnau heb fod yn rhan o fyd addysg ers 47 o flynyddoedd, ond roedd pob dydd yn fwynhad a daeth y campws yn ail gartref i fi gan i fi ei gael yn lle gwych i astudio. Fyddwn i erioed wedi credu y gallai amgylchedd dysgu fod yn lle mor gyffyrddus i astudio ynddo, heb sôn am fod yn gyfeillgar. Daeth Met Caerdydd yn rhan fawr o ’mywyd ac rwy’n gwybod y byddaf yn gweld ei eisiau’n fawr. Dechreuodd fy mywyd droi’n bositif pan ddes i ar draws tîm Ehangu Mynediad Met Caerdydd. Heb eu hymrwymiad a’u hymroddiad i oedolion o ddysgwyr, rwy’n gwbl sicr na fyddwn wedi cael profiad dysgu mor rhyfeddol.

BERYL O’BRIEN Graddiwyd â BSc mewn Seicoleg (2:1) yn 2018

TEITHIAU MET CAERDYDD

6


Rwyf wedi cael gyrfa gyffrous yn berfformiwr ac yn ddifyrrwr, yn addysgu gweithdai ynghyd â bod yn weinyddwr ac yn rheolwr prosiect, yn bennaf yn sectorau celfyddydau’r gymuned a datblygiad y gymuned. Fe ddechreuais astudio’n academaidd pan oeddwn yn fy 40au yng Nghaerdydd drwy ddysgu gydol oes, gan ennill digon o gredydau yn y pen draw ar gyfer fy Nhystysgrif Addysg Uwch. Yna dechreuais astudio ar gyfer fy Ngradd Meistr – Celfyddydau yn y Gymuned a gwblhawyd gennyf yn 2010. Fe wnaeth y cyfle hwn ddatblygu fy niddordeb yn y ffordd y gall y celfyddydau creadigol gyfrannu i’n lles ac fe fues yn gweithio yn y maes hwn am gyfnod ac fe wnes i fwynhau gwneud hynny’n fawr iawn. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, bu rhaid i fi adael fy ngyrfa a chymryd seibiant ac yn raddol fe gollais fy hyder ac oherwydd hynny, a’r ffaith nad oedd gen i ddigon o arian, bu rhaid i fi beidio â pharhau â’m haddysg. Roedd hyn yn rhwystredig gan fy mod wedi dod i ddeall gymaint o fudd oedd dysgu i fi.

7

TEITHIAU MET CAERDYDD

Roedd dod i Ysgol Haf Ehangu Mynediad ym Met Caerdydd yn gyfle gwych i ddechrau astudio unwaith eto ac i gwrdd â llawer o bobl eraill oedd yn gwneud yr un peth. Roedd y myfyrwyr yn dod o bob math o gefndir ac o oedrannau gwahanol; doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi astudio ar lefel prifysgol o’r blaen. Roedd yn llawer o hwyl ac fe wnaeth y tiwtoriaid ein hannog i ddefnyddio ein profiadau bywyd a gwaith ac i rannu syniadau. Fe wnes i’r cwrs Cyflwyniad i Seicoleg, oedd yn rhywbeth hollol newydd i fi ac aeth â’m bryd i yn gyfan gwbl. Mae’n ymwneud yn gyfan gwbl â bodau dynol, sut rydym yn meddwl, a beth sy’n dylanwadu ar ein hymddygiad. Fe wnes i’r cwrs Ymarfer Dysgu Adfyfyriol hefyd sy’n eich addysgu i edrych ar y ffordd y byddwn yn dysgu a sut mae pob un o’n profiadau bywyd yn wirioneddol werthfawr. Penderfynais wneud modiwl achrededig Ehangu Mynediad mewn Seicoleg ac fe fues i’n llwyddiannus iawn. Mae’r tiwtoriaid a’r staff cymorth yn Ehangu Mynediad yn rhyfeddol ac mor galonogol. Mae fy ffrindiau wedi gweld fy hyder yn dechrau codi yn sgil fy llwyddiannau. Fe wnes i gais i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i barhau â’m hastudiaethau gan fy mod wedi bod yn ystyried gwneud PhD gan fy mod am ddysgu mwy am y berthynas rhwng cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a’r effaith ar ein lles. Er i fi gael fy nerbyn, mae’n amhosib i fi fforddio’r ffioedd ar hyn o bryd, ond dyna yw fy mreuddwyd

o hyd. I mi, os mai chwaraeon yw’r ymarfer ar gyfer y corff, yna peintio, drama, barddoniaeth, cerddoriaeth a defnyddio’n dychymyg yw’r ymarfer ar gyfer yr ymennydd. Dechreuais weithio gyda digartrefedd yn gynnar yn 2017 a ches i’r cyfle drwy fy ngwaith i wneud fy NVQ Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad a hefyd, drwy wirfoddoli gyda Cymorth i Ferched Cymru, fy NVQ Lefel 3 mewn Hyfforddi’r Hyfforddwyr. Eleni rwy’n cymryd fy NVQ Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad wedi cwblhau’r ddwy Lefel 3 yn llwyddiannus. Roedd yr unedau a wnes ym Met Caerdydd yn gymorth mawr o ran cael y math yma o waith gyda rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus. Byddwn yn cynghori pawb i roi tro ar ddysgu. Mae Ehangu Mynediad yno i ddweud wrthych beth sydd ar gael ac i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Pa gwrs neu sesiwn flasu bynnag a ddewiswch, fe wnewch gwrdd â phobl newydd a chael llawer o hwyl.

