Ein Blwyddyn ar gyfer Bywyd Gwyllt a’r Hinsawdd

Page 1


Adroddiad Effaith yr Ymddiriedolaethau Natur Ebrill 2023 - Mawrth 2024
Syr David Attenborough, Llywydd Emeritws, ar ol derbyn Medal Rothschild, gyda Liz Bonnin, Llywydd; Craig Bennett, Prif Weithredwr; a Duncan Ingram, Cadeirydd yr Ymddiriedolaethau Natur

Brwydro cornel byd natur

Wrth i ni edrych yn ôl ar flwyddyn arall, pan oedd y wlad yn ymbaratoi ar gyfer Etholiad Cyffredinol – a chefnogwyr yr Ymddiriedolaethau Natur yn heidio i’r strydoedd i alw ar i fyd natur gamu i fyny’r agenda – mae llawer o ddigwyddiadau nodedig wedi bod i’r Ymddiriedolaethau Natur wrth i ni symud ymlaen yn gyflym tuag at bwynt canol ein Strategaeth 2030.

Wrth i ni edrych yn ôl ar flwyddyn arall, pan oedd y wlad yn ymbaratoi ar gyfer Etholiad Cyffredinol – a chefnogwyr yr Ymddiriedolaethau Natur yn heidio i’r strydoedd i alw ar i fyd natur gamu i fyny’r agenda – mae llawer o ddigwyddiadau nodedig wedi bod i’r Ymddiriedolaethau Natur wrth i ni symud ymlaen yn gyflym tuag at bwynt canol ein Strategaeth 2030.

Yn arwain popeth rydym yn ei wneud a’n penderfyniadau, mae Strategaeth 2030 yn ein hysgogi ni i feddwl a gweithredu ar raddfa fwy, yn well ac yn fwy cydlynol, wrth ein helpu ni fel sefydliad ffederal i barhau â ffocws ar ein huchelgeisiau cyffredin a chanolbwyntio ein hymdrechion ar fynd i’r afael â’r heriau sy’n arwain at y budd mwyaf i fywyd gwyllt, pobl a’r hinsawdd.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ers lansio Strategaeth 2030, rydym wedi symud ar gyflymder mawr – sy’n dyst i’n staff ymroddedig ac angerddol sy’n ein helpu i symud ymlaen gyda’u harloesedd a’u harbenigedd, ein gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i’n helpu ni i gyflawni ein gweledigaeth a’r aelodau a’r cefnogwyr sy’n cefnogi ein hymgyrchoedd ac yn helpu i gyllido ein gwaith hanfodol.

Yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Natur Cernyw brosiect uchelgeisiol Tor to Shore, gan gysylltu ymdrechion adfer byd natur ar y tir ac yn y môr; lansiwyd Gweledigaeth ar gyfer Dychweliad Afancod i Gymru a Lloegr gennym, gan gyflwyno’r achos dros ddychwelyd afancod i’r gwyllt; buom yn dathlu pryniant Coedwig Skiddaw gan Ymddiriedolaeth Natur Cumbria yn Ardal y Llynnoedd, gan ddefnyddio £5 miliwn o gyllid gan Aviva a rhoddion cyhoeddus i adfer coedwig law dymherus goll a’n pryniant o Stad Rothbury yn Northumberland; ac roeddem ar ben ein digon o weld y niferoedd gwych ddaeth i’r orymdaith Adfer Natur Nawr gyda dros fil o bobl yn bresennol gyda’u Hymddiriedolaeth Natur,

gan ymgasglu i alw ar bob plaid wleidyddol i weithredu dros fyd natur cyn yr Etholiad Cyffredinol, gan greu sylw ar y cyfryngau ar draws sawl sianel newyddion. Dyma rai yn unig o’r cyflawniadau a’r gweithredoedd gwirioneddol ryfeddol rydym wedi’u cyflawni gyda’n gilydd. Ond wrth gwrs, dydi hynny byth yn ddigon.

Dros y pum mlynedd nesaf mae angen i ni adeiladu ar y sylfeini cadarn rydym wedi’u rhoi yn eu lle i fynd i’r afael â’r ymosodiadau parhaus a dwysach ar fyd natur a helpu i gyrraedd targedau cenedlaethol a byd-eang. Mae Deddf yr Amgylchedd, sy’n gyfreithiol rwymol, yn mynnu atal dirywiad rhywogaethau erbyn diwedd y degawd ac adfer ein cyrff dŵr gwerthfawr i’w cyflwr naturiol. Yng ngoleuni datgeliadau digalon diweddar, fel cwmnïau dŵr yn arllwys y lefelau uchaf erioed o garthffosiaeth i’n hafonydd a’n cefnforoedd ni, ynghyd ag effaith dŵr ffo amaethyddol, rydym yn gwybod y bydd yn hynod anodd. Mae targedau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang – y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth y DU – yn fwy uchelgeisiol mewn llawer o achosion. Gwella gofod gwyrdd; integreiddio bywyd gwyllt mewn penderfyniadau ar bob lefel; adfer 30% o’r holl ecosystemau sydd wedi dirywio; gwarchod 30% o’r tir, y dyfroedd a’r moroedd; a lleihau effaith newid hinsawdd - dyma heriau sy’n wynebu byd lle mae’r newidiadau sydd arnom eu hangen yn digwydd yn llawer rhy araf ar hyn o bryd.

Mae gennym ni rôl bwysig i’w chwarae wrth wneud i’r newidiadau hyn ddigwydd yn gyflymach. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn datblygu’r diwylliant, y sgiliau a’r galluoedd i gydweithio’n fwyfwy effeithiol er lles bywyd gwyllt. Rydym yn barod i gynyddu ein hymdrechion lle bo angen, gan weithio ar draws y DU a gyda phartneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â phroblemau lleol a bydeang sy’n effeithio ar fywyd gwyllt.

Os ydych chi’n aelod o Ymddiriedolaeth Natur, yn bartner corfforaethol, yn gyllidwr, yn brif roddwr, yn aelod o staff neu’n wirfoddolwr, diolch i chi am eich cefnogaeth. Mae eich cyfraniad, boed drwy amser, arbenigedd neu gyllid, yn ein helpu ni i frwydro cornel byd natur, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwarchod ein gofod gwyrdd a gwyllt.

Cadeirydd yr

Ymddiriedolaethau Natur

Prif Weithredwr yr

Ymddiriedolaethau Natur

Mae’n anrhydedd aruthrol cael treulio blwyddyn arall fel Llywydd yr Ymddiriedolaethau Natur, a pharhau i ddysgu gan gynifer o bobl ysbrydoledig sy’n gweithio gydag angerdd a didwylledd i warchod byd natur.

Dros y 18 mis diwethaf rwyf wedi cael amser gwych yn ymweld â mwy o Ymddiriedolaethau Natur ar draws Ynysoedd Prydain, a chefais gyfle hefyd i ymuno ag arweinwyr o bob rhan o’r ffederasiwn ar ymweliadau canfod ffeithiau ag Ynys Wyth a’r Iseldiroedd. Roedd y cynulliadau hyn yn arbennig iawn – cyfle i gysylltu ac elwa o’r egni cefnogol y mae cymuned y ffederasiwn yn ei gynnig, ond hefyd i rannu syniadau ac arbenigedd, a meithrin cydweithrediadau newydd a all gryfhau ymhellach ein hymdrechion i ddod â bywyd gwyllt yn ôl i’r DU.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill i mi roedd y cyfle i ddathlu

Syr David Attenborough wrth iddo dderbyn Medal Rothschild yr haf hwn. Gan gynrychioli’r ffederasiwn gyda balchder mawr, diolchodd grŵp bach ohonom iddo am ei gefnogaeth barhaus ac am bopeth mae’n ei wneud dros fyd natur.

Roeddwn hefyd yn falch o gynrychioli’r Ymddiriedolaethau Natur yng ngorymdaith bwerus Adfer Natur Nawr ym mis Mehefin, lle ymgasglodd mwy na 60,000 o bobl, gan gynnwys mwy na 350 o wahanol sefydliadau, yn Llundain gyda’r nod cyffredin o alw am adferiad byd natur.

Mae wedi bod yn flwyddyn wirioneddol ryfeddol i’r ffederasiwn, rydych chi i gyd yn parhau i fy ysbrydoli i bob dydd, ac edrychaf ymlaen at eich cefnogi yn 2025.”

Liz Bonnin

Llywydd, Yr Ymddiriedolaethau Natur

Pobl a chefnogwyr allweddol

Noddwr

Llywydd

Llywyddion Emeriti

HM King Charles III

Liz Bonnin

Sir David Attenborough

Simon King

Tony Juniper

Is Lywyddion

Dr Amir Khan

Iolo Williams

Gillian Burke

Prof Chris Baines

Nick Baker

Prof David Macdonald

Bill Oddie

Julian Pettifer

Sir Robert Worcester

Llysgenhadon

Cadeirydd

Prif Weithredwr

Dr Mya-Rose Craig

Prof Dave Goulson

Hannah Stitfall

David Oakes

Sophie Pavelle

Cel Spellman

Alison Steadman

Richard Walker

James McVey

Maddie Moate

Rhiane Fatinikun

Duncan Ingram

Craig Bennett

Rydym yn ddiolchgar i bob un o’n cefnogwyr allweddol ni sy’n rhoi o’u hamser, eu harweiniad a’u profiad i’r Ymddiriedolaethau Natur. Diolch enfawr hefyd i’n llysgenhadon ni sy’n hyrwyddo ein hachos ac yn hybu gwaith yr Ymddiriedolaethau Natur drwy gydol y flwyddyn. Dyma rai o uchafbwyntiau 2023/24:

RHIANE FATINIKUN

Mae Rhiane yn eiriolwr awyr agored ac yn drefnydd cymunedol. Hi hefyd sefydlodd Black Girls Hike i herio’r stereoteipiau a’r diffyg cynrychiolaeth yn y byd awyr agored.

Hyrwyddodd Rhiane Fatinikun Daith Gerdded Wyllt Fawr yr Ymddiriedolaethau Natur ym mis Medi 2023, gan annog y cyfranogwyr i greu eu hanturiaethau eu hunain yn yr awyr agored a helpu i godi arian ar gyfer adferiad byd natur.

DAVID OAKES

Mae David yn actor sy’n adnabyddus am ei ymddangosiadau yn Valhalla, Victoria a The Borgias, a’i bodlediad Trees a Crowd, sy’n dathlu byd natur.

David Oakes oedd wyneb ein hymgyrch ymgysylltu ni, 30 Diwrnod Gwyllt, ym mis Mehefin 2023, gan gynnal y Cwis Gwyllt Mawr blynyddol yn fyw ar YouTube gyda’i gyd-lysgennad Sophie Pavelle. Ymwelodd hefyd ag Ymddiriedolaeth Natur Caint i hyrwyddo’r prosiect ych gwyllt ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerloyw i ddysgu am eu gwaith.

GILLIAN BURKE

Mae’r biolegydd a’r cyflwynydd, Gillian, yn adnabyddus am ei gwaith ar Spring, Autumn a Winterwatch ar y BBC, ei hangerdd dros wyddoniaeth a’i chariad at fyd natur.

Cyflwynodd Gillian un o’n darllediadau Wild LIVE ni ar YouTube, a oedd yn edrych ar y defnydd o blaladdwyr a sut gallwn gefnogi ffermwyr yn well i ddewis dulliau mwy cyfeillgar i fyd natur.

– uchafbwyntiau o bob rhan o’r Ymddiriedolaethau Natur

EBRILL MAI

Ymddiriedolaeth

Natur Gogledd

Cymru oedd y cyntaf i elwa o bartneriaeth

Aviva, a ddyfarnodd

£38 miliwn i adfer coedwigoedd glaw tymherus. Ar ôl

prynu Bryn Ifan yng

Nghaernarfon mae’r

Ymddiriedolaeth

Natur wedi dechrau ar y broses o blannu brodorol cydymdeimladol ochr yn ochr ag aildyfiant naturiol, i ddechrau dod â’n coedwigoedd glaw coll yn ôl.

Derbyniodd

Ymddiriedolaeth

Natur Cumbria

£300,000 gan y Priffyrdd

Cenedlaethol fel rhan o’r rhaglen

Rhwydwaith Natur i adfer ardaloedd wedi’u difrodi o fawndir yn Burns

Beck Moss. Bydd gwaith i adfer

llwybr yr afon a chael gwared ar brysgwydd yn atal carbon rhag dianc yn ôl i’r atmosffer ac yn gwella profiad yr ymwelwyr â’r warchodfa natur wrth i fywyd gwyllt ddychwelyd.

MEHEFIN

GORFFENNAF AWST

Dyfarnodd Cronfa

Gymunedol y Loteri

Genedlaethol

£1.49 miliwn i

Ymddiriedolaeth

Natur Swydd

Amwythig ac UpRising i gyflwyno Rhaglen

Arweinyddiaeth

Amgylcheddol arloesol ar y cyd. Hyd yma mae’r fenter wedi cefnogi

400 o bobl ifanc (18 i 25 oed) o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol ar draws

Gorllewin Canolbarth

Lloegr i gryfhau eu cysylltiad â byd natur a’u hannog i gynnal ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar fyd natur yn eu cymunedau.

Lansiwyd Homes for Hedgehogs, ymgyrch ar draws y sir i godi ymwybyddiaeth a gwyrdroi dirywiad un o rywogaethau hoff y DU, gan

Ymddiriedolaeth

Natur Gwlad yr Haf. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i wneud newidiadau bach i’w gerddi a’u gofod gwyrdd er budd draenogod, hybu eu niferoedd sy’n dirywio a’u helpu i ffynnu unwaith eto. Mae mwy na 3,500 o bobl wedi cofrestru i helpu.

Cynhaliodd

Ymddiriedolaeth Natur

Swydd Berk, Swydd

Buckingham a Swydd

Rhydychen Cynhaliodd

Ymddiriedolaeth Natur

Swydd Berk, Swydd Buckingham a Swydd

Rhydychen sesiynau haf ar gyfer plant awtistig a’u teuluoedd. Roedd y prosiect Engaging with Nature yn cynnwys archwilio gofod gwyllt a gweithgareddau natur i hyrwyddo manteision iechyd treulio amser ym myd natur. Dywedodd Michelle Webb, rhiant, fod y sesiynau wedi creu y “gwyliau haf hawsaf” a bod ei dau blentyn wedi “mwynhau yn fawr cael codi allan, cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd”.

Fel rhan o’r gwaith o ailddatblygu stryd fawr West Bromwich, plannodd Ymddiriedolaeth

Natur Birmingham a’r Black Country flodau gwyllt i ddarparu ffynhonnell hanfodol o fwyd i fywyd gwyllt ar y stryd drefol hon, yn ogystal â dod ag ychydig o harddwch i’r ardal, gan helpu’r gymuned leol i brofi byd natur ar garreg eu drws. Bu’r Ymddiriedolaeth

Natur hefyd yn arwain teithiau cerdded tymhorol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg a grwpiau cymunedol lleol.

HYDREF TACHWEDD

Gweithiodd Ymddiriedolaethau

Natur Swydd Henffordd a Sir Faesyfed mewn partneriaeth i greu tirwedd sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn nalgylch Afon

Gwy. Mae cyllid o £462,000 gan

Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi helpu’r

Ymddiriedolaethau i gefnogi perchnogion tir lleol i roi datrysiadau seiliedig ar natur ar waith i atal llifogydd a’r dinistr a brofir gan ffermwyr, busnesau a thrigolion o ganlyniad.

Ymddiriedolaeth

Natur Norfolk oedd yn prynu’r diodydd ym mis Tachwedd ar ôl prynu tafarn y Pleasure Boat Inn yn Hickling Staithe. Wedi’i lleoli ger gwarchodfa natur boblogaidd Hickling Broad and Marshes, mae’r

Ymddiriedolaeth yn gobeithio y bydd ei phrynu’n helpu i ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal a chreu ffyrdd newydd a ffres o gyflwyno pobl i fyd natur a thirwedd Hickling.

RHAGFYR IONAWR CHWEFROR MAWRTH

Cyrhaeddodd

Ymddiriedolaeth

Natur Sheffield a Rotherham darged codi arian mawr o £1.2 miliwn i sicrhau pryniant Fferm Ughill, safle pwysig ar gyfer y gylfinir, y gornchwiglen ac adar rhydio eraill sy’n wynebu bygythiad cenedlaethol sy’n ymweld â’r rhosydd i fagu. Diolch i gyfraniadau gan gefnogwyr bywyd gwyllt, y gymuned leol a chyllidwyr mawr, ad-dalodd yr Ymddiriedolaeth fenthyciad gan Sefydliad Esmée Fairbairn a chymerodd berchnogaeth lawn o’r

Ymunodd yr

Ymddiriedolaethau

Natur â’r Ymddiriedolaeth

Genedlaethol a’r RSPB i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau gwarchodaeth sylfaenol i fyd natur ar ffermydd. Daeth y rheolau sy’n gwarchod afonydd a gwrychoedd ar ffermydd i ben ar 31 Rhagfyr 2023, gan eu rhoi mewn perygl o lygredd afonydd gormodol a chael gwared ar wrychoedd hanfodol a ddefnyddir gan adar sy’n nythu. Helpodd yr ymgyrch i arwain at eu hadfer ym mis Ionawr 2024.

Creodd Ymddiriedolaeth

Natur Ynys Manaw

Ddyfarniad Ysgol Wyllt ar gyfer ysgolion cynradd, gyda’r nod o helpu plant ysgol Ynys Manaw i ddysgu am fywyd gwyllt wrth wneud tiroedd eu hysgolion yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Gydag ychydig o ymdrech, gallant fod yn gynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt mewn ardaloedd gwledig a threfol, gan greu coridor bywyd gwyllt. Mae’r cynllun hefyd yn annog ysgolion i gynnal arolwg o’r bywyd gwyllt maent yn dod o hyd iddo a rhannu’r data yn ôl gydag Ymddiriedolaeth Natur Ynys Manaw.

