2015 WALES DANCE PLATFORM – 26, 27 & 28 June 2015 CALL FOR SUBMISSIONS In 2015, Creu Cymru will lead a group of organisations to present the third Wales Dance Platform: three days of performances, films/videos, exhibitions and installations. The Platform is an open event: all professional work submitted that meets the criteria will be included. A priority for 2015 will be to provide a springboard for artists in advance of the networking opportunities that will be offered by British Dance Edition, which comes to Wales in March 2016. Wales Dance Platform’s aim is to present Wales-relevant, independent professional dance artists, to raise the profile of the artform with the public, strengthen relationships between artists and presenters, and enhance critical debate. The 2014 Platform presented 30 Wales-relevant choreographers in a programme of 40 events, including performance, film, exhibitions, seminars, meetings and talks. With over 75 performers and artistic collaborators, the Platform drew over 1,500 people to see the work, and created many new contacts and professional links. Creu Cymru is the producer of Wales Dance Platform, working closely with the following organisations: Chapter, The Riverfront, Wales Millennium Centre Dance Buddy venues across Wales, through Creu Cymru’s Wales Dance Consortium Coreo Cymru Dates and venues Friday 26 June Saturday 27 June Sunday 28 June
Wales Millennium Centre: Studio 3 and Glanfa (foyer) TBC Chapter: Theatre, Stiwdio, Cinema and Bar The Riverfront: all spaces, including Main Stage, Studio, Basement and Foyer
Conditions of the Platform The Platform is for independent, Wales-relevant professional choreographers, performers & artists Dance-artists who reside outside of Wales are welcome to apply as long as they can demonstrate an artistic professional relationship to Wales All work that meets the Platform conditions will be included Any dance media will be considered: performance, film, talk, installation, improvisation, exhibition, photography or other intervention as defined by the dance-artist or choreographer Work can be ‘try-out’, ‘finished’ or ‘work-in-progress’, but it should not have been extensively toured within the previous 12 months Each event will be programmed in accordance with artistic sensibility, choreographers’ wishes and technical requests. We cannot guarantee any particular placement, but please inform us of relevant issues that are important to you Ten to fifteen minutes for each artist is normal 100% of the box-office takings will be divided between the submitting artists Creative artists, collaborators and performers will receive a free pass for all Platform performances Given the high demand for performance slots, there will be limited time for setting-up each event, but the Platform will seek to offer the maximum technical time possible in the circumstances Performers and collaborators must be available for the day before and day of performance If you are based in Cardiff or Newport, please let us know if you are able to accommodate a visiting fellow artist during the Platform A number of travel bursaries will be available for artists who live outside of Cardiff and Newport
To register, please email yvonne@creucymru.com to receive an online Platform submission form Deadline for receipt of final submissions (not simply expressions of interest): noon, Mon 23 February 2015 WDP 2015 gratefully acknowledges the support of Arts Council of Wales [For information about British Dance Edition, 17-20 March 2016, contact Coreo Cymru, www.coreocymru.com]
