Ansawdd Cymru 2015 CYM

Page 1

Yn y rhifyn hwn: Cwrs nesaf Aur pur

Ansawdd Cymru Rhifyn 8, 2015

Arfordir arbennig Stori i’ch symud Cadw’r ffydd

llyw.cymru/twristiaeth


[ 31 ]

[ 05 ]

[ 27 ]

Yn cael sylw yn y rhifyn hwn o Ansawdd Cymru mae, [31] Clwb Golff Dinbych-y-pysgod, [05] Fferm Folly, [27] TrawsCymru, [29] mynediad i bawb, [11] Will Holland yn Coast, [25] 3 Pen Cei, [19] Black Mountain Gold, [21] Eglwys Gadeiriol Tyddewi, [07] Zip World a [33] Canolfan Bwyd Cymreig Bodnant.

[ 29 ]

[ 11 ]

Ansawdd Cymru Rhifyn 8, 2015 [ 25 ]

[ 19 ]

[ 21 ]

[ 07 ]


Cynnwys Croeso i Ansawdd Cymru. Yr hyn sy’n wych am lunio’r cylchgrawn yw cael y cyfle i gwrdd â phobl sy’n ysbrydoliaeth go iawn. Mae’r gair ‘angerdd’ yn un a orddefnyddir braidd y dyddiau hyn, ond dyna’n union beth mae’r unigolion hynod y deuwn ar eu traws yn ei roi i’w busnesau – ynghyd ag ymroddiad, dawn a rhagoriaeth. A’r peth gwych yn y rhifyn hwn yw y gallwch chithau gwrdd â nhw hefyd gan fod gennym fideos o’n cyfweliadau i chi gael eu gweld yma: llyw.cymru/twristiaeth. Neges o groeso gan y Dirprwy Weinidog [t03] yr uwchgynhadledd [t04] antur fawr Cymru [t07]

/ Gyda goreuon y byd: Llwyddiant

/ Hanes y sw: arwyddion Fferm Folly [t05] / Adrenalin:

/ Arfordir arbennig: Byw ar lan y môr [t11] / Does unman

tebyg i Gymru: Eiconau, marchnata a chyfleu neges [t15] / Melys moes mwy: Siocled o Gymru [t19] /

Cadw’r ffydd: Ymweld â safleoedd sanctaidd [t21] / Aur

pur: Gair i gall gan enillydd [t25] / Stori i’ch symud: Cludiant twristiaeth [t27] / Mynediad: Agored i bawb? [t29] / Gwell na’r safon: Clwb golff ar ei newydd wedd [t31]

/ Cwrs nesaf: Effaith y ‘Bake-off’ [t33]

[ 33 ]

Cyhoeddir Cylchgrawn Ansawdd Cymru gan Croeso Cymru,

Rydym wedi gwneud ein gorau glas i wneud yn siwr ^ fod

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y cynnwys gan Julian Rollins

Is-adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru

popeth yn gywir, ond allwn ni ddim derbyn atebolrwydd am

(www.julianrollins.co.uk) a Rebecca Lees. Argraffwyd gan

© 2015.

unrhyw wallau, camgymeriadau na diffygion. Edrychwyd

Harlequin. Darparwyd y lluniau gan Ganolfan Luniau Croeso

ar bob gwefan cyn mynd i’r wasg. Ond gan nad ni biau’r

Cymru a ffynonellau allanol eraill. © Hawlfraint y Goron

Croeso Cymru, Canolfan QED, Stad Ddiwydiannol Trefforest,

gwefannau, fedrwn ni ddim gwarantu na fyddant wedi

2015. Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael hefyd mewn Braille,

Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5YR.

newid. Cedwir pob hawl – felly peidiwch â chopïo dim heb

print mawr, a/neu sain gan Croeso Cymru. Argraffwyd y

Ffôn: 0300 060 3300

ofyn i ni’n gyntaf. Nid barn Croeso Cymru o reidrwydd yw’r

cylchgrawn ar bapur wedi’i ailgylchu.

Ebost: visitwales.communications@wales.gsi.gov.uk

hyn a welwch yng Nghylchgrawn Ansawdd Cymru. ISBN Print 978 1 4734 3003 7 ISBN Digidol 978 1 4734 3002 0

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

WG22685

2


BARN

Rhagair Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC Penodwyd Ken Skates AC yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ym Medi 2014. Roedd 2014 yn adeg ardderchog imi ymgymryd â’r portffolio hwn. Profodd yn flwyddyn ragorol i dwristiaeth yng Nghymru, hyd yn oed o gymharu â 2013 a oedd yn flwyddyn lwyddiannus ei hun. Er i’r tywydd fod yn ffafriol, mae hynny’r un mor wir am weddill y Deyrnas Unedig ond mae Cymru’n llwyddo i wneud yn well na gweddill Prydain o ran denu ymwelwyr i aros ac ymwelwyr dydd. Hir y parhao’r duedd gadarnhaol hon, yn enwedig gan fod Cymru wedi meddiannu’r llwyfan yr hydref diwethaf wrth gynnal uwchgynhadledd NATO. Yn ystod ei ymweliad â Chymru, rhoddodd Barack Obama y clod mwyaf inni, gan ganmol harddwch eithriadol, pobl hyfryd a chroeso gwych ein gwlad a dweud y byddai’n annog pobl o’r Unol Daleithiau i ddod yma. Gobeithio y bydd llawer o bobl yn derbyn ei gyngor. Mae Llywodraeth Cymru’n gwerthfawrogi pwysigrwydd twristiaeth. Enwyd y sector yn un o’n naw sector allweddol ar gyfer sicrhau twf economi Cymru i’r dyfodol. Rwy’n credu’n gryf fod twristiaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn yr economi gan ei bod yn cyffwrdd pob rhan o Gymru, a gwasgariad daearyddol y gwaith a grëir gan y sector twristiaeth yw un o’i gryfderau allweddol. Mae twristiaeth yn

cynnal 14.9% o swyddi yng Nghymru ac wrth gwrs, mae’r cysylltiadau â’r gadwyn gyflenwi’n dod â buddiannau i lawer o fusnesau bach cynhenid Cymru. Rwyf wrth fy modd fod y portffolio newydd hwn yn cysylltu twristiaeth a threftadaeth. Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol mewn gwneud y gorau o botensial economaidd ein treftadaeth. Mae angen sicrhau bod ein twristiaeth treftadaeth yn ffres a pherthnasol, gan sicrhau bod y cyfleusterau a’r cynnyrch yn eu lle i wella profiad yr ymwelydd. Mae ein treftadaeth yn rhoi dolen gyswllt inni â’n gorffennol, gan ennyn teimlad o berthyn sy’n chwarae rhan mewn creu cymdeithas fodlon a hyderus. Yn ei dro, bydd ein hyder yn ein hunaniaeth a’n hanes yn peri bod Cymru’n wlad ddifyr a diddorol i ymweld â hi. Elfen arall sy’n peri bod Cymru’n wlad ddeniadol i ddod iddi ac sy’n rhan annatod o brofiad ymwelwyr yw bwyd. Fel y gwelwn yn y rhifyn hwn o Ansawdd Cymru, mae cymaint o gynhyrchwyr bwyd ffantastig a dewis o fwyd lleol yng Nghymru – a dim ond crafu’r wyneb rydym ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar Gynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i wella enw da Cymru fel man lle ceir bwyd o’r ansawdd gorau ac i annog mwy o bobl i ddefnyddio bwyd lleol. Mae tipyn o

3

Ansawdd Cymru

adfywiad bwyd yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Erbyn hyn mae gennym fwy o sêr Michelin nag a fu gennym ers dros ddeng mlynedd; mae cogyddion enwog yn dewis Cymru fel lleoliad i’w bwytai ac mae’r brand Llundeinig Wahaca wedi dewis Caerdydd fel y lleoliad ar gyfer ehangu allan o Lundain. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd Cynghori Twristiaeth i wireddu ein nod o dwf 10% yn y diwydiant erbyn 2020 ac yn gobeithio ymweld â nifer o fusnesau twristiaeth ledled Cymru yn ystod 2015. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi – rheng flaen y diwydiant – am eich holl ymroddiad a gwaith caled sy’n peri bod Cymru’n lle mor fendigedig i ddod iddo. Efallai fod ymwelwyr yn dod yma’r tro cyntaf i fwynhau ein tirweddau, ein diwylliant, ein gweithgareddau a’n digwyddiadau, ond rwy’n siwr ^ mai pobl Cymru a’r croeso cynnes sy’n peri iddyn nhw ddychwelyd dro ar ôl tro.

Ken Skates AC Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

llyw.cymru/twristiaeth


TWRISTIAETH

Gyda goreuon y byd Llwyddiant yr uwchgynhadledd “Gallwch weld yr harddwch eithriadol, y bobl hyfryd a’r croeso gwych, felly mi fyddwn i’n annog pawb yn America i ddod i ymweld â Chymru.” Yr Arlywydd Barack Obama

[01]

[02]

Barack Obama (Arlywydd Unol Daleithiau America), [02] Arddangosfa Red Arrows, Bae Caerdydd, [03] Arddangosfa bwyd môr a physgod cregyn Cymru, Celtic Manor Resort a [04] Carwyn Jones (Prif Weinidog Cymru), Barack Obama (Arlywydd Unol Daleithiau America) a David Cameron (Prif Weinidog y Deyrnas Unedig), Celtic Manor Resort. [01]

[03]

[04]

Dyna eiriau o gymeradwyaeth sy’n anodd eu curo – ac nid dyna’r unig beth da a ddeilliodd o Uwchgynhadledd NATO Cymru. Yn cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd yn Celtic Manor Resort, Casnewydd, fis Medi diwethaf roedd yr Arlywydd Obama ynghyd ag arweinwyr a phrif lywodraethwyr gwledydd NATO. Mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Dywysog Cymru, anogodd yr Arlywydd ei gydwladwyr i ymweld â Chymru, gan ganmol “harddwch eithriadol, pobl hyfryd a chroeso gwych” y wlad. Yn ôl y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, roedd yr uwchgynhadledd, y gyntaf i Gymru, yn gyfle anhygoel i Gymru arddangos ein pobl a’n diwylliant i’r byd, ynghyd â’n

cyfleusterau gwych – a’n gallu i gynnal un o ddigwyddiadau mwya’r byd. Meddai: “Dangosodd NATO y gallwn ni ddarparu ar gyfer arweinwyr y byd. Cawn gyfle nawr i adeiladu ar y proffil uwch y mae NATO wedi’i roi inni a manteisio ar ein proffil fel lle gwych i gyfarfod a chynnal cynadleddau a digwyddiadau. Gall pawb fod yn sicr y cânt groeso twymgalon yng Nghymru – boed hynny’n arweinydd byd ai peidio. Gobeithio y daw cwmnïau lu i ddilyn yn ôl troed Obama.” Mae Croeso Cymru’n gweithio i gefnogi busnesau sy’n awyddus i weithio gyda’r sectorau busnes a thwristiaeth a’r fasnach deithio hamdden, gan gynnwys trefnwyr teithiau, cwmnïau gwyliau, cwmnïau bysus pleser, trefnwyr cynadleddau proffesiynol a chwmnïau rheoli lleoliadau a digwyddiadau.

I gael gwybod rhagor…

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, dyma sut i fynd ati: Cofrestrwch i gael e-newyddion Croeso Cymru yn www.llyw.cymru/twristiaeth Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf am y fasnach deithio yn rheolaidd gan dîm y fasnach deithio, ynghyd â chyfleon a’r wybodaeth ddiweddaraf am arddangosfeydd a digwyddiadau yn www.llyw.cymru/twristiaeth Dilynwch ni ar Twitter @croesocymrubus

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

4


TWRISTIAETH

Hanes y sw Iaith arwyddion Y brif flaenoriaeth gan Fferm Folly yn sir Benfro yw bod eu hymwelwyr yn mynd adref wedi blino ac wrth eu boddau. Ond os ânt ag ambell air o Gymraeg gyda nhw hefyd, mae hynny’n fonws.

O’r arwydd yn y cyntedd sy’n dweud ‘Croeso i Fferm Folly’ i’r ffair, y sw a’r maes chwarae antur, mae’r Gymraeg wedi’i phlethu i mewn i brofiad yr ymwelydd yn yr atyniad twristaidd poblogaidd hwn.

Efallai na fydd pob crwt sy’n cael hwyl ar y rhaffau yn y maes chwarae’n dod oddi yno’n gallu dweud ‘fe fues i’n siglo ar y rhaffau yn y maes chwarae antur’, ond mae Llwybr Dysgwyr yn golygu bod siawns i air neu ddau suddo i’r isymwybod. Ac mae hynny’n arwydd o lwyddiant polisi iaith Fferm Folly. Yn ôl yn 2011 lansiodd y fferm Lwybr Cymraeg a Llwybr Dysgwyr ac ers hynny mae’r tîm rheoli wedi addo sicrhau y bydd pob arwydd a godir o’r newydd yn ddwyieithog. Ar ben hynny, caiff staff eu hannog i siarad Cymraeg ag ymwelwyr. Meddai’r rheolwr marchnata Zoe Wright: “Cyfres o arwyddion o gwmpas y parc yw’r Llwybr Cymraeg, sy’n sicrhau bod disgrifiad Cymraeg ar gael o bob un o’r mannau allweddol. Mae’r Llwybr Dysgwyr yn gyfres o arwyddion i bobl ddi-Gymraeg a phobl sydd ar eu gwyliau sy’n rhoi brawddeg Gymraeg iddynt ei dysgu am eu diwrnod yn Fferm Folly.” Yn y dyfodol bydd pob arwydd newydd yn llociau’r sw’n gwbl ddwyieithog.

