01656 815322 | business@bridgend.gov.uk Uned Datblygu Economaidd
Eich cyfle i ddisgleirio...
business.bridgend.gov.uk
gwanwyn 2014
Hwb calonogol i swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr Tudalen 2
Tudalen 5
500 penigamp y Fforwm! Tudalen 4
Y Prif Weinidog yn ymweld 창 llwyddiannau LIF ym Mhen-y-bont ar Ogwr Tudalen 7
Buddsoddiadau’n dod â swyddi i Ben-y-bont ar Ogwr Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael hwb sylweddol o ran swyddi wrth i nifer o sefydliadau gyhoeddi buddsoddiadau mawr yn yr ardal.
Mae Guardian Global Technologies, cwmni blaenllaw ym maes cyflenwi offer systemau balistig ar gyfer y diwydiant olew a nwy, wedi cadarnhau y bydd yn creu 22 o swyddi gydag 20 o swyddi eraill yn bosib o fewn y 12 mis nesaf. Mae’r busnes wedi cael grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru i’w gynorthwyo i brynu offer a pheiriannau newydd. Mae’r grant hefyd wedi rhoi modd i’r cwmni brynu cyfarpar newydd ar gyfer ei ganolfan ymchwil a datblygu 11,000 tr sg, ei gyfleuster profi a’i storfeydd. Mae’r cwmni wedi bod yn masnachu ers dros ddeng mlynedd ac, ar ôl cael cefnogaeth ariannol breifat yn 2008, mae wedi tyfu o 18 aelod o staff i’w weithlu presennol o fwy na 90 o weithwyr yn 2014.
Mae’r buddsoddwyr yn cynnwys tri chwmni o safon fyd-eang sydd â safleoedd yn y fwrdeistref sirol; mae Canolfan Dechnoleg Sony UK, gweithgynhyrchwr systemau camera proffesiynol a systemau camera darlledu blaenllaw, yn creu 26 o swyddi newydd yn ei safle ym Mhencoed, mae Guardian Global Technologies wedi cyhoeddi y bydd yn creu 22 o swyddi yn ei safle ymchwil yn y Pîl, ac mae’r gweithgynhyrchwr cluniau a phengliniau gosod, Biomet UK, yn creu mwy na 60 o swyddi mewn estyniad gwerth £2.7 miliwn yn ei safle ar Stad Ddiwydiannol Waterton. Daw hyn â’r cyfanswm i dros 100 o swyddi newydd.
Mae Biomet UK yn ehangu ei ddewis o gynhyrchion ac yn creu mwy na 60 o swyddi newydd yn ei safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o fuddsoddiad o £2.7 miliwn gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y safle ar Stad Ddiwydiannol Waterton ei henwi’n ganolfan ragoriaeth Biomet ym maes gweithgynhyrchu mewnblaniadau cymalau’r glun yn 2009, pan fuddsoddwyd swm sylweddol er mwyn diweddaru’r offer a’r cyfleusterau.
Mae’r swyddi yn Sony UKTEC yn cael eu creu i gefnogi cynnydd yn y galw ym mhob un o feysydd y busnes, gan gynnwys ei fusnes craidd o weithgynhyrchu systemau camera a chamerâu proffesiynol a darlledu. Cyflwynodd y busnes chwe chynnyrch newydd ar linell gynhyrchu’r safle hwn ym mis Medi y llynedd.
“Mae’r cwmnïau hyn yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r economi leol. Yn ogystal â bod yn gyflogwyr mawr, maent hefyd yn meithrin sgiliau hanfodol ac yn dod â dulliau newydd, dyfeisgar o weithgynhyrchu i Ben-y-bont ar Ogwr.” Y Cynghorydd Mel Nott, OBE, Arweinydd y Cyngor Bydd y swyddi newydd yn gyfrifol am bob agwedd ar y broses weithgynhyrchu, o logisteg i gydosod a phrofi cynhyrchion a phecynnu. Bydd Sony UKTEC yn buddsoddi £120,000 i ddatblygu’r ganolfan gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddarparu mannau gwaith ychwanegol ac offer newydd i gefnogi’r technolegau 4G sy’n rhan o gyfres Xperia Z, yn ogystal â darparu hyfforddiant ychwanegol i staff presennol a staff newydd.
2
Uned Datblygu Economaidd
Cafodd y buddsoddiad hwnnw gan y busnes o UDA gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd. Caiff cynhyrchion o Ben-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys mewnblaniadau cymalau pengliniau, eu hallforio i bob cwr o’r byd. Yn sgil y buddsoddiad diweddaraf hwn mewn offer a pheiriannau ac mewn ehangu darpariaeth ystafelloedd glân, gellir cynhyrchu dewis estynedig o systemau clun/cwpan. Daw hyn ar ôl lansio system dechnegol flaengar G7 yn llwyddiannus yn 2013. Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Mel Nott, OBE: “Dyma newyddion ardderchog i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n bleser clywed bod y sefydliadau byd-eang hyn yn parhau i fuddsoddi yn yr ardal. “Mae’r cwmnïau hyn yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r economi leol. Yn ogystal â bod yn gyflogwyr mawr, maent hefyd yn meithrin sgiliau hanfodol ac yn dod â dulliau newydd, dyfeisgar o weithgynhyrchu i Ben-y-bont ar Ogwr.”
Pen-y-bont yn lleoliad delfrydol ar gyfer canolfan Ymchwil a Datblygu Mewn hwb arall i’r fwrdeistref sirol, mae’r cwmni technoleg cyllid Ideoba wedi agor canolfan ymchwil a datblygu yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed.
“Yr ail reswm yw bod gan Gymru gronfa o bobl dalentog sydd â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad yr ydym yn chwilio amdanynt. Y trydydd rheswm yw’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i ni ac sydd wedi sicrhau cyngor, cysylltiadau a chyllid grant gwerth chweil.
Cefnogir Ideoba gan yr athro o Harvard, Harry Lewis, a ddysgodd Bill Gates (Microsoft) a Mark Zuckerberg (Facebook), ac mae’n datblygu chwilotwr arbenigol ar gyfer y sector buddsoddi ariannol. Dywedodd yr Athro Lewis y bydd technolegau cloddio data a phroffilio Ideoba, i bob pwrpas, yn golygu naid enfawr yn yr hyn sy’n bosibl.
“Edrychwn ymlaen at barhau â’r berthynas fuddiol hon â Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu Ideoba a chreu mwy o swyddi yng Nghymru.
Bydd gan y chwilotwr y gallu i fapio sylfaen wybodaeth gyfan tua thri chan miliwn o weithwyr proffesiynol, yn hytrach na busnesau presennol sy’n defnyddio cronfeydd data llai a gynhyrchir â llaw.
“Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, wrth i Ideoba dyfu, rydym ni’n disgwyl creu cannoedd o swyddi yn ardal De Cymru yn ein canolfan Ymchwil a Datblygu ac mewn canolfan gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid.”
