Agenda'r Gynhadledd: Cynhadledd y Gwanwyn Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 2015

Page 1

Cynhadledd Gwanwyn 27 Chwefror - 01 Mawrth 2015 Caerdydd

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

1


Cynhadledd Gwanwyn 2

Caerdydd


Croeso i Gaerdydd Croesawaf chi i’n cynhadledd olaf ni fel Democratiaid Rhyddfrydol Cymru cyn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai. Hon fydd yr etholiad gyntaf mewn cof lle byddwn yn ymladd ar sail ein cofnod o weithredu mewn Llywodraeth: torri trethi gweithwyr ar gyflogau isel a chanolig; cefnogaeth ychwanegol â gofal plant; chwyldroi ein system bensiynau; cyflwyno priodas gydradd; datganoli pellach i Gymru; mae’r rhestr yn parhau. Mae gennym ni gymaint i fod yn falch ohono. Ond, mae’n rhaid i ni fel plaid hefyd edrych at y ddyfodol. Mae gennym ni gofnod gryf o weithredu, ond mae’n rhaid bod gennym ni addewid o fwy. Mae aelodau’r blaid yn hanfodol ar gyfer hynny. Mae gennym ni benwythnos llawn hwyl gyda dadleuon polisi, areithiau a chyfarfodydd ymylol cyffrous. Bydd pob un digwyddiad yn rhan bwysig o ffurfio sut rydym ni eisiau parhau i greu cyfle i bawb drwy adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach. Pob dymuniadau ar gyfer y penwythnos,

Kirsty Williams Arweinydd Democratiaid Rhddfrydol Cymru

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

3


Tudalen 3 Canolfannau y Gynhadledd Teithio Diogelwch Cofrestru

Tudalen 5 Tudalen 7 Tudalen 8 Tudalen 10

Dydd Gwener, 27 Chwefror Dydd Sadwrn, 28 Chwefror Dydd Sul, 01 Mawrth

Tudalen 12 Tudalen 12 Tudalen 14

Gwybodaeth am y Cynigion Siarad yn y Gynhadledd Trefn Trafod y Cynigion Pleidleisio Cynigion Trefniadol

Tudalen 15 Tudalen 17 Tudalen 19 Tudalen 20 Tudalen 21 Tudalen 22 Tudalen 47 Tudalen 52 Tudalen 55 Tudalen 56

Cynhadledd Gwanwyn 4

Caerdydd


Eleni, cynhelir y Gynhadledd ar ddau leoliad: Cynhelir Rali ein Cynhadledd a Chinio’r Gynhadledd yng Ngwesty’r Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 1XD. Cynhelir y prif sesiynau yn Ysgol Rheolaeth Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Campws Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YB a bydd digwyddiad cymdeithasol nos Sadwrn yn ei ôl yn yr Holiday Inn.

Mae canolfannau y gynhadledd yn hygyrch i’r holl gynadleddwyr. Bydd arwyddion clir i’ch arwain. Mae’n rhaid i’r holl gynadleddwyr ddefnyddio’r brif fynedfa.

Gellir canfod y Ddesg Gofrestru y tu mewn i’r brif fynedfa i’r Ysgol Rheolaeth ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Nid oes yna ofyniad i Gofrestru ar y dydd Gwener, ond bydd arnoch angen dod â phrawf Aelodaeth o’r blaid a/neu ddull adnabod ffotograffig.

Sylwer na chaniateir dosbarthu deunyddiau darllen yn y gynhadledd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Gadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

5


Mae ysmygu yng nghanolfannau y gynhadledd yn erbyn y gyfraith.

Ni fydd cyfleusterau ar gael i adael cotiau neu fagiau yng nghanolfan y gynhadledd. Ni chaniateir bagiau mawr y tu mewn i ganolfannau y Gynhadledd.

Mae nifer o allanfeydd argyfwng y tu mewn i’r ganolfan. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch allanfa agosaf ar bob adeg.

Dylai cynadleddwyr sy’n dioddef o epilepsi fod yn ymwybodol y gellir defnyddio ffotograffiaeth fflach yn neuadd y gynhadledd.

Dylid gadael a hawlio unrhyw eiddo coll wrth y ddesg gofrestru.

Cofiwch ddiffodd ffonau symudol a pheiriannau galw cyn mynd i mewn i neuadd y gynhadledd, y digwyddiadau ymylol a’r sesiynau hyfforddi.

Ar ddydd Sadwrn a dydd Sul y Gynhadledd, gellir prynu lluniaeth ysgafn yn y siop goffi a leolir ar lawr daear yr Ysgol Rheolaeth.

Cynhadledd Gwanwyn 6

Caerdydd


Bws: Mae Gwesty’r Holiday Inn rhyw 5-10 munud o waith cerdded o Orsaf Fysiau Canol Caerdydd. Ar gyfer Ysgol Rheolaeth Caerdydd, yr U1, U2, a’r U3/U4, mae bysiau MetRider yn teithio bob awr i Landaf o ganol y ddinas. Mae bysiau MetRider i gyd yn stopio’n uniongyrchol y tu allan i’r campws. Mae’r llwybr bysiau hanner cylchol yn gwasanaethu campws Llandaf bob hanner awr o ganol y ddinas. Gallwch hefyd deithio ar y 24/25, y 33/33A/33B, neu’r 60/62, gan stopio yn arhosfa fysiau Black Lion Llandaf ar Cardiff Road, sydd ond 10 munud o waith cerdded o’r campws. Gweler gwefan Cardiff Bus (www.cardiffbus.com) am fwy o fanylion. Trên: Mae gorsaf reilffordd Canol Caerdydd rhyw 5-10 munud o waith cerdded o’r Holiday Inn. Yr orsaf agosaf at Ysgol Rheolaeth Caerdydd yw Waun-Gron, sydd ar Lein y Ddinas ac mae oddeutu 20 munud o waith cerdded o’r Ysgol Rheolaeth. Cynghorir aelodau sy’n cyrraedd â thrên i ddal bws o Orsaf Reilffordd Canol Caerdydd i’r Ysgol Rheolaeth (gweler uchod). Car:

Ar gyfer yr Holiday Inn, mae yna ddigonedd o le parcio ar gael ledled y Ddinas, ac mae yna rywfaint bach o le parcio ar gael i’r rheiny nad ydynt yn breswylwyr ar gyfer y Rali a Chinio’r Gynhadledd nos Wener ac ar gyfer y digwyddiad Cymdeithasol nos Sadwrn.

Mae’r Ysgol Rheolaeth a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gweithredu maes parcio ‘talu ac arddangos’ ar eu Campws yn

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

7


Llandaf. Y gost ar benwythnosau yw 50 ceiniog y dydd. Mae’r maes parcio y tu ôl i’r campws, wrth ymyl Adeilad yr Ysgol Rheolaeth.

Gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan o Lywodraeth y DU, bydd diogelwch yn dynnach nag arfer yng Nghynhadledd y Gwanwyn. Caiff bagiau cynadleddwyr eu harchwilio bob tro maent yn mynd i mewn i’r adeilad. Mae Pwyllgor y Gynhadledd yn atgoffa’r cynadleddwyr bod rhaid iddynt gydymffurfio â'r gweithdrefnau diogelwch, gan gynnwys archwiliadau pan fo’n briodol, i gael mynediad i’r gynhadledd.

Mae'n rhaid gwisgo bathodynnau’r gynhadledd ym mhob rhan o ganolfan y gynhadledd ddydd Sadwrn a dydd Sul. Os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw, gallwch gasglu eich bathodyn cynhadledd o’r ddesg gofrestru wrth gyrraedd ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. Bydd rhaid i chi ddod â’ch llythyr/e-bost yn cadarnhau cofrestru ac ID ffotograffig i gasglu eich bathodyn cynhadledd. Mae’n bosib na roddir bathodyn cynhadledd i chi os nad yw’r ddau hyn gennych. Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr cadarnhad o fewn pythefnos i gofrestru, neu dri diwrnod cyn y gynhadledd, ffoniwch 029 2031 3400 i gadarnhau bod eich cofrestriad wedi ei dderbyn a'i brosesu. Os nad ydych wedi cofrestru ymlaen llaw rhoddir eich bathodyn cynhadledd i chi pan fyddwch yn cofrestru ar y diwrnod. Gweler sut i gofrestru yn yr adran Gofrestru ar dudalen 10.

Cynhadledd Gwanwyn 8

Caerdydd


Darperir bathodynnau newydd yn lle rhai sydd wedi’u colli yn ôl disgresiwn Cadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd yn unig. Codir ffi o £10 am fathodynnau newydd.

Derbynnir y mathau canlynol o ID ffotograffig ar y diwrnod: • • • • •

Pasbort (byddwn yn derbyn pasbortau sydd wedi dod i ben) Trwydded yrru â ffotograff Cerdyn adnabod myfyriwr dilys â ffotograff CitizenCard Cerdyn adnabod y Lluoedd Arfog

Os nad oes gennych unrhyw un o'r ffurfiau uchod ar ID ffotograffig, byddwn yn derbyn dau o'r canlynol: • • • • • • • •

Trwydded yrru heb ffotograff Tystysgrif geni Cerdyn banc wedi'i lofnodi Bil cyfleustodau Cyfriflen banc Slip cyflog Cerdyn adnabod myfyriwr dilys heb ffotograff Cerdyn Yswiriant Gwladol

Ar adegau, bydd chwiliadau diogelwch 'arddull maes awyr' ar waith yn y lleoliadau. Bydd rhaid i bawb sydd yn y gynhadledd ar yr adegau hyn gael chwiliad o'r fath. Gellir defnyddio mynedfeydd bwaog â synhwyrydd metel a/neu chwiliadau bag. Ni chaniateir bagiau mawr nac eitemau wedi’u selio yn yr ardal ddiogel yn ystod y cyfnodau hyn.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

9


Os ydych yn dod i ginio'r gynhadledd, digwyddiad ymylol neu dderbyniad gwahoddiad yn unig (mae'r rhain wedi eu nodi'n glir yn llawlyfr y gynhadledd neu yn hysbysiadau’r gynhadledd) bydd rhaid i chi ddod â'ch tocyn neu’ch gwahoddiad a bydd rhaid i chi wisgo eich bathodyn cynhadledd. Fel arall, bydd mynediad yn cael ei wrthod.

