Clwydian Range and Dee Valley AONB leaflet

Page 1

Be’ sy’n ein gwneud ni’n arbennig?

Rheoli’r tirlun

Managing the landscape

Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig. Dyna pam eu bod wedi eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

’Does dim dwywaith bod ein golygfeydd yn hardd. Ac eto mae rhostiroedd grug Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio, clogwyni a glaswelltir Parc Gwledig Loggerheads, sgrïau Creigiau Eglwyseg ac ystumiau dwfn Dyffryn Dyfrdwy ymhell o fod yn naturiol.

Our scenery is certainly beautiful. Yet the heather moorland of the Clwydian Range and Llantysilio Mountains, the limestone cliffs and grassland of Loggerheads Country Park, the tumbling screes of Eglwseg Rocks and the deeply incised meanders of the Dee Valley are far from natural.

Nid rhyw fath o barc thema gwledig ydy’r AHNE. Mae’n gynnyrch canrifoedd o ffermio a mwyngloddio – ac mae’n parhau’n dirwedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, yn ogystal ag ardal hamddena.

of farming and mining – and remains a living, working landscape as well as a place of recreation.

Ond mae mwy i’r lle na’r palmentydd calchfaen, y rhostir grug, y crognentydd, gwlyptiroedd a choedwigoedd llydanddail sy’n llunio ein tirlun naturiol. Nid lle i syllu arno o bell yw’r porth hanesyddol hwn i Gymru. Mae’n mynnu cael ei archwilio a’i ddarganfod. Dim ond bryd hynny y medrwch chi ddeall pam bod yr AHNE yn wirioneddol arbennig. Y nodwedd allweddol ydy sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi yma. Fe gewch chi ymdeimlad o ryddid a gwagle eang yn y mannau gwyllt, anghysbell hyn. Bydd y golygfeydd godidog a thywyllwch awyr y nos yn eich lleddfu a’ch ysbrydoli chi. Byddwch yn teimlo eich bod chi’n perthyn yma, yn ein cyfuniad Cymreig unigryw o dreftadaeth, diwylliant a thirwedd rhagorol.

Dyna pam ein bod ni’n gweithio’n agos â’r ffermwyr y mae’r ardal mor agos at eu calonnau – ynghyd â chymunedau, gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr a chyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a chynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. Gyda’n gilydd rydyn ni’n sicrhau cadwraeth y golygfeydd godidog hyn, a’r cynefinoedd, y bywyd gwyllt a’r dreftadaeth. Rydyn ni’n cydbwyso anghenion y rhai sy’n byw, gweithio a chwarae yma fel y gall pob un ohonom ni fwynhau’r tirlun heb ei ddifetha.

That’s why we work closely with the farmers who care for so much of it – along with communities, volunteers, landowners and bodies such as Natural Resources Wales, the National Trust, Cadw and the councils of Flintshire, Denbighshire and Wrexham. Together we’re conserving this wonderful scenery, its habitats, wildlife and heritage. We’re balancing the needs of those who live, work and play here so we can all enjoy the landscape without spoiling it.

What makes us special? The Clwydian Range and Dee Valley is special. That’s why it is designated as an Area of Outstanding Natural Beauty. But it’s not just about the limestone pavements, heather moorland, hanging valleys, wetlands and broad-leafed woodland that make up our natural landscape. This historic gateway to Wales isn’t for gazing at from a distance. It demands to be explored. Only then can you understand why the AONB is truly special. It’s because of how it makes you feel. In these wild, remote places you’ll experience a sense of space and freedom. Our commanding views and dark night skies will soothe and inspire you. In our unique Welsh blend of heritage, culture and spectacular landscape, you will feel that you belong.

www.ahnebryniauclwydadyffryndyfrdwy.org.uk

www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk

Plants, animals and rocks

Y tirlun hanesyddol

If you want to know about the plants and animals you’re likely to encounter on a walk through the AONB, look beneath your feet. The underlying rock makes all the difference.

Mae pobl wedi dylanwadu ar a siapio’r tirlun rhyfeddol hwn ers i lwythau Oes yr Haearn adeiladu cadwyn o gaerau ar hyd Bryniau Clwyd a Mynyddoedd Llantysilio. Mae eu dylanwad i’w gweld yn ein cestyll, ein heglwysi a’n henebion, ac allan ar y bryniau, y caeau, y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd.