CATHY ELDER Wedi gwneud cais ac wedi’i derbyn i wneud PhD, yn aros i dderbyn cyllid


 Fe wnes i fwynhau’r ysgol ac fe es i ysgol breswyl yn Ysgol y Bechgyn Nuneaton yn Birmingham. Roeddwn yn ddyslecsig er na chafodd hyn ei ganfod ac felly roedd pethau’n anodd iawn i fi ac roedd fy ngallu i ganolbwyntio yn isel ond roeddwn yn dda yn chwarae pêl-droed. Gadawais â B a C yn TGAU Saesneg ond doeddwn i ddim yn dda mewn Mathemateg. Es i weithio i gwmni esgidiau Clark’s lle y des i yn rheolwr. Fe roddais gynnig ar gwrs mynediad yn y Gyfraith ond roedd fy nyslecsia yn ei gwneud yn rhy anodd i fi barhau. Yna sefydlais gwmni argraffu gyda rhai ffrindiau ond cafodd un o’r ffrindiau hyn drawiad ar y galon yn 24 oed a bu farw. Wedi hyn, fe wnaethon ni golli diddordeb yn y busnes ac yn raddol dechreuais droseddu gan gael fy hun yn y pen draw yn y carchar am droseddau’n ymwneud â chyffuriau, er na gymerais i gyffuriau fy hun. Fe ges i fy anfon i garchar Redditch a Market Drayton cyn dod i Garchar Prescoed. Fe roddais gynnig ar gwrs y Brifysgol Agored ond bu’r dyslecsia’n ormod o rwystr i fi. Fe wnaeth cael diagnosis am y dyslecsia helpu gan fod hyn yn golygu y gallai pethau gael eu rhoi yn eu lle i’w wella.

Dechreuais fy astudiaethau yn Prescoed yn gwneud cwrs Ehangu Mynediad Met Caerdydd: ‘Paratoi i Addysgu Oedolion’ gan fod lleoliad gwaith gen i yn Solas Poble, sef canolfan ail-sefydlu wedi cyffuriau ac fe roddodd y cwrs y sgiliau roedd eu hangen arnaf i gael bod yn hwylusydd grŵp yno. Cyn hyn, roeddwn wedi cadw draw rhag meddwl am y niwed y mae cyffuriau yn ei wneud ond wedi i fi weld y sefyllfa go iawn, wnaf i byth ymwneud â chyffuriau eto. Mae rhai o’r bobl yn y carchar heb eu darbwyllo o werth addysg a byddan nhw’n creu pob rhwystr posib. Pan ges i fy nerbyn ar y rhaglen Sylfaen yn arwain at BSc (Anrh) Gwyddorau Cymdeithasol, cafodd fy arian ei stopio ac allwn i ddim prynu bwyd i ginio hyd yn oed. Gan fy mod i’n garcharor, chaf i ddim gwneud cais am fenthyciad cynhaliaeth yn debyg i fyfyrwyr eraill. Roedd Gwasanaethau Myfyrwyr Met Caerdydd yn gymorth mawr ac roeddwn yn gallu gwneud cais i Gronfa Galedi Myfyrwyr a wnaeth fy ngalluogi i brynu bwyd. Problem arall oedd nad oedd unman gen i i gadw fy llyfrau, felly cafodd loceri eu gosod yn y Brifysgol i’w cadw’n ddiogel. Mae’r pethau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr a gallan nhw fod yn ddigon i wneud i bobl roi’r gorau i astudio. Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn wych; ces i fy rhyddhau yr wythnos cyn fy arholiadau a doeddwn i ddim yn gwybod ble byddwn i’n byw gan nad oes dim darpariaeth wedi i chi gael eich rhyddhau, felly roedd hwn yn

gyfnod o straen mawr. Ar un pryd, dwedwyd wrthyf y byddai rhaid i fi fynd nôl i Gaerlŷr a sefyll fy arholiadau yno. Ond diolch byth, roedd gwasanaethau myfyrwyr y Brifysgol yn gymorth mawr ac roedd y teulu a ffrindiau yn gefnogol. Rwyf bellach wedi cwblhau fy nedfryd yn y carchar ac rwyf wrthi’n cwblhau’r flwyddyn gyntaf ar y rhaglen BSc (Anrh) Seicoleg. Er bod y cwrs yn anodd, rwy’n mwynhau’r her ac mae’r cwrs yn rhoi llawer o wybodaeth i fi ac mae’n agor drysau ar gyfer gwaith. Mae astudio yn beth gwerthfawr iawn ac yn y pen draw hoffwn wneud PhD. Fe ddwedwn i, os cewch y cyfle, ewch amdani 100% ond byddwch yn barod ar gyfer llawer o waith caled ac adegau o siom. Yr allwedd yw peidio ag edrych ar bethau na allwch eu gwneud ond canolbwyntiwch ar y pethau y gallwch eu gwneud. Does dim byd yn fwy llesol er mwyn newid person a dull byw na mynd i’r Brifysgol a chwrdd â phobl newydd o gefndiroedd gwahanol. Mae wedi newid fy ffordd o weld pethau’n gyfan gwbl ac rwy’n meddwl yn wahanol nawr hyd yn oed. Daw’r Brifysgol â’r gorau allan ohonoch.

HEB DDATGELU’R ENW Myfyriwr BSc (Anrh) Seicoleg, y flwyddyn gyntaf

TEITHIAU MET CAERDYDD

8


Rwy’n cydnabod nad fi oedd y myfyriwr gorau yn fy mlynyddoedd cynnar. Roedd rhaid i Mam druan wynebu ymweliadau wythnosol oddi wrth y swyddog triwantiaeth oherwydd fy record presenoldeb gwael. Wedi i’r gwasanaethau cymdeithasol ymyrryd, er mawr cywilydd i fi bu rhaid i fi ail-wneud fy mlynyddoedd yn nosbarth 4 a 5. Cyfeiriodd fy athrawon fi i’r dosbarth chwech ond ar ôl dwy flynedd o gael fy ngorfodi i sefyll arholiadau roeddwn yn eu methu dro ar ôl tro, dewisais adael yr ysgol. Bues i’n gweithio mewn siopau bwyd parod i ariannu fy ffordd i weithio dramor am flwyddyn. Wedi teithio fe ddes i nôl yn llawn egni ac awydd, ac ymrestru yng Ngholeg Technegol Rhymni ac ennill 5 lefel O ac 1 Lefel A. Rwyf wedi mwynhau llwybr gyrfa diddorol iawn a gwahanol sydd wedi mynd â fi o gwmpas y byd ond sydd wedi darparu ar gyfer fy nheulu hefyd. Prif nodwedd taith fy mywyd yw’r holl rolau gofalu y bu rhaid i fi eu cyflawni oddi ar yn 14 oed. Fe fues i’n gofalu am fy Mam, fe wnes i helpu i ail-sefydlu fy chwaer wedi i rywun ymosod arni ac, ynghyd â’m gŵr, daeth y dasg anodd fel rhiant o ofalu am fab awtistig.