Bydd y ddesg gofrestru ger prif fynedfa canolfan y gynhadledd. Bydd ar agor: Dydd Sadwrn, 28 Chwefror:

08:30 – 16:00

Dydd Sul, 01 Mawrth:

09:00 – 13:00

Gall pawb gofrestru ar-lein drwy fynd i www.DemRhyddCymru.Cymru Gallwch gofrestru ar-lein hyd at ddydd Iau 26 Chwefror. Gall aelodau’r blaid ac arsylwyr gofrestru drwy’r post hefyd. Gallwch lawrlwytho ffurflen gofrestru o’r wefan neu gael un drwy ffonio 029 2031 3400. Gallwch gofrestru ymlaen llaw drwy'r post tan ddydd Gwener 20 Chwefror. Bydd pawb sy’n cofrestru ar-lein yn derbyn e-bost i gadarnhau hynny. Byddwn yn ymdrechu i anfon llythyr cadarnhad at bawb sydd wedi cofrestru drwy’r post. Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr cadarnhad o fewn pythefnos i gofrestru, neu dri diwrnod cyn y gynhadledd, ffoniwch 029 2031 3400 i gadarnhau bod eich cofrestriad wedi ei dderbyn a’i brosesu.

Cynhadledd Gwanwyn 10

Caerdydd


Bydd angen eich llythyr cadarnhad ac ID ffotograffig arnoch wrth gasglu eich bathodyn cynhadledd. Os nad yw eich llythyr cadarnhad gennych, mae’n bosib na roddir eich bathodyn cynhadledd i chi oni bai eich bod wedi ein hysbysu nad ydych wedi derbyn y llythyr.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd ar y diwrnod. Os ydych yn cofrestru ar y diwrnod bydd angen i chi ddod â'r ffi gofrestru briodol ac ID ffotograffig. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler tudalen 9. Gallwch hefyd arbed amser ar y diwrnod drwy lenwi ffurflen gofrestru ymlaen llaw a sicrhau bod gennych yr arian cywir neu siec wedi ei hysgrifennu’n barod wrth i chi gyrraedd y ddesg gofrestru. Gallwch lawrlwytho ffurflen gofrestru o wefan y blaid www.DemRhyddCymru.Cymru

lol Cyfarfod Ymy 14:20 - 15:20 Dydd Sadwrn adda Ystafell Waun

rs to care? vercome barrie o e w eimer's n ca w o H kers from Alzh ea sp d an M ion. iams A ortant discuss p im Join Kirsty Will is th r fo arie Curie Society and M provided. Refreshments

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

11


Dydd Gwener, 27 Chwefror 18:00

Rali’r Gynhadledd Siaradwyr i gynnwys: Y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS a Kirsty Williams CBE AC

19:00

Derbyniad â Diodydd Cyn y Cinio (i’w gadarnhau)

20:00

Cinio’r Gynhadledd Cyn-Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Arglwyddi ac aelod o’r ‘Giang o Bedwar’ a sefydlodd yr SDP.

Dydd Sadwrn, 28 Chwefror 09:15 09:30

Agor y Gynhadledd Cynnig Polisi

10:00

Araith Dirprwy Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

10:20

Cyflwyniad o’r Llwyfan ŷ

Wrth inni fynd yn hŷn rydym yn dymuno mwynhau bywyd a byw mor annibynnol â phosibl. Sut gellir gwella ein systemau gofal iechyd i gefnogi hyn?

Cynhadledd Gwanwyn 12

Caerdydd


Mae dau o bobl o bob tri sy’n cael eu derbyn i ysbytai dros 60 oed, ac mae oed cleifion ar gyfartaledd dros 80. Sut gallwn ni wella’r profiad o fod mewn ysbyty ar gyfer pobl hŷn? Agored i gwestiynau gan y gynulleidfa

11:20

Cynnig Amserol/ Cynnig Brys Y terfyn amser ar gyfer y Cynigion Testunol yw canol dydd, ddydd Mercher, y 18 o Chwefror, 2015. Ar gyfer cynnig brys, yr amser yw dechrau’r Gynhadledd neu dair awr cyn dechreuad y ddadl sydd wedi’i threfnu.

11:35

Araith Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

12:00 13:00

Digwyddiadau Ymylol Cynnig Polisi

14:00

Araith Gweinidog Gwladol, Y Swyddfa Gymreig

14:20 15:20

Digwyddiadau Ymylol Cynnig Polisi Papur Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol

16:30

Y Gynhadledd yn Gohirio ar ôl Cychwyn

17:00

Ffrainc v Cymru a Storïau Eraill….. Digwyddiad cymdeithasol nos Sadwrn (Dechrau am 17:30) £15 y person, yn cynnwys cyri a pheint (mae dewisiadau llysieuol a diodydd ysgafn ar gael). Callaghan’s Bar, Holiday Inn, Caerdydd (mynedfa trwy Dderbynfa’r Gwesty).

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

13


Dydd Sul, 01 Mawrth 09:30

Cynnig Polisi

10:00

Cynnig Polisi Papur Polisi ar Anghydraddoldeb

11:00

Cynnig Polisi Cynnig Amserol / Cynnig Brys Y terfyn amser ar gyfer y Cynigion Testunol yw canol dydd, ddydd Mercher, y 18 o Chwefror, 2015. Ar gyfer cynnig brys, yr amser yw dechrau’r Gynhadledd neu dair awr cyn dechreuad y ddadl sydd wedi’i threfnu.

11:40

Araith Prif Ysgrifennydd y Trysorlys

12:00 13:00

Digwyddiadau Ymylol Cynigion Polisi

13:30

Araith Aelod Seneddol dros Ganol Caerdydd

Diwedd y Gynhadledd

Cynhadledd Gwanwyn 14

Caerdydd


Mae pob cynnig sy’n cael ei drafod yn y gynhadledd yn ymddangos yn yr adran hon yn yr un drefn ag yn Agenda’r Gynhadledd. Nodir yr amser ar gyfer trafod y cynnig wrth ochr y cynnig. Cyhoeddir pob cynnig yn y llawlyfr hwn yn Gymraeg a Saesneg. Gan fod yr holl gynigion wedi eu cyflwyno yn Saesneg yn wreiddiol, os oes anghysondeb o ran iaith, y fersiwn Saesneg fydd yn cael blaenoriaeth. Gall pob cynnig sy’n ymddangos yn y llawlyfr hwn gael ei newid. Gellir cyflwyno gwelliannau gan bleidiau lleol, Pwyllgor y Blaid Gymreig sy'n gyfrifol am y mater a drafodir yn y cynnig, Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn Senedd y DU, neu 20 aelod o'r Blaid. Y terfyn amser ar gyfer derbyn Gwelliannau i’r Cynigion yw hanner dydd, ddydd Mercher, y 18 o Chwefror, 2015. Dylid e-bostio’r rhain at Policy@welshlibdems.org.uk neu’u cyflwyno mewn copi caled i’r Tîm Polisi ym Mhencadlys Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, 38, Y Parêd, Caerdydd, CF24 3AD. Bydd yr holl welliannau a dderbynnir i’w trafod yn cael eu cyhoeddi yn hysbysiadau’r gynhadledd a fydd ar gael ar wefan y Blaid www.DemRhyddCymru.Cymru yn ystod yr wythnos cyn y gynhadledd ac o'r ddesg gofrestru yn ystod y gynhadledd.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

15


Mae Cynigion Amserol yn gynigion polisi sy'n seiliedig ar rywbeth sy’n digwydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion polisi h.y. 14 Ionawr. Gellir cyflwyno Cynigion Amserol gan bleidiau lleol, Pwyllgor y Blaid Gymreig sy'n gyfrifol am y mater a drafodir yn y cynnig, Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn Senedd y DU, neu 20 aelod o’r Blaid Y terfyn amser ar gyfer derbyn Cynigion Testunol yw hanner dydd, ddydd Mercher, y 18 o Chwefror, 2015. Dylid e-bostio’r rhain at Policy@welshlibdems.org.uk neu’u cyflwyno mewn copi caled i’r Tîm Polisi ym Mhencadlys Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, 38, Y Parêd, Caerdydd, CF24 3AD. Caiff yr holl gynigion amserol a dderbynnir i’w trafod eu cyhoeddi yn hysbysiadau’r gynhadledd a fydd ar gael ar wefan y blaid www.DemRhyddCymru.Cymru yn yr wythnos cyn y gynhadledd ac o’r ddesg gofrestru yn ystod y gynhadledd. Gall Cynigion Testunol hefyd gael eu diwygio. Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliant i’r Cynnig Testunol yw 09:15 ddydd Sadwrn, yr 28 o Chwefror. Dylid e-bostio gwelliannau at Policy@WelshLibDems.org.uk neu’u rhoi i’r Swyddog Polisi neu i Gadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd mewn copi caled. Cynigion Brys yn fyr (dim mwy na 250 o eiriau) cynigion sy'n ymwneud â digwyddiadau sydd wedi digwydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer Cynigion Materion Cyfoes. Gellir cyflwyno Cynigion Brys gan bleidiau lleol, Pwyllgor y Blaid Gymreig sy’n gyfrifol am y mater a drafodir yn y cynnig, Grŵp

Cynhadledd Gwanwyn 16

Caerdydd


Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru neu yn Senedd y DU, neu 20 aelod o’r Blaid. Mae’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno Cynigion Brys yn dibynnu ar ba bryd y digwyddodd y digwyddiad y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef. Ar gyfer digwyddiadau sy’n digwydd cyn dechreuad y Gynhadledd, y terfyn amser yw dechreuad y Gynhadledd, hynny yw, 09:15 ddydd Sadwrn, yr 28 o Chwefror. Ar gyfer digwyddiadau sy’n digwydd yn ystod y Gynhadledd, y terfyn amser yw tair awr cyn y slot yn yr agenda ar gyfer Cynigion Brys. Wrth gyflwyno Cynnig Brys, mae’n rhaid nodi enwau’r bobl fydd yn symud ac yn cyfansymio’r cynnig yn eglur. Os nad yw hyn yn digwydd, ni fydd Pwyllgor y Gynhadledd yn derbyn y Cynnig Brys. Ni cheir diwygio Cynigion Brys a dylid eu rhoi, ble y bo’n bosibl, i’r Swyddog Polisi neu i Gadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd mewn copi caled.

