01656 815322 | business@bridgend.gov.uk Uned Datblygu Economaidd
business.bridgend.gov.uk
Rhoi sylw i ragoriaeth...
Datgelu enillwyr rhagoriaeth busnes mewn seremoni wobrwyo! Cafodd arweinwyr disglair cymuned busnes Pen-y-bont ar Ogwr eu dathlu yn seremoni a chinio Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016 yn ddiweddar. Daeth bron i 180 o bobl fusnes at ei gilydd yng Ngwesty Coedy-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod pwy oedd yr enillwyr hollbwysig yn y bedwaredd seremoni gwobrau busnes blynyddol a gefnogwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr a ROCKWOOL. Dyma enillwyr bob categori: • ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn’ – Christopher Lloyd, Whatchrisdoes • ‘Busnes Newydd y Flwyddyn’ – The Food Shed CIC • ‘Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn’ – Smart Education Wales Ltd • ‘Entrepreneur y Flwyddyn’ – Jay Ball, Datakom Ltd • ‘Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn’ – Customised Sheet Metal Ltd • ‘Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn’ – Gwesty Coed-y-Mwstwr • ‘Busnes Arloesol y Flwyddyn’ – Spectrum Technologies Plc • ‘Gwobr Diwydiannau Creadigol’ – Wales Interactive Ltd Enillydd y teitl anrhydeddus ‘Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2016’ oedd The Food Shed. Meddai Warren Dudding, Cyfarwyddwr Marchnata ROCKWOOL, prif noddwr y gwobrau eleni: “Roeddem ni yn ROCKWOOL wrth ein boddau yn noddi Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016. Cawsom y fraint o gyflwyno Gwobr Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn i The Food Shed, menter ragorol sy’n cynnig gwasanaeth dosbarthu prydau ar hyd a lled Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Yn ogystal â cheisio cefnogi byw yn iach a byw’n annibynnol, mae hefyd wedi datblygu partneriaeth â Charchar Arolygiaeth Ei Mawrhydi Parc i ddarparu hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith i garcharwyr i’w helpu i gael cyfleoedd cyflogaeth ar ôl cael eu rhyddhau. Maent yn enghraifft wych o sut y gall busnes gyflawni gwerth cymdeithasol, a dymunwn bob llwyddiant i’r fenter wrth iddynt dyfu.’ Meddai Roxane Dacey, Rheolwr Gyfarwyddwr The Food Shed CIC: “Roedd ennill ‘Busnes Newydd y Flwyddyn’ a ‘Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2016’ yn brofiad swrrealaidd ac emosiynol, ond yn anad dim, yn gwbl ragorol! Rydym mor falch o’r hyn yr ydym ni wedi’i gyflawni hyd yn hyn a bydd y wobr hon yn cyfrannu at wella ein gwasanaeth, ein cynaliadwyedd a’n datblygiad yn y dyfodol. “Roedd hi’n noson wych ac yn gyfle arbennig i ni ddiolch i’n staff am roi’r fath wasanaeth; sef gwasanaeth pwysig i oedolion hŷn ac agored i niwed wedi’i ddarparu gan dîm gofalgar a thosturiol. “Diolch i bawb sy’n aelod o dîm gegin ‘The Shed’ yng Ngharchar Parc (G4S) am fod yn bartneriaid mor wych, ymrwymedig sy’n gweithio mor ddiwyd i gynhyrchu ein prydau blasus o safon.” Cyflwynwyd gwobr newydd eleni; ‘Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr 2016’. Cyflwynwyd y wobr i Spectrum Technologies