Fe dreuliais 26 o flynyddoedd yn gofalu gartref am ein mab, ac fe wnaeth hyn fynd â’m holl amser ac ymdrech. Ond pan wnaeth fy mab adael y cartref, daeth y cyfle i fi ail-ystyried llwybr fy mywyd ac roeddwn yn barod i fynd i’r afael â’m her nesaf. O fewn pythefnos, roeddwn wedi ymrestru ar gwrs Seicoleg a Chwnsela yn Hyb Llanrhymni. Roedd y broses ymrestru i gyd yn hawdd, roedd y dewis o gyrsiau’n ardderchog, ac roedd yn hawdd ffitio’r lleoliadau oedd ar gael a’r amserau i blesio pawb. Yn 51 oed roedd yn dipyn o dasg cerdded i mewn i amgylchedd ystafell ddosbarth, yn enwedig o gofio fy hanes innau. Fodd bynnag, fe ges i fy nghroesawu yn berson cydradd, ces fy nhrin â pharch a ches fod y cymeriadau amrywiol ar y cwrs yn awyr iach o’i gymharu â phrofiadau dysgu yn y gorffennol. Roedd y tîm dysgu oedolion yn ardderchog. Mae’r tiwtoriaid yn awyddus i’ch helpu i adennill y talentau hynny sydd ynghudd ym mhob unigolyn a, gyda llawer o arweiniad, cymorth ac ambell beth doniol, roeddwn yn awyddus i fwrw ymlaen. Gydag anogaeth fawr fy nhiwtor, fe gymerais ran mewn tri chwrs Ysgol Haf Ehangu Mynediad ym Met Caerdydd. Drwy ymweld â’r Brifysgol a phrofi bywyd prifysgol drosof i fy hun, fe ges i fod fy sgiliau dysgu yn datblygu, bod fy uchelgais yn codi a bod fy hyder yn codi gyda phob tystysgrif a enillais.

Fe wnaeth Iechyd a Gwyddorau Cymdeithasol ddal fy sylw gan fod cymaint o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy gen i eisoes drwy fod yn ofalwr i’m mab. Yn ogystal, fe wnaeth y cwrs Sgiliau Adfyfyriol ddangos i fi sut i ddysgu a sut i werthuso’r hyn oedd yn cael ei addysgu, a dangosodd hefyd fod methu yn elfen o ddysgu. Roedd strwythur y dosbarth yn hwyl ac yn hawdd ei ddeall a wnaeth fy arwain i gyflwyno traethawd i asesu fy sgiliau adfyfyriol ac ennill 10 credyd ar Lefel 3. Bydd pob credyd a gesglir yn cael ei roi at bortffolio ar gyfer unrhyw ddarpar gyflogwr neu ar gyfer mynediad i Brifysgol.

Yn olaf, fy ngŵr cefnogol, llawn hiwmor: ei addewid yntau i baratoi bwyd ar fy ‘nosweithiau ysgol’ oedd wedi sicrhau fy mod yn ymuno â Met Caerdydd. Bellach rwy’n fyfyriwr ym Met Caerdydd ar ail flwyddyn BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gobeithio y gallaf ddefnyddio’r wybodaeth yma i gael swydd yn amddiffyn hawliau oedolion sydd ag anawsterau dysgu a chefnogi’r teuluoedd a fydd yn gofalu amdanyn nhw, wedi’r cyfan mae’n rhywbeth rwyf wedi bod yn ei wneud ers 26 o flynyddoedd.

Rwyf wedi cael cefnogaeth o gymaint o gyfeiriadau gwahanol gan gynnwys cael fy annog gan fy nhiwtoriaid a fy ffrindiau yn y dosbarth gan ein bod ni i gyd wedi symud drwy’r un profiadau gyda’n gilydd. Mae ymdeimlad rhyfeddol o gyfeillgarwch rhyngom ni i gyd. Pan fyddwch yn fyfyriwr hŷn, bydd y tiwtoriaid yn eich annog i gydnabod a gwerthfawrogi unrhyw sgiliau sydd gennych eisoes o ganlyniad i brofiadau eich bywyd. Bydd y staff, y tiwtoriaid a’r myfyrwyr yn cydweithio ym mhob rhan o’ch siwrnai ddysgu a chewch eich trin yn gydradd. Mae gwasanaeth cymorth myfyrwyr ardderchog gan y Met i’ch helpu â phopeth gan gynnwys ceisiadau a chyllid, a byddan nhw’n rhoi cymorth i bob myfyriwr, mewn grwpiau neu’n unigol.