Sefydlwyd y busnes gan Andrew Auerbach, Prif Swyddog Gweithredol Ideoba, sy’n berchen ar Grŵp Auerbach ar Wall Street yn Efrog Newydd, ac Adam Price, Cyfarwyddwr Strategaeth Ideoba, a’r cyn-Aelod Seneddol. Cyfarfu’r ddau a chynllunio’r fenter tra oeddent yn astudio ym Mhrifysgol Harvard.
Cyflogir naw o bobl i ddechrau yn ystod y cyfnod ymchwilio a datblygu yn 2014-2015 a disgwylir i’r niferoedd gynyddu’n gyflym yn ystod 2015 ar ôl profion beta gyda nifer o gwsmeriaid allweddol a gweithrediadau masnachol cychwynnol. I gael mwy o wybodaeth am Ideoba ewch i: www.ideoba.com
Yr Athro Lewis, Athro Gordon McKay mewn Cyfrifadureg ym Mhrifysgol Harvard, yw Cadeirydd Bwrdd Cynghori Ideoba ac mae’n gyfranddaliwr lleiafrifol yn y cwmni hefyd. Cefnogir canolfan Ymchwil a Datblygu Ideoba yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed gan arian preifat ac mae hefyd wedi derbyn nawdd SMARTCymru gan Lywodraeth Cymru. Meddai Mr Auerbach: “Mae’r tîm sy’n cael ei sefydlu yn y ganolfan ymchwil a datblygu yn cyfuno arbenigedd o Gymru ac arbenigedd rhyngwladol er mwyn datblygu llwyfannau technoleg Ideoba. Mae “DNA” Harvard yn dal i ysgogi ein gweledigaeth o gynhyrchu offeryn nerthol er mwyn sbarduno gwybodaeth. “Mae tri phrif reswm dros ddewis lansio’r ganolfan Ymchwil a Datblygu busnes yn ne Cymru. Y cyntaf yw’r ffaith bod fy mhartner busnes a’m cydsefydlydd, Adam Price, yn Gymro. “Daeth Adam a minnau i adnabod ein gilydd yn Harvard tra oedd yn astudio ar gyfer ei radd Meistr yng nghanol ei yrfa a minnau’n fyfyriwr israddedig. Mae Adam yn angerddol dros Gymru ac wedi cynrychioli Cymru yn ardderchog yn Harvard (yn enwedig yn ystod ei anerchiad yn y seremoni raddio).
Andrew Auerbach, Prif Swyddog Gweithredol Ideoba
Uned Datblygu Economaidd
3
Mark Standley, Handelsbanken gydag Alison Hoy, Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
500 penigamp y Fforwm! Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi dathlu cychwyn ardderchog i 2014, gan gyrraedd carreg filltir bwysig arall gyda 500 o aelodau.
ar gyfer 2014 yn barod. Hefyd, lansiwyd Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf y llynedd, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae gwobrau eleni yn argoeli’n well byth!”
Meddai Mark Standley, Rheolwr Cangen Handelsbanken, wrth Sefydlwyd y 500fed aelod, Handelsbanken, yn Sweden ac sôn am eu penderfyniad diweddar i ymaelodi â Fforwm agorodd yn y DU am y tro cyntaf ym 1982. Dyfarnwyd y banc Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Roeddem wrth ein boddau mai gan Bloomberg (mis Mai 2013) yn fanc cryfaf Ewrop, ac mae ni oedd 500fed aelod y Fforwm, nifer sy’n arwydd amlwg o ganddo dros 770 o ganghennau mewn 24 o wledydd, 170 o’r lwyddiant ac ymroddiad pawb rhain yn y DU, a thros 11,000 o sy’n gysylltiedig. Fel banc a weithwyr ledled y byd. Mae’r banc yn “Roeddem wrth ein boddau mai ni cynnig gwasanaeth llawn a dull oedd 500fed aelod Fforwm Busnes grëwyd ar sail cysylltiadau agos a gwerthoedd traddodiadol, datganoledig o weithio, ac agorodd byddwn yn aelod gweithredol o’r gangen newydd ym Mharc Bocam, Pen-y-bont ar Ogwr, nifer sy’n fforwm. Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst arwydd amlwg o lwyddiant ac 2013, sy’n gyson ag ethos y cwmni o ymroddiad pawb sy’n gysylltiedig.” “Rydym ni’n cynnig dewis llawn o sefydlu presenoldeb lleol cryf. Mark Standley, Rheolwr Cangen, Handelsbanken wasanaethau bancio corfforaethol Meddai Cadeirydd Fforwm Busnes ac unigol a’n nod yw sicrhau’r cwsmeriaid bodlonaf wrth drin eu hanghenion bancio yn ein Pen-y-bont ar Ogwr, Alison Hoy: “Mae’n bleser gennym cangen ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn Handelsbanken gallwn groesawu Handelsbanken fel ein 500fed aelod. Mae’n ganolbwyntio’n llwyr ar anghenion ein cwsmeriaid gan nad oes sefydliad sydd wedi hen ennill ei blwyf ac mae ganddo enw gennym ni dargedau gwerthu mewnol nac ymgyrchoedd da iawn. Rwy’n siŵr y bydd yn cynnig cyfraniad gwerthfawr fel hyrwyddo, ac mae gennym ni awdurdod gwirioneddol i wneud aelod o’r fforwm. y rhan helaethaf o’n penderfyniadau busnes a “Â ninnau wedi dathlu ein pumed pen-blwydd yn ddiweddar, phenderfyniadau credyd yn lleol.” rwy’n falch iawn o ddweud bod y fforwm yn mynd o nerth i nerth ac yn cynyddu o ran niferoedd. Rydym wedi trefnu I gael mwy o wybodaeth am Fforwm Busnes Pen-y-bont rhaglen lawn o ddigwyddiadau busnes amrywiol a dyfeisgar ar Ogwr, ewch i : www.bridgendbusinessforum.co.uk
4
Uned Datblygu Economaidd
2014
Eich cyfle i ddisgleirio…
enillwyr gael eu cyhoeddi – a does dim angen dweud y bu dathlu mawr wedyn!” Bydd y gwobrau’n cyrraedd uchafbwynt yn y seremoni wobrwyo ddisglair a’r cinio ddydd Gwener 19 Medi 2014 yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr, Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd manylion am y gwobrau a sut i ymgeisio amdanynt ar gael yn y lansiad ac ar y wefan: www.bridgendbusinessforum.co.uk o 1 Mai 2014. Alison Hoy, Gary Lynch AMSS a Sian Lloyd.