2
Uned Datblygu Economaidd
Plc gan Noddwr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, Carwyn Jones AC. Meddai Carwyn: “Dyma noson wobrwyo hynod lwyddiannus arall a hoffwn innau longyfarch yr holl enillwyr. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw busnesau, yn gyflogwyr ac yn rhoi hwb i’r economi leol hefyd. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i ddathlu ein busnesau lleol llwyddiannus a chydnabod eu buddsoddiad parhaus yn y bobl a’r economi leol. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cyflwyno Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr gyntaf erioed.” Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Mel Nott, OBE: “Gallaf ddweud heb flewyn ar dafod ei bod yn fraint o’r mwyaf i ni yn y fwrdeistref sirol hon fod yn gartref i gynifer o fusnesau rhagorol. “Mae’r gwobrau hyn wedi amlygu sefydliadau byd-eang mawr hir sefydledig â hanes o lwyddiant megis Spectrum Technologies Plc, yn ogystal â busnesau iau, dynamig fel The Food Shed CIC, sy’n dechrau yn ar eu taith fel busnes newydd ac sydd eisoes yn cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol. “Mae’r cyngor yn ymrwymedig i feithrin menter yn y fwrdeistref sirol ac rwy’n falch ein bod yn gallu chwarae ein rhan, trwy’r cymorth sylweddol yr ydym yn ei roi i alluogi gwaith gwerthfawr Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr i barhau.” Meddai Ian Jessopp, Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Efallai ei bod yn swnio’n cliché, ond unwaith eto, mae ansawdd a safon pawb a gymerodd ran yng ngwobrau eleni, nid dim ond yr enillwyr, wedi creu argraff fawr arnom. Mae rhagoriaeth yn parhau i fod wrth galon y gwobrau hyn, gan ddatgelu perlau cudd yn ein cymuned busnes, yn codi mentrau uwchlaw eu cystadleuwyr ac yn profi eu bod yn haeddu pob cydnabyddiaeth. “Y busnesau hyn yw asgwrn cefn ein heconomi, sy’n cynnig buddsoddiad, cyfleoedd gwaith a refeniw y mae eu dirfawr angen i’r economi leol. Hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus i bob un ohonynt yn y dyfodol.” Sian Lloyd, gohebydd newyddion y BBC oedd llywydd y seremoni a noddwyd gan ROCKWOOL, Berry Smith Lawyers, Coleg Penybont, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Business in Focus, EEF The Manufacturer’s Organisation, Cyllid Cymru, Graham Paul Chartered Accountants, Handelsbanken, kksolutions, United Graphic Design ac SME Finance Partners. Cafwyd casgliad elusennol at elw Apêl Elusennol y Maer 2016/17, a chodwyd cyfanswm o £780 ar gyfer elusennau enwebedig eleni, sef: Ysgol Haf Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr, Sefydliad Aren Cymru, Ysbyty Tywysoges Cymru a Gofal Croesffyrdd, Pen-y-bont ar Ogwr. I gael rhagor o wybodaeth am y fforwm ac i weld y lluniau a’r fideos swyddogol o noson Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2016, ewch i: www.facebook.com/bridgendbusinessforum neu dilynwch ni ar Twitter @bridgendforum.