HELEN WITCOMBE BSc (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ail flwyddyn

TEITHIAU MET CAERDYDD

10


 Rwyf yn gyn gyfreithiwr, pedwar deg naw mlwydd oed, sy’n treulio dwy flynedd olaf o ddedfryd carchar am gynllwyn i dwyllo (fe ges i fy nedfrydu i 12 mlynedd ond caf fy rhyddhau ar ôl 6). Fe ges i fy magu mewn cartref lle roedd pris mawr ar addysg. Fe es i Ysgol Gyfun y Bechgyn yn y Barri cyn cael fy nerbyn i Brifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste i astudio’r Gyfraith. Fe wnes i gwblhau rhan ôl-raddedig fy astudiaethau cyfreithiol, Arholiadau Terfynol Cymdeithas y Gyfraith, ym Mhrifysgol De Cymru ym Mhontypridd ym mis Gorffennaf 1992. Gallech ddweud i fi gael llond het o gyfleoedd bywyd wedi’u rhoi i fi a ddylai fod wedi rhoi’r credyd hanfodol i fi, i fi gael gwneud rhywbeth o ’mywyd. Ond, er y rhain a’r ffaith i fi lwyddo i gael partneriaeth yn gynnar, fe ges i fy hun yn gyfreithiwr eiddo ifanc yn colli cysylltiad â’r pethau moesegol a phroffesiynol oedd yn eu lle i’m diogelu.

11

TEITHIAU MET CAERDYDD

Mae ffordd unigryw gan eiddo i lygru pobl; ac a minnau wedi dod yn rhy agos i’r cleientiaid hynny roeddwn yn eu cynrychioli, fe ddaeth yn fwy a mwy anodd i fi flaenoriaethu egwyddorion moesegol a phroffesiynol uwchlaw’r prysurdeb, y bargeinio a’r anonestrwydd sy’n dod gyda datblygu eiddo. I ddechrau byddwn yn edrych y ffordd arall ar bethau a ddylai fod wedi bod yn amlwg i fi, er mwyn cadw fy nghydwybod yn glir. Fodd bynnag, fe wnaeth fy anwybodaeth fwriadus ddatblygu’n gyflym wrth i fi gyfrannu’n uniongyrchol i dwyll morgeisi, a wnaeth arwain yn y pen draw i’m siwrnai i’r carchar. I ddefnyddio’r geiriau o The Road Not Taken gan Frost, fy newis llwybr oedd “the one less travelled by, and that had made all the difference”. Cefais fy nal mewn troell ddisgynnol o anonestrwydd a thwyll ac roedd yn amhosib i fi ddianc. Fe es i’n isel fy ysbryd gan ystyried diweddu fy mywyd fy hun, ond parhau a wnes i droseddu mewn ymgais ofer i ryddhau fy hun a dyna’r rheswm y cynyddodd colledion yn esbonyddol i fwy na £50 miliwn.

Mae cael eich carcharu yn eich profi’n ymenyddol bob dydd; eto, drwy aros yn bositif, â ffocws ac yn benderfynol, gallwch ddefnyddio’r profiad i adennill hunan-barch a’r balchder y gwnaethoch chi gael gwared arnyn nhw mewn ffordd mor ddiofal wrth droseddu. Ag ystyried popeth, mae fy mhrofiadau a’m hymdrechion hyd yma wedi rhoi teimlad o’r newydd o hunan-werth i fi, a’r peth mwyaf arwyddocaol, felly, yw’r ffaith nad yw fy nghamgymeriadau, er eu bod yn haeddu dedfryd sylweddol yn y ddalfa, yn fy niffinio yn berson sy’n symud ymlaen. Rwyf newydd gwblhau MSc mewn Astudiaethau Gwrth-Dwyll a Gwrth-Lygredd ym Mhrifysgol Portsmouth drwy ddysgu o bell. Fe fuodd yn her astudio o’r carchar, ond yn werth ei wneud yn ddi-os. Ar gyfer fy nghyfiawnder adferol i fy hunan, dewisais wneud hunan-astudiaeth empirig er mwyn archwilio rôl cyfreithiwr mewn twyll morgeisi ar gyfer fy nhraethawd. Mae’r traethawd hwnnw’n bwriadu herio’r theori droseddegol gyfredol gan gynnig mewnwelediad defnyddiol ar yr un pryd. Hyd yma, rwyf wedi derbyn cefnogaeth ac anogaeth oddi wrth nifer o academyddion blaenllaw.


Nid wyf yn dymuno chwilio am ffordd i esgusodi fy ymddygiad, na phwyntio’r bys yn rhywle arall, a llwyddo i gael PhD yn y pen draw i ddisodli’r dystysgrif ymarfer. Yr hyn sydd yn fy nghymell yw proses o hunanddarganfyddiad a chael adferiad. Gadewais ysgol y gyfraith ag ofn fy llun fy hunan yn broffesiynol, ond o fewn degawd roeddwn yng nghanol twyll. Pam? Sut? Rwy’n dechrau cael hyd i atebion ac maen nhw’n mynd y tu hwnt i’m gwendidau dynol innau. Ym mis Gorffennaf 2018, fe ddes i’n gymwys i gael fy rhyddhau am y dydd, sy’n fy ngalluogi i astudio y tu allan i CEM Prescoed (carchar agored). Pan oeddwn yn ddysgwr o bell gyda Phrifysgol Portsmouth, roedd yn benbleth i fi bod cwrs gen i ond fy mod i heb brifysgol lle y gallwn gwblhau fy nhraethawd hir. Pan oeddwn yn CEM Parc, fe fues i’n gweithio yn fentor addysg uwch ac fe ddes i ar draws Met Caerdydd a’u menter Ehangu Mynediad sy’n chwilio i ddileu’r rhwystrau i ddysgu.

Drwy gefnogi oedolion sydd wedi datgysylltu cyn pryd oddi wrth addysg, am ba reswm bynnag y digwyddodd hynny, a’u hannog i ail-ymgysylltu, does dim dwywaith bod y fenter hon yn gyfraniad cymdeithasol sylweddol wrth iddi gefnogi datblygiad unigolion a rhoi ailgyfeiriad positif i lwybr bywyd dysgwyr. Roedd yn fraint i minnau ym mis Gorffennaf pan agorodd Met Caerdydd eu drws a chynnig aelodaeth gymunedol i fi i’w llyfrgell a’u hadnoddau TG sylweddol. Mae hyn wedi fy ngalluogi i gwblhau fy astudiaethau mewn sefyllfa brifysgol ac i ystyried fy siwrnai academaidd yn y dyfodol, wedi’r cyfan: “it is never too late to be what you might have been” (George Eliot).