Yn dilyn penderfyniad Cynhadledd yr Hydref yn Aberystwyth i ymestyn hawliau pleidleisio yn y Gynhadledd i bob Aelod o’r blaid yng Nghymru, gall unrhyw aelodau o’r Blaid Gymreig sydd wedi talu’r ffi gofrestru briodol ar gyfer y Gynhadledd siarad mewn dadleuon ar ôl cwblhau Cerdyn Siaradwyr (gweler isod). Gall aelodau o deulu ehangach y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cofrestru ar gyfer y Gynhadledd neu Sylwedyddion siarad, gyda chaniatâd Pwyllgor y Gynhadledd. Dylid cyflwyno’r cais hwn i Gadeirydd Pwyllgor y Gynhadledd yn ysgrifenedig cyn y ddadl berthnasol.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

17


Ym mhob dadl ar gynnig, caniateir 5 munud i siaradwyr sy’n cyflwyno cynnig, 4 munud i siaradwyr sy’n cyflwyno gwelliannau a 3 munud i bob siaradwr arall, gan gynnwys rhai sy’n crynhoi cynigion a gwelliannau. Gall y Cadeirydd leihau’r amserau hyn er mwyn caniatáu i fwy o aelodau siarad mewn dadl. Os bydd yn gwneud hyn bydd yn cyhoeddi’r newid yn ystod y ddadl. Os ydych yn siarad ac mae’r Cadeirydd yn gofyn i chi orffen eich araith, dylech orffen yn ddi-oed.

Cyfieithu ar y Pryd Pan fydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael, manteisiwch ar y cyfle i annerch y Gynhadledd yn Gymraeg. Dyma rai awgrymiadau ynglŷn â sut i gael y gorau o’r gwasanaeth hwn: nodwch ar eich cerdyn siaradwr eich bod yn dymuno siarad yn Gymraeg; ceisiwch siarad yn Gymraeg drwy gydol eich araith; os ydych yn newid ieithoedd yn ystod eich araith, cymerwch saib wrth newid ieithoedd er mwyn caniatáu amser i’r cyfieithydd orffen. Gellir casglu clustffonau cyfieithu o’r bwrdd ger mynedfa Neuadd y Gynhadledd. Cofiwch ddychwelyd y clustffonau ar ôl i chi eu defnyddio. Os bydd clustffonau’n mynd ar goll yn ystod y Gynhadledd, mae’n bosibl y bydd rhaid i bwyllgor y Gynhadledd gyflwyno system blaendal o £5 am weddill y penwythnos. Dylai unrhyw un sy’n dymuno siarad mewn dadl lenwi cerdyn siaradwr a’i gyflwyno i ddesg y siaradwyr ac aros i weld a gaiff ei alw yn y ddadl. Dylai cerdyn gwahanol gael ei lenwi ar gyfer pob dadl. Mae cardiau siaradwyr ar gael gan ddesg y siaradwyr a’r stiwardiaid yn y neuadd. Gellir eu casglu o’r ddesg gofrestru hefyd.

Cynhadledd Gwanwyn 18

Caerdydd


Dylid cofio tri phwynt allweddol er mwyn cynyddu’ch cyfle i gael eich galw: 1. Cyflwynwch eich cerdyn ymhell ymlaen llaw. Os caiff eich cerdyn ei gyflwyno’n hwyr mewn dadl boblogaidd, rydych yn annhebygol iawn o gael eich galw. Mae tîm cadeirio’r ddadl yn cwrdd ymhell ymlaen llaw i gynllunio’r ddadl. 2. Llenwch bob rhan o’ch cerdyn. Yr ail gamgymeriad sy’n cael ei wneud gan ddarpar siaradwyr yw llenwi eu cardiau’n rhannol. Yn ogystal â'r wybodaeth ar flaen y cerdyn (enw, plaid leol, o blaid neu yn erbyn y cynnig, ac ati), mae dwy adran ar y cefn, ar gyfer cefndir perthnasol (profiad proffesiynol neu fel defnyddiwr, cefndir yn y blaid, ac ati) ac ar gyfer amlinelliad byr o'r hyn rydych yn bwriadu ei ddweud. Mae angen yr adrannau hyn er mwyn i’r Cadeirydd a’i gynorthwyydd gydbwyso’r ddadl - sicrhau bod pobl â phrofiad perthnasol yn cael eu galw a sicrhau nad ydynt yn galw cyfres o bobl a fydd yn mynegi’r un farn. 3. Gwnewch yn siŵr ei fod yn ddarllenadwy! Peidiwch â llenwi pob centimetr sgwâr o’r cerdyn, a pheidiwch ag ysgrifennu yn annarllenadwy, neu mewn llythrennau bach iawn, neu mewn inc gwyrdd. Os yw’n hawdd i’r cadeirydd ddarllen eich cerdyn mae’n fwy tebygol y cewch eich galw

Yn gyffredinol, caiff cynigion eu hystyried yn y drefn ganlynol: 1. Cyflwynydd y Cynnig. 2. Cyflwynwyr unrhyw welliannau yn siarad yn eu tro. 3. Yna caiff siaradwyr eu galw o blaid ac yn erbyn y cynnig a bydd y Cadeirydd yn ceisio sicrhau cydbwysedd.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

19


4. Siaradwyr sy’n crynhoi’r gwelliannau, yn siarad yn eu tro 5. Yna caiff y siaradwr sy’n crynhoi’r cynnig ei alw. 6. Bydd y Cadeirydd yn galw am bleidlais ar unrhyw welliannau a/neu unrhyw bleidleisiau ar wahân yn eu tro - o blaid ac yn erbyn. 7. Cynhelir pleidlais ar y cynnig yn ei gyfanrwydd – o blaid ac yn erbyn.

Yn dilyn penderfyniad Cynhadledd yr Hydref yn Aberystwyth i ymestyn hawliau pleidleisio yn y Gynhadledd i holl Aelodau’r Blaid Gymreig, caniateir i unrhyw aelod o’r Blaid Gymreig sydd wedi talu’r ffi gofrestru briodol ar gyfer y Gynhadledd bleidleisio. Bydd gan eich Tocyn Cynhadledd “PLEIDLEISIO / VOTING” ar y cefn os oes gennych hawl i bleidleisio yn y Gynhadledd. Os ydych yn aelod pleidleisio ac yn dymuno pleidleisio mewn dadl, bydd rhaid i chi fod yn Neuadd y Gynhadledd erbyn diwedd araith y siaradwr sy’n crynhoi’r cynnig oherwydd na chaniateir i neb fynd i mewn i'r neuadd pan fydd y pleidleisio wedi cychwyn. I bleidleisio, dylech fod yn eich sedd, ac yn dal eich bathodyn cynhadledd yn yr awyr, gyda'r ochr "Pleidleisio" yn wynebu'r Cadeirydd. Dilynwch gyfarwyddiadau’r Cadeirydd ynghylch pryd i bleidleisio. Efallai y gofynnir i chi gadw eich bathodyn cynhadledd yn yr awyr am gyfnod hir i sicrhau y gellir cyfrif yr holl bleidleisiau. Penderfynir ar y cynigion a’r gwelliannau gan fwyafrif syml o’r rhai sy’n pleidleisio fel arfer. Os yw’n wahanol, bydd y Cadeirydd yn esbonio hyn cyn y bleidlais.

Cynhadledd Gwanwyn 20

Caerdydd


Mae Cynigion Trefniadol yn ymwneud â gweithdrefn y Gynhadledd: – atal dadl ar gynnig ac anfon y cynnig at gorff penodol ar gyfer mwy o waith. – atal trafodaeth a symud i’r eitem fusnes nesaf ar yr agenda. – atal un neu fwy o'r rheolau sy'n llywodraethu gweithrediad y Gynhadledd. Gall Cynigion Trefniadol gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig gan unrhyw aelod pleidleisio, ynghyd â datganiad o resymau hyd at 75 o eiriau. Cynhelir y pleidleisiau yn yr un modd ag ar gyfer cynigion a gwelliannau, ond ni fydd gwaharddiad rhag dod i mewn i neuadd y gynhadledd pan fydd y bleidlais i gynnal dadl fach ai peidio wedi cychwyn. Mae penderfyniadau ar gynigion trefniadol yn cael eu gwneud gan fwyafrif syml o’r rhai sy'n pleidleisio. Fel arfer, caiff cynigion trefniadol eu hystyried yn y modd canlynol: 1. Gall unrhyw aelod pleidleisio gyflwyno cynnig trefniadol yn ysgrifenedig cyn diwedd dadl ar gynnig. 2. Mae'r Cadeirydd yn darllen y datganiad ysgrifenedig o blaid y cynnig trefniadol. 3. Cynhelir pleidlais i benderfynu a ddylid cynnal dadl fach ar y cynnig trefniadol ai peidio. Os penderfynir cynnal dadl fach: 4. Gall cyflwynydd y cynnig trefniadol siarad. 5. Gall rhywun sy’n gwrthwynebu'r cynnig trefniadol siarad. 6. Gellir galw siaradwyr eraill i siarad. 7. Cynhelir pleidlais ar y cynnig trefniadol.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