Lansiodd Ymddiriedolaethau Natur Cymru e-weithredu ar-lein mewn partneriaeth â WWF Cymru i helpu pobl Cymru i rannu eu barn ar sut dylid ffermio tir yng Nghymru yn y dyfodol. Fe wnaeth yr e-weithredu helpu i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd â’r nod o wobrwyo ffermwyr am fabwysiadu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd.

47 o elusennau annibynnol

3,600 o gyflogeion ymroddedig

38,000 o wirfoddolwyr angerddol

944,000 o aelodau cefnogol

Un mudiad pwerus.

Ni yw’r Ymddiriedolaethau Natur.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn fudiad o elusennau annibynnol seiliedig ar le sy’n rhoi byd natur mewn adferiad ledled y DU a Dibyniaethau’r Goron. Os ydych chi yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, neu ar Ynysoedd Manaw neu Alderney, mae Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio i ddod â bywyd gwyllt yn ôl a grymuso pobl i gymryd camau ystyrlon dros fyd natur lle rydych chi’n byw ac yn gweithio.

Rydym yn rheoli mwy na 2,600 o warchodfeydd natur a 120 o ganolfannau gwybodaeth, sy’n denu mwy na 15 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Rydym yn croesawu mwy na 9,000 o ymweliadau gan ysgolion, colegau, cartrefi gofal a grwpiau ieuenctid, ac yn trefnu 6,000 o ddyddiau gwirfoddoli corfforaethol. Rydym yn Ymddiriedolaethau Natur lleol sydd wedi’u gwreiddio’n gadarn yn ein cymunedau lleol ac, ochr yn ochr â’n helusen genedlaethol, Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur, rydym yn 47 o elusennau sy’n sefyll ochr yn ochr i ymgyrchu ac eiriol dros fyd natur ar raddfa ranbarthol, genedlaethol a byd-eang. Rydym yn fudiad sy’n tyfu, wedi’n huno gan nodau cyffredin ac uchelgais i adfer byd natur, gan wyrdroi’r dirywiad difrifol mewn bywyd gwyllt ledled y DU a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Strategaeth 2030 yw ein gweledigaeth ar y cyd o fyd naturiol ffyniannus ac mae’n datgan sut rydym, ar y cyd, yn mynd i chwarae ein rhan i sicrhau bod o leiaf 30% o’r tir a’r môr yn cael ei ddiogelu a’i gysylltu ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Mae ein pum Trawsnewid Strategol a’n pum Blaenoriaeth Alluogi yn ffurfio’r sylfeini a fydd yn ein galluogi i wireddu ein tri Nod Strategol (edrychwch ar y diagram ar y dde). Drwy gydol yr adroddiad hwn rydym wedi cynnwys straeon ac enghreifftiau o sut mae Ymddiriedolaethau Natur, ar y cyd ac yn annibynnol, yn gwneud cynnydd tuag at ein hamcanion cyffredin. Gyda’n gilydd, fel mudiad o bobl, elusennau, cefnogwyr a phartneriaid, rydym yn sicrhau dyfodol gwell a gwylltach i’n byd naturiol.

1

Mae byd natur mewn adferiad gyda bywyd gwyllt a phrosesau naturiol toreithiog ac amrywiol yn creu tirweddau a morweddau gwylltach lle mae pobl a byd natur yn ffynnu.

Ein Nodau Strategol

Mae pobl yn cymryd camau ystyrlon dros fyd natur a’r hinsawdd, gan arwain at wneud penderfyniadau gwell ar gyfer yr amgylchedd ar lefel leol ac ar draws pedair gwlad y DU. 3

Mae byd natur yn chwarae rhan ganolog a gwerthfawr wrth helpu i fynd i’r afael â phroblemau lleol a byd-eang.

Ein Trawsnewidiadau Strategol

1

Cefnogi a datblygu’r Ymddiriedolaethau Natur fel gweithredwyr annibynnol cadarn ac effeithiol.

2

Gweithio’n effeithiol fel rhwydwaith gwasgaredig a mudiad ar y cyd.

3

Ysbrydoli, trefnu a symud cymunedol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

4

Mynd drwy drawsnewid digidol cyflawn.

5

Cyflawni newid sylweddol yng ngraddfa ac amrywiaeth y cyllid ar gyfer adferiad byd natur.

1

Cael trefn ar ein tŷ ein hunain.

2

Sicrhau bod ein gwarchodfeydd natur a’n hasedau tir yn sylfaen ar gyfer adferiad byd natur.

Ein Blaenoriaethau Galluogi

3

Datblygu polisïau clir a chyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

4

Buddsoddi mewn rhwydwaith staff a gwirfoddolwyr medrus ac amrywiol, a meithrin diwylliant o ddysgu ar draws y mudiad.

5

Siarad gyda llais beiddgar a hyderus, gan gynyddu ein heffaith a’n dylanwad ymhellach.

Gweithredu lleol, effaith fyd-eang

Cefnogi’r gwaith o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig

Mae’r 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy sydd gan y Cenhedloedd Unedig (CU) yn gasgliad o nodau rhyng-gysylltiedig sy’n gweithredu fel ‘glasbrint a rennir ar gyfer heddwch a ffyniant i bobl a’r blaned, nawr ac i’r dyfodol’.

Maent yn cynrychioli galw brys a byd-eang am weithredu gan bob gwlad (datblygedig a datblygol) i roi terfyn ar dlodi, gwella iechyd ac addysg, lleihau anghydraddoldeb ac ysgogi twf economaidd i bawb. Un agwedd sylfaenol ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, a thema sydd i’w gweld yn gyson ynddynt i gyd, yw’r hinsawdd a byd natur. Heb weithredu ar yr hinsawdd, mae byd natur yn dioddef, ac i’r gwrthwyneb. A phan fydd byd natur yn dioddef, rydyn ni i gyd yn dioddef.

Mae gwaith yr Ymddiriedolaethau Natur yn cefnogi nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn uniongyrchol o fewn cyd-destun y DU, ac maent yn rhan greiddiol o’n Strategaeth 2030. Rhoi byd natur mewn adferiad, annog a chefnogi pobl a chymunedau i gymryd camau ystyrlon dros yr amgylchedd, a sicrhau bod byd natur yn chwarae rhan ganolog wrth helpu i fynd i’r afael â phroblemau lleol a byd-eang –dyma sy’n greiddiol i’r hyn rydym yn ei wneud.

Mae ein gweledigaeth ni o fyd naturiol ffyniannus, lle mae bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn cael eu gwarchod, mewn adferiad, ac yn chwarae rôl wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, yn cyd-fynd â, ac yn cefnogi’n uniongyrchol, y cynnydd tuag at chwech o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy:

Gwirfoddolwr Ymddiriedolaeth Natur
Madfall
Mwynhau

DŴR GLAN A GLANWEITHDRA

Mae ein hafonydd, ein nentydd a’n moroedd dan fygythiad, ac mae angen mwy o weithredu gan holl lywodraethau a rhanddeiliaid y DU. Rydym yn brwydro i roi terfyn ar brinder dŵr a llygredd afonydd, gan wneud gwaith adfer i wella’r cynefinoedd bywyd gwyllt sy’n cael eu heffeitho a darparu atebion seiliedig ar natur i ddatrys problemau fel rheoli llifogydd a sychder sy’n effeithio ar gymunedau.

IECHYD A LLES DA

Mae tystiolaeth yn dangos bod amgylchedd ffyniannus, llawn bywyd gwyllt o fudd i iechyd corfforol a meddyliol.

Mae pobl sydd â byd natur ar garreg eu drws yn fwy egnïol, yn wydn yn feddyliol ac mae ganddynt iechyd cyffredinol gwell. Rydym yn arwain ar raglenni iechyd a lles sy’n seiliedig ar natur, gan weithio gyda’r GIG a phartneriaid eraill i osod presgripsiynau cymdeithasol gwyrdd wrth wraidd yr ymateb i’r argyfwng iechyd corfforol a meddyliol cynyddol.

DINASOEDD A CHYMUNEDAU CYNALIADWY

Rydym yn ymgysylltu â chymunedau lleol i’w cefnogi a’u hysbrydoli i greu mwy o ofod gwyrdd ac i wella mynediad i fyd natur. Rydym yn gweithio gyda chynghorau lleol, arweinwyr a phobl eraill sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod gwarchod bywyd gwyllt ar flaen y gad mewn cynlluniau datblygu trefol ac yn rhan o’r datrysiad i ystod eang o broblemau cymdeithasol.

BYWYD O DAN Y DŴR

Rydym wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig yn Lloegr ac rydym yn chwarae rhan weithredol yn y ddadl cynllunio ar y môr, gan geisio atal gweithgareddau niweidiol, fel pysgota anghynaliadwy, treillio, datblygiadau a llygredd, sy’n niweidio bywyd morol ac yn effeithio ar ardaloedd a chynefinoedd arfordirol. Gan weithio gydag elusennau amgylcheddol eraill, rydym wedi cyhoeddi adroddiad arloesol sy’n mapio carbon glas y DU.

GWEITHREDU DROS YR HINSAWDD

Rydym yn cymryd camau ystyrlon dros fyd natur a’r hinsawdd, gan ddylanwadu ar lywodraeth ar lefel leol, rhanbarthol a gwlad. Rydym yn cael ‘trefn ar ein tŷ ein hunain’, i wneud yn siŵr bod yr Ymddiriedolaethau Natur yn gwneud cyfraniad dilys at yr argyfwng hinsawdd fel rheolwyr tir a defnyddwyr ynni, gan gynnwys cymryd camau i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2030 ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.

BYWYD AR Y TIR

Rydym yn gwneud mwy o le i fyd natur yn y DU, yn cysylltu cynefinoedd, yn adfer cyfoeth byd natur ac yn gweithio gyda ffermwyr, gwleidyddion a busnesau i annog buddsoddiad mewn datrysiadau sy’n seiliedig ar natur. Rydym yn ailgyflwyno rhywogaethau conglfaen coll er mwyn sicrhau bod byd natur yn adfer yn gyflym ac ar raddfa fawr, ac yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau lleol y mae’r gwaith hwn yn effeithio arnynt i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi.

Mae dolenni i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig wedi’u nodi ar dop pob un o’r tudalennau Nodau.

Mae byd natur mewn adferiad

gyda bywyd gwyllt a phrosesau naturiol toreithiog ac amrywiol yn creu tirweddau a morweddau gwylltach lle mae pobl a byd natur yn ffynnu.

Gydag un o bob chwe rhywogaeth yn wynebu bygythiad o ddifodiant, mae angen gweithredu ar frys i atal a gwyrdroi dirywiad byd natur. Ledled y DU, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn arwain rhaglenni arloesol ar gyfer adferiad byd natur, gan arwain ymdrechion i wyrdroi ffawd ein bywyd gwyllt ni sydd wedi wynebu dirywiad. O ailgyflwyno rhywogaethau i brynu mwy o dir ar gyfer byd natur, eiriol dros weithredu llymach gan y llywodraeth ar afonydd i weithio gyda pherchnogion tir ar ofalu am dir mewn ffordd sy’n fwy ystyriol o fyd natur – mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn creu newid parhaol.

Glöyn byw glesyn Adonis

ASTUDIAETH ACHOS

Dod â wystrys brodorol yn ôl i Ogledd Iwerddon

Mae wystrys brodorol ar fin ffynnu unwaith eto ar hyd arfordir yr Iwerydd gyda chreu meithrinfa wystrys brodorol newydd ym Marina Glenarm.

Ar un adeg roedd wystrys brodorol yn doreithiog ar hyd arfordir Glenarm hyd at ganol y 1800au, ond bu i orbysgota, afiechyd, rhywogaethau ymledol a llygredd ddinistrio’r boblogaeth leol.

Gallai’r fenter adfer, o dan arweiniad Ulster Wildlife, weld hyd at 800 miliwn o larfa wystrys yn cael eu rhyddhau i’r dyfroedd amgylchynol bob blwyddyn, gan roi cyfle i’r archarwyr cefnforol yma adfer o ddifodiant, gan helpu i hybu bioamrywiaeth a lleihau lefelau llygredd dŵr.

Ym mis Mai 2023, cafodd mwy nag 800 o wystrys brodorol aeddfed, a gafwyd o dan drwydded o Loch Ryan yn yr Alban a’u sgrinio am afiechyd wrth gyrraedd, eu hongian mewn 30 o gewyll pwrpasol dros ymylon pontŵnau’r marina. Recriwtiodd Ulster Wildlife wirfoddolwyr o’r ardal leol i helpu i fonitro’r wystrys, gan gynnal archwiliadau iechyd rheolaidd i asesu eu cyfraddau twf.

Dyma ail feithrinfa wystrys brodorol

Ulster Wildlife, ar ôl agor y gyntaf yn 2022 ym Marina Bangor – y gyntaf i Ogledd Iwerddon. Drwy’r ymdrechion hyn mae

Ulster Wildlife yn gobeithio adfywio’r rhywogaeth a dod â’r wystrys yn ôl i’w lefelau blaenorol o helaethrwydd.

ASTUDIAETH ACHOS

Datgloi potensial amaethyddol yr Alban

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Natur yr Alban wedi tynnu sylw at botensial trawsnewidiol datrysiadau sy’n seiliedig ar natur ar gyfer ffermydd a thyddynod yr Alban.

Mae’r adroddiad (sydd wedi’i gyllido gan Sefydliad Esmée Fairbairn) yn galw am newid patrwm mewn polisi ffermio i wireddu gweledigaeth Llywodraeth yr Alban i’r Alban fod yn arweinydd ym maes cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac adfywiol ac, wrth wneud hynny, mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd, colli byd natur ac ansicrwydd economaidd.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur, a all helpu ffermwyr a rheolwyr tir i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy wella cyflwr y pridd, cadw dŵr a meithrin gwydnwch yn wyneb tanau gwyllt, llifogydd a thywydd poeth.

Roedd yr adroddiad, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2023, hefyd yn tynnu sylw at yr angen am roi lefel uwch o frys ac eglurder i ddatblygu polisi ffermio fel bod gan bob rheolwr tir fynediad at y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd arnynt

Buwch yr Ucheldir

ASTUDIAETH ACHOS

Brwydro yn erbyn clefyd y coed ynn yn Nyfnaint

Mae clefyd y coed ynn wedi dinistrio coed ynn ledled Ewrop. Rhagwelir y bydd hyd at 80 i 90% o goed ynn y DU mewn perygl gyda’u marwolaeth yn arwain at effaith aruthrol ar ein cynefinoedd coetir a’r bywyd gwyllt ynddynt.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint yn un o nifer o Ymddiriedolaethau Natur sy’n brwydro’n ôl. Ddwy flynedd yn ôl, agorwyd meithrinfa goed arbenigol ganddynt gan roi cychwyn i genhadaeth i achub ein coetiroedd hoff sydd dan fygythiad. Nawr, mae eu gwaith yn dechrau talu ar ei ganfed. Ym mis Rhagfyr 2023, plannwyd y coed cyntaf ganddynt i lenwi’r bylchau a adawyd gan glefyd y coed ynn.

Mae 5,000 o goed o rywogaethau brodorol wedi cael eu tyfu yn y feithrinfa, sydd wedi’i lleoli yng ngwarchodfa natur Chwarel Meeth yr Ymddiriedolaeth, ger Hatherleigh. Mae’r rhywogaethau o goed sy’n cael eu tyfu yn y feithrinfa yn cynnwys ynn (o’r stociau coed presennol y dangoswyd eu bod yn wydn), derw, piswydd, cyll, drain gwynion, cerddin Dyfnaint, criafol, afalau surion a masarn bach. Mae pob un o’r coed hyn wedi cael eu tyfu gan ddefnyddio hadau a gasglwyd yn lleol o dir sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Coed Cadw a daliadau preifat.

Bydd y coed ifanc yn cael eu plannu ar draws Dyfnaint nawr, ar safleoedd gan gynnwys ysgolion ac ardaloedd cymunedol lleol, yn ogystal ag ar dir preifat.

Cyrhaeddodd clefyd y coed ynn y DU am y tro cyntaf yn 2012, ac mae’n cael ei achosi gan ffwng y mae ei sborau’n cael eu lledaenu gan y gwynt. Mae’r clefyd yn gyffredin yn Nyfnaint bellach ac amcangyfrifir y bydd yn lladd hyd at 90% o’r 1.9 miliwn o goed

ynn sydd yn y sir yn y pen draw. Mae llawer o goed ynn ifanc ac aeddfed eisoes wedi’u colli, gan adael gwrychoedd, gerddi, parciau ac ymylon ffyrdd heb y coed mawreddog hyn.

Mae’r feithrinfa goed yn rhan o Save Devon’s Treescapes, prosiect sy’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint ar ran Fforwm Gwydnwch Clefyd y Coed Ynn. Sefydlwyd y prosiect yn 2021 mewn ymateb i argyfwng coed ynn Dyfnaint ac mae ei waith yn cael ei gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, One Tree Planted a chyllidwyr eraill.

Teuluoedd yn ymuno i helpu gyda’r ymdrechion plannu coed

Fe wnaethom ni reoli

2,600

o warchodfeydd natur, gan warchod ac adfer cynefinoedd hanfodol

Cafodd

5,800

o hectarau o dir ei wella ar gyfer byd natur yn dilyn cyngor yr Ymddiriedolaethau Natur ar geisiadau cynllunio (cynnydd o 2,800 y llynedd)

Rheolwyd

1,050

o gilometrau o gyrsiau dŵr gan yr Ymddiriedolaethau Natur Cawsom

159 o roddion gan roddwyr mawr i helpu i gefnogi adferiad byd natur (cynnydd o 111 y llynedd)

Mae pobl yn cymryd camau

ystyrlon dros

fyd natur a’r hinsawdd, gan arwain at wneud penderfyniadau gwell ar gyfer yr amgylchedd ar lefel leol ac ar draws pedair gwlad y DU.

Dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu a rhyngweithio â phobl a chymunedau ac, yn benodol, grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol neu sy’n cael anhawster cael mynediad at fyd natur, yw sut byddwn yn ysgogi newid gwirioneddol. Dim ond drwy deimlo’n gysylltiedig â byd natur y byddwn ni’n malio amdano ac yn teimlo’n angerddol dros wyrdroi ei ddinistrio. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn helpu pobl i ailgysylltu â byd natur, gan eu cefnogi i weithredu ac ysgogi’r newidiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac ymddygiadol a fydd yn galluogi ein gofod gwyllt i ffynnu.

ASTUDIAETH ACHOS

Cofnodi bywyd gwyllt gyda’r gymuned leol

Cafodd prosiect ymchwil tair blynedd hanfodol i fywyd gwyllt Alderney y cyllid yr oedd arno ei angen i gychwyn, gyda chymuned leol yr ynys ar fin chwarae rhan fawr yn ei weithredu.

Mae Prosiect Sefyllfa Byd Natur Alderney wedi dechrau diolch i gyllid gan y Gronfa Buddsoddi Cymdeithasol (SIF) yn Guernsey a bydd yn galluogi Ymddiriedolaeth Natur Alderney i ddeall yn well sut mae rhywogaethau a chynefinoedd allweddol ar yr ynys, ac o fewn ei dyfroedd tiriogaethol, wedi newid dros amser.

Er y bydd y prosiect yn cyflogi dau aelod o staff tan fis Awst 2026, bydd

cynnwys cymuned Alderney yn rhan annatod o’i lwyddiant. Bydd y cyllid yn galluogi’r Ymddiriedolaeth Natur i gynnal digwyddiadau ymgysylltu gyda’r nod o annog cofnodwyr gwirfoddol ychwanegol i ymuno â’r tîm a darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr lleol i ddatblygu sgiliau mewn cofnodi biolegol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth fanwl a gwerthfawrogiad o fywyd gwyllt Alderney a’r heriau mae’n eu hwynebu. Bydd y wybodaeth a’r data o ganlyniad ar gael yn gyhoeddus i bawb.

ASTUDIAETH ACHOS

Sicrhau’r dylanwad gorau

Gyda llawer o addewidion mawr, ond gweithredu cyfyngedig gan y llywodraeth i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, mae ymrwymiad gwleidyddol trawsbleidiol i sicrhau adferiad byd natur yn hollbwysig. Ym mis Ebrill 2023, nododd yr Ymddiriedolaethau Natur yr Etholiad Cyffredinol oedd ar y gorwel yn y DU fel cyfle i wella safle byd natur ar yr agenda.

Dros y 12 mis nesaf, aeth yr Ymddiriedolaethau Natur ati i gadarnhau hynny, gan ddefnyddio ein pŵer ar y cyd i ddylanwadu ar bob darpar ymgeisydd seneddol, heb ystyried plaid. Roedd hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth am faterion gwyrdd mewn ardaloedd lleol a’u cyflwyno i ymgeiswyr, gan ddefnyddio lleisiau ein haelodau a’n rhwydweithiau cymunedol, yn ogystal â chyfryngau traddodiadol a digidol – gan ddangos pwysigrwydd byd natur i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Darparodd digwyddiadau mewnol gyda thema, gan gynnwys ein Cynhadledd Ffederasiwn flynyddol, le i staff gydweithredu a chreu adnoddau ymgyrchu. Roedd hyn yn golygu, pan alwyd yr etholiad, bod y ffederasiwn cyfan yn barod i weithredu.

posib

Cynhaliodd yr Ymddiriedolaethau Natur 15 o hystings lleol, a fynychwyd gan fwy na 2,400 o aelodau’r cyhoedd. Cynhaliwyd Dadl Fawr Natur a Hinsawdd hefyd – hystings cenedlaethol – gyda chynrychiolaeth o blith y Ceidwadwyr, y Blaid Werdd, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, mewn partneriaeth â’r Wildlife & Countryside Link. Cafodd ei darlledu’n fyw ar YouTube gyda mwy na 4,500 o wylwyr. Addaswyd adnoddau penodol ar gyfer yr etholiad cyffredinol gan gynnwys posteri ffenestri ac e-byst gan Ymddiriedolaethau Natur i gael dylanwad ar lefel etholaeth – gan arwain at weithgarwch ymgyrchu mewn 580 allan o 650 o etholaethau. Yn y cyfamser, roedd arweinwyr yr Ymddiriedolaethau Natur yn creu sylw sylweddol ac effeithiol ar y cyfryngau i faterion amgylcheddol.

Yn olaf, daeth ein gwaith i benllanw gyda gorymdaith Adfer Natur Nawr, a drefnwyd ar y cyd ag elusennau eraill a denu mwy na 60,000 o bobl i strydoedd Llundain i fynnu gweithredu dros fyd natur, wythnos yn unig cyn yr Etholiad Cyffredinol. Mater i’r Llywodraeth Lafur newydd yn awr yw cyflawni ei haddewidion maniffesto i ‘gyflawni dros natur’ – a’r pleidiau eraill i’w dwyn i gyfrif.

Hugan
Panelwyr yn Y Ddadl Natur a Hinsawdd Fawr

Dod â chymunedau at ei gilydd

Galluogodd prosiect Natur Drws Nesaf, a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bob Ymddiriedolaeth Natur yn y DU i gefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned a darparu cyngor ac arweiniad pwrpasol i bobl sydd eisiau ailgysylltu â byd natur a’i helpu i ffynnu yn eu hardaloedd lleol.

Mae’r gwaith a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith drawsnewidiol ar ddull yr Ymddiriedolaethau Natur o fynd ati i wneud trefniadau cymunedol. Fe wnaethom osod targed i ni ein hunain o weithio gyda 200 o gymunedau ond, yn y diwedd, fe wnaethom weithio gyda mwy na 1,600. Mae 43% o’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio bellach gyda phobl sy’n wynebu tlodi ac mae 41% yn gweithio gyda phobl ag anghenion iechyd neu namau hirdymor.

Mae canlyniadau’r prosiect yn well nag yr oeddem wedi’i obeithio erioed a bydd gwaddol Natur Drws Nesaf yn sicrhau bod trefnu cymunedol yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’r hyn y mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn ei wneud ac yn adnabyddus amdano.

ASTUDIAETH

ACHOS

Society Place, Derby

Yn ddim ond un o’r enghreifftiau niferus o Natur Drws Nesaf, nod Society Place oedd rhoi bywyd yn ôl mewn llwybr segur – gan roi perchnogaeth y gofod yn nwylo pobl ifanc, gyda’r gymuned wrth galon y prosiect.

Gan ddod ag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Derby, Ysgol Gynradd Arboretum a Chyngor Dinas Derby at ei gilydd, trawsnewidiodd y prosiect ardal a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer tipio anghyfreithlon a defnyddio cyffuriau ac a oedd wedi dod yn rhywle yr oedd pobl leol yn ei osgoi. Roedd y weledigaeth a rennir i greu gofod y gallai pawb ei ddefnyddio, ei fwynhau a bod yn falch ohono wedi ysgogi’r trigolion, plant ysgol a’r cyngor i drawsnewid Society Place a dod â natur yn ôl i ardal drefol o’r ddinas.

Aeth eco-gyngor yr ysgol ati i ddylunio a chreu’r safle newydd ac mae wedi parhau i ddefnyddio ac ychwanegu at y llwybr cerdded fel rhan o’u hastudiaethau, yn ogystal â chynnal sesiynau casglu

Drwy gydol y prosiect fe wnaethom gyflawni…

Roedd y rhaglen yn cynnwys cymunedau a oedd yn draddodiadol yn llai tebygol o allu cael mynediad i fyd natur a gofod gwyrdd

o’r Dywedodd yr Ymddiriedolaethau Natur fod ymarferion gwrando gyda chymunedau yn ddefnyddiol 88%

Ers cymryd rhan:

o Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio bellach gyda phobl sy’n wynebu tlodi 43%

o Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio bellach gyda phobl ag anghenion iechyd neu namau hirdymor 41%

o Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio bellach gyda mudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches 40%

o Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio bellach gyda grwpiau ethnig lleiafrifol 35%

“…pan fydd pobl yn ymuno i gael help a chefnogaeth, [mae’n] arwain at well dealltwriaeth o sut gallant wella byd natur.” Trefnydd Cymunedol

cyrraedd200ogymunedauond mewngwirionedd

Dywedodd pob

Ymddiriedolaeth Natur fod cael Trefnydd Cymunedol penodol yn ddefnyddiol

Teimlai 52%

o’r Ymddiriedolaethau Natur fod

dulliau trefnu cymunedol newydd wedi’u hymgorffori bellach yn eu ffyrdd eu hunain o weithio

Mae 56% o’r Ymddiriedolaethau

Natur yn gweithio bellach gyda grwpiau cymunedol nad ydynt yn rhai amgylcheddol

Dywedodd 95% o’r

Ymddiriedolaethau Natur bod ymgyrch i adeiladu asedau cymunedol

Teimlai 95% o’r Ymddiriedolaethau

Natur bod mwy o gydweithio ar draws sefydliadau

“Mae’n bendant wedi cyfrannu at ymdeimlad o bwrpas a grymuso tuag at yr achos. Dydych chi ddim yn teimlo mor anobeithiol.” Cyfranogwr

Gwirfoddolwyr Society Place

ASTUDIAETH ACHOS

Wilder Together i adfer Dyffryn Stour

Gall cydweithredu rhwng yr Ymddiriedolaethau Natur, elusennau amgylcheddol eraill, partneriaid corfforaethol a chynghorau lleol ddod â phobl at ei gilydd ac arwain at weithredu ystyrlon ar raddfa fawr dros fyd natur a’r hinsawdd. Mae partneriaeth Wilder Together in the Stour Valley yn enghraifft anhygoel o sut mae hyn yn gweithio ar lawr gwlad.

Ymunodd Ymddiriedolaeth Natur Suffolk, Ymddiriedolaeth Natur Essex, Gardd Bywyd Gwyllt Flatford yr RSPB ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Dedham â’i gilydd i greu partneriaeth newydd gyffrous.

Wedi’i lansio ym mis Ebrill 2023, sefydlwyd Wilder Together in the Stour Valley i gefnogi cynghorau plwyf a thref i greu pentrefi a threfi sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt drwy weithio gyda chymunedau lleol yn Nyffryn Dedham a Dyffryn Stour.

Mae rhwydwaith o ardaloedd gwyllt yn cael eu hadfer, eu hailgysylltu a’u cynnal a’u cadw bellach gan y trigolion, ar dir cyhoeddus a phreifat (gan gynnwys gerddi), gan greu mwy o le i fyd natur ar garreg drws y bobl sy’n byw yn Nyffryn Stour.

Fel rhan o’r prosiect, mae’r bartneriaeth o sefydliadau’n cynnal teithiau ar gyfer cynghorwyr lleol, yn gweithio gyda chynghorau plwyf a thref i annog prosiectau bywyd gwyllt, yn cynnal gweminarau bywyd gwyllt a dyddiau hyfforddi i wirfoddolwyr a phlwyfi, ac yn darparu cyngor arbenigol am ddim ar gynefinoedd a chadwraeth. Mae ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol â’r holl randdeiliaid lleol allweddol a gwneud iddynt deimlo eu bod yn rhan o’r prosiect wedi bod yn hanfodol i sicrhau ei fod yn llwyddiant a’i fod yn cael ei gefnogi gan bawb sy’n byw ac yn gweithio yn Nyffryn Deadham a Dyffryn Stour.

“Gyda’n gilydd, ein nod ni yw ffrwyno egni cyfunol y grwpiau cymunedol yn Nyffryn Stour a’u galluogi i weithredu dros fywyd gwyllt ar gyfer rhywogaethau blaenoriaeth Suffolk fel draenogod, chwilod corniog a gwenoliaid duon.

Mae’n bwysicach nag erioed bod pawb yn dod at ei gilydd i greu’r gofod ar gyfer byd natur y mae ei angen yn ddirfawr. Mae hon yn fenter newydd wych sydd â’r nod o wneud byd o wahaniaeth i bobl a bywyd gwyllt ein sir ni.”

Cathy Smith

Cynghorydd Bywyd Gwyllt Cymunedol

Ymddiriedolaeth Natur Suffolk

Yr afon Stour gyda’r wawr
Nod y prosiect yw dod â byd natur yn ôl i drefi a phentrefi lleol

Rhoddodd

38,000

o wirfoddolwyr o’u hamser i helpu i wella’r gofod gwyllt maen nhw mor hoff ohono

Fe wnaeth

593,000

o bobl gysylltu â byd natur wrth gymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt yn ystod mis Mehefin

944,000

o aelodau o’r Ymddiriedolaethau Natur (cynnydd o 910,000 y llynedd)

Ymunodd

13,884 o gefnogwyr newydd ag Ymddiriedolaeth Natur drwy ein gweithredoedd ymgyrchu

Mae byd natur yn chwarae rhan ganolog a gwerthfawr

wrth helpu i fynd i’r afael â phroblemau lleol a byd-eang.

Gall byd natur helpu cymdeithas i fynd i’r afael â materion byd-eang fel newid yn yr hinsawdd, iechyd gwael, llygredd dŵr ac ansicrwydd bwyd. Mae angen gweithredu ar bob lefel i droi’r llanw yn ein brwydr ni dros adferiad byd natur, gan gynnwys ar lefel leol. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur, gan weithio mewn partneriaeth â’i gilydd, gydag elusennau amgylcheddol eraill, gyda busnesau a gyda chyllidwyr, yn adfer ecosystemau naturiol i helpu i atal llifogydd, storio carbon a gwella ffrwythlondeb pridd. Mae’r datrysiadau hyn sy’n seiliedig ar natur yn sicrhau effaith leol uniongyrchol ac yn sbarduno newid byd-eang cadarnhaol.

ASTUDIAETH ACHOS

Stori o lwyddiant trefol ar gyrion Doncaster

Sicrhaodd Ymddiriedolaeth Natur

Swydd Efrog fwy o le i fywyd gwyllt yng nghanol un o’r parthau datblygu busnes sy’n ehangu gyflymaf yn Swydd Efrog.

Mae Parson’s Carr yn agos at Gyffordd 3 yr M18 ac mae’n rhan o floc o warchodfeydd natur sy’n ymgorffori Potteric Carr, un o brif safleoedd yr Ymddiriedolaeth Natur gyda chanolfan ymwelwyr ar y safle, ynghyd â Carr Lodge a Manor Farm.

Gan fod y safle ar dir llain las, ac ar orlifdir, roedd cyfle i Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog sicrhau iawndal helaeth ar gyfer bywyd gwyllt fel rhan o gynlluniau datblygu. Nawr, yn swatio ochr yn ochr â chanolfannau storio enfawr a ddefnyddir gan gwmnïau fel Amazon a Lidl, gallwch ddod o hyd i gymysgedd o byllau, dolydd a glaswelltir gwlyb, lle mae’r ymwelwyr gwyllt rheolaidd yn cynnwys madfallod dŵr cribog. Mae’r bylchau yn y gwrychoedd wedi cael eu llenwi gyda gwrychoedd newydd sydd wedi cael eu plannu i ddenu adar fel y bras melyn a’r betrisen lwyd, ac mae cynlluniau i wella’r glaswelltir drwy ddefnyddio hadau o warchodfa natur leol.

Bydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn ffensio’r safle hefyd ac yn cyflwyno gwartheg pori cadwraeth, ac yn cloddio rhai pyllau newydd i annog bywyd dyfrol Potteric Carr i ehangu i’r safle newydd. Mae’r warchodfa eisoes yn gartref i boblogaeth sylweddol o wylanod penddu, yn ogystal â phoblogaethau o’r cambig a’r cwtiad torchog bach sy’n magu’n rheolaidd, ac ambell foda’r gwerni.

Mae ychwanegu Parson’s Carr at y rhwydwaith o warchodfeydd natur ar gyrion Doncaster yn creu ardal o 377 o hectarau ar gyfer bywyd gwyllt, datrysiadau draenio i atal perygl o lifogydd i’r parth datblygu busnes, a mwy o le i fyd natur gyda mynediad cymunedol.

ASTUDIAETH ACHOS

Rhoi hwb i fyd natur a lles cymunedol

Bod yn hapus a bodlon, byw yn gynaliadwy heb fawr ddim ôl troed carbon, a chreu ymdeimlad o les y mae gweithio ym myd natur yn ei ddarparu yw’r ‘freuddwyd’ y mae llawer ohonom yn ei dymuno. Yn y Greenhouse Project, sy’n cael ei gynnal gan yr Ymddiriedolaeth Natur ar gyfer Swydd Gaerhirfryn, Manceinion a Gogledd Glannau Merswy fel rhan o’i Gwasanaeth Natur a Lles arloesol, mae’r freuddwyd yn fyw iawn yn Blackburn.

Mae’r Greenhouse Project yn ceisio cefnogi aelodau o’r gymuned leol a grwpiau i ddatblygu sgiliau tyfu bwyd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, gan eu helpu i fyw mewn mwy o gytgord â byd natur. Mae’r prosiect hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fannau lleol

o harddwch naturiol gyda grwpiau cymunedol ar draws y fwrdeistref drwy raglen o deithiau cerdded bywyd gwyllt.

Yn ogystal â thyfu eu bwyd eu hunain, mae’r rhai sy’n rhan o’r prosiect yn ailgylchu gwastraff lleol a chynnyrch naturiol yn rhannol, yn cynhyrchu eu compost a’u gwrtaith eu hunain, ac yn gobeithio cronni eu dŵr eu hunain a chynhyrchu eu trydan eu hunain yn fuan.

