Cylchlythyr Bae'r Gorllewin - Rhifyn 15 - Tachwedd 2018

Page 1

Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bae’r Gorllewin R H I F YN 1 5 YN Y RHIFYN HWN:

Fforwm Gwerth Cymdeithasol Bae'r Gorllewin

Digwyddiad: Eich Cartref, Eich Iechyd

Gwasanaeth Gofal Traed Age Connects CNPT

Gwneud y Dewisiadau Gofal Iawn

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Gwybodaeth ar gyfer Gofalwyr

www.baergorllewin.org.uk

TACHWEDD 2018

Fforwm Gwerth Cymdeithasol Daw grwpiau cymunedol, partneriaid statudol a dinasyddion at ei gilydd i lansio Fforwm Gwerth Cymdeithasol Bae'r Gorllewin. Ar 20 Medi, daeth dros 80 o aelodau'r gymuned, partneriaid sector statudol a sefydliadau cymunedol at ei gilydd, a chwrdd yng Ngwesty Aberavon Beach ger Port Talbot i wneud addewid i gefnogi 'Fforwm Gwerth Cymdeithasol Bae'r Gorllewin' newydd. Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) a Gwasanaethau Gwirfoddol Cynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe drefnodd y lansiad, a'i ddiben yw dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i rannu gwybodaeth a datblygu ffyrdd o weithio sy'n ymatebol i anghenion dinasyddion lleol a phobl mewn angen. Y bwriad yw cydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, yn arbennig y rhai hynny y mae angen Meddai’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal cefnogaeth arnynt. Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, AC (a welir yn y llun): Meddai Heidi Bennett, Prif Swyddog Gweithredol BAVO, "Rydym yn cydnabod y gall ystyr y term 'lles' olygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl. Mae angen gwrando ac ymgysylltu â phobl mewn modd ystyriol, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi ymrwymo iddo trwy'r Fforwm Gwerth Cymdeithasol. Gall newid yr hyn rydyn ni'n ei wneud, neu sut rydyn ni'n gwneud rhywbeth wneud gwahaniaeth mawr i les dinasyddion lleol, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall yr effaith ar gyfer mynd i'r afael â newidiadau cadarnhaol'. Mae Fforymau Gwerth Cymdeithasol yn ofyniad o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a thrwy rhain gosododd Llywodraeth Cymru ddyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo datblygiad sefydliadau gwerth cymdeithasol.

"Roeddwn yn falch iawn i allu bod yn rhan o lansiad Fforwm Gwerth Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, sydd â rôl bwysig i'w chwarae wrth gefnogi sefydliadau â gwerth cymdeithasol i ffynnu a datblygu arfer da. “Mae hefyd yn cynnig cyfle i'r sefydliadau gwerthfawr hyn chwarae rôl gyfunol yn y cynllunio strategol ac yn y broses o gyflwyno gwasanaethau gofal cymdeithasol â phartneriaid strategol. Rwy'n teimlo’n frwd dros bwysigrwydd gwasanaethau gofal diffuant, sydd wedi'u llunio ar y cyd. Rwyf hefyd yn argyhoeddedig bod datblygiadau yn y gymuned yn gallu bod yn well i bobl leol ac economïau lleol". Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) ar 01656 814000.

Mae'r cylchlythyr hwn ar gael mewn fformatau gwahanol. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 633805 neu e-bostiwch baer.gorllewin@abertawe.gov.uk


TUDALEN

2

Eich Cartref, Eich Iechyd Yn y symposiwm, amlygwyd yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Gwasanaethau Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws Bae'r Gorllewin. Ar 5 Hydref, ymgasglodd amrywiaeth o randdeiliaid o ranbarth Bae'r Gorllewin yn Stadiwm Liberty, Abertawe ar gyfer digwyddiad dysgu 'Eich Cartref, Eich Iechyd' ar gyfer y rheiny sy'n ymwneud â chyflwyno datblygiadau tai ac addasiadau i ddinasyddion neu ddylanwadu arnynt. Nod y diwrnod oedd galluogi cyfranogwyr i ddysgu mwy am y cyfeiriad strategol sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â materion a heriau sy'n gysylltiedig â Thai ac Iechyd. Gosodwyd yr olygfa gan raglen o brif siaradwyr ysbrydolus a gynigiodd gipolygon manwl ar effaith Tai ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd gan gynrychiolwyr y cyfle i gymryd rhan mewn detholiad o weithdai rhyngweithio â'r bwriad o hybu trafodaeth a chaniatáu ar gyfer rhannu gwybodaeth a phrofiadau.

Yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd PABM (llun uchod) oedd yn cyflwyno'r digwyddiad. Meddai, "Roedd hon yn sesiwn werthfawr a roddodd fewnwelediad go iawn i gyfranogwyr i'r cysylltiadau rhwng tai gwael ac iechyd gwael, a phwysigrwydd gweithio ar y cyd yn effeithiol er mwyn cyflawni gwell canlyniadau i'n poblogaeth. Roedd y digwyddiad yn cynnwys agenda amrywiol, ac roedd yn falch gennym groesawu sawl siaradwr hyddysg a amlinellodd fanteision gweithio ar y cyd a'r sylfaen dystiolaeth ar ei gyfer”. Bydd cyfraniadau'r rheiny a oedd yn bresennol yn cyfeirio cynllun gweithredu sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac a gaiff ei roi ar waith gan Is-grŵp Tai Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin.

Aeth cyfranogwyr ar gyfryngau cymdeithasol i rannu eu meddyliau am y diwrnod. Chwiliwch am y stwnshnod #yourhomeyourhealth ar Twitter i weld mwy ...


TUDALEN

3

Camu Ymlaen

Mae buddsoddiad gan y Gronfa Gofal Integredig yn helpu i ehangu gwasanaeth gofal traed i fwy o bobl hŷn ar draws Castell-nedd Port Talbot Mae gwasanaeth Age Connects Castell-nedd Port Talbot wrth ei fodd ei fod wedi debyn grant Cronfa Gofal Integredig (ICF) trwy Gynllun Grantiau PABM ar gyfer cynnal peilot Gwasanaeth Gofal Traed heb lawdriniaeth ar gyfer pobl leol sy'n 50 oed ac yn hŷn. Bydd y gronfa'n cynnig cyfle i bobl hŷn fanteisio ar wasanaeth gofal traed sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy, tra'n helpu i ateb y galw cynyddol gan boblogaeth sy'n heneiddio sy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd i ymdopi â'u gofal traed eu hunain. Yn ogystal â'r ddarpariaeth torri ewinedd presennol, bydd gwasanaethau ychwanegol yn cynnwys trin casewinedd neu ewinedd trwchus, gwaredu croen caled, lleihau cyrn a chaledennau a thriniaeth ar gyfer sawdl wedi cracio. Bydd buddsoddiad ychwanegol yn darparu Gwasanaeth Gofal Traed mwy cadarn i fwy o bobl sydd ei angen, a chaiff effaith uniongyrchol ar leihau cwympiadau a chynorthwyo pobl i barhau i fod mor actif ac annibynnol â phosib. Gyda nifer o glinigau cymdeithasol yn gweithredu ar draws ardal Castell-nedd Port Talbot, gwasanaeth ymweld â'r cartref ac ymweliadau â chynlluniau byw'n annibynnol, llety lloches ac ysbytai, mae'r fenter yn sicrhau bod pobl hŷn yn cael mynediad at wasanaethau addas mewn man ac ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.

“Mae'r gwasanaeth rwyf wedi ei dderbyn wedi bod yn rhyfeddol mae ar garreg fy nrws, yn fforddiadwy ac o'r radd flaenaf"

Mae'r tîm Gofal Traed hefyd yn brofiadol wrth nodi anghenion cefnogi ychwanegol megis unigrwydd ac arwahanrwydd, a bydd yn hysbysu'r gwasanaethau priodol a gynigir yn fewnol a/neu gan sefydliadau partner. Mae aelodau o staff wedi’u gwreiddio'n ddwfn yn y gymuned leol ac wedi datblygu perthynas o ymddiriedaeth â defnyddwyr gwasanaeth dros yr ugain mlynedd diwethaf. Fel canlyniad, cymorth gan yr aelodau staff yn aml fyddai'r cam cyntaf, a hynny wrth ymdrin â materion sensitif megis amddifadedd ariannol, gofal, cynllunio ar gyfer y dyfodol, materion cyfreithiol ac arwahanrwydd cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Gofal Traed, neu unrhyw agwedd arall ar waith Age Connects CNPT, cysylltwch â:

Defnyddiwr Gwasanaeth

Ffôn: 01639 617333 E-bost: info@acnpt.org.uk Gwefan: www.acnpt.org.uk

Gwneud y Dewisiadau Gofal Iawn Cael yr wybodaeth a'r cyngor cywir yw'r cam cyntaf i dderbyn y gofal a'r gefnogaeth briodol. Mae Cyfeiriadur Gwasanaethau Gofal a Chefnogi Pen-y-bont ar Ogwr, Castellnedd Port Talbot ac Abertawe 2018/19 yn cynnig arweiniad cynhwysfawr ar ddewis gwasanaethau gofal a thalu amdanynt. Mae'n cynnwys rhestr hir o ddarparwyr gofal preswyl a chartref, gwasanaethau arbenigol a chysylltiadau defnyddiol i helpu oedolion ag anghenion gofal a chefnogaeth i wneud dewisiadau sy'n iawn iddynt. Lluniwyd y cyfeiriadur gan Care Choices (www.carechoices.co.uk) gyda mewnbwn gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe. Os oes angen copi caled o'r cyfeiriadur arnoch, cysylltwch â Swyddfa Rhaglen Bae'r Gorllewin drwy e-bostio baer.gorllewin@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 633805.