21


C1: Bargen decach i Brentisiaid Cymru IR Cymru 1. Y cyflog cyfredol i brentisiaid yw £2.73, sy’n is na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 16-17 mlwydd oed, er gwaethaf y ffaith fod prentisiaid yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru; 2. Mae prentisiaid, ar gyfartaledd, yn ennill £100,000 yn fwy dros eu gyrfa na gweithwyr llai cymwysedig; 3. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod wrth y llyw yn ystod 17% o ostyngiad mewn prentisiaethau yng Nghymru er 2007, ac mae nifer y bobl sydd ar leoliadau prentisiaethau wedi gostwng fwy na 29% rhwng 2006 a 2012; 4. Canfu Arolwg Sgiliau Cyflogwyr Llywodraeth Cymru yn 2013 fod “swyddi gweigion oherwydd bwlch mewn sgiliau” yn 20% o’r holl swyddi gweigion yng Nghymru yn ystod amser yr arolwg, gyda 45% o fusnesau a holwyd yn rhoi gwybod am “swyddi gweigion oherwydd bwlch mewn sgiliau”, sy’n effeithio ar berfformiad busnes; 5. Canfu’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr fod 53% o’r cyflogwyr a holwyd wedi dewis ymgeiswyr hŷn yn amlach, er gwaethaf y ffaith bod ymgeiswyr iau yn addas ar gyfer y swydd wag; 6. Gwaith Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn sicrhau cyllid ar gyfer 5,000 o brentisiaethau newydd yng Nghymru trwy drafodaethau cyllideb 2014 â Llywodraeth Cymru; 7. Gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth yn buddsoddi mewn prentisiaethau o ansawdd, gan arwain at 1.8 miliwn o bobl yn dechrau prentisiaethau er 2010;

Cynhadledd Gwanwyn 22

Caerdydd


8. Bod gwaith Democratiaid Rhyddfrydol fel rhan o Lywodraeth y Glymblaid yn golygu bod yna yn awr 86% yn fwy o brentisiaid nag o dan y Llywodraeth Lafur flaenorol yn San Steffan; 9. Bod Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth wedi cynnal mwy na 4,800 o swyddi i bobl ifanc yn Lloegr trwy ostwng Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr i weithwyr iau nag 21 oed, cynllun sy’n werth £3.1 miliwn; a 10. Bod Gweinidog Busnes y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, wedi galw am gyfradd sengl o £3.79 yr awr i brentisiaid yn Lloegr, sy’n golygu y byddai 31,000 o brentisiaid yn Lloegr ym mlwyddyn gyntaf eu rhaglen yn elwa o godiad cyflog o fwy na £1 yr awr. 1. Bod targed Llywodraeth Blair y dylai 50% o holl bobl ifanc y wlad fynd ymlaen i Addysg Uwch wedi arwain at ostyngiad yn nifer prentisiaethau, ac at agwedd bod prentisiaeth yn llwybr llai gwerthfawr at waith cyflogedig; 2. Bod y llwybr prentisiaeth trwy addysg a chyflogaeth yn llwybr gwerthfawr i bobl ifanc sydd yn aml yn cael ei esgeuluso a’i danbrisio o ran ei werth; 3. Y dylid gwneud mwy i hyrwyddo prentisiaethau ac i hybu'r model o brentisiaeth i bobl ifanc, trwy weithio â sefydliadau megis Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid; 4. Bod prentisiaethau’n cyfrannu’n fawr at ddatblygu gweithlu hynod fedrus ar gyfer dyfodol economi Cymru; ac 5. Y bydd cefnogi busnesau bach a chanolig i roi gwaith i brentisiaid yn rhoi hwb i economïau lleol, ac yn helpu pobl

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

23


ifanc i aros yn eu cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith eu hunain. ’r papur, Widening Access to Apprenticeships: Supporting Positive Choices in Post-16 Education and Training. 1. Ymgyrch brentisiaeth genedlaethol i annog pobl ifanc I ddewis prentisiaethau fel llwybr trwy addysg a chyflogaeth ac i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid ifainc; 2. Buddsoddi mewn cyfleusterau Colegau Addysg Bellach i gefnogi prentisiaethau ledled Cymru, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr o dan Lywodraeth y Glymblaid; 3. Prysuro â chynlluniau i ddynwared y model Almaenig o brentisiaethau, a chynlluniau Gweinidog Busnes y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable, i gynnig grantiau I fusnesau bach ar gyfer pob un person di-waith ifanc a gyflogir fel prentis; 4. Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i alw ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i roi pob prentis ar isafswm cyflog cenedlaethol cyfartal o £3.79; a 5. Chynlluniau i godi’r isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid i’r un gyfradd â’r isafswm cyflog ar gyfer pobl ifanc 18-20 mlwydd oed.

Cynhadledd Gwanwyn 24

Caerdydd


C2: Economi Cryfach a Chymdeithas Decach Pwyllgor Polisi Cenedlaethol cyflawniadau’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth, megis: 1. Rhoi £800 o ostyngiad treth i 1.2 miliwn o weithwyr Cymru sydd ar gyflog isel trwy godi trothwy’r dreth incwm i £10,500, gan olygu nad yw 153,000 o bobl yn talu treth incwm o gwbl; 2. Rhoi £2,000 o ostyngiad i 83,600 o deuluoedd Cymru ar gost eu gofal plant; 3. Helpu busnesau i greu 1.7 miliwn o swyddi newydd; 4. Darparu cynnydd o £650 ym mhensiwn y wladwriaeth a diogelu gwerth pensiwn y wladwriaeth trwy sicrhau bob blwyddyn ei fod bob amser yn codi gyda chwyddiant, enillion neu 2.5% - pa un bynnag yw’r uchaf – y clo triphlyg ar bensiynau; 5. Sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd cyntaf y byd; 6. Rhoi £2,000 o arian parod yn ei ôl i bob cyflogwr ar y dreth y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr; 7. Ei gwneud hi’n anos osgoi trethi, gan ennill £9 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol i’r wlad; 8. Trydaneiddio llinellau rheilffordd De Cymru a’r Cymoedd; 9. Rhoi diwedd ar arfer gwarthus y Blaid Lafur o gaethiwo plant diniwed er dibenion mewnfudo; 10. Sicrhau bod amaethwyr yn cael bargen deg trwy greu Cod Cyflenwi Bwydydd i atal archfarchnadoedd mawrion rhag eu pluo nhw;

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

25


11. Cyflwyno seibiant ar y cyd i rieni, fel bod mamau a thadau’n rhannu seibiant mamolaeth a thadolaeth fel maent yn ei gredu sy’n briodol; 12. Cyflwyno priodas i bobl o’r un rhyw; 13. Diddymu cynllun cardiau adnabod ymwthiol a drudfawr y Blaid Lafur, atal y llywodraeth rhag storio DNA pobl ddiniwed yn barhaol, a rhoi diwedd ar gymryd olion bysedd plant mewn ysgolion heb ganiatâd y rhieni; ac 14. Atal y Ceidwadwyr rhag talu llai i weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr. 1. Er 2010, bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweithio mewn Llywodraeth yn San Steffan i achub ac atgyweirio economi drylliog Prydain, ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gweithio yn yr wrthblaid yng Nghymru i adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach trwy sicrhau £282 miliwn i helpu plant difreintiedig i gael gwell addysg, cyllid ar gyfer 5,000 o brentisiaid, a chyflwyno Cynllun Tocynnau Teithio Rhatach i Bobl Ifanc sy’n Deithwyr Ifainc ar gyfer galluogi pobl ifanc 16 i 18 oed i gael gostyngiad wrth deithio ar fysiau; ac 2. Y dylai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru geisio sicrhau ein bod yn adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach yng Nghymru, gan ddarparu cyfle i bawb. cyhoeddiad dogfen cyn maniffesto’r Blaid Ffederal ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015 ac mae’n galw ar y Pwyllgor Polisi i ddefnyddio hyn a pholisi’r blaid

Cynhadledd Gwanwyn 26

Caerdydd


yng Nghymru fel y sail ar gyfer datblygu Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015. yn neilltuol gynigion i: A.

Fantoli’r gyllideb erbyn 2018, i ddiogelu’r adferiad economaidd ac i ostwng dyled Prydain;

B.

Gwneud gostwng y diffyg ariannol yn deg trwy sicrhau bod enillwyr cyflogau uchel a’r cyfoethocaf yn talu’u cyfran, yn cynnwys trwy gyflwyno treth Plasty wedi’i bandio;

C.

Pennu rheolau cyllidol newydd i fantoli’r gyllideb, gan ganiatáu benthyca ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol;

CH.

Ailweirio’r economi i ddileu carbon, ailadeiladu ein seilwaith cenedlaethol, a chofleidio technoleg newydd, fel y gall y genhedlaeth nesaf fwynhau llewyrch hirdymor a chael eu diogelu rhag y bygythiad o newid aruthrol yn yr hinsawdd;

D.

Gostwng y dreth incwm £400 ar gyfer gweithwyr sy’n ennill cyflogau isel a chanolig, gan ysgafnhau’r wasgfa ar gyllidebau aelwydydd;

DD.

Ymgyrchu tros fwy o nyrsys a chynyddu gwariant ar gyfer GIG adfydus Cymru,

E.

Ymgyrchu yng Nghymru i gynyddu’r arian a warir ar ein disgyblion mwyaf difreintiedig trwy’n Premiwm Disgybl;

F.

Cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy a charbon isel yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion ein hunain ac i ddarparu potensial ar gyfer allforio erbyn 2050;

FF.

Buddsoddi i wneud y Deyrnas Unedig yn arweinydd y byd mewn ceir carbon isel, defnyddio ynni’n effeithlon, a gweithgynhyrchu uwch-dechnoleg;

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

27


G.

Cyflwyno rhagor o bwerau i Gymru dros drafnidiaeth, S4C, cyflogau athrawon, carthffosiaeth, caniatâd ynni, cyfiawnder ieuenctid, plismona a thros y cyfnod hwy, pwerau eraill yn ymwneud â chyfiawnder, a phŵer i gyflwyno pleidleisio’n 16 oed;

NG.

Llwyr weithredu cynigion Rhan 1 Comisiwn Silk ar rymoedd ariannol i Gymru;

H.

Sicrhau cyllido teg i Gymru trwy gynyddu’r grant bloc I Gymru i lefel deg dros gyfnod Senedd a rhoi sylw i’r anghydbwysedd trwy ymwreiddio’n syth derfyn isaf Barnett fydd wedi’i bennu ar lefel sy’n adlewyrchu’r angen i gyllido Cymru’n deg;

I.