“Yn 2013, Arfordir y Pengwin oedd ein lloc cwbl ddwyieithog cyntaf ac eleni fe wnaethom yr un peth i’n lloc llewod, Balchder Penfro,” meddai Zoe. “Mae gennym gynlluniau ar gyfer dau loc anifeiliaid arall a bydd y ddau’n ddwyieithog.” Prosiect hirdymor yw newid yr arwyddion, o reidrwydd. “Mae gennym 80 acer a llawer o arwyddion, felly mae hwn yn fuddsoddiad ariannol enfawr. Corff sy’n rhedeg ar gyllid preifat ydyn ni felly does dim gofyniad cyfreithiol inni wneud hyn, ond rydym wedi bwrw ati i weld beth allwn ni ei wneud,” medd Zoe. “Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig o ran ymdeimlad o le. Dydyn ni ddim yn unigryw yng ngwledydd Prydain, ond mi rydyn ni’n unigryw yng Nghymru a theimlwn ei bod yn bwysig coleddu hynny. Rydyn ni’n tynnu llawer o ddieithriaid i’r ardal ar wyliau ac rydyn ni eisiau gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw wedi dod i le sy’n wahanol.” Mae’r tîm yn Fferm Folly, sydd ger Cilgeti, yn cydnabod bod y Gymraeg yn bwnc sy’n ennyn teimladau cryf. “I rai ymwelwyr fydd byth dim digon o Gymraeg, ond mae’r rhan fwyaf yn falch iawn o weld yr iaith ar y Fferm,” medd Zoe. “Bob blwyddyn byddwn yn cynnal diwrnod gyda rhaglen blant S4C ‘Cyw’. Eleni oedd ein trydedd flwyddyn ac mae’n ddiwrnod hynod o bositif, gyda llawer mwy o Gymry

5

Ansawdd Cymru

Cymraeg yn y parc ar y diwrnod hwnnw.” Yn ogystal â’r goblygiadau ariannol, mae polisi dwyieithog yn cynnig sawl her – ac mae lleoliad Fferm Folly’n un o’r rheiny. “Yn ne Penfro Seisnig yr ydyn ni,” medd Zoe. “Mae’n gallu bod yn anodd denu staff Cymraeg; yn anterth y tymor byddwn yn cyflogi rhyw 160 o staff, ac efallai bod dwsin ohonyn nhw’n medru’r Gymraeg. Ond maen nhw’n gwisgo’r bathodynnau ‘Siarad Cymraeg’ ac rydyn ni’n annog staff di-Gymraeg hefyd i ddweud ‘bore da’ a ‘diolch’ o leiaf.” Oherwydd safle Fferm Folly fel un o brif atyniadau Cymru i deuluoedd, mae’r tîm yn credu bod ganddo gyfrifoldeb i hybu’r iaith. “Mater o gefnogi diwydiant twristiaeth Cymru yw e,” medd Zoe. “Maen nhw angen atyniadau mawr fel Fferm Folly i sefyll gyda nhw ac rydyn ni’n sylweddoli bod gennym gyfrifoldeb i roi help llaw. Mae pawb ar eu hennill. Fe hoffen ni wneud mwy a’i wneud yn llawer cyflymach. Diwedd y gân yw’r geiniog, ond fe ddown ni i ben!” Mae’r parc wedi cael sylw gan Gomisiynydd y Gymraeg fel enghraifft o ymarfer da ac fe’i defnyddir fel astudiaeth achos mewn cynadleddau a chyflwyniadau. “Rydyn ni’n credu felly ein bod wedi cael rhywfaint o ddylanwad,” medd Zoe. “Rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifri a hoffem feddwl bod yr effaith yn treiddio trwy faes twristiaeth yng Nghymru.”

llyw.cymru/twristiaeth


Mae arwyddion Cymraeg i’w gweld bellach ar Fferm Folly yn sir Benfro.

[Pob llun]

I gael gwybod rhagor…

Am ragor o wybodaeth ewch i folly-farm.co.uk

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

6


GWEITHGAREDD

Adrenalin Yr Antur Fawr

Rhan annatod o antur yw’r ffactor ofn. Ac mae Cymru’n darganfod ei bod yn well na’r rhelyw am achosi i’r adrenalin lifo.

Mae diddordeb y cyfryngau wedi bod yn fawr. Mae’n debyg eich bod chi wedi gweld seren rygbi, neu ddyn tywydd o bosib, yn gwibio i lawr un o wifrau Zip World, ond efallai na welsoch mor eang fu’r sylw. Dyma enghraifft. Yn ddiweddar aeth gohebydd i Bounce Below, profiad tanddaearol Eryri yn ogof hen chwarel lechi, a rhoddodd ddisgrifiad byw o deimladau’n pendilio “rhwng y bendro a chlawstroffobia”. Rhannwyd ei barn, fod y profiad yn un “anhygoel, unigryw”, â chynulleidfa ryngwladol drwy gyfrwng y cwmni newyddion Americanaidd CNN. Rhaid bod hyn yn fêl ar fysedd Sean Taylor, dyfeisiwr Bounce Below a Zip World. O’r cychwyn cyntaf mae wedi bod yn ymdrechu i greu atyniadau eiconig, gwreiddiol i Gymru. “Y syniad oedd petasen ni’n adeiladu rhywbeth oedd mor wahanol i bob dim arall, y byddai pobl o bedwar ban byd, yn llythrennol, yn dod yma,” meddai.

Ar ôl gyrfa filwrol, dychwelodd Sean i ogledd Cymru a chychwyn busnes. Agorodd ei fenter gyntaf, Tree Top Adventure, ym Metws-y-coed yn 2007. Ers hynny mae wedi creu Zip World. Yn 2013, agorodd Zip World Velocity yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda. Dyma’r wifren wib hiraf yn hemisffer y gogledd. Bydd gwibwyr yn cyrraedd cyflymdra cyn uched â 100mya yn ystod y reid arswydus, sy’n filltir o hyd. Yn ddiweddarach mae wedi ychwanegu Zip World Titan yn ogofâu Llechwedd, ger Blaenau Ffestiniog, yn ogystal â Bounce Below, yn y gweithfeydd tanddaearol. “Ydi, mae’n brofiad llawn adrenalin, ond dydan ni ddim yn meddwl amdano fel camp eithafol achos mae hynny’n cyfyngu ar eich marchnad,” meddai Sean. “Mae’n ymddangos bod risg, ond mae’n eithriadol o ddiogel. Heb ddiogelwch, yn ein busnes ni does gennon ni ddim busnes. “Twristiaeth antur yw’r maes twristiaeth sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Rydyn ni’n

7

Ansawdd Cymru

teimlo mai ni sy’n arwain y farchnad fydeang yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.” A rhaid dweud, mae digonedd yn digwydd yng Nghymru. Yn ddiweddarach yn 2015 daw atyniad mawr arall i’r Gogledd pan agorir llyn chwaraeon dwr ^ artiffisial, Surf Snowdonia, yn Nyffryn Conwy. Bydd yn cynnig ton rymus, gyson sydd hyd at chwe throedfedd o uchder. Bydd yn addas ar gyfer syrffwyr o bob lefel gallu – o ‘gromets’ (sef dechreuwyr) i syrffwyr proffesiynol. Ac, wrth gwrs, mae’r sector awyr agored yn cynnig pob math o gyfleon eraill i gael eich dos o adrenalin. Popeth o ddringo a beicio mynydd i ganwio ^ ac arforgampau. Ledled Cymru mae twristiaeth gweithgareddau awyr agored yn cynnal dros 8,000 o swyddi yng Nghymru ac yn cyfrannu’n agos at £500m i’n heconomi. Mae’n flaenoriaeth gan Croeso Cymru, a chanolbwyntir ar wella ansawdd y gweithgareddau sydd ar gael a datblygu atyniadau newydd.

llyw.cymru/twristiaeth


[01]

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

8


Adrenalin Yr Antur Fawr “Mi basiais drwy Flaenau Ffestiniog yn ddiweddar ac roedd y lle’n fwrlwm. Roedd yn ffantastig i’w weld.”

[ 02 ]

[ 03 ]

Mae’r sector – os maddeuwch y gair mwys – ar frig y don. “Mae ’na deimlad da iawn ynghylch darpariaeth gweithgareddau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae ’na lawer yn digwydd ac mae’n teimlo’n bositif iawn,” medd Paul Donovan, sy’n cadeirio Sefydliad Twristiaeth Gweithgareddau Awyr Agored Cymru (WATO). Mae Paul wrth ei fodd gyda’r twf yn y gweithgareddau mwy traddodiadol a’r rhai newydd ac arloesol. Mae’r rheiny, meddai, yn creu cysylltiad rhwng atyniadau ymwelwyr a gweithgareddau antur. Atyniadau gweithgaredd yw ei derm amdanynt, ac mae’n gategori sy’n cynnwys mentrau Sean Taylor ym Methesda a Blaenau Ffestiniog, a Surf Snowdonia. Gyda’i gilydd maen nhw’n ennyn diddordeb aruthrol yng Nghymru, meddai. “Mi basiais drwy Flaenau Ffestiniog yn ddiweddar ac roedd y lle’n fwrlwm. Roedd yn ffantastig i’w weld.” Yr her nawr, dadleua, yw annog ymwelwyr sy’n dod i wibio ar wifrau a brigo tonnau i aros yma’n hirach a rhoi cynnig ar weithgareddau eraill. “Mater ydi hi o sicrhau ein bod ni’n cyfeirio’r unigolion hynny i wneud yn siwr ^ eu bod yn gwybod beth arall sydd ar gael.” Dyna nod a rennir gan Jon Haylock, Pennaeth Antur yn TYF yn Nhyddewi, sir Benfro. Mae’n gweithio gyda TYF ers 2000 a dywed fod cynnydd sylweddol yn niddordeb y cyhoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Ar yr un pryd gwelwyd newid ym

mhroffil y cwsmeriaid. Y dyddiau hyn daw mwy o deuluoedd i Gymru i chwilio am anturiaethau y gallan nhw eu rhannu, meddai. “Mae a wnelo hynny’n rhannol â’m cenhedlaeth i – pobl 35 oed a throsodd. Pobl a oedd yn eithaf hoff o chwaraeon awyr agored eu hunain yn blant ac sydd r wan ^ eisiau i’w plant fwynhau’r profiadau a gawsant hwythau’n blant.” Mae mwy a mwy’n cymryd rhan, meddai, yn enwedig ym maes antur hunan-drefnu. “Mae pobl yn gwneud drostyn nhw’u hunain. Er enghraifft, cymerwch ganwio; ^ mae’r nifer o bobl sy’n dod acw yn yr haf gyda chaiac neu fwrdd syrffio ar do’r car yn anhygoel.” Mae’n creu cyfle i fusnesau antur, meddai. “Dwi’n meddwl mai’r dyfodol i’r diwydiant awyr agored yw helpu i hwyluso’r hyn y mae pobl am ei wneud gymaint ag y gellir, ond sicrhau eu bod yn gwneud beth maen nhw’n ei wneud mewn modd diogel – a modd sy’n parchu’r amgylchedd.” O ran y dyfodol, mae Jon o’r farn fod rhaid cael deialog rhwng darparwyr. Mae TYF yn cydweithio’n agos â chystadleuwyr busnes sy’n aelodau o grwp ^ Siarter Awyr Agored Sir Benfro (POC), sy’n dod â phawb sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored at ei gilydd. Mae’n chwarae rôl hefyd o ran atal yr hyn y mae Jon yn ei alw’n ‘greu cwch gwenyn’ – sef yr hyn sy’n digwydd pan aiff atyniad yn rhy boblogaidd. Un enghraifft mae’n ei rhoi yw eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ‘Lag wn ^ Glas’ Abereiddi,

[ 04 ]

[ 05 ]

9

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


Adrenalin Yr Antur Fawr hen chwarel ar yr arfordir sy’n lleoliad poblogaidd ar gyfer arforgampau. “Rwy wedi cyfrif 200 o bobl yno,” meddai. “Mae’n wych gweld pobl allan yn mwynhau, ond mae’n colli ei apêl fel rhywle i fynd.” Ateb POC fu cyfyngu ar fynediad trefnwyr masnachol at y llyn. Bellach mae’n rhaid iddyn nhw archebu amser i fynd yno trwy system ar-lein. Mae’n enghraifft dda, medd Jon, o’r modd y gall y diwydiant sylwi ar faterion a delio â nhw cyn iddynt dyfu’n broblemau. Dyna’r math o feddwl cydlynol sy’n nodweddiadol o WATO, medd Paul Donovan. Bydd yn chwarae rhan bwysig eleni yn natblygiad dull newydd i ardystio’r sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru. Bydd yn golygu y bydd darparwyr yn dal i allu cael eu cynnwys ar restr Croeso Cymru am ddim, ond y bydd angen cadarnhau manylion ardystio i fod yn gymwys. Y bwriad yw y bydd ymwelwyr yn gallu dewis darparwr gweithgaredd yn hyderus gan wybod y gall warantu arferion diogel ac effeithiol. Mae Sean Taylor yn frwd dros y dull cydlynol hefyd. Mae ei fusnesau’n hyrwyddo ‘Adventure Map North Wales’, sy’n cyfeirio ymwelwyr at ystod eang o brofiadau antur fel rafftio, cychod antur, chwaraeon dwr ^ a dringo. “Mae’n hanfodol cydweithio,” meddai. “Os down ni â phobl i’r ardal bydd y gwario eilradd yn dilyn. Bydd pawb ar eu hennill.” Mae cyfle enfawr yma, meddai. “Dwi’n teimlo y bydd Cymru yn y flwyddyn neu ddwy nesa’n tyfu’n faes chwarae antur i Ewrop gyfan; maes chwarae gyda’r gorau yn y byd ar gyfer cynulleidfa fyd-eang.”

[ 05 ]

[ 06 ]

[ 07 ]

Bounce Below, [02] Sean Taylor, Zip World a [10] y Lag wn ^ Glas ar arfordir gogledd Sir Benfro.

[01] [03] [04] [05] [06] [07] [08]

[ 08 ]

I gael gwybod rhagor…

Bounce Below www.bouncebelow.net Surf Snowdonia www.surfsnowdonia.co.uk TYF Adventure www.tyf.com Zip World www.zipworld.co.uk [ 09 ]

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

10


11

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


BWYD A DIOD

Arfordir arbennig Math newydd o gaffi traeth

Dydi hi ddim yn hawdd gwneud argraff ar awduron erthyglau taith. Ond ar ôl un pryd bwyd yn unig, fe ruthrodd un (o’r Telegraph) yn ôl i Lundain i ysgrifennu erthygl dan y pennawd: ‘How Wales got cool’. Felly, dyma Ansawdd Cymru’n anfon Julian Rollins draw ar ein rhan i gwrdd â’r cogydd sy’n creu argraff.