Gwahoddir y goreuon ym myd busnes Pen-y-bont ar Ogwr i lansiad Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2014 – a fydd yn tynnu sylw at gwmnïau deinamig a blaengar yn y fwrdeistref sirol. Sian Lloyd, y newyddiadurwraig a chyflwynwraig deledu gyda’r BBC, fydd yn llywyddu’r lansiad. Fe’i cynhelir ar 1 Mai 2014 yng ngwesty pedair seren Coed-y-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 8am a 10am, a bydd mynediad am ddim.
yn agored tan 2 Gorffennaf 2014, a gellir ymgeisio amdanynt am ddim. Meddai Alison Hoy, Cadeirydd Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr: “Roedd gwobrau’r llynedd yn llwyddiant ysgubol i Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr. Cafwyd cystadlu brwd, ac fe ymgeisiodd nifer o fusnesau ardderchog am y gwobrau. Gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo ac roedd hi’n noson arbennig gydag adloniant penigamp a bwyd bendigedig. Roedd yr awyrgylch yn yr ystafell yn llawn cyffro cynyddol wrth i enwau’r
Caiff busnesau gyfle i rwydweithio dros frecwast llawn, a dysgu sut y gall eu busnes “Os ydych chi’n falch o’ch sefydliad, elwa trwy ymgeisio am y hyn yr ydych wedi’i gyflawni a’r bobl gwobrau. Nod y gwobrau yw gwobrwyo a dathlu'r nifer fawr o gwmnïau blaengar sydd yn y fwrdeistref sirol. Maent
Sylwer: Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael – gofalwch eich bod yn cadw lle mewn da bryd. Sut i gadw lle: E-bost: business@bridgend.gov.uk (Rhaid cadw lle o flaen llaw) I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Mary Pope ar 01656 815320 neu anfonwch e-bost at: mary.pope@bridgend.gov.uk Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwobrau busnes hefyd ar gael ar-lein: Dilynwch ni @Bridgendforum Hoffwch ni Ymunwch â ni
yr
a’ch cynorthwyodd i lwyddo – mae’r gwobrau hyn yn llwyfan perffaith i dynnu sylw at hyn ac i ddathlu eich llwyddiant!”
Prif noddwr
LAWYERS
Noddwr dylunio
Alison Hoy, Cadeirydd, Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur: 29 Ebrill 2014
4 Mehefin 2014
25 Mehefin 2014
Cyfryngau cymdeithasol a sut i’w defnyddio – cyflwyniad i Twitter Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, 8.30am ar gyfer 9am tan 12pm Mewn partneriaeth â Chanolfan Ansawdd Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru (SAW)
Cyfryngau cymdeithasol: WordPress i ddechreuwyr – gweithdy undydd Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, 9am ar gyfer 9.30am tan 4.30pm Mewn partneriaeth â Chanolfan Ansawdd Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru (SAW)
Brecwast busnes gwibrwydweithio Gwesty a Chlwb Hamdden Heronston, Peny-bont ar Ogwr, 7.30am ar gyfer 8am tan 10am
1 Mai 2014
12 Mehefin 2014
19 Medi 2014
Lansio Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2014 Gwesty Coed-y-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr 8am ar gyfer 8.30am tan 10am
Brecwast arbed ynni ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig – hyfforddiant rheoli ynni Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, 8.30am ar gyfer 9am tan 11.30pm Mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Garbon
Cinio a seremoni wobrwyo Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2014 Gwesty Coed-y-Mwstwr, Pen-y-bont ar Ogwr 7pm ar gyfer 7.30pm tan 11.30pm
Uned Datblygu Economaidd
5
Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates AC yn siarad yn y digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr
“Mae’r potensial gan Gyflymu Cymru i drawsnewid tirlun band eang Cymru a’n helpu gyda’n nod o hyrwyddo twf economaidd a darparu swyddi cynaliadwy. Trwy wneud Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf galluog o ran band eang, byddwn hefyd yn ei gwneud yn ddeniadol i fuddsoddiad newydd” Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Digwyddiad ‘ffeibr i frecwast’ yn gychwyn perffaith i’r diwrnod Cafodd busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfle i ddysgu mwy am fanteision sylweddol cysylltiad cyflym â’r we trwy raglen ‘Cyflymu Cymru’ mewn brecwast busnes a gyflwynwyd gan Gyflymu Cymru BT, Siambr Fasnach De Cymru a Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r fwrdeistref sirol yn un o’r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i gael manteisio ar gysylltiad band eang cyflym diolch i’r rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd i osod band eang ffeibr ledled y wlad. Mae band eang ffeibr yn cynnig amryfal fanteision i fusnesau ac unigolion ac yn cynnig gwasanaeth mwy dibynadwy sy’n lawrlwytho yn llawer cyflymach. Roedd Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, yn siarad yn y digwyddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd rhaglen Cyflymu Cymru: “Erbyn hyn rydym ni’n gweithio mewn amgylchedd byd-eang lle mae technoleg yn croesi pob ffin ddaearyddol. Rydym ni eisiau sicrhau bod Cymru ar flaen y gad a bod ein
6
Uned Datblygu Economaidd
busnesau’n cael pob cyfle i ddatblygu ac i lwyddo, yn arbennig mewn hinsawdd ariannol sy’n gynyddol anodd. “Mae’r potensial gan Gyflymu Cymru i drawsnewid tirlun band eang Cymru a’n helpu gyda’n nod o hyrwyddo twf economaidd a darparu swyddi cynaliadwy. Trwy wneud Cymru yn un o’r gwledydd mwyaf galluog o ran band eang, byddwn hefyd yn ei gwneud yn ddeniadol i fuddsoddiad newydd. Byddwn yn annog pob busnes yn ne Cymru i fynd i’r digwyddiadau hyn er mwyn deall yn well sut i fanteisio i’r eithaf ar Gyflymu Cymru.” Meddai Cyfarwyddwr Rhaglenni BT, Ed Hunt, a oedd yn siarad yn y digwyddiad: “Mae Cyflymu Cymru yn rhaglen hynod o uchelgeisiol a fydd yn rhoi Cymru ar y blaen o ran technoleg band eang. Ni ellir gorbwysleisio effaith economaidd rhaglen o’r fath, gan y bydd yn darparu amgylchedd a fydd yn caniatáu i fusnesau sefydlu a ffynnu. “Mae angen i fusnesau ddechrau meddwl sut y gallent elwa ar y dechnoleg hon, a bydd y digwyddiadau hyn yn fodd iddynt ddechrau siarad a chynllunio ar gyfer y dyfodol.”
Mae band eang ffeibr ar gael yn barod mewn rhannau o’r Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Abercynffig, Pen-y-bont, Pencoed, Pontycymer, Porthcawl a Mynydd Cynffig, a bydd y ddwy gyfnewidfa ym Maesteg a Bro Ogwr yn cael eu diweddaru cyn bo hir. Meddai Arweinydd y Cyngor Mel Nott, OBE: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi rhaglen ‘Cyflymu Cymru’ i’r carn. Mae’n newyddion gwych mai cartrefi a busnesau ym Maesteg a Bro Ogwr fydd y rhai diweddaraf i gael cysylltiad cyflym â’r we. “Rwy’n annog defnyddwyr y we ledled y fwrdeistref sirol i fynd i wefan Cyflymu Cymru i weld a oes modd iddynt gysylltu â gwasanaeth band eang ffeibr.” I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r gwirydd cod post yn www.cyflymu-cymru.com ac os nad yw band eang ffeibr ar gael ichi eto, mae modd ichi gofrestru i gael gwybod pryd y bydd ar gael.