Felly, rwy’n dal i fod yn ddyledus i’r tîm Ehangu Mynediad ym Met Caerdydd.

HEB ROI EI ENW Wedi cwblhau MSc mewn Astudiaethau Gwrth-Dwyll a Gwrth-Lygredd ac yn astudio ar gyfer PhD ar hyn o bryd

Er na fydda i byth yn gallu ad-dalu’r colledion ariannol enfawr a wnaed oherwydd fy ngweithredoedd i, eto i gyd rwyf yn gobeithio y bydd fy unionder a’m pwrpas o ryw werth addysgol. Bydd hefyd yn helpu fy nghymhelliad i adennill rhywfaint o falchder ynof i fy hunan, i ddiolch i’m gwraig a’m plant am eu cariad a’u cymorth diamod; ac i roi rhywfaint yn ôl i’r gymdeithas y gwnes i ei methu mewn ffordd mor drawiadol.

TEITHIAU MET CAERDYDD

12


Nasrin Ali Mohammed yw fy enw i, rwyf yn 35 oed, ac rwy’n dod o ardal Cwrdistan yn Irac. Rwyf yn byw yn y DU ers bron wyth mlynedd. Cyn cyrraedd y DU, fe wnes i radd BA mewn Arabeg ym Mhrifysgol Sulaimani. Bues i’n gweithio’n amser llawn yn athro mewn ysgol uwchradd hyd Chwefror 2011. Ym mis Mai 2011, fe gyrhaeddais Prydain ac ymgartrefu yng Nghaerdydd, gan i fy ngŵr ennill ysgoloriaeth i astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ond o ganlyniad i sawl problem, gan gynnwys gwahaniaethau diwylliannol, iaith, cyllid, dyletswyddau teuluol (gan fod dau blentyn gen i), ac astudiaethau fy ngŵr, doedd dim cyfle i fi gael astudio a datblygu fy ngyrfa. Ymhlith y problemau hyn, y ffaith nad oeddwn yn deall Saesneg oedd fy mhryder mwyaf o ran dilyn a datblygu fy ngyrfa.


Roeddwn yn gwybod nad gwaith hawdd fyddai dysgu Saesneg, ond mae’n angenrheidiol. Felly, er mwyn goresgyn y rhwystr yma, yn raddol dechreuais wneud sawl cwrs Saesneg byr megis ESOL, yn enwedig wedi i fy ngŵr orffen astudio. Er na fyddai’r cyrsiau hyn yn ddigon i fi gael cyrraedd fy nod terfynol, sef astudio yn y brifysgol, fe gymerais ran yn rhai cyrsiau hyfforddi megis Seicoleg Plant, Rheoli Ymddygiad Plant, a’r un diweddaraf Peri Newid a ddarparwyd gan Gyngor Caerdydd. Roedd rôl sylweddol gan y cyrsiau hyn yn gwella fy Saesneg ac yn creu cyfle i ddeall y system addysg yma yn well ac wedi siapio’r ffordd a welwn y byd, yn benodol y ffordd y byddwn yn synied am addysg, diwylliant, ac ati…. Pan oedd y plant yn yr ysgol yn amser llawn, roedd cefnogaeth ac anogaeth fy ngŵr a’r ffaith fy mod yn adnabod pobl newydd a gwahanol wedi rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i gael rhywfaint o waith â thâl a gwaith di-dâl. Fe wnaeth y swyddi hyn fy ngalluogi i ryngweithio â llawer o blant ac oedolion gwahanol o ystod o wahanol gefndiroedd, yn amrywio o ran eu hoedran a’u diwylliant. Yn benodol, roeddwn yn deall mwy am addysgu drwy ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn dwy ysgol gynradd wahanol yn drefnydd ac yn athro cynorthwyol. Bues i’n gweithio yn wirfoddolwr mewn ysgol gynradd; fe wnaeth hyn i gyd fy arwain i chwilio am gwrs academaidd i gyfoethogi fy mhrofiad.

Felly, yng nghanol 2017 fe wnes gais i astudio ar gyfer gradd M.Add. ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ond fe ges i wybod na chawn le nes i fi gael sgôr o 6.0 o leiaf mewn IELTS. Er i hyn fod yn anodd, fe ges i fy nghyfeirio i ganolfan gymunedol lle y bydd Ehangu Mynediad Met Caerdydd yn cynnig hyfforddiant i’r bobl y bydd angen hyfforddiant a phrofion IELTS Academaidd arnyn nhw. Yn y ganolfan honno, fe wnes i gyfarfod â sawl athro a thiwtor dynodedig a wnaeth ein helpu nid yn unig i lwyddo yn y profion ond a wnaeth ymestyn ac ehangu’n ffordd o weld y byd. Rwyf yn eithaf siŵr na fyddai wedi bod yn bosib goresgyn y rhwystrau hyn heb eu cefnogaeth a’u hanogaeth nhw. Felly, fe lwyddais yn y prawf a chael cynnig lle di-amod i astudio M.Add. ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

I gloi hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy helpu i lwyddo i gyflawni fy nodau. Byddaf yn dweud wrthyn nhw na wnaf i fyth anghofio eu cymorth a’u cefnogaeth. Rwyf yn gwerthfawrogi’ch cynhorthwy, eich ysgogiad a’ch anogaeth yn fawr. Hoffwn atgoffa’r bobl hynny a fydd yn darllen y stori hon: cofiwch fod yn bositif drwy’r amser, gwireddwch eich potensial a pheidiwch â rhoi’r gorau iddi. Yn gryno, pam aros i’r cyfle, gwnewch gyfle eich hunan!