Mae’n hydref, ond mae’n teimlo fel haf. Yn wynebu tua’r de, mae traeth Coppet Hall, herc, cam a naid o Saundersfoot, yn bolaheulo yn yr heulwen tra bo gweddill Cymru’n rhynnu. Ac mae’r haul wedi denu pobl allan. Mae cerddwyr yn cychwyn allan am dro ar lwybr yr arfordir, mae dyn yn crwydro’r traeth gyda synhwyrydd metel, ac mae’r byrddau teras yn Coast i gyd wedi’u cymryd. Dim ond ers gwanwyn 2014 y mae’r t^y bwyta a chaffi newydd hwn yn agored, ond mae wedi gwneud argraff. Cafodd ei enwi yn ‘brofiad bwyta-allan gorau’ yng Ngwobrau Twristiaeth Sir Benfro ac mae eisoes yn y Good Food Guide. Mae’n adeilad trawiadol newydd sbon, â mur o wydr yn wynebu’r môr yn gromlin lydan sy’n adlewyrchu amlinell Bae Saundersfoot. Ar y teras mae’r awyrgylch yn hamddenol, ond nid felly y mae hi draw yng nghefn yr adeilad. Mae cyflenwad o gimychiaid byw newydd gyrraedd ac maen nhw’n cael eu cario i fyny grisiau i’r gegin tra bod cerbyd

Rhifyn 8, 2015

arall yn cael ei ddadlwytho. Mae bocseidiau o lysiau’n aros i’w symud. Wrth ddrws y gegin, saif y prif gogydd Will Holland (y dyn y mae Ansawdd Cymru yma i’w gyfarfod) yn hamddenol gan fwrw cipolwg dros bob bocsaid wrth iddo fynd heibio. “Dyma’r hanfod,” meddai’n frwd. “Cynnyrch o ansawdd da sydd mor ffres ag y gall fod. Dyna fy rheswm i dros godi o’r gwely.” Os ydych chi’n ddilynwr rhaglenni coginio ar y teledu mae ’na siawns go dda y byddwch chi’n adnabod Will Holland. Mae wedi ymddangos yn rheolaidd ar Saturday Kitchen a Great British Menu. Daw ag ychydig o swyn y seléb i fyd y bolgwn yn Sir Benfro ynghyd â CV sy’n siwr ^ o wneud argraff. Mewn 15 mlynedd o goginio mae wedi gweithio mewn rhes o’r ceginau gorau ac wedi ennill seren Michelin – a hynny cyn troi’n 30 oed. Yn Coppet Hall mae’n cydweithio â’i bartner Kamila Karczewska, sy’n gyfrifol am y blaen t^y. Pan welodd y pâr safle Coast gyntaf,

dim ond safle adeiladu oedd yma, ond gallai’r ddau synhwyro potensial yn syth. Roedd y ffaith y bydden nhw’n gweithio gyda chynfas wag, medd Will, yn atyniad mawr. “Roedd yn gyffrous iawn gwybod na fydden ni’n camu i mewn i esgidiau neb arall,” cofia. “Roedden ni’n rhydd i ddewis arddull y bwyd a’r bwyty.” Mae’r hyn y maen nhw wedi’i greu yn dra gwahanol i La Bécasse yn Llwydlo, lle treuliodd Will chwe mlynedd yn brif gogydd (gan ddal llygad arolygwyr Michelin). Bwyd steilus â dylanwad Ffrengig oedd yn y fan honno, tra bod Coast yn sefyll dros fwyd diffwdan, cyfoes yn y math o awyrgylch ymlaciol sy’n gweddu i’w leoliad ar y traeth. “Mae’r bwyd rwy’n ei goginio yn Coast yn llawer symlach a mwy hamddenol, mwy cyfeillgar,” meddai. “Dyna’r ffordd y mae bwyta allan yn mynd. Does ar bobl ddim eisiau unrhyw beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghysurus – y fwydlen, y gwasanaeth, yr awyrgylch.” Yn y gegin maen nhw’n paratoi pysgod

Ansawdd Cymru

12


Arfordir arbennig

“Mae’r bwyd rwy’n ei goginio

Math newydd o gaffi traeth

yn Coast yn llawer symlach a mwy hamddenol, mwy cyfeillgar.”

ac mae sglodion yn cael eu trochiad cyntaf yn y padelli ffrio. Mae Will yn oedi ennyd i wneud yn siwr ^ fod popeth fel y dylai fod, wedyn mae’n troi’n ôl at ei stori. Cafodd ei fagu ym Mryste, ond mae’n cofio y byddai’r teulu’n mynd ar wyliau cerdded i Sir Benfro. Hyd yn oed bryd hynny roedd yn paratoi ar gyfer bywyd yn y gegin. “Bod yn gogydd oedd fy uchelgais erioed, hyd y gallaf fi gofio,” meddai. “Ond wn i ddim o ble y daw hynny.” Athrawon yw ei rieni ill dau, felly mae’n siwr ^ nad ar chwarae bach y torrodd y newydd iddynt ei fod eisiau gadael yr ysgol a mynd i goleg arlwyo. O’r coleg, ac yntau’n ddim ond 17 mlwydd oed, symudodd ymlaen i swydd mewn cegin â seren Michelin – yn Homewood Park, ger Caerfaddon. Erbyn i’r archebion cinio ddechrau dod i mewn mae’r gegin yn fwrlwm o weithgaredd. Mae pawb yn canolbwyntio ar eu tasgau ac mae’r prif gogydd yn brysur yn paratoi cimwch ar gyfer y plât. Wedi i’r cimwch fynd at y bwrdd, ynghyd â phlatiad o bysgodyn darn arian, mae Will yn cymryd hoe. Bu’r haf yn “gorwynt o brysurdeb”, meddai. Oherwydd hynny dydi Will a Kamila ddim wedi cael llawer o amser sbâr, ond maen nhw wedi dechrau crwydro’u sir fabwysiedig – mae a wnelo’r symudiad i Coast yn amlwg â sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Mae gan y pâr d^y yn Saundersfoot, felly tro ar hyd y traeth yw’r daith i’r gwaith. Ânt â’u ci, Sabre, gyda nhw hefyd; mae ganddo gwt yng nghefn yr adeilad.

Ffotograffau marchnata Coast.

[Pob llun]

13

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


Arfordir arbennig Math newydd o gaffi traeth

Ond pan fydd Will yn cael cyfle i ddianc o Coast, chwilio am gynhwysion fydd e. Wrth i bethau dawelu yn y gegin, aiff Will drwodd i’r bwyty a dechrau parablu’n huawdl – am wyau, pysgod a chig. “Fel cogydd, y cynnyrch a’r cynhwysion sy’n dod trwy ddrws y gegin sy’n fy nghyffroi i,” meddai. Ac mae’r pethau y mae wedi llwyddo i’w darganfod yn lleol wedi bod yn well na’r disgwyl hyd yn oed. Wrth reswm, mae’n rhaid i fwyty traeth gynnwys pysgod ar y fwydlen, ond dywed Will ei fod wedi gwirioni ar ansawdd y pysgod a physgod cregyn “hynod leol” y mae wedi dod o hyd iddynt. Wedi blynyddoedd yn gweithio mewn bwytai a gwestai ymhell o’r môr, mae ansawdd y pysgod y mae’n gallu gweithio gyda nhw nawr wedi bod yn agoriad llygad, meddai. Caiff bron y cyfan eu dal o’r dyfroedd o amgylch sir Benfro a’u glanio yn Saundersfoot, Abertawe ac Aberdaugleddau. Daw’r draenogiaid môr a’r cimychiaid o fae Saundersfoot. “Allwch chi ddim curo hynna o safbwynt ffresni ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y bwyd rydyn ni’n ei roi ar y plât. Mae’n syml iawn achos does arna’i ddim eisiau potsian a chymhlethu cynhwysion o’r safon yna.” Mae’n mynd i hwyliau nawr ac yn rhannu hanesyn. Yr oedd, meddai, yn sefyll ar y teras un bore pan gafodd alwad gan ei gyflenwr cimychiaid, yn holi am archeb y diwrnod hwnnw. “Dywedodd wrtha i, ‘tro dy

ben,’ felly fe wnes, a dyna lle’r oedd e allan yn y bae ar ei gwch yn codi llaw arna’i. “Mae’n braf bod mewn sefyllfa lle mae gwesteion yn eistedd i lawr yn y bwyty ac yn agor y fwydlen a gofyn i un o ’nhîm ‘O ble mae hwn wedi dod?’ A hwythau’n gallu ateb ‘draw fan’cw’. Chewch chi ddim gwell enghraifft o olrhain tarddiad bwyd na hynny.” Dim ond rhan o’r peth yw’r bwyd môr. Roedd yn disgwyl i’r pysgod a’r bwyd môr fod yn dda, ond dywed ei fod wedi rhyfeddu at ansawdd yr holl gynhwysion eraill sydd gan y gorllewin i’w cynnig. Cig oen y Preseli, porc Bethesda, a chig hela o diroedd yr Hen Gastell yw pigion y fwydlen, ond mae hyd yn oed y bwydydd mwy dirodres yn gwneud eu cyfraniad hwythau. Fel yr wyau. Maen nhw’n dod o fferm sydd hanner awr i ffwrdd o Neuadd Coppet, ac maen nhw’n arbennig iawn, meddai. “Wnes i erioed gynhyrfu cymaint am wy o’r blaen,” meddai, dan chwerthin. “Ond wir, mae eu lliw wrth wneud hollandaise, wy wedi’i sgramblo neu crème brûlée yn anhygoel. Bydd pobl yn dweud ‘wnes i fwynhau’r wy wedi’i sgramblo, faint o hufen roesoch chi i mewn?’ A byddaf i’n dweud wrthyn nhw: dim, dim ond yr wy sydd yna – mae mor dda â hynny.” Yn olaf, mae’n bryd cael egwyl cyn dechrau’r gwasanaeth prydau nos. Gwyliaf dri silwét Kamila, Will a’r ci wrth iddyn nhw fynd am dro ar draws y traeth ac i mewn i heulwen y prynhawn. Y cwestiwn olaf – yr un am y dyfodol a sêr Michelin – yw’r un y dewisodd (yn ddoeth) ei osgoi. “Fy ngorchwyl i yw cael Coast cyn agosed at berffeithrwydd ag y gallaf,” meddai. “Mae’n syml. Bod yn hapus, coginio bwyd hapus, a gwneud i’r gwesteion a ddaw drwy’r drws fod yn hapus.”

I gael gwybod rhagor…

Am ragor o wybodaeth ewch i coastsaundersfoot.co.uk

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

14


MARCHNATA

Does unman tebyg i Gymru Eiconau, marchnata a chyfleu neges Mae ‘hyrwyddo’r brand’ yn flaenoriaeth i strategaeth dwristiaeth Llywodraeth Cymru. I ganfod beth mae hynny’n ei olygu i fusnesau twristiaeth, cyfarfu Ansawdd Cymru â Mari Stevens, Dirprwy Gyfarwyddwr Marchnata Croeso Cymru. Ydi Cymru’n frand? Ydi a nac ydi. Mae gwlad neu le yn wahanol iawn i wasanaeth neu gynnyrch masnachol ac mae’n anodd iawn – yn amhosib efallai – crynhoi’r holl dreftadaeth a chyfoeth hwnnw mewn rhywbeth mor syml â ‘brand’. Mae’r rhan fwyaf o’r ‘brandiau’ lleoliad cryfaf yn y byd wedi tyfu’n organig dros gyfnod maith: mae ‘brand’ neu enw rhyngwladol Iwerddon yn gynnyrch ei hanes a gwasgariad y Gwyddelod dros y byd, er bod ei chyrff marchnata a’i chwmnïau angori yn gwneud gwaith arbennig hefyd yn adrodd hanes Iwerddon yn gyson dros y byd i gyd. Ond er nad ‘brand’ yw’r ateb yn gyfan, mae gwledydd fel Seland Newydd a Gwlad yr Iâ – ac Iwerddon – yn profi y gall meddylfryd a gwaith cyfathrebu ‘brand’ cydlynol a chreadigol wneud gwahaniaeth sylweddol i broffil a pherfformiad gwlad fel lle i dwristiaid fynd iddo. Fel y mannau hynny, mae gennym ninnau well siawns o adeiladu’n proffil a’n henw da os byddwn yn ddisgybledig ynghylch adrodd yr un hanes am Gymru – hanes sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein cryfderau penodol fel gwlad – a hynny dro ar ôl tro. Mae Croeso Cymru a’n partneriaid wedi creu ambell i ymgyrch gwych dros Gymru ar hyd y blynyddoedd, ac rydyn ni am adeiladu ar hynny gyda mwy fyth o ffocws a chydweithio yn y blynyddoedd a ddaw. Bydd brand da i

dwristiaid yn dibynnu hefyd ar ddatblygu’r cynnyrch iawn i’n marchnadoedd targed – ac mae hynny’n flaenoriaeth hirdymor hefyd wrth inni geisio adeiladu hunaniaeth wirioneddol gystadleuol i Gymru ar lwyfan y byd. Nid marchnata yw’r ateb cyfan. Mae gan Gymru rywbeth cyfoes ac o safon uchel i’w gynnig o ran twristiaeth, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i hybu perfformiad y diwydiant drwy ymgyrchoedd proffil uchel yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ogystal â gwaith digidol, yn y wasg ac yn y diwydiant teithio mewn marchnadoedd allweddol eraill fel Unol Daleithiau America a’r Almaen. Mae ein hymgyrch gyfredol, “Does unman tebyg i Gymru”, yn rhoi canlyniadau cryf inni – cynhyrchwyd oddeutu £180m o wario ychwanegol drwy ein rhaglenni marchnata’r llynedd, ac fe wnaethom ennill gwobr bwysig am farchnata digidol yn sgîl ein dull aml-sianel o fynd ati. Mae ymgyrch rhyngwladol mawr newydd ei lansio yn yr Almaen, ac mae ein holl weithgarwch yn canolbwyntio ar ddathlu’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, a’i ansawdd rhagorol. Mae hynny’n amlwg yn dibynnu ar gael profiadau a hanesion gwych, a gwirioneddol berthnasol, i hyrwyddo a gwerthu i’n marchnadoedd targed – profiadau sy’n arbennig, yn wreiddiol, yn unigryw – ac sy’n sefyll allan. [ 01 ]

15

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


[ 02 ]

Nid ar chwarae bach mae adeiladu brand, ac mae angen sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i barhau i ddatblygu cynnyrch eithriadol sy’n atgyfnerthu stori brand Cymru. Rhaid inni bwysleisio’n cryfderau. Trwy ganolbwyntio’n ddyfal ar ansawdd dros nifer o flynyddoedd, ac adeiladu ar atyniadau creiddiol y wlad, mae Cymru’n tyfu’n lle cryf a chystadleuol am dwristiaeth. Mae teimlad gwirioneddol o hyder yn ein gwlad ac yn ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig – ac mae digon o achos dathlu. Er mai proses barhaus yw hon, mae ein hymgyrch hydref llwyddiannus – ar thema bwyd – yn dangos bod ein cynhyrchion gorau yn llwyddo i apelio at ein marchnad darged, sef teithwyr annibynnol. Yn y blynyddoedd nesaf byddwn yn canolbwyntio fwyfwy ar nodi a hyrwyddo cryfderau cynhyrchion cystadleuol Cymru yn ogystal â’r lleoliadau daearyddol y gwyddom y byddant yn apelio at ein marchnadoedd, a gobeithiwn allu adeiladu ar lwyddiant DT100, dathliad canmlwyddiant Dylan Thomas, drwy gynnal blynyddoedd thematig eraill yn y dyfodol. Bydd ein hymgyrchoedd yn rhoi sylw i lefydd a phrofiadau sy’n cynnig gwir ymdeimlad o le – sydd wedi’u gwreiddio yn nhirwedd, diwylliant a threftadaeth ein gwlad – ond sydd hefyd yn berthnasol i’n marchnadoedd, ac sy’n gyfoes, yn greadigol ac o’r ansawdd gorau posibl. Pan oeddent yn datblygu Canolfan Mileniwm Cymru, y briff a roddwyd i’r penseiri oedd y dylent sicrhau bod yr adeilad yn amlwg Gymreig ac yn sefyll allan yn rhyngwladol. Fe ddywedwn i y dylai popeth a wnawn wrth ddatblygu a marchnata cynnyrch geisio pontio’r ddwy elfen hynny.

