Cylchlythyr Bae'r Gorllewin - Rhifyn 16 - Mawrth 19

Page 1

Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol

RHIFYN 16 YN Y RHIFYN HWN:

Newid Ffiniau Bwrdd Iechyd

Wythnos Diogelu Genedlaethol 2018

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Y Diweddaraf: WCCIS

Ein Hymagwedd Cymdogaeth

Digwyddiadau Dathlu Gofalwyr

MAWRTH 2019

Partneriaid yn Paratoi ar gyfer Newid Ffiniau sydd ar ddod Croeso i 16eg rhifyn Cylchlythyr Bae'r Gorllewin, sef y rhifyn olaf! Efallai y byddwch yn ymwybodol ein bod yn ffarwelio â'n partneriaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 1 Ebrill 2019, ac felly ni fydd Bae'r Gorllewin yn parhau fel y mae ar hyn o bryd! Cyhoeddwyd y penderfyniad i newid trefn ffiniau'r Bwrdd Iechyd presennol gan Lywodraeth Cymru y llynedd, ac rydym wedi bod yn canolbwyntio ar roi'r newid hwn ar waith yn ystod y misoedd diwethaf.

Beth mae hyn yn ei olygu? O 1 Ebrill, bydd ffin Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cynnwys ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a'i enw newydd fydd 'Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg'. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn mabwysiadu teitl newydd sef 'Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe' gyda'r ôl troed daearyddol yn cynnwys ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Yn ei dro bydd hyn yn effeithio ar ein trefniadau fel pwyllgor cydweithredol rhanbarthol ac, yn sgîl ymarfer cynnwys gyda staff a dinasyddion yn gynharach eleni, dewiswyd y teitl newydd, 'Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg'. Meddai'r Cyng. Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Bae'r Gorllewin ar hyn o bryd:

"Gan edrych yn ôl, gallwn fod yn falch o'r berthynas gadarnhaol a deinamig rydym wedi ei sefydlu fel 'Bae'r Gorllewin', ac rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid ym mhob sector ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi bod yn allweddol wrth sicrhau ein bod yn cyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o'r safon uchaf posib. "Dyma gyfnod o newid mawr i bob un ohonom a bydd rhai elfennau o'r broses drawsnewid yn cymryd amser, ond rydym yn frwdfrydig am y dyfodol ac edrychwn ymlaen at y cam nesaf hwn fel Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg ar ei newydd wedd". Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn ac i gynnwys y newidiadau sy'n angenrheidiol i baratoi ar gyfer y bartneriaeth 'ar ei newydd wedd'. Mae hyn yn cynnwys: 

gwahanu cynnwys Asesiad Poblogaeth presennol Bae'r Gorllewin

cynllunio strwythur newydd, gan sicrhau bod cyd-gynhyrchu’n cael ei ddilyn ar draws yr holl ffrydiau gwaith

datblygu cynllun cyfathrebu diwygiedig, gan gynnwys cynllun gweithredu sy'n amlinellu sut mae'r bartneriaeth yn bwriadu cyflwyno brand newydd a gwella gwelededd y bartneriaeth a'i heffaith ar fywydau'r rheiny sy'n derbyn gwasanaethau.

Mae'r cylchlythyr hwn ar gael mewn fformatau gwahanol. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 633805 neu e-bostiwch west.glamorgan@abertawe.gov.uk


TUD.

2

Roedd cynhadledd eleni'n canolbwyntio ar thema 'ecsbloetio' ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd arbenigol a wnaeth gyflwyniadau ar sut i nodi dangosyddion ecsbloetio, camau y gellir eu cymryd i helpu i atal ecsbloetio a'r mathau o gefnogaeth sydd ar gael i'r rheiny yr effeithir arnynt.

Wythnos Diogelu Genedlaethol 2018 Cynhadledd ranbarthol yn archwilio effaith andwyol ecsbloetio Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol bob amser yn amser prysur ar gyfer cydweithwyr sy'n cymryd rhan mewn gwaith diogelu ar draws y rhanbarth, ac nid oedd eleni'n eithriad. Ar 12 Tachwedd daeth oddeutu 160 o aelodau o staff ynghyd yn Stadiwm Liberty Abertawe i rannu profiadau, dysgu a rhyngweithio. Trefnwyd y digwyddiad gan Fwrdd Diogelu Bae'r Gorllewin, sef partneriaeth sy'n cynnwys uwch-gynrychiolwyr awdurdodau lleol, Heddlu De Cymru, addysg, Bwrdd Iechyd PABM a nifer o asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill. Nod y bwrdd yw diogelu oedolion a phlant sydd mewn perygl o bob math o gam-drin, gan gynnwys ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd cynhadledd eleni'n canolbwyntio ar thema 'ecsbloetio' ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd arbenigol a wnaeth gyflwyniadau ar sut i nodi dangosyddion ecsbloetio, camau y gellir eu cymryd i helpu i atal ecsbloetio a'r mathau o gefnogaeth sydd ar gael i'r rheiny yr effeithir arnynt. Gwnaeth Jan Pickles, Aelod Bwrdd Diogelu