Accelero Digital Solutions
Spectrum Technologies PLC
Y Prif Weinidog yn ymweld â llwyddiannau LIF ym Mhen-y-bont Bu’r Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, yn ymweld â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar i weld sut mae busnesau lleol yn elwa ar gefnogaeth y Gronfa Fuddsoddi Leol (LIF). Gweinyddir y gronfa gan Uned Datblygu Economaidd y cyngor ers 2009, a hyd yn hyn, mae wedi darparu dros £1.2 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau lleol. Mae’r busnesau eu hunain, yn eu tro, wedi buddsoddi bron i £2 filiwn mewn arian cyfatebol.
Espack Eurologistica SL
Buddsoddwyd mewn prosiectau offer cyfalaf, megis prynu offer a pheiriannau ac offer TGCh, datblygu gwefannau, marchnata a gwaith adeiladu mewnol ac allanol. Meddai’r Cynghorydd David Sage, Dirprwy Arweinydd CBS Pen-y-bont ar Ogwr a oedd gyda’r Prif Weinidog ar ei ymweliad diweddar: “Un o flaenoriaethau’r cyngor yw rhoi cefnogaeth ariannol a chyngor i fusnesau lleol trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae cynllun LIF yn llwyddiant gwirioneddol yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae wedi cynorthwyo i greu cyfleoedd cyflogaeth o safon dda a diogelu swyddi hanfodol.” Cynllun cymorth ariannol yw Cronfa Fuddsoddi Leol De-ddwyrain Cymru ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen. Datblygwyd y prosiect gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan y Rhaglen Gydgyfeirio.
Dyfarnwyd dros 211 o grantiau i gynorthwyo buddsoddiad cyfalaf ac i greu swyddi; cefnogwyd 142 o fusnesau presennol a 41 o fusnesau sy’n cychwyn o’r newydd trwy’r cynllun; a chrëwyd 320 o swyddi o ganlyniad uniongyrchol. Mae llawer o fusnesau yn y fwrdeistref sirol wedi cael cymorth i ddatblygu a thyfu gan gynnwys Accelero Digital Solutions, Spectrum Technologies PLC ac Espack Eurologistica SL.
Achrediad dwbl yn rhoi pen-blwydd i’w gofio i Workare
Ar ben-blwydd cyntaf ei archwiliad Gwobr Ansawdd SEQOHS, mae’r cwmni iechyd galwedigaethol, Workcare Ltd, wedi cyflawni achrediad arall – ‘Achilles Link Up.’ Mae Achilles Link Up yn golygu y gall y cwmni bellach gynnig gwasanaethau iechyd galwedigaethol, goruchwyliaeth
feddygol a sgrinio am gyffuriau ac alcohol i’r diwydiant rheilffyrdd. Mae’r dyfarniad hwn, ynghyd â SEQOHS, yn rhoi gwarant o ansawdd y gwaith. Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Lorainne Jenkins: “Mae 24 Ionawr bellach yn ddyddiad arwyddocaol yng nghalendr Workare, diolch i holl waith caled fy nhîm. Ni yw’r unig gwmni iechyd galwedigaethol yng Nghymru sydd wedi ennill y ddau achrediad. “Rhaid inni gael ein hailarchwilio bob blwyddyn ar gyfer y ddau achrediad ac felly mae’n rhaid inni gynnal ein safonau. Rydym ni’n holi ein cleientiaid yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel .
Ychwanegodd Lorraine: “Rydym ni wedi cael cefnogaeth gan Uned Datblygu Economaidd y Cyngor trwy gydol y broses ac yn ddiolchgar am gael elwa o’i harbenigedd pan oedd ei angen arnom ni.” Pan ofynnwyd iddi beth oedd nesaf ar y rhestr, dywedodd Lorainne: “Rwy’n meddwl mai ISO9001 fydd nesaf ond fydda i ddim yn aros tan fis Ionawr am hwnnw - fe fyddwn ni’n anelu amdano yn gynharach na hynny!” “Fe ddylai’r Uned Datblygu Economaidd ddisgwyl clywed gen i yn fuan iawn!” I gael mwy o wybodaeth am Workare ewch i: www.workareltd.co.uk
Uned Datblygu Economaidd
7
“Dyma’r peth agosaf at Bencampwriaeth Hŷn ar stepen fy nrws ac mae Clwb Brenhinol Porthcawl yn arbennig i mi. Dyna lle’r enllais fy nheitl cyntaf ar y Daith Ewropeaidd yn ôl ym 1982. Mae’n gwrs ardderchog, felly rwy’n hynod falch bod y Bencampwriaeth Hŷn yn cael ei chynnal yno am y tro cyntaf.” Gordon Brand Jnr
Dychwelyd i Borthcawl yn ysbrydoli Brand Jnr Mae cyn-chwaraewr Cwpan Ryder, Gordon Brand Jnr yn gobeithio y caiff ei ysbrydoli i lwyddo, yn sgil cynnal y Bencampwriaeth Golff Hŷn a noddir gan Rolex yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, 32 mlynedd wedi iddo ennill ei fuddugoliaeth gyntaf ar y Daith Ewropeaidd ar dwyni enwog Pen-ybont ar Ogwr. Llwyddodd Brand Jnr i guro darpar Rif Un y Byd ac enillwr un o’r Prif Bencampwriaethau Greg Norman i ennill y Coral Classic ym 1982, gan selio buddugoliaeth fythgofiadwy, flwyddyn i mewn i’w yrfa broffesiynol. Bydd yn dychwelyd i Borthcawl ar 24-27 Gorffennaf lle y cynhelir Pencampwriaeth Golff Hŷn gyntaf Cymru, ac mae’r Albanwr, sy'n byw gerllaw ym Mryste ers blynyddoedd, â’i lygad ar deitl arall. Meddai Brand Jnr: “Dyma’r peth agosaf at Bencampwriaeth Hŷn ar stepen fy nrws ac mae Clwb Brenhinol Porthcawl yn arbennig i mi. Dyna lle’r enillais fy nheitl cyntaf ar y Daith Ewropeaidd yn ôl ym 1982. “Mae’n gwrs ardderchog, felly rwy’n hynod falch bod y Bencampwriaeth Hŷn yn cael ei chynnal yno am y tro cyntaf. “Fe fyddwn i’n gobeithio cystadlu yn y Bencampwriaeth Hŷn. Dydw i ddim wedi gwneud yn rhy dda yn y ddwy ddiwethaf, ond does dim rheswm pam na ddylwn i. Rwy’n adnabod y cwrs golff yn dda ac rwy’n hoff o gyrsiau lincs, felly mae’n dibynnu ar fy ngallu i chwarae ar fy ngorau.