Symud tuag at fodel ‘cadw pwerau’ ar gyfer Senedd Cymru fel yr argymhellir gan Gomisiwn Silk;

L.

Caniatáu i Lywodraeth Cymru bennu’i gwyliau banc ei hun;

LL.

Trosglwyddo cyfrifoldeb dros y system etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

M.

Diogelu annibyniaeth gyllidol a golygyddol darlledwyr yn y Gymraeg;

N.

Adfer hyder yn system fewnfudo Prydain gyda rheolau teg a gweinyddiaeth gymwys, fel y gall y genhedlaeth nesaf barhau i fyw mewn cymdeithas agored, oddefgar sy’n elwa o bobl ac arbenigedd o bob rhan o’r byd;

O.

Trydaneiddio prif leiniau megis lein reilffordd arfordir Gogledd Cymru ac ailagor gorsafoedd lleol i alluogi mwy o bobl i deithio ar drenau; a

P.

Diddymu tollau ar Bont Hafren, unwaith y bydd y costau adeiladu ac atgyweirio presennol wedi’u talu.

Cynhadledd Gwanwyn 28

Caerdydd


C3: Gofal Iechyd ar gyfer y Dyfodol (Papur Polisi Iechyd a Gofal Cymdeithasol) Pwyllgor Polisi Cenedlaethol 1. Iechyd a gofal cymdeithasol yw’r maes unigol mwyaf o wariant datganoledig yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru; 2. Yn 2010, roedd gwariant iechyd a chymdeithasol yn cynrychioli tua 42% o gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru; 3. Dangosir graddfa’r her gan yr amcangyfrifiad bod ar y GIG angen oddeutu £200-250 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn dim ond i "aros yn ei unfan" ac i osgoi’r hyn a all fod yn "fethiant trychinebus ar wasanaeth"; ac 4. Er ein bod yn gwario mwy y pen na Lloegr ar y GIG, rydym yn dioddef deilliannau gwaeth – amseroedd aros hwy, amseroedd ymateb arafach gan ambiwlansys, mynediad salach a salach at driniaethau newydd. 1. Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bob amser yn cael eu tywys gan egwyddorion sefydlu’r GIG – darparu gofal am ddim, pan fydd arnoch ei angen, ni waeth beth fo’ch gallu i dalu; 2. Mae’n rhaid inni gysylltu gwahanol elfennau o iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn cyflawni mwy o effeithlonrwydd; 3. Mae’n rhaid i anghenion y claf fod wrth graidd y GIG, a bod yn rhaid i ofal dros gleifion gael ei ganoli ar urddas,

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

29


cydymdeimlad, dewis a rheolaeth o fewn amgylchedd glân, diogel ac a reolir yn dda; 4. Dylid gwarantu bod cleifion yn cael y driniaeth orau, yn y lle cywir, ar yr amser cywir i ddiwallu’u hanghenion gofal iechyd; 5. Dylid cymryd iechyd meddwl mor o ddifri’ ag iechyd corfforol; 6. Mewn canolbwyntio ar atal a chyflenwi gwasanaeth lleol, â’r nod o ddiwallu anghenion cleifion a bod yn fwy costeffeithiol yn y pen draw; 7. Mae’n rhaid inni wella addysg gyhoeddus am y gwasanaeth iechyd parthed yr hyn y dylent ei ddisgwyl gan y GIG a ble y dylent fynd am ofal; 8. Mae arnom angen mwy o gydweithredu rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond dim ad-drefnu mawr crynswth. Yn hytrach na hynny, byddwn yn galluogi integreiddio ar alwad; ac 9. Mae’n rhaid inni ymwreiddio ail-alluogi wrth graidd ein hymagweddiad tuag at iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu pobl i wneud pethau drostynt eu hunain a gwella’u gallu hyd yr eithaf i fyw bywyd mor annibynnol â phosibl. ’r papur polisi Healthcare for the Future. 1. Sefydlu Comisiwn hollbleidiol a di-blaid i sicrhau bod gan Gymru GIG sy’n gynaliadwy’n glinigol ac yn ariannol, ac i sicrhau cynllun hanesyddol a hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol;

Cynhadledd Gwanwyn 30

Caerdydd


2. Bod cyflenwi iechyd yn cael ei reoli’n well, ar gost resymol, mewn amgylchedd mwy cyfyngedig trwy: a. Weithredu model newydd o ofal iechyd ar gyfer pobl hŷn, yn cynnwys trwy hyfforddi mwy o glinigwyr i ofalu am bobl oedrannus, buddsoddi mewn ysbytai bach a gofal yn y gymuned, a rhoi’r gorchwyl i bractisau meddygon teulu nodi pobl sydd mewn perygl o a fiechydon sy’n gysylltiedig ag oedran, a rheoli’u gofal a’u hiechyd yn rhagweithiol; b. Gwella statws iechyd meddwl trwy: i.

Ymgorffori parch cydradd rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol mewn deddfwriaeth;

ii. Cynyddu cyllid cymesurol ar gyfer iechyd meddwl o fewn cyllideb gyffredinol y GIG, yn cynnwys atal, i adlewyrchu maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol; iii. Cynnwys dosbarthiadau ar gyfer plant a phobl ifanc ynghylch sut i ofalu am eu hiechyd meddwl ac adeiladu gwytnwch emosiynol yn y cwricwlwm cenedlaethol; iv. Annog pob sefydliad i weithio i ddod yn gyflogwyr sy’n ystyriol o iechyd meddwl; v. Cyflwyno Concordat Gofal Argyfwng rhwng polisi, parafeddygon a’r gwasanaethau iechyd yng Nghymru i sicrhau bod pobl sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen; a vi. Sefydlu Tasglu Iechyd Meddwl.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

31


c. Datblygu gweithlu meddygol a strategaeth hyfforddi genedlaethol er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu lleoli a’u hyfforddi’n effeithiol; ch. Ymestyn y Gronfa Technolegau Iechyd i gefnogi hybu meddyginiaethau newydd ac yn neilltuol i gefnogi ymchwil i feddyginiaethau haenedig; d. Datblygu cynllun Cymru gyfan ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol a chael gwared â’r glwyd ‘eithriadoldeb’ sy’n rhwystro llawer o gleifion rhag cael at gyffuriau y cred eu clinigwr y gallent eu helpu; dd. Gofyniad ar awdurdodau lleol i gyflymu ceisiadau ar gyfer gofal cymdeithasol i bobl sy’n derfynol wael a’u teuluoedd a’u gofalwyr; e. Cyflwyno cynllun ar gyfer recriwtio sydd wedi’i dargedu i bractisau meddygon teulu gwledig; a f. Chyflwyno cynllun Mynediad at Feddygon Teulu sydd wedi’i gyllido’n iawn, gan gyllido practisau meddygon teulu i sicrhau y gall pobl gael yr apwyntiadau y mae arnynt eu hangen. 3. Gwella gofal ataliol ac ymyrraeth gynnar trwy a. Greu rhwydwaith o Fferyllfeydd Byw’n Iach, gan wella gwybodaeth cleifion am y dewisiadau iechyd a ffyrdd o fyw; a b. Sicrhau bod gan bob ysgol nyrs wedi’i neilltuo. 4. Grymuso cleifion trwy: a. Gyflwyno cysylltiadau e-bost a Skype â’ch meddyg teulu, yn dilyn cynllun peilot; a

Cynhadledd Gwanwyn 32

Caerdydd


b. Sicrhau bod gan bob claf gofnod claf electronig y mae ganddynt y rheolaeth fwyaf posibl drosto. 5. Datblygu llywodraethu o amgylch iechyd a gofal cymdeithasol trwy: a. Ganiatáu i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardal leol ffurfio sefydliad iechyd integredig unigol, sy’n gyfrifol am reoli’r gwaith o ddarparu ac integreiddio gwasanaethau yn yr ardal honno, yn amodol ar ymgynghori â’r cyhoedd, trefniadau integredig ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd yn drylwyr, a chymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru; b. Ysbytai’n sefydlu adran feddygol i gydgysylltu gofal i gleifion ac i fod yn gyfrifol am yr holl wasanaethau meddygol ledled yr ysbyty, dan arweiniad uwch-feddyg; a c. Thrafod Cytundeb newydd ynghylch Darpariaeth Iechyd Drawsffiniol â Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod yna ddull cyson o weithredu tuag at driniaethau i gleifion sy’n Gymry a Saeson. 6. Monitro a sicrhau ansawdd trwy a. Gyflwyno arolygiadau ysbytai dan arweiniad clinigwyr ac a adolygir gan gymheiriaid, gyda chyfraniad gan gleifion; b. Gweithio â’r gwasanaeth iechyd i ddatblygu ffyrdd newydd o fesur perfformiad mewn ffordd sy’n glinigol briodol ac ystyrlon.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

33


C4: Addysg Gerddoriaeth IR Cymru 1. Mae cynghorau trwy Gymru i gyd wedi gwneud toriadau, neu maent yn ystyried toriadau i’w Gwasanaeth Addysg Gerddoriaeth; 2. Mae’r ddarpariaeth Addysg Gerddoriaeth ledled Cymru yn anwastad, gyda lefel y ddarpariaeth yn amrywio o Gyngor i Gyngor; 3. Yr effaith andwyol a gaiff hyn, nid yn unig o ran ein Ensembles Ieuenctid Cenedlaethol, ond hefyd o ran y budd addysgol ehangach a enillir wrth i blant gael mynediad at addysg gerddoriaeth; 4. Mae cerddoriaeth yn datblygu gallu plant i ganolbwyntio, mae’n ysgogi’u datblygiad deallusol, mae’n magu hyder, mae’n codi dyheadau ac mae’n rhoi mwy o ddealltwriaeth ac empathi iddynt am eraill; 5. Cydnabyddir yn gyffredinol fod plant sy’n canu neu’n chwarae offerynnau cerdd yn gwneud yn sylweddol well mewn gwersi eraill na’u cyfoedion nad ydynt yn gwneud y pethau hyn; ac 6. Mai yn Lloegr, bod £18 miliwn wedi’i ddyrannu i gynnal gwasanaethau cerddorol tra bod Menter Cerddoriaeth Ieuenctid Llywodraeth yr Alban yn sicrhau bod gan holl blant ysgol yr Alban fynediad at flwyddyn o wersi cerddoriaeth am ddim erbyn iddynt gyrraedd Blwyddyn 6.