Annibynnol Cenedlaethol, osod yr olygfa ar gyfer y sesiwn, ac aeth ati i ddarparu trosolwg o rôl y Bwrdd Diogelu. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys y Prif Uwcharolygydd Martin Jones o Heddlu De Cymru a ddangosodd gyfres o glipiau fideo yn amlygu effaith County Lines ar gymunedau lleol. Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Rachael Eagles o Calan DVS, Ray Foulston o'r Safonau Masnach a Jasmin Ahmed, Cydlynydd Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg rhanbarthol. Roedd nifer o sefydliadau cefnogi eraill hefyd yn bresennol gyda stondinau gwybodaeth, ac anogwyd cyfranogwyr i edrych ar ardal y 'farchnad' a rhyngweithio â deiliaid stondinau.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Yn rhifyn haf 2018 ein cylchlythyr, gwnaethom gynnwys cyflwyniad i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) newydd ei sefydlu, a fydd yn darparu cefnogaeth, cyngor neu gyfeirio addas i unigolion ag awtistiaeth (plant ac oedolion) a'u teuluoedd a'u gofalwyr, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi i weithwyr proffesiynol. Yn ein rhanbarth, bwriedir cynnal digwyddiad lansio swyddogol y gwasanaeth yn hwyrach eleni, ac mae paratoadau'n mynd rhagddynt. Meddai Catherine Vaughan, Rheolwr GAI Bae'r Gorllewin: "Mae llawer wedi bod yn digwydd y tu ôl i'r llenni ac mae'r

gwasanaeth yn dechrau datblygu. Rydym wedi recriwtio ar gyfer bron pob rôl yn y tîm ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar ein gwaith ar ôl i'n cydweithwyr newydd weithio eu cyfnodau rhybudd. "Bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar sefydlu gwasanaeth asesu diagnostig ar gyfer oedolion a datblygu cefnogaeth ddiagnostig sy'n canolbwyntio ar y person". Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £13 miliwn hyd at 2021 i ddatblygu'r GAI ar draws Cymru. Ceir mwy o wybodaeth yn:

www.asdinfowales.co.uk


WCCIS

TUD.3

‘SYSTEM WYBODAETH GOFAL CYMUNEDOL CYMRU’ Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn llwyfan gwybodaeth unigol sy'n cefnogi cyflwyno gofal iechyd a chymdeithasol cymunedol a blaengar integredig sy'n canolbwyntio ar y person. Bydd yn galluogi awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd cymunedol i rannu cofnodion gofal a gwneud y gorau o wasanaethau i ddinasyddion ar draws Cymru, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cynnydd ar draws y rhanbarth... Gwnaed cynnydd cadarnhaol wrth roi WCCIS ar waith ar draws rhanbarth Bae'r Gorllewin. Mae Cyngor Abertawe wedi hen ddechrau ar y cam gweithredu ar ôl llofnodi Gorchymyn Gweithredu yr Hydref diwethaf. Mae swyddogion o wasanaethau perthnasol (gofal cymdeithasol ac iechyd) wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect i nodi'r prosesau ac adolygu dogfennaeth er mwyn paratoi i lunio'r system yn y modd gorau. Nodwyd 'hyrwyddwyr' WCCIS ac maent yn cwrdd yn rheolaidd i rannu cyngor ac argymhellion, wrth dderbyn mewnwelediad i'r system a phrofiad ymarferol ohono hefyd. Disgwylir i'r system fod yn fyw erbyn diwedd mis Chwefror 2020, ac mae strategaeth hyfforddiant yn cael ei datblygu ar hyn o bryd i sicrhau bod yr holl staff yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol yn ystod cyfnod y newid. Cymeradwywyd achos busnes amlinellol WCCIS ar gyfer Bwrdd Iechyd PABM ym mis Tachwedd 2018, sy'n caniatáu i'r prosiect symud ymlaen. Mae achos busnes llawn a Gorchymyn Gweithredu drafft bellach yn cael eu paratoi er mwyn eu hadolygu tua diwedd y flwyddyn. Mae gwaith paratoi a chynnwys yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun a arwaenir gan y gwasanaeth a fydd yn cefnogi timau perthnasol i weithio ar sail integredig. Fel arfer, mae'r cam gweithredu'n dechrau 12 mis yn sgîl llofnodi'r Gorchymyn Gweithredu, ond mae Bwrdd Iechyd PABM yn awyddus i adolygu cyfleoedd er mwyn gallu dechrau ar y cam gweithredu'n gynt. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ddatblygu'r