8
Uned Datblygu Economaidd
Gordon Brand Jnr
“Rwy’n meddwl bod rhywfaint o gefnogaeth bob amser yn dod drosodd o Fryste ac mae gen i atgofion melys o’r cwrs. Rydych chi’n ceisio canolbwyntio ar y pethau hynny a chofio y gallwch chi chwarae’r cwrs golff er ei fod yn anodd.” Canlyniad gorau Brand Jnr hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth Golff Hŷn a Gyflwynir gan Rolex oedd rhannu’r 12fed safle ym Mhencampwriaeth 2011 yn Walton Heath. Fodd bynnag, mae’n edrych ymlaen at y cyfle i chwarae ar gwrs lincs y bydd yn ei adnabod yn well na’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr eraill eleni, gan iddo ddod yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Hŷn Cwpan Ryder Cymru ym Mhorthcawl yn 2010. Ychwanegodd: “Mae’n gwrs lincs, ger y môr, ond y peth da am Borthcawl yw ei fod yn gwneud mwy na mynd allan a dod yn ôl. Mae dros y lle a bydd y gwynt yn anodd yno. Mae’n rhaid i chi wneud ambell drawiad o’r ti heb weld at le rydych chi’n anelu ac mae’n rhaid dreifio’r bêl yn dda. Mae’r tŷ clwb yno yn arbennig - mae teimlad hyfryd wrth ichi gyrraedd ac mae’n lle dymunol iawn i chwarae.
“Mae’n gwrs lincs clasurol yn yr un categori â Birkdale a Turnberry, lle buom ni’n chwarae’r ddwy Bencampwriaeth Golff Hŷn ddiwethaf. Rydym ni’n ffodus iawn o gael chwarae ar y cyrsiau clasurol yma. Dydyn nhw ddim wedi newid eu dynameg. Rwy’n gwybod y bydd Porthcawl yn chwarae rhywfaint yn hirach ond does dim angen iddyn nhw newid y cyrsiau clasurol, maen nhw mor dda.” Yr Americanwr Mark Wiebe a enillodd y Bencampwriaeth Golff Hŷn a Gyflwynir gan Rolex yng Nghlwb Brenhinol Birkdale yn 2013, gan guro Pencampwr y Meistri Bernhard Langer mewn gêm dros ben. Gwelwyd goreuron y byd golff hŷn yn y Bencampwriaeth, gyda sêr megis Fred Couples, Sandy Lyle, Tom Watson a’r Cymro Ian Woosnam yn ymuno â Wiebe a Langer ar y maes, yn ogystal â Colin Montgomerie, y gŵr a arweiniodd Ewrop at fuddugoliaeth Cwpan Ryder yn y Celtic Manor yn 2010. Mae tocynnau ar gyfer y Bencampwriaeth Golff Hŷn a Gyflwynir gan Rolex ar gael ar-lein trwy www.senioropengolf.com neu trwy ffonio +44 (0)800 0232557, ac mae manylion pecynnau llety ar gael hefyd.
Cynhadledd ar ymdrin â materion iechyd meddwl yn y gwaith Roedd dros 130 o sefydliadau, llawer ohonynt yn fusnesau, yn bresennol mewn cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â materion iechyd meddwl yn y gweithle yn yr Orendy, Parc Margam, Port Talbot yn ddiweddar.
gan Jennifer Dunne o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac o 'Amser i Newid'. Cafodd cyflogwyr gyfle i ddysgu mwy am gefnogi staff sy’n cael problemau ag iechyd meddwl a chawsant ddysgu hefyd yn uniongyrchol gan weithwyr a rannodd eu profiadau personol.
Meddai’r Cynghorydd David Sage, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Iechyd Meddwl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr, a oedd yn cadeirio’r gynhadledd: “Roedd y gynhadledd hon yn gyfle ardderchog i Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn siarad yn y gynhadledd sefydliadau gael dysgu mwy am ffyrdd o gefnogi Cynhaliwyd y gynhadledd yn rhan o staff trwy gyfnodau anodd. raglen bum mlynedd Siaradwn Ni – “Rydym wedi clywed gan lawer o Let’s Talk y Loteri Fawr, ac fe’i trefnwyd sefydliadau heddiw sy’n helpu pobl trwy gan Mental Health Matters Wales Cyf gyfnodau o salwch meddwl. Y neges mewn partneriaeth â Fforwm Busnes eglur yw bod cyflogwyr sydd wedi Pen-y-bont ar Ogwr. Cefnogwyd y sefydlu gweithdrefnau i gefnogi eu staff, digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref heb os nac oni bai, yn elwa ar weithlu Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Siaradwn Ni. iachach, mwy brwdfrydig a mwy Roedd Mark Drakeford AC, y cynhyrchiol.” Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Meddai Cydlynydd Rhaglen Siaradwn Cymdeithasol, ymysg y siaradwyr, a Ni, Stuart Burge-Jones, a oedd hefyd phwysleisiodd fod y gweithle yn lle yn siarad yn y digwyddiad: “Mae salwch hanfodol i gychwyn rhoi diwedd ar meddwl yn gyffredin iawn - mae un o stigma iechyd meddwl. Roedd y bob pedwar ohonom ni’n cael rhaglen hefyd yn cynnwys anerchiad
Effaith technoleg argraffu 3D ar ddatblygu cynnyrch newydd Mae prosiect sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Abertawe a’i noddi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn helpu i gynyddu arloesedd a chaniatáu i gynnyrch newydd gael ei lunio’n gyflym ac yn rhad gyda thechnoleg argraffu 3D. Mae’r Rhwydwaith Deunyddiau Bach eu Heffaith (LIMNET) yn cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig ddefnyddio technoleg Argraffu 3D er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol. Nod y prosiect yw helpu busnesau i sefydlu troedle proffidiol trwy ddefnyddio technoleg
Cynrychiolwyr yn y gynhadledd
problemau iechyd meddwl yn ystod ein bywydau. “Mae salwch meddwl cysylltiedig â gwaith yn costio hyd at £26 biliwn i economi Prydain bob blwyddyn, trwy golli dyddiau gwaith, ac yn sgil trosiant staff uwch a lefelau cynhyrchu is. Mae‘r ffaith bod rhaglen Siaradwn Ni wedi ennill tir yn y maes yma yn gam sylweddol tuag at dynnu sylw at hyn a rhoi gwybod i gyflogwyr ynglŷn â chamau syml, rhad a chost effeithiol y gellir eu cymryd er mwyn cefnogi pobl sydd mewn perygl o ddioddef o salwch meddwl yn eu gweithlu. Os hoffech fwy o wybodaeth am les yn y gweithle, ffoniwch 0845 601 75556 neu ewch i www.wellbeingthroughwork.org