Yn ogystal â bod yn fwy egnïol yn gorfforol, mae’r tai gwydr yn lle i bobl fwynhau heddwch, chwerthin, creadigrwydd, dysgu, perthyn a chyfeillgarwch. Mae cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth, crefft y gwyllt, teithiau cerdded bywyd gwyllt a gweithgareddau meddwlgarwch.

Madfall ddŵr gribog
Staff a chyfranogwyr
yn y Prosiect Tŷ Gwydr

ASTUDIAETH ACHOS

Rheoli perygl llifogydd yn y ffordd naturiol

Gosododd Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerloyw, gyda chyllid gan RSA Insurance, ardd law yn ei lle yn Ysbyty Brenhinol Swydd Gaerloyw i helpu i atal llifogydd a dod â bywyd gwyllt yn ôl i ardal oedd yn cael ei hesgeuluso ar dir yr ysbyty.

Wedi’i lleoli y tu allan i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys, mae’r ardd law sydd newydd ei gosod yn cynnwys pot plannu mawr, uchel wedi’i amgylchynu gan fainc bren grwm, sy’n darparu lle i bobl stopio a gorffwys. Mae’n gallu dal swm syfrdanol o 800 litr o ddŵr, gan helpu i atal llifogydd dŵr arwyneb, a all ddod ag anhrefn i gymunedau. Gall nodweddion draenio trefol cynaliadwy, fel gerddi glaw, ymylon gwyrdd ac arosfannau bws to gwyrdd, leihau fflachlifogydd drwy ddal dŵr yn ôl, ei lanhau, ac wedyn ei ryddhau’n araf yn ôl i’n cyrsiau dŵr.

Gyda nifer brawychus o 15,000 o gartrefi yng Nghaerloyw ac 8,500 o gartrefi yn Cheltenham yn agored i lifogydd o bosibl bob blwyddyn, a gyda newid yn yr hinsawdd yn parhau i achosi tywydd anrhagweladwy, mae’r llifogydd yn debygol o barhau oni bai fod mesurau ataliol yn cael eu rhoi ar waith.

Ochr yn ochr â’r manteision o ran llifogydd gaiff eu creu yn sgil yr ardd law, mae hefyd yn darparu llecyn heddychlon i ymlacio ar gyfer staff ac ymwelwyr y tu allan i ardal brysur ac anhrefnus yn aml o’r ysbyty.

Mae’r ardd law yn rhan o brosiect Dyfrweddau Caerloyw a Cheltenham ac mae’n cynnwys gosod pant mawr (sianel fer gyda llystyfiant ynddi, y cyfeirir ati’n aml fel datrysiad Draenio Trefol Cynaliadwy neu SUDs) ym Mharc Naunton, gan ehangu ardal gwlybdir Plock Court yng Nghaerloyw, yn ogystal â defnyddio arwynebau caled neu ‘ddadbalmantu’ dreif pobl yn Charlton Kings.

“Bydd yr ardd law newydd yn Ysbyty Brenhinol Swydd Gaerloyw yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r camau ymarferol y mae posib eu cymryd mewn cymunedau i warchod rhag llifogydd, yn ogystal â hyrwyddo bioamrywiaeth.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerloyw ac yn gobeithio y bydd ein gwaith i adeiladu datrysiadau naturiol i reoli llifogydd yn ysbrydoli gweithredu mewn rhanbarthau eraill hefyd.”

Laura Spiers

Effaith Gymdeithasol ac ESG yn RSA Insurance

Mwynhau seibiant haeddiannol yn yr Ardd Law

Gwariwyd

£4,699,327 gennym ar wella ansawdd dŵr yn ein nentydd a’n hafonydd

Cymerodd

21,063

o gyfranogwyr ran mewn rhaglen iechyd a lles dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur

Rheolodd yr Ymddiriedolaethau Natur

260 o raglenni llifogydd naturiol

15,404,900

o ymweliadau â gwarchodfeydd natur yr Ymddiriedolaethau Natur

TRAWSNEWIDIAD STRATEGOL

Cefnogi a datblygu’r Ymddiriedolaethau

Natur fel gweithredwyr annibynnol cadarn ac effeithiol

Gall y 46 o Ymddiriedolaethau Natur lleol ledled y DU gael effaith ystyrlon ac uniongyrchol ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu, gyda dealltwriaeth unigryw o’r ardal maent wedi’i lleoli ynddi a chysylltiad unigryw â hi a’r gallu i feithrin perthnasoedd ystyrlon â chynghorau, ysgolion a grwpiau cymunedol.

ASTUDIAETH ACHOS

Ffrwyno pŵer cymunedol

Ymgysylltodd Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaerwrangon â’i chymunedau lleol a chydlynu ymdrechion ar y cyd i wella darn pwysig o dir ar gyfer byd natur. Mae ysgolion lleol a grwpiau cymunedol wedi plannu coed yn Green Farm i helpu i adfer y dirwedd. Yn ymyl Gwarchodfa Natur Monkwood yr Ymddiriedolaeth, prynwyd Green Farm yn 2022 gyda’r weledigaeth i gynyddu’r gorchudd o goetir yno, adfer y dolydd a rheoli’r cynefinoedd presennol gan feddwl am fywyd gwyllt.

Mae gwrych newydd a blannwyd gan ysgolion lleol wedi helpu i wella’r cynefin ar gyfer y bywyd gwyllt sydd eisoes yn bresennol yn Monkwood, fel pathewod, ac mae’n dilyn llinell gwrych hŷn a rwygwyd o’r safle ryw dro yn y gorffennol.

Mae wyth dôl ar Green Farm – rhai ohonynt eisoes yn llawn blodau ac wedi’u ffinio gan wrychoedd aeddfed. Mae cynlluniau’r Ymddiriedolaeth Natur yn cynnwys adfer gweddill y dolydd i’w hen ogoniant ac ail-greu cynefinoedd hanesyddol ar y safle, fel perllannau a phorfeydd coed. Mae Green Farm yn cynnig cyfle gwych i gysylltu Monkwood â safleoedd eraill o werth uchel ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardal. I helpu gyda hyn, ac i helpu i frwydro yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd, bydd aildyfiant naturiol

y coetir brodorol yn cael ei annog ochr yn ochr â phlannu rhywogaethau ychwanegol sydd â buddion eraill, fel criafol llawn aeron neu oestrwydd sy’n gallu gwrthsefyll sychder.

Gyda’r DU yn un o’r gwledydd sydd wedi profi’r dirywiad mwyaf o ran byd natur yn y byd, mae gwaith yr Ymddiriedolaeth yn Green Farm nid yn unig o fudd i’r ardal leol a’i phobl, ond hefyd yn cefnogi’r ymgyrch genedlaethol gydag Ymddiriedolaethau Natur eraill i weld 30% o’r tir a’r môr yn cael ei reoli i helpu adferiad byd natur erbyn 2030.

“Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, mae’n wych gweld y prosiect cyffrous hwn ar y gweill bellach. Gydag adfer coetir, mae’n rhaid i ni feddwl sut fydd y dirwedd yn edrych ymhen 50, 100 neu 200 mlynedd.

“Dyma pam ei bod mor bwysig ymgysylltu â phlant a grwpiau cymunedol. Drwy gael pobl ifanc i gymryd rhan yn y prosiect, rydym yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o hyrwyddwyr bywyd gwyllt, a all helpu i warchod a gofalu am ofod gwyllt fel Monkwood yn y dyfodol.”

Dominique Cragg Swyddog Gwarchodfeydd yn rheoli Monkwood a Green Farm

Pathew y cyll
Teulu yn darllen arwydd mewn gwarchodfa natur

TRAWSNEWIDIAD STRATEGOL

Gweithio’n effeithiol fel rhwydwaith gwasgaredig a mudiad ar y cyd

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi ymrwymo i weithio’n agosach gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau enfawr a gyflwynir gan yr argyfyngau natur a hinsawdd rhyng-gysylltiedig, nad ydynt yn cadw at ffiniau gwleidyddol, gweinyddol na sefydliadol.

ASTUDIAETH ACHOS

Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer adferiad byd natur

Ym mis Medi 2023, lansiodd grŵp o Ymddiriedolaethau

Natur y prosiect Gororau Gwylltach – prosiect adfer natur uchelgeisiol ar draws dwy wlad, pedair sir a thri dalgylch afon mawr.

Mae Ymddiriedolaethau Natur Swydd Amwythig, Swydd

Henffordd, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed yn cydweithio i greu, adfer a chadw cynefinoedd ar draws rhanbarth hanesyddol a nodedig y Gororau. Mae ‘Gororau Gwylltach’ yn disgrifio tirwedd naturiol a diwylliannol unigryw sy’n pontio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae’n cynnwys blaenddyfroedd Afon Llugwy, Afon Tefeidiad ac Afon Colunwy.

Yn ymestyn ar draws tua 100,000 o hectarau, mae’r ardal yn gartref i gymunedau gwledig hirsefydlog ac yn frith o goetiroedd hynafol, rhostiroedd a mawndiroedd, dolydd llawn blodau, porfeydd coed a ‘ffridd’, a chynefin ucheldir arbennig o brysgwydd a glaswelltir. Mae gan y Gororau hefyd ardaloedd o ffermio dwys yn ogystal â phlanhigfeydd coedwigaeth helaeth lle mae byd natur yn brwydro i ffynnu. Mae menter Gororau Gwylltach yn sefydlu rhwydwaith o stadau, ffermydd, coedwigoedd, gwarchodfeydd natur a thiroedd comin i helpu byd natur i adfer.

Oherwydd ei leoliad daearyddol, mae gan y Gororau ran hanfodol i’w chwarae mewn storio dŵr, gwydnwch ecolegol a lliniaru effeithiau’r argyfyngau natur a hinsawdd.

Mae ymddangosiad diwygiadau cyllid gwyrdd a chymhorthdal yn cyflwyno cyfleoedd i ddatblygu modelau busnes newydd a fydd yn helpu i gynnal incwm ffermydd gan ganiatáu i fyd natur adfer ar draws y dirwedd. Gan weithio gyda chymunedau a pherchnogion tir lleol, bydd menter Gororau Gwylltach yn creu ac yn adfer cynefinoedd gan gynnwys mawndiroedd, yn ailsefydlu prosesau naturiol ar draws sianeli afonydd, gorlifdiroedd a gwlybdiroedd, ac yn gwella ansawdd dŵr – gan annog ffermio adfywiol fel rhan o’r cymysgedd. Bydd cadarnleoedd presennol rhywogaethau prin fel y bele, y gylfinir a chregyn gleision perlog dŵr croyw yn cael eu gwarchod. Hefyd mae’r tîm y tu ôl i Gororau Gwylltach yn meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl datrysiadau seiliedig ar natur a chyllid gwyrdd sy’n gysylltiedig â hyn –gan greu’r hyn maent yn ei alw’n ‘dirweddau buddsoddadwy’.

Yn y pen draw, mae’r fenter yn gobeithio creu dyfodol gwylltach i’r Gororau, gan feithrin dealltwriaeth gyffredin hefyd o dreftadaeth naturiol ac ymdeimlad o berchnogaeth, ochr yn ochr â rhagolygon newydd ar gyfer cyflogaeth wledig a hybu’r economi.

“Rydw i’n caru’r Gororau ac mae’r prosiect newydd cyffrous hwn yn gyfle gwych i adfer y dirwedd hon oedd unwaith yn doreithiog ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld caeau’r Gororau’n llawn o’r gylfinir, y gornchwiglen a’r bras melyn, pyllau’n llawn madfallod dŵr a brogaod, a dolydd gwair llawn blodau yn fwrlwm o bryfed unwaith eto.”

Cyflwynydd teledu ac Is Lywydd yr Ymddiriedolaethau Natur

Iolo Williams
Petrisen lwyd
Draenogyn dŵr croyw
Bele

TRAWSNEWIDIAD STRATEGOL

Ysbrydoli, trefnu a symud cymunedol, yn enwedig

ymhlith pobl ifanc

Os yw byd natur i gael ei adfer ar raddfa, mae angen llawer mwy o bobl ar ei ochr. Mae’r

Ymddiriedolaethau Natur yn edrych ar ffyrdd mwy agored a chynhwysol o ysgogi cymunedau i weithredu dros fyd natur, gan gynnwys datblygu ein sgiliau fel hwyluswyr cymunedol.

ASTUDIAETH ACHOS

Gerddi’r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur

Lansiodd yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn partneriaeth ag Incredible Edible, Garden Organic a NFWI (Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched), fenter newydd ym mis Mehefin 2023 gyda chefnogaeth frenhinol.

Mae Gerddi’r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur yn talu teyrnged i ymrwymiad hirsefydlog Ei Fawrhydi, y Brenin Charles III, i’r byd naturiol a’i nod yw annog pobl a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig i fyw yn gynaliadwy a helpu bywyd gwyllt i adfer drwy dyfu bwyd a chreu gofod ar gyfer byd natur mewn gerddi, ar falconïau ac mewn gofod gwyrdd a rennir.

Mae Gerddi’r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur yn gobeithio ennyn brwdfrydedd miloedd o bobl i dyfu eu bwyd eu hunain mewn gerddi sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt drwy ddarparu cyngor a chefnogaeth. Disgwylir i’w gwaddol bara ymhell i’r dyfodol. Dechreuwyd y fenter gyda grant o £247,834 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Wrth addo cymryd rhan yn y fenter Gerddi’r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur, mae pobl yn cael eu hannog i dyfu bwyd iach i’w fwyta, plannu blodau sy’n gyfeillgar i bryfed peillio er mwyn darparu ffynonellau o neithdar a phaill i löynnod byw,

gwyfynod, gwenyn a phryfed hofran ffynnu, creu nodwedd ddŵr, gadael darn o laswellt tal neu bentwr o foncyffion i greu cysgod i fywyd gwyllt, ac ymatal rhag defnyddio cemegau a mawn.

Gall gerddi chwarae rhan enfawr wrth roi hwb i fyd natur a hefyd grymuso pobl i fyw yn fwy cynaliadwy ac iach - beth bynnag yw maint eu darn o dir.

“Rydyn ni wir yn gyffrous am fod yn gweithio ar y fenter newydd wych yma i ddathlu ymrwymiad hirsefydlog Ei Fawrhydi y Brenin i gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae gan SyM dros gan mlynedd o hanes balch o warchod yr amgylchedd naturiol, chwarae rhan weithredol yn ein cymunedau, a hyrwyddo cynaliadwyedd.

“Mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o fenter sy’n parhau â gwaddol cenedlaethau o aelodau i ddiogelu byd natur ac sy’n ymateb i’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu ein cenhedlaeth ni a’r rhai sydd i ddod.”

Melissa Green Weithredwr, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched

Malwoden yr ardd
Teulu yn arolygu ffrwyth eu llafur

TRAWSNEWIDIAD STRATEGOL

Mynd drwy drawsnewid digidol cyflawn

Mae defnyddio technolegau digidol i wella’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud yn galluogi Ymddiriedolaethau Natur i wneud mwy a symleiddio llawer o’r heriau cymhleth a ddaw yn sgil creu adferiad byd natur.

ASTUDIAETH ACHOS

Cadwraeth ar gyfer y dyfodol

Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Stafford wedi gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, datblygwyr a pherchnogion tir i sicrhau bod Enillion Net Bioamrywiaeth (BNG) yn sicrhau’r canlyniadau gorau i fyd natur. Mae Net Gain Staffordshire yn wefan bwrpasol a ddatblygwyd gan yr Ymddiriedolaeth Natur sy’n gwneud y broses yn syml ac yn dryloyw i bawb.

Mae Net Gain Staffordshire yn darparu gwybodaeth gyflawn am gyfleoedd Enillion Net Bioamrywiaeth yn y sir. Mae safleoedd posibl yn cael eu harddangos ar fap rhyngweithiol o’r sir, sydd wedi’i orchuddio â map o’r Rhwydwaith Adfer Natur, sy’n dangos y lleoliadau gorau ar gyfer adferiad byd natur yn yr ardal.

Mae’r wefan newydd yn darparu dull strategol o adfer byd natur yn Swydd Stafford, gan helpu i gael gwared ar oedi yn y broses gynllunio i ddatblygwyr a hefyd darparu gwybodaeth hanfodol am y cyfleoedd cynefin ar unrhyw safleoedd arfaethedig. Mae Net Gain Staffordshire yn gobeithio y bydd y safle’n gwella ansawdd a chysylltedd cynefinoedd ar draws Swydd Stafford, wedi’i gyllido drwy Enillion Net Bioamrywiaeth.

Ar draws yr Ymddiriedolaethau Natur rydym yn buddsoddi mewn technolegau newydd ac yn eu hymgorffori i wella ein heffaith a chyflymu’r gwaith y mae angen i ni ei wneud ar gyfer adferiad byd natur. Mae platfform System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) newydd wedi’i gyflwyno ar draws y ffederasiwn a bydd yn cael ei ddefnyddio i fesur ein holl warchodfeydd natur yn fanwl gywir, gyda rhaglenni ar gyfer mapio gwasanaethau ecosystemau, mapio llystyfiant, mapio rhywogaethau a warchodir a dadansoddi risg ecolegol.

Mae Enillion Net Bioamrywiaeth yn ddull o reoli tir sy’n ceisio cyflawni gwelliannau mesuradwy i fyd natur drwy greu neu wella cynefinoedd bywyd gwyllt, afonydd a nentydd, a gwrychoedd, mewn cysylltiad â datblygiadau newydd. Rhaid i welliannau i fioamrywiaeth fod yn ‘ychwanegol:’ mae hyn yn golygu bod rhaid i ddatblygiadau newydd adael byd natur mewn cyflwr gwell na’r hyn yr oedd yno yn flaenorol.

