Ymlaen Capel Seion

Page 1

Ymlaen Capel Seion

Papur trafod. Papur trafod yw’r canlynol sydd hefyd yn sail i ymestyn syniadau a darganfod eitemau sy’n gyffredin i’w datblygu ymhellach. Gallwn, o’i ystyried, adnabod beth allwn ni ei wneud ein hunain a beth sydd angen ei ‘prynu’ gan eraill er mwyn cyrraedd ein cenhadaeth.

Capel Seion 2023
1

Prif Nod ac Amcanion.

• Gogoneddu Duw.

• Ymestyn ei Deyrnas.

Gweler ein Llawlyfr am ein cenhadaeth yn llawn.

I’w Ystyried.

Mae penderfyniadau pobl heddiw yn tueddu i fod yn fwy emosiynol, ond bydd yn rhaid i’r eglwys hefyd gystadlu â gwaith, bywyd, cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau eraill am eu sylw. Maent yn tueddu i ddefnyddio amrywiaeth o sianeli, felly amlgyfryngau neu holl gyfryngau yw'r dull gorau.

Nid yw pobl heddiw yn hoffi rhydio trwy lawer o fanylion. Yn lle hynny, maen nhw eisiau i ddeunyddiau marchnata fynd yn syth at y pwynt a chyfleu manteision y gwasanaeth sydd gennym yn glir a sut y byddant yn teimlo pan fyddant yn defnyddio’r gwasanaeth neu sut y gall ein gwasanaeth wella eu bywyd.

Mae'n annhebygol y bydd pobl yn gwario fwy na munudau i wneud penderfyniad, felly rhaid i strategaethau marchnata mwyaf effeithiol yr eglwys fod yn ddynol, dilys a deniadol.

Rhaid i ni i fod yn barod i gyflwyno'r hyn mae pobl ei eisiau ei wybod ymlaen llaw a gadael i bobl benderfynu ai ni yw'r gwasanaeth iawn iddyn nhw.

Nid yw pobl y dyddiau hyn yn chwilio am enillion hirdymor nac enillion ar fuddsoddiad, maen nhw'n byw yn y fan a'r lle a dyna le dylwn

geisio cysylltu â nhw. Rhaid i ni fod yn ysgafn ar ein traed a dal i ddadansoddi'r data ac addasu'n gyflym i anghenion y gymuned.

Gyrru’r agenda.

Er mwyn i bobl droi cefn ar yr eglwys mae'n rhaid i bobl dda gadw'n dawel.

✓ Annog mynegiant newydd o eglwys bydd yn arwain at fynegiant lluosog o eglwys.

✓ Cyflawni cenhadaeth yr eglwys dros gyfrif presenoldeb aelodau yn yr eglwys.

✓ Er i lwyfannau cymdeithasol gyrraedd pellafoedd y byd rhaid cofio mai prif nod y llwyfannau i’w cyrraedd ein cymunedau ni er mwyn ei hannog i gyfranogi i addoliad lleol.

Capel Seion 2023
2

Egwyddorion a

Chyfeiriad.

• Pwy yw ein cwsmer?

• Ble mae ein cwsmeriaid?

Rhaid ceisio creu darlun o’n targed a threfnu ein hymgyrchoedd i ddylanwadu arno/arni.

Nid yw’r patrymau arferol yn eglur bellach. Mae ‘na gymaint o newid mewn pob cyfeiriad sy’n rhy fawr a dylanwadol i’r eglwys beidio ag addasu. Newid mawr a bydd eto rhannu’r newydd da. Bydd angen y cyffyrddiad dynol mewn cyfnod o chwildro gwybodaeth ddigidol. Mae pobl yn treulio eu hamser ar eu diddordebau a’u problemau fwyaf

Yr Eglwys a Lles yr Unigolyn. Nid oes unrhyw benderfynydd unigol ar gyfer lles yr unigolyn. Mae llesiant yn dibynnu ar nifer o bethau megis iechyd corfforol cydnerth, meddyliol ac ysbrydol da, perthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol, ac argaeledd a mynediad at adnoddau sylfaenol (e.e., lloches, incwm).