Cynhadledd Gwanwyn 34

Caerdydd


1. Mae Cymru mor falch o’n ensembles cerddoriaeth ieuenctid cenedlaethol ag yr ydym o’n timau chwaraeon; ac 2. Y dylai’r gallu i gael at addysg gerddoriaeth fod yn gyfan gwbl seiliedig ar y gallu i chwarae, nid ar y gallu i dalu. 1. Strategaeth genedlaethol ar addysg gerddoriaeth sy’n sicrhau bod mynediad at y cyfryw ddarpariaeth yn gyson trwy Gymru i gyd, sy’n helpu i wneud darpariaethau o’r fath yn fwy cynaliadwy, a bod rhwystrau ariannol rhag cael at y gwasanaethau hyn yn cael eu lleihau cymaint ag sy’n ymarferol bosibl; a bod 2. Llywodraeth Cymru yn sicrhau y darperir yr adnoddau angenrheidiol i’r Ensembles Ieuenctid Cenedlaethol i sicrhau’u bod yn cael sail gadarnach i barhau i ffynnu.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

35


C5: Adeiladu Cymdeithas Decach (Papur Polisi ar Anghydraddoldeb) Pwyllgor Polisi Cenedlaethol 1. Mai Rhyddfrydwr, William Beveridge, a ysgrifennodd yr adroddiad yn 1942 a dorrodd gŵys newydd ar `Social Justice and Allied Services’. Galwodd am ffyrdd i ymladd y pum cawr dieflig, sef bod mewn eisiau, afiechydon, anwybodaeth, aflendid a diweithdra; 2. Y Democratiaid Rhyddfrydol a flaenoriaethodd y rheiny sydd fwyaf anghenus trwy gyflwyno’r premiwm disgybl, gan ostwng trothwy isaf y dreth incwm a mynd i’r afael â benthycwyr arian diegwyddor trwy gapio’r cyfraddau llog a godir; 3. Bod un o bob pump o aelwydydd Cymru o dan y ffin tlodi, a bod y ffigwr hwn ymysg plant yn un o bob tri, sy’n arswydus; 4. Gan Gymru y mae’r lefelau cyrhaeddiad isaf mewn addysg yn y Deyrnas Unedig, sydd ag effaith neilltuol o negyddol ar gymunedau o amddifadedd; a 5. Bod gordewdra ymysg plant, cyfraddau ysmygu a chyfraddau yfed alcohol ymysg ieuenctid yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr. 1. Y dylai pawb gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ardderchog; 2. Y dylai pobl gael eu grymuso i fyw’r bywyd y maent yn dymuno’i fyw;

Cynhadledd Gwanwyn 36

Caerdydd


3. Bod Llywodraeth Lafur Cymru’n gwneud tro sâl â phobl; ac 4. Nad oes yna le i hunanfoddhad yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb. Papur Polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Adeiladu Cymdeithas Decach a Chyfle i Bawb. 1. Fwy o gefnogaeth effeithiol i’r rheiny mewn angen trwy: a. ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy symleiddio nifer y sefydliadau a photiau cyllid sy’n delio ag amddifadedd; b. paratoi strategaethau i hwyluso’r sectorau lle mae gwaith cyflog isel yn gyffredin er mwyn symud ymaith oddi wrth fodelau busnes sydd wedi’u seilio ar gostau isel; c. gwneud Cymru’n fwy deniadol i fuddsoddwyr posib’ mewn sectorau â sgiliau uwch; ch. manteisio hyd yr eithaf ar effaith adnoddau y mae pen terfyn arnynt wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ddiwygio diwylliant y sector cyhoeddus trwy greu rhaglen arweinyddiaeth gadarn a chael rhagoriaeth gyson mewn monitro, perfformiad a rheoli prosiectau; d. cael mwy o ddidwylledd a thryloywder ar wariant y llywodraeth a hawliau pobl; dd. defnyddio cyllid y sector cyhoeddus i gynhyrchu capasiti, gweithgareddau ac adnoddau ychwanegol; a e. hyrwyddo’r defnydd o Undebau Credyd a’u gwneud yn fwy hygyrch.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

37


2. Gwell addysg i bawb trwy: a. ddarparu mynediad at y fenter Dechrau’n Deg i bob plentyn ledled Cymru ar sail angen yn hytrach nag ar sail hawl ddaearyddol; b. Gwella’r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus i athrawon; c. sefydlu Academi Arweinyddiaeth i Gymru; ch. sicrhau cymhwysedd awtomatig ar gyfer prydau bwyd ysgol am ddim i blant y mae’u rhieni’n derbyn budddaliadau a sicrhau safonau maethol da; d. gwella rhagor ar effaith grant y premiwm disgybl trwy wneud canllawiau’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn fwy eglur a chryno, defnyddio Pecyn Cymorth Sutton Trust, darparu cadarnhad cynharach o symiau cyllid i ysgolion, cynyddu rhannu arferion da ac ymestyn cyllid; dd. hwyluso gwell ymgysylltu â rhieni trwy ysgolion i godi cyrhaeddiad disgyblion; e. creu un ffrwd gyllido ar gyfer rhaglenni sy’n cael pobl yn barod ar gyfer gwaith ac sy’n cynyddu nifer y prentisiaethau; a f. sicrhau nad oes neb yn camfanteisio ar brentisiaid a’u bod yn derbyn rhaglenni hyfforddi rhagorol. 3. Gwell iechyd i bawb trwy: a. ddarparu “therapïau siarad” ychwanegol i’r rheiny sy’n wynebu heriau iechyd meddwl; b. diwygio Fframwaith Estyn i sicrhau y rhoddir mwy o ffocws ar addysg ynghylch bwyta’n iach ac ymarfer mewn ysgolion;

Cynhadledd Gwanwyn 38

Caerdydd


c. gweithredu Llwybr Gordewdra Cymru gyfan yn iawn; ch. lleihau effeithiau niweidiol alcohol trwy gyflwyno amcan trwyddedu iechyd y cyhoedd a sicrhau na werthir eitemau mewn paciau lluosog o ddiodydd alcoholig ar wahân; d. canolbwyntio mwy o adnoddau ar gael pobl ifanc i roi’r gorau i ysmygu a mynd i’r afael â baco anghyfreithlon; a dd. gwarantu mynediad at ddeintydd y GIG. 4. Gwell tai i bawb trwy: a. godi safonau gofynnol ar gyfer tai ar rent yn y sector preifat; b. sicrhau y gweithredir Safon Ansawdd Tai Cymru ledled Cymru gyfan; c. gwella’r ffordd o orfodi safonau, a hyfforddi landlordiaid i sicrhau gwell ansawdd tai; ch. sefydlu system o unioni camweddau ar gyfer tenantiaid yn y sector preifat; d. atal landlordiaid rhag troi tenantiaid allan am wneud cŵyn am atgyweiriadau hanfodol; dd. cael cofrestri tai hygyrch gorfodol a darparu cyngor ar adeiladu cartrefi sy’n ystyriol o bobl anabl; e. pennu targedau ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy sydd i’w hadeiladu yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad, i’w pennu gan Weinidogion o fewn chwe mis o etholiad y Cynulliad ac i hysbysu’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol amdanynt; f. mynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy gymell landlordiaid yn y sector preifat i insiwleiddio cartrefi; ac

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

39


ff. annog a hwyluso’r defnydd o ddebydau uniongyrchol i sicrhau bod pobl yn elwa o arbedion ar eu biliau cyfleustodau. 5. gwell trafnidiaeth i bawb trwy: a. greu Awdurdodau Cludiant Teithwyr yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cludiant mwy fforddiadwy a hygyrch; b. ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau trwy’r Awdurdodau Cludiant i wella’r ffordd y rhoddir gwasanaeth i lwybrau cludiant yn ardaloedd gwledig a thlawd Cymru; c. gostwng prisiau tocynnau a chyflwyno "Oystercard" Cymru gyfan ar wasanaethau bysiau a ail-reoleiddir; ch. ystyried cost tocyn “y filltir” sy’n decach ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau rheilffyrdd yng Nghymru trwy fanyleb Masnachfraint Rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau; d. gwella amledd ac ansawdd teithio ar reilffyrdd trwy drydaneiddio lein Arfordir Gogledd Cymru, yn ychwanegol at y leiniau y cytunwyd arnynt yn Ne Cymru; dd. rhoi mwy o flaenoriaeth i lwybrau diogel i ysgolion; ac e. annog mwy o gerdded a beicio trwy ddarparu cymorth i ddatblygu llwybrau a rhaglenni addysg.

Cynhadledd Gwanwyn 40

Caerdydd


C6: Pont Cleddau Plaid leol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro 1. Yr Ymgyrch i ddileu tollau ar Bont Hafren; 2. Nad Pont Hafren yw’r unig bont dollau yng Nghymru, a bod Pont Cleddau yn Sir Benfro wedi codi tollau ers iddi gael ei hagor yn 1975; 3. Bod Pont Cleddau yn ffurfio rhan o ffordd yr A477 sy’n cysylltu gogledd a de Sir Benfro; 4. Bod yr A477, am y rhan fwyaf o’i llwybr, wedi’i dynodi fel Cefnffordd – mae wedi’i hisraddio o fod yn Gefnffordd yng Nghylchfan Waterloo yn Noc Penfro, ac mae’r cyfrifoldeb am gynnal y ffordd o’r man hwn yn nwylo Cyngor Sir Benfro; ac 5. Ym Mlwyddyn Ariannol 2014/15, rhagamcanir y bydd Pont Cleddau yn cyflawni incwm refeniw o £2.94 miliwn, gyda gwaith cynnal a staffio’r bythau tollau’n costio £1.1 miliwn, gan adael gwarged refeniw, yn fras, o dros £1.8 miliwn. 1. Bod parhau i godi tollau ar Bont Cleddau yn anghyfiawn a’i fod yn cynrychioli dull annheg o dalu am brosiectau seilwaith lleol; 2. Bod codi tollau ar Bont Cleddau yn llesteiriol i economi lleol Sir Benfro ac yn gweithredu fel treth leol sy’n rhwystr i ddatblygiad economaidd a theithio yn y Sir; ac 3. Y bydd codi tollau ar Bont Cleddau yn gweithredu fel anghymhelliad i fuddsoddwyr posib’ yn Ardal Fenter ddynodedig Dyfrffordd y Daugleddau.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

41


1. Ddileu tollau ar Bont Cleddau; a 2. Dynodi holl hyd yr A477 fel Cefnffordd, a bod Llywodraeth Cymru, trwy’i Hasiantaeth Cefnffyrdd, yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y bont a’i chynhaliaeth ar gost, yn fras, o £1 filiwn y flwyddyn.