Egluro Enillion Net Bioamrywiaeth
Gall meddalwedd mapio ein helpu
ni i gynllunio adferiad byd natur
Glöyn byw y fantell goch
Nyth yn nwylo arolygwr
New housing developments can make space for homes and nature

TRAWSNEWIDIAD STRATEGOL

Cyflawni newid sylweddol

yng ngraddfa ac amrywiaeth y cyllid ar gyfer adferiad byd natur

Mae brys a graddfa’r argyfyngau natur a hinsawdd yn golygu bod ein gwaith ni mor gymhleth ag erioed, gan ofyn am fwy o amrywiaeth a hyblygrwydd o ran cyllid. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn edrych ar gyfleoedd cyllido, partneriaethau a modelau busnes newydd yn gyson, gan ddiogelu ein hannibyniaeth a’n hygrededd ar yr un pryd.

ASTUDIAETH ACHOS

Cyllid newydd ar gyfer prosiectau bywyd gwyllt hanfodol

Ym mis Awst 2023, dadorchuddiodd yr

Ymddiriedolaethau Natur raglen newydd a fydd yn cyflymu adferiad byd natur ac yn helpu i wyrdroi’r dirywiad trychinebus mewn bywyd gwyllt.

Ledled y DU, rydym yn arwain prosiectau ailgyflwyno rhywogaethau allweddol, mentrau ailwylltio ac yn eiriol dros well gwarchodaeth i gynefinoedd morol ac arfordirol, diolch i £6 miliwn gan y Gronfa Adfer Ecolegol sydd newydd ei sefydlu.

Mae’r prosiectau sy’n elwa o’r cyllid hwn yn cynnwys Coridor

Wal Hadrian Ymddiriedolaeth Natur Northumberland –rhaglen adfer natur o amgylch Newcastle a Chaerliwelydd; rhaglen adfer tirwedd ar Fferm Ughill yn y Peak District gydag Ymddiriedolaeth Natur Sheffield a Rotherham; ymgyrch creu cynefinoedd Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed i greu gwlybdir, prysgwydd a choetir newydd yng Nghorsydd Cymru; ac adfer mawndiroedd yng Ngogledd Iwerddon gydag Ulster Wildlife.

Daw’r arian ar adeg pan mae mwy na 40% o rywogaethau’r DU yn dirywio a mwy na 15% dan fygythiad o ddifodiant. Mae moroedd mewn perygl o oregsbloetio a datblygu, mae afonydd yn marw o lygredd amaethyddol a charthion ac mae llawer o bobl yn dioddef o ddiffyg mynediad i fyd natur. Mae’r cyfuniad o’r problemau hyn yn gwneud y DU yn un o’r gwledydd sydd wedi colli’r ganran fwyaf o’i byd natur yn y byd ac mae gwir angen cronfeydd newydd fel yr un yma i helpu i wyrdroi’r duedd hon.

“Rydyn ni’n falch o gefnogi’r Ymddiriedolaethau Natur gyda’u gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer adferiad byd natur y DU. Gan gydnabod bod ein dyfodol cyfunol ni’n gynhenid gysylltiedig ag iechyd ein hamgylchedd ni, mae’r brys i fynd i’r afael â dirywiad cythryblus rhywogaethau’r DU a diraddio cynefinoedd yn hollbwysig. Drwy wau gyda’n gilydd ac adfywio gofod gwyllt, rydyn ni nid yn unig yn creu cynefinoedd cyfoethocach ar gyfer bywyd gwyllt ond hefyd yn sicrhau buddion diriaethol i gymunedau lleol.”

Daniel Hotz

Cyfarwyddwr Gweithredol a Sylfaenydd y Gronfa Adfer Ecolegol

Cwtiad

BLAENORIAETH GALLUOGI

Cael trefn ar ein tŷ ein hunain

Wrth alw am adferiad byd natur, mae’r

Ymddiriedolaethau Natur yn cydnabod bod angen i ni arwain drwy esiampl. Mae hynny’n cynnwys y ffyrdd rydym yn rheoli ein heffeithiau amgylcheddol a chymunedol ein hunain – ac mae cael y data i ddeall yr effeithiau hynny yn hanfodol i wneud penderfyniadau gwell.

Swyddfeydd yr Ymddiriedolaethau

Natur ar lannau Afon Trent

ASTUDIAETH ACHOS

Addasu i’r bygythiad hinsawdd

Mae cysylltiad anorfod rhwng yr argyfyngau natur a hinsawdd, a dyma pam mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cymryd camau mentrus i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Ers 2022, rydym wedi bod yn asesu ac yn adrodd ar sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein helusennau, gan gynnwys yr effaith ar ein daliadau tir a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt. Mae newid yn yr hinsawdd yn peri un o’r bygythiadau mwyaf i’n gwarchodfeydd natur ni, gyda sychder, llifogydd, tonnau gwres a thanau gwyllt i gyd yn peri risgiau sylweddol.

Gyda’n gilydd, rydym yn gwneud cynnydd o ran lleihau ein hallyriadau carbon ac addasu’r ffordd rydym yn gweithio i weithredu’n fwy cynaliadwy a diogelu ein staff, ymwelwyr, adeiladau a safleoedd yn well. Mae mawndiroedd, glaswelltiroedd, coetiroedd, dŵr croyw a gwarchodfeydd natur arfordirol ledled y DU yn cael eu hadfer, eu hailgysylltu ac, mewn rhai achosion, yn cael eu hailddyfeisio wrth i newid hinsawdd ddechrau cael effaith. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

• Mae’r Ymddiriedolaeth Natur ar gyfer Swydd Bedford, Swydd Caergrawnt a Swydd Northampton wedi rhoi hwb i wytnwch ffendir drwy gaffael Speechly’s Farm, gan gynyddu’r mawndir a adferwyd yn y Ffen Fawr i 1,900 hectar. Mae hyn wedi gwella cysylltedd a bydd y cynefin yn cadw mwy o storfeydd carbon ar adegau o sychder.

• Mae Ymddiriedolaeth Natur Norfolk wedi bod yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i addasu Corsydd Cley a Salthouse. Maent wedi adnewyddu gwelyau cyrs ac wedi symud rhan o ddraen llifogydd ‘New Cut’ i wacáu dŵr llifogydd yn fwy effeithiol a helpu’r corsydd i gynnal cynefinoedd arfordirol dŵr croyw sy’n storio carbon.

• Mae Ymddiriedolaeth Natur Ynys Manaw wedi plannu 8,000 o goed i greu coedwig law dymherus newydd yn Creg y Cowin ac yn bwriadu plannu 27,000 yn rhagor dros y pedair blynedd nesaf. Wrth i’r canopi gau bydd hyn yn creu lloches oer, laith i anifeiliaid rhag tymheredd eithafol, a fydd o fudd i adar fel y gwybedog brith a thelor y coed.

Yn ogystal, mae RSWT wedi datblygu cwrs hyfforddi mewnol ar newid yn yr hinsawdd ar gyfer staff ar draws y ffederasiwn ac mae ein harferion caffael yn sicrhau bod unrhyw gyflenwyr y byddwn yn ymgysylltu â hwy yn cael eu hasesu’n drylwyr ar sail eu rhinweddau gwyrdd. Rydym yn edrych ar ffyrdd o leihau ein hôl troed carbon ymhellach drwy gyflenwyr ynni a defnydd o ynni, gan wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni ein hadeiladau, y cerbydau rydym yn eu defnyddio, teithio, digwyddiadau, arlwyo ac allyriadau carbon digidol.

Ein rôl ni yn yr Ymddiriedolaethau Natur yw gwneud cymaint ag y gallwn ni i helpu byd natur i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd, eiriol dros atebion sy’n seiliedig ar natur i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a pharhau i flaenoriaethu ymchwil barhaus ac ymroddedig ym maes addasu i newid yn yr hinsawdd wrth i ni wynebu eithafion mwy yn ein tywydd.

BLAENORIAETH GALLUOGI

Sicrhau bod ein gwarchodfeydd natur a’n

hasedau tir yn sylfaen ar gyfer adferiad byd natur

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn rheoli rhai o’r gwarchodfeydd natur a’r cynefinoedd bywyd gwyllt gorau ar draws y DU a Dibyniaethau’r Goron. Yn ddarnau olaf o gynefin bywyd gwyllt sy’n weddill yn aml, rydym yn gweithio i adfer, ehangu a chysylltu gwarchodfeydd natur bach ac ynysig, drwy weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod mwy o dir yn cael ei reoli ar gyfer byd natur.

Tirwedd Lyscombe

Defaid yn pori mewn

tirwedd amaethyddol

Coeden dderwen hynafol

ASTUDIAETH ACHOS

Pryniant Lyscombe yn creu rhwydwaith adfer natur newydd yn Dorset

Prynodd Ymddiriedolaeth Natur Dorset safle newydd sylweddol ar gyfer cadwraeth ac adfer amgylcheddol ym mis Mawrth 2024.

Prynwyd tir fferm yn Lyscombe, sydd wedi’i leoli 10 milltir i’r gogledd ddwyrain o Dorchester, mewn partneriaeth â Natural England drwy’r rhaglen Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a’r cynllun credyd lliniaru maethynnau arfaethedig – ochr yn ochr â rhoddion hael gan aelodau a chefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Dorset.

Mae’r fferm yn rhan o Dwyni Dorset mewn ardal o laswelltir sialc, prysgwydd, dolydd blodau gwyllt a choetir hynafol, ac mae’n cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig 50 hectar, Safleoedd o Ddiddordeb Cadwraeth Natur a sawl Heneb Gofrestredig, gan gynnwys Capel Lyscombe.

Er mai prif bryder yr Ymddiriedolaeth Natur a Natural England yw rheoli’r ardal ar gyfer adferiad byd natur, bydd hefyd yn helpu i leihau’r lefelau o faethynnau niweidiol sy’n mynd i mewn i Harbwr Poole. Mae bywyd gwyllt ac ansawdd dŵr yn yr ardal wedi dioddef oherwydd bod gormod o faethynnau’n dod i lawr ei dyfrffyrdd, yn tarddu o dai (drwy garthffosiaeth wedi’i drin) ac, yn arwyddocaol, o wrtaith a thail sydd wedi’i roi ar dir fferm. Drwy fabwysiadu dull mwy

cynaliadwy o reoli tir, bydd y maethynnau sy’n mynd i dop y dalgylch yn Lyscombe yn cael eu lleihau drwy gael gwared ar fewnbynnau a thrwy fesurau adfer naturiol, fel creu cynefin gwlybdir newydd fedr ddal maethynnau.

Dros y blynyddoedd sydd i ddod, mae Ymddiriedolaeth Natur Dorset yn bwriadu gwella’r cynefin er mwyn cynnal tir isel y safle a gweithredu fel catalydd ar gyfer cynyddu’r bywyd gwyllt ledled y dirwedd. Bydd cymysgedd o dechnegau adfywio naturiol a dull ailwylltio, ynghyd â rheolaeth cadwraeth draddodiadol gan ddefnyddio pori gan dda byw, yn cael eu defnyddio i ofalu am y safle. A thrwy weithio gyda pherchnogion tir a ffermwyr cyfagos, y gobaith yw y bydd Lyscombe yn dod yn ganolfan y bydd rhwydwaith adfer natur yn ffurfio ohoni ar draws tirwedd ehangach Twyni Dorset.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner gydag

Ymddiriedolaeth Natur Dorset ac eraill yn y prosiect arwyddocaol hwn sydd â’r potensial i roi hwb sylweddol i adferiad byd natur yn y rhan yma o Dorset. Mae hon yn enghraifft wych o feddwl yn greadigol a dod â phartneriaid a gwahanol fathau o gyllid at ei gilydd.”

Rachel Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Natural England

© JAMES ADLER

BLAENORIAETH GALLUOGI

Datblygu polisïau clir a chyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Gyda heriau amgylcheddol newydd a chymhleth yn dod i’r amlwg, mae angen i’r Ymddiriedolaethau Natur gymryd safiad clir a hyderus dros fyd natur, gyda’n safbwynt ar unrhyw fater penodol wedi’i ategu gan ddata o ansawdd uchel, arbenigedd lleol a dadansoddiad technegol.

Mae cyfraddau llifogydd a lefelau llifddwr yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn

Gwirfoddolwr yn cynnal arolwg o wely afon

Dail yr hydref yn gorffwys mewn pwll llygredig

Wrth i arferion amaethyddol ddwysáu, mae byd natur yn dioddef o’r canlyniadau

ASTUDIAETH ACHOS

Egwyddorion marchnad natur newydd i fynd i’r afael â ‘gwyrddgalchu’

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaethau

Natur, yr RSPB, Coed Cadw a’r Ymddiriedolaeth

Genedlaethol gyfres o egwyddorion ar gyfer sicrhau bod marchnadoedd natur wir yn cyflawni ar gyfer byd natur, hinsawdd a phobl.

Mae marchnadoedd natur, sy’n seiliedig ar werthu credydau amgylcheddol fel credydau carbon, unedau bioamrywiaeth, credydau maethynnau a thaliadau rheoli llifogydd naturiol, wedi dioddef o ddiffyg rheoleiddio a chynlluniau o ansawdd gwael sy’n caniatáu i rai diwydiannau a busnesau ‘wyrddgalchu.

Mae marchnadoedd natur yn cael eu cynhyrchu gan ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur (camau gweithredu sy’n gwarchod, yn rheoli ac yn adfer ecosystemau naturiol i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol). Os cânt eu rheoleiddio a’u darparu’n effeithiol, mae ganddynt y gallu i sicrhau buddion niferus i gymdeithas a’r amgylchedd, yn ogystal ag agor ffrydiau incwm newydd i gymunedau gwledig a ffermwyr.

Ymunodd a gweithiodd yr Ymddiriedolaethau Natur, yr RSPB, Coed Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Finance Earth a Federated Hermes – arweinydd byd-eang mewn

rheoli buddsoddiadau cyfrifol – i gyd-ddatblygu Egwyddorion Marchnadoedd Natur, cyfres o egwyddorion gwirfoddol ar gyfer buddsoddiadau seiliedig ar wyddoniaeth, i gefnogi marchnadoedd cyfalaf naturiol integriti uchel yn y DU.

Bydd Finance Earth, mewn partneriaeth â Federated Hermes, yn rheoli Cronfa Effaith Natur y DU a gefnogir gan y Llywodraeth sy’n ceisio ysgogi buddsoddiad sefydliadol ar raddfa mewn prosiectau adfer natur o ansawdd uchel ledled y DU. Mae Cronfa Effaith Natur y DU yn bwriadu mabwysiadu’r Egwyddorion Marchnadoedd Natur a’u cymhwyso ar draws ei holl weithgareddau ym marchnadoedd natur y DU.

“Mae’r egwyddorion hyn yn anfon neges gadarn gan rai o’r darparwyr amlycaf ar ddatrysiadau seiliedig ar natur yn y DU na fyddwn ni’n ymgysylltu ag unrhyw gynlluniau heblaw am y rhai â’r integriti gorau posib. Rhaid i brynwyr wrthsefyll craffu a chyfrannu’n wirioneddol at adferiad byd natur yn y DU, a bod o fudd hefyd i gymunedau lleol. Rydyn ni’n croesawu’r gymuned fusnes ac eraill sy’n gweithio yn y maes hwn i ymuno â ni i gynnal yr egwyddorion hyn.”

Dr Rob Stoneman

Cyfarwyddwr Adfer Tirweddau, Yr Ymddiriedolaethau Natur

BLAENORIAETH GALLUOGI

Buddsoddi mewn rhwydwaith staff a gwirfoddolwyr medrus ac amrywiol, a meithrin diwylliant o ddysgu ar draws y mudiad

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan ein byd naturiol, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn buddsoddi mewn staff a gwirfoddolwyr sydd â sgiliau mewn meysydd newydd a rhai sy’n datblygu, gan wneud gwelliannau hefyd i’n strwythurau a’n gweithdrefnau ni i gynyddu’r ffyrdd y gall pobl a chymunedau gyfrannu at adferiad byd natur.

Gwirfoddolwr yn rhoi bawd i fyny wrth ladd ffromlys chwarennog mewn gwarchodfa natur

ASTUDIAETH ACHOS

Gwella’r ffyrdd rydym yn gofalu am wirfoddolwyr

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn dibynnu ar angerdd ac ymroddiad miloedd o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi ein hachos, gan chwarae rhan arwyddocaol wrth helpu i ddod â byd natur yn ôl. Mae cydlynu eu hymdrechion a sicrhau eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned ddiogel a mwy yn hanfodol i gynnal, cynyddu a chael y gorau o’r rhwydwaith anhygoel hwn.

Yn 2023, dechreuodd y gwaith o ddod o hyd i System Rheoli Gwirfoddolwyr newydd y gellid ei mabwysiadu ar draws yr Ymddiriedolaethau Natur. Yn dilyn proses gaffael helaeth, dewiswyd system gan TeamKinetic oherwydd ei haddasrwydd ar gyfer sefydliad ffederal fel ein un ni. Yn ogystal â galluogi’r Ymddiriedolaethau Natur i drin a symleiddio pob agwedd ar y broses wirfoddoli mewn un lle, gan gynnwys ymuno, ymgysylltu â gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli, mae hefyd yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â diogelu a chydymffurfio, gan sicrhau lles yr holl wirfoddolwyr.

Ymddiriedolaeth Natur Durham oedd y cyntaf i fynd yn fyw, gydag Ymddiriedolaethau Natur Swydd Derby, Dorset, Essex, Swydd Gaerloyw, Swydd Nottingham, Swydd Wilt a Swydd Efrog i gyd wrthi’n rhoi’r system newydd ar waith gyda’u gwirfoddolwyr ar hyn o bryd. Mae Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru, Sir Drefaldwyn, Swydd Henffordd, Llundain, a Birmingham a’r Black Country, ynghyd ag Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn bwriadu mabwysiadu’r system yn ystod y flwyddyn nesaf.

Bydd ei mabwysiadu gan Ymddiriedolaethau Natur niferus yn darparu adroddiadau effeithiol, gan ein helpu i arddangos gwaith gwirfoddolwyr yn well a lleihau’r gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig â rheoli gwirfoddolwyr, cyfathrebu ac ymgysylltu.