Busnes Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn 2016 a Busnes Newydd y Flwyddyn The Food Shed CIC Ddaeth yn agos: Sadie & Frank’s Day Nursery Ltd, Strut Your Paws. The Food Shed CIC with Sian Lloyd and Warren Dudding, ROCKWOOL Ltd
Myfyriwr Busnes y Flwyddyn Christopher Lloyd, Whatchrisdoes “Mae’n anrhydedd go iawn i ennill ‘Myfyriwr Busnes y Flwyddyn Pen-y-bont ar Ogwr’. Es i i’r Brifysgol i astudio ffilm, i loywi’r sgiliau yr oeddwn wedi dysgu fy hunan dros y blynyddoedd, fel na fyddem yn rhoi unrhyw esgusodion i fy hun am beidio â gwneud rhywbeth. Rwy’n ennill arian drwy rywbeth yr wyf wrth fy modd yn ei wneud ac mae’r wobr hon yn ardystiad enfawr fy mod ar y trywydd cywir. Mae’n wobr y byddaf yn falch o’i rhoi ar fy CV. Diolch o galon i Ruth Rowe, Clare Pompa ac Ian Mallett o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Hoffwn ddiolch hefyd i Busnes mewn Ffocws am noddi’r wobr.” Chris Lloyd @whatchrisdoes Sian Lloyd, Christopher Lloyd, Whatchrisdoes, Ruth Rowe, Katy Chamberlain
Busnes Gwasanaeth y Flwyddyn Smart Education Wales Ltd “Rydym wrth ein boddau, wedi ein cyffroi’n lân ac yn falch ofnadwy o fod wedi ennill ‘Gwasanaeth Busnes y Flwyddyn 2016’. Roedd cyrraedd y rhestr fer yn anrhydedd, ond mae ennill y wobr yn fraint wirioneddol. Mae ymroddiad a theyrngarwch staff a disgyblion y ganolfan ddysgu heb ei ail ac mae’n wych bod hyn wedi’i gydnabod a’i ganmol drwy’r wobr eithriadol hon! “Diolch o galon i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr am noson anhygoel, lewyrchus, lwydiannus ac, wrth gwrs, am roi’r wobr i Smart Education!” Victoria Williams, Smart Education Wales Ltd Ddaeth yn agos: Scott Waste Ltd, Datakom Ltd. Sian Lloyd, Victoria Williams, Smart Education Wales Ltd and Mark Standley, Handelsbanken
Uned Datblygu Economaidd
3
Entrepreneur y Flwyddyn Jay Ball, Datakom Ltd “Rwyf ar ben fy nigon ar ôl ennill y wobr ‘Entrepreneur y Flwyddyn’. Roedd yn rhyfeddol cyrraedd y rhestr fer y llynedd ac mae llwyddo i ennill y wobr eleni yn anhygoel. Mae’r gydnabyddiaeth yr wyf wedi’i chael trwy ein cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn wallgof ac yn annisgwyl. Rwyf bob amser yn ymdrechu i fod y gorau ac i helpu i ddatblygu eraill - mae’n anrhydedd ennill gwobr o’r fath. Roedd yn noson wych a chefais lawer o hwyl!” Jay Ball, Datakom Ltd Ddaeth yn agos: Forsee Group, Scott Waste Ltd.
Sian Lloyd, Jay Ball, Datakom Ltd, Leanna Davies, Finance Wales Plc
Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn Customised Sheet Metal Ltd “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr ‘Busnes Gweithgynhyrchu’r Flwyddyn’ am yr ail flwyddyn yn olynol. Nid oeddem ni’n disgwyl y wobr, ond rydym yn ddiolchgar iawn o’i chael. Rydym yn ei hystyried yn gydnabyddiaeth o’n hymrwymiad fel cyflogwr cymwys gydag enw da ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae CSM yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio’n galed ac yn buddsoddi’n barhaus er mwyn bod yn gyflogwr proffidiol a buddiol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd, wedi’u hategu gan ddatrysiadau sy’n unigryw i ofynion cwsmeriaid. Rydym hefyd yn falch o fod yn rhan o’r gwobrau pwysig hyn.” Malcolm Pearce, Customised Sheet Metal Ltd Ddaeth yn agos: Ecokeg Europe Sian Lloyd, Malcolm Pearce, Customised Sheet Metal Ltd and Alison Hoy, Berry Smith Lawyers