[ 03 ]

^ Rhif 6, Gwyl Portmeirion, [02] Ynys Llanddwyn, Môn, [03] Boathouse Dylan Thomas, Talacharn a [04] Melin Tregwynt, Sir Benfro. [01]

Pe bawn i’n dyfarnu Oscar am farchnata, Seland Newydd fyddai’n ei gael. Bymtheg mlynedd yn ôl gwelid y wlad honno fel atodiad i Awstralia, ond erbyn hyn nid yn unig y mae’n hyrwyddo’i hun fel lle y mae’n rhaid mynd iddo cyn marw, mae’n anelu

[ 04 ]

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

16


Does unman tebyg i Gymru

“Felly yr hyn sydd raid inni’i wneud, dybiwn i, yw

Eiconau, marchnata a chyfleu neges

canfod ffyrdd dyfeisgar o leoli cryfderau craidd Cymru mewn modd sy’n teimlo’n gyfoes a pherthnasol.”

[ 05 ]

at droi’r diddordeb hwnnw’n ymweliad eleni. Mae a wnelo hyn yn rhannol â chael cynnyrch creiddiol cryf a datblygu’r cynnyrch i wynebu’r farchnad; mae eglurder a ffocws yn elfennau pwysig, a gyrrir yr ymgyrch gan farchnata da a brandio clir a chyson. Mae Gwlad yr Iâ a Sweden yn arloesi hefyd ac yn enghreifftiau da o frandiau sy’n cystadlu, ac mae llwyddiant Barcelona wrth ddefnyddio diwylliant a chreadigrwydd i ailddychmygu’r ddinas yn llwyr, hyd yn oed o amgylch digwyddiad chwaraeon, yn ennyn edmygedd, er bod angen iddynt bellach, fel Seland Newydd, warchod cynaliadwyedd y brand y maen nhw wedi’i greu. Mae gan Gymru gynnyrch creiddiol cryf ac mae’n uchel ei pharch am gyflawni gwaith marchnata brand gwirioneddol ddeniadol. Mae cyfle enfawr i barhau i gydweithio i wneud mwy fyth o’r hyn sydd gennym i’w gynnig ac i adeiladu ein proffil mewn marchnadoedd newydd. Mae’r farchnad ryngwladol yn ganolbwynt. Ond mae angen canolbwyntio. Mae strategaeth dwristiaeth Partneriaeth ar gyfer Twf yn tanlinellu’r angen i Gymru dargedu ein hymdrech farchnata ryngwladol yn ofalus, a gweithio gyda VisitBritain i sicrhau lle amlwg i Gymru yn ymgyrchoedd y Deyrnas Unedig

ar draws y byd. Bellach mae un o weithwyr Croeso Cymru wedi’i secondio i weithio ym mhencadlys VisitBritain yn Llundain, gan sicrhau bod gan y tîm yno syniad clir iawn o neges Cymru a sicrhau y caiff Cymru ei hadlewyrchu’n dda yn neunydd hyrwyddo VisitBritain. Yn ogystal â’n hymgyrch ein hun yn yr Almaen, eleni rydym yn lansio llyfryn neu gyhoeddiad rhyngwladol newydd i Gymru, oherwydd gwyddom fod y farchnad ryngwladol yn gwybod llai amdanom nag a wyr ^ ein prif farchnad yma yn y Deyrnas Unedig. Mae angen sicrhau cydbwysedd o hyd rhwng yr angen i gyflwyno Cymru i farchnadoedd newydd sydd heb fawr o wybodaeth am yr hyn sydd gennym i’w gynnig, â’r ffaith fod gan y farchnad Brydeinig eisoes ganfyddiadau cadarnhaol – a negyddol – am y wlad. Felly yr hyn sydd raid inni’i wneud, yn fy marn i, yw canfod ffyrdd craff o leoli cryfderau creiddiol Cymru mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfoes ac yn berthnasol. Dyma enghraifft. Os sôn am gorau meibion, gwneud hynny yn y ffordd y gwnaeth Gwyl ^ Rhif 6 (ym Mhortmeirion), wrth roi côr y Brythoniaid (o Flaenau Ffestiniog) ar y llwyfan gyda’r Pet Shop Boys. Mae’n rhaid lleoli Cymru bob amser mewn modd fydd yn rhoi delwedd gadarnhaol a

17

Ansawdd Cymru

chyfoes inni yn y farchnad Brydeinig. Ond does dim eisiau ei gwyrdroi’n ormodol gan fod yn rhaid inni apelio i’r farchnad ryngwladol. Rhaid inni ymfalchïo yn ein cryfderau craidd – y dirwedd, y diwylliant a’r dreftadaeth – a hynny’n llawn hyder, gan edrych i’r dyfodol o hyd. Mae llawer o’n cynnyrch cyffrous, sy’n creu testun siarad, o Bounce Below a’r Harbourmaster i Drenau Bychain Cymru a’r Dyn Gwyrdd, yn rhoi profiadau cofiadwy i ymwelwyr mewn lleoliadau unigryw Gymreig ac yn cynnig ymdeimlad cryf o le. Maen nhw’n cymryd darn o’n treftadaeth ac yn ei gadw’n ffres. Mae eu gwreiddiau yn eu lleoliad ac maen nhw gymaint yn fwy perthnasol oherwydd hynny. Gall fod yn anodd mesur gwerth marchnata. Ein targed eleni ar gyfer gweithgaredd marchnata’r brand yw cynhyrchu £190m o wariant ychwanegol trwy farchnata, ac mae angen inni wybod a ydyn ni’n llwyddo i daro’r targed hwnnw. Byddwn yn cadw llygad barcud ar yr ymatebion i’n hymgyrchoedd i weld faint o’r bobl hynny sydd wedi ymweld, neu’n bwriadu ymweld, o ganlyniad i’n gwaith marchnata. Byddwn hefyd wrthi’n barhaus yn mesur perfformiad elfennau penodol o’n gwaith: mae ein gwefan wedi

llyw.cymru/twristiaeth


Does unman tebyg i Gymru Eiconau, marchnata a chyfleu neges

Castell Conwy, Arforgampau, ^ Sir Benfro, [07] Gwyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog a [08] Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro. [05] [06]

[ 07 ]

[ 06 ]

tyfu i dderbyn dros 3m o ymweliadau unigryw eleni, a bellach mae gennym dros hanner miliwn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, nifer a gynyddodd yn aruthrol yn ystod ein hymgyrch hydref. Byddwn yn monitro cyrhaeddiad ein gwaith cysylltiadau cyhoeddus ac yn asesu effaith ein gwaith gyda’r fasnach deithio. Ar ben hyn byddwn hefyd yn gwerthuso perfformiad y brand a pherthynas ymwelwyr â Chymru fel lleoliad. Trwy hyn i gyd cawn synnwyr cryf o’r modd y mae’r brand, ymgyrchoedd unigol a gweithgareddau penodol yn perfformio, ond yn y pen draw, wrth gwrs, hybu twf yn niferoedd ymwelwyr a’r gwerth a gynigir yw’r nod – byddwn yn edrych yn fanwl ar yr ystadegau hynny fel y gallwch ddychmygu. Meddwl am farchnadoedd yn holistaidd. Mae’n anodd iawn categoreiddio neb erbyn hyn – mae’r marchnadoedd h^yn yn iau nag erioed, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn edrych am brofiadau crwn, hyd yn oed os mai gweithgaredd arbenigol sydd wedi’u denu nhw i Gymru. Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos bod ‘twristiaid antur’ yn edrych am gyfuniad o ddau neu dri phrofiad wrth ymweld â rhywle – gweithgaredd corfforol, diwylliant a/neu natur. Felly os ydych chi’n rhedeg llety gwely a brecwast bach i bobl ifanc sydd eisiau gwyliau llawn gweithgareddau yng Nghymru yna rhaid ichi’n gyntaf sicrhau bod eich busnes yn addas ar gyfer y farchnad honno. Wrth wneud hynny mae’n hollbwysig rhoi ymdeimlad cyffredinol o le a phrofiad crwn, cyfan i

ymwelwyr. Ydych chi’n cynnig y bwydydd iawn? Pa ddarparwyr bwyd lleol allech chi gyfeirio cwsmeriaid atynt? Pa gynhyrchion antur eraill, neu atyniadau diwylliannol a threftadaeth, sydd ar eich stepan drws? Mae angen sicrhau y caiff ein hymwelwyr amser i’w gofio yma, a’u bod yn gwario arian yn ein cymunedau, nawr ac yn y dyfodol. Mae angen gweithio gyda’n gilydd i roi profiad mor wych i’n cwsmeriaid nes y byddant eisiau – neu’n gorfod – dod yn ôl. Yn ôl at eich busnes chi ac yn ôl i archwilio mwy ar Gymru. A’u bod nhw’n sôn wrth eu ffrindiau, eu teulu a’u rhwydweithiau cymdeithasol am Gymru a’ch busnes: dyna’r marchnata gorau un.

Beth yw rheoli cyrchfannau? Rheoli cyrchfannau yw’r term am yr holl elfennau sy’n dod ynghyd i sicrhau bod profiad ymwelydd yn llwyddiant. Mae’n golygu cael pawb i gydweithio i sicrhau bod yr holl weithgareddau a gwasanaethau y daw ymwelwyr i gysylltiad â nhw mor dda ag y gallan nhw fod; mae hynny’n cynnwys popeth, o lety ac atyniadau i gludiant, arwyddion, llwybrau troed, parcio a thoiledau cyhoeddus.

I gael gwybod rhagor…

business.wales.gov.uk/dmwales/cy

[ 08 ]

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

18


BWYD A DIOD

Melys moes mwy Siocled o waith llaw Ydy hi’n bryd inni feddwl y tu allan i’r bocs am gynnyrch lleol – a rhoi siocled Cymru ar y fwydlen? Mae angen eiliad i feddwl o le mae’r siocledwr Jules James yn dod. Mae’n hyderus ac yn siarad fel melin bupur. Byddech chi’n taeru mai Americanwr yw e. Ond da chi peidiwch â sôn am yr hen Unol Daleithiau, oherwydd mae’r acen yn perthyn i wlad sydd dipyn i’r gogledd sef Canada. “Mae’n siwr ^ bod rhywun yn gofyn imi bob dydd o le dw i’n dod,” meddai dan duchan. A’r ateb cryno yw o Gymru. Neu a bod yn fwy manwl, o Grucywel. Y gwir yn y bôn yw bod Jules wedi allfudo’n 13 oed i ddechrau bywyd newydd dros Fôr Iwerydd. Yno, fe gafodd ei hyfforddi’n gogydd ar ôl ‘madael â’r ysgol ac wedyn fe benderfynodd deithio’r byd. Ar ei deithiau, bu’n hyfforddwr plymio scwba ac yn gogydd, gan ddod o hyd i amser hefyd i astudio yn Vancouver er mwyn bod yn Feistr Siocledwr. Daeth y teithio i ben maes o law yn 2009 pan ymgartrefodd Jules a’i bartner Kathy Newman yng Nghrucywel a dechrau’r busnes a ddaeth yn Black Mountain Gold. “Fel cogydd, roeddwn i wastad yn gwneud siocled o wahanol siapiau a ffurfiau. Roedd y gwahoddedigion wrth eu bodd ac roeddwn innau’n mwynhau arbrofi a bod yn greadigol,” meddai. Heddiw, mae Black Mountain Gold yn ffynnu, yn gwerthu siocledi moethus ar lein, yn y siop yng Nghrucywel ac mewn sioeau bwyd a gwyliau ym mhob cwr o Brydain. Kathy sy’n gyfrifol am y marchnata a dau gydweithiwr sy’n cadw’r siop ond Jules sydd yn ‘ystafell yr injan’ yn creu siocledi a thryfflau Black Mountain Gold ac yn dyfeisio siocledi newydd. Mae’n cynnal gweithdai hefyd lle y gall newydd-ddyfodiaid ddysgu popeth am fyd melys Jules – byd o geg-synhwyro, arwynebu, manylu, tempro a’u tebyg. Cyfrinach siocledi gwych yw eu bod yn ffres a bod ansawdd y cynhwysion a’r blasau’n dda, meddai. “Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n gwneud Black Mountain Gold yn wahanol yw bod gen i fyd cyfan o ‘ddrors’ i fynd drwyddyn nhw pan fydda’ i’n rhoi rhywbeth newydd at ei gilydd,” meddai. “Mae holl flasau fy nheithiau yno yn fy mhen.” blackmountaingold.org 01873 812362

Wickedly Welsh

Mae Wickedly Welsh yn Hwlffordd yn croesawu ymwelwyr i ddysgu am broses gwneud siocled ac i ddysgu am ei hanes. Efallai mai dim ond yr ychydig ymroddedig fydd yn awyddus i arbrofi gyda phethau fel pitsas siocled, ond mae’r syniad o nwyddau deli – ffefrynnau siocled enfawr y gallwch eu torri’n dafelli – yn sicr o apelio. wickedlywelsh.co.uk 01437 557122

Jules James a’r tîm yn Black Mountain Gold.