Gwirfoddolwyr yn ailadeiladu wal gerrig

BLAENORIAETH GALLUOGI

Staff yr Ymddiriedolaethau Natur mewn digwyddiad Pride

Rydyn ni’n wyllt am gynhwysiant

Mae elusennau amgylcheddol a chadwraeth wedi cael anawsterau gydag amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn eu gweithluoedd ac maent yn parhau i fod yn un o’r proffesiynau ethnig lleiaf amrywiol yn y DU. Mae denu pobl o ethnigrwydd neu gefndiroedd gwahanol, pobl ifanc a phobl anabl i weithio mewn sector sy’n dioddef o ddelwedd o fod yn lle i ‘bobl dosbarth canol gwyn’ wedi bod yn anodd. Mae’r ystadegau’n llwm - un o bob 20 o weithwyr yn y sector elusennau amgylcheddol oedd yn uniaethu fel lleiafrif ethnig yn 2023, o gymharu ag un o bob wyth yng ngweithlu ehangach y DU.

Wrth wynebu’r heriau hyn yn uniongyrchol, mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi gosod amrywiaeth eu staff a’u hymddiriedolwyr wrth galon Strategaeth 2030, fel yr amlygwyd ym mlaenoriaeth alluogi pedwar: buddsoddi mewn rhwydwaith staff a gwirfoddolwyr medrus ac amrywiol. Heb fodloni ar wneud dim ond beth sydd raid ac yn ofynnol, rydym yn mynd gam ymhellach i gyflymu ein symudiad i gael gweithlu mwy cynrychioliadol ac i ymgorffori ‘llinyn euraid’ cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydym yn ei wneud – o recriwtio a sefydlu, i hyfforddi, cyfathrebu a diwylliant.

Rydym yn cynnal arolwg amrywiaeth blynyddol i helpu i olrhain ein cynnydd a nodi’r grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol neu’n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae ein prif ganfyddiadau yn cynnwys y canlynol:

• Mae rhai grwpiau lleiafrifol yn cael eu gorgynrychioli tra bo eraill heb gynrychiolaeth ddigonol - sy’n dangos bod gennym ni fwy o waith i’w wneud o hyd.

• Mae ein bylchau cyflog yn is na’r cyfartaleddau cenedlaethol, lle mae ystadegau ar gael i ganiatáu ar gyfer cymhariaeth ar draws ffactorau niferus gan

gynnwys rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd ac ethnigrwydd.

• Mae ein dull trefnu cymunedol yn cefnogi cymunedau mwy amrywiol i greu gofod natur, gwella mynediad at fyd natur, meithrin hoffter o fywyd gwyllt a hybu lles.

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r bylchau hyn, rydym wedi gweithredu polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n deillio o’r Model Cymdeithasol o Gynhwysiant, sy’n canolbwyntio ar rwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agweddol sy’n achosi anfanteision.

I gefnogi’r Ymddiriedolaethau Natur ar y siwrnai hon, rydym wedi creu adnoddau a phecynnau cefnogi, wedi cynnal digwyddiadau ac wedi datblygu rhwydweithiau staff. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys ein digwyddiad gyrfa Dyfodol Gwyllt cyntaf i helpu i amrywio ein cyflenwad o dalent – gyda 70% o’r mynychwyr heb wneud cais am swydd gyda ni erioed o’r blaen, ond 80% yn dweud y byddent yn ystyried gwneud cais i weithio gyda ni ar ôl y digwyddiad. Mae’r adnoddau sydd ar gael yn hwylus yn cynnwys fideos cryno 60 eiliad, canllawiau terminoleg, hyfforddiant ar-lein manwl i staff a phodlediadau misol ar bynciau fel cynhwysiant LGBTQ+ a gwrth-hiliaeth. Yn y cyfamser, mae datblygiad chwe rhwydwaith staff, sydd â mwy na 500 o aelodau bellach, wedi helpu i atgyfnerthu’r ymdeimlad o gymuned a grymuso staff i ddylanwadu ar benderfyniadau sefydliadol drwy ddarparu lle i drafod heriau a chyflawniadau ac i feddwl ar y cyd am ffyrdd o wneud yr Ymddiriedolaethau Natur yn lle gwell i weithio.

Rydym wedi ymrwymo i adolygu a gwella ein strwythurau a’n harferion yn barhaus fel bod ein sefydliad yn gallu bod yn fwy cynhwysol a chroesawu aelodau newydd a mwy amrywiol. Ein nod ni yw bod yn elusen amgylcheddol sy’n arwain y ffordd ac er bod llawer o waith i’w wneud o hyd, mae’r sylfeini yn eu lle, rydym yn gwrando ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn mynd i gyfeiriad cadarnhaol.

Ein Rhwydweithiau Staff

LLIWIAU BYD NATUR

Ar gyfer pobl o liw - lle diogel i rannu profiadau cadarnhaol a negyddol yn y gwaith, lle i rwydweithio a chael sgyrsiau gyda chyfoedion.

NATUR I BAWB

Ar gyfer cyflogeion ag anableddau – lle i ddarparu cefnogaeth i gymheiriaid, i wrando a dysgu oddi wrth ei gilydd, i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o anableddau a gwella hygyrchedd ar draws yr Ymddiriedolaethau Natur.

MEDDWL AM FYD NATUR

I gyflogeion sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl – mae’r rhwydwaith hwn yn lle i gysylltu a rhannu profiadau, dathlu a chodi ymwybyddiaeth o achosion iechyd meddwl, cynhwysiant, gweithgareddau ac arferion lles da ar draws yr Ymddiriedolaethau Natur.

NATUR Y GENHEDLAETH NESAF

Ar gyfer cyflogeion ifanc (dan 32 oed) - rhwydwaith sy’n darparu cefnogaeth i gymheiriaid a lle i rannu profiadau ac i sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ddylanwadol ar draws yr holl Ymddiriedolaethau Natur.

ALLAN DROS NATUR

Ar gyfer cyflogeion sy’n uniaethu fel rhan o’r gymuned LGBTQ+ - mae’r rhwydwaith hwn yn darparu cefnogaeth i gymheiriaid a lle i ddysgu o brofiadau ei gilydd, codi ymwybyddiaeth o hanes LGBTQ+ a lle i drefnu digwyddiadau cynhwysol a nosweithiau cymdeithasol ar gyfer cefnogwyr a staff.

MERCHED MEWN NATUR

Gofod cynhwysol i ferched o bob cefndir, gan gynnwys merched traws a phobl anneuaidd – mae’r rhwydwaith hwn yn darparu gofod cymdeithasol i rannu profiadau a dathlu ei gilydd, ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a datblygu, ac i godi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae merched yn eu hwynebu yn y gweithle.

BLAENORIAETH GALLUOGI

Siarad gyda llais beiddgar a hyderus, gan gynyddu ein heffaith a’n dylanwad ymhellach

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol, amrywiol ac mae ganddynt hygrededd ac enw da fel llais dros fyd natur. Rydym yn defnyddio’r sylfaen honno i alw am ei adferiad ac i godi llais yn erbyn camau gweithredu a fydd yn arwain at ddirywiad pellach yn lleol ac yn genedlaethol.

CASE STUDY

Arwain o’r

blaen a dwyn y rhai sy’n gwneud

penderfyniadau i gyfrif

Yn 2023, arweiniodd cyfres o benderfyniadau negyddol i fyd natur a thro pedol gan Lywodraeth y DU at yr Ymddiriedolaethau Natur ac eNGOs eraill yn datgan ‘ymosodiad ar natur’ gan y rhai sydd mewn grym ac yn galw am gymryd camau ar unwaith.

Ym mis Tachwedd, cyn Araith y Brenin, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaethau Natur restr o 10 addewid a dorrwyd gan Lywodraeth y DU ar yr amgylchedd, gan dynnu sylw at agenda a oedd yn bygwth cynefinoedd a gofod gwyllt, ac fel rhan o ymdrech barhaus i ddal y llywodraeth i gyfrif am bob penderfyniad a gyfrannodd at ddirywiad byd natur. Roedd hyn yn cynnwys ymdrechion mynych i wanhau gwarchodaeth amgylcheddol drwy ddileu rheolau niwtraliaeth maethynnau, y cyhoeddiad i beidio â blaenoriaethu ailgyflwyno rhywogaethau a phasio Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir, sy’n caniatáu i Lywodraeth y DU ddirymu neu wanhau deddfwriaeth amgylcheddol heb graffu seneddol.

Yn ogystal, bu oedi sawl gwaith gyda pholisïau allweddol fel Enillion Net Bioamrywiaeth, Strategaeth Cemegau ac adolygiad sylweddol o’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol, a addawyd ar gyfer 2023.

Defnyddiwyd cryfder ein llais ni ar y cyd, gan gynrychioli mwy na 944,000 o aelodau, 3,600 o staff a 38,000 o wirfoddolwyr i amlygu ein pryderon drwy’r cyfryngau cenedlaethol. Rhoddwyd sylw i’n hymateb i’r newid yn y rheolau llygredd dŵr ar draws y cyfryngau, roedd ein hymateb i’r oedi ar wneud Enillion Net Bioamrywiaeth yn rhan orfodol o’r system gynllunio yn Lloegr ar Newyddion y BBC, a chafodd rhybudd amlwg gan Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur, Craig Bennett, sylw mewn cyfweliad mawr ar raglen BBC Today a Sky News.

Gyda’i gilydd, arweiniodd ein hymdrechion ni i sicrhau bod byd natur yn y penawdau at fwy na 43,000 o ddarnau o sylw cenedlaethol ar draws y cyfryngau print, darlledu ac ar-lein – gan greu 502 biliwn o gyfleoedd i gael eu darllen, eu gwylio neu eu clywed!

© LINDA PITKIN/2020VISION
Prif Weithredwr
Natur
Cumbria yn rhoi cyfweliad ar Channel 4 News
Cyn Weinidog yr Amgylchedd, Rebecca Pow, yn siarad yn
Y Ddadl Natur a Hinsawdd Fawr
Mae afonydd a dyfrffyrdd iach yn hanfodol i les ein hamgylchedd ni

Cynrychioli’r Ymddiriedolaethau Natur ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang

Mae Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur (RSWT) wrth galon yr Ymddiriedolaethau Natur, gan sicrhau llais cryf, cyfunol, cenedlaethol dros fywyd gwyllt, gan helpu i gydlynu gwaith rhwng Ymddiriedolaethau Natur unigol ac arwain datblygiad y mudiad a ffederasiwn yr Ymddiriedolaethau Natur fel cyfanwaith.

Mae’r RSWT yn bodoli i hyrwyddo amcanion y ffederasiwn, meithrin a rheoli perthnasoedd allweddol gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau cenedlaethol a phartneriaid corfforaethol, dylanwadu ar Lywodraeth y DU, darparu cefnogaeth seilwaith a chyngor ac arbenigedd arbenigol, cefnogi cymunedau ymarfer a grwpiau prosiect, gweinyddu grantiau a rhaglenni partneriaeth a gweithredu fel y corff arweiniol ar gyfer rhaglenni sy’n torri ar draws ffiniau Ymddiriedolaethau Natur.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r RSWT wedi canolbwyntio ei hymdrechion ar gefnogi a datblygu’r Ymddiriedolaethau Natur drwy ei thri phwrpas craidd penodol:

• Cydlynu a sicrhau bod Strategaeth 2030 yn cael ei chyflawni’n llwyddiannus

• Cyflawni effaith allanol uniongyrchol

• Datblygu a chryfhau ffederasiwn yr Ymddiriedolaethau Natur.

Lansiwyd llawlyfr newydd i helpu ein cymunedau i fod yn ddi-fawn yn eu gerddi a chydnabod pwysigrwydd mawndiroedd iach i fyd natur a’r hinsawdd

Dyfarnwyd medal aur i’n gardd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Swydd Berk, Swydd Buckingham a Swydd Rhydychen, ac enillodd y wobr Gorau yn y Sioe a’r Adeiladwaith Gorau yng Ngŵyl Wanwyn RHS Malvern

Denodd ein hymgyrch ymgysylltu flynyddol, 30 Diwrnod Gwyllt, fwy na 124,000 o gofrestriadau, gan gynnwys 13,854 o ysgolion, 1,109 o gartrefi gofal a 1,639 o fusnesau

Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur, Craig Bennett, yn siarad yng ngorymdaith Adfer Natur Nawr!

Develop and strengthen The Wildlife Trusts’ federation

The 46 individual charities that make up The Wildlife Trusts are embedded within the local communities they serve, having a direct and positive impact on the wildlife and people that surround them. When Wildlife Trusts work together, our collective impact can create national attention and lead to global change. RSWT is committed to developing and strengthening the federation to deliver greater impact for nature’s recovery.

RSWT has developed key corporate partnerships to support The Wildlife Trusts’ work. An in-person business event organised in partnership with Hogan Lovells, looked back on the six months since the UN Biodiversity Conference (COP15). The event generated huge interest, with guest speakers including the Secretary of State, Natural England Chair, UN Environment Programme World Conservation Monitoring Centre Chief Executive, and senior representatives from Aviva, Bupa and the Green Finance Institute.

The Nextdoor Nature programme got underway and has been a phenomenal success, placing a community organiser in every Wildlife Trust in England, Scotland and Wales and helping re-connect hundreds of communities. Feedback from The National Lottery Heritage Fund assessors recognised that Nextdoor Nature was more than another outreach programme and was genuinely community driven. The creativity and breadth of solutions for nature’s recovery being generated by our communities is highly positive and unique in its outcomes, demonstrating people empowerment and producing fresh and new solutions.

RSWT organised a trip for Wildlife Trust leaders and Chief Executives to visit leading landscape recovery programmes in the Netherlands in early July 2023 to look at how largescale rewilding can help provide huge societal benefits such as flood alleviation. The trip was a resounding success and is inspiring our own thinking and approaches to bringing nature back in the UK.

To foster better collaboration between Wildlife Trusts and help align how we work, a series of key frameworks were agreed and adopted in 2023. We now have detailed frameworks that govern the federation’s approach to collective decision-making, corporate engagement, equality, diversity and inclusion, safeguarding, internal communications and cyber security.

Stepping up the scale of funding for the work of Wildlife Trusts is helping ramp up the pace of nature’s recovery. RSWT secured funding for landscape recovery, is pioneering new uses of digital technology and data to enhance our fundraising and is helping to build the federation’s green finance community of practice.

Our strategic lead for safeguarding provides training, support and advice; cyber security audits are regularly conducted and support is offered to Wildlife Trusts; and an experienced and proactive equality, diversity and inclusion team offers an array of support, resources, training and more as we build a more inclusive community.

Cydlynu a sicrhau bod Strategaeth 2030 yn cael ei chyflawni’n llwyddiannus

Mae dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddod ag arweinwyr a staff o bob rhan o ffederasiwn yr Ymddiriedolaethau Natur at ei gilydd i rannu profiadau ac arbenigedd, a chydweithredu ar brosiectau allweddol, wedi bod yn hanfodol i greu momentwm a chynnydd tuag at ein nodau strategol a nodir yn Strategaeth 2030.

Mae’r camau allweddol wedi cynnwys ein Cynhadledd Ffederasiwn flynyddol, gan ddod â 280 o’n staff at ei gilydd ar gampws Prifysgol Keele a ffrydio’n fyw ar-lein i gannoedd o rai eraill na allent fod yn bresennol wyneb yn wyneb. Roedd thema’r gynhadledd yn canolbwyntio ar sbarduno Strategaeth 2030 yn ei blaen drwy lens yr Etholiad Cyffredinol – a fu’n baratoad amserol ar gyfer ymgyrch etholiad 2024.

Daethom hefyd â Chadeiryddion yr Ymddiriedolaethau Natur, Prif Weithredwyr ac arweinwyr at ei gilydd ar gyfer Cynhadledd Arweinwyr lwyddiannus yn Swydd Gaerhirfryn i drafod cerrig milltir Strategaeth 2030. Mynychodd cadeiryddion sesiynau ar lywodraethu a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i sicrhau bod arfer gorau yn y meysydd allweddol hyn yn cael ei roi ar waith ar draws y ffederasiwn, a chymerodd Prif Weithredwyr ran mewn ymarferion senarios argyfwng er mwyn paratoi’r Ymddiriedolaethau Natur yn well ar gyfer y dinistr a all ddod o ganlyniad i drychinebau naturiol, gan gynnwys tanau gwyllt a llifogydd.

Yn ogystal â hyfforddiant i Gadeiryddion, mae’r RSWT wedi bod yn arwain nifer o fentrau i sicrhau ein bod fel ffederasiwn yn bwrw ymlaen â’n hymrwymiad i fwy o gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, gyda chwblhau arolwg amrywiaeth yr Ymddiriedolaethau Natur. Wedi’i gwblhau yn 2023 gan bob un o’r 46 o Ymddiriedolaethau Natur a’r RSWT, mae’n rhoi trosolwg

manwl i ni o’r amrywiaeth yn y ffederasiwn ac yn cefnogi ein nod i fuddsoddi mewn rhwydwaith staff amrywiol. Mae’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd gyda chyhoeddi ein hadroddiad amrywiaeth cyntaf. Cynhyrchwyd yr adroddiad mewn nifer o fformatau, gan gynnwys Saesneg Clir, Cymraeg, Hawdd ei Ddarllen ac mewn fformat Darllenydd Sgrin, ac mae’n nodi dechrau ar ein siwrnai dryloyw at ddod yn gyflogwr mwy cynhwysol ac amrywiol.

Mae codi arian i gefnogi rhai o’r uchelgeisiau mawr sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth 2030 yn hollbwysig ac arweiniodd at yr RSWT yn cymryd rhan yn arian cyfatebol gwyrdd y ‘Big Give’ am y tro cyntaf, cynllun sy’n arwain at unrhyw arian a godir drwy roddion cyhoeddus yn cael ei ddyblu gan gorfforaethau a dyngarwyr. Denodd ein hymgyrch i godi arian i gefnogi’r targed 30 erbyn 30 (30% o’r tir a’r môr ar gyfer byd natur erbyn 2030) swm anhygoel o £243,346 gan roddwyr hael.