Busnes Twristiaeth Pen-y-bont ar Ogwr y Flwyddyn Gwesty Coed-y-Mwstwr “Mae ennill y wobr hon wedi golygu cymaint i bob un ohonom ni. Roedd yn hwb go iawn i’r tîm! Rydym ni wedi cynnal y digwyddiad yma ers pedair blynedd, ac roeddem ni wrth ein boddau ac yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth am ein brwdfrydedd, ein hymrwymiad a’n hymroddiad i bopeth yr ydym yn ei wneud. Hoffwn ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a’r holl noddwyr am gynnal digwyddiad mor rhyfeddol, ac am gydnabod rhai busnesau gwirioneddol ragorol sy’n gwneud pethau rhagorol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r gwobrau hyn nid yn unig yn rhoi hwb, ond maent hefyd yn ein hatgoffa o’r hyn sydd ar gael ar ein stepen drws ein hunain. Trwy godi proffil cwmnïau, maent yn codi proffil y bwrdeistref sirol.” Melanie Hancock, Rheolwr Cyffredinol, Gwesty Coed-Y-Mwstwr Ddaeth yn agos: Best Western Heronston Hotel, Parc Slip Nature Reserve and Visitor Centre The Coed-y-Mwstwr Hotel with Council leader, Councillor Mel Nott, OBE
4
Uned Datblygu Economaidd
Busnes Arloesol y Flwyddyn Spectrum Technologies Plc “Rydym wrth ein boddau o fod wedi ennill y ddwy wobr hyn gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Spectrum wedi bod yn gwmni technoleg laser diwydiannol blaenllaw ers ei sefydlu ym 1989, gan ddarparu datrysiadau gweithgynhyrchu modern i’r diwydiant awyrofod rhyngwladol a’r diwydiant electronig. Nod ein datblygiadau diweddar yw cyflwyno technoleg laser newydd i’r sector modurol ar gyfer cynhyrchu injans trydanol mewn cerbydau. Rydym wedi ennill dwy archeb proffil uchel ar gyfer y rhain gan Volkswagen, i’w defnyddio i gynhyrchu eu cerbydau hybrid Audi A3 e-tron a Golf GTE, ac mae’n bleser mawr i weld ein hymdrechion yn y maes hwn yn cael eu cydnabod gyda ‘Gwobr Busnes Arloesol y Flwyddyn’.” Dr Peter Dickinson, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Spectrum Technologies Plc Sian Lloyd, Spectrum Technologies Plc, Paul Byard, EEF Wales
Ddaeth yn agos: ISA Training, The Food Shed CIC
Gwobr Diwydiannau Creadigol Wales Interactive Ltd “Rydym yn hynod falch o ennill ‘Gwobr y Diwydiannau Creadigol 2016’ Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Mae bob amser yn fraint i gael enwebiad am unrhyw wobr, ond mae’n fwy arbennig fyth pan ddaw’r enwebiad hwnnw o’ch cymuned fusnes leol. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau’r fforwm ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf ac mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i ni. Byddwn yn bendant yn annog mwy o fusnesau Pen-y-bont ar Ogwr i gymryd rhan yn y gwobrau. Mae’n ddigwyddiad gwych i entrepreneuriaid lleol ac yn noson lawn hwyl!” David Banner, Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive Ltd Ddaeth yn agos: Daydream Education Ltd, Customised Sheet Metal Ltd
Sian Lloyd, David Banner, Wales Interactive Ltd with Robert Evans, Bridgend College
Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr Spectrum Technologies Plc “Rydym hefyd yn falch eithriadol o fod y rhai cyntaf i ennill ‘Gwobr Cymeradwyaeth y Noddwr’, sy’n dangos ein cyfraniad yn yr ardal leol dros amser. Rydym wedi bod ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers y dechrau’n deg ac wedi gallu adeiladu tîm rhagorol o weithwyr yn ogystal â datblygu cadwyn gyflenwi leol gref dros y blynyddoedd. Mae’r ddau beth hwn gyda’i gilydd wedi bod yn fodd i’n helpu ni i ddatblygu ein busnes, a hynny mewn amserau anodd ac amserau da. Rydym yn arbennig o falch o’n cyflawniadau allforio, fel y nodwyd gan y Prif Weinidog. Mae mwy na 95 y cant o’r gwerthiannau yn cael eu hallforio ar sail barhaus, ac mae hyn wedi’i gydnabod gan nifer o Wobrau Allforio y Frenhines.” Sian Lloyd, with Patron’s Commendation Award 2016 winners, Spectrum Technologies Plc and Carwyn Jones, AM
Dr Peter Dickinson, Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Spectrum Technologies Plc
Uned Datblygu Economaidd
5