[Pob delwedd]

19

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


Baravelli’s of Conwy

Liam Burgess yw’r athrylith sy’n gyfrifol am NomNom, yn Llansteffan ger Caerfyrddin ac mae ganddo gasgliad da o hunluniau gan nifer o sêr (gan gynnwys ymhlith eraill, Rob Brydon a Benedict Cumberbatch). Ugain oed yw Liam ac fe ddechreuodd ei fusnes yn y lle cyntaf gyda help Ymddiriedolaeth y Tywysog. Mae ei frand newydd yn prysur hawlio’i le ar fap siocled Cymru. Facebook: nomnomchocolate 01994 448761

Cafodd Emma a Mark eu hysbrydoli i fentro i fyd siocled gan gwsmeriaid Baravelli’s yn Llandudno. Ar ôl i bobl eu holi am siocled a oedd yn cael ei wneud yn lleol, fe benderfynodd y cwpwl roi cynnig arni. Dyma nhw’n penderfynu mynd yn ôl at wraidd pethau, gan brynu ffa coco’n uniongyrchol gan dyfwyr a dechrau o’r dechrau i wneud eu siocled sydd erbyn hyn wedi ennill gwobrau. chocstix.com 01492 338121

NomNom

Chocolate Fusion, Llandysul

Sarah Bunton Luxury Chocolates

Eu diddordebau – coginio, tyfu a chadw gwenyn – a ddenodd y cogydd Nick a’r ddynes fusnes Kitty at siocled – a hynny pan oedden nhw’n yn chwilio am rywbeth newydd i’w wneud gyda’u cynnyrch. Roedd eu perthnasau’n meddwl bod yr arbrofion cyntaf yn eu cegin gartref yn llwyddiant ac felly fe lansiwyd Chocolate Fusion yn 2010. Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth, gan symud i ganolfan newydd – sgubor wedi’i adnewyddu yn y wlad yng nghyffiniau Llandysul yn 2012. chocolate-fusion.com 01239 851369

Rhifyn 8, 2015

Y Caban café ym Mhontarfynach sy’n cael ei gadw gan y teulu yw canolfan Sarah Bunton Luxury Chocolates ac er mai dim ond ers pedair blynedd mae’r busnes ar waith mae eisoes wedi ennill gwobrau. Magwyd yr entrepreneur ifanc Sarah ar fferm fynydd ym Mynyddoedd Cambria a chyn belled ag sy’n bosib, mae’n defnyddio cynhwysion lleol i wneud ei siocledi â llaw, a’u llenwi â blasau moethus. sarahbunton.co.uk 01970 890650

Ansawdd Cymru

20


TWRISTIAETH

Cadw’r ffydd Darganfod calon Cymru Mae gan Gymru gynllun gweithredu i annog rhagor o bobl i ymweld â safleoedd sanctaidd ac yn hynny o beth mae’n arwain y ffordd ym maes twristiaeth ffydd.

Abaty Tyndyrn ac [02] Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro.

A dweud y gwir, yn 2011, Eglwys Gadeiriol Tyddewi oedd y seithfed atyniad di-dâl mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae’r adeilad yn apelio at bobl o bob ffydd ac at bobl sydd heb ffydd o gwbl. Erbyn hyn, mae ‘na ymgyrch newydd i gynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n dod i bob un o safleoedd sanctaidd Cymru – nid dim ond y rhai nodedig megis Eglwys Gadeiriol Tyddewi ond miloedd o eglwysi a chapeli mwy di-nod hefyd. Ac fe allai twristiaeth yng Nghymru drwyddi draw fod ar ei hennill. Yn hydref 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer twristiaeth ffydd – y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig – i weld sut y gellid cryfhau treftadaeth grefyddol Cymru i ymwelwyr. Gan lansio’r cynllun hwnnw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, fod angen i safleoedd sanctaidd ddod yn ‘elfen hanfodol’ o brofiad yr ymwelydd erbyn 2020. Mae’n anodd mesur gwerth twristiaeth ffydd i’r economi. Bydd ymwelwyr ag eglwysi a chapeli’n gadael rhoddion ac yn prynu canhwyllau a llyfrau, ond byddan nhw hefyd yn ymweld â siopau a thafarndai lleol ac yn aros mewn llefydd Gwely a Brecwast a meysydd gwersylla.

21

Ansawdd Cymru

[ 01 ]

Efallai nad yw’r term ‘twristiaeth ffydd’ yn gyfarwydd, ond nid yw’n syniad newydd o bell ffordd. Am ganrifoedd, bu pererinion yn teithio i ganolfannau crefyddol mawr Cymru megis Ynys Enlli, Ffynnon Gwenffrewi ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi – ac mae’r mannau arbennig hyn yn dal eu tir o hyd ymhlith atyniadau llawer mwy modern a seciwlar i dwristiaid.

[01]

Sylweddolir hefyd y gall twristiaeth ffydd gyfrannu at yr agenda iechyd a lles. Mae llwybrau cerdded wedi’u creu o gwmpas Cymru i gysylltu mannau addoli â’i gilydd, a rhai o’r prif resymau dros chwilio am y rhain yw’r heddwch a’r naws ysbrydol sydd yno, yn ôl yr hyn a ddywed yr ymwelwyr. Ers y flwyddyn 2000, mae Rhwydwaith Twristiaeth Eglwysi Cymru wedi helpu safleoedd crefyddol i gyfrannu at yr economi twristiaeth. Mae ei gyfarwyddwr, John Winton, yn dweud: “Nid dim ond mater o gael pobl grefyddol yn ymweld â safleoedd crefyddol yw hyn o reidrwydd. Rwy’n dweud safleoedd, oherwydd does dim rhaid iddyn nhw fod yn adeiladau, fe allan nhw fod yn ffynhonnau neu’n fannau lle’r oedd pobl yn arfer addoli, ond lle na chodwyd adeilad erioed. “Wrth wneud gwaith ymchwil, y geiriau a glywyd amlaf gan ymwelwyr oedd heddwch a llonyddwch. Rhesymau eraill oedd cysylltiadau teuluol, awydd i brofi naws ysbrydol, dyhead i fyfyrio, gweddïo ac ystyried hanes y lle. Twristiaeth ffydd yw un o’r meysydd twristiaeth sy’n tyfu fwyaf drwy’r byd ac nid oes amheuaeth nad yw Cymru ar y blaen yn hyn.” Un enghraifft o sut mae modd

llyw.cymru/twristiaeth


[ 02 ]

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

22


Cadw’r ffydd Darganfod calon Cymru

“Mae teuluoedd yn chwilio am rywle i fynd ac, ar ddiwrnod gwlyb, mae eglwys agored gystal lle ag unman.”

[ 03 ]

[ 04 ]

‘gwerthu’ safleoedd sanctaidd yn fwy effeithiol yw llwybr y Drysau Sanctaidd yng Nghonwy. Mae’n dangos sut mae modd cysylltu a ‘chlystyru’ eglwysi a chapeli mewn trefi a phentrefi bach, gan alluogi ymwelwyr i gerdded neu yrru rhwng safleoedd a dysgu am seintiau a phechaduriaid, tywysogion a phererinion. Prosiect diweddar arall yw Llefydd Llonydd, sy’n cael ei gefnogi gan y corff treftadaeth Cadw. Mae’n rhan o brosiect Llwybr Treftadaeth Eglwysi Gogledd Ceredigion. Mae tîm y prosiect yn dweud ei fod yn cynnig cyfle i ymwelwyr edrych ar eglwysi a chapeli o’r newydd a chael gwybod am y dirwedd a’r ecoleg ac am y bobl sydd wedi ffurfio’u cymuned. Dywed rheolwr y Prosiect, y Dr Roger Haggar: “Y man cychwyn oedd Llandre, lle’r oedden ni’n straffaglu i gynnal a chadw adeilad yr eglwys. Roedd angen inni edrych tuag allan a chynnwys y gymuned.” “Roedd Cadw yn gallu cael gafael ar arian gan Ewrop, ac roedd hynny’n help inni dalu am dynnu meinciau a gosod lledlawr a chegin a thoiledau newydd i bobl anabl.” Ychwanega’r Dr Haggar: “Fe wnaeth arian Cadw wneud inni feddwl: pam dim ond un eglwys? Erbyn hyn, mae Llandre wedi’i chysylltu â safleoedd eraill yng ngogledd Ceredigion ac mae’r Llefydd Llonydd yn cysylltu 17 o eglwysi a chapeli”. Mae’r arbenigwr cyfathrebu ym maes treftadaeth, Countryscape, wedi cywain eu straeon i gyd. Mae paneli dehongli wedi’u

gosod ym mhob safle a gwefan wedi’i chreu. Bydd pob math o bobl yn ymweld â’r safleoedd hyn, meddai’r Dr Haggar. “Yn ystod y Pasg, er enghraifft, pobl o Gymru a Chanoldir Lloegr sy’n dod yma’n bennaf. Ond yn ystod y prif dymor, pobl o ganol Lloegr sy’n dod a bydd ymwelwyr tramor yn tueddu i ddod ar ddiwedd y tymor. “Mae gennyn ni declyn digidol ym mhob safle i gofnodi niferoedd ac rydyn ni hefyd wedi paratoi cynllun marchnata. Mae gennyn ni ddarlun yn ein meddwl o’n hymwelwyr nodweddiadol: pobl y mae eu plant wedi hedfan y nyth a phobl chwilfrydig.” Ond, meddai, fe all y safleoedd sydd ar y llwybr apelio at lawer o wahanol fathau o bobl. “Mae teuluoedd yn chwilio am rywle i fynd ac, ar ddiwrnod gwlyb, mae eglwys agored gystal lle ag unman,” meddai’r Dr Haggar. Mae rhai cynulleidfaoedd yn dal i boeni am y polisi ‘drysau agored’. Ond mae John Winton yn dweud mai pryder cymharol ddiweddar yw poeni am ymwelwyr ag eglwysi fel hyn. “Arferai’r eglwys fod yn ganolfan i’r gymuned ac, yn y Canol Oesoedd, roedd hi’n cael ei defnyddio i fasnachu ac ar gyfer cyngherddau,” meddai. “Mae’n ymddangos i mi, os nad ydyn ni’n gwahodd pobl i mewn, ein bod yn camddefnyddio’r adeilad. “Mae llawer o bobl wedi cael llond bol ar addoli ailadroddus, traddodiadol ond yn hoffi cael cyfle i fwynhau’r adeilad. Mae mannau addoli mewn sefyllfa berffaith ac yn rhoi gwell cyfle o lawer inni adrodd

[ 06 ]

[ 05 ]

[ 07 ]

23

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


Cadw’r ffydd Darganfod calon Cymru

[10 ]

[ 08]

straeon am achyddiaeth ac archaeoleg”. Mae’r Dr Haggar yn cytuno. “Mae eglwysi yn straffaglu ac yn cau,” meddai. “Mae ein prosiect ni i bob golwg yn creu ychydig o ffocws ac yn galluogi rhwydweithio. Unwaith y bydd offeiriad wedi’i argyhoeddi bod edrych tuag allan yn beth gwerthfawr i’w wneud, bydd clerigwyr yn dechrau teimlo’n hyderus i annog y cynulleidfaoedd i agor eu drysau. “Does dim perygl i bethau gael eu dwyn; y gwrthwyneb sy’n wir,” mae’n dadlau. Mae’n well gan yswirwyr weld eglwysi a chapeli’n cael eu cadw ar agor yn ystod oriau’r dydd meddai’r Dr Haggar. Mae Llefydd Llonydd yn dangos yr hyn sy’n bosib, ond mae Roger Haggar yn meddwl y bydd hi’n dalcen caled gwireddu gweledigaeth y cynllun twristiaeth ffydd. “Bydd angen i bobl gyd-dynnu ar bob lefel,” meddai. “Pan fydd pobl yn meddwl am Gymru, maen nhw’n cael eu denu i’r cestyll a’r mynyddoedd. Os gallwn ni ddwyn perswâd arnyn nhw i gerdded, gyrru neu feicio i rai o’r llefydd llonydd hyn, gorau oll. Os gallwn ni annog pobl i adael llwybr yr arfordir a

dod rhyw bum milltir i mewn i’r tir, fe gân nhw ddarlun hollol wahanol. Gallai eglwysi a chapeli fod yn ddeniadol iawn i ymwelwyr.” Mae John Winton yn rhannu’r weledigaeth. “Mae gennyn ni gyfle gwych i adrodd stori nad oes neb arall wedi’i hadrodd, er enghraifft y diwygiad ar droad yr 20fed ganrif. Roedd Bro Morgannwg yn grochan o addysgu diwinyddol yn y bumed a’r chweched ganrif ac fe ellid dadlau mai yng Nghymru y mae’r cysylltiad di-dor hwyaf â Christnogaeth yng ngorllewin Ewrop. Os ydych chi’n mynd i adrodd hanes Cymru, allwch chi ddim ei adrodd heb sôn am grefydd.”