TUDALEN

4

“Gall bod yn ofalwr fod yn brofiad cadarnhaol, ond gall hefyd fod yn heriol ac yn flinedig, yn gorfforol ac yn emosiynol. Efallai y bydd gofalwyr yn gweld nad oes ganddynt lawer o amser i ofalu am eu hanghenion eu hunain, sy’n gallu effeithio ar eu hiechyd a'u lles personol”

Hilary Dover Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Gofalwyr

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd - Safbwynt Gofalwr Gydag un o bob pedwar person yn wynebu problem iechyd meddwl bob blwyddyn, mae'n anochel y bydd pawb yn adnabod rhywun yr effeithir arno gan afiechyd meddwl. Ar 10 Hydref eleni, roedd Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin yn awyddus i roi pwyslais ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd trwy nodi effaith iechyd meddwl ar ofalwyr.

I ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â'r canlynol: Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr www.bridgendcarers.co.uk Rhif ffôn: (01656) 658479 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Rhif ffôn: (01656) 642279

Hilary Dover yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynradd a Chymunedol Bwrdd Iechyd PABM a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Gofalwyr. Meddai: "Hoffwn gynyddu ymwybyddiaeth o'r cymorth a'r gefnogaeth leol sydd ar gael ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind â phroblemau iechyd meddwl. Gall bod yn ofalwr fod yn brofiad cadarnhaol, ond gall hefyd fod yn heriol ac yn flinedig, yn gorfforol ac yn emosiynol. Efallai y bydd gofalwyr yn gweld nad oes ganddynt lawer o amser i ofalu am eu hanghenion eu hunain, sy’n gallu effeithio ar eu hiechyd a'u lles personol."

I ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, cysylltwch â'r canlynol: Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot www.nptcarers.org.uk Rhif ffôn: (01639) 642277 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Rhif ffôn: (01639) 686802

Mae canolfannau gofalwyr lleol neu wasanaethau gofalwyr ar gael ar gyfer unrhyw un y mae angen cymorth arno gyda'i rôl fel gofalwr. Byddant naill ai'n eich helpu'n uniongyrchol neu'n eich cyfeirio at rywun a all eich helpu.

I ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr yn ardal Cyngor Abertawe, cysylltwch â'r canlynol: Canolfan Gofalwyr Abertawe www.llywodraethwyrcymru.org.uk Rhif ffôn: (01792) 653344 Cyngor Abertawe Rhif ffôn: (01792) 636519

Eto i ddod... Wythnos Diogelu Genedlaethol (12 - 16 Tachwedd 2018) Ystyr diogelu yw amddiffyn iechyd, lles a hawliau dynol pobl, a'u galluogi i fyw heb niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae'n hanfodol i ofal iechyd a gofal cymdeithasol o safon. Ym Mae'r Gorllewin, mae cydweithwyr sy'n ymwneud â diogelu wedi treulio'r ychydig fisoedd diwethaf yn paratoi'n brysur at Wythnos Diogelu Genedlaethol, a gynhelir rhwng 12 ac 16 Tachwedd 2018. Lluniwyd rhaglen amrywiol o weithgareddau â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o'r agenda ddiogelu ac, yn fwy penodol, thema 'ecsbloetio'. Cynhelir digwyddiad dysgu ar gyfer ymarferwyr o bob rhan o'r rhanbarth ddydd Llun 12 Tachwedd yn Stadiwm Liberty Abertawe a fydd yn amlygu testunau megis County Lines, Radicaleiddio, Rheolaeth Orfodol a Chaethwasiaeth Fodern. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a'r gweithgareddau eraill sydd wedi'u cynllunio fel rhan o Wythnos Diogelu Genedlaethol, cysylltwch ag Uned Rheoli Busnes Bwrdd Diogelu Bae'r Gorllewin drwy e-bostio wbsb@npt.gov.uk I weld y rhaglen, ewch i www.wbsb.co.uk Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am yr eitemau a geir yn ein cylchlythyr, e-bostiwch western.bay@swansea.gov.uk neu ffoniwch Swyddfa Rhaglen Bae'r Gorllewin ar 01792 633805


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.