Mae trawsnewid digidol yr Ymddiriedolaethau Natur yn hanfodol hefyd i gyflawni ein nod o adfer byd natur. Mae ein ffocws ar greu gwell seilwaith digidol wedi ein harwain at ddatblygu hwb data CRM sydd, am y tro cyntaf, yn defnyddio data codi arian byw gan yr Ymddiriedolaethau Natur, gan ddarparu gwybodaeth gyfoethog y gall yr Ymddiriedolaethau Natur ei defnyddio i ddatblygu eu harferion codi arian. Mae un maes blaenoriaeth arall a nodwyd o dan yr ‘ymbarél’ digidol yn cynnwys defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) gyffredin, gyda’r RSWT yn ysgogi ei mabwysiadu er mwyn galluogi rhannu data allweddol am y tir rydym yn berchen arno ac yn ei reoli ledled y DU. Mae 40 o Ymddiriedolaethau Natur wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r platfform.

Rydym hefyd wedi ymrwymo’n fawr i ‘roi trefn ar ein tŷ ein hunain’ o ran ein heffaith ar fyd natur a’r hinsawdd, sydd wedi ein harwain at gyhoeddi tri adroddiad hinsawdd allweddol: ein cofnodion nwyon tŷ gwydr cyfunol diweddaraf gan bob Ymddiriedolaeth Natur (sy’n dangos bod ein hallyriadau wedi gostwng 10%); ein hadroddiad addasu hinsawdd blynyddol; ac adroddiad arddangos o ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur wedi’u hanelu at randdeiliaid allanol. Gyda’i gilydd mae’r adroddiadau hyn yn amlygu bod yr Ymddiriedolaethau Natur yn gwario miliynau o bunnoedd ar weithredu ar yr hinsawdd a datrysiadau sy’n seiliedig ar natur.

Arweinwyr yr Ymddiriedolaethau Natur yn ymweld â phrosiectau adfer tirwedd yn yr Iseldiroedd

Fe wnaethom gyhoeddi Egwyddorion Marchnad

Natur ar y cyd, sy’n cwmpasu credydau carbon, unedau bioamrywiaeth a chredydau maethynnau, gyda’r bwriad o annog buddsoddiad preifat cyfrifol mewn adferiad byd natur

Dyfarnwyd Medal fawreddog Christopher Cadbury i Dr Rob Stoneman, cyfarwyddwr adfer tirweddau’r RSWT a Phrif Weithredwr blaenorol sawl Ymddiriedolaeth Natur, a Rosemary Parslow, gwirfoddolwr am 60 mlynedd gydag Ymddiriedolaeth Natur Ynysoedd Sili

Lansiwyd Adolygiad Morol 2023, a rannodd gyfarfyddiadau â bywyd gwyllt morol o’r flwyddyn ddiwethaf ledled y DU, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu ein hamgylchedd morol

Swyddog cadwraeth forol, Dani Clifford, yn siarad ar BBC Breakfast

Cyflawni effaith allanol uniongyrchol

Fel llais cenedlaethol yr Ymddiriedolaethau Natur, mae’r RSWT yn cydlynu’r ymgysylltu uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU ar faterion polisi, ac yn ymgyrchu ac yn cyfathrebu ar faterion sy’n effeithio ar bob Ymddiriedolaeth Natur, gan ddefnyddio cyfryngau traddodiadol a digidol. Mae ein hadroddiadau a’n digwyddiadau arloesol yn codi ymwybyddiaeth ac yn herio’r sefyllfa fel ag y mae, a defnyddir pŵer ein llais ar y cyd i sicrhau newid a mynd i’r afael â’r bygythiadau cenedlaethol a byd-eang i fyd natur.

Yn ein hymdrechion i ddylanwadu ar bolisi’r DU, mae’r RSWT wedi cynrychioli’r Ymddiriedolaethau Natur mewn nifer o gyfarfodydd allweddol a bord gron, gan gynnwys cyfarfod bord gron gan Defra i drafod y newid i ddyfodol heb neonicotinoidau ar gyfer ffermio betys siwgr, yn dilyn cymeradwyo’r plaladdwyr dro ar ôl tro i’w defnyddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â chyfarfod â swyddogion y llywodraeth, rhyddhawyd dau adroddiad gennym hefyd i symud y polisi ffermio i sefyllfa sy’n fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Roedd hyn yn cynnwys The Scale of Need mewn partneriaeth â’r RSPB a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a ddatgelodd – gan ddefnyddio data newydd – fod angen o leiaf £4.4 biliwn y flwyddyn o fuddsoddiad cyhoeddus mewn ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur a’r hinsawdd i gyrraedd targedau cyfreithiol. Mae ail adroddiad, a gyhoeddwyd ar y cyd â’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur, Farming at the Sweet Spot, yn cynnig model newydd ar gyfer systemau ffermio sy’n gwneud y gorau o broffidioldeb ffermydd gan weithio gyda byd natur a lliniaru newid yn yr hinsawdd. Mae ffermio yn biler canolog i’n gwaith polisi – gyda thir fferm yn gorchuddio 70% o’n harwynebedd tir – fodd bynnag, rydym yn gweithio ar draws yr amrywiaeth eang o faterion amgylcheddol, gan gynnwys

dŵr, sy’n golygu ein bod yn cyfrannu at becyn Adfer Nentydd Sialc Defra, y disgwylir iddo fynd i’r afael â thynnu dŵr anghynaliadwy a llygredd ffosffad mewn nentydd sialc.

Mae ein gwaith polisi yn ymestyn hefyd i gynnwys iechyd a lles, gan fod ganddo gysylltiad anorfod ag amgylchedd naturiol iach. Er mwyn hyrwyddo’r cysylltiad rhwng iechyd meddyliol a chorfforol da a mynediad at fyd natur, cyhoeddwyd adroddiad Gwasanaeth Iechyd Naturiol gennym yn 2023 a ddenodd sylw eang gan y cyfryngau. Mae hyn wedi ein galluogi i gryfhau cynghreiriau o fewn y sector iechyd ac mae’n darparu tystiolaeth ragorol o’r potensial i arbed costau i’r GIG mewn perthynas â phresgripsiynau cymdeithasol gwyrdd. Yn y cyfamser, mae datblygu dealltwriaeth ddyfnach o werth byd natur mewn pobl ifanc ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr yn hanfodol i barhau â’n gwaith, gan ein harwain at sicrhau £100,000 gan Sefydliad Elusennol Gatsby i dreialu lleoliadau Lefel T. Nod y lleoliadau hyn yw rhoi cefnogaeth a phrofiad i bobl ifanc i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y sector elusennol.

Mae data a thystiolaeth dda yn hollbwysig fel sail i’n gwaith polisi, gan ein harwain at lansio’r Arolwg Natur Mawr yn 2023. Yn arolwg ‘cyntaf o’i fath’, ei nod yw deall yn well beth mae pobl yn y DU wir yn ei feddwl am fyd natur. Mae’r ymatebion hyd yma wedi dweud wrthym fod ymgyrchu a threfnu cymunedol yn ffactorau arwyddocaol wrth amrywio’r gefnogaeth i’r Ymddiriedolaethau Natur ac wedi nodi bod demograffeg ein cefnogwyr yn llawer mwy amrywiol o ran ethnigrwydd ac yn cael ei rheoli’n llai gan y dosbarth canol nag a dybiwyd yn flaenorol ac fel y casglwyd o ddata aelodaeth.

Er mwyn cynyddu ac amrywio’r nifer o bwyntiau cysylltu sydd gennym ag aelodau’r cyhoedd, lansiodd yr RSWT fenter

newydd – Gerddi’r Coroni ar gyfer Bwyd a Natur – mewn partneriaeth â Garden Organic, Incredible Edible a Sefydliad y Merched, diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Nod y fenter hon yw annog pobl i dyfu mwy o fwyd mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac mae’n cryfhau’r cysylltiadau rhwng y partneriaid dan sylw drwy ddatblygu perthynas fwy ffurfiol drwy’r prosiect.

Drwy gydol 2023 a 2024, fe wnaethom gyflwyno a chymryd rhan mewn digwyddiadau ‘wyneb yn wyneb’ newydd ac arwyddocaol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Roedd hyn yn cynnwys presenoldeb sylweddol mewn gŵyl ffermio adfywiol, Groundswell (gyda darllediadau ar-lein drwy gydol y digwyddiad) a noddi gerddi’r Ymddiriedolaethau Natur yng Ngŵyl Wanwyn RHS Malvern a Gŵyl Gerddi RHS Hampton Court Palace gyda’r ddwy ardd yn ennill llu o wobrau a sylw sylweddol ar y cyfryngau. Aethom hefyd i Ŵyl Glastonbury am y tro cyntaf yn 2023. Yn ein harddangosfa #LovePeat, fel rhan o’r rhaglen Precious Peatlands, gwelwyd amrywiaeth eang o fynychwyr yr ŵyl yn ymgysylltu â’r Ymddiriedolaethau Natur a materion yn ymwneud ag echdynnu mawn.

Mae ein tîm cyfryngau yn cael sylw cenedlaethol eang, gan godi ymwybyddiaeth o’n gwaith a chyflwr byd natur. Mae Adolygiad Morol blynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur, sy’n canolbwyntio ar uchafbwyntiau a heriau morol y flwyddyn flaenorol, yn enghraifft wych o sicrhau mwy na 300 o ddarnau o sylw ar y cyfryngau, gan gynnwys ar BBC Breakfast, Sky News a rhaglen Today ar Radio 4. Roedd yr adroddiad dylanwadol yn dathlu creu’r Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig cyntaf yn nyfroedd Lloegr – yr ymgyrchwyd ers tro drostynt gan yr Ymddiriedolaethau Natur – a rhybuddiodd am y perygl cynyddol o darfu gan bobl, llygredd a’r ffliw adar.

Archwiliodd ein Hadroddiad Amrywiaeth 2023 amrywiaeth y staff a’r ymddiriedolwyr ar draws y 46 o Ymddiriedolaethau Natur, gan ddadansoddi rhyw, hil, rhywedd, oedran a statws anabledd

Aethom ati i ffurfio partneriaeth gydag Universal Studios a’u ffilm deuluol ddiweddaraf Migration, sy’n dilyn teulu o hwyaid gwyllt ar eu siwrnai ar draws America, i ddarparu cyfleoedd ymgysylltu newydd

Lansiwyd ymgyrch Gwyllt Am Erddi 2024 gan ofyn i bobl ailfeddwl am sut maent yn teimlo am wlithod a malwod a dysgu byw gyda hwy yn eu gardd

IONAWR CHWEFROR MAWRTH

Gweithio dros fywyd gwyllt yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn gweithio i sicrhau adferiad byd natur yng Nghymru drwy gynghori a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill drwy weithgarwch ymgyrchu, gwaith eiriol a meithrin partneriaethau, gan sicrhau bod penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar fywyd gwyllt yn cael eu gwneud gan feddwl am fyd natur a’r hinsawdd.

Yn dilyn blynyddoedd o eiriolaeth gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn 2023, pennodd Panel Adolygu Ffyrdd Llywodraeth Cymru bedair egwyddor a fydd i bob pwrpas yn atal unrhyw gynlluniau ffyrdd newydd yng Nghymru. Roedd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys cryfhau’r ddeddfwriaeth gynllunio ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chyflwyno Enillion Net ar gyfer Bioamrywiaeth, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr sicrhau na chaiff byd natur ei golli. Cydnabuwyd ein gwaith ymgyrchu ar ffyrdd gan Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol, gan nodi Ymddiriedolaethau Natur Cymru fel un o 100 o Sefydliadau Creu Newid am ein hymgyrch lwyddiannus yn erbyn estyniad i draffordd yr M4.

Arweiniodd gwaith eiriol pellach at gynnwys byd natur a’r hinsawdd fel egwyddor allweddol ym Mil Amaethyddiaeth (Cymru) a hefyd at ddiogelu Cronfa Rhwydweithiau Natur gwerth £9.8 miliwn, sydd â’r nod o gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.

Yn y cyfamser mae gwaith partneriaeth wedi arwain at lansio adroddiad newydd, Llwybrau at 30 erbyn 30, sy’n amlinellu gofyniad cyllidebol yng Nghymru o £424 miliwn ar gyfer adferiad byd natur. Hefyd mae ymgyrch ar y cyd gyda Climate Cymru yn galw am Fil Positif o ran Natur (Cymru) sy’n pennu targed natur statudol ac yn sefydlu Swyddfa Gymreig ar gyfer Gwarchodaeth Amgylcheddol, fel yn Lloegr. Aeth yr ymgyrch ymlaen i dderbyn mwy na 15,000 o lofnodion a chyflwynwyd

llythyr agored wedi’i lofnodi gan fwy na 300 o sefydliadau – y mwyaf a welwyd erioed yng Nghymru.

Mae gwaith gyda’r pum Ymddiriedolaeth Natur unigol yng Nghymru wedi canolbwyntio ar ffyrdd o rannu adnoddau’n well a chydweithredu, gyda chynnydd penodol wedi’i wneud wrth alinio asedau adnoddau dynol a digidol. Rydym hefyd wedi cytuno ar dair rhaglen flaenoriaeth Cymru Gyfan ar gyfer adfer natur, sy’n canolbwyntio ar yr ucheldiroedd, ar arfordiroedd ac ar afonydd.

Datblygodd prosiect i Gymru gyfan, Sefyll dros Natur Cymru, sydd wedi dod â phobl ifanc at ei gilydd, Faniffesto Ieuenctid a gyflwynwyd i’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn COP15 ac sy’n parhau i gael ei ddefnyddio gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn ein gwaith eiriolaeth.

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi arwain nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan gyflwyno cyfres o 10 sgwrs ar ffermio a natur. Aethom hefyd i Gynhadledd Plaid Cymru, lle buom yn cynnal digwyddiad ochr i dynnu sylw at adroddiad yr Ymddiriedolaethau Natur a’r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur, Farming at the Sweet Spot Yn ogystal, fe wnaethom hefyd drefnu digwyddiad yn y Senedd ar leihau’r defnydd o blaladdwyr a lansio addewid dim plaladdwyr.

Rydym hefyd wedi cynyddu ein hymdrechion i gadw’r Gymraeg yn fyw yn y sector amgylcheddol, sydd wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi ein gweld yn cefnogi Mentrau Iaith Cymru gyda’u prosiect newydd Gwreiddiau Gwyllt i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ym myd natur. Yn ogystal, rydym wedi mabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg yn yr Ymddiriedolaethau Natur, sy’n gofyn am gyfieithiad Cymraeg ar gyfer holl gyhoeddiadau perthnasol y DU a gynhyrchir yn genedlaethol.

Partneriaethau effaith uchel

CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI GENEDLAETHOL

Mae ein prosiect Natur Drws Nesaf, sydd wedi cael cefnogaeth o £5 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn grymuso cymunedau ledled y DU i benderfynu sut maent eisiau helpu byd natur i ffynnu lle maent yn byw — a gwneud i hynny ddigwydd.

Gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaethau Natur, mae pobl yn helpu byd natur i adfer ar garreg eu drws, drwy gannoedd o brosiectau sy’n cael eu sbarduno gan y gymuned. Y llynedd, fe wnaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ein cefnogi hefyd i archwilio sut gallai technolegau digidol ac arloesedd helpu mwy o bobl i gael mynediad at fyd natur a’i fwynhau gyda’r Ymddiriedolaethau Natur.

SEFYDLIAD ESMÉE FAIRBAIRN

Mae Sefydliad Esmée Fairbairn wedi cefnogi ein gwaith i adfer byd natur ar y tir ac yn y môr, yn enwedig ein gwaith i gynnwys mwy o bobl ifanc yn adferiad byd natur a’n gwaith i warchod bywyd gwyllt morol rhag effeithiau niweidiol datblygiadau ar y môr.

Mae Cyfleuster Prynu Tir Sefydliad Esmée Fairbairn yn cael ei ddefnyddio i brynu tir o werth cadwraeth cyfredol neu botensial uchel. Ar ôl ei brynu, mae Sefydliad Esmée Fairbairn yn prydlesu’r tir i Ymddiriedolaethau Natur er mwyn iddynt ei brynu o fewn cyfnod o ddwy flynedd, gan roi cyfle i godi arian. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cymeradwyodd Sefydliad Esmée Fairbairn chwe chais gan bum Ymddiriedolaeth Natur yn dod i gyfanswm o £5.2 miliwn.

LOTERI COD POST Y BOBL

Hoffem ddiolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl am eu cefnogaeth hael dros nifer o flynyddoedd. Cefnogodd arian a godwyd gan y chwaraewyr ein her natur flynyddol, 30 Diwrnod Gwyllt, gan helpu bron i 600,000 o bobl i gysylltu â byd natur bob dydd yn ystod mis Mehefin.

Mae’r cyllid hefyd wedi galluogi’r Ymddiriedolaethau Natur i ofalu am fannau gwyllt arbennig lle gall pobl dreulio amser ym myd natur a dysgu am y bywyd gwyllt rhyfeddol o’u cwmpas. Roedd yn cefnogi ein digwyddiadau Wild LIVE, lle bu gwesteion yn trafod materion pwysig sy’n effeithio ar bobl a byd natur, a gwaith ein tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth helpu i sicrhau bod pobl o bob cefndir a gallu yn gallu mwynhau byd natur a chymryd rhan gyda’r Ymddiriedolaethau Natur.

CRONFA ADFER ECOLEGOL

Mae’r Gronfa Adfer Ecolegol yn cefnogi ein gwaith i warchod ac adfer ecosystemau morol ac adfer byd natur ar draws ardaloedd mawr o dir. Mae hyn yn cynnwys dod â rhywogaethau conglfaen coll yn ôl sy’n helpu i greu cynefinoedd ar gyfer ystod amrywiol o fywyd gwyllt.