Wyneb y gorllewin yn Abaty Tyndyrn, Sir Fynwy, [04] Majestas Jacob Epstein yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, [05] y tu allan i Eglwys Gadeiriol Llandaf, [06] Abaty Glyn y Groes, Sir Ddinbych, [07] cofeb croes Geltaidd ar Ynys Enlli, [08] y tu mewn i Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro, [09] yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd [10] a pherfformiad jaz yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

[03]

Dyma bum prif safle sanctaidd Cymru: 1. Eglwys Gadeiriol Tyddewi – 262,000 2. Eglwys Norwyaidd Caerdydd – 148,500 3. Eglwys Gadeiriol a Chanolfan Dreftadaeth Aberhonddu – 120,000 4. Abaty Tyndyrn – 69,300 5. Eglwys Gadeiriol Llandaf – 40,400 (Ar sail nifer yr ymwelwyr yn 2011)

I gael gwybod rhagor…

Ewch i wefan Rhwydwaith Twristiaeth Eglwysi Cymru. www.ctnw.co.uk www.visitwales.com

[ 09 ]

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

24


PROFFIL

Aur pur Taro deuddeg Mae’n hollbwysig cynllunio a rhoi sylw i fanylion er mwyn sicrhau ansawdd – ond mae synnwyr digrifwch yn help hefyd, meddai Lesley Evans, enillydd Gwobr Aur. Fwy na saith mlynedd ar ôl agor eu llety 5 seren i ymwelwyr, 3 Pen Cei, mae gan fusnes Lesley a John Evans enw heb ei ail. Gwerthu bwyd oedd Lesley ac roedd John yn gweithio ym maes llywodraeth leol. Mae’r busnes hefyd yn gartref i’r teulu – cafodd Lesley ei geni yn y t^y ar y cei yn Aberaeron ac yma hefyd y magodd y ddau eu meibion. Ac mae’r lle gwely a brecwast moethus yn cynnig croeso teuluol sydd wrth fodd ymwelwyr; o blith 122 o adolygiadau ar Tripadvisor, dim ond dau sydd ddim yn ‘rhagorol’ (ac mae’r ddau hynny’n ‘dda iawn’). Mae un adolygydd yn dweud: “Yn sicr, does dim angen ymweliad gan ‘The Hotel Inspector’. A dweud y gwir, rwy’n meddwl y gallen nhw ddysgu ambell beth i Alex Polizzi.” Felly beth yw’r gyfrinach? Gofynnodd Ansawdd Cymru i Lesley am ei chyngor i newydd-ddyfodiaid i’r busnes gwely a brecwast. Mae cynllunio’n hollbwysig Fe dreulion ni 18 mis da’n cynllunio cyn agor, ac, yn ystod y cyfnod hwn, fe gawson ni help amhrisiadwy gan Croeso Cymru. Roedd y cyngor yn amrywio o adnabod y farchnad graidd, cynllunio busnes a marchnata, i ddatblygu gwefan a gwneud cais am grantiau – a llawer iawn o synnwyr cyffredin. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n cychwyn ar brosiect fel hyn, ei bod hi’n hanfodol gofyn am gyngor busnes, yn enwedig os yw ar gael am ddim.

Yr ail filltir honno Rhaid canolbwyntio ar ansawdd yr hyn rydych chi’n ei gynnig. Ym myd cystadleuol iawn twristiaeth, mae’n hollbwysig cerdded yr ail filltir honno i sicrhau bod y profiad a gaiff pobl nid yn unig yn un da, ond yn gofiadwy. Mae pethau bach yn gwneud gwahaniaeth. Bydd John neu finnau bob tro yma i groesawu gwesteion gyda chwpanaid o de a phice ar y maen, a byddwn yn sgwrsio gyda’n gwesteion er mwyn iddyn nhw deimlo’n fwy na dim ond cwsmeriaid. Rydyn ni wedi bod yn ffodus o gael pobl mor hyfryd yn aros yma; dydyn ni erioed wedi cael cwsmeriaid anodd na dim trafferth. Y cyfan rydyn ni eisiau yw bod pobl yn mwynhau eu hunain a’u bod nhw’n hapus yma. Synnwyr digrifwch Mae ein gwesteion yn dweud mai sylw i fanylion yw un o’r pethau sy’n ein gwneud ni’n wahanol, ond fe gawson ni’n dal pan agoron ni ym mis Mai 2007. Roedden ni wedi archebu byrddau derw i’w rhoi at ei gilydd. Dyna un o’r pethau bach yr oedd dal angen ei wneud ar y diwrnod agor. Ond, ar ôl inni eu rhoi nhw at ei gilydd a’u gosod wrth y byrddau, fe sylweddolon ni fod y cadeiriau’n rhy isel. Pan oedd rhywun yn eistedd, roedd fel petai plentyn yn eistedd wrth y bwrdd! Yr ateb – llifio tamaid oddi ar goesau’r byrddau. Roedd yn rhaid inni alw ar y saer oedd yn gweithio ar yr adeilad yn sydyn i lifio dwy fodfedd bron oddi ar 20 o goesau trwchus y byrddau. Ond, fel mae pethau’n digwydd, yng

[ 01 ]

25

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


nghanol y gwaith llifio, dyma ein gwesteion cyntaf – criw ffilmio – yn cyrraedd. Yn ffodus, roedden nhw’n gweld y peth yn ddigri ac roedd yr ystafell fwyta’n barod erbyn brecwast y bore wedyn. Byddwch yn barod am yr annisgwyl Rydych chi’n meddwl eich bod yn gallu cynllunio ar gyfer popeth, ond byddwch bob tro’n barod am yr annisgwyl. Yr her a achosodd fwyaf o straen inni oedd pan oedden ni wedi gosod yr un ystafelloedd i ddau griw o bobl un penwythnos oherwydd bod aelod o’r teulu’n anghyfarwydd â’r drefn gofnodi. Roedden ni wedi neilltuo ystafelloedd i gr wp ^ o chwech ar nos Wener ym mis Awst, ond doedden ni heb sylweddoli eu bod mewn gwirionedd wedi archebu lle am dair noson, ac felly, dyma ni’n derbyn gwesteion eraill ar gyfer y Sadwrn a’r Sul. Roedden ni’n disgwyl i’r gr wp ^ cyntaf adael fore Sadwrn – ond wnaeth hynny ddim digwydd. Roedd ’na rywfaint o banig oherwydd ein bod ni ar ganol cyfnod prysur yr haf, ond fe lwyddon ni i ddod o hyd i lety arall i’r gwesteion eraill, a diolch byth, roedden nhw i gyd yn glên iawn. Yn unol â meini prawf Croeso Cymru ar gyfer llety 5*, byddwn ni bellach yn cadarnhau pob trefniant, ac felly, gobeithio na wnawn ni wynebu her fel ’na byth eto.

[01]

Lesley a John Evans yn 3 Pen Cei, Aberaeron. Delweddau marchnata Pen Cei.

[Pob delwedd arall]

I gael gwybod rhagor…

www.pen-cei-guest-house.co.uk

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

26


BARN

Symud ymlaen Teithio yn y dyfodol – y dewisiadau Does dim rhaid dweud bod sicrhau modd i gwsmeriaid gyrraedd eich busnes a theithio o’i amgylch yn gwella ei sefyllfa ariannol. Mae mynediad yn bwysig, felly bu Ansawdd Cymru yn holi arbenigwyr am gipolwg ar ddwy ochr wahanol iawn o’r un geiniog.

Mae ei gwneud hi mor hawdd â phosibl teithio o amgylch Cymru o fudd i’r diwydiant twristiaeth. Mae gwireddu hynny i gyd yn ymwneud â phedwar gair, yn ôl yr Athro Stuart Cole o Brifysgol Morgannwg. Cynnig profiad pleserus a hwylus i deithwyr yw prif amcan cludiant cyhoeddus integredig. Fwy na degawd yn ôl, fe gynigiais i broses werthuso a allai helpu i sicrhau bod y profiad hwnnw a gaiff y teithiwr gystal byth ag y gall fod. Yn Saesneg, fe alwais i’r broses hon yn 4I (information, interchange, investment and imagination). Gyda’i gilydd maen nhw’n creu system integredig – a gwell profiad i bob teithiwr. Gadewch inni edrych ar bob un o’r elfennau hynny. Bydd teithwyr yn dibynnu ar gael gwybodaeth sy’n gynhwysfawr, yn glir ac yn hawdd dod o hyd iddi mewn prif derfynfeydd neu gyfnewidfeydd ac wrth iddynt deithio, ar ffôn symudol. Dylai’r wybodaeth honno fod mewn amser real. Mae arwyddion cyfeirio mewn gorsafoedd bysiau a threnau’n amrywio o

ran eu hansawdd – a lle maen nhw’n wael, dylid eu gwella. Hefyd, rhaid sylweddoli nad yw pawb yn gallu mynd ar lein; mae galw mawr o hyd am wybodaeth ar bapur. Mae’n bwysig hefyd gallu newid yn hwylus o un modd o deithio i’r llall. Pa fath bynnag o gludiant y bydd pobl yn ei ddefnyddio: ar droed, mewn car, ar feic neu gludiant cyhoeddus, dylai fod yn bosib iddyn nhw symud yn hwylus o’r naill i’r llall. Mae hynny’n golygu y dylid cael un drefn docynnu hwylus ac y dylai tocynnau fod ar gael yn rhwydd drwy wasanaethau fel Go Cymru, PlusBus. Dylai tocynnau Crwydro cenedlaethol a rhanbarthol i dwristiaid fod ar gael yn rhwydd hefyd. Y trydydd peth yw buddsoddi. Gallwn gwtogi amserau teithio drwy fuddsoddi mewn rhagor o gapasiti, cael cynlluniau blaenoriaeth i fysiau a threnau a bysiau sy’n rhedeg yn amlach ac yn gyflymach. Bydd buddsoddi mewn gorsafoedd a mannau aros am fysiau’n sicrhau gwell profiad i’r teithiwr hefyd ac yn gwneud Cymru’n fwy deniadol fel cyrchfan sy’n gyfeillgar i dwristiaid. Yn olaf, mae angen dychymyg. Mae angen inni ddeall beth mae’r teithiwr yn ei ddisgwyl a dod o hyd i ffyrdd newydd o wireddu hyn. Mae hynny’n golygu caniatáu i gynllunwyr roi cynnig ar syniadau newydd a gofyn iddyn nhw brofi’r syniadau hynny nes eu bod yn berffaith. Mae’r pedwar gair hyn yn gyffredin i brofiad pob defnyddiwr, ond a oes gan

27

Ansawdd Cymru

dwristiaid ofynion gwahanol? Wrth astudio’u hanghenion, gwelwyd bod angen y canlynol: Mae angen gwybodaeth glir, gynhwysfawr ar dwristiaid am gyfnewidfeydd a rhaid i’r wybodaeth honno fod yn hawdd ei defnyddio, yn enwedig i’r rheini sy’n teithio gyda bagiau trwm neu blant ifanc. Maen nhw hefyd am allu gweld amserlenni clir, ar ffurf ddigidol ac ar bapur. Dylai’r pellter cerdded rhwng y moddau trafnidiaeth fod yn fyr ac o dan do, a dylid sicrhau bod arwyddion cyfeirio’n glir, rhwng y moddau teithio ac at gyrchfannau lleol megis canol y dre a gwestai lleol. Mae ymwelwyr hefyd am gael lle diogel i gadw’u beiciau, eu ceir a’u beiciau modur, cyfleusterau da i adael bagiau a gwasanaeth llogi car. Maen nhw am deimlo’n ddiogel hefyd ac am weld gwasanaethau – toiledau er enghraifft – yn lân ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. I ba raddau y mae’r system yn llwyddo i wneud hyn? Gadawaf hynny ichi feddwl amdano, ond fe hoffwn i dynnu eich sylw at un enghraifft dda lle mae Cymru yn llwyddo. Pan lansiwyd TrawsCymru gan y Gweinidog, Edwina Hart, dywedodd y Western Mail fod y gwasanaeth newydd yn ‘un y dylem fod yn falch ohono’. Ychwanegwyd y llwybr diweddaraf at y rhwydwaith bysiau moethus cenedlaethol sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru (T1 Aberystwyth – Caerfyrddin) ym mis Awst ac wrth imi ysgrifennu hwn, mae cynlluniau ar y gweill i’w roi ar waith ym mhob rhan o Gymru.

llyw.cymru/twristiaeth


Gwasanaeth i dwristiaid (a chymudwyr) yw hwn i raddau helaeth ac mae ’na wybodaeth ar y bws yn dangos y safleoedd aros a gwybodaeth am fannau newid yn ogystal ag am lefydd sydd o ddiddordeb i dwristiaid ar hyd y llwybrau. Mae’r rhwydwaith wedi’i seilio ar gydlynu amserau’r bysiau a’r trenau, sy’n golygu ei bod yn hawdd i bobl deithio drwodd. Ynghyd â masnachfraint trenau Cymru a’r Gororau’r Llywodraeth, sy’n cael ei gweithredu gan Drenau Arriva Cymru, TrawsCymru fydd craidd y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus genedlaethol teithiau hir sy’n cysylltu â’r gwasanaethau bysiau lleol. Bydd y rhwydwaith yn cysylltu Caerfyrddin, Aberystwyth, Hwlffordd, Bangor, Machynlleth, Dolgellau, Caernarfon, y Bala a Wrecsam. Mae’n golygu bod Aberystwyth yn ganolfan i drenau, tri llwybr TrawsCymru a bysiau lleol a’u bod i gyd yn dod at ei gilydd yn yr orsaf gyfnewid newydd ar gyfer bysiau/trenau. Mae’r trenau’n cysylltu â gwasanaeth TrawsCymru yn Hwlffordd ac yn y Drenewydd hefyd ac mae Aberhonddu’n bwynt gyfnewidfa bwysig. Ychydig iawn sydd wedi newid o ran anghenion y teithiwr annibynnol ers 2003 – rydym ymhell iawn o hyd oddi wrth weithredu egwyddorion y 4 gair, ond mae TrawsCymru yn dangos inni beth sy’n bosib.

Ganwyd Stuart Cole yn Llanelli ac fe ddechreuodd weithio fel cynghorydd economaidd i Gyngor Sir Swydd Gaer yn yr 1970au. Mae ganddo brofiad sy’n pontio llywodraeth leol, y sector preifat a rolau academaidd. Erbyn hyn mae’n Athro Emeritus Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru ac fe gydnabuwyd ei gyfraniad at bolisi trafnidiaeth yn 2012 pan ddyfarnwyd CBE iddo.

Mae gwasanaeth TrawsCymru wedi’i ddatblygu gydag ymwelwyr mewn golwg.

[Pob delwedd]

I gael gwybod rhagor…

www.trawscymru.info

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

28


BARN

Mynediad: Ar agor i bawb? Fyddwch chi’n meddwl digon am ba mor hwylus yw hi i gwsmeriaid gyrraedd eich busnes? Os ‘nac ydw’ yw’r ateb gonest i’r cwestiwn hwnnw, mae’n siwr ^ eich bod chi’n methu cyfle, meddai ail arbenigwr Ansawdd Cymru, y blogiwr teithio Carrie-Ann Lightley.