argraffu 3D ac elwa ar farchnadoedd newydd posibl. Bydd hyn yn gymorth i greu swyddi crefftus newydd ac i ddatblygu twf economaidd y rhanbarth yn y dyfodol trwy ddefnyddio’r dechnoleg gynaliadwy hon. Gallai Argraffu 3D, er enghraifft, fod o fudd i rywun sy’n gwneud siocledi ac sydd angen set o fowldiau arbennig yn rhad, dylunydd gemwaith sydd eisiau gwneud un darn unigryw neu fusnes gweithgynhyrchu bychan sydd ag angen mowld i gynhyrchu nifer bychan o gydrannau. Gellir cynhyrchu nwyddau newydd yn gyflym ac yn gywir yn llawer rhatach na thechnolegau gweithgynhyrchu confensiynol. Dylai unrhyw gwmni sydd am drafod hyn neu gael rhagor o wybodaeth am LIMNET gysylltu â Dan Thomas, Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, ar 01792 295533 neu anfon e-bost at: D.J.Thomas@swansea.ac.uk
Uned Datblygu Economaidd
9
Caroline Wright, cyfarwyddwr BESA, Chris Malcolm, Rheolwr Gyfarwyddwr Daydream Education, Craig Moss, Cyfarwyddwr Marchnata Daydream Education, Jo Brand, Digrifwraig
Gwireddu breuddwyd i gwmni sydd wedi ennill gwobr ryngwladol Daeth Daydream Education i’r brig yng nghategori ‘Apiau Addysgol’ y Gwobrau Bett mawr eu bri, yn rhan o'r sioe dechnoleg mewn addysg fwyaf yn y byd. Mae Daydream Education wedi ei leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n darparu posteri a meddalwedd rhyngweithiol ym myd addysg. Mae Daydream Education wedi darparu dros ddwy filiwn o adnoddau i fwy na 150,000 o sefydliadau addysgol ledled y byd. Enillodd y cwmni’r Wobr Bett am ei ap lluosi. Mae Gwobrau Bett yn chwarae rhan allweddol o ran nodi a gwobrwyo adnoddau a gwasanaethau TGCh arloesol ym maes addysg. Cyhoeddwyd enwau'r sefydliadau buddugol yng nghinio Gwobrau Bett yn Llundain yn gynharach eleni. Mae’r gwobrau wedi eu cysylltu â Bett, digwyddiad technoleg addysg fwyaf y byd, sy’n arddangos yr adnoddau cymorth dysgu diweddaraf. Meddai’r beirniaid: “Mae’r ap lluosi yn fargen am ddim ond £2.49 a byddai o
10
ddefnydd i athrawon a rhieni i helpu myfyrwyr i ddysgu cysyniadau mathemategol. Gwnaeth y cyflwyniadau cyfarwyddyd argraff arbennig arnom. Mae’r ap yn gweithio ar ddyfeisiadau iPad ac Android ac yn dilyn y dulliau dysgu lluosi yn y cwricwlwm cenedlaethol newydd.” Meddai Caroline Wright, Cyfarwyddwr BESA, cymdeithas fusnes y sector addysg ac arloeswr Bett a Gwobrau Bett: “Cafwyd y nifer mwyaf erioed o ymgeiswyr, a oedd yn gwneud tasg y beirniaid yn anodd iawn, ond mae hyn yn golygu bod Daydream Education wedi ei ddyfarnu’r gorau un yn ei gategori.” Meddai Debbie French, Cyfarwyddwr Portffolio yn i2i Events Group: “Mae ennill Gwobr Bett yn rhywbeth y mae cwmnïau’n ymdrechu i’w gyflawni. Mae Gwobrau 2014 yn nodi 16 mlynedd o ddathlu a chydnabod datblygiadau mwyaf blaenllaw’r byd o ran TGCh ym maes addysg. Rydym yn cymeradwyo Daydream Education am ragoriaeth ei gynnyrch.”
Uned Datblygu Economaidd
“Mae ennill Gwobr Bett yn rhywbeth y mae cwmnïau’n ymdrechu i’w gyflawni. Mae Gwobrau 2014 yn nodi 16 mlynedd o ddathlu a chydnabod datblygiadau mwyaf blaenllaw’r byd o ran TGCh ym maes addysg. Rydym yn cymeradwyo Daydream Education am ragoriaeth ei gynnyrch.” Ychwanegodd Chris Malcolm, Rheolwr Gyfarwyddwr Daydream Education: “Mae’n fraint enfawr derbyn y fath gydnabyddiaeth gan y diwydiant. Mae ennill gwobr mor nodedig, yn enwedig o wybod pa mor gryf oedd y gystadleuaeth, yn dangos bod ein hagwedd syml ond arloesol at ddysgu yn llwyddo. Mae ein tîm ymroddedig o weithwyr ac athrawon ymgynghorol yn haeddu llawer iawn o glod a diolch. Maent yn rhan hanfodol o’n llwyddiant ac o sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran y technolegau dysgu diweddaraf.” I gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.daydreameducation.co.uk
Prosiect cyflogaeth a gefnogir gan yr UE yn dod i Ben-y-bont ar Ogwr Mae prosiect cyflogaeth a gefnogir gan yr UE bellach yn cynorthwyo cyflogwyr a’r rhai sy’n ceisio gwaith ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd trigolion y fwrdeistref sirol erbyn hyn yn gallu cael help gan brosiect Gweithffyrdd y De-orllewin, sydd eisoes wedi cynorthwyo dros 4,000 o bobl ar draws y De-orllewin i gael gwaith ers 2009. Mae Gweithffyrdd yn cynorthwyo pobl i orchfygu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith. Mae cyfranogwyr yn cael help gyda llenwi ffurflenni cais, llunio CVs, sgiliau cyfweliad, datblygiad personol a hyfforddiant. Mae Gweithffyrdd hefyd yn cynnig cymorth recriwtio i gwmnïau lleol trwy hysbysebu swyddi i’w cronfa o gyfranogwyr, tynnu rhestr fer o ymgeiswyr, trefnu dyddiau recriwtio ac archwilio llwybrau cymorth i fusnesau. Ers 2009, mae’r prosiect wedi bod mewn cysylltiad â 4905 o fusnesau ledled De-orllewin Cymru. Mae nifer y cyflogwyr lleol sydd wedi derbyn cefnogaeth a chymorth oddi wrth Weithffyrdd y De-orllewin yn tyfu drwy'r amser, ac mae Swyddogion
Cyswllt Cyflogaeth eisoes yn agos gyda gweithio’n chwmnïau fel AS Wellington, DLT Training a Red Dragon Air Conditioning i enwi dim ond Ers lansio’r rhai ohonynt. prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref 2013, mae nifer y cwmnïau sy’n ceisio cymorth gan y prosiect wedi cynyddu eto.
Tîm Gweithffyrdd Pen-y-bont ar Ogwr
Meddai David Gaynor o Gaynor Group Ltd: “ Cysylltais â Gweithffyrdd i chwilio am weithiwr i ddechrau cyn gynted â phosibl. O fewn wythnos, awgrymwyd ymgeisydd i mi a oedd yn addas dros ben ac sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu ac sy'n gweithio’n dda fel rhan o’r tîm.” Mae ymgysylltiad â sefydliadau yn y sector gofal wedi bod o fudd mawr. Mae Gweithffyrdd wedi datblygu cysylltiad da iawn gyda Steddy & Associates, a chynhaliodd Gweithffyrdd ffair swyddi ar y cyd â’r cwmni gofal iechyd ar gyfer unigolion a oedd â diddordeb mewn gweithio yn y maes hwn.