NASRIN MOHAMED Yn astudio ar gyfer MA Addysg

Bydd rhaid i fi gydnabod i’r anhawster ariannol barhau i fod yn broblem bryd hynny. Wrth lwc, fe ges i hyd i ysgoloriaeth Gwobr Noddfa ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Felly fe wnes i gais ac enillais yr ysgoloriaeth. Roedd hwn yn gyfle gwych i fynd i’r brifysgol a dechrau fy nghwrs Meistr. Roedd y Wobr Noddfa yn talu’r holl ffioedd dysgu ac yn rhoi rhywfaint o gymorth ychwanegol. Bellach rwyf yng nghanol fy astudiaethau M.Add.

TEITHIAU MET CAERDYDD

14



Fe es i i Ysgol Uwchradd Willows a gadael â phob un o’m TGAU ar raddau B a C. Fe es i’n syth i brentisiaeth trin gwallt a gweithiais tuag at fy NVQ Lefel 1, 2 a 3 mewn trin gwallt. Fe gymerodd tua 4 blynedd i gwblhau pob un o’m cymwysterau ond fe ddes i’n steilydd iau ar ôl dwy flynedd, yn cynnig pob gwasanaeth salon. Rwyf wedi gweithio mewn llawer o’r salonau ar draws Caerdydd, yn magu dros 10 mlynedd o brofiad gan ddod yn steilydd uwch. Roeddwn wedi cyflawni’r nodau yn fy ngyrfa a ches i fy hun yn pendroni sut roeddwn yn mynd i symud ymlaen ymhellach yn fy ngyrfa. Roeddwn yn mwynhau gwaith trin gwallt ond roedd yn gofyn llawer yn gorfforol, felly roeddwn yn awyddus i chwilio am newid. Fe ddes i i ddiwrnod blasu Ysgol Haf Met Caerdydd a chael fy hunan wedi ymrestru ar y rhaglen TAR/Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol â’r nod o ddysgu sut i addysgu fy mhroffesiwn. Roeddwn yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos yn ystod fy nghyfnod ym Met Caerdydd ac roedd yn straen mawr rhannu fy amser rhwng trin gwallt, y Brifysgol a’m profiad gwaith newydd yn ACT. Roedd y tiwtoriaid ar y cwrs a Chyllid Myfyrwyr Cymru yn gefnogol iawn ac rwyf mor falch na wnes i roi’r gorau iddi gan i mi raddio 2 flynedd wedyn gyda’m cymhwyster.

Fe ges i swydd newydd yn ACT yn gweithio gyda myfyrwyr 16-19 oed ag anghenion dysgu ychwanegol. Doedd hyn ddim yn rhywbeth roeddwn wedi disgwyl y byddwn yn ei wneud gyda fy nghymhwyster ond fe ddaeth y cyfle ac fe’i cymerais yn eiddgar. Roedd yn waith gwerth ei wneud yn bendant! Symudais ymlaen yn ddiweddar unwaith eto yn y cwmni ac erbyn hyn fi yw Cynrychiolydd y Dysgwyr newydd. Rwyf yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm Ansawdd ac rwy’n cynrychioli barn a syniadau’r dysgwyr. Mae fy nghymhwyster addysgu yn ddefnyddiol gan y byddaf yn cynnal fforymau grŵp i gasglu adborth oddi wrth y dysgwyr drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Rwy’n dal i wneud gwaith trin gwallt ar y penwythnosau ac rwy’n mwynhau fy ngyrfa newydd yn fawr iawn.

Roeddwn i’n swil iawn pan ddechreuais ddysgu sut i addysgu ond erbyn hyn rwy’n addysgu oedolion bob dydd ac rwy’n teimlo i fi oresgyn cymaint o rwystrau wrth ennill fy nghymhwyster na fydda i byth yn dweud wrthyf i fi hun na alla i wneud rhywbeth eto! Fe fyddwn yn cynghori unrhyw ddarpar ddysgwyr newydd i atgoffa’u hunain bod gwaith caled yn dwyn ffrwyth. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi. Peidiwch bod ag ofn gofyn am help a defnyddio’r adnoddau a’r cyfleusterau sydd ar gael i chi. Fe wnes i gysylltiadau gwych ym Met Caerdydd ac fe ges i swydd newydd cyn gorffen y cwrs hyd yn oed. Wnes i erioed ddisgwyl y byddwn yn gwneud y gwaith rwy’n ei wneud nawr ond rwyf mor hapus yn fy ngyrfa newydd.

LEAH TWINNEY Tystysgrif Addysg Broffesiynol

Pan oeddwn yn astudio, roedd rhai pethau’n anodd arnaf, a dweud y lleiaf. Doeddwn i ddim yn gallu ffurfio fy nhraethawd cyntaf hyd yn oed ac fe fûm i am ddiwrnodau yn ceisio newid y ffont a’r dyluniad er mwyn boddhau’r safonau. Mae fy sgiliau wedi gwella’n rhyfeddol oherwydd y cwrs ac rwy’n defnyddio technoleg nawr bob dydd yn fy swydd newydd. Rwy’n teimlo fy mod wedi magu hyder ac i hyn gael effaith enfawr ar fy ngyrfa ac ar fy mywyd personol hefyd.

TEITHIAU MET CAERDYDD

16


 Roedd cynnwys y cwrs wedi creu argraff fawr arnaf ac roedd yn gwrs diddorol, yn hwyl, yn wybodus, wedi’i strwythuro’n dda ac yn fwy proffesiynol nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Cafodd arddull addysgu a gwybodaeth y tiwtor, a oedd yn gymorth mawr bob amser ac yn hawdd iawn mynd ato, lawn cymaint o argraff arna i. Yn fy marn i, cyflawnodd y tiwtor y cwrs mewn ffordd wych ac roedd yn enghraifft ddelfrydol i ni o ran sut dylai cwrs gael ei addysgu. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i fi gael y cyfle i ddod i’r cwrs ac rwy’n meddwl bod y cwrs yn fenter wych a ddylai fod yn wirioneddol werthfawr i’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr p’un ai y byddan nhw’n parhau ym maes addysgu neu beidio. Rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr i fi i fyd addysgu a rhoi rhywbeth i fi gnoi cil arno o ran symud ymlaen i gael rhagor o gymwysterau yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter Ehangu Mynediad a’r berthynas â CEM Prescoed yn parhau yn y dyfodol ac y gellir datblygu’r berthynas ymhellach i gael symud ymlaen i gyfnodau nesaf dysgu a’i gwneud yn bosib cyflawni cyrsiau eraill hyd yn oed. Rwyf yn diolch i bawb a gyfrannodd i sicrhau bod y cwrs hwn ar gael.