C7: Cap Cyflog Prif Swyddogion Gweithredol Plaid leol Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro 1. Y tueddiad cynyddol i gyrff y sector cyhoeddus negydu ‘ffarwelion euraidd’ gwerth chwe ffigwr ag uwch-reolwyr sy’n ymadael â’u swyddi – enghreifftiau diweddar yw ymadawiad cyn-Brif Weithredwyr yng Nghyngor Sir Benfro a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr; 2. Bod cyflogau’r rhan fwyaf o staff yn y sector cyhoeddus wedi’u rhewi neu bod codiadau wedi bod ar neu’n is na chyfradd chwyddiant; 3. Y bydd tueddiadau’r dyfodol mewn lefelau gwariant cyhoeddus yn gorfodi rhagor o welliannau mewn effeithlonrwydd ac ailstrwythuro ledled y sector cyhoeddus; ac 4. Y gall unrhyw ailstrwythuro arfaethedig ar lywodraeth leol ar raddfa helaeth yn y dyfodol arwain at gynyddu achosion o’r cyfryw ‘ffarwelion euraidd’. 1. Na ellir cyfiawnhau taliadau diswyddo neu daliadau dileu swydd sydd dros £90,000 i uwch-staff yn y sector cyhoeddus sydd eisoes yn cael eu talu’n dda;

Cynhadledd Gwanwyn 42

Caerdydd


2. Bod yn rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer taliadau dileu swydd a thaliadau diswyddo i uwch-staff yn y sector cyhoeddus sydd dros y ffigurau statudol perthnasol a nodir mewn deddfwriaeth cyflogaeth gael eu hategu gan achos busnes priodol; ac 3. Y dylai’r holl achosion busnes sy’n ategu taliadau dileu swydd a thaliadau diswyddo gael eu cyhoeddi a bod yn amodol ar ymgynghori cyhoeddus a dadl gyhoeddus. 1. Uchafswm o £90,000 ar bob taliad dileu swydd a thaliad diswyddo yn y dyfodol ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn amodol ar ddarpariaethau i ddiogelu’r rheiny a delir yn is na’r cyfartaledd ond sydd â hanes maith o wasanaeth.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

43


C8: Sicrhau Cymru Ddwyieithog Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol 1. Roedd canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar yn dangos bod yna ostyngiad wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y rhan fwyaf o Gymru, gyda’r gostyngiadau mwyaf wedi digwydd lle mae’r Gymraeg yn draddodiadol wedi bod ar ei chryfaf; 2. Dim ond 0.33% o geisiadau cynllunio oedd yn amodol ar asesiad o’r effaith ar y Gymraeg; 3. Pôl barn diweddar gan Gymdeithas yr Iaith a ddangosodd fod 56% o atebwyr yn credu y dylai ysgolion yng Nghymru, mewn egwyddor, anelu at addysgu pob disgybl i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg; a 4. Methiant polisïau Llywodraethau olynol Cymru i gefnogi’r Gymraeg. 1. Y gellir newid sefyllfa’r iaith Gymraeg gydag ewyllys wleidyddol ac ymgyrchoedd positif. 2. Y bydd yn rhaid inni weithio i wneud Cymru i gyd yn lle deniadol i fyw ynddo, yn enwedig i’n pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, er mwyn helpu pobl i barhau’n rhan o’u cymuned ieithyddol. 3. Na ddylai siarad Cymraeg gael ei gyfyngu i rai cymunedau neilltuol, ond dylid galluogi ac annog pawb sy’n byw yng Nghymru i siarad Cymraeg. 1. Holl fentrau polisi Llywodraeth Cymru i fynd trwy broses asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb y Gymraeg.

Cynhadledd Gwanwyn 44

Caerdydd


2. Diogelu cyllid ac annibyniaeth olygyddol darlledwyr yn y Gymraeg. 3. Caniatáu i Lywodraeth Cymru bennu’i gwyliau banc ei hun, megis Dydd Gŵyl Dewi. 4. Rheoliadau cynllunio i ddiogelu’r iaith Gymraeg gan ddal i sicrhau y gellir adeiladu tai newydd addas mewn ardaloedd gwledig, megis trwy: a. Adolygu Nodyn Cyngor Technegol 20 yn syth; b. Gwneud asesu effeithiau a gaiff datblygiadau cynllunio ar iaith yn ofyniad statudol yn y Cynllun Datblygu Lleol; c. Sicrhau y gall iaith fod yn ystyriaeth sylweddol wrth bennu ceisiadau cynllunio. 5. Hyrwyddo dysgu Cymraeg trwy: a. Sicrhau bod gan bawb hawl ddiffuant i astudio yn y Gymraeg. b. Gwella Cymraeg ar fyrder fel ail iaith mewn ysgolion fel nod polisi allweddol a dyletswydd dros y Gymraeg mewn Cynlluniau Strategol Addysg; c. Annog y defnydd o’r Gymraeg ym mhob gweithgaredd ysgolion a ledled y cwricwlwm; ch. Sicrhau bod gan bob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd niferoedd digonol o athrawon sy’n gymwys ac yn alluog i addysgu’r Gymraeg; d. Sicrhau bod sgiliau iaith lafar sy’n addas ar gyfer y gweithle’n cael eu hymwreiddio yng nghwricwlwm yr iaith Gymraeg; dd. Paratoi strategaeth unigol a chynllun gweithredu i ddiogelu ac i hyrwyddo’r Gymraeg mewn nifer penodol o

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

45


ardaloedd ledled Cymru, gydag adolygiad blynyddol o’r sefyllfa pe gwelid gostyngiad o 5% neu fwy yng nghanran y siaradwyr Cymraeg; e. Targedu 6-10 o ardaloedd fel Ardaloedd Adnewyddu a Datblygu’r Gymraeg, a pharatoi cynlluniau iaith cynhwysfawr i gefnogi a datblygu twf ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd; f. Lansio ymgyrch genedlaethol ddwys i ddarbwyllo mwy o rieni plant ifainc i ddewis addysg trwy’r Gymraeg; ff. Targedu glaslanciau a glaslancesau Cymraeg fel carfan allweddol ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg, gan gynyddu gwasanaethau ieuenctid ar gyfer y grŵp hwn; g. Annog dysgu Cymraeg fel rhan o gwrs hyfforddi athrawon, a darparu datblygiad proffesiynol ychwanegol i athrawon sy’n dymuno gwella’u Cymraeg; ng. Cyflwyno darpariaeth arbennig i ddisgyblion a myfyrwyr i gyrraedd lefel gyfuwch ag eraill wrth ddysgu Cymraeg er mwyn cynnal addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. 6. Sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar y gweill yn adlewyrchu’r angen i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol. 7. Cynnwys bywiogrwydd y Gymraeg fel rhan o ddiffiniad Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy. 8. Gweithio â chenhedloedd eraill sy’n siarad ieithoedd Celtaidd i ledaenu arferion da.

Cynhadledd Gwanwyn 46

Caerdydd


Digwyddiadau ymylol yw digwyddiadau a gynhelir ar gyrion y Gynhadledd. Cânt eu cynnal yn ystod yr egwyl rhwng y sesiynau trafod yn neuadd y gynhadledd, a chyn busnes y gynhadledd neu ar ei ôl bob dydd. Maent yn cael eu trefnu fel arfer gan gyrff megis elusennau, busnesau a grwpiau trydydd sector. Weithiau bydd sefydliadau mewnol y blaid neu grwpiau o aelodau'r blaid yn trefnu digwyddiadau ymylol. Mae digwyddiadau ymylol fel arfer ar ffurf cyfarfod neu gyflwyniad, lle bydd ychydig o areithiau ar y dechrau ac yna cwestiynau o'r llawr. Mae'r fformat fodd bynnag yn amrywio - mae rhai ar ffurf trafodaeth bwrdd crwn lle gall pawb gyfrannu at y drafodaeth, neu dderbyniad diodydd anffurfiol. Mae lluniaeth yn cael ei ddarparu fel arfer mewn digwyddiadau ymylol. Bydd hyn yn amrywio o fwyd bys a bawd yn y rhan fwyaf o achosion, i bryd llawn, neu ddiodydd fel gwydraid o win, neu de a choffi yn unig. Cynhelir yr holl ddigwyddiadau ymylol yn yr Ysgol Reoli Caedydd. Bydd y rhestr ar y tudalennau nesaf yn dweud wrthych ym mha ystafell y cynhelir y digwyddiadau, pa sefydliad sy’n eu cynnal a'r thema. Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff unrhyw un â bathodyn cynhadledd dilys fynd i ddigwyddiadau ymylol. Nid oes angen bod yn aelod o’r blaid. O bryd i'w gilydd cynhelir digwyddiadau ymylol ar gyfer aelodau’r blaid neu wahoddedigion yn unig – os yw hyn yn wir, caiff ei nodi’n glir yn y rhestrau. Os oes gennych syniad am ddigwyddiad ymylol ac rydych yn dymuno trefnu un ar gyfer cynhadledd yn y dyfodol, e-bostiwch ian.walton@WelshLibDems.org.uk.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

47


Prifysgol Caerdydd

Bydd yr Athro Ian Jones o Brifysgol Caerdydd yn sôn am sut mae ceisio atal stigma tuag at iechyd meddwl yn helpu i lywio’r camau nesaf ym maes ymchwil. Y Farwnes Randerson fydd y cadeirydd, a cheir cyfraniadau gan Kirsty Williams AC, Ewan Hilton (Gofal) a Laura Dernie (Hyrwyddwr Ymchwil y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol). Darperir cinio bys a bawd. Croeso i bawb.