In our limestone grassland, for instance, you’ll see wild flowers such as cowslips, rockrose, rare autumn gentians and orchids growing in the alkaline soil. Not to mention the common blue butterflies and red-spotted burnet moths that rely on them.

Weithiau mae’r profiad yn ddramatig. Mae pentyrrau llechi anferth Bwlch yr Oernant neu Ddyfrbont Telford yn olygfeydd anhygoel.

We need to conserve such special habitats if we want to protect the rich diversity of our flora and fauna for future generations. That way our heathlands will still be home to upland birds such as stonechat, tree pipit, hen harrier and merlin. Our traditionally managed heather moorland will remain a stronghold for the black grouse – and along our waterways, if you’re very lucky, you might even glimpse an elusive otter or water vole.

Mae olion tawelach o’n gorffennol mewn mannau eraill. Wal gerrig sych a allai fod wedi bod yno ers canrifoedd. Clwt o’r grug wedi ei losgi ar rostir a reolir yn draddodiadol. Cipolwg ar hen odynnau calch neu dai injan trwy’r llystyfiant. Mae pobl yn parhau i weithio a chynnal busnesau yma heddiw, yn rhan o dirlun gweithiol sy’n eithriadol, naturiol a hardd ac wedi ei siapio gan bobl ers miliynau o flynyddoedd.

The historic landscape

Planhigion, anifeiliaid a chreigiau

Humans have shaped this remarkable landscape since Iron Age tribes built a chain of hillforts all along the Clwydian Range and Llantysilio Mountains. Their influence can be seen not only in our castles, churches and ancient monuments but out in the hills, fields, mountains and valleys.

Os ydych chi’n dymuno gwybod am y planhigion a’r anifeiliaid rydych chi’n debygol o ddod ar eu traws wrth fynd am dro trwy’r AHNE, edrychwch o dan eich traed. Mae’r graig o dan eich traed yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Er enghraifft, yn ein glaswelltir calchfaen fe welwch chi flodau gwyllt megis dagrau Mair, rhosynnau’r graig, crwynllys yr Hydref a thegeirian yn tyfu yn y pridd alcali, ynghyd â’r gloynnod byw glas cyffredin a’r gwyfynnod bwrned brych coch sy’n dibynnu arnynt.

Sometimes the experience can be dramatic. The massive slate heaps of the Horseshoe Pass or Telford’s dizzying Pontcysyllte Aqueduct are truly incredible spectacles.

Mae’n rhaid i ni gadw cynefinoedd arbennig o’r fath os ydym ni am amddiffyn amrywiaeth gyfoethog ein planhigion ac anifeiliaid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Elsewhere there are quieter reminders of the past. A dry stone wall that may have stood for two centuries. A patch of burnt heather on a traditionally managed moorland. Old limekilns or engine houses glimpsed through vegetation.

Trwy wneud hynny bydd ein gweundiroedd yn parhau i fod yn gartref i adar yr ucheldir megis clochdarod y cerrig, cornhedyddion y coed, bodau tinwyn a chudyllod bach. Defnyddir dulliau traddodiadol i reoli ein rhostiroedd grug fel y byddant yn parhau’n gadarnle i’r grugieir duon – ac os ydych chi’n lwcus iawn efallai y gwelwch chi gip ar ddyfrgri neu lygoden y dwˆr.

People are still going about their business today. Still part of a working landscape that may be outstanding, natural and beautiful but has been shaped by humans for millennia.

www.ahnebryniauclwydadyffryndyfrdwy.org.uk www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk

Trefi a phentrefi Mae Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn fwy na lle anhygoel i edrych arno. Mae’n cynnwys economi leol ffyniannus sy’n llawn o fusnesau dynamig. Mae lleoedd i chwarae, siopa a bwyta na fyddech yn eu canfod yn unrhyw le arall – gan mai’r ffordd maent yn gweithio â’r tirlun sy’n eu gwneud yn llwyddiannus. Felly yn ein pentrefi a threfi glan yr afon Corwen a Llangollen, sydd wedi denu twristiaid ers y cyfnod Sioraidd diweddar, mae bwydydd lleol yn amlwg iawn ar y fwydlen. Pan fo’r selsig ar eich plât brecwast wedi dod o’r fferm rownd y gornel, rydych chi’n medru blasu’r gwahaniaeth.