Enghreifftiau o hyn:

• Gwneud y pethau bychain.

• Datblygu rhwydwaith eang.

• Tynnu’r ‘ymylon’ i mewn i’r canol.

• Helpu pobl trwy roi atebion iddynt.

• Adnabod bod pobl am beth maen nhw eisiau.

• Adnabod bod eisiau pobl yn llawer cryfach na’i hangen.

• Helpu pobl sydd eisiau i'w problem fwyaf gael ei ddatrys.

• Trwy’r cyfryngau bydd pobl yn dewis beth maent am glywed a phryd maent am ei glywed.

• Yr eglwys yn cyfrannu i gofnod cyrhaeddiad y disgybl.

• Gwirfoddoli, ysgrifennu cyfansoddi ac ati.

Capel Seion 2023
3
Gadewch y gorffennol toredig, diwrthdroi yn nwylo Duw, a chamwch allan i'r dyfodol anorchfygol gydag Ef.

Gweithgareddau

Cyffredinol.

Bydd angen canolbwyntio ar beth sy’n dylanwadu ar ein targed. Sylweddolwn mai Iechyd, problemau ariannol a pherthnasedd yw’r elfennau mwyaf pwysig i bobl.

Dulliau o gyfathrebu a chyrraedd. Ymestyn syniadau sydd isod heb fod mewn unrhyw drefn o flaenoriaeth.\

• Penillion.

• Tystiolaethau.

• Siarad ar y ffôn â phobl.

• Datganiad o ffydd a thystiolaeth.

• Dadansoddi’r soaps. ( maent yn trafod beth sy’n bwysig i bobl )

• Bandiau i gyfansoddi a pherfformio ar-lein neu’n fyw.

• Darllen stori o Feibl y Plant. Aelodau neu hyn aelodau?

• Pobl yn danfon ei stori nhw neu’n anhysbys

• Tips ar sut mae byw. Ee gwres, oerfel, iechyd, anifeiliaid anwes ac ati.

• Adolygiad o Lyfrau.

• Podlediadau. Maes dylanwadol o’i ddefnyddio yn ofalus a chyson.

Calendr

• Dyddiadau a gweithgareddau wedi eu cynllunio ymlaen llaw.

• Rhaglen gynhwysfawr i’r flwyddyn.

Cydweithio

• Colegau a Phrifysgolion.

• Cyrsiau arweinwyr gyda Choleg yr Annibynwyr.

• Gweithwyr ieuenctid yn y dyfodol.

• Cydweithio gyda S4C a’r BBC ar gyfer raglenni.

Arbennigedd

• Darparu beth allwn a ‘phrynu’ beth na allwn.

• Darlithiau ar ffurf TED ar sianel arbennig sydd hefyd yn ffynhonnell erthyglau nodwedd.

• Pobl ifainc i arwain ar hawliau merched, hiliaeth, trans, rhywogaeth ac ati

• Elusennau cyffredinol ac ar gyfer pobl ifanc.

Adroddiadau arbennig. Erthyglau nodwedd.

• Priodasau ffyniannus

• Llaw yn llaw. Plant, Ieuenctid ac ati

• Cwrs Alpha

• Iechyd meddwl

• Magu plant

Cyhoeddiadau

Patrwm newydd o gyhoeddi sy’n delio a phethau sy’n effeithio pobl. Dim o hyd o safbwynt yr eglwys a digwyddiadau’r eglwys.

4

Parhad

Adnoddau

• Cymorth Cyntaf

• AED

• Stretcher

• Lŵp clywed

• Offer ffrydio.

• Offer recordio

Skilliau

• Addysg, hyfforddiant.

• Cymorth Cyntaf

• Cwnsela

• Defnyddio teleprompter.

• Cyfweld a chyflwyno.

• Gwneud podlediad.