system er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth yn well. Yn ddiweddar, cyrhaeddwyd un garreg filltir drwy lunio'r system i reoli taliadau gofal maeth, a aeth yn fyw ar ddechrau mis Chwefror. Bydd ap ffonau symudol WCCIS ar gael i'w brofi gan ddefnyddwyr cenedlaethol cyn bo hir, a bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu at gyfnod prawf bach a reolir, ynghyd â staff iechyd yn y Tîm Adnoddau Cymunedol. Bu Castell-nedd Port Talbot yn cwrdd â'r Tîm Rhanbarthol yn rheolaidd tua diwedd 2018 i weithio drwy ymarferoldeb WCCIS a nodi unrhyw newid busnes sy'n ofynnol er mwyn mabwysiadu'r system. Yn sgîl cwblhau'r adolygiad hwn, mae canfyddiadau cychwynnol wedi cael eu hadrodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae camau nesaf bellach yn cael eu hystyried.

Un maes gwaith allweddol ar gyfer Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg fydd 'Ein Hymagwedd Cymdogaeth' menter arloesol sy'n bwriadu trawsnewid y ffordd y caiff pobl eu cefnogi o ran eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi ffocws ar fwyafu'r asedau sydd ar gael mewn cymunedau a sicrhau bod y ddarpariaeth yn canolbwyntio ar y 'person cyfan'. I ddechrau bydd yr ymagwedd yn destun cynllun prawf ar ddau safle (ardaloedd clwstwr Cwm Tawe a Llwchwr ac ardaloedd Llansawel a Melin), gyda'r nod o'i chyflwyno'n ehangach yn y dyfodol. Cydweithio go iawn yw'r ethos gan y bydd Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio â sefydliadau a phobl leol i adeiladu cymunedau cadarn a chynhwysol lle bydd dinasyddion yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso a'u cefnogi i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain.


TUD.4

FEBRUARY 2019

Mae digwyddiadau'n amlygu gwaith caled ac ymroddiad gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ar draws y rhanbarth Mae mis Mawrth wedi bod yn fis llawn dathlu ar gyfer gofalwyr o bob oedran a chynhaliwyd dau ddigwyddiad i gydnabod cyfraniad gofalwyr o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Ar 1 Mawrth daeth grŵp o ofalwyr ifanc ynghyd yng Nghanolfan Halo, Pen-y-bont ar Ogwr, ar gyfer diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau rhyngweithiol gan gynnwys sgiliau pêl -droed, dosbarthiadau dawns, gweithdai celf ac, ar gyfer y bobl fwyaf dewr, wal dringo (yn y llun). Yr wythnos ganlynol (4 Mawrth), rhoddwyd cyfle i'r oedolion a wnaeth ymgasglu yng Ngwesty The Towers yn Jersey Marine, lle cawsant gyfle i wrando ar amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gwylio ffilm fer, cymryd rhan mewn seremoni wobrwyo a chlywed perfformiad cerddorol gwych gan Gôr Canolfan Gofalwyr Abertawe (yn y llun isod). Meddai Hilary Dover, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol Bwrdd Iechyd PABM a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin: "Roedd y ddau ddigwyddiad yn hynod lwyddiannus, ac roeddem yn falch iawn o weld cynifer o ofalwyr yn cymryd rhan yn y dathliadau. Gall bod yn ofalwr roi llawer o bwysau arnoch, felly mae'n hollbwysig bod y rheiny sy'n gwneud y rôl bwysig hon yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. "Mae llawer ohonynt wedi dweud wrthym y gall cael y cyfle i dreulio amser gydag eraill sy'n wynebu'r un problemau a heriau fod hollbwysig iddynt, ac mae digwyddiadau megis y rhain yn cynnig seibiant mawr ei angen i'r rheiny sy'n treulio'u bywydau pob dydd yn cyflawni eu rolau fel gofalwyr”.

Uchod: Gofalwyr Ifanc yn ymfalchïo yn y gweithgareddau a osodwyd yn y digwyddiad


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.