This publication is supported by the Rural Development Plan for Wales 2007-2013, funded by the Welsh Government and the European Agricultural Fund for Rural Development, through the Green Tourism project administered by Cadwyn Clwyd.

Dilynwch Lwybr Bwyd Bryniau Clwyd er mwyn cyfarfod rhai o gynhyrchwyr ˆ Fwyd Llangollen ym mis ein bwydydd mwyaf blasus. Dewch draw i Wyl Hydref neu fynd ar bererindod i siop fferm Rhug – lle ceir gw ˆ yl fwyd bob dydd.

Cefnogir y cyhoeddiad hwn gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, trwy’r prosiect Twristiaeth Gwyrdd a weinyddir gan Cadwyn Clwyd. Partneriaeth Cynllun Datblygiad Gwledig Sir Ddinbych Denbighshire Rural Development Plan Partnership

Towns and villages /clwydianrange @loggerheadscp Canolfannau Croeso: Llangollen 01978 860828 Y Rhyl 01745 355068 Yr Wyddgrug 01352 759331 Wrecsam 01978 292015

CYMRU WALES A5

A41

LLOEGR ENGLAND

A494 A483 A55

Itʼs one of the least discovered yet easiest to explore of Britainʼs finest landscapes. Being designated an AONB, one of just five in the whole of Wales, protects its stunning natural beauty for future generations. Almost touching the coast at Prestatyn Hillside in the north and stretching as far south as the remote Berwyn Mountains, it covers 390 square kilometres of windswept hilltops, heather moorland, limestone crags and wooded valleys. The Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty (AONB) is the dramatic upland frontier of North Wales.

Our beautiful landscape

Follow the Clwydian Range Food Trail to meet the producers of some of our most delicious foods. Visit the hugely popular Llangollen Food Festival in October or make a pilgrimage to the farm shop at Rhug Estate – where there’s a food festival going on every single day.

Clwydian Range Centre Loggerheads Country Park CH7 5LH 01352 810614

The AONB is run by a Partnership led by the three county councils of Denbighshire, Flintshire and Wrexham. They do everything from writing a management plan for the whole area to providing grants to communities and farmers.

So in our scattered villages and in the riverside towns of Corwen and Llangollen, which have attracted visitors since late Georgian times, local food is on the menu in a big way. When your breakfast sausages have come from the farm round the corner, you can taste the difference.

Tourist Information Centres: Llangollen 01978 860828 Rhyl 01745 355068 Mold 01352 759331 Wrexham 01978 292015

The Partnership contains all sorts of people with knowledge, enthusiasm and empathy for our wonderful landscape. If youʼre interested in joining, call AONB Officer Howard Sutcliffe on 01352 810614.

There are places to play, shop and eat that you simply couldn’t find anywhere else – because it’s the way they work with the landscape that makes them successful.

Traveline Cymru 0871 200 22 33 www.traveline.cymru.info

The Clwydian Range and Dee Valley isn’t just a spectacular place to look at. It’s also a thriving local economy full of dynamic businesses.

A55

Canolfan Bryniau Clwyd Parc Gwledig Loggerheads CH7 5LH 01352 810614

Darganfod

Iechyd a lles Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gwneud lles i chi. Bydd mynd allan yng nghefn gwlad i gerdded, beicio neu farchogaeth yn eich gwneud yn fwy heini ac yn rhoi hwb i’ch ysbryd. Mae llwybrau troed rhagorol yn croesi’r ardal, yn cynnwys Llwybr Gogledd y Berwyn, Llwybr Dyffryn Dyfrdwy a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n mynd trwy’r AHNE cyfan o Brestatyn i’r Waun. Mae’r tirwedd beicio mynydd ymhlith y gorau yng Nghymru – ac mae’r gweithgareddau antur a chwaraeon dw ˆ r yn wych hefyd.

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Exploring

Clwydian Range and Dee Valley Area of Outstanding Natural Beauty

Mae’n hawdd cyrraedd yma mewn car, neu’n well fyth drwy gyfrwng cludiant cyhoeddus cynaliadwy. Mae gorsafoedd trenau ym Mhrestatyn yn y gogledd a’r Waun yn y de. Ac fe wnaiff ein bysiau eich cludo i ble bynnag y dymunwch os ydych chi am roi gorffwys i’r peiriant llywio. Mae teithio ‘gwyrdd’ yn medru bod yn brofiad ynddo’i hun, fel y gw ˆ yr unrhyw un sydd wedi teithio ar draws Dyfrbont Pontcysyllte mewn cwch camlas neu fynd ar y tren stêm o Langollen.