• Cyfathrebu

• Graffeg

• Llwyfannau cymdeithasol

Hyfforddi

• Cyrsiau hyfforddi ar lein

• Llyfrau digidol

• Dosbarth Meistr.

• Adran Aelodau i gynnal y safle ar ôl 5 mlynedd.

• Linc ag ysgolion. Agor y Beibl a ciriciwlwm ysgolion uwchradd.

• Instagram a chyfeiriad i safle CS ar eitemau nodwedd. E.e Magu plant.

Holiaduron

• Holiaduron a pop-ups ar lwyfannau cymdeithasol a chwis ynddo.

• Defnyddio arolygon i ddod o hyd i’r deunydd sydd angen datblygu.

• Angen Holi ynghylch y canlynol.

• Cerddoriaeth gyfoes

• Ymateb i ffrydio byw.

• Ymateb i’r wefan a’r llwyfannau.

• Bywyd yn gyffredinol.

Gweithlu

• Gweinidog

• Athrawon Ysgol Sul

• Gweithiwr Ieuenctid

• Adran digidol.

• Prentis / Arweinydd

• Gweithiwr cymuned.

Marchnata

• Cael dylanadwr /influencer i helpu.

• Cydweithio gyda S4C ar gyfer cydweithio ar hyrwyddo neu gydredeg cynyrchiadau.

• Slogan i’r plant a phobl ifanc.

• Danfon cais allan ar Instagram cyn y Cwrdd plant.

• Copïau caled o Pethau.

• Heno.

Sefyllfa Ariannol.

• Dyw 170 x £110 heblaw cyfraniadau eraill ddim yn gynaliadwy. Gyda cholled o 6 aelod y flwyddyn, ymhen 6 mlynedd ( 135 o aelodau) ni fydd yr eglwys fel rydym yn ei hadnabod yn gynaliadwy.

• I’r eglwys fyny bydd angen gweithlu newydd ( gweler isod )

• Cais i’r Undeb

• Cronfa i annog tanysgrifio?

• Cardiau ar gyfer y cyhoedd.

• Costau meddalwedd 3k y flwyddyn.

Syniadau Ariannol

• Cyrsiau cyffredinol.

• Masterclass. Nawdd ar gyfer y siaradwr.

• Partneriaid ar gyfer podlediadau.

• Cronfa wrth gefn: Awgrymu’n gryf i leihau dibyniaeth arno.

Capel Seion 2023 5

Gweithgaredd.

M

ae bywyd yn anhygoel o gymhleth ac mae angen i ni ddarparu'r atebion orau bosibl a pherthnasol i'r rhai sy'n cael eu magu ynddo.

Ystyriwch

• Casglu gwybodaeth o anghenion yr ifanc.

• Cydweithio a chiriciwlwm yr ysgolion lleol.

• Diwrnod(au) ymwybyddiaeth - Dyddiau arbennig , e.e.. hiliaeth, hawliau merched, ysmygu ac ati.

• Stondin gwybodaeth, llyfrynnau ac ati

• Newyddiadurwr Cristnogol ifanc.

• Erthyglau nodwedd.

• Danfon ceisiadau ar gyfer can neu emyn. e.e.

Creu prosiect cerddorol Cristnogol fel rhan o gystadleuaeth. e.e.. Hysbysebu ar Heno ein bod yn cynnig gwobr o £200 i’r gan Gristnogol sy’n fuddugol.

Gall fod yn gan fodern gan unigolyn neu grŵp ar thema amlwg o’r Beibl. Bydd modd hefyd i’r ymgeiswyr wneud fideo ohonynt yn ei ganu.

Mae modd gennym i gynhyrchu’r gwaith buddugol a’i hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

6

Y Wefan

Tudalen yr Hafan ar y wefan yw’r dudalen mwyaf poblogaidd.

• Caru Duw a charu gwneud daioni.

• Grymuso cymunedau Cristnogol ... i adnabod, atal ac ymateb i gamdriniaeth.