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae’r cyllid hwn wedi galluogi a chefnogi’r

Ymddiriedolaethau Natur i wneud sawl caffaeliad tir allweddol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan gyfrannu at ymrwymiad y DU i warchod a chadw lleiafswm o 30% o’r tir a’r môr erbyn 2030 a chreu Rhwydweithiau Adfer Natur. Rydym wedi recriwtio i ddwy swydd i gyflwyno elfennau morol y rhaglen ac mae Rheolwr Ailgyflwyno Afancod yn ei swydd hefyd bellach ac yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaethau Natur i fynd ar ôl ceisiadau am drwydded rhyddhau afancod gwyllt.

GYDA DIOLCH YCHWANEGOL I...

Cefnogodd Sefydliad Hinsawdd Ewrop a Sefydliad John Ellerman ein gwaith ym maes ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur, gan ein galluogi i helpu ffermwyr yn well i sicrhau adferiad byd natur drwy eu harferion rheoli tir. Hefyd cefnogodd Cronfa Elusennol Brenin Charles III ein gwaith i sicrhau bod mwy o dir o gwmpas y DU yn cael ei rheoli mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fyd natur a’n bod yn gallu archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer cyllid gwyrdd. Cefnogodd Sefydliad Worwin UK ein gwaith i warchod ac adfer mawndiroedd, sy’n gartref i fywyd gwyllt prin ac yn storio llawer iawn o garbon. Galluogodd Sefydliad Elusennol Gatsby ni i gynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr lefel T a chefnogodd Ymddiriedolaeth Elusennol Zephyr ein gwaith gyda phobl ifanc a datblygu ffyrdd iddynt ymwneud â’r Ymddiriedolaethau Natur.

CYLLIDWYR DIENW

Diolch i bob un o’n cyllidwyr eraill ni sy’n dymuno aros yn ddienw am eu cefnogaeth.

Mae eu haelioni a’u rhoddion yn ein helpu ni i adfer byd natur a gwarchod bywyd gwyllt ar raddfa fawr.

Mae gwaith ar y gweill i weld afancod yn cael eu hailgyflwyno i’r gwyllt diolch i gefnogaeth gan ein cyllidwyr hael ni

Mae ein cyllidwyr hael ni’n caniatáu i ni brynu tir, fel Fferm Pentwyn, i helpu adferiad byd natur

Prynu tir ar gyfer adferiad natur

Yn 2023, parhaodd yr Ymddiriedolaethau Natur i gaffael tir i’w adfer, ei warchod a’i ailwylltio, fel rhan o’n hymrwymiad i gyrraedd 30 erbyn 30: 30% o’r tir a’r môr yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n caniatáu i fyd natur adfer, erbyn y flwyddyn 2030.

Mae caffael tir yn her ddrud sy’n cymryd llawer o amser ac sy’n dibynnu’n rhannol ar haelioni ein prif roddwyr a’n benthycwyr dyngarol.

Mae benthycwyr dyngarol wedi galluogi’r Ymddiriedolaethau Natur i brynu tir pwysig sydd wedi dod ar gael yn gyflym heb fod angen codi arian yn gyntaf. Mae hyn yn sicrhau y gellir defnyddio’r tir ar gyfer prosiectau adfer natur yn hytrach na’i fod mewn perygl oherwydd prosiectau adeiladu a datblygu sy’n lleihau’r gofod ar gyfer bywyd gwyllt ymhellach.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Julia Davies (We Have the Power), arloeswr ym maes y math hwn o fenthyca dyngarol a’n holl fenthycwyr dyngarol sydd wedi galluogi i 2,235 o erwau, ar gost o fwy na £19 miliwn, gael eu diogelu ar gyfer byd natur.

Diolch yn fawr i’n holl gyllidwyr ni, ni fyddem yn gallu ei wneud heboch chi!

Ein partneriaid corfforaethol

Mae gan fusnesau ran bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn ffurfio partneriaethau cenedlaethol a lleol gyda busnesau sy’n cyd-fynd yn agos â’n gwerthoedd a’n cenhadaeth.

Mae gan ein partneriaethau hanfodion amrywiol: o hwyluso adfer tirweddau a chreu cynefinoedd i ddal a storio carbon, yn ogystal â chael effaith bellach ar ffurf cael cyflogeion, cwsmeriaid a chymunedau i ymgysylltu â byd natur.

Rydym yn cyfrannu gwerth strategol at ein partneriaid drwy ein harbenigedd ecolegol a’n cyrhaeddiad gyda chymunedau lleol, ac rydym yn helpu cwmnïau i gyflawni cydymffurfiaeth reoleiddiol, cyrraedd targedau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) a thrawsnewid cadwyni gwerth i fod yn gyfeillgar i fyd natur.

Mae rhai o’r busnesau rydym yn gweithio gyda nhw yn cynnwys:

Ceirch wedi’u tyfu ar fferm Jordans

PARTNERIAETH JORDANS FARM

Trawsnewid y gadwyn cyflenwi bwyd i fod yn gadarnhaol o ran byd natur

Mae Partneriaeth Jordans Farm yn bartneriaeth hirsefydlog rhwng Jordans, yr Ymddiriedolaethau Natur a Linking Environment and Farming (LEAF). Eleni, cefnogodd y bartneriaeth 34 o ffermwyr sy’n tyfu ceirch ar gyfer grawnfwydydd Jordans i ffermio mewn cytgord â byd natur.

Un o egwyddorion craidd y bartneriaeth yw bod ardal sy’n cyfateb i o leiaf 10% o’r tir a amaethir yn cael ei rheoli ar gyfer bywyd gwyllt, gan annog nodweddion fel gwrychoedd, ymylon caeau a phyllau, sy’n galluogi bywyd gwyllt i ffynnu a symud drwy’r dirwedd. O ganlyniad, mae’r bartneriaeth yn cael effaith gadarnhaol ar rywogaethau tir fferm fel tylluanod gwynion, ysgyfarnogod, ystlumod a phryfed peillio hanfodol fel gwenyn a glöynnod byw.

Gan fod tir fferm yn gorchuddio 70% o’r wlad, mae’r ffordd y caiff tir ei ffermio yn hanfodol bwysig i fyd natur y DU. Mae Partneriaeth Jordans Farm yn profi ei bod yn bosibl, drwy weithio gyda ffermwyr, tyfu bwyd a gwneud lle i fywyd gwyllt - does dim rhaid iddo fod yn un neu’r llall. Mae’r bartneriaeth hon yn gosod safon ar gyfer y diwydiant cyfan, ond yn hollbwysig, mae hefyd yn dangos cymaint y mae’r tyfwyr yn poeni am y rhywogaethau tir fferm sy’n byw ochr yn ochr â hwy – gyda’i gilydd mae ganddynt fwy na 4,700 o hectarau i gefnogi bywyd gwyllt ar eu ffermydd.

PRIFFYRDD CENEDLAETHOL

Adfer cynefinoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddatblygiadau hanesyddol

Dros bartneriaeth pum mlynedd, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn Lloegr wedi bod yn cynnal amrywiaeth eang o brosiectau fel rhan o Network for Nature, o wella tiroedd sialc isel i gefnogi glöynnod byw prin fel y Goegfritheg a gwarchod gwlybdiroedd a nentydd sialc prin ar gyfer llygod pengrwn y dŵr sydd mewn perygl. Mae rhai prosiectau’n defnyddio datrysiadau sy’n seiliedig ar natur, fel gwelyau cyrs a phyllau, i hidlo dŵr ffo o ffyrdd a’i atal rhag llygru afonydd neu warchodfeydd natur. Mae Network for Nature hefyd yn sefydlu coridorau bywyd gwyllt i ailgysylltu ardaloedd sydd wedi’u darnio gan ffyrdd, gan alluogi bywyd gwyllt, gan gynnwys pryfed peillio, i symud a gwasgaru ar draws y dirwedd.

Wedi’i gyllido’n wreiddiol gyda £6 miliwn ar draws 22 o brosiectau, mae prosiect Network for Nature wedi ehangu i gwmpasu pedwar cam o gyllid gwerth cyfanswm o £11.5 miliwn ar draws 51 o brosiectau a ddarparwyd gan 24 o Ymddiriedolaethau Natur. O blith y rhain, bydd 46 o brosiectau cyflawni yn gwella, yn adfer ac yn creu mwy na 2,300 o erwau (950 o hectarau) o goetiroedd, glaswelltiroedd, mawndiroedd a gwlybdiroedd ledled Lloegr. Bydd pum astudiaeth ddichonoldeb yn cael eu cynnal hefyd, yn dylunio prosiectau ar raddfa tirwedd sy’n canolbwyntio ar gynyddu bywyd gwyllt a chysylltedd. Rhwng 2022 a 2024, mae 1,204 o hectarau o gynefin wedi’u hadfer, 169 o hectarau wedi’u creu, a 13,733 o goed wedi’u plannu.

Adfer coedwigoedd glaw i gyflawni nodau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu uchelgeisiol

Mae’r bartneriaeth gyffrous hon rhwng Aviva a’r Ymddiriedolaethau Natur ar siwrnai uchelgeisiol i adfer ac ailgysylltu’r darnau o goedwig law dymherus sy’n weddill ar draws Ynysoedd Prydain, sydd bellach yn gorchuddio llai nag 1% o arwynebedd tir y DU. Gan fynd y tu hwnt i adfer cynefinoedd traddodiadol, mae’r rhaglen yn gweithio i sefydlu coetiroedd cwbl newydd ar draws safleoedd cymwys.

Mae rhodd Aviva o £38 miliwn yn galluogi’r Ymddiriedolaethau Natur i sicrhau tir a sefydlu coedwig law (gyda choed brodorol sy’n briodol i’r ardal), am byth. Mae’r safleoedd newydd hyn yn darparu ychwanegedd dilys ac yn cael eu hystyried yn fuddugoliaeth i gadwraeth, yn ogystal â bod yn hybiau pwysig ar gyfer cydweithredu. Bydd cymunedau lleol yn cael cynnig cyfleoedd niferus i gymryd rhan, gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Bydd y coetiroedd newydd hyn yn dal ac yn storio tua 800,000 o dunelli o garbon dros y 100 mlynedd nesaf a bydd yn helpu i arafu llif y dŵr mewn dalgylchoedd lleol, gan leihau perygl llifogydd a llygredd dŵr a chreu hafan i fywyd gwyllt a llefydd gwych i ymweld â nhw a byw yn agos atynt.

SEASALT CORNWALL

Adfer morwellt ar gyfer dyfodol gwydn

Mae Seasalt Cornwall yn cyfrannu £150,000 dros dair blynedd i adfer morwellt sy’n dal carbon ar hyd arfordir Cernyw, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Cernyw. Mae’r prosiect ‘Seeding Change Together’, a lansiwyd yn ystod Wythnos Genedlaethol y Môr, yn canolbwyntio ar adfer morwellt yn Aber Fal, cynefin hanfodol ar gyfer dal carbon glas arfordirol.

Gan ddefnyddio technoleg arloesol, bydd arbenigwyr morol yn profi dulliau adfer graddadwy i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae morwellt, sy’n gorchuddio dim ond 1% o wely’r môr ond yn cyfrif am 15% o ddalfa carbon y cefnfor, yn gronfa carbon hollbwysig, sy’n perfformio’n well na choedwigoedd glaw yn aml. Mae’r prosiect yn canolbwyntio i ddechrau ar ymchwil a datblygu, gan gynnwys arolygon safle a phrofi ansawdd dŵr. Bydd gwirfoddolwyr yn ddiweddarach yn casglu ac yn plannu miloedd o hadau morwellt, gan helpu i adfer yr ecosystem hanfodol hon.

AVIVA
© MIKE BIRDY, PEXELS.COM
BEN PORTER
Mae’r Priffyrdd Cenedlaethol yn gwella’r cynefinoedd ger ein ffyrdd
Mae rhodd Aviva yn helpu i adfer coedwigoedd glaw tymherus yn y DU
Mae morwellt yn storfa hanfodol o garbon glas

Meincnod Bioamrywiaeth

Mae gan bawb ran i’w chwarae mewn gwyrdroi’r argyfwng natur. Drwy reoli’r tir maent yn berchen arno mewn ffordd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, gall busnesau gymryd cam pwysig i helpu adferiad byd natur.

Ers 2007, mae Meincnod Bioamrywiaeth wedi bod yn helpu busnesau sy’n berchen ar dir i ddod yn rym cadarnhaol dros adferiad byd natur yn y DU. Mae’r cynllun ardystio unigryw hwn yn profi dyluniad a gweithrediad systemau rheoli busnes er mwyn gwella a gwarchod bioamrywiaeth yn barhaus ar eu daliadau tir.

Cafwyd ardystiad ar draws 48 o safleoedd yn cwmpasu

7,800 o hectarau o dir a reolir gan 14 o sefydliadau.

Mae’r sefydliadau hyn yn rhychwantu sectorau sy’n cynnwys parciau busnes, hamdden, trafnidiaeth, modurol, ynni ac agregau.

ASTUDIAETH ACHOS

Parc Chineham

Frasers Property UK – Dyfarnwyd Chwefror 2024

Cyflawnodd Parc Chineham, parc busnes 7.6 hectar sy’n cael ei reoli gan Frasers Property UK, Feincnod Bioamrywiaeth yr Ymddiriedolaethau Natur yn gynnar yn 2024, oedd yn benllanw dros ddwy flynedd o reolaeth bwrpasol ar y safle ar gyfer byd natur.

Mae gan y parc gynefinoedd amrywiol gan gynnwys glaswelltiroedd wedi’u gwella, coetiroedd, pyllau, dolydd blodau gwyllt a choed aeddfed. Mae’r safle hwn yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau, fel tegeirian y fadfall a thegeirian y wenynen, naw rhywogaeth o ystlumod, pathewod, nadroedd defaid a glöynnod byw a naw rhywogaeth o weision y neidr.

Mae Parc Chineham hefyd wedi meithrin partneriaethau gyda sefydliadau ecolegol lleol i wella’r bywyd gwyllt ymhellach, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Cacwn a’r Bartneriaeth Cadwraeth Madfallod Dŵr. Mae’r gwaith parhaus wedi sicrhau buddion amlwg i ecoleg y safle, gan gynnwys mwy o bresenoldeb bywyd gwyllt ac ymgysylltu â’r tenantiaid a’r perchnogion.

Mae Richard Hawkes, Rheolwr y Stad ym Mharc Chineham, yn adlewyrchu ar y cyflawniad: “Mae’r Meincnod Bioamrywiaeth wedi gwella ein gwerth ecolegol a’n harferion cynaliadwyedd ni’n sylweddol, gan feithrin ymgysylltu cymunedol a gwella lles y preswylwyr. Mae wir yn amlygu ein hymrwymiad ni i adferiad byd natur.”

Ein cyllid ar y cyd

I gael dadansoddiad o gyfrifon y 46 o Ymddiriedolaethau Natur unigol (top), a chyfrifon yr RSWT (gwaelod), edrychwch ar adroddiadau blynyddol y sefydliadau perthnasol, sydd ar gael ar eu gwefannau priodol.

Ymddiriedolaethau Natur Unigol

Elusen ganolog (Yr RSWT)

Dyma ddata 2023 gan 38 o’r Ymddiriedolaethau Natur, gyda’r wyth sy’n weddill yn defnyddio data 2022 gan nad oes data cyfredol wedi’u cyflenwi eto.

Mae ffigurau’r RSWT ar gyfer gwaith cenedlaethol a gwblhawyd ar ran ffederasiwn yr Ymddiriedolaethau Natur.

Ymddiriedolaethau Natur Unigol

Daw’r incwm elusennau canolog o ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, grantiau, rhoddion, loteri cymdeithas, cymynroddion a chorfforaethau.

Nid yw’r incwm ar gyfer 2022-23 yn cynnwys £5.1 miliwn ar gyfer Dyfarniad BIFFA.

Nid yw’r ffigurau’n cynnwys grantiau a chyfraniadau rhwng yr Ymddiriedolaethau.

Y gwarged am y flwyddyn yn yr RSWT yw £4.1 miliwn, sy’n cynnwys £0.4 miliwn o warged cyffredinol anghyfyngedig a £3.7 miliwn o arian grant cyfyngedig a dderbyniwyd, wedi’i gario ymlaen i gyfnodau cyfrifo dilynol.

Yn yr un modd, y gwarged ar gyfer gweddill y ffederasiwn yw £22.4 miliwn, y mae £27.2 miliwn ohono yn arian grant cyfyngedig a gariwyd ymlaen i gyllido prosiectau mae’r cyllid wedi’i fwriadu ar eu cyfer a’r diffyg am y flwyddyn ar gronfeydd anghyfyngedig yw £4.8 miliwn.

Elusen ganolog (Yr RSWT)

Morgrugyn

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn ffederasiwn sy’n cynnwys 46 o Ymddiriedolaethau Natur ac elusen ganolog (Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur). Mae pob un yn elusen annibynnol gyda chenhadaeth gyffredin.

Helpwch ni i gyflawni ein gweledigaeth o 30% o’r tir a’r môr i gael eu cysylltu a’u gwarchod ar gyfer adferiad byd natur erbyn 2030...

• Ymuno â ni fel aelod

• Cofio amdanom yn eich ewyllys

• Siarad dros fywyd gwyllt

• Gwirfoddoli eich amser

• Gweithio gyda ni

Cysylltu…

enquiries@wildlifetrusts.org instagram.com/thewildlifetrusts

wildlifetrusts.org

tiktok.com/@wildlifetrusts

linkedin.com/company/the-wildlife-trusts 01636 677711 x.com/wildlifetrusts

youtube.com/thewildlifetrusts

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn wildlifetrusts.org/support-us

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.