IDENTITY WITHHELD Modiwl Ehangu Mynediad 10 credyd

17

TEITHIAU MET CAERDYDD

 Yn fy marn i roedd y cwrs yn gyflwyniad grymusol, diddorol dros ben, fe wnaeth wyrdroi’r camdybiaethau oedd gen i a gwneud i mi feddwl am gynwysoldeb a rhagfarn anymwybodol. Fe ddes i oddi ar y cwrs yn teimlo y byddwn yn fwy abl i roi hyfforddiant i oedolion o ddysgwyr. Fe wnes i sylweddoli hefyd bod llawer mwy o broffesiynoldeb ynghlwm wrth addysgu nag yr oeddwn wedi sylweddoli. Drwy wneud y cwrs hwn rwyf wedi fy ysgogi i ymgeisio i wneud cwrs ôl-raddedig yn y brifysgol.

HEB ROI EI ENW Modiwl Ehangu Mynediad 10 credyd


 Fe es i ysgol uwchradd gan adael ag 8 TGAU cyn mynd i weithio’n amser llawn ac yna’n mynd i Brifysgol Plymouth ar gwrs gradd. Fe wnes i roi’r gorau i astudio ar ôl dwy flynedd ar fy nghwrs gradd gan i fi gael fy anfon i’r carchar yn 2014 oherwydd cyffuriau. Fe wnaeth gweithio gyda’r tîm ym Met Caerdydd fy helpu i oresgyn nifer o rwystrau ac roeddwn yn gallu mynd i’r brifysgol drwy gael fy rhyddhau am y dydd i astudio BA (Anrh) Cyfathrebu Graffig. Mae wedi fy helpu’n fawr i wella fy sgiliau dylunio a chynnig llwybr gyrfa newydd i fi a chyfle i ddechrau o’r newydd. Mae fy nheulu wedi fy nghefnogi’n ddi-baid, ynghyd â’m cymheiriaid, fy nhiwtoriaid yn y Brifysgol ac yn arbennig Jamie Grundy o’r tîm Ehangu Mynediad ym Met Caerdydd na fyddai hyn wedi bod yn bosib o gwbl hebddyn nhw.

O fod yn eistedd mewn cell 8’x4’ wedi fy nghloi i ffwrdd am hyd at 23 awr y dydd, i gael bod yn eistedd mewn ystafell ddosbarth fyrlymus â blwyddyn ar ôl cyn i fi gael fy rhyddhau, alla i ddim mynegi mewn geiriau faint mae wedi’i olygu i fi fy mod i’n cael dod i Met Caerdydd. Yn ogystal â symud yn ôl i’r gymuned yn llyfn, mae wedi rhoi’r cyfle i fi symud ymlaen yn fy mywyd proffesiynol ac i ail-adeiladu fy ngyrfa cyn cael fy rhyddhau. Drwy hyn i gyd, fe ges i fy nhrin fel myfyriwr yn hytrach na fel troseddwr a bellach mae gen i radd a dyfodol disglair. Mae Met Caerdydd yn wirioneddol arloesol ac rwy’n gobeithio y caiff llawer o bobl debyg i mi yr un cyfle.

IDENTITY WITHHELD Nawr mae fy nyfodol yn ddisglair a chaf fynd i Gaerdydd ym mis Medi ar gwrs Meistr. Fy nghyngor i unrhyw un yn fy sefyllfa i yw “Peidiwch â rhoi’r gorau iddi. Mae waliau yno i’w dringo ac mae rhwystrau yno i’w goresgyn”.

Widening Access 10 credit module

TEITHIAU MET CAERDYDD

18



Ar ddechrau fy siwrnai roeddwn yn 31 oed, yn fam i bump o blant, nad oedd yn disgwyl fawr ddim oddi wrthyf i fy hun. Nid oeddwn wedi credu erioed y gallwn fyth fod yn ddim byd ond yn fam ac yn wraig tŷ. Mae fy ngŵr yn gweithio’n amser llawn a oedd yn golygu fy mod ar fy mhen fy hun yn codi pump o blant, y mae dau ohonyn nhw’n anabl, a oedd yn gofyn llawer iawn gennyf. Allwn i fyth fod wedi cadw swydd gan y byddwn yn cael fy ngalw’n gyson i’r ysgol, i’r ysbyty neu i apwyntiadau a oedd yn gysylltiedig â iechyd a datblygiad fy mhlant. Pan wnes i gael cyfweliad gyda Donna yn Hyb Trelái, ces i fy nghyflwyno i Ddysgu Oedolion yn y Gymuned. Mae wedi trawsnewid fy mywyd yn llwyr ac wedi fy ngalluogi i weld bod golau ar ddiwedd y twnnel. Mae wedi rhoi sgiliau bywyd i fi, wedi magu hyder ac wedi fy integreiddio i gymuned rwy’n teimlo fy mod yn perthyn mwy iddi.