• ‘Gallwn ni wneud gwahaniaeth’

• Byw trwy ffydd byddwch yn cael eich adnabod trwy gariad a byddwch yn llais gobaith

• Y lle perffaith

• Ble bynnag mae'r afon yn mynd mae'n dod â bywyd

• Beth all Duw ei wneud trwoch chi

• Mae popeth yn symud yn groes i daliadau arlein

• Prentisiaid,

Cyfryngau a Llwyfannau Cymdeithasol.

Y Wefan, Blogiau, Podlediadau Instagram a Facebook.

Hyrwyddo a chreu pherthynas.

Ailfeddwl ‘media’ i’r eglwys.

• Facebook

• Instagram: Rhywbeth i bob un. Postio’n gyson.

• Podlediadau: Rhywbeth i bob un. Postio’n gyson.

• Tic toc: ar gyfer milflwyddwyr, Cenhedlaeth X

• YouTube neu Vimeo.

• Pinterest ar gyfer gweithgareddau gweledol.

Cynnwys

• Cyfweliadau

• Cyfresi o storïau

• Newyddion a newyddiaduraeth dinasyddol.

• Erthyglau nodwedd.

• Awdio. Drama wedi sgriptio, caneuon emynau.

• Adolygiad o lyfrau, rhaglenni teledu ac ati

• Gwahoddedigion. Pobl i siarad ar ein cyfryngau a chyfrannu i bodlediadau a blogiau ac ati.

• Mae podlediad unwaith yr wythnos/ mis yn ei wneud yn rhan o batrwm bywyd pobl.

• Addysg a hyfforddiant.

• VR. Math sy’n cyffrouia dysgu.

Beth sydd angen: Buddsoddi mewn camerâu ac offer yn y capel neu ar gyfer podlediadau a fideos.

Capel Seion 2023 7
“Bydd angen i’r eglwys fod yn weinidogaeth ddigidol mewn cymuned ddigidol ac yn genhadol ddychmygus ar sawl lefel”

Digon o waith digidol i gyflogi neu brynu gwasanaeth rhywun am ddiwrnod. Cwnsela Cristnogol.

• Lincio gyda phobl a nifer fawr o gysylltiadau ar Facebook, Instagram ac ati. e.e. enwau poblogaidd .

• Angen enwau ar gyfer podlediadau. Cyfweliadau am ei bywyd ysbrydol ac ati

• Cydweithio â ‘dylanwadwyr Cristnogol’.

• Symud yr eglwys yn agosach at y gymuned ac anghenion y gymuned.

• Prif feysydd yw: Iechyd, sefyllfa ariannol a pherthnasedd.

• Ysgol Sul sydd hefyd yn cyflwyno gwersi cymorth cyntaf, yr amgylchfyd ac ati.

• Pobl ifanc - mae angen brand sy’n berthnasol. Cynaladwyedd, rhywioldeb, perthynas ac ati.

• Help ar gyfer mamau ifanc Sut mae delio a phroblemau bob dydd ynghylch arian priodas a phlant.

• Ymddygiadau anodd, iechyd meddwl ac ati.

Cyhoeddi.

• Dod a rhywbeth sy’n atgoffa chi o Iesu

• Llaw yn llaw ar gyfer plant ac ati

• Blogiau

• Podlediadau

• Cylchgrawn

• Llyfrau

Cwestiynnau

• Beth am wefan yr Ysgol Sul a’r Porth.

• Cwestiynau ar Instagram yn seiliedig ar y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

• Cyfeiriad newydd i’r wefan.

• Ydym ni’n hyrwyddo’r Porth?

• Ble nesaf gyda’r cais Y Porth. Ail wampio i gynnig dyfodol electronig?

• Os cyfeiriad newydd, ydym ni’n gwneud cais arall i’r Undeb?

Nid yw’r rhestrau o syniadau a gyflwynwyd yma yn gyflawn o bell ffordd. Syniadau yn unig ydynt er mwyn ysgogi trafodaeth.

Capel Seion 2023 8
Datblygu ar gyfer y dyfodol Wayne

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.