Health and wellbeing The Clwydian Range and Dee Valley AONB is good for you. Getting out and about in our countryside on foot, bike or horseback will lift your spririts and make you fitter. Magnificent footpaths criss-cross the area including the North Berwyn Way, the Dee Valley Way and the epic Offa’s Dyke Path National Trail, which passes right through the whole AONB from Prestatyn to Chirk. The mountain biking is some of the best in Wales – and the watersports and adventure activities are superb. We’re easy to reach by car or better still by sustainable public transport with mainline train stations at Prestatyn in the north and Chirk in the south. Our buses will get you where you want to go any time you fancy giving the sat nav a rest. Because green travel isn’t just about being worthy. It can be an experience in own right, as anyone who’s taken the world’s highest canal boat crossing at Pontcysyllte Aqueduct or a steam train out of Llangollen will testify.

artwork_Layout 1 10/04/2013 17:44 Page 1

Maeʼr Bartneriaeth yn cynnwys pob math o bobl â gwybodaeth, brwdfrydedd ac empathi tuag at ein tirlun rhagorol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod ffoniwch y Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe, ar 01352 810614, os gwelwch yn dda. Partneriaeth a arweinir gan dri awdurdod lleol Cyngor Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam syʼn gyfrifol am yr AHNE. Maent yn gwneud popeth o lunio cynllun rheoli ar gyfer yr ardal gyfan i ddarparu grantiau i ffermwyr a chymunedau. Maeʼn un oʼr lleiaf adnabyddus ond etoʼr hawsaf iʼw ddarganfod o dirweddau godidog Prydain. Mae ei ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, un o bump yn unig yng Nghymru gyfan, yn diogelu ei harddwch naturiol trawiadol ar gyfer cenedlaethauʼr dyfodol. Bron yn cyffwrdd yr arfordir ym Mryn Prestatyn yn y gogledd ac yn ymestyn iʼr de cyn belled â Mynyddoedd y Berwyn, maeʼn gorchuddio 390 cilomedr sgwâr o fryniau y maeʼr gwynt yn chwyrlio oʼu cwmpas, rhostiroedd grug, clegyrau calchfaen a dyffrynnoedd coediog. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ydy ffin ucheldir dramatig Gogledd Cymru.

Ein tirlun hardd


artwork_Layout 1 10/04/2013 17:47 Page 2

Darganfod yr AHNE Exploring the AONB

www.ahnebryniauclwydadyffryndyfrdwy.org.uk www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk Y Tw ˆ r Jiwbilî

Traffordd | Motorway Priffyrdd | Main roads

Croeso i symbol eiconig Bryniau Clwyd: copa Moel Famau ac adfeilion y Twˆr Jiwbilî yn goron arno. Dyma’r gyrchfan i’r 200,000 o bobl sy’n ymweld â Pharc Gwledig Moel Famau bob blwyddyn. Er nad ydy’r twˆr yn ychwanegu gymaint o uchder ag a wnai yn wreiddiol i 554 metr y mynydd, mae ei hud a’i ledrith yn parhau’n ddidor.

Ffyrdd Eraill | Other roads Rheilffordd | Railway Rheilffordd Llangollen | Llangollen Railway Trefi | Towns Pentrefi | Villages

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa Mae coed derw hynafol Coedwig yr Esgob a blodau gwyllt ac eithin pêr Bryn Prestatyn yn arbennig ynddynt eu hunain. Maent hefyd yn dynodi dechrau Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy’n mynd yr holl ffordd o Brestatyn i Gas-gwent – a thrwy ein AHNE ni. www.nationaltrail.co.uk/offasdyke

Jubilee Tower

Afonydd a Llynnoedd | Rivers and lakes

Welcome to the iconic silhouette of the Clwydian Range: the summit of Moel Famau crowned by its ruined Jubilee Tower. It acts as a beacon to the 200,000 people every year who visit Moel Famau Country Park. While the tower doesn’t add as much height as it once did to the mountain’s 554 metres, its magic is well and truly intact.