2015 LLWYFAN DAWNS CYMRU – 26, 27 a 28 Mehefin 2015 GALW AM GYFLWYNIADAU Yn 2015, bydd Creu Cymru yn arwain grŵp o sefydliadau i gyflwyno trydydd Llwyfan Dawns Cymru: tridiau o berfformiadau, ffilmiau/fideos, arddangosfeydd a gosodweithiau. Digwyddiad agored yw’r Llwyfan: bydd yr holl waith proffesiynol a gyflwynir sy’n cwrdd â’r meini prawf yn cael ei gynnwys. Blaenoriaeth ar gyfer 2015 fydd darparu man cychwyn ar gyfer artistiaid cyn y cyfleoedd rhwydweithio a fydd yn cael eu cynnig gan British Dance Edition a ddaw i Gymru ym mis Mawrth 2016. Nod Llwyfan Dawns Cymru yw cyflwyno artistiaid dawns proffesiynol ac annibynnol sy’n berthnasol i Gymru, codi proffil y ffurf hon ar gelfyddyd gyda’r cyhoedd, cryfhau’r berthynas rhwng artistiaid a chyflwynwyr a gwella trafodaeth feirniadol. Bu Llwyfan 2014 yn cyflwyno 30 o goreograffwyr perthnasol i Gymru mewn rhaglen oedd yn cynnwys 40 o ddigwyddiadau, yn eu plith, perfformiadau, ffilmiau, arddangosfeydd, seminarau, cyfarfodydd a sgyrsiau. Gyda thros 75 o berfformwyr a chydweithwyr artistig, denodd y Llwyfan dros 1,500 o bobl i weld y gwaith gan greu llawer o gysylltiadau newydd gan gynnwys rhai proffesiynol. Cynhyrchydd Llwyfan Dawns Cymru yw Creu Cymru, sy’n cydweithio’n agos â’r sefydliadau canlynol: Chapter, Glan yr Afon, Canolfan Mileniwm Cymru Canolfannau Bydis Dawns ar draws Cymru, drwy Gonsortiwm Dawns Cymru Creu Cymru Coreo Cymru Dyddiadau a chanolfannau Dydd Gwener 26 Mehefin Canolfan Mileniwm Cymru: Stiwdio 3 a’r Lanfa (y cyntedd) i’w gadarnhau Dydd Sadwrn 27 Mehefin Chapter: Theatr, Stiwdio, Sinema a Bar Dydd Sul 28 Mehefin Glan yr Afon: yr holl ofodau, gan gynnwys y Prif Lwyfan, Stiwdio, Llawr Isaf a’r Cyntedd Amodau’r Llwyfan Mae’r Llwyfan ar gyfer coreograffwyr, perfformwyr ac artistiaid proffesiynol ac annibynnol sy’n berthnasol i Gymru Mae croeso i artistiaid dawns sy’n byw y tu allan i Gymru wneud cais cyhyd ag y gallant ddangos perthynas broffesiynol artistig â Chymru Cynhwysir yr holl waith sy’n cyflawni amodau’r Llwyfan Ystyrir unrhyw gyfryngau dawns: perfformio, ffilm, sgyrsiau, gosodwaith, perfformiad byrfyfyr, arddangosfa, ffotograffiaeth neu ymyriad arall fel a ddiffinnir gan yr artist dawns neu’r coreograffydd Gall gwaith fod yn ‘gynnig arni’, yn ‘orffenedig’ neu’n ‘waith ar y gweill’, ond ni ddylai fod wedi bod ar daith yn helaeth yn ystod y 12 mis blaenorol Bydd pob digwyddiad yn cael ei raglennu yn unol â theimladau’r artist, dymuniadau’r coreograffydd a gofynion technegol. Ni allwn warantu unrhyw leoliad penodol, ond rhowch wybod i ni am unrhyw faterion perthnasol sy’n bwysig i chi Deg i bymtheng munud sy’n arferol i bob artist Rhennir 100% o enillion y swyddfa docynnau rhwng yr artistiaid sy’n cyflwyno Bydd artistiaid creadigol, cydweithwyr a pherfformwyr yn derbyn tocyn am ddim i holl berfformiadau’r Llwyfan O ystyried y galw mawr am slotiau perfformio, dim ond hyn a hyn o amser fydd ar gael i osod pob digwyddiad, ond bydd y Llwyfan yn ceisio cynnig yr amser technegol hiraf posibl o dan yr amgylchiadau Rhaid i berfformwyr a chydweithwyr fod ar gael diwrnod cyn y perfformiad ynghyd â diwrnod y perfformiad ei hun Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd, rhowch wybod i ni os gallwch gynnig llety i gyd-artist sy’n cymryd rhan yn y Llwyfan Bydd nifer o fwrsarïau teithio ar gael i artistiaid sy’n byw y tu allan i Gaerdydd a Chasnewydd
I gofrestru, e-bostiwch yvonne@creucymru.com i gael ffurflen gyflwyno’r Llwyfan ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau terfynol yw canol dydd ddydd Llun 23 Chwefror 2015 Mae Llwyfan Dawns Cymru 2015 yn cydnabod cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gyda diolch [Am wybodaeth am British Dance Edition, 17-20 Mawrth 2016, cysylltwch â Coreo Cymru, www.coreocymru.com]