[ 01 ]

Rwy’n defnyddio cadair olwyn ac wrth fy modd yn teithio, felly mae gweithio i Dwristiaeth i Bawb y Deyrnas Unedig (TFA) yn bleser. Elusen annibynnol yw TFA sy’n cefnogi cyfleusterau hamdden a thwristiaeth i bawb, gan ddarparu gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer pobl ^ a phobl anabl – dyna fy mhrif hyn gyfrifoldeb. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant a’r llywodraeth i godi safon y croeso a gaiff pob gwestai. Gan fod gennyf anabledd a ‘mod i wrth fy modd yn teithio, rwy’n gallu cydymdeimlo â phobl eraill sydd efallai wedi’i chael hi’n anodd dod o hyd i gyfleusterau a gwasanaethau addas. Y rhan helaeth o ‘mywyd, rwyf wedi defnyddio’r ‘brif ffrwd’ wrth deithio gan archebu gwestai drwy asiant teithio ar y stryd fawr, straffaglu o fws i fws ac aildrefnu’r dodrefn yn yr ystafell i wneud lle i fy nghadair olwyn. Yn ffodus, rwy’n gallu symud yn weddol. Mae parlys yr ymennydd yn effeithio ar ran isaf fy nghorff ond mae ‘na adegau pan dw i wedi llwyddo i lusgo fy hun i fyny’r grisiau pan fydda’i yn fy hwyliau. Nid tan y dechreuais i weithio i TFA y sylweddolais i y gall teithio fod yn haws o lawer. Cyn bo hir, des i ar draws ystafelloedd mewn gwesty gyda wardrobs [01]

Yr arbenigwr teithio Carrie-Ann Lightley ac [Pob ymwelwyr yn mwynhau crwydro Cymru.

delwedd arall]

29

â rheiliau hongian isel a chawodydd stafell-wlyb, cludiant â rampiau, a hyd yn oed offer symudedd sydd ar gael i’w logi mewn cyrchfannau gwyliau. Mae gwybodaeth dda yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Rwy’n clywed gan lawer o deithwyr anabl sy’n gorfod chwilio drwy ddwsinau o wahanol wefannau i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt, gan dreulio dydd a nos yn llythrennol ar lein dim ond i drefnu gwyliau byr. Yn ffodus, rwy’n gallu eu helpu nhw i ddod o hyd i lety hwylus ac addas a mannau i ymweld â nhw gan ddefnyddio gwefannau fel OpenBritain. Mae datganiadau mynediad yn hollbwysig hefyd wrth ymchwilio i’r wybodaeth hon. Mae rhoi datganiad ar wefan yn ffordd rad iawn i fusnesau hysbysebu i ddarpar gwsmeriaid anabl. Bydd rhai o’r darparwyr llety y byddaf fi’n siarad â nhw’n tybio bod angen i’r lle fod yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn er mwyn croesawu gwesteion anabl, ond nid rampiau a drysau llydan yw popeth. Dim ond tua wyth y cant o bobl anabl sy’n defnyddio cadair olwyn – sef tua un o bob 12. Meddyliwch am bobl h^yn sy’n cael trafferth symud o gwmpas ac a fyddai o bosib yn elwa o gael rheiliau llaw: pobl sydd â nam ar eu golwg sydd am wybod a oes gennych chi fwydlenni print mawr ac a ydych chi’n croesawu cwn ^ cymorth, a phobl sydd â nam ar eu clyw yn chwilio am lefydd gyda dolenni clyw a staff sydd wedi’u hyfforddi i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae twristiaeth hygyrch a chynhwysol yn golygu sicrhau bod teithio yn bosib i bawb, dim ots a ydych chi’n ifanc, yn hen, yn fam sy’n gwthio coets, yn ddefnyddiwr cadair olwyn, yn rhywun â nam ar eich golwg neu’ch clyw, yn ofalwr, neu’n rhywun sy’n gwella ar ôl damwain neu afiechyd.

Ansawdd Cymru

Agweddau a gwasanaeth yn aml sy’n peri rhwystrau i bobl, ac mae’r rhain yn bethau hawdd eu cywiro. Yn bersonol, byddaf bob tro’n argymell lleoliad lle mae’r staff wedi mynd yr ail filltir i fy helpu yn hytrach nag un sy’n cynnig mynediad hwylus ond lle mae’r gwasanaeth yn wael. Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd yn rhoi’r hyder i aelodau staff groesawu pob cwsmer heb boeni am ddweud y peth anghywir neu heb drefnu ystafell anaddas i rywun. Nid mater o gynnig gwasanaeth ‘arbennig’ i’r rheini sydd â gofynion mynediad yw hi, ond cynnig y gwasanaeth gorau un i bawb. Mae’r farchnad ar gyfer teithwyr sy’n chwilio am leoliadau mwy hygyrch yn tyfu. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau’n amcangyfrif ei bod yn werth tua £80bn y flwyddyn. Felly, bydd teithwyr ag anabledd yn farchnad bwysig a thrwy ddarparu gwasanaeth ar eu cyfer, fe all hynny helpu busnesau i greu delwedd sy’n eu gosod ar wahân. Hefyd, ar y cyfan, mae’r cwsmeriaid hyn yn driw i fusnesau sy’n eu gwasanaethu’n dda. Er enghraifft, os llwydda’i i ddod o hyd i westy sy’n diwallu fy anghenion yn berffaith, i arbed amser ac er mwyn cael tawelwch meddwl, pan fydda’i yn mynd yn ôl i’r dref neu’r ddinas honno, a’i ddim i unman arall. Hefyd, os oes gan y gwesty fwyty/bar sy’n hwylus i gadair olwyn, rwy’n debygol o wario arian yno yn hytrach na chrwydro’r strydoedd i ddod o hyd i rywle i fwyta. Mae rhwydwaith o fusnesau, cyrff cyhoeddus a gwirfoddol sy’n tyfu’n gyflym sydd wedi ymrwymo i roi croeso cynnes i westeion anabl a’r rheini sy’n teithio gyda hwy. A allwch chi fforddio colli cyfle?

llyw.cymru/twristiaeth


Astudiaeth achos Busnes teulu yw Vulcan Lodge Cottages. Mae Rita a Denis Lawrence yn cadw’r rhes o fythynnod gwyliau hunanarlwyo ger Rhaeadr Gwy ar y cyd â nai Denis, Zenek, ei wraig Elaine a’u merch Nicola. Tafarn o’r 18fed ganrif wedi’i haddasu ac un bwthyn, Middleton Cottage, yw’r llety ac mae’n cael ei argymell gan Twristiaeth i Bawb fel enghraifft dda o lety sydd wedi’i addasu. “Daeth hen dafarn y Vulcan Arms ar y farchnad tua phum mlynedd yn ôl ac roedden ni’n meddwl bod hyn yn gyfle rhy dda i’w golli,” meddai Rita. Roedd y teulu’n berchen ar yr Halt Café a’r siop drws nesaf. Er mwyn sicrhau bod y fenter newydd yn cychwyn ar y llwybr iawn, dywedodd Rita ei bod wedi gofyn am gymaint o gyngor â phosibl. Mewn un digwyddiad, fe wnaeth hi gyfarfod â Sue Napper, sylfaenydd elusen o’r enw Disabled Holiday Info. Mae’n dweud: “Fe ges i fy ysbrydoli o ddifri a sylweddoli bod Middleton Cottage yn ddelfrydol i’w addasu am fod y lle’n enfawr a bod yno lolfa anferth a dim grisiau.” Ar ôl cael cyngor gan Sue Napper, tynnwyd ystafell ‘molchi a oedd newydd ei gosod a rhoi stafell wlyb hwylus newydd yn ei lle. Defnyddiwyd sticeri llachar ar y stwitsys golau i helpu gwesteion â nam ar eu golwg a rhoddwyd wyneb arbennig ar gyllyll a ffyrc i’w gwneud yn haws i bobl afael ynddyn nhw.

Rhifyn 8, 2015

5 Cyngor Call gan Croeso Cymru 1. Rhowch wybodaeth am eich eiddo a’ch gwasanaeth ar fformat print mawr. Anghofiwch am y ddelwedd "gorfforaethol" a defnyddio ffont glir 16pt. Dylai hyn gynnwys eich Datganiad Mynediad. 2. Gwnewch yn siwr ^ bod gennych offer hwylus wrth law (e.e. seddi codi ar gyfer y toiled; seddi bath; cyllyll a ffyrc hawdd gafael ynddyn nhw, goleuadau sbâr ar gyfer tasgau, lampau bwrdd ac ati) 3. Yn y dderbynfa, cadwch hambwrdd glin a phad ysgrifennu wrth law i’ch helpu i gyfathrebu â phobl trwm eu clyw. 4. Yn hytrach na phrynu eitemau mwy o faint megis offer codi, cadeiriau olwyn, holwch eich cyflenwyr offer symudedd lleol a oes modd eu llogi. 5. Hyfforddwch eich staff mewn materion Cydraddoldeb; byddwch yn chi’ch hun – os nad ydych chi’n siwr, ^ gofynnwch i’ch gwesteion am eu gofynion penodol.

Prynodd Rita gloch alw hefyd i bobl ag anawsterau clyw. Mae manylion y cyfleusterau yn y bythynnod i gyd ar y wefan ac mae’r teulu’n croesawu ymateb. “Byddwn yn gofyn i’r gwesteion restru’r pethau bach a fyddai’n help iddyn nhw yn ystod eu cyfnod yma,” meddai Rita. “Er enghraifft, mae ‘na risiau yn yr ardd ar hyn o bryd, felly yn ystod y gaeaf, rydyn ni’n mynd i greu ardal hwylus a rhoi bwrdd picnic a meinciau wedi’u haddasu yno. Mae gennym fframiau cerdded yma a byddwn hefyd yn llogi sgwteri trydan am dâl bychan er mwyn i westeion ddefnyddio’r llwybrau beicio. “Mae’n gwneud synnwyr o ran busnes, ond mae hefyd yn deimlad braf gallu gwneud rhywbeth sy’n ddefnyddiol i’r gymdeithas. Bydd rhai pobl yn gwneud cyn lleied ag mae’n rhaid i sicrhau mynediad i bobl anabl ond dydy hi ddim yn broses anodd. Rydyn ni wedi cael ymateb ardderchog ac mae’n bleser pur cael gwesteion yn dweud wrthyn ni faint maen nhw’n gwerthfawrogi ein cyfleusterau.”

I gael gwybod rhagor…

www.vulcanlodgecottages.co.uk

Ansawdd Cymru

I gael gwybod rhagor…

Carrie-Ann Lightley sy’n gyfrifol am wasanaeth gwybodaeth Twristiaeth i Bawb. Gallwch ddarllen ei blog hi yma: www.carrie-annstravelblog.blogspot.co.uk

30


GOLFF

Byd newydd Yn gwasanaethu golffwyr heddiw Ers talwm, byd caeedig ‘aelodau’n unig’ oedd y clwb golff, ond mae’r dyddiau hynny wedi hen fynd heibio. Mae clybiau sydd â’u golwg ar y dyfodol yn arallgyfeirio ac yn cynnig rhywbeth newydd a ffres wrth groesawu pob math o westeion.

Does dim rhaid i chi chwarae golff i sylweddoli pa mor arbennig yw cwrs golff Dinbych-y-pysgod. Cwrs clasurol glan môr sydd yma, sy’n golygu ei fod yn edrych allan ar orwel eang – ac mae’r panorama o’r nawfed tî dros Swnt Dewi tua’r Ynys B^yr, a hyd yn oed cyn belled ag Ynys Wair, yn anhygoel. Mae’n berl o le ac nid yw’n syndod mai dyma un o ffefrynnau’r golffiwr brwd – a’r Prif Weinidog – David Lloyd George, yn ôl pob sôn. Mae rhai’n dadlau hefyd mai dyma’r cwrs hynaf yng Nghymru. Mae’r rheolwr David Hancock yn ofalus wrth eirio’r honiad hwnnw. Mae clybiau eraill yn meddwl eu bod nhw cyn hyned os nad yn h^yn na chlwb Dinbychy-pysgod, ond mae David yn dawel hyderus eu bod nhw’n anghywir. Sefydlwyd clwb Dinbych-y-pysgod yn swyddogol yn 1888, a dywedir bod y clwb yn Borth wedi’i sefydlu yn 1885. Ond mae David yn eithaf sicr bod pobl yn chwarae golff ar lan y môr yn Ninbychy-pysgod ddegawd cyn hynny o leiaf. “Mae ’na hanes yng nghofnodion llys

y dref sy’n dweud bod achos wedi’i ohirio er mwyn iddyn nhw fynd i chwarae golff,” meddai. “Roedd hynny yng nghanol yr 1870au, felly mae’n amlwg bod pobl yn chwarae golff yma cyn sefydlu’r clwb yn ffurfiol.” Erbyn hyn, mae mwy a mwy o bobl sy’n chwarae golff yn dilyn yn ôl troed Lloyd George ac yn ymweld â Dinbych-y-pysgod i daro pêl. Maen nhw’n gwneud hynny drwy brynu pecynnau aros-a-chwarae rhesymol eu pris sy’n paru profiad golffio unigryw’r clwb â llety gwely a brecwast tair seren ar y safle. Mae elfen gwely a brecwast y fargen yn gymharol newydd. Bedair blynedd yn ôl, troswyd hen fflat stiward y clwb yn dair ystafell wely ensuite. Roedden nhw’n boblogaidd, meddai David, ond roedd y clwb yn gallu gweld ei fod yn colli cyfle i groesawu grwpiau mwy o faint. “Roedden ni’n gweld ein bod yn gwrthod pobl, neu’n lletya rhai yn y clwb ac eraill mewn gwely a brecwast yn y dref,” meddai. “Penderfynwyd codi bloc newydd er mwyn inni apelio o ddifri at y farchnad cymdeithas golffio fach – grwpiau o 10 – 12, hyd yn oed 14 o chwaraewyr.” Agorwyd y bloc newydd, a maes ymarfer a stiwdio hyfforddi, yn swyddogol fis Ebrill diwethaf gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, a seren Cwpan Ryder, Philip Price. Mae’r ystafelloedd ychwanegol yn golygu bod gennyn ni gyfanswm o saith ystafell, felly mae grwpiau mwy o ymwelwyr bellach yn gallu chwarae gyda’i gilydd ac aros