Golygfan | Viewpoint

Coedwig | Woods

Parcio | Parking Bryngaer | Hillfort Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa Offa’s Dyke Path National Trail

Offa’s Dyke Path National Trail The ancient oaks of Bishop’s Wood and the wildflowers and rare junipers of Prestatyn Hillside are pretty special in their own right. But they also mark the start of the epic Offa’s Dyke Path National Trail that runs all the way from Prestatyn to Chepstow – and right through our AONB. www.nationaltrail.co.uk/offasdyke

Parc Gwledig Loggerheads Islaw clogwyni calchfaen Dyffryn Alun mae Loggerheads yn darparu’r porth perffaith i Fryniau Clwyd. Dilynwch y llwybrau cylchog wrth lannau’r afon, archwilio rhwydwaith o lwybrau sy’n estyn allan o’r parc, yn cynnwys llwybr hanesyddol y Leete – neu ewch i fwynhau te yn yr ardd fel y gwnaeth ymwelwyr ers yr 1920au.

Loggerheads Country Park Below the soaring limestone cliffs of the Alyn Valley, Loggerheads provides the perfect gateway to the Clwydian Range. Follow the circular riverside trails, explore a network of waymarked routes radiating from the park including the historic Leete Path – or just take tea in the gardens as visitors have done since the 1920s.

Caer Penycloddiau

Caer Chester

Coed Llandegla

Tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl adeiladodd pobl gaerau i’w hamddiffyn ar gopaon Bryniau Clwyd a Mynydd Llantysilio. Penycloddiau yw’r mwyaf o’r gadwyn anhygoel hon o gaerau Oes Haearn, un o’r tirweddau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Mae ei waliau’n cwmpasu 21 hectar.

Mae tua 200,000 o feicwyr yn ymweld â Choed Llandegla bob blwyddyn i fwynhau un o’r canolfannau beicio mynydd gorau yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys 46 cilomedr o lwybrau pwrpasol ac yn cwmpasu pob gradd o wyrdd i ddu. Mae modd llogi beic o ganolfan ymwelwyr Oneplanet, mynd ar hyd y llwybrau ac adfer egni wedyn yn y caffi, sydd wedi ennill llu o wobrau. www.beiciogogleddcymru.co.uk

Penycloddiau hillfort About 2,500 years ago people built defended settlements on the summits of the Clwydian Range and Llantysilio Mountain. Penycloddiau is by far the biggest of this spectacular chain of Iron Age hillforts, one of the most important historic landscapes in Wales. Its ramparts enclose an incredible 21 hectares.

Coed Llandegla About 200,000 riders a year visit Coed Llandegla, one of the best mountain bike centres in the UK with 46km of custom-built trails covering every grade from green to black. Hire a bike at the Oneplanet visitor centre, hit the trail and refuel in their award-winning café afterwards. www.ridenorthwales.co.uk

Bwlch yr Oernant Bwlch yr Oernant ydy’r cyswllt rhwng dau hanner yr AHNE. Mae’n cysylltu Bryniau Clwyd yn y gogledd â Dyffryn Dyfrdwy yn y de – ac mae’n gwneud hynny mewn steil! Mae ffordd yr A542 yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau yng Nghymru wrth iddi ddringo heibio hen chwareli llechi i’r pwynt uchaf sy’n 417 metr.

Horseshoe Pass The Horseshoe Pass is the link between the two halves of the AONB. It joins the Clwydian Range in the north with the Dee Valley to the south – and it does it with style. The A542 road offers some of the most spectacular views in Wales as it climbs past huge disused slate quarries to a maximum height of 417 metres.

Castell Dinas Brân

Caer Drewyn

Castell Dinas Brân

Ar ben bryn clegyrog yn uchel uwchben Llangollen, Castell Dinas Brân, sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, ydy un o’r cestyll mewn safle mwyaf dramatig ym Mhrydain. Yr unig ffordd o’i gyrraedd ydy cerdded yno, ac mae’n weddol serth. Ond mae’n werth yr ymdrech. Mae’r golygfeydd dros Ddyffryn Dyfrdwy, Mynyddoedd y Berwyn a Chreigiau Eglwyseg yn wefreiddiol.

Crowning a craggy hilltop high above Llangollen, 13th century Castell Dinas Brân is one of the most dramatically sited castles in Britain. It can only be reached on foot after a fairly stiff climb. But it’s worth it. The views over the Dee Valley, Berwyn Mountains and Eglwyseg Rocks are stunning.