Mae gwneud cyrsiau yn Hyb Trelái wedi bod yn fuddiol i fi gan fod ysgolion y plant yn agos iawn. Mae’r amgylchedd hyblyg y mae’r staff yn ei ddatblygu wedi bod yn hanfodol i riant fel fi. Drwy wneud cyrsiau am ddim yn yr Hyb, rwyf wedi gallu symud ymlaen ymhellach yn hyderus, â’r nod i gael mynd i’r Brifysgol. Fyddai hyn fyth wedi bod yn bosib heb y cyrsiau hyn. Rwyf wedi bod yn gallu dangos i’r plant bod popeth yn bosib gyda’r gefnogaeth a’r strwythur iawn. Rwy’n teimlo i hyn roi cyfle gwell mewn bywyd yn garreg sarn tuag at y brifysgol. Rwy’n credu bod cyrsiau yn y gymuned yn dileu ffiniau yn y gymuned, yn galluogi pobl i obeithio a chael bywyd gwell, a helpu i addysgu ein plant, a nhw yw ein dyfodol. Rwy’n credu na allwn fod wedi dysgu'r pethau rwyf wedi eu dysgu heddiw pe bai hyn wedi bod mewn amgylchedd coleg, strwythuredig.

Dyma restr o’r cyrsiau rwyf wedi’u cyflawni hyd yma ac rwy’n gobeithio parhau fy siwrnai a gwneud cyrsiau eraill cyn gwneud cais am le yn y brifysgol: Seicoleg Achrededig - Ehangu Mynediad Met Caerdydd, rhaglen Fentora, Diogelu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Bwyd a Hylendid, Seicoleg Plant, Cymraeg, Dylunio Gemau, Sgiliau Cwnsela, Saesneg a Mathemateg.

RUTH O’HANLON Yn astudio modiwl Seicoleg achrededig Ehangu Mynediad

TEITHIAU MET CAERDYDD

20



Ganed Winnifreda Tandi yn Chwefror 1964 yn Simbabwe lle y cafodd ei haddysg gynradd ac uwchradd. Nid oedd hyn yn hawdd gan nad oedd ar y pryd ddigon o ddeunyddiau dysgu, roedd rhaid iddi rannu gwerslyfr rhwng 10 myfyriwr mewn dosbarth o 50 a bu rhaid iddi brynu ei llyfrau ysgrifennu ei hunan er mwyn iddi gael ysgrifennu ynddyn nhw.

Ag ychydig o gymorth, llwyddodd i oresgyn y rhwystrau a oedd wedi’i hatal rhag cyflawni ei nodau cyn hyn. Ymhlith y rhain roedd ymgartrefu yn deulu mewn gwlad newydd heb ddim ffrindiau neu berthnasau i’w helpu neu i’w chefnogi, a heb swydd neu lety boddhaol ynghyd â’r gofid ynglŷn â gadael perthnasau a ffrindiau ar ôl.

Pan ddaeth hi i Loegr roedd hi’n benderfynol y byddai ei phlant yn cael addysg dda ac roedd hi’n falch iawn pan raddiodd ei phlant, yn enwedig felly gan i ddau ohonyn nhw ennill graddau dosbarth cyntaf: Meistr mewn Cyllid a BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Maen nhw bellach yn gweithio, y naill yn archwilydd mewnol mewn banc a’r llall yn ddadansoddwr ariannol.

Roedd cyfyngiadau ariannol hefyd; gan fod ei phlant wedi’u categoreiddio yn fyfyrwyr rhyngwladol, bu rhaid iddi dalu ffioedd dysgu uwch a gymerodd ei holl gynilion er mwyn iddi gael gwneud hynny.

Ei phlant fu’n ysbrydoliaeth i Winnifreda ddychwelyd i ddysgu ac wedi iddyn nhw setlo, penderfynodd hithau gwblhau ei haddysg ei hunan, er i’w theulu a’i ffrindiau ddweud wrthi ei bod yn rhy hen.

Roedd y ffaith bod cyrsiau Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn y gymuned ar gael am ddim yn gymorth mawr iddi. Ac fe wnaeth hi ymrestru. Drwy fynd ar y cyrsiau hyn, clywodd am Ysgol Haf Ehangu Mynediad a phenderfynodd ymuno, gan gwblhau’r modiwl Sgiliau Adfyfyriol lefel 3 yn llwyddiannus. Meddai ei thiwtor ar y modiwl hwn “Roedd Winnifreda yn gweithio’n galed, yn ymrwymedig yn ei hymdrechion ac yn agored i dderbyn adborth y gwnaeth ei gynnwys yn rhan o bortffolio gwych a gyflwynodd ar gyfer yr asesiad. Yn ogystal, bu’n cefnogi ei chyd-fyfyrwyr â’u gwaith hwythau ac yn eu hannog i weithio’n galed ac i ymroi i’r gwaith”.

Fe gwblhaodd Winnifreda sawl cwrs yn y gymuned gan symud ymlaen i’r cwrs Ieuenctid a’r Gymuned lefel 3 achrededig a oedd yn gam angenrheidiol er mwyn ymgeisio am le ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio cwrs sylfaen yn arwain at BA/BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae Winnifreda’n sôn am y tiwtoriaid cymunedol a wnaeth ei hysbrydoli a rhoi sylfaen dda iddi, yn arwain ei dysgu, yn esbonio mor bwysig yw mynd nôl i ddysgu yn fyfyriwr hŷn ac yn rhannu eu profiadau nhw eu hunain yn astudio pan oedden nhw’n henach. Roedd Winnifreda yn enillydd haeddiannol Gwobr Ysbrydoli oddi wrth L&W (Learning and Work Institute). Mae Winnifreda bellach yn gweithio’n galed ar ei hastudiaethau ac mae’n bwriadu gwirfoddoli mewn lleoliad ieuenctid a’r gymuned. Wedi iddi gymhwyso, ei bwriad yw cael gwaith yn weithiwr ieuenctid a’r gymuned er mwyn ysbrydoli a grymuso pobl eraill.

WINNEFREDA TANDI Myfyriwr BSc (Anrh) Astudiaethau Tai ar ei hail flwyddyn

TEITHIAU MET CAERDYDD

22


Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB 029 2020 1563 wideningaccess@cardiffmet.ac.uk www.cardiffmet.ac.uk/wideningaccess @WideningAccess /wideningaccess


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.