31

Ansawdd Cymru

[ 01 ]

gyda’i gilydd mewn llety cyfforddus. Hyd yn hyn, mae’r ehangu wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae wedi golygu bod y clwb wedi gorfod cymryd cam pellach i’r byd croeso, er enghraifft, mae’n rhaid i rywun godi’n fore bob dydd i baratoi a gweini’r brecwast. Ond mae’r broses ddysgu honno i gyd yn rhan o’r ailddyfeisio y mae’n rhaid i glwb fynd drwyddi er mwyn ffynnu mewn byd sy’n newid. “Y dyddiau hyn, mae pawb yn realistig ac yn gallu gweld ei bod yn rhaid ichi gael llifau refeniw eraill. Rhaid ichi edrych ar ffyrdd newydd o ennill incwm oherwydd, y duedd gyffredinol drwy’r byd yw bod nifer yr aelodau’n gostwng,” meddai David. A fyddai Lloyd George yn ‘nabod y lle petai’n gallu dod yn ôl am un rownd arall? Mae David Hancock yn meddwl y byddai, er efallai y byddai ambell ychwanegiad o’r 21ain ganrif megis y soffas a’r teras haul yn ei ddrysu braidd. Ond mae’n siwr ^ y byddai’n mwynhau gweld y llun ohono sydd ar un o’r waliau ac y byddai’n teimlo’n gartrefol wrth weld llawer o bethau eraill sydd yn y clwb ac o’i amgylch. “Rwy’n meddwl ei bod hi’n bosib bod yn draddodiadol a meddwl am y dyfodol yr un pryd,” meddai David. “Fe allwch chi gadw’r gwerthoedd traddodiadol hynny ond bod yn glwb modern a chyfeillgar sy’n lle braf i dreulio amser hefyd.”

llyw.cymru/twristiaeth


I gael gwybod rhagor‌

I gael gwybod rhagor ewch i www.tenbygolf.co.uk

Rhifyn 8, 2015

[01] David Hancock, rheolwr, [Pob delwedd arall] Clwb Golff Dinbych-y-pysgod, Clwb Golff y Flwyddyn yng Nghymru yn 2014.

Ansawdd Cymru

32


[ 01 ]

33

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


BWYD A DIOD

Y cwrs nesaf Dysgu coginio Erbyn hyn mae mwy a mwy o bobl yn gwirioni ar fwyd ac mae dysgu coginio’n rhan o’r profiad. Mae ysgolion coginio ardderchog Cymru yn llwyddo i ddenu nifer gynyddol i fwynhau’r profiad hwnnw.

[ 02 ]

Mae’r ysgol goginio yng Nghanolfan Bwyd Cymreig Bodnant yn Nhal-y-Cafn, Dyffryn Conwy yn debyg i set ffilm. Mewn cornel yng ngofod y to yn un o hen adeiladau hardd y ganolfan y mae’r ysgol – adeilad sy’n gyfuniad o’r hen a’r newydd – trawstiau to hynafol a chegin o’r math mwyaf cyfoes. Ar fore heulog o hydref, mae golau’r haul yn pelydru drwy ffenestri’r to ac yn goleuo’r wynebau brwd. Mae myfyrwyr y bore – gr wp ^ cymysg sydd wedi gwirioni ar fwyd – yn

Rhifyn 8, 2015

gwrando’n astud ar bob gair wrth i’w hathro am y diwrnod, prif gogydd y ganolfan, Dai ‘Chef’ Davies, egluro’r rysáit sydd ar y fwydlen. Mae Dai yn rhwbio’i law dros blu un o’r ddau ffesant sy’n crogi o un o drawstiau’r to, ac yn sôn yn frwd am ba mor lleol fydd cynhwysion y pryd bwyd. Mae’r adar wedi dod o’r coed y tu allan, ac o Ganolfan Bodnant mae’r menyn hefyd. Wedyn, mae’r afalau’n lleol, a’r cennin a’r madarch hefyd, ac mae ‘na seidr da o Gymru a halen môr Môn. “Byddwn ni’n creu cyfuniad hyfryd Celtaidd o flasau,” meddai Dai wrthyn nhw. Mae Dai’n berfformiwr naturiol a’i frwdfrydedd yn tanio’r gynulleidfa – mae’n efengylu dros flasau Cymru ac yn bachu ar bob cyfle i ledaenu’r gair. Er enghraifft, yn ddiweddar, fe ymunodd â Croeso Cymru yn Las Vegas lle y cynhaliwyd digwyddiad Cyrchfan Gogledd America. Roedd yn cynrychioli Cymru a bwyd Cymru yno. Mae Dai yn un o dîm o diwtoriaid sy’n dysgu ym Modnant. Bwriedir i’r ysgol goginio fod yn rhan hanfodol o’r ganolfan ac fe agorodd ar gyfer busnes yn 2012. Mae’r ganolfan yn rhywbeth newydd i Gymru. Mae yno siop fferm o faint archfarchnad sy’n gwerthu cynnyrch ystâd Bodnant fel cig, mêl a chaws,

Ansawdd Cymru

ochr yn ochr â’r bwydydd a’r diodydd gorau o bob cwr o’r gogledd. Mae yno gaffi, bwyty a gwely a brecwast ac, wrth gwrs, yr ysgol goginio. Mae cynnig y cyrsiau’n ffordd resymegol o estyn hanfod y ganolfan, meddai Eira Roche, sy’n rhoi gwersi ei hun hefyd yn ogystal â rheoli’r ysgol. “Mae gennyn ni gynhwysion mor anhygoel yma,” meddai. “Byddwn yn defnyddio cynnyrch o’r llaethdy, gan y cigydd ac o siop y fferm, ac mae’r cyfan yn dod at ei gilydd yn yr ysgol goginio.” Efallai nad yw’n syndod mai’r cyrsiau sy’n gwerthu orau ar hyn o bryd yw’r cyrsiau pobi. Wedi’r cyfan, fe wnaeth dros 12m o wylwyr edrych ar rownd derfynol ddiweddaraf Great British Bake Off y BBC – mwy nag a wyliodd rownd derfynol pêl-droed Cwpan y Byd. Mae’n croesawu effaith y Bake Off/ MasterChef ac mae’n credu bod rhaglenni fel hyn yn helpu i newid agweddau pobl ym Mhrydain at yr hyn maen nhw’n ei fwyta. “Rydyn ni’n camu allan o gyfnod tywyll pan oedd pobl yn dibynnu ar fwyd wedi’i brosesu a bwyd wedi’i becynnu,” meddai Eira. “Maen nhw’n sylweddoli nawr, am resymau amgylcheddol, ac yn syml er mwyn y blas, bod angen iddyn nhw ddechrau bwyta bwyd tymhorol a lleol – ac rydyn ni’n hyrwyddo hynny o ddifri yma.”

34


Y cwrs nesaf

“Mae twristiaeth bwyd yn beth

Dysgu coginio

mawr iawn yn Tuscany ac mae ’na adleisiau o’r mudiad Bwyd Araf a ddechreuodd yno i’w gweld yma yng Nghymru.”

[ 03 ]

Mae gyrfa Eira yn cynnig golwg ddiddorol ar fyd bwyd yng Nghymru; fe gafodd ei magu yn y gogledd, ond fe dreuliodd flynyddoedd yn gweithio yn yr Eidal. Mae’n gweld perthynas rhwng yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn awr a’r agwedd at fwyd yn yr Eidal. “Mae twristiaeth bwyd yn beth mawr iawn yn Tuscany ac mae ’na adleisiau o’r mudiad Bwyd Araf a ddechreuodd yno i’w gweld yma yng Nghymru,” meddai. “Mae gennyn ni gymaint i’w gynnig.” Mae Angela Gray wedi bod yn gyfrifol am Ysgol Goginio Gwinllan Llanerch ers 2010. Mae’n llecyn heddychlon, yng nghanol rhes ar ben rhes o winwydd ym mryniau Bro Morgannwg, yng nghanol cefn gwlad ond eto dim ond rhyw 10 milltir o ganol Caerdydd. Mae’r ysgol wedi meithrin enw da iawn iddi’i hun. Mae wedi cael ei henwi’n un o 10 Uchaf y Deyrnas Unedig yn The Independent ac mae’n cael ei defnyddio’n lleoliad ffilmio i The One Show ar BBC One. Yn y dyddiau cynnar, roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Angela’n dod o’r ardal gyfagos ac mae rhaglen yr ysgol yn dal i gynnig cyrsiau a fydd yn apelio at bobl leol sy’n driw iddi. Mae’r sesiynau ‘meithrin sgiliau’ tair awr o hyd yn arbennig o boblogaidd gyda’r ymwelwyr rheolaidd. Ond, wrth i amser fynd heibio, mae’r ysgol wedi dechrau denu busnes o ardal ehangach ac ehangach o hyd hefyd, meddai. Mae’r twf wedi bod yn organig, ac wedi’i seilio ar eirda personol, oherwydd fe ddewisodd yr ysgol beidio â gwario ffortiwn ar hysbysebu – mae

wedi dibynnu ar dafod leferydd i ledaenu’r gair. Mae’n strategaeth sy’n talu i bob golwg. Mae Angela yn adrodd hanes un fenyw a wnaeth hedfan i mewn o’r Swistir yn ddiweddar i dreulio wythnos yn sgleinio’i sgiliau. Roedd wedi dod o hyd i wefan yr ysgol drwy chwilio ar y we ac roedd yn hoffi’r ffaith ei bod yn gyfleus ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Cafodd yr ymwelydd o’r Swistir flas mawr ar Gymru. “Roedd hi wrth ei bodd. A phan aeth hi adre a dweud wrth ei ffrindiau am ei hwythnos, dyma nhw’n penderfynu dod hefyd,” meddai Angela. Mae’r profiad hwnnw’n dystiolaeth, meddai Angela, o sut mae bwyd bellach yn rhan bwysig iawn o’r ‘pecyn’ y mae’r rhan fwyaf o bobl yn chwilio amdano pan fyddan nhw’n teithio – ac i lawer, mae hynny’n golygu coginio yn ogystal â bwyta. Mae’n dweud: “Mae’n ymddangos bod bwyd yn rhan o’r profiad teithio erbyn hyn. Mae pobl sy’n hoffi bwyd yn mynd i chwilio am brofiad sy’n cynnwys hynny.” Mae darparu cyrsiau ar y lefel iawn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pobl yn cael amser da yma, meddai Angela. Mae’n cynnig cyrsiau sy’n darparu ar gyfer yr amrywiaeth lawn o lefelau sgiliau ac mae’r ysgol yn ceisio sicrhau bod pobl yn cael eu gosod yn y grwpiau sy’n iawn iddyn nhw. “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn eitha ofnus pan fyddan nhw’n cyrraedd gyntaf a’n gwaith ni yw tawelu’r nerfau hynny. Ond o fewn awr iddyn nhw fod gyda chi maen

35

Ansawdd Cymru

llyw.cymru/twristiaeth


Y cwrs nesaf Dysgu coginio

Siop y fferm yng Nghanolfan Bwyd Cymreig Bodnant, [02] prif gogydd y ganolfan, Dai Davies, [03] rheolwr ysgol goginio Bodnant, Eira Roche, [Pob delwedd arall] cegin yr ysgol, llety a siop y fferm. [01]

nhw’n ymlacio ac yn mwynhau eu hunain.” Os ydy Bake Off/MasterChef yn dylanwadu ar bobl, mae’r awdur bwyd Lindy Wildsmith yn meddwl bod ’na ddwy ochr i’r ddadl. “Mae fel petai coginio wedi troi’n rhywbeth i’w wylio,” meddai. “Mae ’na gynifer o bobl erbyn hyn yn edrych ar bobl yn coginio ar y teledu, ond yn bwyta pryd o’r popty meicrodon wrth wylio.” Wedi dweud hynny, mae ’na bobl sydd ar dân dros fwyd a choginio. Ac mae Lindy wedi creu busnes sy’n ffynnu drwy helpu pobl sy’n gwirioni ar fwyd i ddatblygu eu sgiliau. Yng Ngwobrau Ysgolion Coginio Prydain yn 2012 ac yn 2013, ei hysgol hi, The Chef’s Room ym Mlaenafon, enillodd deitl yr Ysgol Goginio Orau yng Nghymru. Dechreuodd y daith a arweiniodd at The Chef’s Room pan gyfarfu Lindy â Franco Taruschio, sylfaenydd y Walnut Tree enwog yn Llanddewi Ysgyryd, ger y Fenni. Daethant o hyd i’r ganolfan berffaith ym Mlaenafon,

lle’r oedd gan yr arbenigwr cyflenwi bwytai, Vin Sullivan Foods, ganolfan addysgu. Mae’r ddau’n dysgu yn yr ysgol, ac maen nhw hefyd yn defnyddio gwasanaeth tiwtoriaid ymweld. Mae’r tîm yn cynnwys Matt Tebbutt, cyflwynydd gwadd Saturday Kitchen a phrif gogydd The Foxhunter, ger Brynbuga. Mae’n Lindy’n dweud mai’r un her sy’n wynebu pob ysgol goginio, sef chwalu’r syniad mai rhywbeth y bydd pobl eraill yn ei wneud yw coginio. “Byddai’n gofyn i bobl ‘fyddwch chi’n coginio?’ a byddan nhw’n ateb: ‘Ddim wir.’ Felly, byddai’n dweud ‘fyddwch chi’n bwyta? Wel, os felly, mi fyddwch chi’n coginio’.” Mae llawer o bobl yn teimlo nad oes ganddyn nhw afael ar y sgiliau sylfaenol, meddai. “Mae pobl yn teimlo’n swil yn coginio pan fydd pobl eraill o gwmpas, ond unwaith i chi ddod dros hynny, bydd pobl yn ymlacio, yn dysgu ac yn mwynhau eu hunain.”

I gael gwybod rhagor…

Canolfan Bwyd Cymreig Bodnant bodnant-welshfood.co.uk

Ysgol Goginio Gwinllan Llanerch llanerch-vineyard.co.uk

The Chef’s Room thechefsroom.co.uk

Rhifyn 8, 2015

Ansawdd Cymru

36


llyw.cymru/twristiaeth


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.