Caer Drewyn ydy un o’r caerau Oes Haearn orau o ran cadwraeth yng Nghymru. Dywedir mai dyma’r fan lle casglodd Owain Glyndwˆr ei luoedd ar ôl cyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400. Dilynwch yn ôl ei droed trwy fynd am dro ar hyd y llwybr cylch 1.8 milltir o hyd o’r ganolfan hamdden yng Nghorwen.

Caer Drewyn

Wrecsam Wrexham

Caer Drewyn is one of the best-preserved Iron Age hillforts in Wales. It’s also said to be the place where Owain Glyndwˆr gathered his troops after he proclaimed himself Prince of Wales in 1400. Tread in his footsteps by following the 1.8-mile waymarked circular walk from the leisure centre in Corwen.

Creigiau Eglwyseg Mae clogwyni a chlegyrau calchfaen Creigiau Eglwyseg, sy’n codi i 445 metr, wedi bod yno ers 400 miliwn o flynyddoedd. Cewch ddilyn Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ar draws lethrau sgri mwyaf trawiadol Prydain. Neu ddilyn Llwybr Panorama ar hyd godrau’r creigiau i gael golygfa odidog o Gastell Dinas Brân.

Eglwyseg Rocks The limestone cliffs and crags of Eglwyseg Rocks, which rise to 445 metres, were laid down 400 million years ago. You can follow Offa’s Dyke Path National Trail across Britain’s most impressive scree slopes. Or take the aptly named Panorama Drive along the foot of the rocks for a wonderful view of Castell Dinas Brân.

Moel Fferna Golyga ei uchder o 630 metr neu 2,068 troedfedd uwchben lefel y môr mai Moel Fferna ym Mynyddoedd Gogledd y Berwyn ydy’r lle uchaf yn yr AHNE cyfan. A’r lle mwyaf gwyllt ac anghysbell hefyd. Bydd angen i chi fod yn heini a bod â’r offer angenrheidiol gyda chi i gyrraedd yno. Wrth i chi ddynesu ar hyd Llwybr Gogledd y Berwyn fe welwch chi bod y chwarelwyr llechi wedi cyrraedd yno o’ch blaen chi.

Moel Fferna At 630 metres or 2,068 feet above sea level, Moel Fferna in the North Berwyn Mountains is the highest place in the entire AONB. Not to mention one of the wildest and most remote. You’ll need to be fit and well equipped to get there. But as you approach off the North Berwyn Way, you’ll see that slate miners got there before you.

Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

Y Waun Chirk Castell y Waun Castell y Waun, dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ydy’r castell Cymreig olaf o gyfnod Edward I sy’n parhau â phobl yn byw ynddo heddiw. Rhai o’i nodweddion trawiadol ydy’r twˆr canoloesol, y dwnsiwn a’r ystafelloedd seremonïol o’r ddeunawfed ganrif. Ac ar ben hyn fe gewch chi gwrdd â Wil y Saethwr, gwisgo arfogwisg a chymryd rhan yn yr ymarfer picell. www.nationaltrust.org.uk/chirk

Chirk Castle Ffotograffiaeth © Hawlfraint y Goron (2013) Croeso Cymru, © Hawlfraint y Goron: CBHC, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, White Fox, Laurence Crossman-Emms, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Photography © Crown copyright (2013) Visit Wales, © Crown Copyright: RCAHMW, Wrexham County Borough Council, White Fox, Laurence Crossman-Emms, Clwydian Range and Dee Valley AONB.

The National Trust’s Chirk Castle is the last Welsh castle from the age of Edward I still lived in today. Features from its 700-year history include a medieval tower and dungeon and 18th century state apartments. Best of all you can meet Will the Archer, try on armour and join in pike drill. www.nationaltrust.org.uk/chirk

Dyfrbont Pontcysyllte gan Thomas Telford ydy un o’r croesfannau cychod camlas uchaf yn y byd – fwy na 200 mlynedd ar ôl ei adeiladu. Bellach mae’n Safle Treftadaeth y Byd ynghyd ag 11 milltir o gamlas sy’n ymestyn o Horseshoe Falls yn Llantysilio, â bron y cyfan o’r safle yn yr AHNE. www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Pontcysyllte Aqueduct and Canal Thomas Telford’s Pontcysyllte Aqueduct is still the highest canal boat crossing in the world – more than 200 years after it was built. It’s now a World Heritage Site along with 11 miles of canal stretching as far as the Horseshoe Falls at Llantysilio, almost all of it within the AONB. www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.