Cymru i gael gwaith. Y rheswm dros lwyddiant y prosiect yw’r cymorth unigol a gynigiwn, ynghyd â’r cysylltiadau cryfion sydd gennym â chyflogwyr lleol.” Arweinir Gweithffyrdd y De-orllewin gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Dinas a Sir Abertawe. Cefnogir y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01656 815154 neu ewch i www.workways.co.uk
Meddai Marjorie Bartlett, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol Gweithffyrdd: “Mae Gweithffyrdd eisoes wedi dangos pa mor effeithiol ydyw trwy helpu dros 4,000 o bobl ar draws De-orllewin
Liberty Horses yn chwilio am bartneriaid i gyflymu twf Mae menter gymdeithasol ym Mhorthcawl sy’n rhoi cyfle i bobl ddifreintiedig ddysgu am geffylau – a deall sut mae’n teimlo i fod yn berchen ar geffyl – yn chwilio am fusnesau lleol i bartneru â'r prosiect, neu ei noddi. Sefydliwyd Liberty Horses yn benodol – ond nid yn unig – i helpu pobl ifanc i wella’u sgiliau bywyd a’u datblygiad personol a chymdeithasol trwy wasanaeth fforddiadwy a chynhwysol. Lleolir y fenter yn Notais ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Katy Overton a Keziah Rhoden wedi cyflwyno dros 200 o gyfranogwyr i ddulliau trin ceffylau, ystwythder gyda cheffylau, a marchogaeth ynghyd â hybu datblygiad personol trwy eu rhaglen ddysgu a’u dyddiau merlod.
Derbyniodd y partneriaid busnes £3,400 oddi wrth Raglen Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru, a gefnogir gan yr Undeb Ewropeaidd. Defnyddiwyd hwn i wneud astudiaeth o ddichonoldeb er mwyn asesu’r galw a chynllunio ar gyfer creu sefydliad cynaliadwy. Meddai Katy Overton, Cyfarwyddwr ac Ysgrifennydd y Cwmni: “Nod Liberty Horses yw rhannu’r pleser o drin ceffylau a budd marchogaeth naturiol a’i roi o fewn cyrraedd rhai sydd â diffyg amser, arian a/neu brofiad. “Mae’n sicrhau amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc sy’n agored i niwed ddatblygu eu hyder a’u hunan-barch, a gwella eu sgiliau cymdeithasol gyda phobl ifanc eraill.”
Mae’r fenter gymdeithasol hon hefyd yn darparu gwersi marchogaeth, partïon merlod a hyfforddiant arbenigol i geffylau er mwyn creu incwm. Ymhlith y rhai sydd wedi elwa mae pobl ifanc â phroblemau emosiynol a phroblemau ymddygiad, pobl ifanc sy'n derbyn gofal a'r rhai nad ydynt mewn addysg brif ffrwd, pobl ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, oedolion â phroblemau iechyd meddwl, gofalwyr, teuluoedd sy'n ymdrin ag amgylchiadau anodd a phobl sy'n wynebu rhwystrau rhag cael gwaith. I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.libertyhorses.co.uk
Uned Datblygu Economaidd
11
Cynllun rhyddhad ardrethi’n cael ei estyn am flwyddyn arall yng Nghymru
Bydd busnesau bach yng Nghymru’n gallu elwa ar gynllun rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru hyd at fis Mawrth 2015. Cadarnhaodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yr estyniad i’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yng Nghymru, pan ddywedodd wrth Gyngor Adnewyddu’r Economi yng Nghaerdydd mai’r estyniad i’r cynllun oedd y diweddaraf ymhlith nifer o fesurau ardrethi busnes a fyddai’n helpu busnesau yng Nghymru. “Bydd estyn y cynllun yn cynorthwyo busnesau bach ledled Cymru ac ni fydd llawer ohonynt yn talu ardrethi o gwbl. Mae hyn yn ogystal â’r cynlluniau
“Just Ask Wales” - dyna yw neges ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon i ddenu buddsoddiad i mewn i Gymru er mwyn creu swyddi a hybu twf economaidd. Mae’r ymgyrch farchnata newydd yn rhan o’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu mwy o gwmnïau o’r DU a thramor sydd eisiau tyfu ac ehangu i ystyried dyfodol yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch yn para blwyddyn ac yn canolbwyntio’n gyntaf ar Lundain, de-ddwyrain Lloegr a choridor yr M4.
12
ardrethi busnes penodol eraill a sefydlwyd gennym i hybu busnesau ledled Cymru ac i annog twf.
yn bwriadu datganoli ardrethi busnes yn gyfan gwbl i Gymru yn dilyn argymhelliad Comisiwn Silk, a gefnogwyd gennym.
“Rydym hefyd wedi gofyn i’r Athro Brian Morgan geisio barn busnesau yng Nghymru ynglŷn â sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’n pwerau newydd ar gyfer ardrethi busnes pan fyddant wedi'u datganoli i ni.”
“Ond nid ydym yn llaesu dwylo’n aros am ddatganoli llawn. Cyhoeddasom yn ddiweddar y byddai ardrethi busnes yn cael eu capio ar ddau y cant y flwyddyn nesaf – cam a fydd yn golygu y bydd arian yn dod i mewn i economi Cymru. Gan ein bod bellach wedi llwyddo i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i estyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yng Nghymru, byddaf nawr yn ystyried y dewisiadau ar gyfer cronfa i roi mwy o gymorth i fusnesau, yn enwedig y rhai sydd wedi eu hanfanteisio oherwydd gohirio ailbrisio ardrethi busnes tan 2017.”
Yn ystod cyfarfod y cyngor, cyhoeddodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi fod Llywodraeth Cymru’n ystyried dewisiadau ar gyfer cronfa wedi ei thargedu i gynorthwyo busnesau sydd yn dioddef oherwydd gohirio ailbrisio. Meddai Mrs Hart: “Cyhoeddodd Llywodraeth y D.U. yn ddiweddar ei bod
Bydd yn cynnwys hysbysebu yn rhai o orsafoedd y system danddaearol yng Nghanol Llundain, yn ogystal ag yng ngorsafoedd rheilffordd Paddington, Liverpool Street, Heathrow, Woking, Slough, Reading a Bracknell. Crëwyd cyfres o bosteri a deunyddiau marchnata yn canolbwyntio ar sectorau penodol ar gyfer ymgyrch “Just Ask Wales” gan gyfeirio busnesau at y wefan newydd www.justask.wales.com. Bydd hysbysebion i’w gweld hefyd mewn papurau newydd megis y Financial Times, y Telegraph a’r London Standard. Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, wrth lansio’r ymgyrch: “Mae’r farchnad buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn hynod gystadleuol, felly er mwyn parhau i lwyddo a sicrhau mantais gystadleuol,
Uned Datblygu Economaidd
mae'n rhaid inni ddangos bod gan Gymru rywbeth gwahanol i’w gynnig. “Mae ein hymgyrch ‘Just Ask Wales’ yn pwysleisio ein cryfderau ac yn canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid - yr hyn y mae ar gwmnïau ei angen ar gyfer tyfu a sut y gallwn ni fodloni eu hanghenion. Rydym yn lansio’r ymgyrch yn ne-ddwyrain Lloegr gan fod y ffaith ein bod yn agos at Lundain yn fantais fawr i lawer o fusnesau. Rhai o’r elfennau allweddol eraill yr ydym yn tynnu sylw atynt yw’r sgiliau, y cymorth a’r lle sydd ar gael yng Nghymru, yn ogystal â pha mor gyflym y gwneir penderfyniadau yma. Pwysleisir hefyd y ffaith bod nifer o gwmnïau hynod o lwyddiannus yma eisoes sydd wedi elwa ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. www.justaskwales.com
Y Maer yn treulio amser gyda chwmni gwych! Mae Maer a Maeres Bwrdeistref Sirol Pen-ybont ar Ogwr, y Cynghorydd Clive James a’r Cynghorydd Pauline James, wedi bod yn ymweld â chwmnïau lleol, i ddeall yn well y mathau o fusnesau sy’n gweithredu yn y fwrdeistref sirol ac i drafod eu gweithgarwch ar hyn o bryd a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ers iddo ddechrau yn y swydd bron i 12 mis yn ôl, mae’r Maer wedi ymweld â deg o gwmnïau lleol, gan gynnwys rhai o enillwyr ac ail-oreuon Gwobrau Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr 2013. Ymhlith y rhain mae; Aircraft Maintenance Support Services (AMSS) Ltd, sydd a’u pencadlys ar Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, y Pîl; arweinydd byd-eang o ran cynllunio a chynhyrchu systemau docio awyrennau ac offer cymorth o’r ddaear. TSW Training Ltd a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl ac sydd yn ddarparwr hyfforddiant masnachol a galwedigaethol blaenllaw. Home & Colonial Fine Foods, siop fwydydd arbenigol ym Mhorthcawl, a oedd yn y tri y cant uchaf mewn pleidlais i ddod o hyd i'r goreuon yn y maes ledled y DU a Fruity Bouquets R Us sy’n gwneud tuswau o ffrwythau a choed melysion fel dewis gwahanol i flodau. Mae gan y Cynghorydd James gefndir helaeth ym maes diwydiant, ac yntau wedi bwrw prentisiaeth gyda'r Rheilffyrdd Prydeinig a threulio’r rhan fwyaf o’i yrfa gyda British Petroleum ym Maglan. Mae wedi bod yn awyddus i gysylltu â chynifer o gwmnïau lleol â phosibl yn ystod ei gyfnod fel Maer.