Tenovus Gofal Canser

Ymunwch ag arbenigwyr o Tenovus Gofal Canser, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Canser Felindre i drafod yr epidemig dichonadwy o ganserau yn gysylltiedig â’r Firws Papiloma Dynol a drosglwyddi’r yn rhywiol. Pam y mae Cymru angen ystyried cydraddoldeb a pam nad yw sticio gyda’r DU o angenrheidrwydd y peth cywir i'w wneud. Croeso i bawb. Cinio bach.

Age Cymru a Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Gall cwympo fod yn hynod beryglus ac achosi gofid mawr i bobl hŷn. Mae hefyd yn rhoi pwysau ar ysbytai, y GIG a gwasnaethau cyhoeddus eraill, megis gofal cymdeithasol. Byddwn yn trafod maint y broblem a’i effaith ar unigolion, ac yn cynnig atebion ymarferol i’r broblem. Dewch draw i drafod. Y Cadeirydd yw Peter Black AS. Byddwn yn darparu cinio bwffe a lluniaeth

Cynhadledd Gwanwyn 48

Caerdydd


Dalthlu’r Gymraeg Siaradwyr: Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC; Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; Aled Roberts, Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru a Llefarydd Addysg

Y Comisiwn Etholiadol

Sesiwn briffio yw hon wedi’i hwyluso gan y Comisiwn Etholiadol i ymgeiswyr ac asiantiaid sy’n sefyll yn etholiad cyffredinol Senedd y DU. Darperir lluniaeth.

Amgueddfa Cymru Heb os, mae Amgueddfeydd yn chwarae rhan allweddol yn y gymdeithas, gan helpu i feithrin hunaniaeth gymunedol, rhoi hwb i'r economi drwy dwristiaeth a chyfrannu at les y genedl. Ymunwch â ni i glywed am ein gweledigaeth newydd, a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Croeso cynnes i bawb. Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

49


Cymdethas Alzheimers & Gofal Canser Carie Curie How can we overcome barriers to care? Join Kirsty Williams AM and speakers from Alzheimer's Society and Marie Curie for this important discussion. Refreshments provided.

Diwygiad Rhyddfrydol

Gyda Dems Rhydd yn gweithio gyda'r Tor誰aid yn San Steffan i gyflwyno nifer o ddiwygiadau rhyddfrydol, bydd ein panel yn trafod a yw'r unig ffordd i sicrhau bod polis誰au rhyddfrydol yng Nghymru yw trwy weithio yn agosach ym Mae Caerdydd. Panel yn cynnwys Eluned Parrott AC a Farwnes Jenny Randerson

Cynhadledd Gwanwyn 50

Caerdydd


Prifysgol Caerdydd Ĺľ

Gyda Kirsty Williams AM, Danny Alexander AS a'r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd. Gyda mwy o ddatganoli ar ei ffordd i Gymru, mi fydd y panel yn trafod beth mae hyn yn ei olygu i Gymru, a ble nesaf i ddatganoli yng Nghymru.

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

51


Mae Arddangosfa’r Gynhadledd yn cynnwys stondinau a drefnwyd gan sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, a grwpiau mewnol y blaid. Gellir canfod yr Arddangosfa ym man Caffi’r Atrium, Ysgol Rheolaeth Caerdydd a bydd yn agored rhwng 09:00 a 16:30 ddydd Sadwrn, yr 28 o Chwefror a rhwng 09:00 a 14:00 ddydd Sul, y 1 o Fawrth. Gall pawb sydd â bathodyn cynhadledd dilys, ymweld â'r arddangosfa. Os hoffech arddangos mewn cynhadledd yn y dyfodol, e-bostiwch Ian.Walton@WelshLibDems.org.uk

Arddangoswyr Age Cymru

Dewch i gasglu copi o’n manifesto ar gyfer Etholiad Cyffredinnol 2015 ac i drafod y camau y dylai Senedd nesaf San Steffan eu cymryd i fynd i’r afael ac anghenion poblogaeth sydd yn heneiddio ac i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru

Amgueddfa Cymru Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa unigol ledled Cymru, yn ogystal â Chanolfan Gasgliadau Genedlaethol. Ers cyflwyno mynediad am ddim yn 2001, mae nifer yr ymwelwyr wedi mwy na dyblu gyda dros 1.7 miliwn o ymwelwyr yn cael eu derbyn yn flynyddol. Dewch i'n stondin i glywed mwy am ein gwaith, a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cynhadledd Gwanwyn 52

Caerdydd


Cymorth Canser Macmillan Yn Macmillan, rydyn ni’n gwybod sut gall diagnosis canser effeithio ar bob rhan o’ch bywyd ac rydyn ni yma i roi cymorth ichi drwy’r cyfan. Byddwn yn eich helpu i gael y cymorth, yr egni a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch chi, fel y gallwch deimlo fel chi eich hun eto. Mae Macmillan Cymru wedi buddsoddi bron i £10m yn ystod y tair blynedd ddiwethaf i ariannu gweithwyr proffesiynol Macmillan a gwella gwasanaethau canser yng Nghymru.

Y Ffederasiwn Busnesau Bach Y Ffederasiwn Busnesau Bach yw prif sefydliad busnes y DU â thua 200,000 o aelodau, ac mae mwy na 10,000 o’r rheini yng Nghymru. Mae’n bodoli i amddiffyn a hybu buddiannau Entrepreneuriaid Go Iawn y DU sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.fsb.org.uk/wales

NASUWT Cymru NASUWT Cymru yw’r undeb mwyaf sy’n cynrychioli athrawon a phrifathrawon yng Nghymru a thrwy’r Deyrnas Unedig i gyd. A hwythau â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy a rhwydwaith sefydledig o weithwyr gweithredol a gweithwyr achos trwy Gymru i gyd, mae NASUWT Cymru yn darparu lefel ddihafal o gefnogaeth i’w aelodau. nasuwt@mail.nasuwt.org.uk

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

www.teachersunion.org.uk

53


Prifysgol Caerdydd Rhaglen uchelgeisiol a lansiwyd gennym yn 2014 yw Prosiectau Ymgysylltu Blaenllaw i geisio ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Ymunwch â ni i gael gwybod mwy am sut rydym yn cynorthwyo prosiectau cymunedol sy’n helpu eu hunain i fynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd a lles, a hyrwyddo cynhwysiant addysgol a chymdeithasol.

Tenovus Gofal Canser Tenovus Gofal Canser yw elusen canser arweiniol Cymru, yn ariannu ymchwil ac yn cynorthwyo miloedd o gleifion canser a'u hanwyliaid pob blwyddyn. I gael gwybod mwy am sut yr ydynt yn gwella'r dyfodol i bawb sydd wedi'u heffeithio gan ganser yng Nghymru, dewch draw i'n stondyn.

Ynni Clyfar GB Rhwng nawr a 2020 bydd cyfle i bob aelwyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gael mesurydd clyfar heb unrhyw gost ychwanegol. Mae Ynni Clyfar GB yma i esbonio mwy am sut bydd yr ymgyrch gyflwyno’n gweithio a’r buddion ar gyfer defnyddwyr.

Cynhadledd Gwanwyn 54

Caerdydd


Mae’r hyfforddiant a ddarperir yn y Gynhadledd yn cwmpasu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth. Nid yw eleni, ag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, yn eithriad. Yng Nghynhadledd eleni, byddwn yn gweithredu sesiynau cynghori yn null meddygfeydd mewn meysydd allweddol megis NationBuilder a Connect, yn ogystal ag o ALDC (Cymdeithas Cynghorwyr Democratiaid Rhyddfrydol) a’r Tîm Cydymffurfio ym Mhencadlys y Democratiaid Rhyddfrydol, fydd ar gael i helpu ag unrhyw gwestiynau y gall fod gennych am Ddeddf PPERA neu ffurflenni Treuliau Cenedlaethol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Bwriadir y sesiynau hyn i fod yn sesiynau un-i-un ond os oes gennych gwpwl o aelodau o’ch tîm lleol y mae arnynt angen trafod maes pryder neilltuol, nid yw hyn yn broblem. Byddwn yn gweithredu system fwcio ar gyfer y meddygfeydd hyn. Gellir bwcio wrth Ddesg Gofrestru’r Gynhadledd yn Ysgol Rheolaeth Caerdydd ar sail ‘y cyntaf i’r felin a gaiff falu’. Os oes gennych unrhyw adborth am hyfforddiant yn y Gynhadledd, neu os ydych yn teimlo bod yna fwlch sgiliau yn y blaid y mae angen rhoi sylw iddo yn y Gynhadledd, gadewch inni wybod, os gwelwch yn dda, trwy e-bostio at Conference@welshlibdems.org.uk

Ffrainc vs Cymru a Storïau eraill....

Callaghan’s Bar, Holiday Inn, Caerdydd (mynedfa trwy Dderbynfa’r Gwesty). 28 Chwef - 17:00 yn hwyr (Dechrau am 17:30)

£15 yn cynnwys cyri a pheint

(mae dewisiadau llysieuol a diodydd ysgafn ar gael)

Cynhadledd Gwanwyn Caerdydd

55


(i’w gadarnhau)

Nos Wener, 27 Chwefror 19:15- 20:00 Bar y Lolfa Holiday Inn, Canol Caerdydd Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 1XD

Siaradwr Gwadd:

Nos Wener, 27 Chwefror 20:00 - yn Hwyr Bwyty Junctions Holiday Inn, Canol Caerdydd Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 1XD

Cinio’r Gynhadledd yw eich cyfle i gymdeithasu ag aelodau’r Blaid, cwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw o herwydd bod cinio’r gynhadledd yn boblogaidd iawn fel arfer. Os hoffech brynu tocyn,ffoniwch 029 2031 3400

Cynhadledd Gwanwyn 56

Caerdydd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.