Home & Colonial Fine Foods
AMSS Ltd
Fruity Bouquets R Us
Meddai’r Cynghorydd Clive James: “Rwyf wedi cwrdd â nifer o fusnesau ardderchog, diddorol ac amrywiol yn ystod fy nghyfnod fel Maer. Mae hi wedi bod yn bleser siarad â chynifer o bobl fusnes graff ac uchelgeisiol, sy’n cyfrannu cymaint i’n cymunedau lleol. “Mae ansawdd y busnesau sy’n gweithredu yn ein hardal wedi creu argraff fawr arnaf. Mae wedi bod yn brofiad hynod bleserus ac addysgiadol. Ond, nid wyf wedi gorffen eto! Rwy’n edrych ymlaen at ychydig o ymweliadau eraill, a fydd yn digwydd cyn i mi drosglwyddo’r gadwyn ymlaen i’r Maer newydd fis Mai.” Os oes gennych chi ddiddordeb mewn croesawu'r Maer, cysylltwch â Merete Bang, Adran Gwasanaethau’r Maer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 643130 neu anfonwch e-bost at mayor@bridgend.gov.uk TSW Training gyda’u Gwobr Busnes De Cymru
Uned Datblygu Economaidd
13
Mae’n effeithio ar gyflogwyr a phawb sy'n gyfrifol am reoli safle y mae'r cyhoedd yn cael mynd iddo, boed hynny fel gweithwyr neu ymwelwyr. Dyletswydd yr 'Unigolyn Cyfrifol'. yw sicrhau cydymffurfiad â’r Gorchymyn Diogelwch Tân.
A yw eich busnes yn cydymffurfio â’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)? Adran Diogelwch Tân mewn Busnesau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n gorfodi darpariaeth y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Daeth y Gorchymyn Diogelwch Tân i rym ar 1 Hydref 2006 gan ddisodli Deddf Rhagofalon Tân 1971 a’r Rheoliadau Rhagofalon Tân (yn y Gweithle). Dyma'r brif ddeddfwriaeth diogelwch rhag tân erbyn hyn. Mae’r Gorchymyn yn effeithio ar bob adeilad annomestig ac mae hyd yn oed yn berthnasol i rai gweithgareddau awyr agored. Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn pwysleisio lleihau risg ac atal tanau.
Mewn gweithle, y cyflogwr yw'r person hwn, ac unrhyw unigolyn arall sy’n rheoli unrhyw ran o’r safle, er enghraifft, y deiliad neu’r perchennog. Ym mhob safle arall, yr unigolyn neu’r bobl sy’n rheoli’r safle fydd yn gyfrifol. Os oes mwy nag un unigolyn cyfrifol mewn unrhyw fath o safle, mae'n rhaid i bob un ohonynt gymryd camau rhesymol i gydweithio. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn berthnasol i ‘r sector gwirfoddol a phobl hunangyflogedig.
Ble mae hyn yn berthnasol? Mae’r Gorchymyn yn berthnasol i bron pob safle ac yn cwmpasu bron pob math o adeilad, adeiledd a man agored. Er enghraifft:
• swyddfeydd a siopau • safleoedd sy’n darparu gofal • neuaddau cymunedol • mannau cymunedol amlbreswyliaeth
mewn
tai
• tafarnau, clybiau a thai bwyta • ysgolion • pebyll o bob maint • gwestai a hosteli • ffatrïoedd a stordai Mae’r adran yn awyddus i weithio â busnesau o bob maint. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gall eich busnes gydymffurfio â’r Gorchymyn, cysylltwch â’r Swyddog Ymgysylltu â Busnes, Mathew Bradford ar 01443 232540 / 07880 786464 neu anfonwch e-bost at m-bradford@southwales-fire.gov.uk neu ewch i www.decymru-tan.gov.uk/ Cymraeg/business_fire_safety
Unedau newydd ar y farchnad Mae Marchnad Maesteg, a ailwampiwyd y llynedd ar gost o £2.5 miliwn wedi gosod 11 o’r 13 uned sydd newydd eu hadnewyddu. Hwn yw pedwerydd cymal y cynllun i adfywio Maesteg a ddechreuodd yn 2004, ac fe gwblhawyd sgwâr marchnad newydd, man perfformio dan do, safle aros am fysiau dan do newydd a gwelliannau i fannau cyhoeddus ar y safle. Mae’r farchnad ar Stryd Talbot yng nghanol y dref yn cynnwys stondinau parhaol dan do a stondinau dros dro ac achlysurol y tu allan. Mae neuadd y farchnad ar lawr gwaelod isaf adeilad cerrig tri llawr o oes Fictoria sydd wedi ei restru’n Radd 2. Neuadd y dref sydd ar lawr gwaelod a llawr cyntaf yr adeilad. Ariannwyd marchnad £2.5 miliwn Maesteg gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (Prosiectau Cydgyfeirio Canol Trefi), Cronfa Ardal Adfywio Strategol Cymoedd y Gorllewin Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
14
Uned Datblygu Economaidd
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r unedau sydd ar gael, cysylltwch ag Adran Gwasanaethau Eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 642700 neu anfonwch e-bost at: property@bridgend.gov.uk